Neidio i'r cynnwys

Dan Lenni'r Nos/Fel y daeth Dic yn botsiar

Oddi ar Wicidestun
Stori Dic Dan Lenni'r Nos

gan John Pierce

Dal Dic

PENNOD XI
FEL Y DAETH DIC YN BOTSIAR

Gŵr ieuanc anghyffredin iawn oedd Dic Cae Bach, wedi ei eni i fod yn arweinydd, a phetai ei gyfleusterau yn cyfateb i'w alluoedd, fe wnelsai Dic ei farc yn y byd. Collodd ei fam pan oedd yn ddeuddeg oed, ond nid ail briododd ei dad, a bu Richard Ifans yn dad ac yn fam iddo; ac fel y gellir credu yn hawdd, yr oedd y tad a'r mab yn hoff eithriadol o'i gilydd.

Tyddyn o ryw bymtheng acer ar hugain oedd Cae Bach, a chryn dipyn o wâst ynddo, a byddai talu'i rent a thalu'i ffordd, yn gymaint ag a fedrai Richard Ifans ei wneud, ac weithiau bron iawn â mynd yn fwy na hynny.

Parai gêm, hefyd, gryn golled iddo; ac yn wir, nid oedd un cae chwe acer ar gwr cyfer coed yn werth ei drin. Aeth y tyddynnwr un diwrnod at y stiward i ofyn a gâi roi'r cae i fyny. "Cewch, debyg iawn," ebe'r stiward.

"Faint o rent ydw' i'n 'i dalu amdano fo, os gwelwch chi'n dda?" gofynnodd Richard Ifans.

"Yr un faint ag a fyddwch chi'n dalu ar ôl i chi 'i roi o i fyny," atebodd y stiward.

"Be' 'dach chi'n feddwl?" gofynnodd Richard Ifans, mewn penbleth.

"Y peth ydw' i'n dd'eud, debyg iawn," meddai'r stiward.

Yna deallodd y tyddynnwr.

"Ac felly 'rydach chi am imi dalu'r un faint o rent, a'r lle yn llai o gae?" gofynnodd Richard Ifans. "Rydach chi wedi deall y sefyllfa i'r dim. Bore da." Pan fyddai Syr Huw, y meistr tir, a'i gyd-foneddigion, yn saethu dros Gae Bach, er yr holl gêm a geid yno, ni roddid cymaint ag un ffesant i'r tyddynnwr. Peth arall, hefyd, ni chaniatâi Syr Huw i'w denantiaid gadw dim ond cŵn defaid, na saethu dim ond cwningod a sguthanod,[1] a gwaherddid dal ysgyfarnogod hefyd. Yr oedd y pethau hyn wedi chwerwi llawer ar Richard Ifans, a'r helwriaeth yn byw cymaint ar gynnyrch ei dyddyn. Ac o dipyn i beth, aeth i godi treth drom ar gêm Syr Huw, ond nid oddi ar dir Cae Bach ychwaith.

Gwyddai Dic am y pethau hyn oll, ac yr oedd wedi yfed yn helaeth o ddysgeidiaeth ei dad. Bellach aethai Richard Ifans yn rhy hen i wneud llawer iawn, ond cadwai Dic y busnes i fyny. Nid oedd y pethau na wyddai Dic am botsio yn werth eu gwybod; yr oedd holl ddirgelion y grefft yn hysbys iddo—gosod rhwyd fawr ar noson dywyll, rhoi rhwyd borth ar adwy i ddal ysgyfarnogod, gosod hoenyn a thrap, a chelfyddyd y potsiar i gyd.

Ond er holl ofal Dic a'i dad, ni buont yn abl i dolli cymaint ar helwriaeth[2] Syr Huw, heb gael eu hamau, a gwyddai Robinson y cipar yn iawn eu bod yn potsio, ond yn ei fyw einioes ni fedrai eu dal er iddo fod o fewn trwch asgell gwybedyn[3] i wneud hynny unwaith, ac aeth at y stiward i ddweud yr hanes, heb sychu ei geg.

