Neidio i'r cynnwys

Dan Lenni'r Nos (testun cyfansawdd)

Oddi ar Wicidestun
Dan Lenni'r Nos (testun cyfansawdd)

gan John Pierce

I'w darllen pennod wrth bennod gweler Dan Lenni'r Nos

DAN LENNI'R NOS



Gan
JOHN PIERCE
(Awdur "Tri Mewn Trybini").



LERPWL
GWASG Y BRYTHON
HUGH EVANS A'I FEIBION, CYF.



Argraffiad Cyntaf—1938
Ail Argraffiad—1945
Trydydd Argraffiad—1953



Gwnaethpwyd ac Argraffwyd gan Hugh Evans a'i Feibion, Cyf.
9 Hackins Hey, Liverpool 2, a 350-360 Stanley Rd., Liverpool 20



RHAGAIR.

GAN i'r "Tri Mewn Trybini" gael croeso mor gynnes, meddyliais na byddai tipyn rhagor o hanes Llanystyn yn annerbyniol; felly anturiais groniclo'r amgylchiadau cyffrous hynny a dorrodd ar hedd y fro dawel hon.

Gan i'r dull a gymerais o'r blaen, o gyrraedd amrywiol ddosbarthiadau o ddarllenwyr, ei gymeradwyo ei hun i gynifer, glynais wrtho, a rhoi cyfieithiadau a ffurfiau llenyddol ar waelod y tudalennau. Manteisiais hefyd ar awgrymiadau adolygwyr.

Nid oes angen dweud mai plant dychymyg yw'r cymeriadau i gyd—a'r digwyddiadau, hwythau hefyd.

JOHN PIERCE.
Marian Glas,
Tachwedd, 1938.

CYNNWYS

PENNOD XIII
O FLAEN EI WELL
PENNOD XIV
BRWYDR DYDD DIOLCHGARWCH
PENNOD XV
DIAL CIPAR
PENNOD XVI
JIM
PENNOD XVII
PROFIAD CHWERW PEN CIPAR
PENNOD XVIII
DARGANFYDDIAD ROBINSON XIX
PENNOD XX
DIAL
PENNOD XX
LLOFRUDD
PENNOD XXI
STORI WAN
PENNOD XXII
RHWYDO ROBINSON
PENNOD XXIII
DIWEDD DYCHRYNLLYD
PENNOD XXIV
GORYMDAITH BRUDD



Mmm

PENNOD I
COFIO GWEITHRED DDEWR

"That poor woman is still standing in the corridor," meddai Sister Rocherfort, y Royal Infirmary, wrth Nyrs Davies, "they will be out of the theatre any minute now, and it will only upset her to see him. You speak Welsh Davies, go to her please, and try to get her away. Quick-here they come.'

Ac ar hynny, a chyn i'r nyrs brin gyrraedd y wraig, dyma ddrws yn agor, a nyrs arall â masg gwyn yn cuddio'i hwyneb i gyd bron, yn gwthio cerbyd bychan allan, ac yn troi, gan gychwyn yn gyflym hyd y corridor heibio tua'r ward. Safodd Nyrs Davies rhwng y wraig a'r cerbyd, gan afael amdani, fel na welai'r ffurf lonydd a orweddai arno, dan y blanced.

Gyda hynny, dyna feddyg mewn côt wen laes yn dilyn, ac atynt. "Wel, Mrs. Ifans," meddai yn siriol, "mae'r operesion wedi bod yn llwyddiant perffaith. Rhowch ryw fis i Jac yma eto, a mi fydd yn barod i ddwad adre atoch chi, wedi mendio'n iawn."

Ac am y tro cyntaf yn ystod ei holl dreialon, torrodd Mrs. Ifans y Fron i lawr yn lân.

Druan ohoni! Aethai drwy amser pryderus iawn yn ystod y misoedd oedd wedi pasio er y diwrnod prudd hwnnw y cawsai Jac ei gornio gan y tarw wrth achub Grasi Jôs, Cae'r Glaw. Ond er bod pawb arall bron yn amheus iawn, yr oedd hi wedi credu gair y meddyg Q ieuanc, a ddaethai gyda Doctor Huws i weled Jac, drannoeth ar ôl yr helynt, pan ddywedodd,—"Os cawn ni o i Lerpwl i'r ysbyty acw, mi fedrwn ni'i fendio[1] fo

Ofn mwyaf y meddyg oedd na ddaliai Jac y daith i Lerpwl, ond cynhaliodd ei ysbryd dewr ef ar hyd y daith yno, ac wedyn drwy'r triniaethau geirwon a gafodd i gyd; a'r diwrnod hwn, yr oedd Jac i fyned drwy'r operesion ddiwethaf oll

Ac yn awr, â'r gwaethaf drosodd, nid rhyfedd i'w fam dorri i lawr felly, pan glywodd y newydd da, a deall bod tymor hir ei phryderon wedi dyfod i ben.

Arhosodd yn Lerpwl am wythnos wedyn, nes bod Jac yn hwylio cael codi, ac yna troes adre, yn ysgafn iawn ei chalon.

Nid oes angen dweud bod llawenydd mawr drwy'r holl ardal, pan ddeallwyd bod Jac o'r diwedd ar ei ffordd i gael llwyr wellhad; ac edrychai pawb ymlaen at ei groesawu'n ôl i'w plith, oblegid yr oedd ei ddewrder wedi ei wneud yn arwr yng ngolwg ei holl gydnabod.

Ond nid oedd neb, nac oedd—hyd yn oed ei dad a'i fam, yn edrych ymlaen mwy at weled Jac gartre—na Grasi Jôs. Yn wir, nid aethai diwrnod heibio heb iddi fynnu cael gwybod sut y byddai, a phaciai barsel i'w yrru iddo bob wythnos yn ddi-feth. Yn wir gellid dweud mai yn yr Ysbyty yn Lerpwl y byddai ei meddwl, hanner ei hamser, yn enwedig gyda'r nosau hirion o flaen y tân, wedi iddi orffen gwaith y dydd.

Un noson dywyll, ystormus, ymhen rhyw bythefnos ar ôl i Mrs. Ifans y Fron ddyfod â'r newydd da adre, a hithau wedi cael tipyn o annwyd, penderfynodd swperu'r gwartheg dipyn cynt nag arfer. Wedi rhoi côt fawr amdani, a lapio siôl am ei phen, aeth allan, a gollyngodd Carlo, ac yn ôl ei harfer ar ôl rhoi gwair i'r gwartheg, aeth i weled bod pob man yn ddiogel, a'r ci wrth ei sawdl.

Nid oedd fawr o amser er pan ddechreuasai gymryd y ci i'w chanlyn,—gadael iddo redeg tipyn o gwmpas y byddai o'r blaen, tra bwydai hithau'r buchod, ac y caeai ddrysau'r cytiau, ond yn ddiweddar, cadwai'r ci wrth ei hochr, ac yn rhyfedd iawn, a hithau mor ofalus, ni byddai byth yn cloi drws y tŷ, tra swperai.

Wedi gorffen, a dyfod yn ôl at gwt y ci, galwodd arno ati, i'w roi'n sownd; ond yr oedd Carlo'n anesmwyth iawn y noson honno, ac yn picio yn ôl ac ymlaen, gan synhwyro[2] a swnian[3] , â'i drwyn wrth y llawr. "Mae'n rhaid bod 'na ryw hen gi wedi bod hyd y fan 'ma ne rywbeth," ebe Grasi Jôs, "a chlywed ogla'[4] hwnnw y mae o. Tyrd yma, Carlo."

Ond erbyn hyn, yr oedd y ci â'i drwyn yn dyn rhwng gwaelod y drws a'r gorddrws,[5] yn chwythu yn uchel drwy'i ffroenau, ac yn chwyrnu bob yn ail. "O!" meddai Grasi, "y cathod sy'n 'i boeni o—yr hen gath frech 'na, 'fuo fo 'rioed yn ffrindia' efo hi, na hitha' efo fynta'[6], ran hynny. Rŵan Carlo, tyrd yma, 'waedda i ddim arnat ti eto—wyt ti'n clywed?"

Ond dal i chwyrnu a synhwyro yr oedd y ci drwy'r cwbl, a dechreuodd Grasi golli ei thymer. "Wyt ti'n meddwl 'y mod i'n mynd i aros yma i ddisgwyl wrthat[7] ti drw'r nos?" meddai, a brasgamodd[8] ymlaen gan gythr[9]u i'w goler, a hanner ei lusgo tua'i gwt. "Wel'is i 'rioed mo'no fo mor bengaled,[10]" meddai.

Ond cyn gynted ag y rhoed ef yn sownd, dechreuodd Carlo blycio ar ei gadwyn a chyfarth,—cyfarthiadau byr, gyddfol[11], cynhyrfus.

Pan agorodd yr hen ferch y drws, gwelai'r ddwy gath wedi ymwthio o dan y bwrdd i ben pellaf y gegin, â golwg wyllt arnynt.

"O! yr hen gi 'na sy wedi'u 'styrbio nhw," ebe hithau, gan dynnu'r gadair freichiau at y tân, ac eistedd.

Ond para i gyfarth yn ddi-baid yr oedd Carlo o hyd. "O'r Tad!" ebe Grasi, "mae'n rhaid imi hel y cathod 'ma allan, ne' chaeith 'i geg o ddim heno." A chododd, a gyrrodd hwy allan. Yna aeth yn ei hôl, gan feddwl cael llonydd, ond gyda'i bod wedi eistedd, yr oedd y ci yn ail ddechrau cyfarth.

"Wel, mi fynna'i gael llonydd gin' ti," ebe Grasi'n wyllt, ac aeth am ei ffon. Agorodd y drws a chychwyn yn fygythiol tuag ato. "Dos i dy gwt, a chau dy geg, meddai yn ffyrnig, gan godi ei ffon i'w daro—"na, fedra'i ddim chwaith. O'r Tad! 'rydw' i'n rhy wirion o lawer efo chdi." Ac yn lle taro Carlo, aeth i'r tŷ'n ei hôl, ac o gwpwrdd y gegin, estynnodd asgwrn—a'i daflu iddo.

"Mi ga' lonydd rŵan, siawns gin'ti,"[12] ebe hi, a rhoes glo ar y drws, ac wedi tynnu ei chlocsiau, eisteddodd o flaen y tân.

Yn y man cododd i estyn pecyn[13] o bostcardiau lluniau a datododd y llinyn oedd amdanynt. Postcardiau a ddanfonasai Jac iddi o Lerpwl oeddynt dros ddau ddwsin ohonynt. Ni fedrai Grasi eu darllen, ond edrychai yn fanwl ar y lluniau, ac meddai mewn llais isel,—"Mae 'mheth bach i wedi cofio amdana'i bob wyth nos ers pan mae o wedi dwad i fedru 'sgrifennu. Dim ond 'i enw fo sy ar y rhai cynta' 'ma. Wel, wnaiff o ddim 'dyfaru.[14] Bychan mae o'n i feddwl, 'y mod i wedi g'neud pob peth iddo fo,—crio wnaiff o 'rydw' i'n siwr—pan glyw o'r 'wyllys yn cael 'i ddarllen. Mae'n siwr y 'mod i wedi gwneud peth call mynd â nhw i'r Dre hefyd. Mi 'drychodd Rees y Banc yn wirion pan gyfr'odd[15] o nhw; [16]. wir 'doeddwn inna' ddim yn meddwl 'u bod nhw'n bum cant, ond mi 'rydw'i wedi gweithio'n ddigon caled amdany' nhw, a chef'is i'r un ddimai ohony' nhw ar ôl neb 'chwaith—heblaw y tipyn adawodd 'y nhad druan imi.'

Ar hynny gwthiodd y gadair yn ôl, ac wedi mynd at y ffenestr, i edrych bod y gorchudd yn cyrraedd gwaelod y ffrâm, cododd y mat oddi ar y llawr o flaen y tân, symudodd y ffender, a chododd yr oelcloth—a darn mawr o bapur llwyd oedd odano, a dyna lle y gorweddai nifer o sofrenni ar eu hwynebau. Dechreuodd eu symud a'u cyfrif, a chlywid eu tinc ar y teils wrth iddi wneuthur hynny "ugain, un ar hugain, dwy ar hugain. "Dwy bunt ar hugain," meddai. "Wel, y d'wrnod y daw o adre, mi ro'i ddeg yn bresant iddo fo."

Yna gosododd hwy'n ôl drachefn, â'r papur llwyd a'r oelcloth drostynt, ac wedi taenu'r mat, tynnodd y gadair ymlaen, ac eisteddodd drachefn i synfyfyrio, ac ail ddechrau siarad â hi ei hun wedyn "Doctor f'asa fo'n lecio[17] bod, medda' fo wrth i fam, pan oedd hi yno'n edrach[18] amdano fo dd'waetha', ond, chwedl hithau—mae hynny allan o'r cwestiwn—a ffarmio mor sâl. Wel, mi gaiff fynd yn ddoctor—waeth iddo fo gael yr arian cyn i mi farw ddim—ran hynny mi fydd hynny'n well iddo fo, ac ella[19] y ca' inna' fyw i weld o wedi pasio. 'Wir, mae hi'n hwyrach nag oeddwn i'n feddwl, ac mi' rydw' i'n mynd yn gysglyd o flaen y tân 'ma. Cwpanaid o lefrith poeth gymera i i swper heno, efo'r hen annwyd 'ma."

I ddisgwyl i'r llefrith dwymno, rhoes Grasi Jôs ei phriciau dechrau tân yn y popty, a glo'r bore—tipyn o gnapiau bychain—yn y bwced ar y ffender wrth law.

"Mae'n resyn gadael y tân gwresog 'ma hefyd," meddai,—"ond llosgi wnaiff o 'tawn[20] 'i efo fo—a llosgi wnaiff o 'tawn i ddim; well imi beidio â thynnu'r cnapiau 'ma sy' wedi dechrau llosgi, ne' mi lenwith y lle 'ma efo mwg;" a chododd yr aspan, a'i gosod hi ar y ffender, rhag ofn i wreichion saethu o'r tân i'r llawr. Diffoddodd y golau, ac aeth i'r siambr, a thynnu ei dillad a myned i'w gwely yn y tywyllwch, yn ôl ei harfer, heb ddychmygu am foment beth oedd o dan y gwely.

PENNOD II
YR YSBEILIWR

"Dim ond cael a chael wnes i i gyrraedd mewn pryd," ebe gŵr talgryf,[21]. â masg du yn cuddio ei wyneb, oedd newydd ddyfod yn ddistaw bach dros y giât i'r llwybr a arweiniai o'r ffordd fawr at Gae'r Glaw, "mae hi'n syperu'n gynt nag arfer. Be' di'r[22] mater tybed? Ond mae'n rhaid i mi 'i mentro hi heno beth bynnag. 'Fedra'i ddim fforddio aros dim rhagor." Yna llithrodd yn llechwraidd ac yn gyflym at ddrws y tŷ gan ei agor, a'i gau, yn ddistaw, ac wedi cael i mewn i'r tŷ, gwnaeth yr un peth â drws y siambr,[23] ac ymwthiodd o dan y gwely.

Gwyddai am arferion Grasi Jôs i gyd, gan iddo fod yn ei gwylio am nosweithiau. Gwyddai hefyd fod gan-ddi rai cannoedd o arian, ac mai yn y tŷ y cadwai hwynt, ond yr oedd un peth pwysig nas gwyddai, a dyna oedd hwnnw, ei bod ychydig ddyddiau cyn hynny, wedi mynd â hwy i'r banc, a hynny am y tro cyntaf yn ei hoes.

Clywsai Grasi yn siarad â hi ei hun, ond ni ddeallai bob gair a ddywedai, eithr deallodd un ymadrodd a barodd gryn anesmwythid[24] iddo-a "Rees y Banc" oedd hwnnw. "Wyddwn i 'rioed fod yr hen lwynoges yn delio efo Rees," meddai; eithr ymdawelodd pan glybu dinc y sofrenni wrth iddi eu symud, ond rhoes ei galon dro, pan beidiodd â chyfrif wedi cyrraedd "dwy bunt ar hugain." "Tybed," meddai, "fod yr hen wrach[25] wedi mynd â'r bylc i'r banc? Y Nefoedd Fawr! a finna' wedi mentro cymaint, os na cha'i ddeugant cyn diwedd yr wythnos nesa', mi ffeindith y ffyrm y mod i wedi twyllo."

"Mi fuo jest i'r hen gi 'na 'i g'neud hi,—wrth gwrs 't'asa'r hen Grasi byth yn 'y 'nabod i, â hwn am 'y 'ngwyneb i a phopeth—ond 'tasa'r[26] bwystfil ci 'na wedi 'mrathu i, mi faswn mewn lle del, ond f'asa fiw imi ymguddio yn y siambr 'ma, a hitha' mor fechan—a be' tasa' hi'n digwydd gola' matsen—na, aros yma ydi'r gora' inni—mae hi'n clywed fel cath. Brenin Mawr! ond 'tydi, cathod yr hen Grasi cyn berycled â'i chi hi, mi feddyli's i y b'asa'r hen gath frech[27] 'na'n neidio i 'ngwyneb i—a mi f'asa' hefyd pan agor'is i ddrws y siambr, heblaw am y gic gafodd hi. Brenin Trugaredd! Be' 'tasa Grasi wedi agor y drws cyn iddi roi'r ci yn sownd! Rhaid oedd bod Rhagluniaeth ddistaw—hy! mi gaiff rhagluniaeth ddi-gon o waith edrach ar f'ôl i cyn y bydda'i wedi gorffen yn fan'ma, gobeithio y deil hi ati hi fel mae hi wedi dechra'—ust! mae hi'n dwad."

Er bod y gwely'n weddol uchel oddi wrth y llawr, yr oedd yn rhaid i'r lleidr orwedd ar wastad ei gefn, neu buasai ei ysgwydd yn cyffwrdd gwaelod y gwely. A lwc iddo mai ar wastad ei gefn y gorweddai hefyd, oblegid pan ollyngodd Grasi Jos ei hun i'r gwely, plygodd y springiau gymaint dan ei phwysau hi, fel y buasai hi'n sicr o fod wedi teimlo'i ysgwydd yn galed odani, petasai efe wedi gorwedd ar ei ochr; yn wir hyd yn oed ag yntau ar wastad ei gefn felly, yr oedd y gwely bron yn ei gyffwrdd, ond gwaeth fyth, wrth i Grasi Jôs orwedd, parodd i dipyn o lwch a mân flewiach[28] ddisgyn i'w ffroenau a'i enau—nes codi rhyw eisiau tisian enbyd arno—a phrin y llwyddodd i wasgu ei drwyn yn ddigon buan i fedru peidio â gwneud hynny. Am foment, yn ei fraw, teimlai ei galon yn colli curiad, a daeth rhyw wendid mawr drosto, ac wedi i hwnnw basio—clywai ei galon yn curo fel ffust,[29]. ac ofnai i Grasi ei chlywed hefyd-ond ni ddigwyddodd dim, ac o dipyn i beth, fe'i adfeddiannodd yntau ei hun.

Yn rhyfedd iawn, wedi mynd i'w gwely, ni siaradodd Grasi Jôs â hi ei hun o gwbl, ond buasai'n dda gan galon y lleidr pe gwnelsai hynny—nid am fod arno awydd clywed beth a ddywedai, ond er mwyn i rywbeth dorri ar y distawrwydd. Yr unig sŵn a glywid, oedd y gwynt yn rhuo ar brydiau yng nghorn simnai'r siambr, a'r glaw weithiau yn curo ar y ffenestr, a'r gwely'n gwichian[30] tipyn, pan symudai Grasi Jôs.

O dipyn i beth, llonyddodd yr hen ferch, a chysgodd; a diolchai'r lleidr ei bod yn chwyrnu wrth wneuthur hynny. "Wel," meddai wrtho'i hun, yn y man, "rhaid imi ddechrau ar 'y ngwaith," ac yn ofalus iawn dechreuodd symud ei goes yn ochelgar tua'r erchwyn.[31] Nid oedd wiw iddo'i llusgo hyd y llawr, rhag gwneud twrw. Gyda'r gofal mwyaf, rhoes ei benelinoedd[32] a'i freichiau odano, i symud ei gorff, ond ychydig iawn a fedrai godi arno'i hun heb gyffwrdd gwaelod y gwely, ac ni feiddiai droi ar ei ochr ychwaith.

Wedi ymdrechu'n hir ac yn ofalus, llwyddodd i gael o dan yr erchwyn, ond pan oedd yn paratoi i sythu, dechreuodd y ci gyfarth yn ffyrnig, a deffroes Grasi Jôs ar ei gyfarthiad cyntaf bron, a chodi ar ei heistedd yn y gwely.

"Be' sy'n gwneud y ci 'ma mor anesmwyth heno?" meddai yn uchel," 'does 'na neb o gwmpas siawns gen' i[33]. Rhyfedd iawn.'

Ond dal i gyfarth yr oedd Carlo.

"Wel, 'cha 'i ddim heddwch," ebe hi, "heb "i ollwng o i'r tŷ." Ac ar hynny troes y dillad oddi arni, gan gychwyn yn frysiog dros yr erchwyn, a chyn i'r lleidr fedru cael yn ei ôl o dan y gwely, yr oedd troed Grasi Jôs ar ochr ei ben.

Ni fynnwn, er dim, roi i lawr yma lw dychrynedig Grasi Jôs, ond mewn dau eiliad yr oedd y lleidr wedi neidio ar ei draed, a chythru iddi, a hithau yn gweiddi "mwrdwr!" dros y lle, ac yn ymladd am ei heinioes, gan gicio a chripio a sgrechian; ond er ei holl ymdrechion—nid oedd ond plentyn bach megis yng nghrafangau[34] haearn ei hymosodwr.

"Cau dy geg ne' mi fyddi yn uffern," sïodd[35] llais llofruddiog yn ei chlust, a theimlai Grasi Jôs fysedd a bawd yn ymgladdu yn ei gwddf, ac yn cau am ei phibell wynt, gan ei thagu'n lân, a suddodd ar ei chefn ar y gwely, yn swp lliprynnaidd[36] diymadferth.

"Rhaid imi beidio â'i thagu," ebe'r lleidr wrtho'i hun, gan lacio'i afael yn ei gwddf, a rhoi'r llaw arall ar ei genau. "Os gweiddi di," meddai, gan ddieithrio'i[37] lais, 'mi fydd y gyllell 'ma yn dy galon di."

Ond ni ddywedodd Grasi Jôs air, a gwthiodd yntau gadach i'w cheg.

Yr oedd y ci yn cyfarth yn ddychrynllyd, byth er pan glywsai floedd ei feistres, a'r twrw'n y siambr. "Diolch i bod hi'n chwythu ne' mi f'asa'r bwystfil ci 'na yn deffro'r holl wlad," ebe'r lleidr wrtho'i hun, gan droi Grasi ar ei hochr yn y gwely. Wrth wneuthur hynny, canfu fod ei hosanau am ei thraed, a rhwymodd ei dwylo ag un ohonynt, a rhoes y llall am ei cheg i ddal y cadach, a'i glymu y tu ôl i'w phen. Yna rhwymodd ei choesau yn dyn â chadach.

"Yr oeddwn i'n meddwl," meddai wrtho'i hun, "fod mwy o galon yn Grasi na hyn, mi ddechy Nefoedd Fawr! Tybed? A rhoes ei law yn bryderus ar ei bron; ond yr oedd calon Grasi Jôs yn curo yn gryf ddigon.

"Brenin Mawr!" meddai, "mi feddyli's am foment 'i bod hi wedi marw."

Yn y tywyllwch, gwnaeth dipyn o dwrw wrth agor drws y siambr i fyned i'r gegin, a gyrrodd hynny'r ci yn gynddeiriog. "Mi f'asa'n dda gin'i fedru gwneud yr un peth efo chdi ag a wnes i efo dy feistres di," ebe'r lleidr, "ond o ran hynny pe 'tasa rhywun yn 'i glywed o, ac yn dwad yma, 'fasa fo'n gweld dim o'i le. Wel, rŵan am 'y nghyflog." Ac aeth yn syth at y lle tân.

