Neidio i'r cynnwys

Dan Lenni'r Nos/Dial cipar

Oddi ar Wicidestun
Brwydr dydd diolchgarwch Dan Lenni'r Nos

gan John Pierce

Jim

PENNOD XV
DIAL CIPAR

"Mi 'rydw' i'n mynd i gymryd smôc. 'Does 'ma ddim golwg o neb na dim, a siawns gen' i na ella'i fentro golau matsen bellach."

Robinson oedd yn siarad fel hyn wrth fôn ffawydden fawr ar gwr Coed y Plas, rhwng un a dau o'r gloch y bore. "Syniad digon gwirion ydi hwn gin' Syr Huw: mynnu imi wylio ar ôl pob 'saethu mawr' fel hyn. "Ddal'is neb erioed; o ran hynny, wel'is i neb erioed noson saethu. Ond waeth heb a d'eud wrth Syr Huw. Sut y b'asa' fo'n licio bod allan drwy'r nos, ac 'isio bod yn lle Cyrnol Westburn, ddeng milltir odd'ma, erbyn deg bore yfory, tybed? Ond fel y dywedodd Syr Huw, y rheswm pa'm na fydda' i ddim yn gweld neb ydi bod y potsiars yn gw'bod y 'mod i'n watsio! Ha! Ha! Eitha gwir, Syr Huw, a mi fydda' inna'n codi tâl arnoch ch'itha' am 'y mod i'n gwybod hynny. Fe ofala Huw Robinson yn dyner am y cloffion a'r anafusion;[1] mi'u rhydd nhw o'u poen yn ddistaw bach, a mi an' i ffwrdd efo'r trên, a mi ddaw tsiec bach i minna' o Fanchester. Wel, ma'n dda 'y 'mod i wedi dwad â chwmpeini efo mi." A thynnodd botel o boced tu ôl ei gôt cipar. "Toes dim isio matsen atat ti, beth bynnag 'y ngeneth i," meddai, dan dynnu'r corcyn a drachtio'n helaeth ohoni.

"Wel, mi gef'is gyfle heddiw i ddial ar un o d'elynion mwya' di, felly mi ddylet fod yn dda," a chymerth lwnc drachefn. "Mi 'rwyt ti, hefyd," meddai, gan roi'r corcyn yn ei ôl, a gosod y botel wrth ei ochr, ac ail danio'i getyn. "Mae'r hen Siôn Edwart wedi melltithio llawer ar y ddiod, ond mi ddisgynnodd y bore 'ma fel sachaid o beilliaid.[2] Do, myn cebyst ti. Biti na fas—Be' sy' 'na, Roy?" A chododd y cipar ar ei draed yn sydyn, oblegid aethai'r ci yn anesmwyth iawn, a safai â'i glustiau i fyny. Gwrandawodd y cipar yn galed, ac am funud ni chlywai ddim; ond gyda hynny dyma dwrw rhywbeth yn rhedeg dros y dail crin, a chythrodd Roy oddi wrth y cipar tua'r twrw. Cododd Robinson ei botel yn frysiog a th'rawodd hi ym mhoced ei gesail, a chychwynnodd yn ddistaw ac yn ochelgar tua'r twrw. Yr oedd yn ŵr rhy brofiadol o lawer i ruthro a gwneud twrw, ac felly roi rhybudd i bwy neu i beth bynnag oedd yno, ei fod yn dyfod. Wrth fynd, clywai dwrw ysgwyd a mwstro, ac mewn munud, gyfarthiadau poenus ci, a phrysurodd, ond gyda hynny dyma Roy i'w gyfarfod, â'i gynffon yn ei afl, dan gwynfan yn wylofus.

Yr oedd Syr Huw yn ei le. Fe fyddai gofyn gwylio noson y "saethu mawr," a'r noson hon, buasai potsiar gyda'i gi yn chwilio am adar clwyfedig y cylch; ac yr oedd wedi bod yn dra lwcus hefyd, oblegid eisoes cawsai bedair ffesant, ond yr oedd ei gi yn cael peth trafferth gyda'r bumed, ac yn gorfod rhedeg gryn dipyn ar ei hôl.

