Dan Lenni'r Nos/Dechrau twrw
| ← Dal twyllwr yn rhyddhau lleidr | Dan Lenni'r Nos gan John Pierce |
Y corff yn yr afon → |
PENNOD VIII
DECHRAU TWRW
Yr oedd Grasi Jôs yn ei lle. Crio'n hidl a wnaeth Jac pan glywodd iddi adael pum cant o bunnoedd ar ei hôl iddo.
Daethai adre ddeuddydd ar ôl ei chladdu, ond cytunwyd i gadw hanes ei marw a phopeth rhagddo am dipyn, er bod hynny yn waith anodd iawn, oblegid methai yn lân â deall sut na ddaethai hi i'w weled. Ond ymhen rhyw dridiau neu bedwar, er holl ofal ei rieni i rybuddio ymwelwyr i beidio â sôn wrtho, digwyddodd bachgen bach i gymydog fyned i'r tŷ, a phawb ond Jac allan, ac yn ei ddiniweidrwydd, dywedodd y cwbl wrtho, ac effeithiodd yr hanes gymaint ar Jac fel y buwyd mewn gryn bryder yn ei gylch am ddyddiau, a phan ddechreuodd ddyfod ato'i hun, meddai wrth ei fam: "Doctor oeddwn i am fynd, ond 'y mod i'n gwybod na fedrech chi a 'nhad ddim fforddio'r gôst, ac yr oeddwn i wedi rhoi'r syniad o'r neilltu; ond rwân dyma Grasi Jôs druan wedi agor y drws i mi—ac anghofia'i byth mohoni—na wna', byth; mi af i'r ysgol cyn gynted byth ag y ca'i, a mi fynna' basio 'tasa dim ond er 'i mwyn hi."
Ac yn ei gynefin, buan iawn yr enillodd ei nerth yn ôl, a chyn bo hir aeth i Ysgol Sir y Dre, lle y buasai ei ddau gyfaill, Huw a Thwm, eisoes ers hanner blwyddyn. Ymdaflodd i'w wersi â'i holl egni, gan ei fod wedi pen derfynu mai meddyg a fyddai, a dim arall. Ond ffarmio oedd ym mryd ei ddau bartner, ac ni chymerent hwy gymaint â hynny o ddiddordeb yn eu gwersi ysgol. "Mae'n iawn i ti, Jac," meddent, "ddysgu Lladin a'r hen dacla' 'ma, ond i be' byddan' nhw'n da i ni?"
Ac yn rhyfedd iawn, Dic Cae Bach o bawb, oedd yn pwyso arnynt wneud eu gorau yn yr ysgol. "Mi rown i rywbeth am gael ych cyfle chi, hogia'," meddai Dic fwy nag unwaith wrthynt, "ond dyma fi'n bedair ar bymtheg oed, a mae hi'n rhy hwyr rŵan, hyd yn oed petai 'nhad yn medru fforddio rhoi ysgol i mi." Ond er cymaint dylanwad Dic ar y ddau, ni fedrodd lwyddo. "R'osa' i ddim yno ddim ond am flwyddyn," ebe Twm.
"Na finna' chwaith," meddai Huw. A buont yn un â'u gair hefyd, ac aeth Twm adre i ffarmio.
"Mi gei ditha', Huw," ebe'i dad wrtho—er siom aruthr iddo—"fynd i'r môr.' Ac felly bu. Aeth ei dad ag ef am fordaith o naw mis, ond canfu ymhell cyn dychwelyd, nad oedd diferyn o ddŵr hallt yn ei waed, ac fel dyn call gadawodd iddo fyned at ei fodryb i ddysgu ffarmio, ac .ni chafodd le i edifarhau chwaith, oblegid ymdaflodd Huw i'r gwaith gyda sêl a brwdfrydedd mawr.
Felly hefyd Twm, ac am y tair blynedd nesaf bu'r tri chyfaill wrthi'n ddiwyd yn eu gwahanol gylchoedd. Aeth Twm a Huw am gwrs byr mewn amaethyddiaeth i Goleg Bangor, a phasiodd Jac i adran feddygol un o brifysgolion Lloegr.