Yr oedd tân coch yn y grât o hyd, a thaflai lewych ar lawr y gegin. Cododd y lleidr y mat a'r oelcloth, oblegid nid yn ofer y buasai'n gwylio Grasi am nosweithiau, ac nid oedd hithau wedi bod mor ofalus i dynnu gorchudd y ffenestr i'r gwaelod isaf, bob nos, ag y buasai'r noswaith hon. Gwelodd y ddwy bunt ar hugain, a heliodd hwy at ei gilydd, a'u rhoi'n ei boced. "Wel," meddai, "mi wn i lle mae'r gweddill hefyd," a rowliodd ddarn mawr o'r oelcloth, a thynnu dwy deilsen o ganol y llawr, a gwthio'i law i'r twll, ac wedi codi caead tun oedd ynddo, rhoes ei law i mewn ynddo—a'r foment y gwnaeth hynny, aeth yn oer drosto, oblegid nid oedd yn y tun ddim ond papur a llyfr.

"Duw a'm helpo i!" meddai, "wedi fy holl gynllunio, ond-"

Ar hynny torrwyd ar ei ymson[38] gan sŵn dyrnod drom ar y drws, a safodd fel delw. "Mae hi ar ben arna' i, meddai. "Pwy? Na—y cythra'l ci 'na sydd wedi torri'n rhydd. Be' 'na i rwan?"

Peidiodd y curo a'r crafu ar y drws yn sydyn—ond ni pheidiodd y cyfarth, a'r foment nesaf yr oedd Carlo'n y ffenestr. Symudodd yntau, gan wneud tipyn o dwrw, a rhedodd y ci dan gyfarth yn ddychrynllyd yn ei ôl, ac at y drws.

Yn ei ddychryn, gan na wyddai yn iawn beth oedd yn ei wneud, rhoes y bocs yn ei ôl—a'r oelcloth—a'r mat, a safodd yn hurt. "Mi llarpith[39] fi os caiff o afael yna 'i, gwnaiff yn wir. Be' 'na i? Sut yr â'i odd'ma? Fiwi mi[40] aros yn fan 'ma.'

Dan siarad fel hyn ag ef ei hun, edrychai o'i gwmpas—i chwilio am erfyn yn rhywle, a gwelodd ffon fain yn y gongl yn ymyl y tân. "Hy! 'fasa waeth imi welltyn na'r hen wialen 'na," meddai.

Yr oedd y ci wrth y ffenestr eto, ac yn ei chrafu â'i draed blaen, ac ym mhen tipyn dechreuodd ei fwrw ei hun yn ei herbyn, "Mi ddaw trwodd, daw 'tawn i'n marw," meddai'n grynedig, gan gychwyn tua'r drws yn ddistaw. "Tybed fedra'i agor y drws heb iddo 'nghlywed i—a dianc?"

Ond yr oedd y ci yn glustiau i gyd, a chyrhaeddodd y drws bron cyn gynted ag yntau. Troes y lleidr yn ôl tua'r lle tân, dan brysur golli pob llywodraeth arno'i hun, ond disgynnodd ei lygad ar y procer, a llonnodd dipyn. "Dian i," meddai, ond pan gododd ef, digalonnodd wedyn, "mae o'n rhy fychan ac yn rhy ysgafn i ddim," meddai. "Petwn i'n cilagor[41] y drws ac yntau'n cythru i mewn, a minnau'n 'i daro fo â hwn, laddwn i byth mo'no fo-diaist i! mi gwela'i hi, ond 'fuom i'n [42] ffŵl na b'aswn i wedi meddwl am hyn ers meitin. Dyma fy unig siawns i.

A gwthiodd y procer i ganol y tân coch; a chan fod y eto'n y ffenestr yn cyfarth ac yn crafu, aeth at y drws, gan wneud tipyn o dwrw o bwrpas wrth fyned, a datglodd ef, ond yr oedd y ci yno cyn gynted ag yntau eto, ond pan glybu'r clo'n cael ei ddatod, peidiodd â chyfarth ar un waith.

"Be' di'r mater rŵan. Ydi o wedi mynd at y ffenestr et o?" gofynnodd y lleidr iddo'i hun, gan gychwyn yn ei ôl tua'r lle tân, ond cyn gynted ag y rhoes y cam cyntaf, dechreuodd y ci gyfarth a choethi[43] wedyn, a'i fwrw ei hun yn egr[44] yn erbyn y drws.

"O! felly!" meddai yntau, "isio i mi feddwl 'i fod o wedi mynd odd'ma, ac am ddisgwyl i mi agor, er mwyn iddo fo gael cythru imi yn ddistaw-wel olreit 'ta, brawd, mi gawn ni weld yn y munud."

Erbyn hyn yr oedd y procer yn wyn gan wres. Kill ne' cure," meddai, ac am y drws â fo, a chychwyn ei agor yn ochelgar.

Cyn gynted ag y clywodd Carlo'r gliced yn cael ei chodi, a'r drws yn cilagor,—rhuthrodd mor wyllt, fel y bu bron i'r drws wrth agor, daro'r lleidr i lawr; ond llwyddodd i gadw ar ei draed rywfodd, a'r foment nesaf, dyma waedd ingol yn rhwygo'r awyrgylch, a griddfan mawr dros y lle, ac arogl blew a chnawd yn llosgi, yn prysur lenwi'r tŷ.

PENNOD III
CANFOD CORFF GRASI JOS

Bore drannoeth rhwng deg ag un ar ddeg, galwodd y postman yn y Fron, ac wedi i Mrs. Ifans agor y llythyr, rhedodd i'r ffarm-iard; a phan welodd ei gŵr draw, gwaeddodd yn gynhyrfus "John! John! mae o'n dwad adre—ydach chi'n clywed? Mae Jac yn dwad adre drennydd."

"Ydi o wir?" meddai John Ifans, gan gymryd arno bod yn ddidaro.

"Tydi o ddim diben i chi, John bach, gymryd arnoch ddim rhagor—mi 'rydach chi wedi hiraethu cymaint â finna' bob tipyn."

Ac yr oedd hefyd, er iddo geisio'i orau guddio hynny oddi wrth ei briod, rhag gwneud ei hiraeth hi'n waeth; ond yn ystod yr holl amser y buasai Jac yn yr ysbyty, ni byddai John Ifans byth ymhell iawn o olwg y tŷ, adeg y postman.

"Wel, mae'n rhaid inni adael i Huw a Thwm wybod ar unwaith, a Dic Cae Bach hefyd," ebe Mrs. Ifans, 'mi f'aswn i'n licio i'r tri ddwad i swper y noson y daw—ond mi fydd yn rhaid i Jac fynd ar 'i union i'w wely; a pheth arall, mae'n siwr y bydd 'ma lawer o bobl y noson gynta'."

"Bydd mae'n siwr," ebe John Ifans, "mae'n syn 'i fod o mor gymeradwy, a'r gwalch_bach mor ddireidus. P'run ohono' ni aift i dd'eud wrth Grasi Jôs?"

"O! bobol annw'l! ie," ebe Mrs. Ifans, "mae'n rhaid i Grasi Jôs gael gwybod o flaen neb. Mi â'i yno fy hun cyn gynted byth ag y cawn ni ginio."

"O! gan gofio," ebe John Ifans, "mi fydda' i'n pasio Cae'r Glaw y prynhawn 'ma, mi alwa' i yno ar fy ffordd."

"Cofiwch ddwad at y tŷ erbyn hanner dydd John. Mae gin' i 'isio[45] paratoi erbyn y daw o. Mi fydd y cinio'n barod ddeuddeg o'r gloch i'r funud."

"Twt! waeth i mi fynd i Gae'r Glaw cyn cinio ddim,' ebe John Ifans, gan edrych ar ei wats, "mi fedraf fynd yno, a dwad yn f'ôl erbyn deuddeg—os byddai'n 'o fywiog." A chychwynnodd ar hynny.

Fel y dynesai at Gae'r Glaw, clywai'r gwartheg yn brefu, a'r moch yn gweiddi, ac wrth agor y giât, gwnaeth dipyn o dwrw, a dyblodd a threblodd sŵn yr anifeiliaid. "Rhyfedd iawn," meddai witho'i hun.

Wrth basio cwt y ci, gwelai'r gadwyn wedi torri, ond nid oedd olwg ar Carlo yn unman.

Erbyn hyn yr oedd sŵn y gwartheg a'r moch yn fyddarol.[46] "Mae rhywbeth o'i le yn siwr," meddai'r ffarmwr yn anesmwyth, a churodd y drws. Wedi disgwyl tipyn a methu â chael ateb, aeth tua'r beudy, a sylwodd wrth basio, fod clo ar y cwt tatw. Pan agorodd ddrws y beudy, gwelodd na buasai'r gwartheg allan y diwrnod hwnnw, oblegid nid oedd y beudy wedi ei garthu,[47] ac yr oedd yn amlwg wrth byrsiau[48] mawr y gwartheg, na chawsent eu godro er y noson cynt, ac yr oedd llaeth yn pistyllio o dethi un fuwch.

Yr oedd John Ifans yn bur gynhyrfus erbyn hyn, ac aeth i ffenestr cefn y tŷ, a gwelodd fod y gorchudd heb ei godi. Ni phetrusodd ragor, ond cododd y gliced, a chanfu fod y drws wedi ei gloi. Edrychodd drwy ffenestr y siambr gan ddisgwyl gweled Grasi Jôs yn ei gwely, oblegid nid oedd y llen i lawr, a gwaeddodd "Grasi Jôs" droeon-ond nid oedd ateb—dim ond y brefu a'r gweiddi. "Wel wir," meddai, "'dydw' i ddim yn deall pethau—mae hi wedi bod yn 'i gwely neithiwr achos mae o heb 'i wneud. Wel, mae'n rhaid mynd i'r tŷ, ond mi fyddai'n well imi gael rhywun arall efo mi, mi â'i nôl Huw Huws, Pencraig."

Wrth ddyfod yn ôl, dywedodd John Ifans yr hanes wrtho, ac meddai Huw Huws: "Mae'r gwartheg wedi bod yn brefu ar adegau drwy'r bore, ond 'doeddwn i ddim yn licio busnesu,[49] 'does dim llawer o dda rhyngom ni ers tro, ond o ran hynny mi wyddoch am Grasi cystal â minnau, er 'i bod hi'n frenin[50] yrŵan wrth fel y byddai hi hefyd."

"Rydw i'n awgrymu'n bod ni'n torri chwarel yn ffenestr y siambr, mae honno yn agor, wedyn mi fedrwn godi'r gliced o'r tu mewn," ebe John Ifans. Ac felly y gwnaethpwyd. Ymwthiodd John Ifans i mewn, ac aeth drwy'r siambr i'r gegin, ond ym mhen llai na munud yr oedd yn agor y drws i'w gymydog, â golwg gynhyrfus iawn arno. "Wel, Huw Huws," meddai, "mae gyrfa gythryblus Grasi Jôs druan ar ben; dowch ymlaen yma." Dilynodd Huw Huws ef at y lle tân, a dyna lle'r oedd hi yn gorwedd yn farw, â'i phen ar y ffender, ac ochr ei thalcen wedi duo i gyd."

"Mae hi'n hollol oer," ebe John Ifans; "gadael iddi heb 'i symud hi ydi'r gorau inni. Ewch chi i deligrafftio am y doctor, mi a' innau am Roberts y plisman."

Ym mhen yr awr, â'r doctor erbyn hyn wedi gweled y corff, yr oedd Roberts y plisman yn chwilio am nifer o'r plwyfolion[51] i eistedd ar ei chwest, a'r newydd am farw Grasi Jôs yn mynd drwy'r ardal fel tân gwyllt.

PENNOD IV
BRAW JONES Y CWM

Mewn ardal wledig fel Llanystyn, lle'r oedd digwyddiadau cynhyrfus felly yn bethau anghyffredin iawn; parodd y newydd gyffro mawr, ac fel y cerddai'r stori'r ardal, magai gynffon ar ei thaith, ac fel hyn yr adroddodd Williams y 'Siwrin,[52]—dyn bach siaradus a streullyd,[53]—hi wrth Jones y Cwm. "Difrifol iawn, Mr. Jôs bach! Difrifol iawn! Be' nesa' deudwch? 'Fuo'r[54] 'rioed y fath beth! Bobol annw'l! mae peth fel hyn yn ofnadwy mewn gwlad Efengyl, 'does neb yn saff yn i dŷ 'i hun.' "Be' sy'n bod, Willia's? Be' sy'n bod?" gofynnodd Jones.

"Chlywsoch chi ddim?" gofynnodd Williams, gan lonni drwyddo wrth feddwl cael bod y cyntaf i ddweud wrth Jones. "Chlywsoch chi ddim? Ddyn annw'l! 'na betha' ofnadwy wedi digwydd yn ych[55] ymyl chi neithiwr. John Ifans y Fron a Huw Huws Pencraig wedi cael hyd[56] i Grasi Jôs Cae'r Glaw yn gorff yn y gegin—rhywun wedi'i tharo hi, a hithau wedi syrthio â'i phen dan y grât, a ma' nhw'n ama' Robis y Cipar. Mae pawb yn gw'bod nad oes dim da rhyngddy' nhw byth er pan ddaliodd Grasi o yn dwyn 'i thatw hi, a waeth gin' yr hen gipar 'na be' i 'neud. Mae Roberts y plisman yn chwilio pob man, a'r Super o'r Dre efo fo—'tydach chi ddim yn dda, Jôs? "rydach chi'n llwyd iawn. Ddyn bach! 'Rydach chi'n crynu fel deilen, be' di'r mater?" A hawdd y gallai ofyn beth oedd y mater, oblegid yr oedd Jones yn llwyd, os bu neb erioed.

Ceisiodd ei adfeddiannu ei hun ac ateb—"Dim byd, ydw'—'rydw'—'rydw' i'n—na, 'tydw' i ddim chwaith —'rydw i wedi cael annwyd ofnadwy—a mae arna' i ofn bod y gafod[57] wedi 'nharo i. Oeddach chi'n d'eud bod rhywun wedi lladd Grasi Jôs?" gofynnodd.

"Felly mae nhw'n deud," meddai Williams, "wedi 'i tharo hi ar ochr 'i phen efo'r procer—ac yr oedd o wedi gollwng y procer ar y ffordd i'r drws

"Rhaid imi beidio â sefyllian," meddai Jones yn grynedig ar ei draws, "a finna' wedi cael yr annwyd mawr 'ma."

"Rhaid wir," meddai Williams, "ewch i'r tŷ cyn gynted byth ag y medrwch chi, a chymerwch bwnsh wisgi reit boeth, ac ewch i'ch gwely ar ych union."

"Beth yn enw'r Nefoedd sy wedi digwydd?" gofynnai Jones iddo'i hun, dan fynd. "Sut felltith yr aeth hi at y tân? Tybed fuo Robinson yno ar f'ôl i? Y fi ollyngodd y procer, ond Duw a ŵyr na threw'is i mo'ni, heb sôn am 'i lladd hi. Mae 'nghydwybod i'n berffaith dawel ar y pen hwnnw, ond os bydd 'na gwest-'does wybod yn lle y terfyna pethau. Ydw' i wedi peidio â gadael rhywbeth ar f'ôl? A beth am yr hen gi 'na? Mi ofal'is i nad oedd dim marc ar y cadach oedd gin' i'n 'i rhw'mo hi—Brenin Mawr! Pwy ydi' nacw? Dau blisman!"

Ac yn ei ddychryn dechreuodd Jones gyflymu gamre, ond cyn ei fod wedi mynd fawr i gyd o ffordd, sylweddolodd ei fod yn gwneud peth annoeth, ac meddai: "Y ffŵl idiot imi! Ydw' i'n hollol wallgo?'

Ond yr oedd Roberts wedi ei weled yn cyflymu, ac eisoes, yn gweiddi arno "Rhoswch—'rhoswch am funud, mae arna' ni 'isio gair bach efo chi."

Bu'r munudau a gymerth i'r arolygydd a'r plisman ei gyrraedd yn rhai o'r rhai mwyaf ofnadwy a fu ar ei ben erioed. Teimlai ryw wendid dychrynllyd yn dyfod drosto, a bagiodd yn ôl, gan bwyso'i gefn ar wal gerrig.

"Wel, Jones," meddai'r plisman pan gyrhaeddodd ato, "rydach chitha' wedi clywed am Grasi Jôs; mae 'isio i chi fod yng Nghae'r Glaw erbyn wyth heno yn y cwest.

"O! ie—hy—"ebe Jones, gan ryw hanner chwerthin yn ynfyd yn ei ryddhad, "dof yn Tad." Yna, gan geisio cael rheolaeth arno'i hun, meddai, "Helynt ofnadwy—helynt ofnadwy! Pwy ydach chi'n ama', Roberts? Pwy f'asa'n lladd yr hen Grasi Jôs? Hen beth ddigon clên[58] oedd hi—y—y—deudwch i mi ga'i beidio bod yn y cwest? 'Tydw' i ddim yn meddwl y medra' i ddwad, erbyn meddwl—wnewch chi f'esgusodi fi—os gwelwch chi'n dda?"

"Na," ebe'r plisman, "mae'n ddrwg gen' i, ond nid mater o ddewis ydi o—mae arna' i ofn bod yn rhaid i chi ddwad."

"O!" ebe Jones yn frysiog—"dof ar bob cyfrif—dof yn Tad. "Tydw i ddim yn dda iawn—wedi cael annwyd ofnadwy—mi ddo' i. Wyth o'r gloch ddar'u chi ddeud? Mi fydda' i yno. P'nawn da'ch dau. P'nawn da."

"Mae pobl yn rhyfedd efo cwest!" ebe Roberts wrth yr arolygydd. "Pwy f'asa'n meddwl am ddyn mawr cry fel Jones rŵan, yn ypsetio cymaint. Welsoch chi mor gynhyrfus yr aeth o?"

"Ie," meddai'r Arolygydd, "a finna' newydd fod yn meddwl wrth edrych arno fo, plisman mor dda f'asa' fo wedi wneud.'

A than fynd i'r tŷ, ebe Jones yntau wrtho'i hun, "Rydw' i'n ymddwyn fel ffŵl, 'rydw' i'n gofyn—na 'rydw' i'n gweddio am gael cortyn am 'y ngwddw."

Ac wedi cyrraedd, estynnodd botel o wisgi, a llyncodd dros chwarter llond gwydr—heb roi diferyn o ddŵr ynddo.

PENNOD V
Y CWEST

Oriau pryderus iawn a dreuliodd Jones tan adeg cychwyn i'r cwest.

Fodd bynnag, gyda chymorth y botel wisgi, medrodd ymgynnal rywfodd nes ei bod yn hanner awr wedi saith. Yna rhoes ei gôt uchaf amdano, a chychwynnodd mor anewyllysgar[59] a phe buasai yn mynd i'w grogi. Ar y ffordd, trawodd ar ddau gymydog, oedd fel yntau wedi eu galw i'r cwest, a chafodd amser anhapus iawn yn eu cwmni, oblegid yr oedd yn amlwg bod y ddau wedi gwneud eu meddyliau i fyny mai ei lladd a gawsai Grasi Jôs, a'u hunig anhawster oedd penderfynu pwy oedd y llofrudd, ac erbyn cyrraedd Cae'r Glaw, yr oedd Jones wedi ei baratoi ei hun ar gyfer y gwaethaf.

Ond ymhen ychydig iawn wedi i'r cwest ddechrau, gwelodd Jones, er ei ddirfawr syndod a'i lawenydd, fod yr ymchwiliad yn mynd i gymryd cwrs gwahanol iawn i'r hyn a dybiasai; ac fel y ciliai ei ofnau a'i bryderon, prin y medrai guddio'i foddhad.

Tystiolaeth Doctor Huws a roes y wedd newydd ar bethau.

Dywedair meddyg mai ergyd o'r parlys[60] a gawsai Grasi Jôs, ac mai mân lestri gwaed wedi torri yn ei phen, oedd yn cyfrif am y duwch o dan y croen ar ei harlais.[61]

Bernid i Grasi Jôs gael ei tharo'n wael yn ystod y nos, ac iddi godi o'i gwely at y tân, neu i geisio cynnau[62] peth, ac iddi wrth wneuthur hynny, gael strôc, ac yr oedd marc ar ei thalcen hefyd yn profi'n eglur iddi daro'i phen yn y pentan[63] wrth ddisgyn.

Yr oedd llawer o enghreifftiau o bethau cyffelyb yn digwydd i hen bobl, meddai'r meddyg, a thybid yn lled gyffredinol, fod pobl ar fin cael strôc, yn teimlo'n oer ac yn closio at y tân. Yr oedd hefyd wedi cleisio[64] tipyn ar ei gwddf, ond nid oedd dim a wnelai hynny ag achos ei marw, wedi cael rhyw anhap iddo 'roedd rywsut, a dyna'r paham yr oedd wedi rhwymo hosan amdano.

Felly marwolaeth o achosion naturiol a fu'r dyfarniad, oblegid er siom fawr i rai o'r theithwyr ac er gollyngdod mawr i Jones, gwnaeth tystiolaeth y doctor lawer cwestiwn fwriadwyd ei ofyn, yn gwbl ddi-anghenraid,[65] er i amryw eu gofyn wrth fyned adre.

"Doeddwn i'n credu dim ar esboniad yr hen ddoctor 'na," ebe'r teiliwr, "nid teimlo'n oer y bydd pobl cyn cael strôc, ond cael rhybudd y bydda' nhw—i gweld hi'n dwad—ac yn 'u dychryn yn codi i geisio dianc oddi ar 'i ffordd hi, ac yn syrthio ar 'u gwyneba".

Teimlai Jones, fodd bynnag, yn rhyfeddol o galon ysgafn, er ei holl anawsterau ariannol.

"Wel, diolch," meddai, "fod y busnes yna drosodd. 'Fedr neb 'y nghyhuddo i o fod yn llofrudd beth bynnag, ond 'anghofia' i mo heno, 'tawn i'n byw i oed Methusaleh—na wna' ar f'engoch i, yn enwedig un peth—'wyddwn i ddim y byddai'n rhaid imi fynd i weld y corff—ond wel'is i mo'no fo chwaith o ran hynny, 'drychis i ddim. Brenin Mawr! 'doeddwn i ddim ond yn disgwyl bob eiliad i chlywed hi'n codi, ac yn dechra' damio ac yn ordro pawb allan, a mi 'roedd arna' i ofn y b'asa mwy o ôl 'y mysedd i ar i gwddw hi, a finna' wedi gwasgu mor galed, ond mi'r oedd 'i gwddw hi mor denau a sgragiog,[66] ac eto mae'n rhaid bod 'na dipyn o ôl hefyd—go dda'r hen ddoctor yn meddwl mai Grasi oedd wedi rhoi'i hosan am 'i gwddw 'i hun. Mi gafodd 'i 'neud yn ddel, ond chwarae teg iddo—heblaw amdano fo—mi f'asa'n o hyll arna' i. Sut felltith y medrodd hi gael yn rhydd—a finna wedi'i rhw'mo hi mor dda? A be gebyst sy' wedi digwydd i'r rhwymyn rois i am 'i thraed hi?"

Cyrhaeddodd Jones y tŷ mewn tymer dda iawn—ac wrth fwyta'i swper adroddodd hanes y cwest wrth ei howscipar

PENNOD VI
DIWEDD CARLO A'I FEISTRES

Er nad oedd ei ddewrach na i ffyrnicach yn y byd, nid oedd Grasi Jôs yn ddigon ffôl i gymryd ei lladd, ond ar ei gwaethaf, a sylweddolodd ar unwaith mai ei hunig obaith i osgoi hynny oedd ufuddhau i'r dyn cryf a mileinig[67] a afaelai ynddi, oblegid credodd yn sicr, pan ddywedodd wrthi am gau ei cheg neu y byddai yn uffern -ei fod yn golygu pob gair. Felly distawodd, a rhoes gorau i ymladd ag ef, ac ymostyngodd i gymryd ei throi ar ei hochr a'i rhwymo, a gorweddodd mor llonydd ag y medrai, nes iddi glywed griddfan torcalonnus Carlo, ond ni fedrai ddal hynny-"Chaiff o ddim lladd Carlo,' meddai wrthi ei hun, "na chaiff, ar f'end inna',"[68] a dechreuodd ymdrechu i'w rhyddhau ei hun, gan ymwingo[69] ac ymnyddu[70] , a throi a throsi, a chordeddu[71] a bustachu,[72] â'i thraed dros ochr y gwely, nes bod ei hwyneb yn du-lasu gan ei hymdrechion, a'r gwythiennau yn sefyll allan fel cortynnau ar ei thalcen, a'i gwaed yn curo fel gordd[73] yn ei phen. "Cawn i'r hen beth 'ma o 'ngheg," meddai, "rydw i'n colli 'ngwynt yn lân fel hyn," a suddodd yn swp ar lawr. Dychmygodd ei bod yn clywed twrw'r giât yn clepian, a gwnaeth un ymdrech fawr wedyn, gan roi plwc ar un fraich,-a chafodd hi'n rhydd. Mewn moment tynnodd yr hosan a ddaliai y cadach yn ei cheg i lawr, ac yna'r clwt o'i cheg, ac ymlusgodd at y drws, ac wedi gweled nad oedd Carlo yno, cloes ef, a suddodd i'r llawr drachefn, wedi glân ddiffygio.

