Dan Lenni'r Nos/Profiad chwerw pen cipar
| ← Jim | Dan Lenni'r Nos gan John Pierce |
Darganfyddiad Robinson → |
PENNOD XVII
PROFIAD CHWERW'R PEN CIPAR
Cymerodd un fantais ar y noson, i fyned allan efo'i ŵn, a hwnnw yn dri darn: y stoc yn un boced, a'r baril yng nghoes ei drywsus, a'r darn a'u cydiai yn ei gilydd, mewn poced arall.
Ardal enwog oedd Llanystyn am ei hysgyfarnogod—ysgyfarnogod mawr, braf, a thri swllt yr un yr adeg honno, i'w cael amdanynt.
Noson sych, olau leuad, ydoedd, ac yn chwythu'n galed, a chymylau mawr yn gyrru'n gyflym drwy'r awyr, ac weithiau, pan basiai cwmwl rhwng y lleuad a'r ddaear, âi'n dywyll; yna, wedi i'r cwmwl basio, byddai'n olau fel dydd drachefn, nes deuai cwmwl wedyn.
Cerddai gŵr y gwn yn ei gwman, gyda chlawdd â gwrych lled dda yn tyfu arno. Bob tro y deuai cwmwl dros y lleuad, cyflymai yntau ei gamre, ond wedi i'r cwmwl basio, ac iddi oleuo, arafai a gwyrai, gan wrando, a fflachiai ei lygad i bob cyfeiriad, ac ambell dro troai'n sydyn heb arafu dim, a cherdded am dipyn yn wysg ei gefn; ond er mor ofalus ydoedd, yr oedd un mwy gofalus nag yntau yn ei wylio, ac yn ei ddilyn bob cam o'r ffordd. Cyn bo hir cododd cornchwiglen yn wyllt i'r awyr gyda chri.
"Daria'r hen gornchwiglod 'ma," ebe'r potsiar, gan gwrcydu[1] ym môn y clawdd, "mae'n rhaid i'r rhain gael rhybuddio pawb a phopeth."
Arhosodd y potsiar gryn bum munud heb symud, a chyn ail-gychwyn, gosododd y gwn yn ei gilydd, a rhoes ddarn bychan o bapur ymyl stamp ar y nipl ar flaen y baril. "Dyma fo'r bwlch," meddai wrtho'i hun, ac aeth ar ei liniau a dechrau cropian. Yna, gyda'r gofal mwyaf, pan ddaeth cwmwl, cododd ei ben a syllu'n galed dros y clawdd i'r cae arall, a gwelai amryw gnapiau tywyll o'i flaen. "Mi'r ydach chi'n ddigon saff," meddai. "Tydi cwningod ddim gwerth y risc ydw' i'n gymryd heno."
Yn y man gwelai gnap mwy yn dyfod i'r golwg, ac un arall, ac un arall drachefn, ac yn symud tipyn bach, yna yn aros yn llonydd a symud tipyn wedyn; yna un yn mynd at y llall.
Yn ara' bach, gwyrodd y potsiar yn is, gan glosio at ddraenen, a gwthio'r gwn yn esmwyth ac yn hollol ddi-dwrw, ar draws pen y clawdd. "Mi gaf y ddwy ar un ergyd," meddai, "caf, myn cob!"
Ond pan oedd yn mynd i danio, symudodd y ddwy ysgyfarnog, a daeth y llall atynt, a dechreuodd y tair chwarae a rhedeg ar ôl ei gilydd ar gylch bychan, ond yn ei olwg o hyd.
Ar hynny, sythodd y tair yn sydyn, a chododd y cwningod oedd yn eu hymyl ar eu dwy glun ôl, â'u pennau a'u clustiau i fyny. Yr un foment cododd cornchwiglen hefyd yn rhywle gan weiddi'n ddychrynedig.
Yn ei fraw cychwynnodd y potsiar yntau sythu, ond gwyrodd drachefn ar amrantiad. "Nid y fi ma' nhw wedi weld," meddai. "Be' felltith sy' na?"
Bychan a wyddai fod Robinson wedi ei ganlyn yr ochr arall i'r gwrychyn, ac mai efe, rhyw hanner canllath o'i ôl, wrth gropian ar ei frest â'i fol dros y clawdd i gael i'r un ochr ag yntau, oedd wedi cael pigyn i'w benglin nes peri iddo, yn ei boen, hanner codi gyda llw, a dangos ei ben a'i ysgwyddau am foment, rhwng pen y clawdd a'r golau.
"Dyna fi wedi'i g'neud hi rŵan," meddai'r cipar, pan glywodd y gornchwiglen, ac ymwasgodd at ben y clawdd, ar waethaf y pigyn, gan aros felly am ysbaid, cyn ymlusgo dros y clawdd.
Bu'r cwningod gryn bum munud cyn setlo i lawr i ail-ddechrau pori, ond ymdawelodd yr ysgyfarnogod yn gynt o lawer.
