Neidio i'r cynnwys

Dail y Dderwen/Yr hen eglwys

Oddi ar Wicidestun
Gaeaf Dail y Dderwen

gan William J Richards

Yr angladd

YR HEN EGLWYS

Bu gynt a'i phyrth yn gaeëdig
Rhag popeth ond saint y fro.
Ei hallor yn gysegredig
A'i phader mewn llawer co'.

'D oes bellach un gloch i'w chanu
Na chliced na chlo ar gael,
Daeth amser ar hynt i'w rhannu
A bu'n afradlon o hael.

Daw'r adar heb ofn i nythu
Yn hendre' y rhwysg a'r bri,
A'r lleuad a'r sêr i rythu
Drwy'i hendo rhidyllog hi.

Bodlonaf i'r storm derfysgu
A'i dryllio mewn gwallgof nwyd,
Ond caffed ei 'ffeiriad yn cysgu
Yng nghysgod ei thalcen llwyd.


Nodiadau

[golygu]