Pan gafodd ei hanadl, ymlusgodd ymlaen at y tân, ac o drôr y bwrdd estynnodd y gyllell fara, a thorri y rhwymyn oddi ar ei choesau, a'i daflu i'r tân, gyda llw.

Symudodd y ffender, a dechreuodd godi'r oelcloth, gan deimlo am y sofrenni; heliodd ei llaw hyd wyneb y llawr, a deallodd eu bod wedi eu dwyn. Yn y sioc o ganfod eu colli, sythodd yn sydyn, cododd ei llaw at ei phen, a rhoes ryw hanner llam ymlaen, a disgynnodd, gan daro ochr ei thalcen yn y pentan poeth.

Y foment y teimlodd Carlo'r procer poeth yn serio'i[74] wddf—yn ei loes ingol,[75] troes a rhuthrodd ar ei ben i'w gwt, allan oddi yno drachefn, yn ddall gan boen, i'r ardd, ar draws y llwyni ac yn erbyn y coed a thrwy'r gwrych, ac i'r lôn—a throsodd drachefn—ac ar draws y caeau, dros waliau a chloddiau, a thrwy wrychoedd ac i goed y Plas, ond cyn gynted byth ag y cyrhaeddodd yno, aeth ei droed i drap, ac yno y bu mewn poen annirnadwy, rhwng y llosgfeydd a dannedd y trap, tan wyth o'r gloch y bore, pan glywodd Robinson ef yn cyfarth, wrth iddo ffidio'r ffesynt. "Mae 'na ryw hen gi wedi mynd i un o'r trapiau, Jim," meddai wrth ei is-gipar, "gorffan di ffidio—a mi â inna' i setlo'i dynged o.'

Er nad adwaenai Carlo Robinson, meddyliodd y ci druan mai dyfod i'w ryddhau yr ydoedd, a pheidiodd â chyfarth y foment y daeth y cipar i'r golwg; ac yn ei lawenydd, er gwaethaf ei boen, dechreuodd ysgwyd ei gynffon a gwneud sŵn isel, balch.

"Ho!" ebe Robinson, "ci'r hen Grasi—ai 'e? Felly wir! Wel, dyma gyfle imi dalu tipyn o 'nyled i dy feistres, 'y ngwas i. Mi fydd gofyn iddi hi grwydro'n o bell i gael hyd i ti, yn y lle'r ydw' i'n mynd i dy yrru di."

Ar hynny cododd ei wn, a thaniodd—"A dyna un arall eto," meddai, "mi 'rwyt ti'n werth dwy getrisen."[76] A thaniodd eilwaith.

Ci da oedd o," ebe llais o'i ôl, a throes Robinson yn sydyn, a gwelai Jim yr is-gipar o'r tu ôl iddo, "a wel'is i 'rioed o'r blaen mo'no fo'n y coed 'ma. Piti oedd i chi 'i saethu o, Robinson.'

"Jim Willia's," ebe'r pen cipar, "mae'n amser i ti ddysgu meindio dy fusnes dy hun 'y machgen i, ac efallai y byddai'n llawn cystal iti geisio cofio mai fi ydi'r meistr. Dos i nôl rhaw a chladda fo. Wyt ti'n deall?"

Heb ateb gair, troes Jim ar ei sawdl, ac aeth i nôl rhaw, a chladdodd Carlo, heb ganfod yr ôl llosgi ar ochr ei ben a'i wddf, gan fod dwy ergyd greulon Robinson wedi ei lwyr ddileu.

PENNOD VII
DAL TWYLLWR YN RHYDDHAU LLEIDR

Cynhebrwng[77] mawr a gafodd Grasi Jôs—cynhebrwng mawr i ddynion; felly y trefnodd Mr. Rees y Banc a John Ifans y Fron, y ddau a benodasai'r hen ferch i weled bod ei hewyllys yn cael ei chario allan, ac yr oedd Jones y Cwm yno hefyd, a bu llawer o sôn am Grasi Jôs a'i bywyd ystormus ymhlith y plwyfolion wrth ddilyn ei harch i fynwent Llanystyn.

Buasai llawer mwy o ddwyn ar gof bethau cyffrous ei gyrfa ac o ychwanegu atynt mae'n debyg, petai ei diwedd wedi bod yn llai trist, ond amgylchiadau ei marw oedd prif destun pob ymddiddan, ac yn ystod y tridiau. y bu Grasi Jôs yn gorff yn y tŷ, dechreuodd gwahanol farnau ynghylch ei diwedd ymffurfio, a mynnai rhai nad oedd popeth wedi ei ddatguddio yn y cwest.

Yn anffodus i Jones, digwyddai gyd-gerdded ag un o'r rhai a goleddai[78] y syniadau hyn, a chafodd amser anhapus iawn.

"Pa'm," meddai hwnnw, "na buasai'r bobl 'na wedi gofyn y cwestiyna' mae nhw'n ofyn 'rŵan-yn y cwest, yn lle ar ôl iddo fo basio? Ond y gwir ydi 'na ddaru nhw ddim meddwl am dany' nhw, a'ch eithrio[79] chi, Jones, a 'fedrech chitha' ddim meddwl am bopeth. Dynion dyla'r ardal 'ma oedda' nhw. Mi gythrodd Roberts i'r rhai cynta' gafodd o afael arny' nhw-gan nad pa mor ddwl oedda' nhw. "Taswn i ar y cwest, y peth cynta' f'aswn i wedi 'neud f'asa codi pwnc y procer i fyny."

"Ond," meddai Jones, "yr oedd y drws wedi 'i gloi o'r tu mewn."

"Ie," ebe'i gyfaill, "ond beth oedd y procer yn 'i 'neud yn ymyl y drws."

"Wel," meddai Jones wedyn, "efallai 'i bod hi wedi gweld llygoden, mae 'na ddigon ohony' nhw yno, a'i bod hi wedi taflu'r procer ati hi i' dychryn hi."

"Lol i gyd!" ebe'i gydymaith, "ond â chaniatâu hynny, lle mae'r ci? 'Welodd neb byth mo' hwnnw?"

"Mi godwyd hynny i fyny yn y cwest," ebe Jones, "ond pasio ddaru ni nad oedd a wnelo hynny ddim â'r peth."

"Be' wnaeth iddo fo dorri 'i gadwyn? A beth ydi'r ôl crafu mawr sydd o flaen 'i gwt o?" gofynnodd ei gydymaith. "Na, mae 'na ryw helynt wedi bod, a 'marn i ydi, ma' clywed rhywun yn y drws wnaeth i Grasi daflu'r procer. Peth arall hefyd, lle mae 'i phres hi?"

"A chaniatâu 'i bod hi wedi mynd â'r bylc i'r banc—a dyna beth rhyfedd iddi wneud hynny mor ddiweddar, a hynny am y tro cyntaf yn 'i hoes, mae'n rhaid bod arni ofn rhywbeth, ie, a chaniatáu hynny, ydach chi'n meddwl nad oedd gin' Grasi ddim ond tipyn o geinioga' yn y tŷ? 'Choelia'i fawr! Na, Jôs, rydw' i'n deud wrthach chi fod 'na fwy wedi cymryd lle, nag a wyddom ni—ac yn ddistaw bach i chi—mae 'na rai'n deud 'u bod nhw wedi clywed y ci yn cyfarth yn ofnadwy'r noson honno. Yr oedd gwas Pen Rhos yn mynd ar 'i feic i'r Dre i nôl ffariar, a mi clywodd o, a mae o am fynd i dd'eud wrth Roberts y plisman. 'Gewch chi weld y daw petha' allan cyn bo hir.

Fel y gellir dychmygu—yr oedd Jones yn bur anghysurus erbyn hyn a diolchai ei fod wedi dyfod at y llwybr a arweiniai at ei gartre. Prin y medrodd ddweud "prynhawn da"—wrth ei gydymaith-=wrth ei adael. Fel y croesai'r cae, cynyddai ei gyffro, ac yr oedd newydd fyned dros y gamfa i'r cae nesaf i'w dŷ, pan gamodd yr Arolygydd Ellis un ochr iddo, a Roberts y plisman yr ochr arall, a rhoi ei law yn drwm ar ei ysgwydd—"Henry Jones, mae gen' i warant—Ond dyna'r cwbl a glywodd Jones cyn disgyn mewn llewyg i'r llawr.

"Jones druan," ebe Roberts, "mae'n rhaid i fod o'n teimlo'n ofnadwy—hen foi clên ydi o—drwg ar 'i les 'i hun efall—Ar hynny agorodd Jones ei lygad, a rhyfeddai weled yr olwg hanner tosturiol oedd ar plisman. "Peidiwch ag ymollwng fel hyn Jones," meddai, "rhaid i ni wneud ein dyletswydd wyddoch;" ac aeth ymlaen i ddarllen y warant.

Y ffyrm hadau y trafeiliai Jones drosti oedd wedi darganfod y celcio[80] a'r twyllo.

"O! diolch," ebe Jones, oblegid meddyliasai'n sicr mai ynglŷn â helynt Grasi Jôs yr oedd yn cael ei gymryd i'r ddalfa.

Edrychodd y plismyn ar ei gilydd mewn penbleth, ac ar amrantiad sylweddolodd Jones ei fod wedi gwneud camgymeriad.

"O! diolch," meddai wedyn, "'i bod hi wedi dwad o'r diwedd; mae hyn wedi bod fel cledda' wrth 'y mhen i ers wythnosau.'

Ymhell cyn y nos, yr oedd helynt cymryd Jones i'r ddalfa wedi llwyr ddisodli[81] trychineb Grasi Jôs ym meddyliau ac ymddiddanion trigolion Llanystyn, ac er i Jones gael dedfryd drom am dwyllo, teimlai hi'n ysgafn fel pluen wrth ei boen a'i bryder yn ystod y dyddiau y bu Grasi Jôs yn gorff yn y tŷ.

PENNOD VIII
DECHRAU TWRW

Yr oedd Grasi Jôs yn ei lle. Crio'n hidl a wnaeth Jac pan glywodd iddi adael pum cant o bunnoedd ar ei hôl iddo.

Daethai adre ddeuddydd ar ôl ei chladdu, ond cytunwyd i gadw hanes ei marw a phopeth rhagddo am dipyn, er bod hynny yn waith anodd iawn, oblegid methai yn lân â deall sut na ddaethai hi i'w weled. Ond ymhen rhyw dridiau neu bedwar, er holl ofal ei rieni i rybuddio ymwelwyr i beidio â sôn wrtho, digwyddodd bachgen bach i gymydog fyned i'r tŷ, a phawb ond Jac allan, ac yn ei ddiniweidrwydd, dywedodd y cwbl wrtho, ac effeithiodd yr hanes gymaint ar Jac fel y buwyd mewn gryn bryder yn ei gylch am ddyddiau, a phan ddechreuodd ddyfod ato'i hun, meddai wrth ei fam: "Doctor oeddwn i am fynd, ond 'y mod i'n gwybod na fedrech chi a 'nhad ddim fforddio'r gôst, ac yr oeddwn i wedi rhoi'r syniad o'r neilltu; ond rwân dyma Grasi Jôs druan wedi agor y drws i mi—ac anghofia'i byth mohoni—na wna', byth; mi af i'r ysgol cyn gynted byth ag y ca'i, a mi fynna' basio 'tasa dim ond er 'i mwyn hi."

Ac yn ei gynefin, buan iawn yr enillodd ei nerth yn ôl, a chyn bo hir aeth i Ysgol Sir y Dre, lle y buasai ei ddau gyfaill, Huw a Thwm, eisoes ers hanner blwyddyn. Ymdaflodd i'w wersi â'i holl egni, gan ei fod wedi pen derfynu mai meddyg a fyddai, a dim arall. Ond ffarmio oedd ym mryd ei ddau bartner, ac ni chymerent hwy gymaint â hynny o ddiddordeb yn eu gwersi ysgol. "Mae'n iawn i ti, Jac," meddent, "ddysgu Lladin a'r hen dacla' 'ma, ond i be' byddan' nhw'n da i ni?"

Ac yn rhyfedd iawn, Dic Cae Bach o bawb, oedd yn pwyso arnynt wneud eu gorau yn yr ysgol. "Mi rown i rywbeth am gael ych cyfle chi, hogia'," meddai Dic fwy nag unwaith wrthynt, "ond dyma fi'n bedair ar bymtheg oed, a mae hi'n rhy hwyr rŵan, hyd yn oed petai 'nhad yn medru fforddio rhoi ysgol i mi." Ond er cymaint dylanwad Dic ar y ddau, ni fedrodd lwyddo. "R'osa' i ddim yno ddim ond am flwyddyn," ebe Twm.

"Na finna' chwaith," meddai Huw. A buont yn un â'u gair hefyd, ac aeth Twm adre i ffarmio.

"Mi gei ditha', Huw," ebe'i dad wrtho—er siom aruthr iddo—"fynd i'r môr.' Ac felly bu. Aeth ei dad ag ef am fordaith o naw mis, ond canfu ymhell cyn dychwelyd, nad oedd diferyn o ddŵr hallt yn ei waed, ac fel dyn call gadawodd iddo fyned at ei fodryb i ddysgu ffarmio, ac .ni chafodd le i edifarhau chwaith, oblegid ymdaflodd Huw i'r gwaith gyda sêl a brwdfrydedd mawr.

Felly hefyd Twm, ac am y tair blynedd nesaf bu'r tri chyfaill wrthi'n ddiwyd yn eu gwahanol gylchoedd. Aeth Twm a Huw am gwrs byr mewn amaethyddiaeth i Goleg Bangor, a phasiodd Jac i adran feddygol un o brifysgolion Lloegr.

Blynyddoedd tawel a fu'r rhain, ac er y byddai'r tri gyda'i gilydd gryn lawer, fel y gellir yn hawdd gredu, nid cymaint â chynt, gan fod Jac mor brysur gyda'i wersi, a Thwm yn byw yn Llanfriog, dros dair milltir i ffwrdd. Eto byddai Huw a Thwm yn gweled cryn lawer ar ei gilydd, mewn marchnad a ffair a phreimin.[82] Yn y gaeaf ymwelent â'i gilydd gryn lawer hefyd, a'u hoff adegau i wneuthur hynny fyddai nosweithiau lleuad, gan mai hyd y llwybrau a arweiniai ar draws y caeau yr aent fel rheol. Ac nid bod llai o ffordd o Lanystyn i Lanfriog ar draws y caeau na hyd y lôn oedd y prif reswm am hynny ychwaith, ond am y caent dipyn o ddifyrrwch wrth fyned â'u cŵn gyda hwy.

Fe arweiniodd yr arferiad hwn Huw i un o helyntion, mawr ei fywyd. Yr oedd wedi mynd i edrych am Twm un noson, ac ar ôl swper, yn ôl ei arfer, daeth Twm i ddanfon tipyn arno Cymerasant gryn dipyn o amser ar eu taith hefyd, gan fod ci gan y ddau, a hwythau dan ddyfod, yn gyrru'r cŵn dros y cloddiau i hela, ac yr oedd y ddau gi, er mai cŵn defaid oeddynt, wedi eu dysgu yn drwyadl yn y gwaith o hela, a deallent ei gilydd i'r dim. Rhedai un i ganol y cae ac âi'r llall gyda'r clawdd, ac fel y rhuthrai'r cwningod o ganol y cae am y clawdd am eu tyllau, derbyniai'r ci fyddai wrth y clawdd hwynt.

Dysgasai'r bechgyn hwy i gario hefyd, a'r noson hon cawsent eisoes bedair cwningen, ac yr oedd y cŵn yn y cae wedyn, pan glywsant yn sydyn un ohonynt yn gweiddi mewn poen. Gyda hynny dyma Gel-ci Huw-i'r lôn â chwningen ar draws ei geg. "Cymro sy' wedi mynd i drap," ebe Twm, a throsodd ag ef a Huw ar hynny i'r cae, a gwelent Cymro dipyn draw yn sefyll yn ei unfan, ac yn cyfarth yn boenus.

Aeth y ddau ato ar râs, a dyna lle'r oedd y ci â'i droed dde blaen mewn hoenyn,[83] yn cwyno ac yn ceisio cnoi'r weiren bres oedd yn brathu i'w goes. Pan oeddynt wrthi yn ei ryddhau, a newydd dynnu'r peg oedd yn dal y weiren yn y ddaear, clywent dwrw rhywbeth yn rhuthro heibio, a gwelent ysgyfarnog fawr yn mynd fel mellten flaen Gelert am gae'r llwybr, ac ymhen ychydig iawn o eiliadau yr oedd y ddau wedi diflannu o'u golwg.

Cyn gynted ag y tynasant y weiren gopr, dechreuodd Cymro lyfu ei droed, ac mewn amser byr iawn yr oedd yn cychwyn â'i drwyn wrth y ddaear ar drywydd[84] cwningen. "Cymro, tyrd yma! 'Chaiff o ddim hela rhagor yn fan 'ma," ebe Twm. "Rhaid inni fynd am y lôn, rhag ofn i'r hen gipar 'na ddwad. Wedi inni gael i'r lôn, 'fedr o dd'eud dim. Lle rhoist ti'r cwningod, Twm?"

"Dyma nhw," meddai Twm, wedi iddynt gael drosodd i'r ffordd, "mi 'cudd'is i nhw yn fan 'ma.'

"Fyddai'n well inni chwibanu ar Gel?" gofynnodd Huw; "ddeil o byth mo'r sgwarnog." A rhoes chwibaniad hir.

"Wn i ddim, wir," meddai Twm, "yn ôl fel yr oedd o'n closio ati hi wedi iddo fo'n pasio ni, mi ddyla' fod wedi cael tro arni erbyn hyn; ond gwell iti beidio â chwibanu llawer; 'wyddost ti ddim pwy—taw! Beth oedd 'na, dywed? Dyma fo Gel, yn dwad; ' chafodd o mo na nid y fo ydi o. Huw, dyma'r hen gipar 'na. Tyrd oddi wrth y cwningod 'ma. Brysia, dyma Robinson yn dwad. Mi gymerwn ni arnom ein bod ni'n 'madael oddi wrth ein gilydd." Yna gan godi ei lais, meddai gan gychwyn i ffwrdd—"Mi ddo'i acw nos Sadwrn : nos dawch Twm." Atebodd Huw yntau; ond erbyn hyn. yr oedd y cipar yn eu hymyl, ac meddai :

"Wel, fechgyn, mi wela' fod y ci 'ma wedi bod yn hela? 'Chlyw'is i ddim ci yn cyfarth fel 'tasa' fo mewn poen rwan jest? 'Chlywsoch chitha' mo'no fo?"

"Do," meddent hwythau.

"Yn lle?" gofynnodd y cipar.

"O! yn rhywle ffor 'ma," atebasant.

"Nid un ohonoch chi glyw'is i'n chwibanu?" gofynnodd y cipar wedyn. "Chwibanu ar hwn o hela, 'roeddech chi?”

"Nid yn yr Ysgol Sul yr yda' ni,[85] Robinson," ebe Twm, gan gychwyn yn ei flaen. "Nos dawch, Huw.'

"Paid â threio bod yn witty, 'machgen i," ebe'r cipar, 'dydi o ddim yn dy siwtio di. Tyda 'ni ddim mor ddall nad yda' ni'n gw'bod i be byddwch chi'n dwad â'ch cŵn efo chi, ac mi wyddom ni be' di'ch gêm chi hefyd."

Ond y foment honno, beth welent yn dyfod tuag atynt,. ag un o'r cwningod a guddiasai Twm yn ei geg, ond retreiver Robinson; a'r funud y gwelodd Cymro ef, rhuthrodd arno; ac ar amrantiad dyma hi'n ymladd fryrnig.

Camodd Robinson atynt gyda llw, a dechreuodd guro Cymro yn giaidd â bagl[86] y ffon drom a gariai, gan ofalu peidio â chyffwrdd unwaith yn ei gi ei hun, ond heb fedru gwahanu'r ddau. Eithr pan aeth Huw atynt, llwyddodd ar unwaith i dynnu Cymro oddi wrth gi'r cipar.

"Pa'm na chadwi di dy gi dan reolaeth well?" gofynnodd y cipar yn sarrug, gan roi cic i Gymro yn ei asennau, nes bod y ci'n griddfan.

"Gwna hynna unwaith eto, Pharo," meddai Twm yn ffyrnig, gan garu 'mlaen, "a mi fydd yn edifar gen'ti.'

"G'neud unwaith eto," meddai'r cipar, dan chwerthin yn wawdus, a rhoi hergwd[87] i Twm i'r ffos, a cheisio am gic wedyn i Cymro; ond yr oedd Huw yn ei wylio, a phan gododd y cipar ei goes i roi'r gic, cododd Huw yntau ei droed rhwng y ci a'r cipar, a thrawodd Robinson grimog[88] ei goes yn erbyn ei sawdl, nes ei fod yn gwywo gan boen.

"Gad iddo fo i mi, Twm," meddai Huw yn ddistaw, 'mae dy dad yn denant i'w feistr o, a mi fedr ddial arnat ti; 'does gynno[89] fo ddim i 'ddeud wrtha 'i." A thra oedd Robinson yn nyrsio'i goes, dan dyngu a rhegi, cythrodd[90] Huw i'w ffon, a'i thorri ar draws ei benglin, a'i thaflu dros y clawdd. "Rŵan, y bwli i ti," meddai, "os oes arnat ti isio[91] trwbwl, mi cei o," a thaflodd ei dopcôt a'i gôt oddi amdano.

Yr oedd Robinson yn llabi[92] cryf, tua hanner cant oed, ond wedi dechrau magu tipyn o fol, ac nid oedd yn hollol sobr y noswaith hon ychwaith, ond yr oedd Huw yntau bron cyn daled ag ef, yn heini[93] ac ysgafndroed; a'r unig beth a ddysgodd ar ei fordaith, ysywaeth,[94] oedd bocsio; ond ni wyddai Robinson ddim am hynny.

Yr unig beth a welai ef, oedd cyfle i roi curfa gofiadwy i'r llanc, megis ag a roddasai lawer gwaith i weision. ffermydd a photsieriaid yr ardaloedd.

Ar unwaith anghofiodd ei boen, ac ymdaenodd gwên foddhaus dros ei wynepryd.[95] "Paid â thafferthu i dynnu dim arall i ffwrdd," meddai, "mi wna' i hynny i ti—a dy drywsus di hefyd." A rhuthrodd arno.

Ond camodd Huw yn ysgafndroed yn ôl; ond, yn anffodus iawn, beth a ddigwyddai fod yn union o'r tu ôl iddo—wedi cilio am loches rhag Robinson-ond Cymro, a disgynnodd Huw drosto ar wastad ei gefn; a phan oedd Robinson yn rhoi ei benglin ar ei frest, dyma sŵn eglur ysgyfarnog yn sgrechian rhwng dannedd ci, ryw led cae oddi wrthynt.

"Damn!" ebe Robinson, gan godi, "mi orffenna' i efo chdi eto," a rhoes gic i Huw yn ei ochr, ac ymaith ag ef cyn gynted byth ag y medrai i gyfeiriad yr ysgyfarnog, â Thwm wrth ei sodlau.

"Tyrd yn d'ôl, Twm," meddai Huw; "gad iddo fo; 'chaiff o byth fynd yn agos i Gel, a 'tydi o ddim yn 'i 'nabod o chwaith."