Blynyddoedd tawel a fu'r rhain, ac er y byddai'r tri gyda'i gilydd gryn lawer, fel y gellir yn hawdd gredu, nid cymaint â chynt, gan fod Jac mor brysur gyda'i wersi, a Thwm yn byw yn Llanfriog, dros dair milltir i ffwrdd. Eto byddai Huw a Thwm yn gweled cryn lawer ar ei gilydd, mewn marchnad a ffair a phreimin.[1] Yn y gaeaf ymwelent â'i gilydd gryn lawer hefyd, a'u hoff adegau i wneuthur hynny fyddai nosweithiau lleuad, gan mai hyd y llwybrau a arweiniai ar draws y caeau yr aent fel rheol. Ac nid bod llai o ffordd o Lanystyn i Lanfriog ar draws y caeau na hyd y lôn oedd y prif reswm am hynny ychwaith, ond am y caent dipyn o ddifyrrwch wrth fyned â'u cŵn gyda hwy.
Fe arweiniodd yr arferiad hwn Huw i un o helyntion, mawr ei fywyd. Yr oedd wedi mynd i edrych am Twm un noson, ac ar ôl swper, yn ôl ei arfer, daeth Twm i ddanfon tipyn arno Cymerasant gryn dipyn o amser ar eu taith hefyd, gan fod ci gan y ddau, a hwythau dan ddyfod, yn gyrru'r cŵn dros y cloddiau i hela, ac yr oedd y ddau gi, er mai cŵn defaid oeddynt, wedi eu dysgu yn drwyadl yn y gwaith o hela, a deallent ei gilydd i'r dim. Rhedai un i ganol y cae ac âi'r llall gyda'r clawdd, ac fel y rhuthrai'r cwningod o ganol y cae am y clawdd am eu tyllau, derbyniai'r ci fyddai wrth y clawdd hwynt.
Dysgasai'r bechgyn hwy i gario hefyd, a'r noson hon cawsent eisoes bedair cwningen, ac yr oedd y cŵn yn y cae wedyn, pan glywsant yn sydyn un ohonynt yn gweiddi mewn poen. Gyda hynny dyma Gel-ci Huw-i'r lôn â chwningen ar draws ei geg. "Cymro sy' wedi mynd i drap," ebe Twm, a throsodd ag ef a Huw ar hynny i'r cae, a gwelent Cymro dipyn draw yn sefyll yn ei unfan, ac yn cyfarth yn boenus.
Aeth y ddau ato ar râs, a dyna lle'r oedd y ci â'i droed dde blaen mewn hoenyn,[2] yn cwyno ac yn ceisio cnoi'r weiren bres oedd yn brathu i'w goes. Pan oeddynt wrthi yn ei ryddhau, a newydd dynnu'r peg oedd yn dal y weiren yn y ddaear, clywent dwrw rhywbeth yn rhuthro heibio, a gwelent ysgyfarnog fawr yn mynd fel mellten flaen Gelert am gae'r llwybr, ac ymhen ychydig iawn o eiliadau yr oedd y ddau wedi diflannu o'u golwg.
Cyn gynted ag y tynasant y weiren gopr, dechreuodd Cymro lyfu ei droed, ac mewn amser byr iawn yr oedd yn cychwyn â'i drwyn wrth y ddaear ar drywydd[3] cwningen. "Cymro, tyrd yma! 'Chaiff o ddim hela rhagor yn fan 'ma," ebe Twm. "Rhaid inni fynd am y lôn, rhag ofn i'r hen gipar 'na ddwad. Wedi inni gael i'r lôn, 'fedr o dd'eud dim. Lle rhoist ti'r cwningod, Twm?"
"Dyma nhw," meddai Twm, wedi iddynt gael drosodd i'r ffordd, "mi 'cudd'is i nhw yn fan 'ma.'
"Fyddai'n well inni chwibanu ar Gel?" gofynnodd Huw; "ddeil o byth mo'r sgwarnog." A rhoes chwibaniad hir.