"False alarm," ebe'r potsiar wrtho'i hun, "ond, Brenin Mawr! mi ddychryn'is; mi roes fy nghalon i dro tu mewn imi; mae fy nerfau i'n—Diaist i! Go dda!"
Nid rhyfedd iddo ddweud, "Go dda!" oblegid gwelai—nid dwy, ond tair-ysgyfarnog, bron yn un rhes. "Wel, rŵan amdani hi," meddai. 'Cha'i byth gystal cyfle â hwn. Y ddau faril, y chwith gynta' a'r dde ymhen chwarter eiliad wedyn, p'run bynnag fydd 'i 'isio fo ai peidio, mae'r haels yn gwasgaru mwy efo'r de." A thaniodd.
Neidiodd dwy ysgyfarnog i fyny'n syth, a disgyn yn eu hôl yn farw, ond cychwynnodd y drydedd redeg ar ryw hanner cylch "Dei ditha' ddim ymhell, chwaith," meddai'r potsiar, "ne' mi rydw' i'n gwneud camgymeriad."
A gwir a ddywedodd, oblegid ymhen ychydig iawn, daeth yr ysgyfarnog yn ei hôl, a throes ar ei hochr farw, bron yn ymyl y lleill "Chlywis i 'rioed esboniad ar hynna," meddai'r potsiar, "p'am y gwneiff 'sgyfarnogod hynna'n aml wedi'u saethu—cychwyn rhedeg i ffwrdd, a dwad yn 'u holau i farw,—i'r un fan yn union ag y cawso' nhw'u saethu.'
Tan ymson fel hyn, yr oedd y potsiar wedi edrych i bob cyfeiriad, a hynny lawer gwaith Troai ei ben heb symud ei gorff fel petai ei gorn gwddw'n fwylltid.[2] "Noson fendigedig ydi hon," meddai wrtho'i hun,—"tywyll a golau bob yn ail, chwythu digon i rywun fedru mynd yn ddigon agos i danio ar rywbeth, ac i ladd twrw'r ergyd hefyd Dyma'r fargen ora' wnes[3] i 'rioed oedd prynu'r gwn bach 'ma; 'does gyno fo ddim mwy o dwrw na phistol. Wel, mi arhosa'i dipyn eto, rhag ofn, ond mi f'asa'n rhaid i rywun fod yn bur agos i glywed y twrw, a pheth arall, 'tasa rhywun wedi clywed, mi f'asa' wedi cyrraedd yma bellach; ac eto, ella bod rhywun yn aros imi fynd 'u nôl nhw Mi gyfra'i fil cyn mynd."
Yr oedd Robinson, erbyn hyn, wedi cael o fewn rhyw bymtheg llath i'r potsiar, ac yn disgwyl iddo fynd drosodd Methai'n lân â deall yr hir ddistawrwydd. ""Tydi o ddim wedi 'ngweld i," meddyliai "Mi wn 'i fod o wedi saethu un ohonyn' nhw, achos mi gwel'is i hi'n rhedeg ac yn syrthio. Pam gebyst na symudith o i rywle?' Yr oedd wedi estyn ei ben i edrych, pan glywodd dwrw rhywun yn disgyn i'r cae'r ochr arall. "Mi collaf o ar fengoch i," meddai, dan gythru tua'r bwlch, ond o fewn teirllath i'r fan, stopiodd fel petasai wedi ei saethu, ac ymwasgodd at y clawdd, oblegid o'i flaen, yn pwyso ar y clawdd, gwelai wn.
"Mi ddaw 'machgen i i nôl o'n y munud, a'r sgwarnog efo fo. Rŵan, Dic Cae Bach, mae hi wedi dwad i'r pen arnat ti o'r diwedd."
Cododd y potsiar yr ysgyfarnogod, ac yr oeddynt yn gryn bwysau hefyd.
"Mae nhw fel mulod," meddai'n llawen, dan fyned at y bwlch, a'u taflu drosodd at y gwn. Ac wedi aros munud nes bod y lleuad y tu ôl i gwmwl, neidiodd i ben y clawdd, ac i lawr yr ochr arall, a phan oedd yn plygu i godi'r ysgyfarnogod
"Aros, gythra'l!" ebe Robinson, gan gythru iddo.
Er i'r potsiar gael sioc ei oes, dechreuodd yn reddfol ymegnïo[4] i ymryddhau, ond yr oedd Robinson wedi cael gafael o haearn yn ei fraich a'i gôt, a, gwaeth fyth, y foment honno, dyma'r lleuad i'r golwg, ac ar hynny, er dirfawr syndod y potsiar, llaciodd Robinson ei afael yn sydyn, gan sio drwy'i ddanedd: "Damia chdi,-nid y fo wyt ti.
Afraid[5] yw dweud i'r potsiar gymryd mantais ar syndod Robinson, a'r llacio gafael sydyn, i neidio oddi arno, ond er gwaethaf ei siom, trodd Robinson arno drachefn, ond pan oedd yn ei gyrraedd, teimlodd gawod o dân ysol yn ei wyneb, a chododd ei ddwylo at ei wyneb a dechrau neidio a phrancio fel gwallgofddyn, oblegid troesai ei lygaid mewn moment yn ddwy fflam dân yn ei ben, ac yr oedd ei ffroenau a'i enau yn llawn o lwch tanllyd. Ceisiodd weiddi a llefain, ond ni fedrai, gan fod pesychu a thisian yn ei fygu'n lân.