"P'am na fuaset ti'n gadael rhyngof i ag o?" gofynnodd Twm. Frifodd o di? Dyna chdi wedi'i chael hi o f'achos i."

"Paid â phoeni dim, Twm," ebe Huw. "Mi ga'i dalu iddo fo eto, mi elli fod yn dawel; ond o ran hynny, 'does arna' i[96] fawr i gyd iddo fo, a barnu oddi wrth fel yr oedd o'n hercian;[97] ond y drwg ydi y daw Gel â'r ysgyfarnog i ni i fan 'ma. Felly mae'n well imi 'i bachu hi,[98] ac wedyn mi ddilynith fy ogla' i. Wel, 'rhen Dom, am y drydedd waith heno, nos dawch—tan nos Sadwrn."

"Well imi ddwad i dy ddanfon di," ebe Twm, "mi wn i wrthat ti fod dy ochr di'n brifo.'

"Na," meddai Huw, "ddoi di ddim, a 'tydi f'ochr i ddim yn brifo fawr—dim ond jest digon imi beidio ag anghofio Robis. Wel-tan nos Sadwrn 'ta,[99] Twm.' Ac ymaith ag ef.

PENNOD IX
Y CORFF YN YR AFON

Wedi iddo gerdded am dipyn hyd y llwybr, penderfynodd Huw, gan ei bod wedi mynd mor hwyr, dorri ar draws y caeau.

Yng ngwaelod y cae cyntaf yr oedd afon, a chyfer coed yn tyfu ar ei glan yr ochr arall, ac mewn man arbennig yn ymyl llwyn oddrain a mieri, a dyfai ar ei glan yn ochr y cae, gwyddai Huw am lecyn lle nad oedd yr afon yn ddim ond rhyw ddwylath o led, a gwnaeth hi'n syth am y fan honno.

Yng nghysgod y coed brigog, yr oedd hi gryn dipyn yn dywyllach, a thywynnai'r lloer rhwng y brigau, gan daflu cysgodion rhyfedd ar y ddaear. Cyrhaeddodd Huw yr afon, ac wedi cymryd tipyn o wib, neidiodd drosodd i'r coed, ond gyda llai nag a feddyliasai, wrth gefn.

"Diaist i," meddai, gan droi i edrych, "mae hi'n lletach yn fan 'ma nag oeddwn i'n feddwl. Mae'n rhaid bod y glawogydd ma we—." Ar hynny ataliwyd cwrs ei feddyliau'n ddisymwth, ac aeth yn chwys oer drosto'i gyd; teimlai ei lygaid fel petaent yn ceisio neidio o'i ben, a'i wallt yn llythrennol godi ei gap,—canys o dan dorlani[100] yr ochr arall, yn araf godi a gostwng efo'r dŵr, wedi ei ddal gan y mieri[101] a dyfai o'r ochr, â phelydrau'r lleuad rhwng brigau'r coed yn chwarae ar ei wyneb gwelw—gorweddai corff.

Am ba hyd y bu Huw yn rhythu arno, ni fedrodd byth ddweud, ond toc ceisiodd symud, eithr teimlai ei draed fel petaent wedi glynu wrth y ddaear, ond wrth geisio symud, sathrodd ar frigyn crin, a pharodd twrw hwnnw yn torri i Huw lamu fel march wedi ei sbarduno,[102] a dechreuodd redeg fel dyn gwallgof.

Ond rhwng y cyfer a'r cae nesaf, yr oedd weiyr pigog, yn bedair rhes, a chafodd Huw, ar ei waethaf, dipyn o amser i feddwl wrth ddringo drostynt.

"Dyn Llanŵion," meddai wrtho'i hun.

Y dyddiau hynny yr oedd sôn mawr yn y papurau am ryw ddyn o Lanŵion oedd wedi dianc o seilam[103] y dre'.

"Ie, y fo ydi o hefyd," meddai wedi cael trosodd, dan ailgychwyn rhedeg; ond yn raddol dechreuodd sylweddoli'r sefyllfa, ac wrth wneud hynny, heb yn wybod iddo'i hun, arafai. Aeth i deimlo'n anesmwyth iawn. "Mi ddylwn fynd i dd'eud wrth rywun," ymresymai ynddo'i hun, "ac eto os gwna' i, mi fydd cwest arno fo'n siwr, a mi fydd yn rhaid i minna' roi'r holl fanylion, a dweud faint o'r gloch oedd hi. Beth feddylith pobl ohona' i yn y fan yma rhwng hanner nos ac un o'r gloch y bore? A mi ofynnan' imi sut y gwyddwn i 'i fod o wedi marw pan wel'is i o gynta', a ddaru mi dreio'i gael o o'r afon. Ac eto, be' 'tasa rhywun yn gweled ôl y nhraed i'n disgyn yn y coed, a'r plisman yn mynd i chwilio a chael allan mai fi fuo 'na? Y Nefoedd Fawr!--ella' ma' Robinson ydi o,—seiwedi mynd ar ôl Gel, ac yn 'y nisgwyl i? Yr oedd ogla' diod arno fo; ella mai fo sydd wedi syrthio i'r afon. Be' tasa nhw'n d'eud mai fi boddodd o, ne' bod o wedi syrthio i'r afon wrth inni orffen y ffeit? Be' 'na i? Ella nad ydi o ddim wedi boddi ran hynny—pwy bynnag ydi o.

Fel hyn yr ymresymai Huw, a'i gamau yn mynd yn arafach, arafach o hyd. O'r diwedd stopiodd, ac aeth drwy ymdrech meddwl ofnadwy. Ofnai fynd adre, a gadael i'r dyn yno, ac yntau efallai yn fyw; ni châi lonydd byth gan ei gydwybod, pe gwnâi hynny. O'r ochr arall, saethai iasau o arswyd drwyddo wrth feddwl am droi'n ôl.

"Wel," meddai, o'r diwedd, "cha' i byth lonydd gan 'y nghydwybod os gadawai iddo. Hyd yn oed os bydd o wedi marw pan ddo'n 'nhw o hyd iddo fo, sut y gwn i 'i fod o wedi marw rŵan? 'Does dim amdani ond mynd yn f'ôl. Ond, Brenin Mawr! Sut yr a' i?"

Yr oedd Huw yn fachgen crefyddol, ond er iddo adrodd hanes y noson honno lawer gwaith, ni ddywedodd wrth neb ond wrth Jac a Thwm a Dic, beth a wnaeth cyn cychwyn.

Nid â'r daith yn ôl byth o'i gôf; a'r peth caletaf oll, oedd neidio i'r ochr arall at y corff. Pan gyrhaeddodd at yr afon, taflodd gilolwg[104] frysiog tua'r fan, gan ryw led obeithio mai wedi camgymryd yr oedd. Ond na, troes ei olwg ymaith ar unwaith, oblegid gwelsai yn y drem frysiog, ddigon i ddangos iddo fod y corff yno o hyd.

Ymwrolodd, a chymerodd wib—a throsodd ag ef.

Huw druan! Yn ei gynnwrf a'i arswyd, cymerodd ormod o wib, ac wedi glanio yn y cae, methodd â chadw ar ei draed, a disgynnodd ymlaen ar ei wyneb, gan daro'i dalcen mewn brigyn crin a syrthiasai o goeden uwch-law, nes ei hanner hurtio;[105] a'r peth a ddaeth ag ef ato'i hun, oedd clywed creadur trwm ar ei wegil,[106] a rhywbeth meddal, gwlyb, yn cael ei dynnu hyd ochr ei wyneb. Gyda gwaedd ofnadwy neidiodd i fyny, a beth welai yn ei ymyl yn ysgwyd ei gynffon, â'i dafod allan, ac yn dyheu[107]—ond Gel!

Y creadur bach! Yr oedd mewn cyflwr ofnadwy erbyn hyn, a'r gwaith caleta' n ei aros eto. Ond nid oedd dim i'w wneud, ond ceisio cael y corff i'r lan. Dechreuodd gropian ymlaen, ac wedi cael at fin yr afon, estynnodd ei fraich ymlaen, gan droi ei ben draw, dros y dorlan. Gwthiodd ei law i lawr, a cheisio cael gafael ar y dyn. Ni wyddai yn iawn gyferbyn â pha ran o'r corff yr oedd ei law, a daliodd i wthio i lawr nes teimlo ei law yn cyffwrdd â phen garw oer, a'r foment honno dyma besychiad caled, byr, o'r dŵr; a neidiodd i fyny'n ei fraw. Ond cyn iddo fedru cychwyn ffoi, dyma besychiad arall; ac er ei fraw i gyd, ac er mor debyg i ddyn y medr dafad besychu, sylweddolodd Huw ar unwaith mai dafad Cefn Helig, a honno yn fyw, oedd y corff yn yr afon, a suddodd yn swp ar y cae, dan chwerthin a chrïo bob yn ail. Wedi dyfod ato'i hun, aeth ati hi i'w thynnu o'r dŵr, ond bu'n rhaid iddo gymryd ei gyllell i dorri'r mieri oedd wedi cordeddu[108] am ei gwlân, cyn ei chael i'r lan.

Ychydig iawn a gymerodd i Gelert ac yntau gyrraedd y cartre, a thynnodd ei esgidiau wrth y giât bach, rhag i'w fodryb ei glywed yn mynd i'r tŷ mor hwyr. Trwy ddrws y cefn yr âi, pan fyddai'n hwyr arno yn dyfod adre, bob amser, a phan oedd yn estyn yr agoriad i'w roi yn nhwll y clo, beth welai yn hongian wrth y glicied, ag un goes drwy glun y llall, ond cloben[109] o ysgyfarnog fawr.

"Wel, Gel bach," meddai, "a mi dal'ist hi'n y diwedd; ond er clyfred wyt ti, 'fedret ti ddim rhoi hac yn 'i chlun a thynnu'i choes hi drwodd, a'i hongian hi'n fan 'ma 'chwaith."

PENNOD X
STORI DIC

Drannoeth, pwy gerddodd at dŷ modryb Huw, ond Dic Cae Bach.

"Diolch iti am fenthyg dy feic, Huw," meddai. "'roedd hi'n hwyr iawn arnat ti'n dwad adre' neithiwr. 'Does gen' ti ddim lle i gadw dy sgwarnogod yn y tŷ, dywed?"

"Dic! Y cena! y chdi fuo 'ma, ai e? Y chdi roes y pry' mawr[110] yn sownd wrth y glicied? Lle gwel'ist ti Gel, Dic?"

"Wel, os doi di acw heno mi gei'r hanes," ebe Dic. "Rydw' i am fynd â'r beic adre rŵan imi gael 'i lanhau o iti; tyrd dithau i' nol o heno, ac i nôl hanes y sgwarnog yr un ffordd."

"Ella bydd gin' i stori well na hi, Dic," ebe Huw, 'mi gef'is i sioc fy oes neithiwr, 'machgen i, a 'fydd 'y nghalon i byth yn iawn eto.'

"Taw, Huw," ebe Dic mewn syndod. "Be' ddigwyddodd iti, dywed?"

"Dos di â'r beic 'na adre, Dic, a glanha fo, wedyn mi gei ditha' ddyfalu[111] drwy'r dydd, fel finna'."

"Da iawn," ebe Dic, dan chwerthin. "Eitha' tâl i mi, Huw. So long rŵan.'

"Mi gei di fy stori i gynta'," ebe Dic y noson honno, wrth y tân yng Nghae Bach. A dyma grynhoad ohoni.

Yr oedd Dic wedi benthyca beic Huw i fynd i weled chwarae drama mewn ardal rhyw chwe milltir o Lanystyn, ac yr oedd y ffordd yno yn arwain drwy Lanfriog, a phan oedd Dic ar ei ffordd adre, wedi cyrraedd pedair croeslon Lanfriog, ac yn cychwyn am Llanystyn, clywodd gi yn gweiddi mewn poen, a disgynnodd oddi ar ei feic i wrando, gan syllu i gyfeiriad y twrw, ac ymhen ychydig, gwelai ddau yn dyfod trosodd ymhen pella'r cae, a chan y gwyddai am ymweliadau Huw a Thwm, gesiodd ar unwaith pwy oeddynt, a beth a ddigwyddasai hefyd. Meddyliodd am fyned atynt, ond sylwodd fod golau lamp ei feisicl yn dechrau gwanio, ac aeth ati i drin hwnnw, a chymerodd hynny fwy o amser nag a feddyliasai; ond pan oedd yn cychwyn, gwelodd gi yn rhedeg ar ôl ysgyfarnog, ac yn dyfod yn syth i'w gyfeiriad. Yn fuan iawn yr oeddynt yn ei ymyl, a phan oedd yr ysgyfarnog yn cymryd y wal, gafaelodd y ci ynddi a dechreuodd hithau sgrechian—y peth tebycaf yn y nos dawel i blentyn bach yn crio. Adnabu Dic y ci ar unwaith, oblegid efe oedd yn gyfrifol am ei ddysgu i hela mor dda. "Well done, Gel! Tyrd â hi yma, 'ngwas i—tyrd Gel, tyrd ci mawr" meddai Dic, ac ufuddhaodd Gel ar unwaith gan ysgwyd ei gynffon, ond pan oedd yn dyfod dros y wal, clywodd Dic dwrw rhedeg, ac yng ngolau'r lleuad, gwelai rywun yn cyflymu tuag ato. Am foment meddyliodd mai Huw ydoedd, ond rhybuddiodd rhywbeth ef, a diffoddodd ei olau ar unwaith, neidiodd ar ei feic, plygodd yn isel dros y llyw, â'r ysgyfarnog yn un llaw gan sibrwd, "Tyrd Gel bach, tyrd 'y ngwas i.

A Gel wrth ei olwyn ôl, gyrrodd yn galed am filltir cyn stopio, a dyfod oddi ar gefn ei feisicl; a'r foment y gwnaeth hynny, clywodd dwrw traed trwm yn dyfod i'w gyfarfod, a deallodd wrth ei gerdded mai un o blismyn y Dre oedd yn dyfod. "Dyma felltith o dro," meddai; "mae'n rhaid imi roi golau ar y beic 'ma, ne' mi stopith fi, 'fedra' i byth reidio i fyny'r allt 'ma, a'i basio fo heb iddo fo fy 'nabod i, a hitha' mor olau. Wel, mi dro i'n f'ôl, ynta'." Ond nid aethai ragor na ryw hanner milltir, cyn clywed sŵn cerdded i'w gyfarfod o'r cyfeiriad hwnnw drachefn ; ac wrth wrando, clywodd leisiau, ac adnabu lais Robinson yn siarad â rhywun tan ddyfod. Ar hynny sylweddolodd mai plisman Llanfriog oedd gyda'r cipar, yn dyfod i gyfarfod plisman y Dre. "Wel, be' 'na' i rŵan?" meddai. A gwaeth na hynny, yr oedd Gel yn ei ganlyn yn glos o hyd, ac yn dyheu yn galed, â'i dafod allan. Ar hynny cofiodd iddo basio giât, ryw ganllath yn uwch i fyny, a throes yn ôl eil-waith, ac ar gefn ei feisicl yn frysiog, â Gel wrth ei gwt o hyd. Wedi cyrraedd y giât, cododd y beisicl drosti, ac yna dilynodd yntau ei hun, gan ymguddio yr ochr arall i'r gwrych, a thynnu Gelert ato.

Ar groeslon Llanfriog y byddai'r ddau blisman yn cyfarfod ei gilydd, ond y noswaith hon digwyddai plisman y Dre fod dipyn ar ôl ei amser, a deuai i lawr yr allt yn lled gyflym; felly nid oedd gan Dic fawr wrth ei gefn, ac yr oedd yn dda iddo fod tro yn y ffordd yn y fan honno, neu buasai'r plisman yn lled sicr o fod wedi ei weled. Yr oedd y ci, hefyd, yn dal i ddyheu, ac yn y distawrwydd, ofnai Dic i'r plisman ei glywed wrth fynd heibio; felly pan oedd yn pasio'r giât, rhoes ei rencot dros ei ben i fygu tipyn ar y sŵn dyheu.

Gyda'i fod wedi pasio, pwyntiodd Dic i ganol y cae, gan annos[112] Gel i hela ; ond cafodd dipyn o drafferth ganddo fynd, gan na fynnai Gelert adael yr ysgyfarnog; ond yn y man llwyddodd. "Gobeithio'r Nefoedd," meddai, na ddeil o ddim cwningen, ne' mi ddaw â hi i mi, a dyn a ŵyr fod gen' i ddigon ar fy nwylo fel y mae hi." Gyda hynny clywai'r ddau blisman a'r cipar yn cyfarch ei gilydd. "Dyma fy nghyfle i," meddai, gan godi'r beisicl dros y giât yn ofalus, a thaflu'r ysgyfarnog drosodd, a rhoi ei draed ar y bar isaf; ond pan oedd yn mynd drosodd, gollyngodd stwffwl<ref>Stwffwl: staple.<ref> isa'r giât a chododd ei gwaelod dan ei bwysau, gan daflu'r beisicl a orffwysai arni i'r ffordd gyda thwrw mawr; ac i wneud pethau'n waeth, trawodd y gloch y lôn, nes bod ei thop yn rowlio i'r ffos.

Fe'i cafodd Dic ei hun yn rhydd o'r giât heb fawr o drafferth, er iddo gleisio tipyn ar ei goesau, a chythrodd i'r ysgyfarnog a'r beic a'r darn cloch, a chychwyn marchogaeth i fyny'r allt syth am ei hoedl. Nid oedd Robinson a'r plismyn yn cysgu chwaith. "Rhywun wedi methu cadw'r tro yng ngwaelod yr allt," meddai Cwnstabl Hughes, y Dre, "ac wedi cael codwm, a brifo efallai."

"Na," ebe Robinson, "mae o'n cychwyn eto—y blwmin' potsiar 'na yr oeddwn i'n deud amdano wrth Evans 'ma rŵan, ydi' o. Ar 'i ôl o, lads."

Yr oedd gan blisman Llanfriog feisicl ei hun, ac aeth ar ei gefn, ond yr oedd yr allt bron â bod yn ormod i Dic, heb sôn am y plisman casol[113], a dylai Dic fod yn ddiolchgar iawn am y braster a fagasai'r plisman; ond nid enillai gymaint â hynny arno, chwaith.

Erbyn iddo gyrraedd pen yr allt yr oedd yn foddfa o chwys, ond yr oedd y gwaetha' drosodd, a chanddo bellach lôn wastad. Buasai'r ysgyfarnog yn gryn rwystr iddo, hefyd, gan ei bod gymaint â chi go dda; ond y peth a'i gwnâi yn anhwylus iddo, oedd gorfod gafael ynddi ag un llaw; felly tynnodd ei gyllell o'i boced, a rhoes hac yn ei chlun, a gwthio'r goes arall drwyddi, a'i rhoi i hongian ar gorn chwith y beisicl, a gafael yn hwnnw, oblegid gwnâi pwysau'r ysgyfarnog hi'n anodd iddo gadw'i gytbwysedd[114] heb hynny. Dan farchogaeth, â'r llaw arall, dechreuodd fotymu ei rencot, ac ar hynny teimlodd blwc egr, a'r peth nesaf a wybu oedd ei fod ef a'r beic a'r ysgyfarnog yn bentwr ar y lôn.

Aethai godre ei gôt i spôcs olwyn ôl y beisicl, ac fel y cyflymai Dic, tynnwyd hi i'r fforch, a thynnwyd Dic hefyd yn wysg ei gefn oddi ar y sêt. Cafodd gryn drafferth i ymryddhau hefyd, ac nid heb rwygo peth ar ei gôt, y llwyddodd ychwaith, a chollodd dipyn o amser yn hel y pethau a wasgaresid yn y godwm—yr ysgyfarnog, a'r lamp a'r pwmp, ac erbyn codi'r beic, canfu fod y llyw wedi camu. "Diolch," meddai, "nad oes dim byd gwaeth na hyn wedi digwydd; 'fydda'i fawr o dro â gwastatu'r llyw 'ma." Yna gosododd yr olwyn flaen rhwng ei goesau, ac wrth wneud hynny, wynebai ben yr allt y daethai i fyny hyd-ddi, ac fel y troai'r cyrn i'w hunioni, gwelai ym mhen yr allt, ffurf dyn, ac wrth graffu, gwelai'r ffurf yn codi ac yn gostwng, a chlywai dwrw curo deirgwaith neu bedair, ac ar unwaith cythrodd Dic i'r ysgyfarnog, neidiodd ar ei feisicl, a dechrau padlio â'i holl egni, oblegid deallodd Dic ar unwaith ystyr y codi a'r gostwng a'r curo: rhywun mewn oed, neu rywun trwm yn mowntio beic o'r tu ôl, ag un troed ar y stepan. "Siwr iawn," meddai, "ond 'toes gan blisman Llanfriog feic, ac fel 'na y bydd o'n mynd ar 'i gefn o hefyd; mae o fel carlwm ar ôl cwningen.' Ymhen ychydig byddai wrth groeslon Llanystyn, a byddai'n rhaid iddo droi ar y dde i fyned adre, oblegid i'r Dre yr elai wrth gadw ar ei union. Beth wnâi? Os troai, fe'i canlynai'r cipar ef, oblegid â hithau mor olau, a'r ffordd tua Llanystyn yn union am gryn filltir, byddai'r plisman wrth y groeslon yn ddigon buan i fedru ei weled ar y ffordd, a byddai hynny yn ddigon, hyd yn oed onis daliai ef, i ddweud wrth y plisman mai un o Lanystyn ydoedd. Meddyliodd unwaith am fynd ar ei union, ac i'r Dre, ond ofnai wedyn gyfarfod rhywun a'i hadwaenai—neu y sarjant—ac yntau heb olau. Meddyliodd drachefn am daflu'r ysgyfarnog dros y clawdd wrth basio gwinllan goed, a gadael i'r plisman ei ddal os dymunai, ond rhoes y syniad hwnnw heibio fel un hollol annheilwng. Heblaw hynny, sylweddolodd pe gwnâi hynny y byddai ganddo ormod o bethau i'w hegluro, ar wahan i'r posibilrwydd iddynt gael hyd i'r ysgyfarnog. "Wel, mae hi'n mynd yn gyfyng arna' i," ebe Dic, "ond yr ydw' i wedi cael tipyn o flaen arno fo bellach. Hylo! Be' 'di'r rhain?"

Y peth a barodd y cwestiwn oedd gweled nifer mawr o ferlod mynydd rhai yn y ffôs o bobtu—a rhai hyd y lôn, wedi cael giât cae y porent ynddo, yn agored. "Wel, bendigedig!" ebe Dic, a disgynnodd oddi ar ei feic, a chyn pen hanner munud, trwy gymorth cloch y beic a charreg neu ddwy, yr oedd y lôn yn ddu gan ferlod yn rhedeg yn wyllt i gyfeiriad Llanfriog, ac i gyfarfod y plisman. "Reidi di ddim drwy'r rheina ar frys, 'y 'ngwas i," meddai Dic, gan gychwyn drachefn, "ac os na bydda 'i o'r golwg cyn i ti gyrraedd y groesffordd, mi fyddaf yn haeddu cael 'y nal."

Ond ni wyddai Dic fod y plisman yn y cyfamser wedi cael hoelen yn nheier ôl ei feisicl, cyn i'r merlod ei gyfarfod o. Ac wrthi'n melltithio'i anffawd yr oedd y swyddog pan glywodd sŵn carnau dibedol y merlod. "Wel," meddai yntau, "dyma dipyn o eli ar y briw; mi wnaiff hyn gês imi." A chyn pen y mis yr oedd perchennog y ceffylau—neu'n hytrach, berchennog y cae y porent ynddo yn cael ei ddirwyo yn llys ustusiaid y Dre, am adael i'r anifeiliaid grwydro.

"Does dim golwg ohono fo," ebe Dic, pan gyferbyn â thŷ un o athrawesau'r ysgol—ryw ganllath o'r lôn fawr, "ond mi reidia'i at dŷ Miss Lloyd. Mae ganddi hitha' feic. Wn i ddim ai'r un patrwm ydi'r teiyr â'r rhain ai peidio, ond siawns gen' i nad â 'nhw ddim mor fanwl â hynny chwaith." Yna cododd Dic y beisicl ar ei ysgwydd, a chroesodd ddau gae, ac aeth ag o adre i Huw.