"Wn i ddim, wir," meddai Twm, "yn ôl fel yr oedd o'n closio ati hi wedi iddo fo'n pasio ni, mi ddyla' fod wedi cael tro arni erbyn hyn; ond gwell iti beidio â chwibanu llawer; 'wyddost ti ddim pwy—taw! Beth oedd 'na, dywed? Dyma fo Gel, yn dwad; ' chafodd o mo na nid y fo ydi o. Huw, dyma'r hen gipar 'na. Tyrd oddi wrth y cwningod 'ma. Brysia, dyma Robinson yn dwad. Mi gymerwn ni arnom ein bod ni'n 'madael oddi wrth ein gilydd." Yna gan godi ei lais, meddai gan gychwyn i ffwrdd—"Mi ddo'i acw nos Sadwrn : nos dawch Twm." Atebodd Huw yntau; ond erbyn hyn. yr oedd y cipar yn eu hymyl, ac meddai :
"Wel, fechgyn, mi wela' fod y ci 'ma wedi bod yn hela? 'Chlyw'is i ddim ci yn cyfarth fel 'tasa' fo mewn poen rwan jest? 'Chlywsoch chitha' mo'no fo?"
"Do," meddent hwythau.
"Yn lle?" gofynnodd y cipar.
"O! yn rhywle ffor 'ma," atebasant.
"Nid un ohonoch chi glyw'is i'n chwibanu?" gofynnodd y cipar wedyn. "Chwibanu ar hwn o hela, 'roeddech chi?”
"Nid yn yr Ysgol Sul yr yda' ni,[4] Robinson," ebe Twm, gan gychwyn yn ei flaen. "Nos dawch, Huw.'
"Paid â threio bod yn witty, 'machgen i," ebe'r cipar, 'dydi o ddim yn dy siwtio di. Tyda 'ni ddim mor ddall nad yda' ni'n gw'bod i be byddwch chi'n dwad â'ch cŵn efo chi, ac mi wyddom ni be' di'ch gêm chi hefyd."
Ond y foment honno, beth welent yn dyfod tuag atynt,. ag un o'r cwningod a guddiasai Twm yn ei geg, ond retreiver Robinson; a'r funud y gwelodd Cymro ef, rhuthrodd arno; ac ar amrantiad dyma hi'n ymladd fryrnig.
Camodd Robinson atynt gyda llw, a dechreuodd guro Cymro yn giaidd â bagl[5] y ffon drom a gariai, gan ofalu peidio â chyffwrdd unwaith yn ei gi ei hun, ond heb fedru gwahanu'r ddau. Eithr pan aeth Huw atynt, llwyddodd ar unwaith i dynnu Cymro oddi wrth gi'r cipar.
"Pa'm na chadwi di dy gi dan reolaeth well?" gofynnodd y cipar yn sarrug, gan roi cic i Gymro yn ei asennau, nes bod y ci'n griddfan.
"Gwna hynna unwaith eto, Pharo," meddai Twm yn ffyrnig, gan garu 'mlaen, "a mi fydd yn edifar gen'ti.'
"G'neud unwaith eto," meddai'r cipar, dan chwerthin yn wawdus, a rhoi hergwd[6] i Twm i'r ffos, a cheisio am gic wedyn i Cymro; ond yr oedd Huw yn ei wylio, a phan gododd y cipar ei goes i roi'r gic, cododd Huw yntau ei droed rhwng y ci a'r cipar, a thrawodd Robinson grimog[7] ei goes yn erbyn ei sawdl, nes ei fod yn gwywo gan boen.
"Gad iddo fo i mi, Twm," meddai Huw yn ddistaw, 'mae dy dad yn denant i'w feistr o, a mi fedr ddial arnat ti; 'does gynno[8] fo ddim i 'ddeud wrtha 'i." A thra oedd Robinson yn nyrsio'i goes, dan dyngu a rhegi, cythrodd[9] Huw i'w ffon, a'i thorri ar draws ei benglin, a'i thaflu dros y clawdd. "Rŵan, y bwli i ti," meddai, "os oes arnat ti isio[10] trwbwl, mi cei o," a thaflodd ei dopcôt a'i gôt oddi amdano.
