Dail y Dderwen (testun cyfansawdd)
| ← | Dail y Dderwen (testun cyfansawdd) gan William J Richards |
→ |
| I'w darllen cerdd wrth gerdd gweler Dail y Dderwen |

DAIL Y DDERWEN
TELYNEGION
GAN
W. J. RICHARDS
Argraffiad Cyntaf - Ionawr 1948
Argraffwyd gan Wasg Gee, Dinbych
CYFLWYNAIR
Nid wyf yn siŵr a yw'r teitl "Dail y Dderwen' yn disgrifio'n gymwys y casgliad hwn o delynegion y prydydd o'r Dderwen Las. Y mae'n wir bod y cerddi'n ysgeifn fel dail y deri a bod iddynt eu harddwch eu hunain, glesni'r Gwanwyn a melyndra'r Hydref, eithr nid ydynt mor unffurf, a gobeithio na bydd iddynt hoedl mor fer â dail y goeden a roes ei enw i'r pentref lle y trig y telynegydd.
Dichon na ellid yn deg alw W. J. Richards yn "fardd gwlad": teimlaf ei fod yn rhy ymwybodol o'i grefft i'w restru ymhlith y prydyddion cefn-gwlad. Nid ofna daro'r tant poblogaidd, a dieithr i'w ddawn yw mesurau caeth cerdd dafod. Ac eto, cân i ddigwyddiadau ei fro, ac i'w phobl, ond y mae apêl ei ganu at gylch ehangach nag ardal a bro. Hynny, mi dybiaf, yw un o'r cymhellion dros gyhoeddi'r detholiad hwn o'i delynegion.
Diau y caiff y gyfrol groeso llawen gan lu mawr o ddarllenwyr barddoniaeth Gymraeg, a byddai derbyniad felly yn galondid mawr i'r bardd ac i'w edmygwyr lluosog ledled Cymru.
- GWILYM R. JONES.
GAIR O DDIOLCH
Dymunaf o galon ddiolch i'r rhai a ganlyn:
Golygydd y" Western Mail" am ei ganiatâd caredig i gynnwys rhai darnau; T. E. Nicholas, Aberystwyth, am ei gyfarwyddiadau caredig; Nellie Williams, Caernarfon, am deipio'r cwbl yn barod i'r Wasg; Gwilym R. Jones a Gwasg Gee am wneud ei chyhoeddi'n bosibl.
- Rhagfyr 8, 1947.
- W. J. RICHARDS.
ATGOFION
Dim ond bwthyn bach hen-ffasiwn
Yn y dyffryn hardda' 'rioed,
Heb gelfyddyd saer na masiwn
I addurno'i fain a'i goed.
Ar yr aelwyd gynnes, gryno,
Brwydro'n galed ydoedd byw,
Ond 'r oedd priffordd oddi yno
Trwy bob storm at orsedd Duw.
Dim ond haf a'i lu hawddgaraf
Oedd ar dawel ffyrdd y wlad
Pan ddaeth elorgerbyd araf
At y drws i gyrchu 'nhad.
Dim ond gadael helynt heddiw,
A throi'n alltud ar fy hynt
Dros aur lwybrau y gorffennol
I'r anfarwol amser gynt.
Y CYMRY ALLTUD
(Defaid Hengwm Annedd yn Hyde Park)
Pan glywais y sôn am eich mudo
O heddwch yr eithin a'r grug,
Gofidiais o feddwl eich cludo
I ganol y rhodres a'r ffug.
'R ôl gadael eich bro anghyfannedd
Ni chewch nemor gysur na hun,
Cŵn Llundain a noetha eu dannedd,
A chwithau mor nerfus bob un.
Yn nherfysg di-aros y deiliaid
Yr ydych fel adar mewn rhwyd,
Yn gwrando am chwiban bugeiliaid
A dyri yr hedydd bach llwyd.
Na hidiwch y rhyfyg o'ch mudo
A'ch annos i'r tryblith di-drefn,
Daw'r awel o Gymru i'ch hudo
Dros lethrau Rhiw Feiniog drachefn.
HYDREF
Methais â dal yr Arlunydd
Yn tynnu'r brus dros y dail;
Gwelais y wyrth a gyflawnodd
Yn 'sblander y lliwiau di-ail.
Methais â gweld y gormeswr
A wnaeth y gelltydd mor llwm,
Ond gwelais wisgoedd y duwiau
Yn garpiau ar hyd y cwm.
Er chwilio'n ddyfal amdano
Ni welais ond ôl y cnaf,
A sŵn fel myrddiwn o leisiau
Yn wylo ar fedd yr haf
Y WISG
Os pridd ydyw'r wisg sydd amdanaf,
Os lluniwyd fy nefnydd o glai,
Os rhoddwyd im natur lygredig,
A phechu, ar bwy y mae'r bai?
