Dan Lenni'r Nos/Brwydr dydd diolchgarwch
| ← O flaen ei well | Dan Lenni'r Nos gan John Pierce |
Dial cipar → |
PENNOD XIV
BRWYDR DYDD DIOLCHGARWCH
Dydd Diolchgarwch ydoedd, ac ar eu ffordd i wasanaeth y bore, gwelai Dic a'i dad fod paratoadau ar gyfer saethu wedi eu gwneud. Gwelent y rhai a osodid ar gyrion y cyferi coed i rwystro'r adar fyned dros y terfynau, ac i farcio'r lle syrthiai'r rhai a glwyfid, ond na fyddent wedi eu lladd.
Byddai Syr Huw yn trefnu saethu yn Llanystyn bob dydd Diolchgarwch, ac âi Robinson a'r is-gipar hyd yr ardal i chwilio am gurwyr.[1] Byddai'n demtasiwn fawr i dlodion Ymneilltuol yr ardal dderbyn y cynnig, oblegid caent bum swllt am y diwrnod, a phryd o fara a chaws, a chwrw, un o'r gloch, yn ysgubor rhyw ffarm, tra byddai'r boneddigion yn bwyta'n y tŷ ac yn cael mygyn a saib bach. Ildiai amryw, hefyd, i'r demtasiwn, ond o blith eglwyswyr, ac o'r Dre, y câi Syr Huw'r rhan fwyaf o'i gurwyr Ddydd Diolchgarwch.
Gellid tybio yr anghymeradwyid gwaith Syr Huw yn trefnu ei "saethu mawr" y diwrnod hwnnw, ond, rywfodd, ni wneid. Tenantiaid Syr Huw oedd y rhan fwyaf o Ymneilltuwyr[2] yr ardal, ac nid oeddynt yn awyddus iawn i dynnu'r meistr tir yn eu pennau. Yr oedd eraill, mae lle i ofni, mor wasaidd a chynffonllyd fel na freuddwydient am brotestio.
Yr oedd un amaethwr, fodd bynnag, â'i ffarm yn ymyl y capel, a deimlai i'r byw. Nid oedd John Edwards yn flaenor, a dywedid na châi byth fynd ychwaith, am ei fod yn rhy blaen,[3] ond yr oedd yn grefyddwr onest, a chasâi rith a rhagrith â chas cyfiawn. Buasai ef gyda'r stiward, yn gofyn iddo fyned at Syr Huw i geisio ganddo beidio â saethu Ddydd Diolchgarwch, ond dywedodd y stiward wrtho'n chwyrn am feindio'i fusnes ei hun, a myned allan o'r swyddfa. Ond yr oedd John Edwards yn ddyn penderfynol, ac aeth yn syth at Syr Huw ei hun.
"Ond," meddai Syr Huw, "rydw' i wedi bod yn diolch am y cynhaea' yn yr eglwys, a roesoch chi ddim gorau i weithio'r diwrnod hwnnw, a mae'n arw o beth imi golli dau ddiwrnod, a ch'itha' ddim ond un."
"Ie, Syr Huw, mi wn i y byddwch chi'n mynd i'r gwasanaeth Saesneg ddiwrnod Diolchgarwch yr Eglwys, ond yr ydach chi'n temtio pobl dlawd y capel efo'ch corona'[4] i ddyfod i guro i chwi.'
"Fedra' i mo'u gorfodi nhw i ddwad," ebe Syr Huw, 'a phetasa' nhw yn teimlo cymaint â hynny dros y capel, f'asa' nhw ddim yn dwad."
"Y peth fydd yn 'y mrifo i, syr, fydd clywed twrw tanio mawr tra bydd pobl wrthi'n gweddïo."
"Mi ddylent weddio yn well a diolch mwy, John Edwards," meddai Syr Huw, dan chwerthin, "wrth glywed y gynna', a gwybod bod y ffesynt yn cael eu lladd; lleia'n y byd o ffesynt fydd 'na, mwya'n y byd o gynhaea' fydd 'na'r flwyddyn nesa'."
Fodd bynnag, addawodd Syr Huw na byddai iddynt saethu yn ymyl y capel yn ystod y gwasanaeth. Ond fel bu'r digwydd, nid oedd Syr Huw gyda'r saethwyr y diwrnod hwnnw, a gwaeth na hynny, dan ofal mab Syr Huw yr oedd y parti saethu. Bachgen wedi ei ddifetha gan ei fam ydoedd y mab, creadur llysnafaidd,[5] ffroen-uchel,[6] a snobyn o'r iawn ryw. Clywsai am ymweliad John Edwards, ac yr oedd yn gynddeiriog pan ddeallodd am yr addewid a roesid, a chafodd Syr Huw amser annifyr iawn gydag ef a'i fam; aethant eu dau i'w ben, a bu yn bur boeth rhyngddynt.
