Dail y Dderwen/Y wawr
Gwedd
| ← Sul y Blodau | Dail y Dderwen gan William J Richards |
Cawod → |
Y WAWR
Ar wely yr ysbyty
Gorweddwn innau'n gaeth,
Yn cyfrif maith funudau'r nos
A chwsg ar ryw bell draeth.
Pob ffenestr wedi'i selio
Ar bob rhyw ddiflas fur,
A'r gorchudd wedi'i roi yn glos
Rhag ofn yr adar dur.
Tynnwyd y llenni duon
Gan law garedig, wen,
A gwelais byrth y bore glân
Yn agor led y pen.