Yr oedd Robinson yn llabi[11] cryf, tua hanner cant oed, ond wedi dechrau magu tipyn o fol, ac nid oedd yn hollol sobr y noswaith hon ychwaith, ond yr oedd Huw yntau bron cyn daled ag ef, yn heini[12] ac ysgafndroed; a'r unig beth a ddysgodd ar ei fordaith, ysywaeth,[13] oedd bocsio; ond ni wyddai Robinson ddim am hynny.
Yr unig beth a welai ef, oedd cyfle i roi curfa gofiadwy i'r llanc, megis ag a roddasai lawer gwaith i weision. ffermydd a photsieriaid yr ardaloedd.
Ar unwaith anghofiodd ei boen, ac ymdaenodd gwên foddhaus dros ei wynepryd.[14] "Paid â thafferthu i dynnu dim arall i ffwrdd," meddai, "mi wna' i hynny i ti—a dy drywsus di hefyd." A rhuthrodd arno.
Ond camodd Huw yn ysgafndroed yn ôl; ond, yn anffodus iawn, beth a ddigwyddai fod yn union o'r tu ôl iddo—wedi cilio am loches rhag Robinson-ond Cymro, a disgynnodd Huw drosto ar wastad ei gefn; a phan oedd Robinson yn rhoi ei benglin ar ei frest, dyma sŵn eglur ysgyfarnog yn sgrechian rhwng dannedd ci, ryw led cae oddi wrthynt.
"Damn!" ebe Robinson, gan godi, "mi orffenna' i efo chdi eto," a rhoes gic i Huw yn ei ochr, ac ymaith ag ef cyn gynted byth ag y medrai i gyfeiriad yr ysgyfarnog, â Thwm wrth ei sodlau.
"Tyrd yn d'ôl, Twm," meddai Huw; "gad iddo fo; 'chaiff o byth fynd yn agos i Gel, a 'tydi o ddim yn 'i 'nabod o chwaith."
"P'am na fuaset ti'n gadael rhyngof i ag o?" gofynnodd Twm. Frifodd o di? Dyna chdi wedi'i chael hi o f'achos i."
"Paid â phoeni dim, Twm," ebe Huw. "Mi ga'i dalu iddo fo eto, mi elli fod yn dawel; ond o ran hynny, 'does arna' i[15] fawr i gyd iddo fo, a barnu oddi wrth fel yr oedd o'n hercian;[16] ond y drwg ydi y daw Gel â'r ysgyfarnog i ni i fan 'ma. Felly mae'n well imi 'i bachu hi,[17] ac wedyn mi ddilynith fy ogla' i. Wel, 'rhen Dom, am y drydedd waith heno, nos dawch—tan nos Sadwrn."
"Well imi ddwad i dy ddanfon di," ebe Twm, "mi wn i wrthat ti fod dy ochr di'n brifo.'
"Na," meddai Huw, "ddoi di ddim, a 'tydi f'ochr i ddim yn brifo fawr—dim ond jest digon imi beidio ag anghofio Robis. Wel-tan nos Sadwrn 'ta,[18] Twm.' Ac ymaith ag ef.
Nodiadau
[golygu]- ↑ Preimin: Agricultural show.
- ↑ Hoenyn: snare.
- ↑ Trywydd: track.
- ↑ Yda ni, ydym ni.
- ↑ Bagl: crook.
- ↑ Hergwd: push.
- ↑ Crimog: shinbone.
- ↑ Gynno: ganddo.
- ↑ Cythru: to grab.
- ↑ isio: eisiau.
- ↑ Llabi: big fellow
- ↑ Heini: nimble.
- ↑ Ysywaeth: unfortunately.
- ↑ Wynepryd: countenance.
- ↑ 'Does arna' i: I don't owe
- ↑ Hercian: to limp.
- ↑ Ei bachu hi: to hurry off.
- ↑ 'Ta, ynteu: then.