Wyf debyg i gannwyll yn cynnau
Gan losgi i'r soced yn llwyr,
Neu ddiwrnod yn gwibio yn gyflym
A dyfod tawelwch yr hwyr.
Pan gerddwyf i fro y cysgodion
A'r twllwch yn dew ar bob llaw,
Fe orffen y gannwyll á llosgi
Cyn cyrraedd "y lan brydferth draw".
Diosgaf hen wisg y drycinoedd
Cyn mynd i'r llawenydd di-drai;
Ni charwn wynebu'r didymor
Ddyfodol mewn telpyn o glai.
BEN FAWR
Ar ei dŵr yn ninas Llundain,
Gwylia'r byd yn mynd i'w daith,
Torri'r misoedd a'r blynyddoedd
Yn eiliadau yw ei waith.
Brenin ydyw ar bob awrlais
A phob oriawr yn y tir,
Diystyra bob celwyddau
Wrth barhau i ddweud y gwir.
Os nad ydyw'r haul ac yntau
Yn cyd-symud mor gytún,
Teithiant bellach yn rhy araf
I osgoi camwri dyn.
Ac er bod yn Llundain boblog,
Enfyn ef a'i glochlais trwm
Air amserol drwy y radio
I fythynnod pella'r cwm.
Pob gwahaniaeth a symudir,
Ar oraclau rhoddir taw;
Troir dalennau brith ein hanes
Pan yw Ben yn taro naw.
Y DALAR
Daeth aradr waedlyd y trinoedd
A'r gŵys ddinistriol i'r pen,
O'i hôl mae llu trueiniaid y byd
A'u dolef yn rhwygo'r nen.
'R ôl banllef y fuddugoliaeth
Gwelwyd fod bwyd yn prinhau,
Nid hap yw medi'r cynhaeaf drud
Ar ôl blynyddoedd o hau.
Cyn gwthio y swch i'r ddaear
Drachefn ystyriwn yn ddwys
Mai gwell yw trengi ar y dalar lom
Na thorri cyn goched cwys.
Y CYNHAEAF
Fe welir ar erwau'r blynyddoedd
Holl lafur y mawrion brwd,
A gelwir am i'r gwerinoedd
Ddod allan i fedi'r cnwd.
Aeth cariad a charedigrwydd
Fel blodau drud o dan draed,
A'r byd mewn pang o wallgofrwydd
Yn gorwedd mewn môr o waed.
Am arfau a gweithwyr clywir
Yr alwad yn uwch o hyd
I fedi ar bum cyfandir
Gynhaeaf drygioni'r byd.
DIM LLYTHYR
Dim llythyr heddiw eto
Er disgwyl, disgwyl cyd
Oddi wrth ei hunig blentyn
Sydd ym mhellafoedd byd.
Rhoi tro i'r nobyn bychan,
Petruso fel mewn braw,
A'i droi i ffwrdd rhag clywed
Ystori'r Dwyrain draw.
Paham y rhoed i weddw
Yr oesol benyd tost
O fyw i dorri'i chalon
Wrth ddisgwyl am y post?
Y GAWOD
Ymbiliai'r hen weinidog
Â'i enaid yn dwysáu
Am inni gael y gawod
Sy'n puro a glanhau.
Fe soniodd am yr Ysbryd
Fel gwlith neu dyner law,
A sychder difaterwch
Yn cadw'r fendith draw.
Gofynnai'n daerach, daerach,
Ond gŵyr er maint ei siom
Fod Seion yn edwino
O eisiau'r gawod drom.
A'r noson yr offrymwyd
Ymbiliau yr hen sant
Disgynnodd tân yn Llundain
Ar wragedd ac ar blant.
TROI ADREF
Mor fyr, mor frau yw bywyd,
Mor agos crud a bedd,
Nid rhaid i ddyn ei dorri
Mor chwyrn â min y cledd.
Mor gymhleth drain a blodau,
Mor agos gwên a gwg,
Mor gymysg cas a chariad,
Mor debyg da a drwg.
Ar ôl y gwin a'r wermod
A rhan i'r pridd a'r clai,
A rhan i fynwes sanctaidd
Y Duw sy'n maddau bai.
I GANTOR Y PYLGAIN
Yn oriau mân y bore,
Ar frig y goeden werdd,
Arllwysai ei beroriaeth
A deffro'r dydd a'i gerdd.
Disgynnai'r glaw diarbed
Yn gyson ar y to;
O dan y dafnau'n tywallt
Ei foliant yr oedd o.
Er nad oedd haul yn gwenu
I lonni'r cantor cu,
Troi gofid byd yn ganu
A wnâi'r aderyn du.
SUL Y BLODAU
Aeth hwn yn ddydd galanas
Er pan roed Olwen Gwanas
O dan yr ywen werddlas
Ym mynwent Llan y Ddôl.
Nid oes a all fy rhwystro
I gerdded tuag yno
 swp o n'ad-fi'n-ango'
I'w gosod ar ei bedd.
