Neidio i'r cynnwys

Dan Lenni'r Nos/Dal Dic

Oddi ar Wicidestun
Fel y daeth Dic yn botsiar Dan Lenni'r Nos

gan John Pierce

O flaen ei well

PENNOD XII
DAL DIC

Yr oedd Dic wedi glân wirioni efo dramâu, ac nid oedd ffyddlonach na medrusach aelod o Gwmni Drama Llanystyn, nag efe. Y gaeaf hwnnw dysgent ddrama o waith W. J. Gruffydd—"Beddau'r Proffwydi." Cymerai Dic ran y gweinidog a Thwm Huws, ac er mor wahanol oedd y ddau gymeriad, yr oedd yn anodd dweud pa un o'r ddau a actiai Dic orau.

Yn Llanystyn yr oeddynt i berfformio gyntaf, a'r noson o flaen y perfformiad buasent wrthi'n brysur yn gosod y llwyfan, yn trefnu'r golygfeydd, ac yn ymarfer, wedi ymwisgo yn union fel y byddent yn y perfformiad cyhoeddus, ac erbyn iddynt orffen, aethai'n bur hwyr. Cymerai Pero, ci Dic, ran hefyd, ac yr oedd wedi ei ddysgu fod yn hollol gartrefol ar y llwyfan, a gwnâi bethau hynod o naturiol; yn wir, yr oedd yn werth talu am diced, i weled y ci yn actio; yr unig beth a ofnai Dic oedd iddo dynnu sylw'r gynulleidfa oddi ar yr actorion eraill.

Yr oedd Huw yntau yn y cwmni, ac ar derfyn yr ymarfer, cychwynasant ill tri tua thre. Wedi ffarwelio â Huw a myned dros y gamfa i dir Cae Bach, dechreuodd Pero hela ei hochr i, a chafodd berffaith ryddid gan Dic i wneud hynny, ac ymhen ychydig iawn o amser yr oedd gan Dic faich bach digon del. Pan ddaeth Pero â'r drydedd gwningen i Dic, yr oeddynt o fewn rhyw ganllath i'r tŷ. "Tyrd yma rŵan, Pero," ebe Dic, gan ei fwytho,[1] "yr wyt ti wedi gweithio digon am heno. Cadw noswyl, yr hen law, mi gawn ni—"Ond cyn iddo orffen dechreuodd Pero chwyrnu, a chychwyn i gyfeiriad llwyn gerllaw, ac ar hynny, daeth Robinson o'r cysgod tuag at Dic, ac meddai yn sarrug:

'Amser neis i fod allan yn hela; a pheth arall, 'roeddwn i'n meddwl mai ci defaid oedd hwn, ond mae o'n fwy o gi hela, 'ddyliwn i. 'Fydd Syr Huw ddim yn ddiolchgar i ti am fynd allan y nos i hela fel hyn, 'rydw i'n siwr. 'Ella newidith o'i feddwl, ac y daw o i gredu nad ydi Dic Cae Bach ddim mor ddiniwed ag y mae o wedi meddwl, ar ôl i ti fynd â fo i weld dy fenagerie ffowls di."

"Ylwch[2] chi, Robinson," meddai Dic, "nid potsio rydw' i, ac mi wyddoch chitha' hynny'n eitha, ac yn caea' ni y daliodd Pero'r cwningod 'ma.

"Sut y gwn i hynny?" gofynnodd Robinson ar ei draws. "Ffordd y doist ti?

"O'r Pentre, wedi bod yn y practis drama," atebodd Dic.

"Ie," ebe'r cipar, "ond 'rwy't ti'n ofalus iawn i beidio â deud mai ar draws caea'—

Ar hynny, stopiodd Robinson yn ddisymwth, ac ymdaenodd gwên foddhaus dros ei wyneb,—ac yn hollol ddirybudd, saethodd ei law i gyfeiriad bron Dic; ond er mor gyflym y bu Robinson, bu Dic yn gyflymach, a neidiodd yn ei ôl cyn i'r cipar fedru gosod ei law arno, a gofynnodd yn ffyrnig, gan dynnu llapedi[3] ei gôt at ei gilydd yn frysiog, "Be' gebyst wyt ti'n feddwl dreio 'wneud, Robis?"

"Dim byd, Dic bach,—dim byd," atebodd Robinson yn wawdus. "Jim! Jim!"

Ac yn y fan, o ganol llwyn gerllaw dyma'r is-gipar, dyn tal, llydan, atynt.