"Wel," meddai'r potsiar wrtho'i hun, "mi gaf bris llawn am honna, beth bynnag; mae'n rhaid nad oes dim ond 'i haden hi wedi'i saethu, ne' f'asa hi byth yn medru mynd mor dda. "Tydi'r rhain ddim wedi'i chael hi mor arw, ond dyma un â thipyn o ôl haels arni hi—wedi'i saethu yn o ddrwg. Peth rhyfedd na f'asa un o'r stoppers wedi dwad am rai ohony' nhw. Pwy oedd y stopper yn fan 'ma, tybed. Ond o ran hynny 'ella bod—Brenin Mawr! Be sy' rŵan?"

Y peth a barodd ebychiad a chwestiwn y potsiar, oedd clywed cyfarth poenus ci; ond cyn iddo gael amser i wneud dim, dyma'i gi o ato, â'r ceiliog ffesant brafia' 'rioed yn ei geg.

Cythrodd i'r ceiliog, a dechrau rhwymo'i wddf wrth yddfau'r lleill, a gwrando yn astud dan wneud hynny. Yr oedd y ci am fynd i chwilio am aderyn arall, ond rhwystrodd y potsiar ef, a da iawn oedd iddo fod wedi gwneud hynny, oblegid daethai Robinson i'w ymyl mor ddistaw, fel y buasai wedi ei gyrraedd heb iddo'i glywed, onibai i'r ci ddechrau chwyrnu: a chyda hynny dyma'r cipar i'r golwg; ond yr oedd y potsiar eisoes wedi cychwyn rhedeg, gan alw'n isel ond yn bendant iawn ar ei gi ei ddilyn, gan yr ofnai iddo droi'n ôl a chwffio gyda chi'r cipar, oblegid fe fuasai hynny'n ddigon i Robinson ei adnabod ef, gan yr adwaenai'r cipar bob ci'n gymdogaeth bron.

Ond ni buasai raid i'r potsiar bryderu rhyw lawer am hynny, gan na ddangosai ci'r cipar awydd o gwbl am adael sawdl ei feistr, er i Robinson ei annos, drwy deg a thrwy drais.

Rhedai'r potsiar fel milgi, ac yr oedd gofyn iddo hefyd, oblegid yr oedd y cipar yn sionc iawn. Methai Robinson â deall paham na throesai'r potsiar drwy adwy ar y dde, i gyfeiriad y ffordd fawr, yn lle dal i redeg yn ei flaen, a hynny yn union i gyfeiriad tŷ Jim, yr is-gipar.

"Dyma felltith o dro," ebe Robinson wrtho'i hun, "na f'asa Jim hyd y fan 'ma heno."

Ond aethai Jim yng ngherbyd Cyrnol Westburn, y gwrbonheddig yr oedd Syr Huw i fynd ato'i saethu drannoeth, i fod yno yn barod erbyn y bore.

Gwelai Robinson mai'n syth at "Borth yr Afon" yr anelai'r potsiar (gelwid yr adwy honno yn "Borth yr Afon" am fod afon fechan yn rhedeg gyda wal yr adwy rhyw lathen yr ochr arall iddi), ac fel y dynesai at yr adwy, sylweddolodd Robinson, er mawr lawenydd iddo'i hun, fod y potsiar yn graddol arafu, a'i fod yntau yn prysur glosio ato.

"Diaist inna'! mae o'n dechra' blino," meddai, gan ddyblu ei ymdrechion. Ond pan oedd o fewn ychydig i'r adwy, cyflymodd y potsiar drachefn, gan ennill tipyn ar y cipar.

"O!. fflach cyn diffodd," meddai Robinson wrtho'i hun, a chan godi ei ben a gweiddi: "Mi 'rydw' i wrth dy sodla' di, llanc," rhoes ei owns olaf o nerth mewn un ymdrech fawr. Dychmygodd ei fod yn gweld y potsiar yn neidio, ac ar hynny clywodd dwrw disgyn i'r dŵr o'i flaen, ac ochenaid, a thrachefn dwrw palfalu[3] yng ngwely'r afon.

"Wydda' fo ddim am yr afon, ar fengoch i!" meddai Robinson, "'roeddwn i'n meddwl 'i fod o'n ddiarth[4] ne f'asa' fo byth wedi bod yn ddigon o ffŵl i fynd ffor'na o gwbl; mi caf o rwan yn neis—ond y foment honno, disgynnodd ymlaen ai ei wynebi ganol dŵr bas yr afon.

Nid oedd llawer o ddŵr yn digwydd bod ynddi ar y pryd, ond efallai y buasai'n well i'r cipar petasai, oblegid yn ei godwm, disgynnodd ar ei frest ar y botel a roesai ym mhoced ei gôt, ac er ei fod wedi hanner mygu ac yn wlyb diferol, ac wedi cael sioc ofnadwy, y boen yn esgyrn ei frest a'i blinai fwyaf.

