Dail y Dderwen/Mawrth
Gwedd
| ← Yr hen ddreser | Dail y Dderwen gan William J Richards |
Mai → |
MAWRTH
Tyred, Fawrth, ar war y ddrycin,
Tyr'd a'th oerwynt, tyr'd a'th ôd,
Yn sŵn arfau llym dy fyddin
Cryn y gwan o'th weld yn dod.
Ti sy'n lladd yr hen a'r musgrell
Ac yn agor beddau lu,
Dod fel bwystfil i'w ystafell
A sŵn concwest yn dy ru.
Os oes brwydro yn dy hanes
Os yw'r stormydd iti'n blant,
Ti sy'n dod ag ysbryd cynnes
Gŵyl anfarwol Dewi Sant.