Neidio i'r cynnwys

Dal y Lleidr (drama)

Oddi ar Wicidestun
Dal y Lleidr (drama)

gan Joseph Jenkins

DAL Y LLEIDR:


DRAMA UN ACT
I BLANT.


GAN
Y Parch, JOSEPH JENKINS.




LERPWL:
YNG NGWASG "Y BRYTHON",
HUGH EVANS A'I FEIBION, 356-358 STANLEY ROAD.
1925.

Rhaid cael caniatad i chware'r Ddrama hon.
Anfoner at y Cyhoeddwyr am delerau.

Cymeriadau:

JAC, Plant yr Ysgol.
TOM,
WIL,
DAI
PEG,
LIS,

Lle: Yn yr Ysgol.


Amser: Yr Awr Ginio.


DAL Y LLEIDR.

(Cyfyd y llen ar ystafell ysgwâr un o'r classrooms yn Ysgol y Cyngor. Ar y chwith mae drws o'r maes chware, ac ar y dde ddrws yn arwain o'r neuadd. Ym mur y cefn y mae lle tân, a dwy fainc wedi eu gosod o bobtu iddo. Y mae hefyd ar y chwith amryw ddesciau. Addurnir y muriau gyda darluniau a mapiau. Yn eistedd o bobtu'r tân mae Jac a Tom yn ciniawa. Daw Wil i mewn trwy'r drws ar y dde).

WIL.—Fynnwch chi fygyn, bois? Ma' gen i ddigon o ffags heddyw.

TOM.—Ble ceist ti nhw, Wil?

WIL.—Yn y siop, debig iawn, wyt ti'n meddwl eu bod yn tyfu arna' i, neu fy mod i wedi eu dwyn?

JAC.—Rwy' i'n methu deall ble 'rwyt ti yn cael arian i brynu pethe fel hyn o hyd, Wil.

WIL.—Ma' ffordd ar neud arian, bois bach, ac i'w gneud nhw ma'n rhaid i chi gael breins. Wnewch chi ddim ohoni heb freins.

JAC.—Paid â sôn am freins, da ti; does dim breins cath gyda ti, ne' pam na wnei di iwsio tipyn ohono yn yr ysgol. Fe wyddost fod mistir yn dweyd yn amal nad oes dim yn dy ben di, ac mai torri cerrig ar y ffordd y byddi di yn y diwedd.

WIL.—Fe sydd yn dweyd hynny, a 'dyw my lord ddim yn Hollwybodol. Peth arall, nid breins sydd eisie i gyd yn yr ysgol, ond co', co' da, a phe bae gen i cyn lleied o freins ag sy gen i o gof mi fydda ar ben arna i yn y byd hwn. Fedra i ddim cofio dêts hen frenhinoedd a rhyfeloedd, a phryd 'nillodd Napolion y Waterlŵ.

TOM.—Ha! Ha! dyna hi eto, nid Napolion 'nillodd Waterlŵ.

WIL.—Pwy 'te? Ti, debig gen i! Fedri di ddim ynnill gêm o farblis heb sôn am Waterlŵ. Dweyd 'rwy i na fedra i ddim cofio dêts a phethe felly, ond rhowch imi gwestiwn a thipyn o eisie meddwl uwch ei ben, mi wna i o'r gore. Dyna pam ma' gen i bres bob amser. Cwestiwn o freins yw gneud arian, ac mi rwy' i wedi etifeddu y dalent yma oddi— wrth y nhad. Dyna chi'n meddwl am— dano fe, fe fu'n gweithio am flynydd— oedd, ond yn ddiweddar fe agorodd siop barber braf, ac mae yn gneud bis— nes iawn.

TOM.—Fe fydd wedi ei chau yn fuan os na fydd e'n ofalus. 'Roedd nhad yng Nghaernarfon y diwrnod o'r blaen, ac fe aeth i gael crop yno, a dyma'r barber yn gofyn iddo pwy oedd wedi torri ei wallt ddwaetha ? Y barber sydd gyda ni acw," ebe nhad. Wel," medde'r barber, "ma'ch pen chi'n edrych fel pe bae'r fuwch wedi bod yn 'i bori e."