Yn y man dechreuodd ddyfod ato'i hun. "Lle Dd—l mae o?" meddai. "Mi clyw'is o'n griddfan yn rhywle ar y dde 'ma, 'rydw i'n berffaith sicr o hynny," ac ymlusgodd i edrych, ond nid oedd dim golwg ar neb, na sŵn o gwbl; dim ond murmur bywiog yr afon, fel petai hi'n chwerthin yn ddistaw am ei ben, a throes yn ei ôl at yr adwy.

"Dos o 'ngolwg i'r mungral," meddai, gan roi cic i'w gi, "dwyt ti'n dda i—be' felltith ydi hwn ?" A chan blygu, gafaelodd mewn pwt o gortyn cryf wedi ei rwymo ar draws y porth

"Dam-esion, mi gwela' hi rŵan; rhyw g—l sy' wedi gwneud ffŵl ohona i ac wedi gwneud imi ddwad ffor' 'ma, o bwrpas. Nid neb diarth oedd o. Pwy gebyst—?

Wel, â'm sgubo i! Un o'i dricia' fo fel mai byw fi; mi âf yno'r funud 'ma; âf, myn cebyst i!" A chychwynnodd ar hynny, yn gloff ac yn boenus, tua Chae Bach.

Wrth fyned, aeth i'w holi ei hun i beth yr âi." Mae o wedi cael digon o flaen arna' i i gael adre' ymhell cyn mi gyrra'dd," meddai, "ac eto ella na chafodd o ddim, ychwaith. Mi âf at yno 'rwan, beth bynnag, gan 'y mod i wedi cychwyn.'

Pan oedd o fewn lled rhyw ddau gae i'r tŷ, meddyliodd ei fod yn clywed drws yn cau, ond ni fedrai fod yn sicr.

"Dychmygu 'rydw' i, mae 'n siwr," meddai. Ond ar hynny, dyma gi Cae Bach yn dechrau cyfarth, ac ym mhen ychydig eiliadau, gwelai ef yn dyfod amdano dan chwyrnu a chyfarth. A phan welodd Roy—ci'r cipar—Pero, closiodd[5] yn ofnus at goesau'r cipar.

"Felly," meddai Robinson, " 'rwyt ti'n 'nabod hwn yn ddigon da i fod 'i ofn o fel hyn, wyt ti? Wel, mae hyn yn ddigon o braw mai—."

Ond yr oedd Pero yn rhuthro ato.

"Hwde!" ebe'r cipar, a rhoes ei droed dan ochr Roy, ac â rhyw hanner cic a hanner gwth, hyrddiodd ef gryn deirllath oddi wrtho. "Chei di ddim wardio[6] tu ôl i mi'r llechgi;[7] mae'n well gen'i i ti gael dy gnoi na fi." A chiliodd yn ôl.

Cyn gynted byth ag y cafodd Roy ei draed odano, a chyn i Pero fedru newid ei gwrs a chael ato, dihangodd am ei hoedl, â'i gynffon rhwng ei goesau, a Phero wrth ei gynffon, ac ysleifiodd[8] Robinson hi ymaith i gyfeiriad y Plas.

"Nid hir y ceidw'r diawl 'i was," ebe Dic wrth ei dad, â'i wyneb ar wydr ffenestr y llofft, "a fi ydi'r gwas, mae'n debyg. Mi weithiodd y cynllun yn ardderchog, ond fargein'is i ddim am hyn 'chwaith. Mae'n rhaid bod Robis yn o siwr ohona'i, ne' f'asa fo byth wedi dwad at y tŷ fel hyn, a mi f'aswn inna' wedi cael mwy o flaen arno fo 'blaw 'mod i am golli'r ffesynt wrth redeg." "Dic," ebe'i dad, "'y ngwas i, waeth iti roi gorau iddi rŵan ddim."

"Mae'n haws deud na g'neud, y nhad," meddai Dic. "Mi 'roeddwn i wedi penderfynu rhoi gorau iddi hi hefyd, ond 'fedra' i byth fadda' i Robis am beth ddeudodd o am mam, ac i boeni o, yn fwy na dim arall, yr ydw i'n dal ati, a heddiw mi gododd miri John Edwards y cythraul yna i—a mi gorffennodd sgwrs amser swper hi.