Eneiniaf bob blodeuyn,
Mi wn, â llawer deigryn,
A'u gadael ar y llecyn
I wywo fel y fun.
Fe all nad wyf mor ffyddlon
Bob Sul yng nghapel Seion
Yn dilyn yr oedfaeon
A'r sych weddio maith.
Ond yno ar fy ngliniau
Nid oes ar Sul y Blodau
Oddi wrth ei bedd i minnau
Ond cam at orsedd Duw.
Y WAWR
Ar wely yr ysbyty
Gorweddwn innau'n gaeth,
Yn cyfrif maith funudau'r nos
A chwsg ar ryw bell draeth.
Pob ffenestr wedi'i selio
Ar bob rhyw ddiflas fur,
A'r gorchudd wedi'i roi yn glos
Rhag ofn yr adar dur.
Tynnwyd y llenni duon
Gan law garedig, wen,
A gwelais byrth y bore glân
Yn agor led y pen.
CAWOD
 mi yn eistedd neithiwr
Yng nghysgod clawdd yr ardd,
Daeth Mai i ddawnsio heibio
Mewn lifrai newydd, hardd.
Daeth croeswynt cryf o rywle,
Ac O! y stremp a wnaed—
'R oedd eira'r pren afalau
Yn gawod wrth fy nhraed!
BLODAU'R FYNWENT
Yn y llannerch honno
Lle mae pawb mewn hun
Cadwant hwy yn effro.
Rhywrai yn eu hiraeth
A roes wylwyr tlws
Ar gell oer marwolaeth.
Chwarddant oll yn dirion
Lle bu dagrau fyrdd;
Galwaf hwy 'n angylion.
Dawnsiant yn yr awel
Mewn unigrwydd maith
Yn yr hendre' dawel.
Soniant ar y gweryd
Am wneud angau'n borth
I amgenach bywyd.
"A HI ETO'N DYWYLL"
(Ioan xx, 1)
Pan ddaeth Mair at fedd ei Harglwydd
Cyn i'r wawr ddatgloi ei phyrth,
Nid y maen a fu ei thramgwydd
Ond y wyrth.
Er dileu ei holl bechodau
A'i rhoi eilwaith ar ei thraed,
Yn ei bron siomedig ofnau'r
Nos a gaed.
Nid y wawr a'i chlaer oleuni
A oleuodd wyll ei ffydd—
Hi a welodd wên Rabboni'r
Trydydd dydd.
CYMRU FYDD
Bydd ysbryd dewr Llywelyn
Ac Owain yn y tir,
Heb le i ormes gelyn
O fewn y deuddeg sir.
Daw chwedlau'r Mabinogion
I'r werin yn dref-tad,
Ac Arthur a'i farchogion
A ymdaith drwy y wlad.
Bydd pawb ar hyd y flwyddyn
A'r heniaith ar eu mant
Heb angen gwisgo cennin
I gofio Dewi Sant.
FFRWD Y MYNYDD
Gwn ei charu ers blynyddoedd
Yn unigrwydd y mynyddoedd,
Búm yn chwarae ar ei glan,
Yn ddibryder ar ei glan.
Dotiwn at ei dyfroedd grisial,
Hithau'n dawnsio ac yn sisial
Cyfrinachau'r mynydd pell,
Chwedlau y gorffennol pell.
Cofiaf hi yn llithro'n dawel
Rhwng y brwyn ym mraich yr awel,
Mor hamddenol ar y gro,
Yn osgeiddig ar y gro.
Carwn fynd dros bant a thyno
Yn fy henoed tuag yno,
A chael chwarae ar ei glan,
Yn ddibryder ar ei glan.
Y TRO OLAF
Aeth ef sawl canwaith yn ei oes
Dros drothwy 'i fwth yn stryd y cefn,
Drwy ddarn o ganrif chwaith ni throes
I ffwrdd heb ddod yn ôl drachefn.
Yr un hen siwt a wisgai ef
Yr haf a'r gaeaf, gŵyl a gwaith,
Nid oedd ffasiynau siopau'r dref
Yn denu dim o'i fryd ychwaith.
Heb foethau'r byd yn wael ei lun
Cyfrifwyd ef yn hurtyn bro,
Ond ca'dd wisg newydd fel pob un
I fynd o'r tŷ yr olaf tro.
TRIDIAU
1— Ddoe
Awn i ysgol fach y pentre'
Yng nghwmpeini Gwen y Ddôl,
Wedi oriau blin y gwersi
Cawn drachefn ei chwmni'n ôl.
Haf a gaeaf, drwy bob tywydd,
Ni bu'r ffordd erioed yn faith;
Yr oedd cwmni Gwen yn ddigon
I ddileu blinderau'r daith.
Cronnai gofid mewn dwy galon
Am i'r siwrnai ddod i ben,
Plethwn dorch fach dlos o'r blodau
A'i rhoi ar ei llaw fach wen.
