Dan Lenni'r Nos/Dial
| ← Darganfyddiad Robinson | Dan Lenni'r Nos gan John Pierce |
Llofrudd → |
PENNOD XIX
DIAL
Wedi cael o'r Neuadd, safodd y cipar i geisio cael rhyw fath o lywodraeth arno'i hun, gan na bu'r fath gyffro o'i fewn erioed, oblegid yr un un yn union oedd Dic Cae Bach yr actor, â'r potsiar a daflasai'r pupur a'r powdr tisian i'w wyneb.
"Mi â i amdano fo drwy ddrws y talcen," meddai'n ffyrnig. "Drama ne' beidio, mi ddweda' i'n 'i wyneb o mai—na, wneiff hynny mo'r tro. Mi â i at Roberts y plisman. Lle ma' hwnnw heno, tybed? Peth rhyfedd na f'asa' fo wrth y drws 'ma 'n cogio cadw trefn. Ella medra fo—na, 'choelia' i; d'rysu'r petha' wnâi'r mwnci mul Roberts 'na. Mynd at y Stiward,—'does dim arall amdani hi." A chychwynnodd.
Ond cyn ei fod wedi mynd fawr i gyd dechreuodd feddwl. "Ella na wrandith y penci hwnnw ddim arna' i, o ran hynny. Ella na choelith o mo fy stori i. Mi wnaeth ddigon o sbort am 'y mhen i ar ôl y tro o'r blaen, a mi fuo[1] Syr Huw yn ffiaidd ddychrynllyd. Brenin Mawr! be' 'na i? A finna'n gw'bod mai fo ydi o! Be oedd meddwl plisman y Dre yn deud mai un o'r Dre oedd o? Ond be' sy' gen'i i brofi? Trugaredd fawr! Siawns gin' i na fedra' i 'neud rhywbeth."
Ond ar hynny troes. Ac nid at Dic, nac at y plisman, nac at y stiward, yr aeth Robinson, ond yn ôl, ac i'r Bedol, a phrynu potel fawr o wisgi, ac allan. A chyn gynted â'i fod drwy'r drws, cymerodd lwnc o'r botel unwaith neu ddwy; ac yn ei flaen ag ef, heb weled neb, a thros y gamfa i lwybr a arweiniai at Gae Bach.
Petasai Robinson mewn llai o gyffro meddwl a theimlad, ac o bosibl, heb yfed mor helaeth o'r wisgi pur, mae'n sicr y buasai wedi gweled, gyda'i fod dros y gamfa, rywun yn cilio'n llechwraidd i'r gwrych, ac wedi iddo'i basio, yn codi'n lladradaidd[2] ac yn ei ddilyn.
Deallai gwraig Jim, yr is-gipar i'r dim, a gwyddai, unwaith y gafaelai'r syniad o wylio Robinson ynddo, nas gollyngai ef ar frys. Ac ers dyddiau bellach gwylio'r cipar y byddai Jim, yn fwy na gwylio potsieriaid. Am gryn ddeugain lath yr oedd y llwybr at Gae Bach yn mynd rhwng dau glawdd drain uchel, a dan goed, ac yr oedd yn bur dywyll yn y fan honno; ond cyn cyrraedd y llecyn arbennig hwnnw, daliodd Robinson i'r cae, a cherdded yr ochr arall.
Daliai Jim i'w ganlyn mewn gryn benbleth.
Wedi myned tuag ugain llath, a dyfod at fwlch bychan yn y clawdd aeth Robinson trosodd ac eisteddodd ym môn y clawdd a thynnodd gorcyn y botel.
Aeth Jim mor agos ato ag y medrai heb beryglu ei ddarganfod, gan wylio a gwrando.
Cafodd y cwmni fwy o hwyl nag erioed ar berfformio'r ddrama newydd; ac ar ôl gorffen yr oedd ganddynt gryn waith i'w wneud,—newid eu dillad, clirio'r golygfeydd, tynnu'r ffrâm i lawr, a golchi eu hwynebau. Ac yr oedd gan Dic waith ymolchi mwy na neb, oblegid nid locsyn gosod cyfan, y gellid ei dynnu a'i roi, oedd ganddo ef, ond gwallt crepe wedi ei gymio ar ei wyneb, ac yr oedd yn rhaid iddo wrth ddŵr poeth a chyffuriau[3] i'w dynnu, a chael ei wyneb yn lân.
Erbyn iddynt orffen aethai'n bur hwyr, ond o'r di-wedd cychwynnodd Dic adre', â'i becyn dan ei fraich, ar delerau da iawn ag ef ei hun.
Yr oedd popeth wedi mynd drwodd yn ardderchog. Gwenai wrth feddwl am dro neu ddau digrif a ddigwyddasai—un yn neilltuol,—a safodd gan chwerthin yn uchel wrth feddwl am hwnnw.
Clywodd Jim ef, a chlywodd hefyd siffrwd[4] o'r fan yr ymguddiai'r pen-cipar.
"O!" meddai Jim wrtho'i hun, "mi gwela' hi rŵan. Disgwyl Dic y mae o; fedr o ddim gadael iddo fo. Be' sy' gynno[5] fo isio efo fo yn y fan 'ma, tybed?"
Ar hynny, drwy'r gwrych, gwelai siâp Dic yn ei basio; ac ymhen eiliad neu ddau, clybu dwrw taro caled, ac ochenaid ddofn, a rhywun yn disgyn yn drwm, ac yna distawrwydd perffaith am ychydig. Wedi disgwyl tipyn, mentrodd Jim allan at y bwlch, a gwelai rywun ar ei hyd ar lawr ar ganol y llwybr. Aeth drosodd ac ato, a dyna lle'r oedd Dic Cae Bach yn gorwedd fel marw, a gwaed yn rhedeg o ochr ei dalcen.
