Dan Lenni'r Nos/Y corff yn yr afon
| ← Dechrau twrw | Dan Lenni'r Nos gan John Pierce |
Stori Dic → |
PENNOD IX
Y CORFF YN YR AFON
Wedi iddo gerdded am dipyn hyd y llwybr, penderfynodd Huw, gan ei bod wedi mynd mor hwyr, dorri ar draws y caeau.
Yng ngwaelod y cae cyntaf yr oedd afon, a chyfer coed yn tyfu ar ei glan yr ochr arall, ac mewn man arbennig yn ymyl llwyn oddrain a mieri, a dyfai ar ei glan yn ochr y cae, gwyddai Huw am lecyn lle nad oedd yr afon yn ddim ond rhyw ddwylath o led, a gwnaeth hi'n syth am y fan honno.
Yng nghysgod y coed brigog, yr oedd hi gryn dipyn yn dywyllach, a thywynnai'r lloer rhwng y brigau, gan daflu cysgodion rhyfedd ar y ddaear. Cyrhaeddodd Huw yr afon, ac wedi cymryd tipyn o wib, neidiodd drosodd i'r coed, ond gyda llai nag a feddyliasai, wrth gefn.
"Diaist i," meddai, gan droi i edrych, "mae hi'n lletach yn fan 'ma nag oeddwn i'n feddwl. Mae'n rhaid bod y glawogydd ma we—." Ar hynny ataliwyd cwrs ei feddyliau'n ddisymwth, ac aeth yn chwys oer drosto'i gyd; teimlai ei lygaid fel petaent yn ceisio neidio o'i ben, a'i wallt yn llythrennol godi ei gap,—canys o dan dorlani[1] yr ochr arall, yn araf godi a gostwng efo'r dŵr, wedi ei ddal gan y mieri[2] a dyfai o'r ochr, â phelydrau'r lleuad rhwng brigau'r coed yn chwarae ar ei wyneb gwelw—gorweddai corff.
Am ba hyd y bu Huw yn rhythu arno, ni fedrodd byth ddweud, ond toc ceisiodd symud, eithr teimlai ei draed fel petaent wedi glynu wrth y ddaear, ond wrth geisio symud, sathrodd ar frigyn crin, a pharodd twrw hwnnw yn torri i Huw lamu fel march wedi ei sbarduno,[3] a dechreuodd redeg fel dyn gwallgof.
Ond rhwng y cyfer a'r cae nesaf, yr oedd weiyr pigog, yn bedair rhes, a chafodd Huw, ar ei waethaf, dipyn o amser i feddwl wrth ddringo drostynt.
"Dyn Llanŵion," meddai wrtho'i hun.
Y dyddiau hynny yr oedd sôn mawr yn y papurau am ryw ddyn o Lanŵion oedd wedi dianc o seilam[4] y dre'.
"Ie, y fo ydi o hefyd," meddai wedi cael trosodd, dan ailgychwyn rhedeg; ond yn raddol dechreuodd sylweddoli'r sefyllfa, ac wrth wneud hynny, heb yn wybod iddo'i hun, arafai. Aeth i deimlo'n anesmwyth iawn. "Mi ddylwn fynd i dd'eud wrth rywun," ymresymai ynddo'i hun, "ac eto os gwna' i, mi fydd cwest arno fo'n siwr, a mi fydd yn rhaid i minna' roi'r holl fanylion, a dweud faint o'r gloch oedd hi. Beth feddylith pobl ohona' i yn y fan yma rhwng hanner nos ac un o'r gloch y bore? A mi ofynnan' imi sut y gwyddwn i 'i fod o wedi marw pan wel'is i o gynta', a ddaru mi dreio'i gael o o'r afon. Ac eto, be' 'tasa rhywun yn gweled ôl y nhraed i'n disgyn yn y coed, a'r plisman yn mynd i chwilio a chael allan mai fi fuo 'na? Y Nefoedd Fawr!--ella' ma' Robinson ydi o,—seiwedi mynd ar ôl Gel, ac yn 'y nisgwyl i? Yr oedd ogla' diod arno fo; ella mai fo sydd wedi syrthio i'r afon. Be' tasa nhw'n d'eud mai fi boddodd o, ne' bod o wedi syrthio i'r afon wrth inni orffen y ffeit? Be' 'na i? Ella nad ydi o ddim wedi boddi ran hynny—pwy bynnag ydi o.