"Ie," ebe'i dad, "ond rho gorau iddi bellach; mi 'rwyt ti wedi hen dalu dy ddyled i Robis, a mi 'rydw' inna'n poeni, Dic. Y fi sy' wedi dy wneud di'n botsiar, a phetasa' ti'n cael dy ddal, 'faddeuwn—

"Peidiwch â phoeni am hynny heno, 'nhad; ne' bore 'ma ddylwn i dd'eud. Mae'n debyg bod Robis wedi mynd. Mae'r hen Bero wedi dwad yn ôl, beth bynnag.'

"Gad iddo fo allan tan y bore, Dic. Paid ag agor iddo fo. Mi fydd yn iawn ar y mat wrth y drws.'

"Pa'm 'nhad? Mi ŵyr Robis yn iawn y b'asa'r cyfarth yn yn[9] deffro ni, ar wahan i fod o'n gw'bod mai newydd ddwad i'r tŷ yr ydw i."

"Na, gad iddo fo, Dic," ebe'i dad, "ella' bydd Robis hyd y fan 'ma eto; mae o'n ddigon gwallgo i wneud unrhyw beth, os ydi o'n siwr mai chdi oedd y potsiar. 'Chaiff o ddim dwad yn agos at y tŷ os bydd Pero allan."

"Ar y fan [10]inna'! 'rhen father. Rhaid imi dynnu 'nghap i chi bob tro. Mae gynnoch chi gymaint deirgwaith yn y pen yna ag sy' gen' i yn f'un i. Wel i'r cianel â fi rŵan, 'nhad, tan chwech, a 'rwystrith Robis mon'a i gysgu chwaith.'

Yr oedd gan y cipar allwedd drws cegin gefn y Plas yn ei feddiant ei hun, a chan y byddai allan ar adegau bob awr o'r nos, byddai'n galw yno am rywbeth neu'i gilydd yn fynych. Y noson hon, wedi estyn darn o gig a thorth ac ymenyn, a photel o borter o'r cwpwrdd, eisteddodd i lawr, a gwnaeth bryd brysiog. Yna wedi estyn rhywbeth o drôr fechan, torrodd ddarn o gig, a'i roi'n ei boced, a chychwynnodd tua Chae Bach drachefn.

Cyn ei fod yn agos i'r tŷ, dechreuodd gerdded yn ddis- taw ac yn ochelgar dros ben, ond pan oedd o fewn deugain llath i'r tŷ, dechreuodd Pero anesmwytho a chyfarth.

"Mae clust y blwmin' ci 'na cyn deneued â phapur sidan," meddai. "Wel, dyna iti bresant, 'y ngwas i, am warchod mor dda." A thaflodd y darn cig at y ci.

Ail-ddechreuodd Pero gyfarth, ond yn sydyn peidiodd. "Wel, mae o wedi gweld y presant," ebe'r cipar, a chiliodd yn ôl yn lladradaidd.

Er mor drwm y bwriadai Dic gysgu, neidiodd i fyny'n ei wely ar gyfarthiad cyntaf Pero, ond gan i'r ci roi gorau i gyfarth, gorweddodd drachefn.

"Be' cynhyrfodd o, tybed?" meddai, "ond ella' ma' breuddwydio'r oedd o, ran hynny."

Tad Dic gododd gynta'r bore hwnnw, gan i Dic fethu â deffro'n ôl ei arfer, ac aeth i lawr y grisiau'n ddistaw bach. "Chwarae teg iddo fo gysgu heddiw," meddai, "mi wna'i dân yn 'i le fo; ychydig iawn o wely gafodd y creadur bach.'

Pan agorodd Richard Ifans y drws, safodd yn syfrdan. Yna gwaeddodd yn gyffrous: "Dic, tyrd i lawr ar un- waith!"

"Be' sy', 'nhad?" gofynnodd Dic, yn bryderus, gan gythru i lawr.

"Edrach beth sydd wrth y drws, 'y ngwas i," ebe'i dad, yn drist. A dyna lle'r oedd Pero, yn gelain gorff ar garreg y drws.

Nodiadau

[golygu]
  1. Anafusion: disabled.
  2. Peilliaid: fine flour
  3. Palfalu: to grope.
  4. Diarth: dieithr
  5. Closio: to nestle.
  6. Wardio: to hide.
  7. Llechgi: skulking dog.
  8. Y sleifio: to dart.
  9. Yn yn—yn ein.
  10. Hyd y fan: about.