Dail y Dderwen/Llais y pellter
Gwedd
| ← Bore Saboth (i'r mwyafrif) | Dail y Dderwen gan William J Richards |
Y llinell wen → |
LLAIS Y PELLTER
Mae'n drech na phob gofalon,
Yn fwy na phob tristád,
A geilw ar fy nghalon
Yn ôl i'r hen fwynhad.
Fe ddaw o erddi'r gwinoedd
A llys y gân a'r swyn,
I'm cymell o'r drycinoedd
I'r diniweidrwydd mwyn.
Ar dro mynn fy niddanu,
Bryd arall fy nhristáu;
Ni ellir mo'n gwahanu
A'r pellter yn pellhau.
Mi wn ei fod yn treiddio
Drwy ddeigryn a thrwy wên,
I'm cadw rhag heneiddio
Er gorfod mynd yn hen.