2— Heddiw
Mae'n braf cael dod adref weithian
A gweinio y cleddyf noeth,
Adref ar ôl blynyddoedd
Yn hinsawdd y gwledydd poeth.
Heddiw aeth dau at yr allor
Drwy ganol prydferthion Mai,
Ac addo mewn llw i'w gilydd
Y cariad heb iddo drai.
Breuddwydion blynyddoedd cynnar
'R ôl disgwyl a ddaeth i ben,
Canai yr adar gynghanedd
Y gwanwyn i mi a Gwen.
3—Yfory
Os oera'r gwaed mewn calonnau
Pan fyddo'r hwyr yn nesáu,
Fe bery y serch anniffodd
Yn eirias yng nghalon dau.
Cawn eilfyw y bore dedwydd
Er crymu o dan y groes,
Ac edrydd pennod ein gyrfa
Mor fyr, mor frau ydyw oes.
Daw terfyn y daith, a mentro
Dros ffiniau pob clais a chlwy',
I fyd heb na doe na heddiw
Na sôn am yfory mwy.
HAF 1946
Ffarwel, haf, i ti a'th dywydd,
Ciliaist tua'r gorwel draw,
A thoreithiog gnwd y meysydd
Yn domennydd ar bob llaw,
Ffarwel haf.
Yr oedd adar ar dy lwybrau
A'u telori'n llond y wlad,
A phob llwyn yn drwm gan flodau
Pan gyrhaeddaist i'th ystad,
Stormus haf.
Diystyraist bob prydferthwch
A ddaeth iti yn ystor,
Daethost â chymylau trymion
I droi'r gwastadeddau'n fôr,
Greulon haf.
Pam y gwenaist wrth ffarwelio
Ar drueni gwair ac ŷd,
Fel pe'n chwarae mig a 'smalio
Uwch holl brinder bwyd y byd?
Ffarwel, ffarwel haf.
I HAF GWLYB
Haf di-ail am ei lawogydd,
Haf a'i wên yn llai na'i wg,
Hir y cofir ei lifogydd
A'i ddiobaith dywydd drwg:
Dyma haf y flwyddyn hon.
Os dôi heulwen i gynhesu
A rhoi gobaith yn lle siom,
Yr oedd cwmwl du yn nesu
Heb ymdroi, a chawod drom,
Fel pe na bai haf yn bod.
Cawsom wanwyn braf i'n denu
Drwy bob cwm yn ôl ei droed,
Gwnaeth i flodau'r maes rodresu,
A rhoes ddail ar noethni'r coed,
Cyn i'r haf eu madru hwy.
Pam y daeth i'r holl ddaioni
Gyda chilwg ar ei ael?
Pam y mynnodd afradloni
Perlau teg wythnosau hael?
Rhyfedd a di-dostur haf!
Ni bu Natur yn anghofus
Wrth fendigo cnydau bro,
Yntau'n trampio mor ddigofus
Drwy'r bendithion yn ei dro,
Gan eu damsang ar bob llaw.
Aeth afonydd dros eu glannau
Ac ysgubo'r gwair a'r ŷd;
Heddiw gwacach yw ydlannau
Er mor fawr yw angen byd;
Yntau'n ymdaith yn ei rwysg.
Ond er garwed ei ddrycinoedd
Drwy bob tegwch ar eu taith,
Methodd trachwant ei fyddinoedd
A'u difetha'n llwyr ychwaith:
Llawer bendith in a roed.
Wedi'r difrod mynnodd gefnu
Ar hyd llwybrau hafau'r byd,
Cyn i'r meysydd gael eu trefnu
A chyn cywain gwair ac ŷd.
;Haf afradlon ydoedd ef.
Y GAMFA
Ni welais addurn ar ei choed,
Cans carbwl oedd y llaw a'i gwnaeth,
Ond, cysegredig yw erioed
I mi yn hedd yr hengwm pell.
'R oedd breichiau cadarn tad a mam
I'm codi'n dyner drosti gynt,
Mae'r gwelltglas ar y llwybyr cam;
Bellach ni welaf ôl eu traed.
Aeth deugain gaeaf ar eu taith
A'u stormydd gerwin drosti'n lleng,
A deugain haf a adodd graith,
Pydredd ei henaint trwm a'i gwae.
Blynyddoedd blin a'i gwnaeth yn sarn
O! na chawn fynd i'r hengwm pell,
A chasglu pob disberod ddarn
Er mwyn dwy law yr hwn a'i gwnaeth.
AR Y GROESFFORDD
Dychwel fy nghalon wamal
Fel awel ar ei hynt
I'r oriau mwyn, diofal
Ar ben y groesffordd gynt;
A chwerthin iach y cwmni llon
Sydd imi'n falm y foment hon.
Ni flinem fyth ar drafod
Holl drocon trustan bro,
Pob un mor rhwydd ei dafod,
Pob un mor braff ei go';
Y nosau gynt oedd yn fwynhad
O dan y lloer yn hedd y wlad.