"To think," meddai ei briod, "that you could stoop to discuss the matter with that uncouth man."
Hwn oedd y Dydd Diolchgarwch cyntaf ar ôl addewid Syr Huw i John Edwards, ac yr oedd y mab wrth fodd ei galon. Bendithiai absenoldeb ei dad, a threfnodd i ddysgu gwers i John Edwards am feiddio ymyrraeth. Felly, yn ystod y cyfarfod gweddi, clywid saethu caled, a hynny ar ffarm John Edwards. Cododd y ffermwr tra'r oedd un brawd yn gweddïo, ac aeth allan yn ddistaw, a gwelai'r saethwyr yn ei gae rwdins, oedd yn terfynu ar fynwent y capel. Heb betruso dim, aeth drosodd, ac at un o'r curwyr, ac wedi deall nad oedd Syr Huw gyda hwy, cyfeiriodd ei gamre yn syth at fab Syr Huw, a phan welodd y gŵr bonheddig ifanc ef yn dyfod, taniodd ddwy ergyd i'r awyr, a gwnaeth dau o'i gyfeillion yr un peth. Yna cythrodd i wn arall o law lodiwr yn ei ymyl, a thaniodd ddwy arall drachefn. Erbyn hyn yr oedd John Edwards wedi cyrraedd ato, a dywedodd fel yr oedd ei dad wedi rhoi ei air na byddai saethu yn ymyl y capel yn ystod y gwasanaeth, ond yr ateb a gafodd oedd chwerthin gwawdus a thanio dwy ergyd arall, a'i rybuddio oni byddai o'r cae cyn pen un munud, y câi'r ddwy ergyd nesa' drwy'i het.
Dechreuodd John Edwards ymliw[7] ag ef, ond cyn iddo gael dweud fawr ddim, cipiodd mab Syr Huw betrisen o law un o'r curwyr, a'i thaflu i wyneb y ffarmwr.
Bu hyn yn ormod i John Edwards, a chamodd ymlaen â thân yn ei lygad, ond trawodd y sgweier ifanc ef yng nghanol ei wyneb, ond prin y teimlodd yr amaethwr y ddyrnod gan gymaint ei ffyrnigrwydd, a gafaelodd amdano, a'i wasgu, nes teimlai'r gŵr ifanc ei asennau yn cyfarfod ei gilydd, a'i anadl yn rhuthro i'w enau, a'i du mewn fel petai am ei dilyn, a suddodd yn wanllyd i'r llawr; ond mewn moment yr oedd un o'i ffrindiau yn dyfod am John Edwards mewn ystum ymladdgar iawn.
"O'r Tad!" ebe'r ffarmwr, "fydd gin' i ddim gwrthwynebiad o gwbl i dy daro di, llanc;" a gwthiodd freichiau'r ffrind o'r neilltu fel pe na baent ond gwiail; ac mewn moment yr oedd y gŵr bonheddig ieuanc yn eistedd yn y rwdins ac yn plygu 'mlaen, a'i wedd yn welw wyrdd, a'i lygad pwl[8] yn llonydd, a'i enau yn cau ac yn agor—fel pysgodyn ar dir sych.
"Arna' chi 'roedd y—
Ond cyn i John Edwards orffen, aeth yn nos dywyll arno, oblegid daethai Robinson yn lladradaidd o'i ôl, ac â bagl ei ffon, trawodd ef dipyn uwch na'i wegil[9], a disgynnodd John Edwards yn glwt yn ymyl y ddau arall.
Erbyn hyn yr oedd cyfarfod y bore drosodd, a'r gynulleidfa'n dechrau dyfod allan, a buan iawn y deallwyd beth a ddigwyddasai; ac wrth gwrs, dyna fu testun siarad pawb drwy'r dydd. Er gwaethaf y ddyrnod a gafodd John Edwards gan y cipar, daeth ato'i hun yn y man, a chafodd fynd o'r cae heb ragor o helynt. Arhosodd gartre'r prynhawn, ond mynnodd gael mynd i gyfarfod y nos. Ni ofynnwyd iddo gymryd rhan, fodd bynnag; a dyna'r Cyfarfod Diolchgarwch cyntaf i basio ers llawer blwyddyn, heb i John Edwards gael ei alw ymlaen. Yn wir, gofynnwyd i'r brawd a ddechreuasai gyfarfod y bore, gymryd rhan wedyn yn olaf yng nghyfarfod y nos, gan eu bod yn fyr o un i gadw'r tri chyfarfod.