Cythrodd y potsiar i'r ysgyfarnogod a'r gwn, a ffoes am ei einioes, ond rhwng y gwn a'r ysgyfarnogod, yr oedd rhedeg fel y cychwynasai, yn anodd, ond nid oedd ganddo ddewis, oblegid yr oedd y cipar eisoes yn dechrau dyfod i leisio.
"Diolch am y gwynt 'ma," meddai. "Charith 'i lais
"Brensiach annw'l! Ond 'tydw' i'n ffŵl?"; a throes ar hynny i'r cyfeiriad arall. "Petai rhywrai yn 'i glywed o'n gweiddi, o'r cyfeiriad yna y b'asa' nhw'n g'neud, a'r gwynt yn lle mae o, ac o ffor' 'na y b'asan' nhw'n d'wad, a mi f'aswn yn beth del yn mynd yn union i' cyfarfod nhw."
O dipyn i beth, daeth Robinson i deimlo'n well, ond yr oedd ei wddf fel odyn galch, ac ni fedrai weiddi fawr. Yn wir, rhoes gorau i dreio, nid yn unig am ei fod yn tagu wrth geisio gwneud hynny, ond am na charai i bobl ei weled yn y cyflwr hwnnw. Ond yr oedd yn hanner dall; a phan agorai ei lygaid, gyrrai'r gwynt ef bron yn wallgof gan boen. Teimlodd ei ffordd at y clawdd, ac eisteddodd ar ei gwrcwd yn ei fôn. "Faint fydda'i nes y- -?" ond cyn iddo orffen y frawddeg, cofiodd am ei ffliwt, ac o'i boced tynnodd Robinson chwibanogl, a dechrau ei chwythu â'i holl egni. "Efallai y clywith Jim fi, ac os na wnaiff o, mae'n well gen' i aros yma nes medra' i fynd odd'ma fy hun."
Arosasai Mrs. Williams ar ei thraed i ddisgwyl Jim adre', nid am y byddai'n arfer gwneud, ond am ei bod wedi meddwl cryn lawer drwy'r gyda'r nos am firi Robinson a Jim, a'i bod wedi dyfod i benderfyniad neilltuol hefyd.
Felly, wedi i Jim ei osod ei hun i lawr wrth y bwrdd a dechrau ar ei swper, meddai ei briod wrtho: "Jim, 'rydw i wedi dwad i'r penderfyniad bod yn rhaid iti wylio Robinson.'
"Ond dyna ydw'i wedi bod yn 'i 'neud, ynte?" ebe Jim, â llond ei geg o fwyd.
"Ie, Jim," ebe hithau, "ond mae'n rhaid iti wylio mwy; a'r tro cynta' y gweli di o'n gwneud rhywbeth o'i le, ac y medri di brofi'r peth, mae'n rhaid iti fynd i dd'eud wrth Syr Huw ac wrth y Stiward."
"Dim andros o beryg'!" meddai Jim, gan edrych ar ei briod yn syn.
Ond gwyddai Mrs. Jim yn dda y gwnâi yn union fel y dywedai hi, ond iddo gael tipyn o amser. "Mae hi'n dibynnu'n union, Jim, p'run ohonoch chi'ch dau—
A dyna'r cwbl gafodd Mrs. Williams ddweud y noson honno, oblegid torrwyd ar ei thraws gan gyfarth pedwar ci o'r tuallan.
"Dyma fo ar y gair," ebe Jim.
"'F'aswn i'n synnu dim," ebe hithau'n frysiog. "rydw' i'n mynd i 'ngwely, a Jim,—gwylia ditha' be' fyddi di'n 'i neud, ac yn 'i dd'eud hefyd."
Wedi disgwyl tipyn, cododd Jim i fynd at y drws. "Rhywun mae'r cŵn yn 'i 'nabod sy' 'na, mi wn wrth 'u cyfarth nhw," meddai, gan agor y drws. Ond ni welai neb, ac yr oedd y cŵn—y ddau retriever a'r ddau spaniel, yn cyfarth yn falch ac yn tynnu ar eu cadwyni: ond ar hynny, clybu Jim sŵn chwibanogl Robinson.
"Potsiars, Mary!" gwaeddodd yn y drws. 'Rydw' i'n mynd." Ac ymaith ag ef gyda'i fod wedi gollwng Tiger.
Pan gyrhaeddodd at Robinson a chael yr hanes: "Un o'i driciau fo," meddai Jim, "un o dricia' Dic Cae—
"Nage," ebe Robinson, "fel mae gwaetha'r modd, un o dacla'r Dre 'na, 'rydw' i'n meddwl, ac os ydw' i'n iawn, gwae fo !"