WIL.—Mi liciwn i glywed y gwalch yn dweyd hynny am 'y nhad. Mi porwn i e'. Roedd 'na drafaeliwr yn ein siop ni y nos o'r blaen yn cael shêf, ac fe ddywedodd wrth madel na fuodd dim shwd 'raser ar i groen e' erioed o'r bla'n.

JAC.—Mae'n dibynnu yn union beth oedd y trafaeliwr yn i feddwl!

WIL.—Wel, mi wela na wnewch chi ddim joinio am smôc, felly 'rwy am fynd fy hunan, oblegid wiw imi danio yma ne' fe fydd yn storm pan ddaw my lord i mewn.

(WIL yn mynd allan trwy'r drws ar y dde).

TOM.—Dwed ti a fynnot ti, bachgen od yw Wil.

JAC.—Ie, a ma rhywbeth yn yr hyn ma fe yn i ddweyd am y co' a breins hefyd. Ond wedyn, nid trwy iwsio'i freins ma fe yn gwneud yr arian 'ma, a ma' gen i ofan y daw e' i drwbwl.

TOM.—Mi fyse hynny yn drueni mawr. Oes dim modd inni daro ar gynllun i gael allan o ble ma fe'n cael yr arian, ac yna falle y gallen ni neud rhywbeth ohono. Dyma rywrai yn dod. (Swn y tuallan i'r drws). Paid â sôn dim am y peth wrth neb, ne fydd dim diwedd ar y stori.

(Daw LIS Pantglas a PEG Pendre i mewn trwy'r drws ar y dde, gan eistedd ar y fainc gyferbyn a'r bechgyn).

LIS.—Fuodd lleidyr yn y'ch tŷ chi neithiwr, bois?

JAC.—Lleidyr! Oes arian ar goll? Rhyfedd fel ma' lladron yn gwybod lle ma' arian. Dim perig iddi nhw ddod i'n tŷ ni.

LIS.—Na, nid arian sydd wedi 'u colli.

TOM.—Beth 'te? Oes un o'r ceffyle wedi mynd?

LIS.—Nac oes, ond ma nythod o wye wedi mynd.

JAC.—Ffiw! wye! Llygoden ffrengig, ne' ryw gi, ma'n debig. In fact ma acw ecspert o gi ar y job, ond ma fe yn cael ei gadw i mewn yn y nos.

LIS.—Na, mae gen 'i ofan ma ci dau droed fu acw. Yr oedd mam wedi rhoi dwsin o wye tan un o'r ieir ddoe, ac erbyn y bore 'roedd yr wye wedi mynd bob un, a nid dyma y tro cynta inni gael colled fel 'ma.

PEG.—Yr ŷm ninne wedi colli wye acw fwy nag unwaith, a 'roedd mam yn meddwl mai cŵn oedd yn mynd â nhw. Ond wedi clywed stori Lis yr wyf yn dechre ame, ac oes dim llawer er pan oedd Mari Brynbach yn dweyd wrth mam ei bod hi wedi colli nythed o wye, a'r iâr wedi eistedd arnynt am dros byth— efnos.

TOM.—Wel, fe gafodd rhyw pŵr ffelo ffowlin i'w frecwast bob dydd tra parodd rheini. PEG.—Ond nid y lleidyr ddyliwn, oblegid y peth tebycaf yw mai eu gwerthu y ma fe. Ond mi ddaw i'r trap.

JAC.—Lle 'roedd eich iâr chi yn eistedd, Lis?

LIS.—Mewn bocs yn y sied wair a'r drws wedi ei gau, fel na alle yr un ci fynd i mewn, a ma nhad yn dweyd ei fod wedi gweld ol traed rhyw hogyn y tu allan i'r drws.

PEG.— Wel watsiwch chi'r nythod, bois bach, rhag ofn y daw y lleidyr heibio i chithe.

JAC.—Wel, os daw e' i'n tŷ ni, pils plwm ac nid wye gaiff e' os digwydd i nhad ei weld, oblegid ma fe yn saethwr heb ei ail. Fydd 'na ddim brân byth yn meddwl am ddisgyn o fewn milltir i'n tŷ ni.

LIS.—Wel, ma'n well gen i gwmni brain na lladron. Tyrd am dro bach, Peg.

(Y ddwy yn myned allan trwy'r drws ar y dde).

