Neidio i'r cynnwys

Dan Lenni'r Nos/Gorymdaith brudd

Oddi ar Wicidestun
Diwedd dychrynllyd Dan Lenni'r Nos

gan John Pierce

PENNOD XXIV
GORYMDAITH BRUDD

Nesâi at doriad gwawr, a gwelid goleuadau yn symud yma ac acw yn y coed, ac yn y caeau o'u hamgylch, oblegid buasai gryn ddwsin o drigolion y fro, er tri o'r gloch y bore, yn chwilio am Robinson a'r plisman a Thwm Teigr, ond y cwbl a welsent oedd bagiad ffesynt Dafydd Denau—dyna'i gyd.

Yr oedd Harri Tŷ Mawr a Sam Bach yn dyfod i fyny'r llwybr yn y coed, pan stopiodd Sam yn sydyn, a gafael ym mraich ei gydymaith. "Aros, Harri!" meddai'n gynhyrfus. "Gwrando! Glywi di rywbeth?"

Ac wedi clustfeinio am dipyn, clywent lais gwannaidd yn gweiddi yn rhywle i'r aswy odanynt, a throesant o'r llwybr, ac wedi iddynt fyned ychydig lathenni, yng ngolau eu lantern gwelsant lamp y plisman a chlywsant islaw weiddi poenus, gwanllyd, a dechreuodd y ddau chwibannu yn uchel, oblegid dyna orchymyn yr arolygydd a ddanfonasid i Lanystyn gan y meddyg wedi iddo gyrraedd y Dre,—fod pwy bynnag o'r deuoedd chwilio a ddeuai o hyd i rywbeth, i chwibannu a galw ar y partïon eraill.

Erbyn i'r arolygydd gyrraedd, yr oedd y wawr wedi torri, a gwelent oddi tanynt Dwm Teigr.

Pan ollyngodd gwreiddiau'r ddraenen ddu, disgynnodd Twm drwy'r drain a'r mieri, ac er i'r rheini dorri ar ei godwm, buasai ar ben ar Twm, onibai fod coeden helyg yn tyfu allan o agen yn y graig yn union odano; ac ym mrigau honno y cafodd Twm ei hun, pan ddaeth yn ymwybodol, â'i ddillad yn garpiau, a'i wyneb a'i ddwylo yn waed i gyd, a thair o'i asennau wedi torri.

Nid heb drafferth fawr y cafwyd Twm i'r lan, ac ni fedrai ddweud fawr heblaw pwyntio'n gynhyrfus tua'r creigiau islaw.

Yn y man, wedi tynnu giât cae gerllaw, cychwynnodd gorymdaith drist o waelod Nant y Diffwys drwy'r coed, ac ar draws y caeau i bentre Llaniestyn, a chotiau rhai o'r rhai a gludai y giât yn cuddio'r ddau a orweddai arni.

Yn y cwest ar Robinson a Roberts, daeth yr hanes i gyd allan, a'r ddedfryd oedd i Robinson lofruddio Jim a Roberts yn wirfoddol, ac iddynt hwy gyfarfod â'u diwedd wrth gyflawni eu dyletswydd

"Y nhad," ebe Dic Cae Bach, noson y cwest, "mae arna' i ofn na fydda' 'i byth yn hapus eto; 'rydw' i'n teimlo fel petai'r tri wedi'u lladd o'n hachos i."

"Na, Dic," meddai ei dad, "'dydi hi ddim cyn waethed â hynny, 'ngwas i, ond dyna ddiwedd ar botsio am byth."

Y DIWEDD.

Nodiadau

[golygu]