Neidio i'r cynnwys

Dan Lenni'r Nos/Canfod corff Grasi Jôs

Oddi ar Wicidestun
Yr ysbeiliwr Dan Lenni'r Nos

gan John Pierce

Braw Jones y Cwm

PENNOD III
CANFOD CORFF GRASI JOS

Bore drannoeth rhwng deg ag un ar ddeg, galwodd y postman yn y Fron, ac wedi i Mrs. Ifans agor y llythyr, rhedodd i'r ffarm-iard; a phan welodd ei gŵr draw, gwaeddodd yn gynhyrfus "John! John! mae o'n dwad adre—ydach chi'n clywed? Mae Jac yn dwad adre drennydd."

"Ydi o wir?" meddai John Ifans, gan gymryd arno bod yn ddidaro.

"Tydi o ddim diben i chi, John bach, gymryd arnoch ddim rhagor—mi 'rydach chi wedi hiraethu cymaint â finna' bob tipyn."

Ac yr oedd hefyd, er iddo geisio'i orau guddio hynny oddi wrth ei briod, rhag gwneud ei hiraeth hi'n waeth; ond yn ystod yr holl amser y buasai Jac yn yr ysbyty, ni byddai John Ifans byth ymhell iawn o olwg y tŷ, adeg y postman.

"Wel, mae'n rhaid inni adael i Huw a Thwm wybod ar unwaith, a Dic Cae Bach hefyd," ebe Mrs. Ifans, 'mi f'aswn i'n licio i'r tri ddwad i swper y noson y daw—ond mi fydd yn rhaid i Jac fynd ar 'i union i'w wely; a pheth arall, mae'n siwr y bydd 'ma lawer o bobl y noson gynta'."

"Bydd mae'n siwr," ebe John Ifans, "mae'n syn 'i fod o mor gymeradwy, a'r gwalch_bach mor ddireidus. P'run ohono' ni aift i dd'eud wrth Grasi Jôs?"

"O! bobol annw'l! ie," ebe Mrs. Ifans, "mae'n rhaid i Grasi Jôs gael gwybod o flaen neb. Mi â'i yno fy hun cyn gynted byth ag y cawn ni ginio."

"O! gan gofio," ebe John Ifans, "mi fydda' i'n pasio Cae'r Glaw y prynhawn 'ma, mi alwa' i yno ar fy ffordd."

"Cofiwch ddwad at y tŷ erbyn hanner dydd John. Mae gin' i 'isio[1] paratoi erbyn y daw o. Mi fydd y cinio'n barod ddeuddeg o'r gloch i'r funud."

"Twt! waeth i mi fynd i Gae'r Glaw cyn cinio ddim,' ebe John Ifans, gan edrych ar ei wats, "mi fedraf fynd yno, a dwad yn f'ôl erbyn deuddeg—os byddai'n 'o fywiog." A chychwynnodd ar hynny.

Fel y dynesai at Gae'r Glaw, clywai'r gwartheg yn brefu, a'r moch yn gweiddi, ac wrth agor y giât, gwnaeth dipyn o dwrw, a dyblodd a threblodd sŵn yr anifeiliaid. "Rhyfedd iawn," meddai witho'i hun.

Wrth basio cwt y ci, gwelai'r gadwyn wedi torri, ond nid oedd olwg ar Carlo yn unman.

Erbyn hyn yr oedd sŵn y gwartheg a'r moch yn fyddarol.[2] "Mae rhywbeth o'i le yn siwr," meddai'r ffarmwr yn anesmwyth, a churodd y drws. Wedi disgwyl tipyn a methu â chael ateb, aeth tua'r beudy, a sylwodd wrth basio, fod clo ar y cwt tatw. Pan agorodd ddrws y beudy, gwelodd na buasai'r gwartheg allan y diwrnod hwnnw, oblegid nid oedd y beudy wedi ei garthu,[3] ac yr oedd yn amlwg wrth byrsiau[4] mawr y gwartheg, na chawsent eu godro er y noson cynt, ac yr oedd llaeth yn pistyllio o dethi un fuwch.

Yr oedd John Ifans yn bur gynhyrfus erbyn hyn, ac aeth i ffenestr cefn y tŷ, a gwelodd fod y gorchudd heb ei godi. Ni phetrusodd ragor, ond cododd y gliced, a chanfu fod y drws wedi ei gloi. Edrychodd drwy ffenestr y siambr gan ddisgwyl gweled Grasi Jôs yn ei gwely, oblegid nid oedd y llen i lawr, a gwaeddodd "Grasi Jôs" droeon-ond nid oedd ateb—dim ond y brefu a'r gweiddi. "Wel wir," meddai, "'dydw' i ddim yn deall pethau—mae hi wedi bod yn 'i gwely neithiwr achos mae o heb 'i wneud. Wel, mae'n rhaid mynd i'r tŷ, ond mi fyddai'n well imi gael rhywun arall efo mi, mi â'i nôl Huw Huws, Pencraig."

Wrth ddyfod yn ôl, dywedodd John Ifans yr hanes wrtho, ac meddai Huw Huws: "Mae'r gwartheg wedi bod yn brefu ar adegau drwy'r bore, ond 'doeddwn i ddim yn licio busnesu,[5] 'does dim llawer o dda rhyngom ni ers tro, ond o ran hynny mi wyddoch am Grasi cystal â minnau, er 'i bod hi'n frenin[6] yrŵan wrth fel y byddai hi hefyd."

"Rydw i'n awgrymu'n bod ni'n torri chwarel yn ffenestr y siambr, mae honno yn agor, wedyn mi fedrwn godi'r gliced o'r tu mewn," ebe John Ifans. Ac felly y gwnaethpwyd. Ymwthiodd John Ifans i mewn, ac aeth drwy'r siambr i'r gegin, ond ym mhen llai na munud yr oedd yn agor y drws i'w gymydog, â golwg gynhyrfus iawn arno. "Wel, Huw Huws," meddai, "mae gyrfa gythryblus Grasi Jôs druan ar ben; dowch ymlaen yma." Dilynodd Huw Huws ef at y lle tân, a dyna lle'r oedd hi yn gorwedd yn farw, â'i phen ar y ffender, ac ochr ei thalcen wedi duo i gyd."

"Mae hi'n hollol oer," ebe John Ifans; "gadael iddi heb 'i symud hi ydi'r gorau inni. Ewch chi i deligrafftio am y doctor, mi a' innau am Roberts y plisman."

Ym mhen yr awr, â'r doctor erbyn hyn wedi gweled y corff, yr oedd Roberts y plisman yn chwilio am nifer o'r plwyfolion[7] i eistedd ar ei chwest, a'r newydd am farw Grasi Jôs yn mynd drwy'r ardal fel tân gwyllt.

Nodiadau

[golygu]
  1. Isio: eisiau.
  2. Byddarol: deafening.
  3. Carthu: to clean.
  4. Pyrsiau: udders.
  5. Busnesu: to interfere.
  6. Yn frenin: ever so much better.
  7. Plwyfolion: parishioners.