Aeth John Edwards o'r capel, â'i deimladau'n gymysglyd iawn. Rhwng popeth, yr oedd yn bur ddigalon,—ansicrwydd ynghylch canlyniadau helynt y bore, a gweled cilwg[10] ar wynebau rhai, ac eraill yn cadw draw oddi wrtho fel petaent yn ei osgoi, ac uwchlaw dim, ei anwybyddu gan Mr. Hughes, Parc Mawr, sef y blaenor a lywyddai y mis hwnnw, ac a alwai'r gweddïwyr ymlaen i gymryd rhan.
Dic Cae Bach a'i dad a gydgerddai ag ef yr ychydig ffordd oedd ganddo, ac meddai wrthynt: "Mae'n amlwg bod y capel yn 'y nghondemnio i, ac os felly, beth am y byd?"
"O!" ebe Richard Ifans, "peidiwch â malio[11] dim yn Hughes Parc Mawr; mae pawb yn gwybod mai un o gynffonwyr Syr Huw ydi o.'
"Ie, mae hynny'n siwr," ebe John Edwards, "ond mae arna' i ofn bod llawer yn y capel yn cydweld ag o."
"Ella'ch bod chi'n gwneud cam ag o'ch dau," meddai Dic; 'yr oedd o'n ffeind iawn yn peidio â gofyn i chi gymryd rhan heno."
Troes John Edwards at Dic yn sydyn, a'i dad hefyd. "Ffeind?" gofynnodd, mewn penbleth, "beth wyt ti'n feddwl, 'y machgen i ?"
"Wel," meddai Dic, "gwybod 'roedd o na fedrech chi'n ych byw fod yn teimlo yn rhyw dda iawn ar ôl y slap gawsoch chi gin' Robinson, ac y buasa' fo'n beth brwnt gofyn i chi gymryd rhan, ac ynta'n gwybod na f'asech chi byth yn gwrthod."
Petrusodd John Edwards am foment, ac yna meddai: "Mi fuasa'n dda iawn gen' i gredu mai dyna oedd rheswm, Richard; ond na, na, 'rwyt ti—ac eto mi fuasa'n arw o beth imi wneud cam ag o hefyd. Wel, nos dawch, gyfeillion, a diolch i chi am ych cwmni."
Gwyddai Dic yn dda ddigon nad teimlo dros John Edwards a barodd i Hughes Parc Mawr beidio â galw arno ymlaen, ond awydd i roi praw pendant cyhoeddus o'i gondemniad ar waith John Edwards; a gweled poen y ffarmwr gonest, a barodd i Dic geisio'i gysuro.
"Wel, Dic," meddai ei dad wrtho, "rwyt ti wedi ysgafnhau tipyn ar faich Siôn Edwart, a hynny wrth ddweud celwydd; ond mi fydd hynny'n dipyn o help iddo fo. Noson anesmwyth gaiff o heno; 'waeth iddo fo deimlo'n ansicr yng nghylch Hughes am dipyn ddim; mi gaiff wybod cyn bo hir yn lle mae o'n sefyll, ond mi fydd wedi cael amser i gynefino tipyn â'r baich erbyn hynny; mae o'n newydd iddo fo heno. Brenin Mawr! Mi 'ryda'n ni wedi mynd yn stwff sâl, yn betha' gwael, gwasaidd,[12] Dic. Mi gei di wel'd y bydd hanner y capel 'ma yn cymryd yr un ochr â Hughes, wrth gynffon Syr Huw bach."
Wrth fwyta'u swper, aethant i sôn am y saethu.
"Wel, mi gawson' ddiwrnod da, fel arfer, 'nhad, a mi glyw'is wrth fynd i'r capel heno fod Cae Bach wedi cadw'i gymeriad. Mi fuo Ned y Giât yn curo drwy'r dydd, ond mi ddaeth i'r capel heno, ac mi 'roedd o'n dweud 'u bod nhw wedi cael adar yn arw yn Cae Pella.'
"Felly wir," ebe Richard Ifans. "A'welso'nhw ddim yn dda ddwad â chymaint ag un i ni. Wel, 'u colled nhw ydi hynny, Dic, a'u colled nhw ydi hi wedi bod ers blynyddoedd o ran hynny. 'Rydw'i am fynd i gadw rŵan,[13] 'y ngwas i. Paid tithau ag aros yn hir ar dy draed. Mi wela' dy fod ti wedi cael llyfr newydd eto. Nos dawch."
"Nos dawch, 'nhad, mi ddo'i ar ych ôl chi cyn bo hir, cyn gynted byth ag y ca'i olwg ar y ddwy ddrama 'ma eto, i weld p'run o'r ddwy fyddai orau inni ddewis. 'Ryda' ni am fynd ati i ddysgu un newydd eto."