Mae'r cwmni wedi chwalu,
Nid oes a'i hadfer mwy,
Daw deigryn o ddyfalu
Eu hynt a'u helynt hwy;
Ni chyrchant mwyach tua'r lle—
Aeth rhai i'r aswy, rhai i'r dde.
HENAINT
Heneiddio mae'r byd
A'i wychder i gyd,
Nid oes dim nad yw'n newid ynddo;
Heneiddio'r wyt ti,
Heneiddio'r wyf i,
Heneiddio mor gyflym, heneiddio.
Heneiddio yw rhan
Y cryf fel y gwan,
Y dderwen a'r gorsen sigledig;
Y llew yn ei ffau
A'r trychfilyn brau,
Y crwydryn di-nawdd a'r pendefig.
Pwy a ddichon osgoi
Na rhagddo byth ffoi?
Mae hwn i bob cilfach yn treiddio;
Fe rydd ef ei law
Ar dy gorun pan ddaw;
Cei dithau heneiddio, heneiddio.
LLWYBRAU'R HEN ALLT FAWR
Wrth gofio llwybrau'r hen Allt Fawr
A Phompren Henri yn y pant,
Búm drosti ganwaith, af yn awr
Wrth gofio llwybrau'r hen Allt Fawr.
Dros borfa'r Hengwm, serth ei bron,
I lawr ar ras, a dringo'n ôl;
Caf eto'r hen ddiddanwch llon
Ar borfa'r Hengwm, serth ei bron.
Os gwag yw'r hen Gwm Byr ers tro,
Fe af drwy'r Henfaes yn ddi-oed,
Paradwys ydyw hedd y fro,
A'r hen Gwm Byr yn wag ers tro.
Pan gofiwyf lwybrau'r hen Allt Fawr
Na sibrwd air na'm dilyn gam,
Caf gwmni'r hen gwmpeini'n awr
Pan gofiwyf lwybrau'r hen Allt Fawr.
CEIRIOG
"Nant y mynydd groyw, loyw
Yn ymdroelli tua'r pant",
Tithau fardd yr Awen hoyw
Heb un pennill ar dy fant.
"Adar mân y mynydd uchel
Godant yn yr awyr iach",
Tithau wedi colli 'r hiraeth
Am gael bod fel" 'deryn bach".
"Grug y mynydd yn eu blodau,
Edrych arnynt hiraeth ddug",
Tithau wedi llwyr anghofio
Am yr awel iach a'r grug.
"Mab y mynydd ydwyf innau"
Yn fy hiraeth yn gwneud cân,
Am fod Cymru wedi colli
Bardd y" grug a'r adar mân".
Bydd dy delynegion melys
Fyth yn annwyl ar bob mant,
Hyd nes paid hen "Nant y mynydd"
Ag" ymdroelli tua'r pant".
YR HEN DDRESER
Brenhines ddi-rodres y gegin
Heb undyn yn gwybod ei hoed,
Ar ffasiwn yr oesoedd yn chwerthin
Heb newid ei diwyg erioed.
'D oes neb yn y cwmwd yn cofio
Ei dyfod yn newydd i'r fro,
A'i chefn ar y muri orffwyso
Y'i rhoddwyd gan rywun ryw dro.
Daeth amser a'i lengoedd di-bardwn
I ddarnio y dodrefn i gyd,
Yng nghanol ciddilod y ffasiwn
Mae'n aros yn gadarn o hyd.
Y dwylo a'i gweithiodd mor fedrus
Ers oesoedd sy'n llonydd a gwyw,
A hithau fel atgof hiraethus
Yn cadw'r hen amser yn fyw.
MAWRTH
Tyred, Fawrth, ar war y ddrycin,
Tyr'd a'th oerwynt, tyr'd a'th ôd,
Yn sŵn arfau llym dy fyddin
Cryn y gwan o'th weld yn dod.
Ti sy'n lladd yr hen a'r musgrell
Ac yn agor beddau lu,
Dod fel bwystfil i'w ystafell
A sŵn concwest yn dy ru.
Os oes brwydro yn dy hanes
Os yw'r stormydd iti'n blant,
Ti sy'n dod ag ysbryd cynnes
Gŵyl anfarwol Dewi Sant.
MAI
Ti sy'n melysu gyrfa
Dynolryw lesg erioed,
A dod a'r dail yn dyrfa
I frigau llwm y coed.
A cheinion byw y gwisgi
O'r newydd fryn a phant,
Y gog a'r wennol wisgi
A geir ymhlith dy blant.
A'th falm 'r wyt yn llareiddio
Ein blinion boenau ni,
Ond, Fai, 'r wyf yn heneiddio
Bob tro y deui dil
GWYNT YR HYDREF
Mewn rhwysg bu'n traws feddiannu'r cwm
(Un beiddgar yw erioed),
A chwythodd a'i anadliad trwm
Y dail oddi ar y coed.
