Neidio i'r cynnwys

Dail y Dderwen/Tridiau

Oddi ar Wicidestun
Y tro olaf Dail y Dderwen

gan William J Richards

Haf 1946

TRIDIAU

1— Ddoe
Awn i ysgol fach y pentre'
Yng nghwmpeini Gwen y Ddôl,
Wedi oriau blin y gwersi
Cawn drachefn ei chwmni'n ôl.

Haf a gaeaf, drwy bob tywydd,
Ni bu'r ffordd erioed yn faith;
Yr oedd cwmni Gwen yn ddigon
I ddileu blinderau'r daith.

Cronnai gofid mewn dwy galon
Am i'r siwrnai ddod i ben,
Plethwn dorch fach dlos o'r blodau
A'i rhoi ar ei llaw fach wen.

2— Heddiw
Mae'n braf cael dod adref weithian
A gweinio y cleddyf noeth,
Adref ar ôl blynyddoedd
Yn hinsawdd y gwledydd poeth.

Heddiw aeth dau at yr allor
Drwy ganol prydferthion Mai,
Ac addo mewn llw i'w gilydd
Y cariad heb iddo drai.


Breuddwydion blynyddoedd cynnar
'R ôl disgwyl a ddaeth i ben,
Canai yr adar gynghanedd
Y gwanwyn i mi a Gwen.

3—Yfory
Os oera'r gwaed mewn calonnau
Pan fyddo'r hwyr yn nesáu,
Fe bery y serch anniffodd
Yn eirias yng nghalon dau.

Cawn eilfyw y bore dedwydd
Er crymu o dan y groes,
Ac edrydd pennod ein gyrfa
Mor fyr, mor frau ydyw oes.

Daw terfyn y daith, a mentro
Dros ffiniau pob clais a chlwy',
I fyd heb na doe na heddiw
Na sôn am yfory mwy.


Nodiadau

[golygu]