Neidio i'r cynnwys

Dan Lenni'r Nos/Jim

Oddi ar Wicidestun
Dial cipar Dan Lenni'r Nos

gan John Pierce

Profiad chwerw pen cipar

PENNOD XVI
JIM

Yr oedd mwy o botsio nag erioed yn y gymdogaeth; a gwyddai Robinson hefyd nad Dic oedd yn gyfrifol amdano i gyd. Y gwir oedd fod Robinson wedi gwylio cymaint ar Dic a'i dad, fel yr oedd eraill wedi dyfod i wybod hynny, ac i fanteisio ar eu cyfle.

Aethai Dic ar ymennydd Robinson; a'i ddal oedd amcan mawr ei fywyd. I hyn yr oedd yn byw, ac am hyn y meddyliai'r dydd, ac y breuddwydiai'r nos, ac nid oedd dim arall yn cyfrif fawr yn ei olwg. Felly, Jim a ddanfonid i wylio eraill gan amlaf; ac er na bu onestach gwas na Jim erioed, ni feddai ar alluoedd Robinson. Heblaw hynny, rhoesai'r pen cipar faes rhy fawr o lawer i Jim ei wylio, ac yr oedd y potsieriaid yn ochelgar iawn, ac yn gyfrwys.

Medrai rhai ohonynt ddynwared holl greaduriaid y nos,—ffesynt a hwyaid gwylltion yn gweiddi wrth godi mewn dychryn; cwningen ac ysgyfarnog yn gwichian wrth gael eu lladd; ci yn epian[1] wrth redeg ar ôl cwningen; corchwiglen yn codi wedi ei chyffroi. A thwyllid y ciperiaid yn aml gan rywun yn dynwared, i gymryd eu hudo ar ffrwst i gyfeiriad arbennig, tra byddai'r potsieriaid wrthi'n gwneud difrod mewn man arall.

Galwodd Robinson Jim i gyfrif ryw ddiwrnod, a dweud wrtho'n bur ffiaidd nad oedd o fawr werth fel cipar; a darganfu, er ei fawr syndod, fod Jim ym mhell iawn o fod y dwlyn a dybiasai ef ei fod.

Meddai Jim wrtho'n hollol ddi-lol, gan ei alw'n "chdi." "Robinson, y peth sy'n dy wneud di mor selog ydi fod arnat ti isio dal rhywun, er mwyn medru rhoi cyfrif am y ffesynt wyt ti'n botsio dy hun, ac yn yrru i Fanchester.'

Aeth Robinson yn lloerig, ond gwenodd Jim yn ei wyneb. "Robinson bach, 'fedri di ddim fforddio; mi wyddost rŵan fod dy ben di yn union yn fan 'ma,' meddai, gan bwyntio dan ei gesail.

Pan glywodd y pen cipar hyn, daeth i'w lygad ryw olwg a yrrodd iâs drwy Jim, er y gwyddai na buasai gan Robinson fawr o siawns ped ymosodai arno.

Gwelodd Robinson yn y fan ei fod wedi ei fradychu ei hun, a cheisiodd drwsio pethau. Newidiodd ei wedd a'i agwedd, ac meddai: "Jim, mi 'rwyt ti'n un dyfn[2] hefyd, ond mi wyddwn i na wnes i ddim camgymeriad wrth dy gyflogi di o dana i."

"A meddwl dy fod ti'n gw'bod pob peth trwy'r amser, ac wedi medru cau dy geg. Ac eto mae rhai pobl yn ddigon gwirion i feddwl nad oes dim llawer yn dy ben di, ond mi wyddwn i amgenach pethau, boi. Still waters run deep. 'Does 'na ddim llawer o betha'n digwydd nad ydi Jim Willia's yn gw'bod amdanyn' nhw. Na Jim, rhyw dipyn o hwyl oedd y peth dd'wed'is i wrthat ti rŵan, fel y cei di weld yn y munud; ond tydi'r tipyn gêm fyddai'n yrru i ffwrdd, yn ddim ond poeri i'r môr, yn ymyl be' sy'n cael 'i botsio."

Yr oedd y cipar yn cyflym argyhoeddi[3] Jim, ac meddai, "Brenin Mawr! mi 'ddyl'is i'ch bod chi am dreio g'neud rhywbeth imi rŵan jest." "Na, 'choelia'i fawr! A Jim, gwrando: nid arnat ti mae'r bai nad yda' ni ddim yn 'u dal nhw chwaith, a mi wn i y b'asa' 'na lawer mwy o botsio hefyd heblaw am danat ti; a mi 'rydw' inna' wedi bod yn rhoi'r gwaith o wylio pawb ond Dic Cae Bach i ti. Ond yrŵan, dyma iti newydd da. Faint ydi oed dy hogyn bach 'fenga' di ?"