Dirmygodd geinder gwanwyn drud,
Llurguniodd wisg yr haf,
O'i ôl 'r oedd y diffeithwch mud
A chwarddodd yntau 'n braf.
Ond, ai edifar ganddo ef
Ddinistrio popeth tlws?
Daeth â thor-calon yn ei lef
I grio at fy nrws.
Y DDEILEN OLAF
Fe hyrddiwyd ar gyfeiliorn hynt
Bob un o'th wiw gyfoedion gynt,
Arhosi di a'th drem yn wyw
Yn ofni marw, yn methu byw;
Tydi yn unig, ddeilen glaf,
A erys mwy o weddill haf.
Bu adar fyrdd yn arllwys cân
Yng nghysgod dy wyrddlesni glân,
Ond lle bu'r gerdd yn llenwi'r glyn
Ceir angau'n tramwy erbyn hyn;
A thithau'n crynu ddydd a nos
Rhag ofn y bwystfil, ddeilen dlos.
'R wyt beunydd beunos yn gwanhau,
A'th gwymp angheuol yn nesáu,
Er syrthio'n wan i'th olaf hedd
Heb neb i drefnu man dy fedd;
Daw Awdur hardd dy gynnar fri
I'th angladd llwm diflodau di.
GAEAF
Bum drist
O gael yr ardd heb flodau
A'r barrug creulon
Dros welyau rhos,
P'le'r aeth y llu cantorion
Pér eu nodau—
A ganai
Gyda'r wawr a chyda'r nos?
I'm bron
Daeth hiraeth am orffennol
Oedd ail i wanwyn
Llawn o swyn a gwên;
Heb wybod im disgynnodd
Arnaf farrug
Ac euthum
Bellach fel y blodau'n hen.
Fe ddaw
Dros erwau'r ddrycin fywyd
A chynnwrf dawnsio
Lond yr ardd a'r ddôl;
Amdanaf i, sy'n llegach
Blentyn adfyd,
'Does obaith
Y daw'r gwanwyn byth yn ôl.
YR HEN EGLWYS
Bu gynt a'i phyrth yn gaeëdig
Rhag popeth ond saint y fro.
Ei hallor yn gysegredig
A'i phader mewn llawer co'.
'D oes bellach un gloch i'w chanu
Na chliced na chlo ar gael,
Daeth amser ar hynt i'w rhannu
A bu'n afradlon o hael.
Daw'r adar heb ofn i nythu
Yn hendre' y rhwysg a'r bri,
A'r lleuad a'r sêr i rythu
Drwy'i hendo rhidyllog hi.
Bodlonaf i'r storm derfysgu
A'i dryllio mewn gwallgof nwyd,
Ond caffed ei 'ffeiriad yn cysgu
Yng nghysgod ei thalcen llwyd.
YR ANGLADD
Yn llesmair prudd-felys y canu
Am "fryniau Caersalem" a'u hedd
Diolchais i'r dorf am wahanu
A'm gadael fy hun wrth y bedd.
Arhosais mewn tristwch i wylo
A syllu ar blat y gist wen.
Daeth rhywun â rhaw yn ei ddwylo
A gwelais fod popeth ar ben.
Wynebais ar fyd o dreialon
A bywyd o siom di-fwynhad;
'R oedd pobman mor wag ond fy nghalon
A'r bedd lle dodesid fy nhad.
A chanu prudd-felys y dyrfa
Yn aros o hyd ar fy nghlyw
Diolchais fod" troeon yr yrfa"
Yn gorffen yng ngysgod yr yw.
BORE SABOTH
(I'r Lleiafrif)
Bore yr oedfa dawel,
Bore y dau neu dri,
Bore y ddwyfol awel,
Bore at Galfari.
Bore a'r Nef yn nesu,
Bore a'r byd yn ffoi,
Bore wrth draed yr Iesu,
Bore â Duw yn rhoi.
Bore y ddwys ochenaid,
Bore datgloi y pyrth,
Bore i achub enaid,
Bore i wneud y wyrth.
Bore aberth y tadau,
Bore ein rhyddid yw,
Bore yr ordinhadau,
Bore moliannu Duw.
BORE SABOTH
(I'r Mwyafrif)
Bore i hir orffwyso,
Bore i gysgu'n drwm,
Bore i wneud y cinio,
Bore i fyw yn llwm.
Bore i'w dreulio'n segur,
Bore i'w ddifa'n chwim,
Bore darllen y papur,
Bore heb gyfrif dim.
Bore cellwair a rhegi,
Bore i dynnu mwg,
Bore yn llawn o wegi,
Bore i wneud pob drwg.
Bore i'w ddiystyru,
Bore i'w wneud yn sarn,
Bore a gollodd Cymru,
Bore a ddaw i'r Farn.