"Ddaeth Gel byth adre," meddai, a thaflodd rafel i ffenestr llofft Huw, "na Huw, chwaith, 'ddyliwn. Wel, beth ddywed o pan wêl o hon, tybed?" A rhoes yr ys- gyfarnog i hongian wrth glicied y drws.

PENNOD XI
FEL Y DAETH DIC YN BOTSIAR

Gŵr ieuanc anghyffredin iawn oedd Dic Cae Bach, wedi ei eni i fod yn arweinydd, a phetai ei gyfleusterau yn cyfateb i'w alluoedd, fe wnelsai Dic ei farc yn y byd. Collodd ei fam pan oedd yn ddeuddeg oed, ond nid ail briododd ei dad, a bu Richard Ifans yn dad ac yn fam iddo; ac fel y gellir credu yn hawdd, yr oedd y tad a'r mab yn hoff eithriadol o'i gilydd.

Tyddyn o ryw bymtheng acer ar hugain oedd Cae Bach, a chryn dipyn o wâst ynddo, a byddai talu'i rent a thalu'i ffordd, yn gymaint ag a fedrai Richard Ifans ei wneud, ac weithiau bron iawn â mynd yn fwy na hynny.

Parai gêm, hefyd, gryn golled iddo; ac yn wir, nid oedd un cae chwe acer ar gwr cyfer coed yn werth ei drin. Aeth y tyddynnwr un diwrnod at y stiward i ofyn a gâi roi'r cae i fyny. "Cewch, debyg iawn," ebe'r stiward.

"Faint o rent ydw' i'n 'i dalu amdano fo, os gwelwch chi'n dda?" gofynnodd Richard Ifans.

"Yr un faint ag a fyddwch chi'n dalu ar ôl i chi 'i roi o i fyny," atebodd y stiward.

"Be' 'dach chi'n feddwl?" gofynnodd Richard Ifans, mewn penbleth.

"Y peth ydw' i'n dd'eud, debyg iawn," meddai'r stiward.

Yna deallodd y tyddynnwr.

"Ac felly 'rydach chi am imi dalu'r un faint o rent, a'r lle yn llai o gae?" gofynnodd Richard Ifans. "Rydach chi wedi deall y sefyllfa i'r dim. Bore da." Pan fyddai Syr Huw, y meistr tir, a'i gyd-foneddigion, yn saethu dros Gae Bach, er yr holl gêm a geid yno, ni roddid cymaint ag un ffesant i'r tyddynnwr. Peth arall, hefyd, ni chaniatâi Syr Huw i'w denantiaid gadw dim ond cŵn defaid, na saethu dim ond cwningod a sguthanod,[115] a gwaherddid dal ysgyfarnogod hefyd. Yr oedd y pethau hyn wedi chwerwi llawer ar Richard Ifans, a'r helwriaeth yn byw cymaint ar gynnyrch ei dyddyn. Ac o dipyn i beth, aeth i godi treth drom ar gêm Syr Huw, ond nid oddi ar dir Cae Bach ychwaith.

Gwyddai Dic am y pethau hyn oll, ac yr oedd wedi yfed yn helaeth o ddysgeidiaeth ei dad. Bellach aethai Richard Ifans yn rhy hen i wneud llawer iawn, ond cadwai Dic y busnes i fyny. Nid oedd y pethau na wyddai Dic am botsio yn werth eu gwybod; yr oedd holl ddirgelion y grefft yn hysbys iddo—gosod rhwyd fawr ar noson dywyll, rhoi rhwyd borth ar adwy i ddal ysgyfarnogod, gosod hoenyn a thrap, a chelfyddyd y potsiar i gyd.

Ond er holl ofal Dic a'i dad, ni buont yn abl i dolli cymaint ar helwriaeth[116] Syr Huw, heb gael eu hamau, a gwyddai Robinson y cipar yn iawn eu bod yn potsio, ond yn ei fyw einioes ni fedrai eu dal er iddo fod o fewn trwch asgell gwybedyn[117] i wneud hynny unwaith, ac aeth at y stiward i ddweud yr hanes, heb sychu ei geg.

Aeth y stiward yntau, a dweud wrth Syr Huw. Ond gwnaeth Robinson un camgymeriad: broliodd, yn nhafarn y pentref ei fod wedi dal Dic a'i dad, a'i fod wedi reportio'r peth i Syr Huw, a'i bod hi am fynd yn ddrwg arnyni.

Clywodd Richard Ifans hynny'r noson honno; a'r bore wedyn, pwy aeth i'r Plas i ofyn a gâi weled Syr Huw, ond Richard Ifans. Fel bu'r digwydd, pan gyrhaeddodd, yr oedd y stiward newydd orffen adrodd stori Robinson wrth Syr Huw.

Gofynnodd Richard Ifans a gâi weld Syr Huw yn breifat, a chwynodd wrtho na chai funud o lonydd gan y stiward na Robinson. "Ma' nhw'n deud, Syr Huw, 'y mod i a'r hogyn acw'n potsio, ac yr oedd Robinson yn brolio[118] yn y Bedol neithiwr 'i fod o wedi'n dal ni, a hynny'n gelwydd i gyd. Ac mi wyddoch yn iawn, Syr Huw, y byddwch chi bob amser yn saethu mwy o gêm ar dir Cae Bach nag yn unman, a mae o'n beth ofnadwy fod yn rhaid i mi ddioddef peth fel hyn. Cwningod a sguthanod a llygod mawr ydi'r unig betha' fydda' i'n ddifa. 'Wnewch chi un gymwynas â mi, Syr Huw? Ddowch chi acw heno i chi gael gweld rhywbeth—rhywbeth na welsoch chi 'rioed o'r blaen mo'no fo, rhywbeth a rydd daw ar y stiward a'r cipar am byth?"

Yr oedd apêl Richard Ifans mor erfyniol, fel yr addawodd Syr Huw fyned, a'r noson honno gwelid y gŵr bonheddig mewn gryn chwilfrydedd[119] yn prysuro tua Chae Bach.

Yr oedd Dic a'i dad yn ei ddisgwyl wrth y giât, ac yng ngolau lantern aethant at gwt yr ieir. Cododd y tyddynnwr ei lantern, ac yn ei golau, er ei syndod syfrdanol, [120]gwelai Syr Huw, geiliog ffesant braf ar glwyd. "Mae 'na ddau neu dri ohony' nhw, Syr Huw," ebe Richard Ifans, "ac efo'r ieir 'ma y bydda nhw'n licio bod, a phetaech chi yma'n y boreuau mi gaech 'u gweld nhw'n b'yta efo nhw."

Drannoeth gwysiwyd[121] Robinson i wyddfod ei feistr, a chafodd amser pur anhapus. Yn wir, cafodd bopeth ond sac, ac nid oedd o un diben i'r cipar awgrymu nad oedd y ffesynt efo'r ieir, yn ddim ond mantell i guddio'r potsio.

Ond trosedd mwyaf Robinson yng ngolwg Syr Huw, oedd dweud yr hanes yn y Bedol, ac yr oedd cysgod y trosedd hwnnw ar bopeth a ddywedai'r cipar.

Yn naturiol iawn, yr oedd Robinson yn wallgof, a gwnaeth lŵ y mynnai ddal Dic a'i dad, pe cymerai flynyddoedd iddo; a phan welodd Richard Ifans, dywedodd hynny wrtho, a gwnaeth gamgymeriad mawr, oblegid yr oedd Richard Ifans yn ddigon call i gymryd rhybudd, ac i dreblu ei ochelgarwch.

PENNOD XII
DAL DIC

Yr oedd Dic wedi glân wirioni efo dramâu, ac nid oedd ffyddlonach na medrusach aelod o Gwmni Drama Llanystyn, nag efe. Y gaeaf hwnnw dysgent ddrama o waith W. J. Gruffydd—"Beddau'r Proffwydi." Cymerai Dic ran y gweinidog a Thwm Huws, ac er mor wahanol oedd y ddau gymeriad, yr oedd yn anodd dweud pa un o'r ddau a actiai Dic orau.

Yn Llanystyn yr oeddynt i berfformio gyntaf, a'r noson o flaen y perfformiad buasent wrthi'n brysur yn gosod y llwyfan, yn trefnu'r golygfeydd, ac yn ymarfer, wedi ymwisgo yn union fel y byddent yn y perfformiad cyhoeddus, ac erbyn iddynt orffen, aethai'n bur hwyr. Cymerai Pero, ci Dic, ran hefyd, ac yr oedd wedi ei ddysgu fod yn hollol gartrefol ar y llwyfan, a gwnâi bethau hynod o naturiol; yn wir, yr oedd yn werth talu am diced, i weled y ci yn actio; yr unig beth a ofnai Dic oedd iddo dynnu sylw'r gynulleidfa oddi ar yr actorion eraill.

Yr oedd Huw yntau yn y cwmni, ac ar derfyn yr ymarfer, cychwynasant ill tri tua thre. Wedi ffarwelio â Huw a myned dros y gamfa i dir Cae Bach, dechreuodd Pero hela ei hochr i, a chafodd berffaith ryddid gan Dic i wneud hynny, ac ymhen ychydig iawn o amser yr oedd gan Dic faich bach digon del. Pan ddaeth Pero â'r drydedd gwningen i Dic, yr oeddynt o fewn rhyw ganllath i'r tŷ. "Tyrd yma rŵan, Pero," ebe Dic, gan ei fwytho,[122] "yr wyt ti wedi gweithio digon am heno. Cadw noswyl, yr hen law, mi gawn ni—"Ond cyn iddo orffen dechreuodd Pero chwyrnu, a chychwyn i gyfeiriad llwyn gerllaw, ac ar hynny, daeth Robinson o'r cysgod tuag at Dic, ac meddai yn sarrug:

'Amser neis i fod allan yn hela; a pheth arall, 'roeddwn i'n meddwl mai ci defaid oedd hwn, ond mae o'n fwy o gi hela, 'ddyliwn i. 'Fydd Syr Huw ddim yn ddiolchgar i ti am fynd allan y nos i hela fel hyn, 'rydw i'n siwr. 'Ella newidith o'i feddwl, ac y daw o i gredu nad ydi Dic Cae Bach ddim mor ddiniwed ag y mae o wedi meddwl, ar ôl i ti fynd â fo i weld dy fenagerie ffowls di."

"Ylwch[123] chi, Robinson," meddai Dic, "nid potsio rydw' i, ac mi wyddoch chitha' hynny'n eitha, ac yn caea' ni y daliodd Pero'r cwningod 'ma.

"Sut y gwn i hynny?" gofynnodd Robinson ar ei draws. "Ffordd y doist ti?

"O'r Pentre, wedi bod yn y practis drama," atebodd Dic.

"Ie," ebe'r cipar, "ond 'rwy't ti'n ofalus iawn i beidio â deud mai ar draws caea'—

Ar hynny, stopiodd Robinson yn ddisymwth, ac ymdaenodd gwên foddhaus dros ei wyneb,—ac yn hollol ddirybudd, saethodd ei law i gyfeiriad bron Dic; ond er mor gyflym y bu Robinson, bu Dic yn gyflymach, a neidiodd yn ei ôl cyn i'r cipar fedru gosod ei law arno, a gofynnodd yn ffyrnig, gan dynnu llapedi[124] ei gôt at ei gilydd yn frysiog, "Be' gebyst wyt ti'n feddwl dreio 'wneud, Robis?"

"Dim byd, Dic bach,—dim byd," atebodd Robinson yn wawdus. "Jim! Jim!"

Ac yn y fan, o ganol llwyn gerllaw dyma'r is-gipar, dyn tal, llydan, atynt.

"Rŵan-Dic Cae Bach, y ci lladd defaid!" meddai Robinson, "mae hi wedi d'wad yn ddydd y cyfri' arnat ti o'r diwedd. Wyt ti'n mynd i ddaffod[125] y gôt 'na, ynta' raid imi ofyn i Jim 'ma faeddu'i ddwylo i 'neud?"

Taflodd Dic olwg frysiog dros ei ysgwydd, fel petai'n bwriadu dianc, ond yr oedd y cipar ifanc wedi ei osod ei hun ar ei lwybr; a'r foment y troes Dic i edrych yn ôl, neidiodd Robinson ymlaen, ac ag un plwc agorodd ei gôt, a syrthiodd ceiliog ffesant braf[126] ar lawr wrth ei draed.

Chwarddodd Robinson "Ha! Ha!" fawr dros y lle, ac meddai: "Rwyt ti'n mynd yn ffeindiach wrthy' nhw bob dydd, Dic. Rhoi lodging iddy' nhw yn y cwt ieir yr oeddit ti pan nol'ist ti Syr Huw acw i gweld nhw yn'u gwlâu, ond 'rwy ti wedi mynd i' cario nhw yn dy frest yrwan,—i roi ditan iddy' nhw, mae'n debyg. Wel 'tydi dy laeth di ddim yn dygymod efo hwn, beth bynnag. Dyma'r noson ora' gef'is i 'rioed. 'Does gen' ti ddim i' dd'eud, y 'sglodyn, a chditha' mor barod dy dafod? Y clyfar 'i hun! Ha! Ha!" Ac am unwaith yr oedd Dic yn fud.

Safai yn wargrwm,[127] â'i ên ar ei frest, yn bictiwr perffaith o ddigalondid.

"Dywed rywbeth, y penci!" ebe'r cipar. "Wyt ti wedi llyncu dy dafod?"

"Tydi o ddim diben imi dd'eud dim, Robinson, choeliwch i mo'na ni," ebe Dic.

"Nag ydi," meddai'r cipar, "dydi o ddim. Ond y babi bach! Mae o jest â chrïo. Y peth bach diniwed!"

"Mistar Robinson—dechreuodd Dic.

"Mistar Robinson," gwatwarai'r cipar. "Wir, Jim, os 'rhoswn ni dipyn, mi fyddaf yn Lord Robinson!"

Yna daeth rhyw gasineb dychrynllyd i dôn y cipar, ac meddai: "Yldi, Dic Ifas, 'tasa ti a dy dad ar ych glinia' 'mlaen i yn gweddïo am bardwn, 'chaech chi mo'no fo—ie'r, cyw llyfant, petasa' dy fam yn codi o'i bedd i ofyn, 'rown i ddim pardwn iti; mi chwerthwn[128] yn ych gwyneba' chi'ch tri.'

Pan glywodd Dic y cipar yn sôn am ei fam, aeth cyn wynned â lliain, a gwreichionnodd ei lygaid, a rhoes ryw hanner cam ymlaen, ond drwy ymdrech fawr, fe'i ataliodd ei hun.

"Ie, well iti ail feddwl," meddai Robinson, dan gychwyn ymaith, "mi gei di fynd o flaen dy well, a mi gei ddangos dy dymer yn fa'no llanc, a 'does 'na ddim ond un peth yn fy rhwystro i fod yn berffaith hapus, a dyna ydi' hwnnw, nad ydi Syr Huw ddim gartre, i mi a Jim gael mynd yno heno i ddeud wrtho fo, inni gael gweld i wep o'n syrthio. Wel, nos dawch, Dic glyfar, mi fyddi'n siwr o gysgu'n dawel heno, a mi gei bapur glas neis gin' Roberts y plisman ymhen ryw ddiwrnod ne' ddau. Tyrd, Jim."

Wedi iddynt fyned ychydig draw, meddai Jim wrth Robinson: "roeddach chi ar fai sôn am 'i fam o.

Stopiodd y pen cipar yn y fan, ac meddai: "Jim, 'rydw'i wedi dy rybuddio di o'r blaen, a dyma fi'n g'neud un waith eto—a dyma'r tro d'waetha, cofia. Cau dy geg a meindia dy fusnes dy hun. Wyt ti'n deall?"

Nid atebodd yr is-gipar air, dim ond dal i fynd ymlaen. Nid oedd Dic a Phero wedi symud o'r lle'r oeddynt byth, ond wedi i'r ddau gipar fynd o'r golwg, cychwynasant yn araf tua'r tŷ.

PENNOD XIII
O FLAEN EI WELL

Bu'r ddrama'n llwyddiant mawr, ac ni chlywodd Dic air ynghylch y noson cynt gan neb.

Ym mhen rhyw ddeuddydd neu dri, daeth Roberts y plisman â'r wŷs[129] i Gae Bach, a chyn y nos yr oedd pawb yn yr ardal yn gwybod bod Dic Cae Bach wedi ei ddal yn potsio, a bod ei achos yn dyfod o flaen yr ustusiaid yn llys y Dre' yr wythnos wedyn. Fel pob stori o'r fath, wrth ei thaenu, âi'n fwy—ac yn fwy gwahanol iddi ei hun bob dydd. Dywedid bod Dic wedi ei ddal yng Nghoed y Plas yn yr act o losgi fflowar brwmstan o dan flawydden lle clwydai peth wmbreth o ffesynt, a'u bod yn disgyn fel afalau wrth ei draed, a'i fod, pan ddaeth y ciperiaid ar ei draws, wedi rhoi tro yng nghorn gwddw gryn ddwsin ohonynt.

Rhwng noson y ddrama a dydd y prawf, ychydig iawn a welodd Dic; a phan aeth Huw i edrych amdano, ymddangosai yn ddigalon iawn.

"Oes gen' ti dwrnai, Dic?" gofynnodd Huw.

"Nac oes," atebodd yntau.

"Wel," meddai Huw, "gofala am gael un, a chofia mai Bob Jenkins fydd o; os medr rhywun dy gael di'n rhydd, fo fedr. A gwrando Dic, os nad oes gen' ti bres i dalu iddo fo, mi helpith Twm a finna' di, a mi 'rydw'i wedi gyrru at Jac i Lerpwl i dd'eud yr hanes, a mi wyddost y rhôi Jac 'i geiniog ola' iti."

Troes Dic ei ben draw, pan glywodd hyn, ac meddai, heb edrych ar Huw: "Diolch i chi, hogia' 'run fath, ond mae gen' i ddigon i hynny." Yna, gan droi ato, meddai: "Huw, mi f'aswn i'n licio i Twm a thitha' fod yn y Dre' yn y llys. Ddowch chi?"

"Raid iti ddim gofyn, 'y ngwas bach i," ebe Huw. Yr oedd ystafell yr ustusiaid yn orlawn, oblegid cymerid diddordeb mawr yn yr achos. Wedi mynd trwy'r seremoniau arferol, adroddodd Robinson yr holl hanes, gan ganolbwyntio ar y ffaith ddarfod iddo ddal Dic, â'r fesant ganddo, ac ategwyd ei dystiolaeth gan yr is-gipar. Yna galwyd ar Dic, ac er syndod a siom i Huw a Thwm a'i holl gyfeillion, ni chyflogasai dwrnai. Estynnai pawb ei ben ymlaen.

"Beth sy' gennych chwi i'w ddweud?" gofynnodd cadeirydd y fainc.

"Hyn, syr," atebodd Dic yn gwrtais, "y buasai'r holl firi 'ma wedi'i osgoi pe buasai Huw Robinson wedi fy nghoelio i, neu'n wir, wedi roi siawns imi dd'eud fy stori; ond fel y gall James Williams ddweud, pan ofynn'is i iddo fo wrando arna' i, chwerthin am 'y mhen i wnaeth o, a d'eud na choelia' fo mo'na i, beth bynnag dd'wedwn i.'

"Dyma'r hanes, syr. Yr oeddwn i wedi bod mewn practis drama y noson honno, ac yn y ddrama, mae 'isio ceiliog ffesant, a fi oedd i ofalu am un, ac yn y Dre, yn siop Morgan, yr oeddwn i wedi prynu'r un ddwynodd Huw Robinson oddi arna' i, a'r un bryn'is i yn 'i le fo, diwrnod y ddrama, o ran hynny."

Ond cyn i Dic ddweud dim rhagor, torrodd rhywrai allan i chwerthin; dechreuodd rhai eraill guro'u dwylo, ac aeth yn ferw drwy'r lle i gyd. Curai'r cadeirydd ei bensel yn y ddesg; gwaeddai'r sarjiant, "silence!" ond cyn y cafwyd ef, bu'n rhaid bygwth clirio'r llys. Yna aeth Dic ymlaen i ddweud bod Mr. Morgan ei hun yno yn y llys yn barod i dystio'i fod yn dweud y gwir.

Yr oedd golwg enbyd ar Robinson; aeth ei wyneb yn goch ddu, a chrynai fel deilen, ac ofnai rhai o'i gwmpas bob munud ei weled yn cael ergyd o'r parlys.

PENNOD XIV
BRWYDR DYDD DIOLCHGARWCH

Dydd Diolchgarwch ydoedd, ac ar eu ffordd i wasanaeth y bore, gwelai Dic a'i dad fod paratoadau ar gyfer saethu wedi eu gwneud. Gwelent y rhai a osodid ar gyrion y cyferi coed i rwystro'r adar fyned dros y terfynau, ac i farcio'r lle syrthiai'r rhai a glwyfid, ond na fyddent wedi eu lladd.

Byddai Syr Huw yn trefnu saethu yn Llanystyn bob dydd Diolchgarwch, ac âi Robinson a'r is-gipar hyd yr ardal i chwilio am gurwyr.[130] Byddai'n demtasiwn fawr i dlodion Ymneilltuol yr ardal dderbyn y cynnig, oblegid caent bum swllt am y diwrnod, a phryd o fara a chaws, a chwrw, un o'r gloch, yn ysgubor rhyw ffarm, tra byddai'r boneddigion yn bwyta'n y tŷ ac yn cael mygyn a saib bach. Ildiai amryw, hefyd, i'r demtasiwn, ond o blith eglwyswyr, ac o'r Dre, y câi Syr Huw'r rhan fwyaf o'i gurwyr Ddydd Diolchgarwch.

Gellid tybio yr anghymeradwyid gwaith Syr Huw yn trefnu ei "saethu mawr" y diwrnod hwnnw, ond, rywfodd, ni wneid. Tenantiaid Syr Huw oedd y rhan fwyaf o Ymneilltuwyr[131] yr ardal, ac nid oeddynt yn awyddus iawn i dynnu'r meistr tir yn eu pennau. Yr oedd eraill, mae lle i ofni, mor wasaidd a chynffonllyd fel na freuddwydient am brotestio.

Yr oedd un amaethwr, fodd bynnag, â'i ffarm yn ymyl y capel, a deimlai i'r byw. Nid oedd John Edwards yn flaenor, a dywedid na châi byth fynd ychwaith, am ei fod yn rhy blaen,[132] ond yr oedd yn grefyddwr onest, a chasâi rith a rhagrith â chas cyfiawn. Buasai ef gyda'r stiward, yn gofyn iddo fyned at Syr Huw i geisio ganddo beidio â saethu Ddydd Diolchgarwch, ond dywedodd y stiward wrtho'n chwyrn am feindio'i fusnes ei hun, a myned allan o'r swyddfa. Ond yr oedd John Edwards yn ddyn penderfynol, ac aeth yn syth at Syr Huw ei hun.

"Ond," meddai Syr Huw, "rydw' i wedi bod yn diolch am y cynhaea' yn yr eglwys, a roesoch chi ddim gorau i weithio'r diwrnod hwnnw, a mae'n arw o beth imi golli dau ddiwrnod, a ch'itha' ddim ond un."

"Ie, Syr Huw, mi wn i y byddwch chi'n mynd i'r gwasanaeth Saesneg ddiwrnod Diolchgarwch yr Eglwys, ond yr ydach chi'n temtio pobl dlawd y capel efo'ch corona'[133] i ddyfod i guro i chwi.'

"Fedra' i mo'u gorfodi nhw i ddwad," ebe Syr Huw, 'a phetasa' nhw yn teimlo cymaint â hynny dros y capel, f'asa' nhw ddim yn dwad."

"Y peth fydd yn 'y mrifo i, syr, fydd clywed twrw tanio mawr tra bydd pobl wrthi'n gweddïo."

"Mi ddylent weddio yn well a diolch mwy, John Edwards," meddai Syr Huw, dan chwerthin, "wrth glywed y gynna', a gwybod bod y ffesynt yn cael eu lladd; lleia'n y byd o ffesynt fydd 'na, mwya'n y byd o gynhaea' fydd 'na'r flwyddyn nesa'."