TOM.—Pwy yw yr eg myrtsiant newydd 'ma, tybed?

JAC.—Ma'n anodd dweyd, achan, ond mae yn sicr o fod yn pëing job, oblegid ma'r wye yn ddwy geiniog yr un. Diain i, hidiwn i ddim agor bisnes fy hun, oblegid ma hi yn broffit i gyd. Pe bawn i ddim ond cael dwsin bob nos dyna iti ddau swllt o broffit.

TOM.—Wyddost ti be, Jac, ma fe wedi taro i meddwl i 'rwan, tybed ai felly ma Wil Dolwen yn gwneud i arian. 'Roedd e'n dweyd bod eisie breins i wneud arian, a falle fod y syniad o ladrata wye wedi taro i'w ben.

JAC.—Diain i, falle dy fod ti'n iawn, oblegid ma' Wil yn gyfrwys. Dyma Dai Llwyn-y-gog yn dwad.

(Daw DAI i mewn trwy'r drws ar y dde gan fwyta afal braf).

DAI.—Fynnwch chi feit bob un, bois?

(Yn estyn yr afal i JAC).

TOM.—Lle ceist ti'r afal braf 'na, Dai?

DAI.—Gan y miliwnêr, debig iawn. Ma gydag e' eni amownt o bres heddyw eto.

JAC.—Ma fe yn cael mwy o arian i wario mewn dwrnod nag wy' i yn gael mewn blwyddyn.

TOM.—Lle wyt ti'n meddwl ma' fe yn i câl nhw, Dai? Dyw i dad byth yn i rhoi nhw iddo fe, a dyw e' ddim yn cael tips, oblegid oes dim tips i gael mewn siop barber.

DAI.—Wn i ddim wir, bois bach. Ma fe yn 'u hennill nhw, medde fe.

JAC.—'Roedd e'n dweyd wrth Tom a finne gynne mai iwsio'i freins oedd e'.

DAI.—Wel, ma'n rhaid nad oes dim breins yn ein teulu ni 'te, ne does neb ohonom yn gwybod y ffordd i'w iwsio, oblegid does neb acw wedi gwneud arian nac yn debig o neud chwaith. Ond ma'n rhaid dweyd hyn am Wil, os oes gydag e' freins i neud arian ma' gyda fe galon i'w gwario nhw hefyd.

TOM.—Lle gwelist ti fe heddyw?

DAI.—Ma' fe lawr ar lan yr afon yn ei mygu hi'n braf. Fe ddaw yn ei ol yn fuan.

JAC.—Odi dy fam ddim wedi colli wye yn ddiweddar, Dai?

DAI.—Colli wye! Pam, wyt ti wedi ffindio rhai ar y ffordd.

JAC.—Taw, y ffwl, glywaist ti sôn am rywun yn cael wye ar y ffordd erioed?

DAI. Wel naddo, ond dy glywed ti yn gofyn cwestiwn mor ddwl ynghanol siarad arall. Pa gysylltiad sy' rhwng Wil Dolwen yn gneud arian a mam yn colli wye

JAC.—Ateb di 'y nghwestiwn i i ddechre, a mi ddown i at y point yna wedyn.

DAI.—Wel, ma'n hawdd ateb dy gwestiwn, oblegid does acw ddim ffowls ers mis—oedd. Tair iâr a cheiliog oedd gan mam, ac fe gafodd y tair iâr y clefyd, a chyn pen yr wythnos 'roedd y tair wedi mynd, ac i roi terfyn ar hiraeth ceiliog fe lladdodd mam e'.

TOM.—'Roedd hi yn rhedeg risc garw, a'r clefyd yn beth mor getshin." Beth pe bae chi fel teulu yn cael y clefyd?

DAI.—O, 'roedd mam yn gwybod beth oedd hi'n neud. Wedi lladd a phluo'r ceiliog, fe'i gwerthodd e' i'r sgweier.

JAC.—Diain hi, go dda 'rhen wraig. Dyna beth yw iwsio breins eto. Gwerthu ceiliog â'r clefyd arno i sgweier y plwy'. Lwc am fywyd y pŵr dab a'i deulu.

DAI.—Pwy sy'n dweyd fod clefyd ar y ceiliog? (Yn fygythiol). Watshia di dy hun, was.