LLAIS Y PELLTER
Mae'n drech na phob gofalon,
Yn fwy na phob tristád,
A geilw ar fy nghalon
Yn ôl i'r hen fwynhad.
Fe ddaw o erddi'r gwinoedd
A llys y gân a'r swyn,
I'm cymell o'r drycinoedd
I'r diniweidrwydd mwyn.
Ar dro mynn fy niddanu,
Bryd arall fy nhristáu;
Ni ellir mo'n gwahanu
A'r pellter yn pellhau.
Mi wn ei fod yn treiddio
Drwy ddeigryn a thrwy wên,
I'm cadw rhag heneiddio
Er gorfod mynd yn hen.
Y LLINELL WEN
Pan ddaeth y ddau i ben eu hynt,
Ni chawsant fawr o glod a bri,
Ond gwn mai eu cynghorion gynt
Yw llinell wen fy mywyd i.
Yng nghyfri'r byd fe gawsant hwy
Y fraint o fyw a marw yn dlawd,
A rhoi i'w plant oludoedd mwy
Na'r aur sy'n llenwi coffrau ffawd.
Pan flinwyf ar y rhiwiau serth,
Pan lethir fi gan lawer pla,
I'm henaid llesg daw mwy o nerth
O gofio iddynt fyw yn dda.
Nid oes i'm rhan, bererin gwael,
Ond crud a bedd yr einioes frau;
Ac ni chwenychaf namyn cael
A'r llinell wen gyfuno'r ddau.
Y TUSW GRUG
Etifedd haul ac awel
Heb neb i'th droi d'th drin,
Mor brydferth ac mor dawel,
Mor ufudd ym mhob hin.
Gwreiddiaist yn ddwfn i'r creigiau
Mewn llawer gaeaf du,
A'r Stormydd megis dreigiau
Yn bwgwth ar bob tu.
Plygaist i rwysg gaeafau
Yn deilwng o'th wrol ách,
A dawnsio i swynion hafau
A chân yr hedydd bach.
Gwrthodaist bob eiddigedd
At foethus flodau'r ardd,
Dewisaist yr unigedd
A nawdd dy Grëwr hardd.
MYNWENT Y LLAN
Yno cludir llwm weddillion
Pob cenhedlaeth yn ei thro,
Argel unig, ddi-freuddwydion
Rhywrai annwyl yw ei gro.
Yno mae pob un yn gydradd,
Heb un angen, heb un moeth,
Nid oes yno iach nac afiach,
Un dyn ffol nac un dyn doeth.
Derfydd yno bob gwahaniaeth
A arddelir gennym ni,
Ni wna Angau unrhyw ffafor
Ag un o'i thenantiaid hi.
Fe ddaw hen ac ifanc yno,
Dyma gartre'r cryf a'r gwan;
'D oes gan ofid na llawenydd
Hawl ar ddyn ym mhridd y Llan.
SIAN RICHARDS
(Er Cof)
Hebryngwyd Siân yn dirion
I'r fynwent oer, ddi-wên
Gan dyrfa o'i chyfeillion
'R ôl iddi fynd yn hen:
Mor drist yw gweled yr hen do
Yn mynd yn brinnach yn y fro.
Dôi yn ei'sgidiau cryfion,
Pan oeddym gynt yn blant,
Bob bore i ddatod cloeon
Hen ysgol Blaen y Pant.
Hen wreigan wledig, dlawd ei byd,
Ac eto'n ffrind i'r plant i gyd.
Fe wisgai mor hen-ffasiwn,
Ond, cryno iawn a glân,
Fel nad oedd dim temtasiwn
Yn null yr oes i Siân;
Daw pang o hiraeth arnom ni
Wrth gofio'i chlôg a'i boned hi.
Ymladdodd frwydrau caled,
Ond mynnodd gadw'i pharch,
A braint i'r plant oedd cerdded
Yn drist ar ôl ei harch.
Mae rhai fel hi, mewn oes mor ffol,
Yn werth galaru ar eu hôl.
DYNION O BWYS
1—Dyn yr Yswiriant
Mae hwn yn galw'n gyson
Bob wythnos yn ei gwrs,
Sylweddau mawr ei fywyd
Yw'r llyfrau count a'r pwrs;
Fe gynnig bob bendithion
Fel Iddew yn y ffair;
Ei ddawn a rydd i'ch denu
I mewn am chwech neu dair.
2—Swyddog Cyflogedig yr A.R.P.[1]
Dyn arall llawn pwysigrwydd
Sydd yn ein tref fach ni
Yw'r swyddog cyflogedig
O dan yr A.R.P.;
Os yw'n rhy gydwybodol
I gario'r cledd a'r gwn,
Mae mân gwerylon gwledydd
Yn talu'n dda i hwn.
3—Gohebydd y Papur Newydd
Efô yw y pwysicaf
O bawb o dan y nef,
Chwilotwr yw i hanes
A helynt llan a thref.