Fodd bynnag, addawodd Syr Huw na byddai iddynt saethu yn ymyl y capel yn ystod y gwasanaeth. Ond fel bu'r digwydd, nid oedd Syr Huw gyda'r saethwyr y diwrnod hwnnw, a gwaeth na hynny, dan ofal mab Syr Huw yr oedd y parti saethu. Bachgen wedi ei ddifetha gan ei fam ydoedd y mab, creadur llysnafaidd,[134] ffroen-uchel,[135] a snobyn o'r iawn ryw. Clywsai am ymweliad John Edwards, ac yr oedd yn gynddeiriog pan ddeallodd am yr addewid a roesid, a chafodd Syr Huw amser annifyr iawn gydag ef a'i fam; aethant eu dau i'w ben, a bu yn bur boeth rhyngddynt.

"To think," meddai ei briod, "that you could stoop to discuss the matter with that uncouth man."

Hwn oedd y Dydd Diolchgarwch cyntaf ar ôl addewid Syr Huw i John Edwards, ac yr oedd y mab wrth fodd ei galon. Bendithiai absenoldeb ei dad, a threfnodd i ddysgu gwers i John Edwards am feiddio ymyrraeth. Felly, yn ystod y cyfarfod gweddi, clywid saethu caled, a hynny ar ffarm John Edwards. Cododd y ffermwr tra'r oedd un brawd yn gweddïo, ac aeth allan yn ddistaw, a gwelai'r saethwyr yn ei gae rwdins, oedd yn terfynu ar fynwent y capel. Heb betruso dim, aeth drosodd, ac at un o'r curwyr, ac wedi deall nad oedd Syr Huw gyda hwy, cyfeiriodd ei gamre yn syth at fab Syr Huw, a phan welodd y gŵr bonheddig ifanc ef yn dyfod, taniodd ddwy ergyd i'r awyr, a gwnaeth dau o'i gyfeillion yr un peth. Yna cythrodd i wn arall o law lodiwr yn ei ymyl, a thaniodd ddwy arall drachefn. Erbyn hyn yr oedd John Edwards wedi cyrraedd ato, a dywedodd fel yr oedd ei dad wedi rhoi ei air na byddai saethu yn ymyl y capel yn ystod y gwasanaeth, ond yr ateb a gafodd oedd chwerthin gwawdus a thanio dwy ergyd arall, a'i rybuddio oni byddai o'r cae cyn pen un munud, y câi'r ddwy ergyd nesa' drwy'i het.

Dechreuodd John Edwards ymliw[136] ag ef, ond cyn iddo gael dweud fawr ddim, cipiodd mab Syr Huw betrisen o law un o'r curwyr, a'i thaflu i wyneb y ffarmwr.

Bu hyn yn ormod i John Edwards, a chamodd ymlaen â thân yn ei lygad, ond trawodd y sgweier ifanc ef yng nghanol ei wyneb, ond prin y teimlodd yr amaethwr y ddyrnod gan gymaint ei ffyrnigrwydd, a gafaelodd amdano, a'i wasgu, nes teimlai'r gŵr ifanc ei asennau yn cyfarfod ei gilydd, a'i anadl yn rhuthro i'w enau, a'i du mewn fel petai am ei dilyn, a suddodd yn wanllyd i'r llawr; ond mewn moment yr oedd un o'i ffrindiau yn dyfod am John Edwards mewn ystum ymladdgar iawn.


"O'r Tad!" ebe'r ffarmwr, "fydd gin' i ddim gwrthwynebiad o gwbl i dy daro di, llanc;" a gwthiodd freichiau'r ffrind o'r neilltu fel pe na baent ond gwiail; ac mewn moment yr oedd y gŵr bonheddig ieuanc yn eistedd yn y rwdins ac yn plygu 'mlaen, a'i wedd yn welw wyrdd, a'i lygad pwl[137] yn llonydd, a'i enau yn cau ac yn agor—fel pysgodyn ar dir sych.

"Arna' chi 'roedd y—

Ond cyn i John Edwards orffen, aeth yn nos dywyll arno, oblegid daethai Robinson yn lladradaidd o'i ôl, ac â bagl ei ffon, trawodd ef dipyn uwch na'i wegil[138], a disgynnodd John Edwards yn glwt yn ymyl y ddau arall.

Erbyn hyn yr oedd cyfarfod y bore drosodd, a'r gynulleidfa'n dechrau dyfod allan, a buan iawn y deallwyd beth a ddigwyddasai; ac wrth gwrs, dyna fu testun siarad pawb drwy'r dydd. Er gwaethaf y ddyrnod a gafodd John Edwards gan y cipar, daeth ato'i hun yn y man, a chafodd fynd o'r cae heb ragor o helynt. Arhosodd gartre'r prynhawn, ond mynnodd gael mynd i gyfarfod y nos. Ni ofynnwyd iddo gymryd rhan, fodd bynnag; a dyna'r Cyfarfod Diolchgarwch cyntaf i basio ers llawer blwyddyn, heb i John Edwards gael ei alw ymlaen. Yn wir, gofynnwyd i'r brawd a ddechreuasai gyfarfod y bore, gymryd rhan wedyn yn olaf yng nghyfarfod y nos, gan eu bod yn fyr o un i gadw'r tri chyfarfod.

Aeth John Edwards o'r capel, â'i deimladau'n gymysglyd iawn. Rhwng popeth, yr oedd yn bur ddigalon,—ansicrwydd ynghylch canlyniadau helynt y bore, a gweled cilwg[139] ar wynebau rhai, ac eraill yn cadw draw oddi wrtho fel petaent yn ei osgoi, ac uwchlaw dim, ei anwybyddu gan Mr. Hughes, Parc Mawr, sef y blaenor a lywyddai y mis hwnnw, ac a alwai'r gweddïwyr ymlaen i gymryd rhan.

Dic Cae Bach a'i dad a gydgerddai ag ef yr ychydig ffordd oedd ganddo, ac meddai wrthynt: "Mae'n amlwg bod y capel yn 'y nghondemnio i, ac os felly, beth am y byd?"

"O!" ebe Richard Ifans, "peidiwch â malio[140] dim yn Hughes Parc Mawr; mae pawb yn gwybod mai un o gynffonwyr Syr Huw ydi o.'

"Ie, mae hynny'n siwr," ebe John Edwards, "ond mae arna' i ofn bod llawer yn y capel yn cydweld ag o."

"Ella'ch bod chi'n gwneud cam ag o'ch dau," meddai Dic; 'yr oedd o'n ffeind iawn yn peidio â gofyn i chi gymryd rhan heno."

Troes John Edwards at Dic yn sydyn, a'i dad hefyd. "Ffeind?" gofynnodd, mewn penbleth, "beth wyt ti'n feddwl, 'y machgen i ?"

"Wel," meddai Dic, "gwybod 'roedd o na fedrech chi'n ych byw fod yn teimlo yn rhyw dda iawn ar ôl y slap gawsoch chi gin' Robinson, ac y buasa' fo'n beth brwnt gofyn i chi gymryd rhan, ac ynta'n gwybod na f'asech chi byth yn gwrthod."

Petrusodd John Edwards am foment, ac yna meddai: "Mi fuasa'n dda iawn gen' i gredu mai dyna oedd rheswm, Richard; ond na, na, 'rwyt ti—ac eto mi fuasa'n arw o beth imi wneud cam ag o hefyd. Wel, nos dawch, gyfeillion, a diolch i chi am ych cwmni."

Gwyddai Dic yn dda ddigon nad teimlo dros John Edwards a barodd i Hughes Parc Mawr beidio â galw arno ymlaen, ond awydd i roi praw pendant cyhoeddus o'i gondemniad ar waith John Edwards; a gweled poen y ffarmwr gonest, a barodd i Dic geisio'i gysuro.

"Wel, Dic," meddai ei dad wrtho, "rwyt ti wedi ysgafnhau tipyn ar faich Siôn Edwart, a hynny wrth ddweud celwydd; ond mi fydd hynny'n dipyn o help iddo fo. Noson anesmwyth gaiff o heno; 'waeth iddo fo deimlo'n ansicr yng nghylch Hughes am dipyn ddim; mi gaiff wybod cyn bo hir yn lle mae o'n sefyll, ond mi fydd wedi cael amser i gynefino tipyn â'r baich erbyn hynny; mae o'n newydd iddo fo heno. Brenin Mawr! Mi 'ryda'n ni wedi mynd yn stwff sâl, yn betha' gwael, gwasaidd,[141] Dic. Mi gei di wel'd y bydd hanner y capel 'ma yn cymryd yr un ochr â Hughes, wrth gynffon Syr Huw bach."

Wrth fwyta'u swper, aethant i sôn am y saethu.

"Wel, mi gawson' ddiwrnod da, fel arfer, 'nhad, a mi glyw'is wrth fynd i'r capel heno fod Cae Bach wedi cadw'i gymeriad. Mi fuo Ned y Giât yn curo drwy'r dydd, ond mi ddaeth i'r capel heno, ac mi 'roedd o'n dweud 'u bod nhw wedi cael adar yn arw yn Cae Pella.'

"Felly wir," ebe Richard Ifans. "A'welso'nhw ddim yn dda ddwad â chymaint ag un i ni. Wel, 'u colled nhw ydi hynny, Dic, a'u colled nhw ydi hi wedi bod ers blynyddoedd o ran hynny. 'Rydw'i am fynd i gadw rŵan,[142] 'y ngwas i. Paid tithau ag aros yn hir ar dy draed. Mi wela' dy fod ti wedi cael llyfr newydd eto. Nos dawch."

"Nos dawch, 'nhad, mi ddo'i ar ych ôl chi cyn bo hir, cyn gynted byth ag y ca'i olwg ar y ddwy ddrama 'ma eto, i weld p'run o'r ddwy fyddai orau inni ddewis. 'Ryda' ni am fynd ati i ddysgu un newydd eto."

PENNOD XV
DIAL CIPAR

"Mi 'rydw' i'n mynd i gymryd smôc. 'Does 'ma ddim golwg o neb na dim, a siawns gen' i na ella'i fentro golau matsen bellach."

Robinson oedd yn siarad fel hyn wrth fôn ffawydden fawr ar gwr Coed y Plas, rhwng un a dau o'r gloch y bore. "Syniad digon gwirion ydi hwn gin' Syr Huw: mynnu imi wylio ar ôl pob 'saethu mawr' fel hyn. "Ddal'is neb erioed; o ran hynny, wel'is i neb erioed noson saethu. Ond waeth heb a d'eud wrth Syr Huw. Sut y b'asa' fo'n licio bod allan drwy'r nos, ac 'isio bod yn lle Cyrnol Westburn, ddeng milltir odd'ma, erbyn deg bore yfory, tybed? Ond fel y dywedodd Syr Huw, y rheswm pa'm na fydda' i ddim yn gweld neb ydi bod y potsiars yn gw'bod y 'mod i'n watsio! Ha! Ha! Eitha gwir, Syr Huw, a mi fydda' inna'n codi tâl arnoch ch'itha' am 'y mod i'n gwybod hynny. Fe ofala Huw Robinson yn dyner am y cloffion a'r anafusion;[143] mi'u rhydd nhw o'u poen yn ddistaw bach, a mi an' i ffwrdd efo'r trên, a mi ddaw tsiec bach i minna' o Fanchester. Wel, ma'n dda 'y 'mod i wedi dwad â chwmpeini efo mi." A thynnodd botel o boced tu ôl ei gôt cipar. "Toes dim isio matsen atat ti, beth bynnag 'y ngeneth i," meddai, dan dynnu'r corcyn a drachtio'n helaeth ohoni.

"Wel, mi gef'is gyfle heddiw i ddial ar un o d'elynion mwya' di, felly mi ddylet fod yn dda," a chymerth lwnc drachefn. "Mi 'rwyt ti, hefyd," meddai, gan roi'r corcyn yn ei ôl, a gosod y botel wrth ei ochr, ac ail danio'i getyn. "Mae'r hen Siôn Edwart wedi melltithio llawer ar y ddiod, ond mi ddisgynnodd y bore 'ma fel sachaid o beilliaid.[144] Do, myn cebyst ti. Biti na fas—Be' sy' 'na, Roy?" A chododd y cipar ar ei draed yn sydyn, oblegid aethai'r ci yn anesmwyth iawn, a safai â'i glustiau i fyny. Gwrandawodd y cipar yn galed, ac am funud ni chlywai ddim; ond gyda hynny dyma dwrw rhywbeth yn rhedeg dros y dail crin, a chythrodd Roy oddi wrth y cipar tua'r twrw. Cododd Robinson ei botel yn frysiog a th'rawodd hi ym mhoced ei gesail, a chychwynnodd yn ddistaw ac yn ochelgar tua'r twrw. Yr oedd yn ŵr rhy brofiadol o lawer i ruthro a gwneud twrw, ac felly roi rhybudd i bwy neu i beth bynnag oedd yno, ei fod yn dyfod. Wrth fynd, clywai dwrw ysgwyd a mwstro, ac mewn munud, gyfarthiadau poenus ci, a phrysurodd, ond gyda hynny dyma Roy i'w gyfarfod, â'i gynffon yn ei afl, dan gwynfan yn wylofus.

Yr oedd Syr Huw yn ei le. Fe fyddai gofyn gwylio noson y "saethu mawr," a'r noson hon, buasai potsiar gyda'i gi yn chwilio am adar clwyfedig y cylch; ac yr oedd wedi bod yn dra lwcus hefyd, oblegid eisoes cawsai bedair ffesant, ond yr oedd ei gi yn cael peth trafferth gyda'r bumed, ac yn gorfod rhedeg gryn dipyn ar ei hôl.

"Wel," meddai'r potsiar wrtho'i hun, "mi gaf bris llawn am honna, beth bynnag; mae'n rhaid nad oes dim ond 'i haden hi wedi'i saethu, ne' f'asa hi byth yn medru mynd mor dda. "Tydi'r rhain ddim wedi'i chael hi mor arw, ond dyma un â thipyn o ôl haels arni hi—wedi'i saethu yn o ddrwg. Peth rhyfedd na f'asa un o'r stoppers wedi dwad am rai ohony' nhw. Pwy oedd y stopper yn fan 'ma, tybed. Ond o ran hynny 'ella bod—Brenin Mawr! Be sy' rŵan?"

Y peth a barodd ebychiad a chwestiwn y potsiar, oedd clywed cyfarth poenus ci; ond cyn iddo gael amser i wneud dim, dyma'i gi o ato, â'r ceiliog ffesant brafia' 'rioed yn ei geg.

Cythrodd i'r ceiliog, a dechrau rhwymo'i wddf wrth yddfau'r lleill, a gwrando yn astud dan wneud hynny. Yr oedd y ci am fynd i chwilio am aderyn arall, ond rhwystrodd y potsiar ef, a da iawn oedd iddo fod wedi gwneud hynny, oblegid daethai Robinson i'w ymyl mor ddistaw, fel y buasai wedi ei gyrraedd heb iddo'i glywed, onibai i'r ci ddechrau chwyrnu: a chyda hynny dyma'r cipar i'r golwg; ond yr oedd y potsiar eisoes wedi cychwyn rhedeg, gan alw'n isel ond yn bendant iawn ar ei gi ei ddilyn, gan yr ofnai iddo droi'n ôl a chwffio gyda chi'r cipar, oblegid fe fuasai hynny'n ddigon i Robinson ei adnabod ef, gan yr adwaenai'r cipar bob ci'n gymdogaeth bron.

Ond ni buasai raid i'r potsiar bryderu rhyw lawer am hynny, gan na ddangosai ci'r cipar awydd o gwbl am adael sawdl ei feistr, er i Robinson ei annos, drwy deg a thrwy drais.

Rhedai'r potsiar fel milgi, ac yr oedd gofyn iddo hefyd, oblegid yr oedd y cipar yn sionc iawn. Methai Robinson â deall paham na throesai'r potsiar drwy adwy ar y dde, i gyfeiriad y ffordd fawr, yn lle dal i redeg yn ei flaen, a hynny yn union i gyfeiriad tŷ Jim, yr is-gipar.

"Dyma felltith o dro," ebe Robinson wrtho'i hun, "na f'asa Jim hyd y fan 'ma heno."

Ond aethai Jim yng ngherbyd Cyrnol Westburn, y gwrbonheddig yr oedd Syr Huw i fynd ato'i saethu drannoeth, i fod yno yn barod erbyn y bore.

Gwelai Robinson mai'n syth at "Borth yr Afon" yr anelai'r potsiar (gelwid yr adwy honno yn "Borth yr Afon" am fod afon fechan yn rhedeg gyda wal yr adwy rhyw lathen yr ochr arall iddi), ac fel y dynesai at yr adwy, sylweddolodd Robinson, er mawr lawenydd iddo'i hun, fod y potsiar yn graddol arafu, a'i fod yntau yn prysur glosio ato.

"Diaist inna'! mae o'n dechra' blino," meddai, gan ddyblu ei ymdrechion. Ond pan oedd o fewn ychydig i'r adwy, cyflymodd y potsiar drachefn, gan ennill tipyn ar y cipar.

"O!. fflach cyn diffodd," meddai Robinson wrtho'i hun, a chan godi ei ben a gweiddi: "Mi 'rydw' i wrth dy sodla' di, llanc," rhoes ei owns olaf o nerth mewn un ymdrech fawr. Dychmygodd ei fod yn gweld y potsiar yn neidio, ac ar hynny clywodd dwrw disgyn i'r dŵr o'i flaen, ac ochenaid, a thrachefn dwrw palfalu[145] yng ngwely'r afon.

"Wydda' fo ddim am yr afon, ar fengoch i!" meddai Robinson, "'roeddwn i'n meddwl 'i fod o'n ddiarth[146] ne f'asa' fo byth wedi bod yn ddigon o ffŵl i fynd ffor'na o gwbl; mi caf o rwan yn neis—ond y foment honno, disgynnodd ymlaen ai ei wynebi ganol dŵr bas yr afon.

Nid oedd llawer o ddŵr yn digwydd bod ynddi ar y pryd, ond efallai y buasai'n well i'r cipar petasai, oblegid yn ei godwm, disgynnodd ar ei frest ar y botel a roesai ym mhoced ei gôt, ac er ei fod wedi hanner mygu ac yn wlyb diferol, ac wedi cael sioc ofnadwy, y boen yn esgyrn ei frest a'i blinai fwyaf.

Yn y man dechreuodd ddyfod ato'i hun. "Lle Dd—l mae o?" meddai. "Mi clyw'is o'n griddfan yn rhywle ar y dde 'ma, 'rydw i'n berffaith sicr o hynny," ac ymlusgodd i edrych, ond nid oedd dim golwg ar neb, na sŵn o gwbl; dim ond murmur bywiog yr afon, fel petai hi'n chwerthin yn ddistaw am ei ben, a throes yn ei ôl at yr adwy.

"Dos o 'ngolwg i'r mungral," meddai, gan roi cic i'w gi, "dwyt ti'n dda i—be' felltith ydi hwn ?" A chan blygu, gafaelodd mewn pwt o gortyn cryf wedi ei rwymo ar draws y porth

"Dam-esion, mi gwela' hi rŵan; rhyw g—l sy' wedi gwneud ffŵl ohona i ac wedi gwneud imi ddwad ffor' 'ma, o bwrpas. Nid neb diarth oedd o. Pwy gebyst—?

Wel, â'm sgubo i! Un o'i dricia' fo fel mai byw fi; mi âf yno'r funud 'ma; âf, myn cebyst i!" A chychwynnodd ar hynny, yn gloff ac yn boenus, tua Chae Bach.

Wrth fyned, aeth i'w holi ei hun i beth yr âi." Mae o wedi cael digon o flaen arna' i i gael adre' ymhell cyn mi gyrra'dd," meddai, "ac eto ella na chafodd o ddim, ychwaith. Mi âf at yno 'rwan, beth bynnag, gan 'y mod i wedi cychwyn.'

Pan oedd o fewn lled rhyw ddau gae i'r tŷ, meddyliodd ei fod yn clywed drws yn cau, ond ni fedrai fod yn sicr.

"Dychmygu 'rydw' i, mae 'n siwr," meddai. Ond ar hynny, dyma gi Cae Bach yn dechrau cyfarth, ac ym mhen ychydig eiliadau, gwelai ef yn dyfod amdano dan chwyrnu a chyfarth. A phan welodd Roy—ci'r cipar—Pero, closiodd[147] yn ofnus at goesau'r cipar.

"Felly," meddai Robinson, " 'rwyt ti'n 'nabod hwn yn ddigon da i fod 'i ofn o fel hyn, wyt ti? Wel, mae hyn yn ddigon o braw mai—."

Ond yr oedd Pero yn rhuthro ato.

"Hwde!" ebe'r cipar, a rhoes ei droed dan ochr Roy, ac â rhyw hanner cic a hanner gwth, hyrddiodd ef gryn deirllath oddi wrtho. "Chei di ddim wardio[148] tu ôl i mi'r llechgi;[149] mae'n well gen'i i ti gael dy gnoi na fi." A chiliodd yn ôl.

Cyn gynted byth ag y cafodd Roy ei draed odano, a chyn i Pero fedru newid ei gwrs a chael ato, dihangodd am ei hoedl, â'i gynffon rhwng ei goesau, a Phero wrth ei gynffon, ac ysleifiodd[150] Robinson hi ymaith i gyfeiriad y Plas.

"Nid hir y ceidw'r diawl 'i was," ebe Dic wrth ei dad, â'i wyneb ar wydr ffenestr y llofft, "a fi ydi'r gwas, mae'n debyg. Mi weithiodd y cynllun yn ardderchog, ond fargein'is i ddim am hyn 'chwaith. Mae'n rhaid bod Robis yn o siwr ohona'i, ne' f'asa fo byth wedi dwad at y tŷ fel hyn, a mi f'aswn inna' wedi cael mwy o flaen arno fo 'blaw 'mod i am golli'r ffesynt wrth redeg." "Dic," ebe'i dad, "'y ngwas i, waeth iti roi gorau iddi rŵan ddim."

"Mae'n haws deud na g'neud, y nhad," meddai Dic. "Mi 'roeddwn i wedi penderfynu rhoi gorau iddi hi hefyd, ond 'fedra' i byth fadda' i Robis am beth ddeudodd o am mam, ac i boeni o, yn fwy na dim arall, yr ydw i'n dal ati, a heddiw mi gododd miri John Edwards y cythraul yna i—a mi gorffennodd sgwrs amser swper hi.

"Ie," ebe'i dad, "ond rho gorau iddi bellach; mi 'rwyt ti wedi hen dalu dy ddyled i Robis, a mi 'rydw' inna'n poeni, Dic. Y fi sy' wedi dy wneud di'n botsiar, a phetasa' ti'n cael dy ddal, 'faddeuwn—

"Peidiwch â phoeni am hynny heno, 'nhad; ne' bore 'ma ddylwn i dd'eud. Mae'n debyg bod Robis wedi mynd. Mae'r hen Bero wedi dwad yn ôl, beth bynnag.'

"Gad iddo fo allan tan y bore, Dic. Paid ag agor iddo fo. Mi fydd yn iawn ar y mat wrth y drws.'

"Pa'm 'nhad? Mi ŵyr Robis yn iawn y b'asa'r cyfarth yn yn[151] deffro ni, ar wahan i fod o'n gw'bod mai newydd ddwad i'r tŷ yr ydw i."

"Na, gad iddo fo, Dic," ebe'i dad, "ella' bydd Robis hyd y fan 'ma eto; mae o'n ddigon gwallgo i wneud unrhyw beth, os ydi o'n siwr mai chdi oedd y potsiar. 'Chaiff o ddim dwad yn agos at y tŷ os bydd Pero allan."

"Ar y fan [152]inna'! 'rhen father. Rhaid imi dynnu 'nghap i chi bob tro. Mae gynnoch chi gymaint deirgwaith yn y pen yna ag sy' gen' i yn f'un i. Wel i'r cianel â fi rŵan, 'nhad, tan chwech, a 'rwystrith Robis mon'a i gysgu chwaith.'