Aeth y stiward yntau, a dweud wrth Syr Huw. Ond gwnaeth Robinson un camgymeriad: broliodd, yn nhafarn y pentref ei fod wedi dal Dic a'i dad, a'i fod wedi reportio'r peth i Syr Huw, a'i bod hi am fynd yn ddrwg arnyni.

Clywodd Richard Ifans hynny'r noson honno; a'r bore wedyn, pwy aeth i'r Plas i ofyn a gâi weled Syr Huw, ond Richard Ifans. Fel bu'r digwydd, pan gyrhaeddodd, yr oedd y stiward newydd orffen adrodd stori Robinson wrth Syr Huw.

Gofynnodd Richard Ifans a gâi weld Syr Huw yn breifat, a chwynodd wrtho na chai funud o lonydd gan y stiward na Robinson. "Ma' nhw'n deud, Syr Huw, 'y mod i a'r hogyn acw'n potsio, ac yr oedd Robinson yn brolio[4] yn y Bedol neithiwr 'i fod o wedi'n dal ni, a hynny'n gelwydd i gyd. Ac mi wyddoch yn iawn, Syr Huw, y byddwch chi bob amser yn saethu mwy o gêm ar dir Cae Bach nag yn unman, a mae o'n beth ofnadwy fod yn rhaid i mi ddioddef peth fel hyn. Cwningod a sguthanod a llygod mawr ydi'r unig betha' fydda' i'n ddifa. 'Wnewch chi un gymwynas â mi, Syr Huw? Ddowch chi acw heno i chi gael gweld rhywbeth—rhywbeth na welsoch chi 'rioed o'r blaen mo'no fo, rhywbeth a rydd daw ar y stiward a'r cipar am byth?"

Yr oedd apêl Richard Ifans mor erfyniol, fel yr addawodd Syr Huw fyned, a'r noson honno gwelid y gŵr bonheddig mewn gryn chwilfrydedd[5] yn prysuro tua Chae Bach.

Yr oedd Dic a'i dad yn ei ddisgwyl wrth y giât, ac yng ngolau lantern aethant at gwt yr ieir. Cododd y tyddynnwr ei lantern, ac yn ei golau, er ei syndod syfrdanol, [6]gwelai Syr Huw, geiliog ffesant braf ar glwyd. "Mae 'na ddau neu dri ohony' nhw, Syr Huw," ebe Richard Ifans, "ac efo'r ieir 'ma y bydda nhw'n licio bod, a phetaech chi yma'n y boreuau mi gaech 'u gweld nhw'n b'yta efo nhw."

Drannoeth gwysiwyd[7] Robinson i wyddfod ei feistr, a chafodd amser pur anhapus. Yn wir, cafodd bopeth ond sac, ac nid oedd o un diben i'r cipar awgrymu nad oedd y ffesynt efo'r ieir, yn ddim ond mantell i guddio'r potsio.

Ond trosedd mwyaf Robinson yng ngolwg Syr Huw, oedd dweud yr hanes yn y Bedol, ac yr oedd cysgod y trosedd hwnnw ar bopeth a ddywedai'r cipar.

Yn naturiol iawn, yr oedd Robinson yn wallgof, a gwnaeth lŵ y mynnai ddal Dic a'i dad, pe cymerai flynyddoedd iddo; a phan welodd Richard Ifans, dywedodd hynny wrtho, a gwnaeth gamgymeriad mawr, oblegid yr oedd Richard Ifans yn ddigon call i gymryd rhybudd, ac i dreblu ei ochelgarwch.

Nodiadau

[golygu]
  1. Ysguthan: wood pigeon.
  2. Helwriaeth: game.
  3. O fewn trwch asgell gwybedyn: within a hair's breadth.
  4. Brolio: to boast.
  5. Chwilfrydedd: curiosity
  6. Syfrdanol: astounding.
  7. Gwysio: to summon.