Dan Lenni'r Nos/Braw Jones y Cwm
| ← Canfod corff Grasi Jôs | Dan Lenni'r Nos gan John Pierce |
Y cwest → |
PENNOD IV
BRAW JONES Y CWM
Mewn ardal wledig fel Llanystyn, lle'r oedd digwyddiadau cynhyrfus felly yn bethau anghyffredin iawn; parodd y newydd gyffro mawr, ac fel y cerddai'r stori'r ardal, magai gynffon ar ei thaith, ac fel hyn yr adroddodd Williams y 'Siwrin,[1]—dyn bach siaradus a streullyd,[2]—hi wrth Jones y Cwm. "Difrifol iawn, Mr. Jôs bach! Difrifol iawn! Be' nesa' deudwch? 'Fuo'r[3] 'rioed y fath beth! Bobol annw'l! mae peth fel hyn yn ofnadwy mewn gwlad Efengyl, 'does neb yn saff yn i dŷ 'i hun.' "Be' sy'n bod, Willia's? Be' sy'n bod?" gofynnodd Jones.
"Chlywsoch chi ddim?" gofynnodd Williams, gan lonni drwyddo wrth feddwl cael bod y cyntaf i ddweud wrth Jones. "Chlywsoch chi ddim? Ddyn annw'l! 'na betha' ofnadwy wedi digwydd yn ych[4] ymyl chi neithiwr. John Ifans y Fron a Huw Huws Pencraig wedi cael hyd[5] i Grasi Jôs Cae'r Glaw yn gorff yn y gegin—rhywun wedi'i tharo hi, a hithau wedi syrthio â'i phen dan y grât, a ma' nhw'n ama' Robis y Cipar. Mae pawb yn gw'bod nad oes dim da rhyngddy' nhw byth er pan ddaliodd Grasi o yn dwyn 'i thatw hi, a waeth gin' yr hen gipar 'na be' i 'neud. Mae Roberts y plisman yn chwilio pob man, a'r Super o'r Dre efo fo—'tydach chi ddim yn dda, Jôs? "rydach chi'n llwyd iawn. Ddyn bach! 'Rydach chi'n crynu fel deilen, be' di'r mater?" A hawdd y gallai ofyn beth oedd y mater, oblegid yr oedd Jones yn llwyd, os bu neb erioed.
Ceisiodd ei adfeddiannu ei hun ac ateb—"Dim byd, ydw'—'rydw'—'rydw' i'n—na, 'tydw' i ddim chwaith —'rydw i wedi cael annwyd ofnadwy—a mae arna' i ofn bod y gafod[6] wedi 'nharo i. Oeddach chi'n d'eud bod rhywun wedi lladd Grasi Jôs?" gofynnodd.
"Felly mae nhw'n deud," meddai Williams, "wedi 'i tharo hi ar ochr 'i phen efo'r procer—ac yr oedd o wedi gollwng y procer ar y ffordd i'r drws
"Rhaid imi beidio â sefyllian," meddai Jones yn grynedig ar ei draws, "a finna' wedi cael yr annwyd mawr 'ma."
"Rhaid wir," meddai Williams, "ewch i'r tŷ cyn gynted byth ag y medrwch chi, a chymerwch bwnsh wisgi reit boeth, ac ewch i'ch gwely ar ych union."
"Beth yn enw'r Nefoedd sy wedi digwydd?" gofynnai Jones iddo'i hun, dan fynd. "Sut felltith yr aeth hi at y tân? Tybed fuo Robinson yno ar f'ôl i? Y fi ollyngodd y procer, ond Duw a ŵyr na threw'is i mo'ni, heb sôn am 'i lladd hi. Mae 'nghydwybod i'n berffaith dawel ar y pen hwnnw, ond os bydd 'na gwest-'does wybod yn lle y terfyna pethau. Ydw' i wedi peidio â gadael rhywbeth ar f'ôl? A beth am yr hen gi 'na? Mi ofal'is i nad oedd dim marc ar y cadach oedd gin' i'n 'i rhw'mo hi—Brenin Mawr! Pwy ydi' nacw? Dau blisman!"
Ac yn ei ddychryn dechreuodd Jones gyflymu gamre, ond cyn ei fod wedi mynd fawr i gyd o ffordd, sylweddolodd ei fod yn gwneud peth annoeth, ac meddai: "Y ffŵl idiot imi! Ydw' i'n hollol wallgo?'
Ond yr oedd Roberts wedi ei weled yn cyflymu, ac eisoes, yn gweiddi arno "Rhoswch—'rhoswch am funud, mae arna' ni 'isio gair bach efo chi."
Bu'r munudau a gymerth i'r arolygydd a'r plisman ei gyrraedd yn rhai o'r rhai mwyaf ofnadwy a fu ar ei ben erioed. Teimlai ryw wendid dychrynllyd yn dyfod drosto, a bagiodd yn ôl, gan bwyso'i gefn ar wal gerrig.
"Wel, Jones," meddai'r plisman pan gyrhaeddodd ato, "rydach chitha' wedi clywed am Grasi Jôs; mae 'isio i chi fod yng Nghae'r Glaw erbyn wyth heno yn y cwest.
"O! ie—hy—"ebe Jones, gan ryw hanner chwerthin yn ynfyd yn ei ryddhad, "dof yn Tad." Yna, gan geisio cael rheolaeth arno'i hun, meddai, "Helynt ofnadwy—helynt ofnadwy! Pwy ydach chi'n ama', Roberts? Pwy f'asa'n lladd yr hen Grasi Jôs? Hen beth ddigon clên[7] oedd hi—y—y—deudwch i mi ga'i beidio bod yn y cwest? 'Tydw' i ddim yn meddwl y medra' i ddwad, erbyn meddwl—wnewch chi f'esgusodi fi—os gwelwch chi'n dda?"
"Na," ebe'r plisman, "mae'n ddrwg gen' i, ond nid mater o ddewis ydi o—mae arna' i ofn bod yn rhaid i chi ddwad."
"O!" ebe Jones yn frysiog—"dof ar bob cyfrif—dof yn Tad. "Tydw i ddim yn dda iawn—wedi cael annwyd ofnadwy—mi ddo' i. Wyth o'r gloch ddar'u chi ddeud? Mi fydda' i yno. P'nawn da'ch dau. P'nawn da."
"Mae pobl yn rhyfedd efo cwest!" ebe Roberts wrth yr arolygydd. "Pwy f'asa'n meddwl am ddyn mawr cry fel Jones rŵan, yn ypsetio cymaint. Welsoch chi mor gynhyrfus yr aeth o?"
"Ie," meddai'r Arolygydd, "a finna' newydd fod yn meddwl wrth edrych arno fo, plisman mor dda f'asa' fo wedi wneud.'
A than fynd i'r tŷ, ebe Jones yntau wrtho'i hun, "Rydw' i'n ymddwyn fel ffŵl, 'rydw' i'n gofyn—na 'rydw' i'n gweddio am gael cortyn am 'y ngwddw."
Ac wedi cyrraedd, estynnodd botel o wisgi, a llyncodd dros chwarter llond gwydr—heb roi diferyn o ddŵr ynddo.