Dail y Dderwen/Y wisg
Gwedd
| ← Hydref | Dail y Dderwen gan William J Richards |
Ben Fawr → |
Y WISG
Os pridd ydyw'r wisg sydd amdanaf,
Os lluniwyd fy nefnydd o glai,
Os rhoddwyd im natur lygredig,
A phechu, ar bwy y mae'r bai?
Wyf debyg i gannwyll yn cynnau
Gan losgi i'r soced yn llwyr,
Neu ddiwrnod yn gwibio yn gyflym
A dyfod tawelwch yr hwyr.
Pan gerddwyf i fro y cysgodion
A'r twllwch yn dew ar bob llaw,
Fe orffen y gannwyll á llosgi
Cyn cyrraedd "y lan brydferth draw".
Diosgaf hen wisg y drycinoedd
Cyn mynd i'r llawenydd di-drai;
Ni charwn wynebu'r didymor
Ddyfodol mewn telpyn o glai.