Dail y Dderwen/Y blacowt
Gwedd
| ← Chwiorydd | Dail y Dderwen gan William J Richards |
Haelioni → |
Y BLACOWT
(Ysgrifennwyd ar noson loergan)
Anghofiodd rhoddwyr deddfau
Ein byd cynhyrfus ni
Roi gorchudd dros y lleuad
Na cheisio 'i diffodd hi;
Ond, gwelais gysgod sanctaidd
Llaw y Deddf-roddwr Mawr
Yn tynnu'r cwmwl drosti
Mewn llai na munud awr.