Dail y Dderwen/Y llinell wen
Gwedd
| ← Llais y pellter | Dail y Dderwen gan William J Richards |
Y tusw grug → |
Y LLINELL WEN
Pan ddaeth y ddau i ben eu hynt,
Ni chawsant fawr o glod a bri,
Ond gwn mai eu cynghorion gynt
Yw llinell wen fy mywyd i.
Yng nghyfri'r byd fe gawsant hwy
Y fraint o fyw a marw yn dlawd,
A rhoi i'w plant oludoedd mwy
Na'r aur sy'n llenwi coffrau ffawd.
Pan flinwyf ar y rhiwiau serth,
Pan lethir fi gan lawer pla,
I'm henaid llesg daw mwy o nerth
O gofio iddynt fyw yn dda.
Nid oes i'm rhan, bererin gwael,
Ond crud a bedd yr einioes frau;
Ac ni chwenychaf namyn cael
A'r llinell wen gyfuno'r ddau.