Neidio i'r cynnwys

Dail y Dderwen/Mai

Oddi ar Wicidestun
Mawrth Dail y Dderwen

gan William J Richards

Gwynt yr Hydref

MAI

Ti sy'n melysu gyrfa
Dynolryw lesg erioed,
A dod a'r dail yn dyrfa
I frigau llwm y coed.

A cheinion byw y gwisgi
O'r newydd fryn a phant,
Y gog a'r wennol wisgi
A geir ymhlith dy blant.

A'th falm 'r wyt yn llareiddio
Ein blinion boenau ni,
Ond, Fai, 'r wyf yn heneiddio
Bob tro y deui dil


Nodiadau

[golygu]