Mae'n cerdded fel pendefig
(Hawdd 'nabod hwn o draw)
Ei bapur dan ei gesail
A'i nodlyfr yn ei law.
CHWIORYDD
1—Carreg Aelwyd
Bu'r plant yn dyrfa brysur
Ar hon yn cael eu gwledd,
A'r henwr gwan, di-gysur
Yn gwyro tua'r bedd;
Bu arni ddawns a chanu,
Bu arni gario croes,
Er gwaethaf pob gwahanu
Mynn gydio oes wrth oes.
2— Carreg Filltir
Saif hon ar fin yr hcol
Yn unig a diglod,
Yn gwylio'r byd di-reol
Heb ball yn mynd a dod;
Acth bellach i ogwyddo
Dan fflangell glaw a gwynt,
Ond deil i gyfarwyddo
Fforddolion ar eu hynt.
3—Carreg Fedd
Bu'r crefftwr yn morthwylio
Pob gair i'w mynwes oer,
Ei swydd mewn hedd yw gwylio
Yng ngolau haul a lloer.
Os caled a fu'r brwydro,
A methu lawer pryd,
Mae'n dweud am orffen crwydro,
Mae'n sôn am decach byd.
Y BLACOWT
(Ysgrifennwyd ar noson loergan)
Anghofiodd rhoddwyr deddfau
Ein byd cynhyrfus ni
Roi gorchudd dros y lleuad
Na cheisio 'i diffodd hi;
Ond, gwelais gysgod sanctaidd
Llaw y Deddf-roddwr Mawr
Yn tynnu'r cwmwl drosti
Mewn llai na munud awr.
HAELIONI
Mae'r Tad sydd yn y nefoedd
A'i gyfoeth fyth yn hael,
Er gwario ei oludoedd
Ar bethau digon gwael;
Rhydd aur ar dwyn eithinog
Ac arian ar y drain,
Rhydd got o fwr i'r llwynog,
O sidan du i'r brain.
UNIGRWYDD
Hedfanodd wrtho 'i hun yn unig, druan,
Trwy yr changder i'r pellterau draw,
Ac a'i fedrusrwydd llywiai 'i beiriant buan
I wneud yn union fel y mynnai'i law;
Fe groesodd dros fynyddoedd ucha'r cread
Uwchlaw pob cwmwl, wrth oleuni'r lloer,
Cafodd fodlonrwydd diwall i'w ddyhead
Heb ofni hinsawdd y pegynau oer.
Torrodd ei briffordd drwy yr annherfynol
O gyrraedd daear a'i thrybestod blin,
Heibio i holl amgyffred meddwl dynol
Mentrodd ar antur dros y pellaf ffin.
Aeth dae'r a sêr ymhell, bach oedd y rhod
I'r llychyn unig ar derfynau bod.
HIRNOS GAEAF
Ers llawer dydd yn hen fythynnod Cymru,
Yr oedd i'r hirnos araf ei boddhad,
A'r werin onest, cewri'r uwd a'r llymru,
A gaffai dreulio'r oriau mewn mwynhad;
Mor ddiwyd oeddynt hwy yn eu darbodaeth
Yn gweithio'n brysur ac yn nyddu'r cnu,
Neu ynteu'n darllen neu yn hel gwybodaeth,
A mawn y rhos yn goch ar aelwyd gu.
Mor llwm en byd, rhaid bod yn ddyfal-gynnil
A chyfrif y ceiniogau lawer gwaith,
Gweithient ymlaen i'r nos yn sŵn y pendil
Am angenrheidiau byw—heb foethau chwaith.
Daeth tro ar fyd, mae'r plant yn mentro 'u siawns,
Rhy fer yw'r hwyaf nos i'r ffilm a'r ddawns.
CILFACH A GLAN
Aneirif lu'r ystorm yn cynddeiriogi
Fel cad ddibetrus yn erchylltra'r drin,
Pob gallu beiddgar wedi llwyr arfogi
I ruthro allan i'r anhydrin hin.
Cymylau chwyrn yn glawio wrth fynd heibio
A'r corwynt yn eu gyrru dros y wlad
Fel nad oedd hafn yn unman heb ei reibio
Pan gerddodd gwawr osgeiddig i'w hystad.
Mewn bwthyn tlawd 'r ôl llafur oes a'i heldrin
'R oedd enaid mawr yn dod a'r gŵys i'r pen,
Heb wybod am wallgofrwydd nos a'i drycin,
Nac am y rhuthro gwyllt ar lwybrau'r nen,
Aeth tua'r wlad lle taria hirddydd braf
A'r gaeaf yn ei hebrwng ef i'w haf.

Nodiadau
[golygu]Bu'r awdur farw cyn 1 Ionawr, 1955, ac mae y llyfr felly yn y parth cyhoeddus mewn gwledydd sydd â thymor hawlfraint bywyd yr awdur ynghyd â 70 o flynyddoedd neu lai.