"Dau fis," ebe Jim mewn penbleth.

"Wel, mi 'rwyt ti'n mynd i gael codiad yn dy gyflog o ddau swllt yr wythnos o'r adeg y ganwyd o. Ond paid ti â deud wrth neb. Tydi hyd yn oed y stiward ddim yn gw'bod; mi f'asa' fo'n grwgnach, fel y gwyddost ti. Ond mi es[4] i at Syr Huw fy hun i ddeud y dylet ti gael codi dy gyflog. Paid â son wrth Syr Huw chwaith; fydd o ddim yn lecio fuss; ond o ran hynny, anaml y byddi di'n i weld o. Mi ddweda'i wrtho dy fod ti'n diolch iddo fo, a dy fod ti'n dallt nad oes arno fo ddim 'isio i'r stiward w'bod."

Teimlai Robinson yn weddol ddiogel, er mai o'i boced ef yr oedd y ddau swllt i ddyfod, gan mai rhoi cyflog Jim i Robinson dalu iddo, y byddai'r stiward. "Mi awn ni i ddathlu dy lwc di i'r Bedol heno. Am dê rŵan, ac i'r Bedol heno erbyn chwech, cofia!"

"Mae Jim yn gwybod gormod," meddai Robinson, wrth fynd adre, â'i feddwl yn gythryblus iawn, "a 'cha'i byth lonydd rŵan; a dyna fi wedi dechra' talu blacmel; wedi gwneud hynny ohonof fy hun hefyd, ond 'wna'i mo hynny yn hir, na 'wna' ar f'engoch i. Mi 'rydw'i wedi arfer efo anawsterau, ac os na fedra'i setlio Jim Willia's, mi 'rydw' i'n haeddu fy saethu. Wel, Jim, mi 'rwyt wedi dangos dy gilddannedd,[5] 'wyddwn i ddim fod gin' ti rai o'r blaen, mi f'asa'n well i mi 'tasa' gin' ti'r un, ac ella b'asa'n well i titha 'hefyd, ond mi wn i hyn, beth bynnag, mi f'asa'n well i ti 'tasa' ti heb 'u dangos nhw, 'machgen i."

Yr oedd Robinson yn y Bedol erbyn chwech, ac er ei syndod, ni chyrhaeddodd Jim tan tua hanner awr wedi; ac nid ymddangosai mor llon a hwyliog[6] ag y disgwyliai Robinson.

Er mai creadur tawedog [7]oedd Jim oddi cartre', yr oedd ymhell o fod felly ar ei aelwyd ei hun, a dywedai bopeth wrth ei briod, ac ychydig a feddyliai Robinson ei bod hithau'n gwybod cymaint bron â Jim, a bod yr is-gipar wedi adrodd hanes y prynhawn wrthi, air am air.

"Fedra'i mo'i ddeall o, Jim," ebe'i briod, wedi iddo orffen ei stori, "ond gwylia fo, a gofala na wnei di ddim byd i gael sac. Mae'n biti dy fod ti wedi deud dim wrtho fo heddiw; mi f'asa'n well iti fod wedi aros tipyn.'

"Ella, wir," meddai Jim, "ond eto, ella na f'aswn i ddim wedi cael y ddau swllt codiad heblaw 'y mod wedi deud. Ella b'asa' Robinson yn 'u cadw nhw 'i hun, er i Syr Huw 'u rhoi nhw, achos fydd y "gŵr mawr" yn deud dim wrtha' i bron—wrth Robinson, fel pen cipar y bydd o'n siarad y cwbl bron, ond mae o wedi rhoi deuswllt o godiad i mi beth bynnag."

"Ie, os ydi o hefyd," meddai ei wraig.

"Os ydi o? Be' wyt ti'n feddwl, Mary?" gofynnodd Jim, mewn penbleth.

Dim, Jim," ebe hithau, "ond bydd yn ofalus, a phaid â gwario gormod yn y Bedol. Dos rŵan.'

Os araf y gweithiai meddwl Jim, daliai ati'n ddygn,[8] ac ar ei ffordd i'r Bedol, ac wedi cyrraedd yno, ni lwyr ollyngodd ei afael yn y mater.

"Rwyt ti'n ddistaw iawn heno, Jim," meddai Robinson, unwaith neu ddwy; ond yn fuan yr oedd y pen cipar mewn sgwrs â rhywrai eraill, ac anghofiodd Jim a'i fudandod, ac ni wnaeth fwy na nodio arno pan ddywedodd Jim, "nos dawch," wrth fynd allan.

Nodiadau

[golygu]
  1. Epian: to yap.
  2. Dyfn: dwfn.
  3. Argyhoeddi: to convince.
  4. Es: euthum.
  5. Cilddant: molar.
  6. Hwyliog: affable.
  7. Tawedog: silent.
  8. Dygn: persevering.