"Rŵan-Dic Cae Bach, y ci lladd defaid!" meddai Robinson, "mae hi wedi d'wad yn ddydd y cyfri' arnat ti o'r diwedd. Wyt ti'n mynd i ddaffod[4] y gôt 'na, ynta' raid imi ofyn i Jim 'ma faeddu'i ddwylo i 'neud?"

Taflodd Dic olwg frysiog dros ei ysgwydd, fel petai'n bwriadu dianc, ond yr oedd y cipar ifanc wedi ei osod ei hun ar ei lwybr; a'r foment y troes Dic i edrych yn ôl, neidiodd Robinson ymlaen, ac ag un plwc agorodd ei gôt, a syrthiodd ceiliog ffesant braf[5] ar lawr wrth ei draed.

Chwarddodd Robinson "Ha! Ha!" fawr dros y lle, ac meddai: "Rwyt ti'n mynd yn ffeindiach wrthy' nhw bob dydd, Dic. Rhoi lodging iddy' nhw yn y cwt ieir yr oeddit ti pan nol'ist ti Syr Huw acw i gweld nhw yn'u gwlâu, ond 'rwy ti wedi mynd i' cario nhw yn dy frest yrwan,—i roi ditan iddy' nhw, mae'n debyg. Wel 'tydi dy laeth di ddim yn dygymod efo hwn, beth bynnag. Dyma'r noson ora' gef'is i 'rioed. 'Does gen' ti ddim i' dd'eud, y 'sglodyn, a chditha' mor barod dy dafod? Y clyfar 'i hun! Ha! Ha!" Ac am unwaith yr oedd Dic yn fud.

Safai yn wargrwm,[6] â'i ên ar ei frest, yn bictiwr perffaith o ddigalondid.

"Dywed rywbeth, y penci!" ebe'r cipar. "Wyt ti wedi llyncu dy dafod?"

"Tydi o ddim diben imi dd'eud dim, Robinson, choeliwch i mo'na ni," ebe Dic.

"Nag ydi," meddai'r cipar, "dydi o ddim. Ond y babi bach! Mae o jest â chrïo. Y peth bach diniwed!"

"Mistar Robinson—dechreuodd Dic.

"Mistar Robinson," gwatwarai'r cipar. "Wir, Jim, os 'rhoswn ni dipyn, mi fyddaf yn Lord Robinson!"

Yna daeth rhyw gasineb dychrynllyd i dôn y cipar, ac meddai: "Yldi, Dic Ifas, 'tasa ti a dy dad ar ych glinia' 'mlaen i yn gweddïo am bardwn, 'chaech chi mo'no fo—ie'r, cyw llyfant, petasa' dy fam yn codi o'i bedd i ofyn, 'rown i ddim pardwn iti; mi chwerthwn[7] yn ych gwyneba' chi'ch tri.'

Pan glywodd Dic y cipar yn sôn am ei fam, aeth cyn wynned â lliain, a gwreichionnodd ei lygaid, a rhoes ryw hanner cam ymlaen, ond drwy ymdrech fawr, fe'i ataliodd ei hun.

"Ie, well iti ail feddwl," meddai Robinson, dan gychwyn ymaith, "mi gei di fynd o flaen dy well, a mi gei ddangos dy dymer yn fa'no llanc, a 'does 'na ddim ond un peth yn fy rhwystro i fod yn berffaith hapus, a dyna ydi' hwnnw, nad ydi Syr Huw ddim gartre, i mi a Jim gael mynd yno heno i ddeud wrtho fo, inni gael gweld i wep o'n syrthio. Wel, nos dawch, Dic glyfar, mi fyddi'n siwr o gysgu'n dawel heno, a mi gei bapur glas neis gin' Roberts y plisman ymhen ryw ddiwrnod ne' ddau. Tyrd, Jim."

Wedi iddynt fyned ychydig draw, meddai Jim wrth Robinson: "roeddach chi ar fai sôn am 'i fam o.

Stopiodd y pen cipar yn y fan, ac meddai: "Jim, 'rydw'i wedi dy rybuddio di o'r blaen, a dyma fi'n g'neud un waith eto—a dyma'r tro d'waetha, cofia. Cau dy geg a meindia dy fusnes dy hun. Wyt ti'n deall?"

Nid atebodd yr is-gipar air, dim ond dal i fynd ymlaen. Nid oedd Dic a Phero wedi symud o'r lle'r oeddynt byth, ond wedi i'r ddau gipar fynd o'r golwg, cychwynasant yn araf tua'r tŷ.

Nodiadau

[golygu]
  1. Mwytho: to pet.
  2. 'Ylwch: gwelwch.
  3. Llaped: lapel.
  4. Daffod: datod.
  5. Braf: big.
  6. Gwargrwm: stooping.
  7. Chwerthwn, chwarddwn