JAC.—Wel, beth sydd yn fwy naturiol? Dyna'r tair iâr wedi marw o'r clefyd, fe fydde'n beth od iawn i geiliog oedd yn byw gyda nhw ei osgoi. Pan ddaeth y clefyd coch i'n tŷ ni fe'i cafodd pawb e'—nhad a chwbwl.

TOM.—'Rych off y point eto, lads.

DAI.—Point? Wela i ddim point gan Jac o'r dechre.

JAC.—Wel, mi adawn ni stori'r ceiliog fan 'na.

DAI.—Ie, dyna sydd ore iti hefyd, 'ngwas i.

JAC.—Y cwestiwn tan sylw yw, sut mae Wil yn cael yr holl arian yma, a ma' Tom a finna wedi cael hint heddyw fod pobol y lle ma yn colli wye o'r nythod; dyna ti neithiwr, fe aeth rhywun â dwsin o wye o sied wair Pantglas. Dyma pam y gofynnes i iti os oedd dy fam wedi colli wye yn ddiweddar. A ma'r syniad wedi taro Tom a finne, tybed fod gan Wil rywbeth i wneud â'r wye, ac mai dyna sut ma fe yn gwneud ei arian.

DAI.—Liciwn i ddim bod yn dy sgidie di pan fyddi di'n dweyd hynna wrth Wil, Jac bach. Fe wyddost mor barod yw e' gyda'i ddyrne.

TOM.—Oes yr un ohonom yn meddwl sôn am y peth. Ond bod y syniad wedi dod i'n meddwl mai felly ma hi.

JAC.—Ond ma'n biti mawr os yw e'n mynd ymlaen ar y lein yna, oblegid neiff e' ddim ond ei arwain i bethe gwaeth, ac os oes modd, mi ddylem ni, fel bois, ei helpu i ddod allan o'r drwg. Yr ŷm yn cael ein dysgu yn yr ysgol a'r Band of Hope i helpu ein gilydd.

DAI.—O, ma'n iawn inni neud hynny, os y medrwn i heb roi ein troed ynddi.

TOM.—Sut mae cael allan lle ma' fe yn cael yr arian yw'r cwestiwn mawr.

(Dyma WIL yn dyfod ar y gair).

JAC (yn ddistaw).—Ma' gen i gynllun, bois, ond i chwi beidio â rhoi'r show off. (Daw Wil i mewn trwy'r drws ar y dde). Glywaist ti y latest news, Wil?

WIL.—Naddo, be sydd wedi digwydd? Odi diwedd y byd yn dod ?

JAC.—O, nag yw, ond mae diwedd peth ohono wedi dod neithiwr.

WIL.—O, be sydd wedi digwydd? JAC.—Chlywaist ti ddim ar dy wir?

WIL.—Ar y 'ngwir, beth sy' 'te?

JAC.—Cellwer wyt ti, rwyt ti wedi clywed fel minne.

WIL.—O, wel, os dyna ydyw 'y 'ngwir i iti, cadw y niws i ti dy hun.

JAC.—Glywaist ti fod sied wair Pantglas wedi llosgi i'r llawr neithiwr?

WIL (a'i wyneb fel y galchen).—Sied W-a-i-r P-a-n-t-g-l-a-s wedi llosgi?

JAC.—Felly 'roedd Lis yn dweyd wrth Tom a finne gynne, a fu am y dim i'r tŷ fynd ar dân gan ei bod yn chwythu i'r cyfeiriad.

DAI.—Sut y digwyddodd hi, tybed?

JAC.—'Roeddwn i yn meddwl mai tramp oedd wedi bod yn cysgu yno, ac wedi tanio matsen i gael mygyn.

TOM (yn edrych ar Wil).—Beth sydd, Wil, 'rwyt ti'n edrych fel corff?

WIL (yn grynedig).—Dim, ond mod i wedi smocio braidd ar y mwya, mi fydda'n ol reit mewn munud.

(Yn eistedd).

JAC.—Ond nid tramp fu yno, oblegid 'roedd Lis yn dweyd fod ei thad wedi gweld ol traed hogyn tu allan i ddrws y sied, ac ma'r polis wedi bod yno yn eu mesur ac yn cyfrif yr hoelion oedd yn yr esgid iau, a ma' fe yn dod o gwmpas rywbryd heddyw i chwilio am berchen yr esgidiau rheini.

