Dan Lenni'r Nos/Dal twyllwr yn rhyddhau lleidr
| ← Diwedd Carlo a'i feistres | Dan Lenni'r Nos gan John Pierce |
Dechrau twrw → |
PENNOD VII
DAL TWYLLWR YN RHYDDHAU LLEIDR
Cynhebrwng[1] mawr a gafodd Grasi Jôs—cynhebrwng mawr i ddynion; felly y trefnodd Mr. Rees y Banc a John Ifans y Fron, y ddau a benodasai'r hen ferch i weled bod ei hewyllys yn cael ei chario allan, ac yr oedd Jones y Cwm yno hefyd, a bu llawer o sôn am Grasi Jôs a'i bywyd ystormus ymhlith y plwyfolion wrth ddilyn ei harch i fynwent Llanystyn.
Buasai llawer mwy o ddwyn ar gof bethau cyffrous ei gyrfa ac o ychwanegu atynt mae'n debyg, petai ei diwedd wedi bod yn llai trist, ond amgylchiadau ei marw oedd prif destun pob ymddiddan, ac yn ystod y tridiau. y bu Grasi Jôs yn gorff yn y tŷ, dechreuodd gwahanol farnau ynghylch ei diwedd ymffurfio, a mynnai rhai nad oedd popeth wedi ei ddatguddio yn y cwest.
Yn anffodus i Jones, digwyddai gyd-gerdded ag un o'r rhai a goleddai[2] y syniadau hyn, a chafodd amser anhapus iawn.
"Pa'm," meddai hwnnw, "na buasai'r bobl 'na wedi gofyn y cwestiyna' mae nhw'n ofyn 'rŵan-yn y cwest, yn lle ar ôl iddo fo basio? Ond y gwir ydi 'na ddaru nhw ddim meddwl am dany' nhw, a'ch eithrio[3] chi, Jones, a 'fedrech chitha' ddim meddwl am bopeth. Dynion dyla'r ardal 'ma oedda' nhw. Mi gythrodd Roberts i'r rhai cynta' gafodd o afael arny' nhw-gan nad pa mor ddwl oedda' nhw. "Taswn i ar y cwest, y peth cynta' f'aswn i wedi 'neud f'asa codi pwnc y procer i fyny."
"Ond," meddai Jones, "yr oedd y drws wedi 'i gloi o'r tu mewn."
"Ie," ebe'i gyfaill, "ond beth oedd y procer yn 'i 'neud yn ymyl y drws."
"Wel," meddai Jones wedyn, "efallai 'i bod hi wedi gweld llygoden, mae 'na ddigon ohony' nhw yno, a'i bod hi wedi taflu'r procer ati hi i' dychryn hi."
"Lol i gyd!" ebe'i gydymaith, "ond â chaniatâu hynny, lle mae'r ci? 'Welodd neb byth mo' hwnnw?"
"Mi godwyd hynny i fyny yn y cwest," ebe Jones, "ond pasio ddaru ni nad oedd a wnelo hynny ddim â'r peth."
"Be' wnaeth iddo fo dorri 'i gadwyn? A beth ydi'r ôl crafu mawr sydd o flaen 'i gwt o?" gofynnodd ei gydymaith. "Na, mae 'na ryw helynt wedi bod, a 'marn i ydi, ma' clywed rhywun yn y drws wnaeth i Grasi daflu'r procer. Peth arall hefyd, lle mae 'i phres hi?"
"A chaniatâu 'i bod hi wedi mynd â'r bylc i'r banc—a dyna beth rhyfedd iddi wneud hynny mor ddiweddar, a hynny am y tro cyntaf yn 'i hoes, mae'n rhaid bod arni ofn rhywbeth, ie, a chaniatáu hynny, ydach chi'n meddwl nad oedd gin' Grasi ddim ond tipyn o geinioga' yn y tŷ? 'Choelia'i fawr! Na, Jôs, rydw' i'n deud wrthach chi fod 'na fwy wedi cymryd lle, nag a wyddom ni—ac yn ddistaw bach i chi—mae 'na rai'n deud 'u bod nhw wedi clywed y ci yn cyfarth yn ofnadwy'r noson honno. Yr oedd gwas Pen Rhos yn mynd ar 'i feic i'r Dre i nôl ffariar, a mi clywodd o, a mae o am fynd i dd'eud wrth Roberts y plisman. 'Gewch chi weld y daw petha' allan cyn bo hir.
Fel y gellir dychmygu—yr oedd Jones yn bur anghysurus erbyn hyn a diolchai ei fod wedi dyfod at y llwybr a arweiniai at ei gartre. Prin y medrodd ddweud "prynhawn da"—wrth ei gydymaith-=wrth ei adael. Fel y croesai'r cae, cynyddai ei gyffro, ac yr oedd newydd fyned dros y gamfa i'r cae nesaf i'w dŷ, pan gamodd yr Arolygydd Ellis un ochr iddo, a Roberts y plisman yr ochr arall, a rhoi ei law yn drwm ar ei ysgwydd—"Henry Jones, mae gen' i warant—Ond dyna'r cwbl a glywodd Jones cyn disgyn mewn llewyg i'r llawr.
"Jones druan," ebe Roberts, "mae'n rhaid i fod o'n teimlo'n ofnadwy—hen foi clên ydi o—drwg ar 'i les 'i hun efall—Ar hynny agorodd Jones ei lygad, a rhyfeddai weled yr olwg hanner tosturiol oedd ar plisman. "Peidiwch ag ymollwng fel hyn Jones," meddai, "rhaid i ni wneud ein dyletswydd wyddoch;" ac aeth ymlaen i ddarllen y warant.
Y ffyrm hadau y trafeiliai Jones drosti oedd wedi darganfod y celcio[4] a'r twyllo.
"O! diolch," ebe Jones, oblegid meddyliasai'n sicr mai ynglŷn â helynt Grasi Jôs yr oedd yn cael ei gymryd i'r ddalfa.
Edrychodd y plismyn ar ei gilydd mewn penbleth, ac ar amrantiad sylweddolodd Jones ei fod wedi gwneud camgymeriad.
"O! diolch," meddai wedyn, "'i bod hi wedi dwad o'r diwedd; mae hyn wedi bod fel cledda' wrth 'y mhen i ers wythnosau.'
Ymhell cyn y nos, yr oedd helynt cymryd Jones i'r ddalfa wedi llwyr ddisodli[5] trychineb Grasi Jôs ym meddyliau ac ymddiddanion trigolion Llanystyn, ac er i Jones gael dedfryd drom am dwyllo, teimlai hi'n ysgafn fel pluen wrth ei boen a'i bryder yn ystod y dyddiau y bu Grasi Jôs yn gorff yn y tŷ.