Yr oedd gan y cipar allwedd drws cegin gefn y Plas yn ei feddiant ei hun, a chan y byddai allan ar adegau bob awr o'r nos, byddai'n galw yno am rywbeth neu'i gilydd yn fynych. Y noson hon, wedi estyn darn o gig a thorth ac ymenyn, a photel o borter o'r cwpwrdd, eisteddodd i lawr, a gwnaeth bryd brysiog. Yna wedi estyn rhywbeth o drôr fechan, torrodd ddarn o gig, a'i roi'n ei boced, a chychwynnodd tua Chae Bach drachefn.

Cyn ei fod yn agos i'r tŷ, dechreuodd gerdded yn ddis- taw ac yn ochelgar dros ben, ond pan oedd o fewn deugain llath i'r tŷ, dechreuodd Pero anesmwytho a chyfarth.

"Mae clust y blwmin' ci 'na cyn deneued â phapur sidan," meddai. "Wel, dyna iti bresant, 'y ngwas i, am warchod mor dda." A thaflodd y darn cig at y ci.

Ail-ddechreuodd Pero gyfarth, ond yn sydyn peidiodd. "Wel, mae o wedi gweld y presant," ebe'r cipar, a chiliodd yn ôl yn lladradaidd.

Er mor drwm y bwriadai Dic gysgu, neidiodd i fyny'n ei wely ar gyfarthiad cyntaf Pero, ond gan i'r ci roi gorau i gyfarth, gorweddodd drachefn.

"Be' cynhyrfodd o, tybed?" meddai, "ond ella' ma' breuddwydio'r oedd o, ran hynny."

Tad Dic gododd gynta'r bore hwnnw, gan i Dic fethu â deffro'n ôl ei arfer, ac aeth i lawr y grisiau'n ddistaw bach. "Chwarae teg iddo fo gysgu heddiw," meddai, "mi wna'i dân yn 'i le fo; ychydig iawn o wely gafodd y creadur bach.'

Pan agorodd Richard Ifans y drws, safodd yn syfrdan. Yna gwaeddodd yn gyffrous: "Dic, tyrd i lawr ar un- waith!"

"Be' sy', 'nhad?" gofynnodd Dic, yn bryderus, gan gythru i lawr.

"Edrach beth sydd wrth y drws, 'y ngwas i," ebe'i dad, yn drist. A dyna lle'r oedd Pero, yn gelain gorff ar garreg y drws.

PENNOD XVI
JIM

Yr oedd mwy o botsio nag erioed yn y gymdogaeth; a gwyddai Robinson hefyd nad Dic oedd yn gyfrifol amdano i gyd. Y gwir oedd fod Robinson wedi gwylio cymaint ar Dic a'i dad, fel yr oedd eraill wedi dyfod i wybod hynny, ac i fanteisio ar eu cyfle.

Aethai Dic ar ymennydd Robinson; a'i ddal oedd amcan mawr ei fywyd. I hyn yr oedd yn byw, ac am hyn y meddyliai'r dydd, ac y breuddwydiai'r nos, ac nid oedd dim arall yn cyfrif fawr yn ei olwg. Felly, Jim a ddanfonid i wylio eraill gan amlaf; ac er na bu onestach gwas na Jim erioed, ni feddai ar alluoedd Robinson. Heblaw hynny, rhoesai'r pen cipar faes rhy fawr o lawer i Jim ei wylio, ac yr oedd y potsieriaid yn ochelgar iawn, ac yn gyfrwys.

Medrai rhai ohonynt ddynwared holl greaduriaid y nos,—ffesynt a hwyaid gwylltion yn gweiddi wrth godi mewn dychryn; cwningen ac ysgyfarnog yn gwichian wrth gael eu lladd; ci yn epian[153] wrth redeg ar ôl cwningen; corchwiglen yn codi wedi ei chyffroi. A thwyllid y ciperiaid yn aml gan rywun yn dynwared, i gymryd eu hudo ar ffrwst i gyfeiriad arbennig, tra byddai'r potsieriaid wrthi'n gwneud difrod mewn man arall.

Galwodd Robinson Jim i gyfrif ryw ddiwrnod, a dweud wrtho'n bur ffiaidd nad oedd o fawr werth fel cipar; a darganfu, er ei fawr syndod, fod Jim ym mhell iawn o fod y dwlyn a dybiasai ef ei fod.

Meddai Jim wrtho'n hollol ddi-lol, gan ei alw'n "chdi." "Robinson, y peth sy'n dy wneud di mor selog ydi fod arnat ti isio dal rhywun, er mwyn medru rhoi cyfrif am y ffesynt wyt ti'n botsio dy hun, ac yn yrru i Fanchester.'

Aeth Robinson yn lloerig, ond gwenodd Jim yn ei wyneb. "Robinson bach, 'fedri di ddim fforddio; mi wyddost rŵan fod dy ben di yn union yn fan 'ma,' meddai, gan bwyntio dan ei gesail.

Pan glywodd y pen cipar hyn, daeth i'w lygad ryw olwg a yrrodd iâs drwy Jim, er y gwyddai na buasai gan Robinson fawr o siawns ped ymosodai arno.

Gwelodd Robinson yn y fan ei fod wedi ei fradychu ei hun, a cheisiodd drwsio pethau. Newidiodd ei wedd a'i agwedd, ac meddai: "Jim, mi 'rwyt ti'n un dyfn[154] hefyd, ond mi wyddwn i na wnes i ddim camgymeriad wrth dy gyflogi di o dana i."

"A meddwl dy fod ti'n gw'bod pob peth trwy'r amser, ac wedi medru cau dy geg. Ac eto mae rhai pobl yn ddigon gwirion i feddwl nad oes dim llawer yn dy ben di, ond mi wyddwn i amgenach pethau, boi. Still waters run deep. 'Does 'na ddim llawer o betha'n digwydd nad ydi Jim Willia's yn gw'bod amdanyn' nhw. Na Jim, rhyw dipyn o hwyl oedd y peth dd'wed'is i wrthat ti rŵan, fel y cei di weld yn y munud; ond tydi'r tipyn gêm fyddai'n yrru i ffwrdd, yn ddim ond poeri i'r môr, yn ymyl be' sy'n cael 'i botsio."

Yr oedd y cipar yn cyflym argyhoeddi[155] Jim, ac meddai, "Brenin Mawr! mi 'ddyl'is i'ch bod chi am dreio g'neud rhywbeth imi rŵan jest." "Na, 'choelia'i fawr! A Jim, gwrando: nid arnat ti mae'r bai nad yda' ni ddim yn 'u dal nhw chwaith, a mi wn i y b'asa' 'na lawer mwy o botsio hefyd heblaw am danat ti; a mi 'rydw' inna' wedi bod yn rhoi'r gwaith o wylio pawb ond Dic Cae Bach i ti. Ond yrŵan, dyma iti newydd da. Faint ydi oed dy hogyn bach 'fenga' di ?"

"Dau fis," ebe Jim mewn penbleth.

"Wel, mi 'rwyt ti'n mynd i gael codiad yn dy gyflog o ddau swllt yr wythnos o'r adeg y ganwyd o. Ond paid ti â deud wrth neb. Tydi hyd yn oed y stiward ddim yn gw'bod; mi f'asa' fo'n grwgnach, fel y gwyddost ti. Ond mi es[156] i at Syr Huw fy hun i ddeud y dylet ti gael codi dy gyflog. Paid â son wrth Syr Huw chwaith; fydd o ddim yn lecio fuss; ond o ran hynny, anaml y byddi di'n i weld o. Mi ddweda'i wrtho dy fod ti'n diolch iddo fo, a dy fod ti'n dallt nad oes arno fo ddim 'isio i'r stiward w'bod."

Teimlai Robinson yn weddol ddiogel, er mai o'i boced ef yr oedd y ddau swllt i ddyfod, gan mai rhoi cyflog Jim i Robinson dalu iddo, y byddai'r stiward. "Mi awn ni i ddathlu dy lwc di i'r Bedol heno. Am dê rŵan, ac i'r Bedol heno erbyn chwech, cofia!"

"Mae Jim yn gwybod gormod," meddai Robinson, wrth fynd adre, â'i feddwl yn gythryblus iawn, "a 'cha'i byth lonydd rŵan; a dyna fi wedi dechra' talu blacmel; wedi gwneud hynny ohonof fy hun hefyd, ond 'wna'i mo hynny yn hir, na 'wna' ar f'engoch i. Mi 'rydw'i wedi arfer efo anawsterau, ac os na fedra'i setlio Jim Willia's, mi 'rydw' i'n haeddu fy saethu. Wel, Jim, mi 'rwyt wedi dangos dy gilddannedd,[157] 'wyddwn i ddim fod gin' ti rai o'r blaen, mi f'asa'n well i mi 'tasa' gin' ti'r un, ac ella b'asa'n well i titha 'hefyd, ond mi wn i hyn, beth bynnag, mi f'asa'n well i ti 'tasa' ti heb 'u dangos nhw, 'machgen i."

Yr oedd Robinson yn y Bedol erbyn chwech, ac er ei syndod, ni chyrhaeddodd Jim tan tua hanner awr wedi; ac nid ymddangosai mor llon a hwyliog[158] ag y disgwyliai Robinson.

Er mai creadur tawedog [159]oedd Jim oddi cartre', yr oedd ymhell o fod felly ar ei aelwyd ei hun, a dywedai bopeth wrth ei briod, ac ychydig a feddyliai Robinson ei bod hithau'n gwybod cymaint bron â Jim, a bod yr is-gipar wedi adrodd hanes y prynhawn wrthi, air am air.

"Fedra'i mo'i ddeall o, Jim," ebe'i briod, wedi iddo orffen ei stori, "ond gwylia fo, a gofala na wnei di ddim byd i gael sac. Mae'n biti dy fod ti wedi deud dim wrtho fo heddiw; mi f'asa'n well iti fod wedi aros tipyn.'

"Ella, wir," meddai Jim, "ond eto, ella na f'aswn i ddim wedi cael y ddau swllt codiad heblaw 'y mod wedi deud. Ella b'asa' Robinson yn 'u cadw nhw 'i hun, er i Syr Huw 'u rhoi nhw, achos fydd y "gŵr mawr" yn deud dim wrtha' i bron—wrth Robinson, fel pen cipar y bydd o'n siarad y cwbl bron, ond mae o wedi rhoi deuswllt o godiad i mi beth bynnag."

"Ie, os ydi o hefyd," meddai ei wraig.

"Os ydi o? Be' wyt ti'n feddwl, Mary?" gofynnodd Jim, mewn penbleth.

Dim, Jim," ebe hithau, "ond bydd yn ofalus, a phaid â gwario gormod yn y Bedol. Dos rŵan.'

Os araf y gweithiai meddwl Jim, daliai ati'n ddygn,[160] ac ar ei ffordd i'r Bedol, ac wedi cyrraedd yno, ni lwyr ollyngodd ei afael yn y mater.

"Rwyt ti'n ddistaw iawn heno, Jim," meddai Robinson, unwaith neu ddwy; ond yn fuan yr oedd y pen cipar mewn sgwrs â rhywrai eraill, ac anghofiodd Jim a'i fudandod, ac ni wnaeth fwy na nodio arno pan ddywedodd Jim, "nos dawch," wrth fynd allan.

PENNOD XVII
PROFIAD CHWERW'R PEN CIPAR

Cymerodd un fantais ar y noson, i fyned allan efo'i ŵn, a hwnnw yn dri darn: y stoc yn un boced, a'r baril yng nghoes ei drywsus, a'r darn a'u cydiai yn ei gilydd, mewn poced arall.

Ardal enwog oedd Llanystyn am ei hysgyfarnogod—ysgyfarnogod mawr, braf, a thri swllt yr un yr adeg honno, i'w cael amdanynt.

Noson sych, olau leuad, ydoedd, ac yn chwythu'n galed, a chymylau mawr yn gyrru'n gyflym drwy'r awyr, ac weithiau, pan basiai cwmwl rhwng y lleuad a'r ddaear, âi'n dywyll; yna, wedi i'r cwmwl basio, byddai'n olau fel dydd drachefn, nes deuai cwmwl wedyn.

Cerddai gŵr y gwn yn ei gwman, gyda chlawdd â gwrych lled dda yn tyfu arno. Bob tro y deuai cwmwl dros y lleuad, cyflymai yntau ei gamre, ond wedi i'r cwmwl basio, ac iddi oleuo, arafai a gwyrai, gan wrando, a fflachiai ei lygad i bob cyfeiriad, ac ambell dro troai'n sydyn heb arafu dim, a cherdded am dipyn yn wysg ei gefn; ond er mor ofalus ydoedd, yr oedd un mwy gofalus nag yntau yn ei wylio, ac yn ei ddilyn bob cam o'r ffordd. Cyn bo hir cododd cornchwiglen yn wyllt i'r awyr gyda chri.

"Daria'r hen gornchwiglod 'ma," ebe'r potsiar, gan gwrcydu[161] ym môn y clawdd, "mae'n rhaid i'r rhain gael rhybuddio pawb a phopeth."

Arhosodd y potsiar gryn bum munud heb symud, a chyn ail-gychwyn, gosododd y gwn yn ei gilydd, a rhoes ddarn bychan o bapur ymyl stamp ar y nipl ar flaen y baril. "Dyma fo'r bwlch," meddai wrtho'i hun, ac aeth ar ei liniau a dechrau cropian. Yna, gyda'r gofal mwyaf, pan ddaeth cwmwl, cododd ei ben a syllu'n galed dros y clawdd i'r cae arall, a gwelai amryw gnapiau tywyll o'i flaen. "Mi'r ydach chi'n ddigon saff," meddai. "Tydi cwningod ddim gwerth y risc ydw' i'n gymryd heno."

Yn y man gwelai gnap mwy yn dyfod i'r golwg, ac un arall, ac un arall drachefn, ac yn symud tipyn bach, yna yn aros yn llonydd a symud tipyn wedyn; yna un yn mynd at y llall.

Yn ara' bach, gwyrodd y potsiar yn is, gan glosio at ddraenen, a gwthio'r gwn yn esmwyth ac yn hollol ddi-dwrw, ar draws pen y clawdd. "Mi gaf y ddwy ar un ergyd," meddai, "caf, myn cob!"

Ond pan oedd yn mynd i danio, symudodd y ddwy ysgyfarnog, a daeth y llall atynt, a dechreuodd y tair chwarae a rhedeg ar ôl ei gilydd ar gylch bychan, ond yn ei olwg o hyd.

Ar hynny, sythodd y tair yn sydyn, a chododd y cwningod oedd yn eu hymyl ar eu dwy glun ôl, â'u pennau a'u clustiau i fyny. Yr un foment cododd cornchwiglen hefyd yn rhywle gan weiddi'n ddychrynedig.

Yn ei fraw cychwynnodd y potsiar yntau sythu, ond gwyrodd drachefn ar amrantiad. "Nid y fi ma' nhw wedi weld," meddai. "Be' felltith sy' na?"

Bychan a wyddai fod Robinson wedi ei ganlyn yr ochr arall i'r gwrychyn, ac mai efe, rhyw hanner canllath o'i ôl, wrth gropian ar ei frest â'i fol dros y clawdd i gael i'r un ochr ag yntau, oedd wedi cael pigyn i'w benglin nes peri iddo, yn ei boen, hanner codi gyda llw, a dangos ei ben a'i ysgwyddau am foment, rhwng pen y clawdd a'r golau.

"Dyna fi wedi'i g'neud hi rŵan," meddai'r cipar, pan glywodd y gornchwiglen, ac ymwasgodd at ben y clawdd, ar waethaf y pigyn, gan aros felly am ysbaid, cyn ymlusgo dros y clawdd.

Bu'r cwningod gryn bum munud cyn setlo i lawr i ail-ddechrau pori, ond ymdawelodd yr ysgyfarnogod yn gynt o lawer.

"False alarm," ebe'r potsiar wrtho'i hun, "ond, Brenin Mawr! mi ddychryn'is; mi roes fy nghalon i dro tu mewn imi; mae fy nerfau i'n—Diaist i! Go dda!"

Nid rhyfedd iddo ddweud, "Go dda!" oblegid gwelai—nid dwy, ond tair-ysgyfarnog, bron yn un rhes. "Wel, rŵan amdani hi," meddai. 'Cha'i byth gystal cyfle â hwn. Y ddau faril, y chwith gynta' a'r dde ymhen chwarter eiliad wedyn, p'run bynnag fydd 'i 'isio fo ai peidio, mae'r haels yn gwasgaru mwy efo'r de." A thaniodd.

Neidiodd dwy ysgyfarnog i fyny'n syth, a disgyn yn eu hôl yn farw, ond cychwynnodd y drydedd redeg ar ryw hanner cylch "Dei ditha' ddim ymhell, chwaith," meddai'r potsiar, "ne' mi rydw' i'n gwneud camgymeriad."

A gwir a ddywedodd, oblegid ymhen ychydig iawn, daeth yr ysgyfarnog yn ei hôl, a throes ar ei hochr farw, bron yn ymyl y lleill "Chlywis i 'rioed esboniad ar hynna," meddai'r potsiar, "p'am y gwneiff 'sgyfarnogod hynna'n aml wedi'u saethu—cychwyn rhedeg i ffwrdd, a dwad yn 'u holau i farw,—i'r un fan yn union ag y cawso' nhw'u saethu.'

Tan ymson fel hyn, yr oedd y potsiar wedi edrych i bob cyfeiriad, a hynny lawer gwaith Troai ei ben heb symud ei gorff fel petai ei gorn gwddw'n fwylltid.[162] "Noson fendigedig ydi hon," meddai wrtho'i hun,—"tywyll a golau bob yn ail, chwythu digon i rywun fedru mynd yn ddigon agos i danio ar rywbeth, ac i ladd twrw'r ergyd hefyd Dyma'r fargen ora' wnes[163] i 'rioed oedd prynu'r gwn bach 'ma; 'does gyno fo ddim mwy o dwrw na phistol. Wel, mi arhosa'i dipyn eto, rhag ofn, ond mi f'asa'n rhaid i rywun fod yn bur agos i glywed y twrw, a pheth arall, 'tasa rhywun wedi clywed, mi f'asa' wedi cyrraedd yma bellach; ac eto, ella bod rhywun yn aros imi fynd 'u nôl nhw Mi gyfra'i fil cyn mynd."

Yr oedd Robinson, erbyn hyn, wedi cael o fewn rhyw bymtheg llath i'r potsiar, ac yn disgwyl iddo fynd drosodd Methai'n lân â deall yr hir ddistawrwydd. ""Tydi o ddim wedi 'ngweld i," meddyliai "Mi wn 'i fod o wedi saethu un ohonyn' nhw, achos mi gwel'is i hi'n rhedeg ac yn syrthio. Pam gebyst na symudith o i rywle?' Yr oedd wedi estyn ei ben i edrych, pan glywodd dwrw rhywun yn disgyn i'r cae'r ochr arall. "Mi collaf o ar fengoch i," meddai, dan gythru tua'r bwlch, ond o fewn teirllath i'r fan, stopiodd fel petasai wedi ei saethu, ac ymwasgodd at y clawdd, oblegid o'i flaen, yn pwyso ar y clawdd, gwelai wn.

"Mi ddaw 'machgen i i nôl o'n y munud, a'r sgwarnog efo fo. Rŵan, Dic Cae Bach, mae hi wedi dwad i'r pen arnat ti o'r diwedd."

Cododd y potsiar yr ysgyfarnogod, ac yr oeddynt yn gryn bwysau hefyd.

"Mae nhw fel mulod," meddai'n llawen, dan fyned at y bwlch, a'u taflu drosodd at y gwn. Ac wedi aros munud nes bod y lleuad y tu ôl i gwmwl, neidiodd i ben y clawdd, ac i lawr yr ochr arall, a phan oedd yn plygu i godi'r ysgyfarnogod

"Aros, gythra'l!" ebe Robinson, gan gythru iddo.

Er i'r potsiar gael sioc ei oes, dechreuodd yn reddfol ymegnïo[164] i ymryddhau, ond yr oedd Robinson wedi cael gafael o haearn yn ei fraich a'i gôt, a, gwaeth fyth, y foment honno, dyma'r lleuad i'r golwg, ac ar hynny, er dirfawr syndod y potsiar, llaciodd Robinson ei afael yn sydyn, gan sio drwy'i ddanedd: "Damia chdi,-nid y fo wyt ti.

Afraid[165] yw dweud i'r potsiar gymryd mantais ar syndod Robinson, a'r llacio gafael sydyn, i neidio oddi arno, ond er gwaethaf ei siom, trodd Robinson arno drachefn, ond pan oedd yn ei gyrraedd, teimlodd gawod o dân ysol yn ei wyneb, a chododd ei ddwylo at ei wyneb a dechrau neidio a phrancio fel gwallgofddyn, oblegid troesai ei lygaid mewn moment yn ddwy fflam dân yn ei ben, ac yr oedd ei ffroenau a'i enau yn llawn o lwch tanllyd. Ceisiodd weiddi a llefain, ond ni fedrai, gan fod pesychu a thisian yn ei fygu'n lân.

Cythrodd y potsiar i'r ysgyfarnogod a'r gwn, a ffoes am ei einioes, ond rhwng y gwn a'r ysgyfarnogod, yr oedd rhedeg fel y cychwynasai, yn anodd, ond nid oedd ganddo ddewis, oblegid yr oedd y cipar eisoes yn dechrau dyfod i leisio.

"Diolch am y gwynt 'ma," meddai. "Charith 'i lais

"Brensiach annw'l! Ond 'tydw' i'n ffŵl?"; a throes ar hynny i'r cyfeiriad arall. "Petai rhywrai yn 'i glywed o'n gweiddi, o'r cyfeiriad yna y b'asa' nhw'n g'neud, a'r gwynt yn lle mae o, ac o ffor' 'na y b'asan' nhw'n d'wad, a mi f'aswn yn beth del yn mynd yn union i' cyfarfod nhw."

O dipyn i beth, daeth Robinson i deimlo'n well, ond yr oedd ei wddf fel odyn galch, ac ni fedrai weiddi fawr. Yn wir, rhoes gorau i dreio, nid yn unig am ei fod yn tagu wrth geisio gwneud hynny, ond am na charai i bobl ei weled yn y cyflwr hwnnw. Ond yr oedd yn hanner dall; a phan agorai ei lygaid, gyrrai'r gwynt ef bron yn wallgof gan boen. Teimlodd ei ffordd at y clawdd, ac eisteddodd ar ei gwrcwd yn ei fôn. "Faint fydda'i nes y- -?" ond cyn iddo orffen y frawddeg, cofiodd am ei ffliwt, ac o'i boced tynnodd Robinson chwibanogl, a dechrau ei chwythu â'i holl egni. "Efallai y clywith Jim fi, ac os na wnaiff o, mae'n well gen' i aros yma nes medra' i fynd odd'ma fy hun."

Arosasai Mrs. Williams ar ei thraed i ddisgwyl Jim adre', nid am y byddai'n arfer gwneud, ond am ei bod wedi meddwl cryn lawer drwy'r gyda'r nos am firi Robinson a Jim, a'i bod wedi dyfod i benderfyniad neilltuol hefyd.

Felly, wedi i Jim ei osod ei hun i lawr wrth y bwrdd a dechrau ar ei swper, meddai ei briod wrtho: "Jim, 'rydw i wedi dwad i'r penderfyniad bod yn rhaid iti wylio Robinson.'

"Ond dyna ydw'i wedi bod yn 'i 'neud, ynte?" ebe Jim, â llond ei geg o fwyd.

"Ie, Jim," ebe hithau, "ond mae'n rhaid iti wylio mwy; a'r tro cynta' y gweli di o'n gwneud rhywbeth o'i le, ac y medri di brofi'r peth, mae'n rhaid iti fynd i dd'eud wrth Syr Huw ac wrth y Stiward."

"Dim andros o beryg'!" meddai Jim, gan edrych ar ei briod yn syn.

Ond gwyddai Mrs. Jim yn dda y gwnâi yn union fel y dywedai hi, ond iddo gael tipyn o amser. "Mae hi'n dibynnu'n union, Jim, p'run ohonoch chi'ch dau—

A dyna'r cwbl gafodd Mrs. Williams ddweud y noson honno, oblegid torrwyd ar ei thraws gan gyfarth pedwar ci o'r tuallan.

"Dyma fo ar y gair," ebe Jim.

