Neidio i'r cynnwys

Dail y Dderwen/Y Cynhaeaf

Oddi ar Wicidestun
Y Dalar Dail y Dderwen

gan William J Richards

Dim llythyr

Y CYNHAEAF

Fe welir ar erwau'r blynyddoedd
Holl lafur y mawrion brwd,
A gelwir am i'r gwerinoedd
Ddod allan i fedi'r cnwd.

Aeth cariad a charedigrwydd
Fel blodau drud o dan draed,
A'r byd mewn pang o wallgofrwydd
Yn gorwedd mewn môr o waed.

Am arfau a gweithwyr clywir
Yr alwad yn uwch o hyd
I fedi ar bum cyfandir
Gynhaeaf drygioni'r byd.


Nodiadau

[golygu]