(WIL yn rhoi ei ben rhwng ei ddwylo ac yn dechreu crio).

TOM.—Dyna be' sydd o'r smocio 'ma. Ga' i fynd i nol llymad o ddŵr iti.

(Yn myned allan).

JAC.—Paid â chrio, fachgen. Wyt mewn poen garw.

(Daw TOM i mewn gyda glasiad o ddŵr).

TOM.—Yf hwn, fe ddoi yn well mewn munud.

WIL (heb gymryd sylw o'r dŵr).—O! be na i? Be na i?

DAI.—Gorwedd ar y fainc am dipyn i dy stymog di gael setlo. Ga i nol y mistir neu'r doctor?

WIL (heb gymryd arno glywed Dai, yn codi ar ei draed).—Bois, wnewch chi gadw secret hen gyfaill ?

Y TRI.—Debig iawn, Wil bach.

WIL.—Wel, y fi fuodd yn sied Pantglas neithiwr yn chwilio am wye, ac wedi imi fynd i mewn mi danies fatsen. i gael gweld lle 'roedd y nyth, ond feddylies i ddim am roi y lle ar dân.

JAC.—Be oeddet ti eisie gyda'r wye, Wil?

WIL.—Er mwyn cael pres, debig iawn. Mi ges ddwy geiniog yr un amdanynt yn Siop Newydd heddyw. Ond dim rhagor o'r gêm yma i mi. Ond y cwest— iwn mawr 'rwan yw be wna i gyda'r sgidie 'ma? Does gen i yr un pâr arall ond y rhai gore, a fedra i ddim gwisgo rheini heb i mam sylwi. Ond rhaid imi guddio rhein cyn daw y polis heibio.

TOM.—Sut y byddai hi pe bae ti'n tynnu'r hoelion?

WIL.—Wyt ti'n meddwl mai ffwl yw'r polis? Fe wêl ar unwaith ma newydd gael eu tynnu ma'r hoelion. Oes gyda un ohonoch chi ddim hen bâr gawn i fenthyg nes bydd yr helynt yma drosodd. Bois bach, meddyliwch am ryw gynllun i 'nghadw i rhag cael 'y nal.

(Yn ail ddechreu crio ac yn eistedd).

JAC.—Ha! Ha! Dyma'r eg myrtsiant wedi'i ddal o'r diwedd. Ble ma' dy freins di, Wil bach? Mae sied Pantglas mor gyfan ag erioed, ond fod ynddi ddwsin llai o wye nag oedd ddoe.

(WIL yn codi ac yn edrych yn fygythiol ar JAC).

WIL.—O! a dyna'r gêm, ai ie!

JAC (yn rhoi ei law ar ysgwydd Wil).—'Rwan yr hen gyfaill, gan dy fod di wedi cael dy ddal yn ffêr, eistedd lawr a gwrando. Yr unig reswm oedd gennym dros geisio dy gael i'r trap oedd, nid er mwyn dy gosbi na dial arnat, ond i dy berswadio i beidio â lladrata eto.

TOM.—Ie, yn wir, Wil. Yr oedd Jac a minne yn dechre dy ame. A phan ddywedodd Lis a Peg wrthym gynne' am yr wye wedi mynd i goll, mi darodd i'n penne mai felly yr oeddet ti yn iwsio dy freins i neud arian, ond wydde Dai na finne ddim am stori'r tân nes inni glywed Jac yn mynd trwyddi.

JAC.—Ac mor bell ac yr ŷm ni ein tri yn y cwestiwn, ddaw neb arall i wybod amdani, nac am yr wye chwaith, os gwnei di addo un peth, sef na wnei di ddim dwyn wye eto. Cofia, Wil, mai un peth yw cael breins, peth arall yw ei iwsio i fyw bywyd gonest.

WIL.—Diolch i chi, bois. Pryd bynnag y gwelwch chi arian gan Wil Dolwen eto, fe ellwch gymryd fy ngair i mai arian gonest fyddant.

JAC.Well done, yr hen ffelo. Dyna'r gloch, gadewch inni fynd.

(Clywir cloch yr ysgol yn galw'r plant).

(LLEN).

Nodiadau

[golygu]