Ond nid oedd olwg ar Robinson yn unman. "Doedd o ddim mor feddw," ebe Jim wrtho'i hun, "mi lithrodd i ffwrdd heb i mi 'i weld na'i glywed o. Faint mae Dic wedi 'frifo, tybed?' Mae'n rhaid bod Robinson wedi'i daro fo ddwywaith. Mae 'ma lwmp y tu ôl i' ben o hefydust! mae rhywun yn dwad.'
A neidiodd Jim dros y bwlch ac ymguddio.
Ni chafodd tad Dic fynd i'r ddrama'r noson honno, gan fod un o'r gwartheg yn sâl. Tuag un ar ddeg aeth Richard Ifans i'r beudy, a gwelai fod y fuwch yn waeth o lawer. Meddai wrtho'i hun: "mae arna'i ofn bod rhaid cael ffariar ati hi, ond mi ddaw Dic adre' unrhyw funud rŵan. Mi 'rhosa i nes daw o, a mi gaiff fynd ar 'i feic i'r Dre i nôl Harris."
Ond yr oedd y fuwch erbyn hyn i'w gweld yn gwaethygu'n gyflym. "Yn y Neuadd mae Dic," meddai Richard Ifans, "yn clirio'r petha', mae'n siwr. 'Fyddwn i fawr o dro'n rhedeg i Dyddyn Mawr i ofyn aiff un o'r hogiau i dd'eud wrth Dic am fynd i'r Dre ar 'i union, rhag colli amser. Mae o'n siwr o gael benthyg beic yn y pentre gan rywun.
A'i dwrw ef yn prysuro tua Thyddyn Mawr a glywsai Jim.
Deuai Richard Ifans yn gyflym, a bu bron iddo â baglu ar draws Dic cyn ei weled. Safodd yn sydyn, mewn braw. Yna plygodd i lawr.
"Dic!", meddai yn gyffrous. "Dic bach! Be' 'di'r mater?"
Ond nid atebodd Dic ddim.
"Dic!" meddai wedyn, mewn llais toredig, poenus, "Dic! dywed rywbeth wrtha' i." Ond ni chymerth Dic sylw'n y byd.
Yna dechreuodd Richard Ifans weiddi: "Help! Help!" mewn tôn ingol, dros yr ardal, a chychwynnodd Jim gilio o'r lle, mewn penbleth a phryder mawr.
"Mi ddylwn fynd i'w helpu," meddai, a safodd.
Yn wir, yr oedd wedi bod ar fin myned drosodd amryw weithiau, ac onibai iddo glywed sŵn troed Richard Ifans, buasai wedi cychwyn cario Dic adre, deued a ddelai, ond wedi i Richard Ifans gyrraedd, daeth braw arno, a dechreuodd feddwl beth a ddigwyddai pe rhoid y bai arno ef, ac ofnai na choelid ei stori, a neb yno'n dyst. Ac nid oedd berygl i Robinson helpu dim arno, heb sôn am gyfaddef mai efe a drawsai Dic, yn enwedig os digwyddai rhywbeth i Dic. Beth pe buasai Robinson wedi'i ladd o? Y Nefoedd fawr! efallai mai tric gan Robinson oedd hyn i'w setlo fo, a daeth holl rybuddion ei briod i'w feddwl.
Daliai Richard Ifans i weiddi o hyd.
"Fedra' i ddim diodde'i glywed o,' ebe Jim, "tric ne' beidio.' Ac er gwaethaf ei holl ofnau yr oedd yn cychwyn at y ddau, pan glywodd frigau yn clecian o dan draed rhywrai'n rhedeg drwy'r coed tua'r fan, ac ymwasgodd yntau at y gwrych.
Ymhen ychydig eiliadau, gwelai drwy'r gwrych, ddau neu dri dyn yn rhedeg i gyfeiriad y gweiddi. "Diolch i'r Nefoedd!" meddai Jim, "fedrwn i ddim dal yn hwy wrth glywed yr hen Richard Ifas yn y fan 'na efo Dic druan. Wel, dyma gyfle i fynd odd' 'ma, a gora' po gyntaf imi gychwyn hefyd. Ond faint mae'r creadur bach wedi 'frifo, tybed?" A chyda'r gofal mwyaf llithrodd Jim ymaith.
Pan gyrhaeddodd gŵr Tŷ Mawr a'i ddau fab i'r fan, deallasant ar unwaith fod Dic wedi ei anafu'n ddifrifol; a chyrhaeddasai dau arall hefyd i'r lle erbyn hyn. Yr oedd Dic yn hollol anymwybodol, ond ni wyddai neb beth a ddigwyddasai. Yr oedd gwaed ar ei arlais, a chŵydd mawr y tu ôl i'w ben, ond eisoes aethai un am ei feisic i fynd i'r Dre i nôl meddyg, a chychwynnodd y lleill gario Dic tua'r tŷ, a Richard Ifans yn eu canlyn, wedi torri i lawr yn lân.
Ar ôl cyrraedd, eglurodd iddynt cystal ag y medrai, sut y bu iddo ddyfod i'r fan, ac o hyd i Dic.
"Mi â i'r beudy yrŵan i weld sut mae'r fuwch," ebe un o'r dynion, a chyn gynted ag yr agorodd y drws gwelodd ar unwaith ei bod wedi marw. "Mi arhosa' i am dipyn cyn mynd i'r tŷ," meddai, "a mi feddylith Richard Ifas 'i bod hi'n well, a 'chymera' inna' ddim arna' nad ydi hi."
Ond pan aeth i'r gegin ymddangosai Richard Ifans fel petai wedi anghofio popeth am y fuwch. Eisteddai'n benisel, wedi ymgolli yn ei loes, o ddeall am berygl Dic.