Fel hyn yr ymresymai Huw, a'i gamau yn mynd yn arafach, arafach o hyd. O'r diwedd stopiodd, ac aeth drwy ymdrech meddwl ofnadwy. Ofnai fynd adre, a gadael i'r dyn yno, ac yntau efallai yn fyw; ni châi lonydd byth gan ei gydwybod, pe gwnâi hynny. O'r ochr arall, saethai iasau o arswyd drwyddo wrth feddwl am droi'n ôl.
"Wel," meddai, o'r diwedd, "cha' i byth lonydd gan 'y nghydwybod os gadawai iddo. Hyd yn oed os bydd o wedi marw pan ddo'n 'nhw o hyd iddo fo, sut y gwn i 'i fod o wedi marw rŵan? 'Does dim amdani ond mynd yn f'ôl. Ond, Brenin Mawr! Sut yr a' i?"
Yr oedd Huw yn fachgen crefyddol, ond er iddo adrodd hanes y noson honno lawer gwaith, ni ddywedodd wrth neb ond wrth Jac a Thwm a Dic, beth a wnaeth cyn cychwyn.
Nid â'r daith yn ôl byth o'i gôf; a'r peth caletaf oll, oedd neidio i'r ochr arall at y corff. Pan gyrhaeddodd at yr afon, taflodd gilolwg[5] frysiog tua'r fan, gan ryw led obeithio mai wedi camgymryd yr oedd. Ond na, troes ei olwg ymaith ar unwaith, oblegid gwelsai yn y drem frysiog, ddigon i ddangos iddo fod y corff yno o hyd.
Ymwrolodd, a chymerodd wib—a throsodd ag ef.
Huw druan! Yn ei gynnwrf a'i arswyd, cymerodd ormod o wib, ac wedi glanio yn y cae, methodd â chadw ar ei draed, a disgynnodd ymlaen ar ei wyneb, gan daro'i dalcen mewn brigyn crin a syrthiasai o goeden uwch-law, nes ei hanner hurtio;[6] a'r peth a ddaeth ag ef ato'i hun, oedd clywed creadur trwm ar ei wegil,[7] a rhywbeth meddal, gwlyb, yn cael ei dynnu hyd ochr ei wyneb. Gyda gwaedd ofnadwy neidiodd i fyny, a beth welai yn ei ymyl yn ysgwyd ei gynffon, â'i dafod allan, ac yn dyheu[8]—ond Gel!
Y creadur bach! Yr oedd mewn cyflwr ofnadwy erbyn hyn, a'r gwaith caleta' n ei aros eto. Ond nid oedd dim i'w wneud, ond ceisio cael y corff i'r lan. Dechreuodd gropian ymlaen, ac wedi cael at fin yr afon, estynnodd ei fraich ymlaen, gan droi ei ben draw, dros y dorlan. Gwthiodd ei law i lawr, a cheisio cael gafael ar y dyn. Ni wyddai yn iawn gyferbyn â pha ran o'r corff yr oedd ei law, a daliodd i wthio i lawr nes teimlo ei law yn cyffwrdd â phen garw oer, a'r foment honno dyma besychiad caled, byr, o'r dŵr; a neidiodd i fyny'n ei fraw. Ond cyn iddo fedru cychwyn ffoi, dyma besychiad arall; ac er ei fraw i gyd, ac er mor debyg i ddyn y medr dafad besychu, sylweddolodd Huw ar unwaith mai dafad Cefn Helig, a honno yn fyw, oedd y corff yn yr afon, a suddodd yn swp ar y cae, dan chwerthin a chrïo bob yn ail. Wedi dyfod ato'i hun, aeth ati hi i'w thynnu o'r dŵr, ond bu'n rhaid iddo gymryd ei gyllell i dorri'r mieri oedd wedi cordeddu[9] am ei gwlân, cyn ei chael i'r lan.
Ychydig iawn a gymerodd i Gelert ac yntau gyrraedd y cartre, a thynnodd ei esgidiau wrth y giât bach, rhag i'w fodryb ei glywed yn mynd i'r tŷ mor hwyr. Trwy ddrws y cefn yr âi, pan fyddai'n hwyr arno yn dyfod adre, bob amser, a phan oedd yn estyn yr agoriad i'w roi yn nhwll y clo, beth welai yn hongian wrth y glicied, ag un goes drwy glun y llall, ond cloben[10] o ysgyfarnog fawr.
"Wel, Gel bach," meddai, "a mi dal'ist hi'n y diwedd; ond er clyfred wyt ti, 'fedret ti ddim rhoi hac yn 'i chlun a thynnu'i choes hi drwodd, a'i hongian hi'n fan 'ma 'chwaith."