"'F'aswn i'n synnu dim," ebe hithau'n frysiog. "rydw' i'n mynd i 'ngwely, a Jim,—gwylia ditha' be' fyddi di'n 'i neud, ac yn 'i dd'eud hefyd."

Wedi disgwyl tipyn, cododd Jim i fynd at y drws. "Rhywun mae'r cŵn yn 'i 'nabod sy' 'na, mi wn wrth 'u cyfarth nhw," meddai, gan agor y drws. Ond ni welai neb, ac yr oedd y cŵn—y ddau retriever a'r ddau spaniel, yn cyfarth yn falch ac yn tynnu ar eu cadwyni: ond ar hynny, clybu Jim sŵn chwibanogl Robinson.

"Potsiars, Mary!" gwaeddodd yn y drws. 'Rydw' i'n mynd." Ac ymaith ag ef gyda'i fod wedi gollwng Tiger.

Pan gyrhaeddodd at Robinson a chael yr hanes: "Un o'i driciau fo," meddai Jim, "un o dricia' Dic Cae—

"Nage," ebe Robinson, "fel mae gwaetha'r modd, un o dacla'r Dre 'na, 'rydw' i'n meddwl, ac os ydw' i'n iawn, gwae fo !"

PENNOD XVIII
DARGANFYDDIAD ROBINSON

Bu Robinson am ddiwrnod heb symud o'r tŷ. Ond cyn gynted byth ag y medrodd fyned allan, aeth at blisman y Dre, a rhoes ddisgrifiad o'r potsiar.

"O!", meddai'r plisman, cyn iddo orffen, "mi wn i pwy ydi' o, 'rydw' i'n meddwl,—rhyw hen foi sy' newydd ddwad yma o rywle yn Sir Feirionnydd. Mi wna' i ymholiad ar unwaith."

A'r noson honno, aeth y plisman i rai o dafarndai'r Dre gan ddisgwyl ei weled, ond heb lwyddo, a thrannoth aeth i'w dŷ, ond nid oedd neb gartre.

Yn hwyr y noson honno, gwelai'r plisman olau yn y ffenestr, a churodd, a daeth dynes ieuanc sosi i'r drws.

"Ydi'r gŵr 'ma i mewn?" gofynnodd y plisman. "Nag ydi," ebe hithau. "Beth oedd?"

"Mae arna' 'i 'isio gw'bod lle mae o," ebe yntau. "Mae o wedi mynd i'r South i chwilio am waith," atebodd y wraig.

"Beth ydi 'i gyfeiriad o?" gofynnodd y plisman.

"Minffordd," ebe hithau, gan roi clep ar y drws cyn i'r plisman gael gorffen gofyn, "Minffordd lle?"

Tra oedd y plisman yn adrodd yr hanes wrth y sarjiant, a hwnnw'n egluro jôc y wraig, ac yn cael hwyl fawr am ben y plisman, yr oedd Robinson ar ei ffordd i'r Bedol, ac meddai un o'r lliaws oedd yn ei gyfarfod wrtho:

"Rydach chi wedi d'rysu'r ffordd, Mr. Robinson. I'r ddrama mae pawb yn mynd heno. "Tydach chitha' ddim am ddwad?"

"Dim cancr o beryg', y machgen i," atebodd Robinson. "Dawn i ddim led 'y 'nhroed i glywed rhyw sothach[166] fel 'na.'

Pan gyrhaeddodd Robinson y Bedol, llyncai pawb ei ddiod yn gyflym a myned allan.

"Be' di'r brys sy' ar bawb heno?" gofynnodd i Mrs. Davies, y dafarnwraig.

"O! mynd i'r ddrama mae pawb, 'mwyn Tad," ebe hithau yn wawdus. "Yn 'toes[167] ar bobl 'isio rhywbeth i 'neud?"

Yn fuan iawn, nid oedd neb wedi ei adael yn y Bedol ond Robinson a dau Sais, a gwelodd y cipar yn bur fuan nad oedd ar y rheini fawr o eisiau ei gwmni ef, ac yr oedd Mrs. Davies hithau yn brysur gyda rhyw gyfrifon. Toc, blinodd ar ei gwmni ei hun, a chododd i fynd allan.

"Rydach chi'n mynd yn gynnar iawn heno, Robinson," meddai Mrs. Davies. "Ydach ch'itha hefyd am fynd i'r ddrama?"

Atebodd Robinson ar ei "Beth Mawr"[168] o, nad oedd. "Rydw' i am fynd am dro bach, a mi ddo' i'n f'ôl, toc.

Gellid saethu ar hyd stryd y pentre. Nid oedd neb i'w weld yn unman, a cherddodd y cipar yn araf i gyfeiriad y Neuadd. Yn y man, clywai dwrw chwerthin mawr a churo dwylo, ac meddai wrtho'i hun: "mae'r ffyliaid yn meddwl 'u bod nhw'n cael hwyl." Ond daliai i gerdded ymlaen, serch hynny. Yr oedd y neuadd dan ei sang,[169] a'r rhai a dderbyniai'r arian wrth y drws, erbyn hyn, wedi gadael eu gwaith, ac ar flaenau eu traed yn ceisio gweld rhwng pennau'r rhai a safai yn y drws, rhwng y cyntedd a'r ystafell.

Fel y dynesai Robinson, torrodd chwerthin mwy nag o gwbl allan, ac ymwthiodd y cipar i mewn, nes medru gweled y llwyfan.

"Ar y stage y dyla' fo fod; mi wnâi'i ffortiwn, gwnâi myn gafr i!" ebe rhywun yn ei ymyl, am un o'r actorion oedd yn mynd oddi ar y llwyfan drwy ddrws yng nghefn yr olygfa; ac ar ei waethaf, fe'i teimlai Robinson ei hun yn cymryd diddordeb yn yr actio.

"Dyma fo'n dwad eto," meddai rhywun.

Ac ar hynny, ymsythodd Robinson yn sydyn, gan rythu[170] ar yr actor.

"Pwy ydi hwnna? Pwy ydi hwnna sy'n dwad ar y stage rŵan?" gofynnodd, mewn llais isel, cynhyrfus, i rywun yn ymyl.

"Ond y fo, debyg iawn," meddai hwnnw. "'Tydi o'n naturiol? Ond 'rhoswch chi i chi'i glywed o'n siarad, Robinson.'

"Pwy ydi o? ydw' i'n i ofyn," meddai Robinson, gan gydio ym mraich y dyn; ond yr oedd holl sylw hwnnw wedi ei hoelio ar y llwyfan.

Ar hynny dechreuodd yr actor siarad.

"Pwy—ydi-hwnna?" gofynnodd Robinson drachefn. "Tydach chi ddim yn 'i 'nabod o, Robinson? Go dda 'nte? 'F'asa' neb yn breuddwydio mai fo ydi o. Ond Dic, siwr iawn,—Dic Cae Bach."

Troes Robinson ar ei sawdl gyda llw dychrynllyd, a chythrodd allan.

"Brenin Mawr!" ebe'r dyn wrth un oedd yn sefyll wrth ei ochr, "chof'is i ddim nad oes dim da rhwng yr hen Robis a Dic, ar ôl miri'r ceiliog ffesant hwnnw.'

PENNOD XIX
DIAL

Wedi cael o'r Neuadd, safodd y cipar i geisio cael rhyw fath o lywodraeth arno'i hun, gan na bu'r fath gyffro o'i fewn erioed, oblegid yr un un yn union oedd Dic Cae Bach yr actor, â'r potsiar a daflasai'r pupur a'r powdr tisian i'w wyneb.

"Mi â i amdano fo drwy ddrws y talcen," meddai'n ffyrnig. "Drama ne' beidio, mi ddweda' i'n 'i wyneb o mai—na, wneiff hynny mo'r tro. Mi â i at Roberts y plisman. Lle ma' hwnnw heno, tybed? Peth rhyfedd na f'asa' fo wrth y drws 'ma 'n cogio cadw trefn. Ella medra fo—na, 'choelia' i; d'rysu'r petha' wnâi'r mwnci mul Roberts 'na. Mynd at y Stiward,—'does dim arall amdani hi." A chychwynnodd.

Ond cyn ei fod wedi mynd fawr i gyd dechreuodd feddwl. "Ella na wrandith y penci hwnnw ddim arna' i, o ran hynny. Ella na choelith o mo fy stori i. Mi wnaeth ddigon o sbort am 'y mhen i ar ôl y tro o'r blaen, a mi fuo[171] Syr Huw yn ffiaidd ddychrynllyd. Brenin Mawr! be' 'na i? A finna'n gw'bod mai fo ydi o! Be oedd meddwl plisman y Dre yn deud mai un o'r Dre oedd o? Ond be' sy' gen'i i brofi? Trugaredd fawr! Siawns gin' i na fedra' i 'neud rhywbeth."

Ond ar hynny troes. Ac nid at Dic, nac at y plisman, nac at y stiward, yr aeth Robinson, ond yn ôl, ac i'r Bedol, a phrynu potel fawr o wisgi, ac allan. A chyn gynted â'i fod drwy'r drws, cymerodd lwnc o'r botel unwaith neu ddwy; ac yn ei flaen ag ef, heb weled neb, a thros y gamfa i lwybr a arweiniai at Gae Bach.

Petasai Robinson mewn llai o gyffro meddwl a theimlad, ac o bosibl, heb yfed mor helaeth o'r wisgi pur, mae'n sicr y buasai wedi gweled, gyda'i fod dros y gamfa, rywun yn cilio'n llechwraidd i'r gwrych, ac wedi iddo'i basio, yn codi'n lladradaidd[172] ac yn ei ddilyn.

Deallai gwraig Jim, yr is-gipar i'r dim, a gwyddai, unwaith y gafaelai'r syniad o wylio Robinson ynddo, nas gollyngai ef ar frys. Ac ers dyddiau bellach gwylio'r cipar y byddai Jim, yn fwy na gwylio potsieriaid. Am gryn ddeugain lath yr oedd y llwybr at Gae Bach yn mynd rhwng dau glawdd drain uchel, a dan goed, ac yr oedd yn bur dywyll yn y fan honno; ond cyn cyrraedd y llecyn arbennig hwnnw, daliodd Robinson i'r cae, a cherdded yr ochr arall.

Daliai Jim i'w ganlyn mewn gryn benbleth.

Wedi myned tuag ugain llath, a dyfod at fwlch bychan yn y clawdd aeth Robinson trosodd ac eisteddodd ym môn y clawdd a thynnodd gorcyn y botel.

Aeth Jim mor agos ato ag y medrai heb beryglu ei ddarganfod, gan wylio a gwrando.

Cafodd y cwmni fwy o hwyl nag erioed ar berfformio'r ddrama newydd; ac ar ôl gorffen yr oedd ganddynt gryn waith i'w wneud,—newid eu dillad, clirio'r golygfeydd, tynnu'r ffrâm i lawr, a golchi eu hwynebau. Ac yr oedd gan Dic waith ymolchi mwy na neb, oblegid nid locsyn gosod cyfan, y gellid ei dynnu a'i roi, oedd ganddo ef, ond gwallt crepe wedi ei gymio ar ei wyneb, ac yr oedd yn rhaid iddo wrth ddŵr poeth a chyffuriau[173] i'w dynnu, a chael ei wyneb yn lân.

Erbyn iddynt orffen aethai'n bur hwyr, ond o'r di-wedd cychwynnodd Dic adre', â'i becyn dan ei fraich, ar delerau da iawn ag ef ei hun.

Yr oedd popeth wedi mynd drwodd yn ardderchog. Gwenai wrth feddwl am dro neu ddau digrif a ddigwyddasai—un yn neilltuol,—a safodd gan chwerthin yn uchel wrth feddwl am hwnnw.

Clywodd Jim ef, a chlywodd hefyd siffrwd[174] o'r fan yr ymguddiai'r pen-cipar.

"O!" meddai Jim wrtho'i hun, "mi gwela' hi rŵan. Disgwyl Dic y mae o; fedr o ddim gadael iddo fo. Be' sy' gynno[175] fo isio efo fo yn y fan 'ma, tybed?"

Ar hynny, drwy'r gwrych, gwelai siâp Dic yn ei basio; ac ymhen eiliad neu ddau, clybu dwrw taro caled, ac ochenaid ddofn, a rhywun yn disgyn yn drwm, ac yna distawrwydd perffaith am ychydig. Wedi disgwyl tipyn, mentrodd Jim allan at y bwlch, a gwelai rywun ar ei hyd ar lawr ar ganol y llwybr. Aeth drosodd ac ato, a dyna lle'r oedd Dic Cae Bach yn gorwedd fel marw, a gwaed yn rhedeg o ochr ei dalcen.

Ond nid oedd olwg ar Robinson yn unman. "Doedd o ddim mor feddw," ebe Jim wrtho'i hun, "mi lithrodd i ffwrdd heb i mi 'i weld na'i glywed o. Faint mae Dic wedi 'frifo, tybed?' Mae'n rhaid bod Robinson wedi'i daro fo ddwywaith. Mae 'ma lwmp y tu ôl i' ben o hefydust! mae rhywun yn dwad.'

A neidiodd Jim dros y bwlch ac ymguddio.

Ni chafodd tad Dic fynd i'r ddrama'r noson honno, gan fod un o'r gwartheg yn sâl. Tuag un ar ddeg aeth Richard Ifans i'r beudy, a gwelai fod y fuwch yn waeth o lawer. Meddai wrtho'i hun: "mae arna'i ofn bod rhaid cael ffariar ati hi, ond mi ddaw Dic adre' unrhyw funud rŵan. Mi 'rhosa i nes daw o, a mi gaiff fynd ar 'i feic i'r Dre i nôl Harris."

Ond yr oedd y fuwch erbyn hyn i'w gweld yn gwaethygu'n gyflym. "Yn y Neuadd mae Dic," meddai Richard Ifans, "yn clirio'r petha', mae'n siwr. 'Fyddwn i fawr o dro'n rhedeg i Dyddyn Mawr i ofyn aiff un o'r hogiau i dd'eud wrth Dic am fynd i'r Dre ar 'i union, rhag colli amser. Mae o'n siwr o gael benthyg beic yn y pentre gan rywun.

A'i dwrw ef yn prysuro tua Thyddyn Mawr a glywsai Jim.

Deuai Richard Ifans yn gyflym, a bu bron iddo â baglu ar draws Dic cyn ei weled. Safodd yn sydyn, mewn braw. Yna plygodd i lawr.

"Dic!", meddai yn gyffrous. "Dic bach! Be' 'di'r mater?"

Ond nid atebodd Dic ddim.

"Dic!" meddai wedyn, mewn llais toredig, poenus, "Dic! dywed rywbeth wrtha' i." Ond ni chymerth Dic sylw'n y byd.

Yna dechreuodd Richard Ifans weiddi: "Help! Help!" mewn tôn ingol, dros yr ardal, a chychwynnodd Jim gilio o'r lle, mewn penbleth a phryder mawr.

"Mi ddylwn fynd i'w helpu," meddai, a safodd.

Yn wir, yr oedd wedi bod ar fin myned drosodd amryw weithiau, ac onibai iddo glywed sŵn troed Richard Ifans, buasai wedi cychwyn cario Dic adre, deued a ddelai, ond wedi i Richard Ifans gyrraedd, daeth braw arno, a dechreuodd feddwl beth a ddigwyddai pe rhoid y bai arno ef, ac ofnai na choelid ei stori, a neb yno'n dyst. Ac nid oedd berygl i Robinson helpu dim arno, heb sôn am gyfaddef mai efe a drawsai Dic, yn enwedig os digwyddai rhywbeth i Dic. Beth pe buasai Robinson wedi'i ladd o? Y Nefoedd fawr! efallai mai tric gan Robinson oedd hyn i'w setlo fo, a daeth holl rybuddion ei briod i'w feddwl.

Daliai Richard Ifans i weiddi o hyd.

"Fedra' i ddim diodde'i glywed o,' ebe Jim, "tric ne' beidio.' Ac er gwaethaf ei holl ofnau yr oedd yn cychwyn at y ddau, pan glywodd frigau yn clecian o dan draed rhywrai'n rhedeg drwy'r coed tua'r fan, ac ymwasgodd yntau at y gwrych.

Ymhen ychydig eiliadau, gwelai drwy'r gwrych, ddau neu dri dyn yn rhedeg i gyfeiriad y gweiddi. "Diolch i'r Nefoedd!" meddai Jim, "fedrwn i ddim dal yn hwy wrth glywed yr hen Richard Ifas yn y fan 'na efo Dic druan. Wel, dyma gyfle i fynd odd' 'ma, a gora' po gyntaf imi gychwyn hefyd. Ond faint mae'r creadur bach wedi 'frifo, tybed?" A chyda'r gofal mwyaf llithrodd Jim ymaith.

Pan gyrhaeddodd gŵr Tŷ Mawr a'i ddau fab i'r fan, deallasant ar unwaith fod Dic wedi ei anafu'n ddifrifol; a chyrhaeddasai dau arall hefyd i'r lle erbyn hyn. Yr oedd Dic yn hollol anymwybodol, ond ni wyddai neb beth a ddigwyddasai. Yr oedd gwaed ar ei arlais, a chŵydd mawr y tu ôl i'w ben, ond eisoes aethai un am ei feisic i fynd i'r Dre i nôl meddyg, a chychwynnodd y lleill gario Dic tua'r tŷ, a Richard Ifans yn eu canlyn, wedi torri i lawr yn lân.

Ar ôl cyrraedd, eglurodd iddynt cystal ag y medrai, sut y bu iddo ddyfod i'r fan, ac o hyd i Dic.

"Mi â i'r beudy yrŵan i weld sut mae'r fuwch," ebe un o'r dynion, a chyn gynted ag yr agorodd y drws gwelodd ar unwaith ei bod wedi marw. "Mi arhosa' i am dipyn cyn mynd i'r tŷ," meddai, "a mi feddylith Richard Ifas 'i bod hi'n well, a 'chymera' inna' ddim arna' nad ydi hi."

Ond pan aeth i'r gegin ymddangosai Richard Ifans fel petai wedi anghofio popeth am y fuwch. Eisteddai'n benisel, wedi ymgolli yn ei loes, o ddeall am berygl Dic.

PENNOD XX
LLOFRUDD

Gwnaethai Robinson ei waith yn drylwyr iawn. Pan oedd Dic yn ei basio, trawodd ef o'r tu ôl i'w ben â bagl ei ffon onnen drom, ne[176]s bod Dic yn disgyn yn anymwybodol i'r llawr, ac yna rhoes gic iddo yn ochr ei dalcen, a chlem ei esgid a wnaethai yr archoll ar ei arlais.

"Dyna dâl iti, llanc," meddai, a dihangodd ymaith fel cysgod, heb wneuthur y mymryn lleiaf o dwrw.

Wedi mynd i'r coed, safodd, a chymerth ddracht o'r botel drachefn, a meddyliodd ei fod yn clywed twrw o gyfeiriad y fan y gadawsai Dic, ac wrth syllu, credai ei fod yn gweled rhywun yn codi, ac meddai: "Myn cancr i! 'roeddwn i'n meddwl 'y mod i wedi'i daro fo'n galetach na hynny; mae o'n codi'n barod; rhaid bod naw byw cath yn y cena'. Wel, mi allaf fynd adre'n ddigon tawel y meddwl, y caiff o dipyn o ddyddia' go boenus, beth bynnag, a gobeithio y gwnaiff o ddeall mai fi t'rawodd o hefyd, ac os na fedra'i brofi ma' fo oedd y potsiar y noson o'r blaen, fedr ynta ddim profi ma' fi trawodd heno chwaith, mi ddyffeia' i o.

Fel y cerddai Robinson ymlaen cymerai aml ddracht o'r botel. "Wel," meddai yn y man, tan sefyll a chodi'r botel i fyny, a'i dal rhyngddo â'r awyr. "Mi 'rwyt ti'n dal ata' i'n dda."

Yr oedd ar gymryd dracht arall, pan dybiodd ei fod yn clywed cwningen yn sgrechian, ac ar amrantiad yr oedd Robinson yn gwrando fel cath, ac yn y munud clybu dwrw draw,—twrw a barodd iddo dyngu llŵ ofnadwy, a chychwyn ar ffrwst tua'r fan. "Ie," sibrydodd, "fel mai byw fi, rhwyd fawr wedi'i gosod, a chi'n hel cwningod iddi hyd y cae." Ond ar hynny disgynnodd ar ei liniau ar y cae, oblegid yn y cae arall, dros y clawdd yn y cae rwdins yn ei ymyl, clywodd leisiau isel, a gwelodd a chlywodd ddigon i'w lygad a'i glust cyfarwydd o ddweud wrtho fod dau barti allan, neu bod dwy rwyd ar waith, beth bynnag, oblegid wedi cropian at y wal a syllu drosti, gwelai siâp tri dyn yn cydsymud—y canol dipyn mwy yn ôl na'r ddau arall,—ychydig bellter oddi wrth ei gilydd, a deallodd yn y fan eu bod yn tynnu rhwyd am adar. Gyda hynny clywai adennydd yn fflapio hanner y ffordd rhwng y potsiar canol a'r un ar y dde, a'r potsiar canol yn cythru ymlaen ac yn gwyro. "Twm Teigar! goch ar fen-i!" murmurodd Robinson-"dyna'i dricia' fo!"

Er llymed oedd llygaid Robinson, nid oedd yn medru gweld popeth yn y tywyllwch, ond gwelai ddigon i'w ddychymyg lenwi'r bylchau, a deallodd fod Twm Teigr, potsiar peryclaf a ffyrnica'r ardaloedd, o'i flaen yn awr yn prysuro'n ddistaw i wasgu pennau'r ffesynt rhwng ei ddannedd, fel y delid hwy, ac yswatiodd am ei fywyd.

Ond cyn cyrraedd y wal, troes y tri photsiar i gyfeiriad arall. "Mae 'na ormod o giang i mi'u taclo nhw heb help," meddai wrtho'i hun, "a 'does arna' i ddim isio cael torri fy esgyrn gan Twm Teigar. Mi â i am Jim. Mae o'n fengach ac yn gryfach na fi, ac yn ddigon byrbwyll[177] i fynd i'r afael â'r gŵr drwg 'i hun, a lwc na' yrr'is i mo'no fo allan heno. Mae o'n 'i wely yn dawel!"

A chychwynnodd Robinson yn ochelgar tua thŷ Jim, ond wedi mynd tipyn o ffordd, dechreuodd redeg, a rhedeg yn gyflym iawn, ag ystyried yr holl wisgi a lyncasai'r noson honno.

Pan gyrhaeddodd at dŷ'r is-gipar, dechreuodd y cŵn gyfarth, ond tawelodd Robinson hwy ag un gair. Yr oedd pob man yn dywyll, ond gwelai lewych egwan y tân ar ffenestr y gegin. Lluchiodd Robinson bridd i ffenestr y llofft, ond ni ddaeth neb i'r ffenestr, a thaflodd wedyn. Ni wyddai nad oedd Jim yn ei wely, ac ni wyddai chwaith fod y taflu cyntaf wedi deffro'i wraig, a'i dychryn i farwolaeth bron, a bod y greadures honno yn dal ei hanadl yn ei braw, heb feddwl pwy oedd yno. Ond nid oedd gan Robinson amser i'w golli, a thaflodd ychwaneg o bridd i'r ffenestr, a hynny yn galetach o lawer y tro hwn, a chlywodd fachgen hynaf yr is-gipar yn crïo. "Jim!" gwaeddodd Robinson. "Jim! cod mewn munud!"

"Mr. Robinson! O! Mr. Robinson bach! y chi sy na?" meddai gwraig Jim, gan agor y ffenestr. "O'r Tad! mi ddaru'ch 'y 'nychryn i, 'roeddwn i

"Lle mae Jim?" gofynnodd Robinson ar ei thraws. "Tydi o ddim efo chi, Mr. Rob—?" dechreuodd hithau'n bryderus.

"Nag ydi, ne' f'aswn i ddim yn gofyn lle mae o," meddai Robinson, yn sarrug. "Tydi o ddim gartre?"

"Na," ebe Mrs. Williams, "fuo fo ddim gartre'n cael 'i swper heno. Mi aeth allan tua chwech, ac yr oeddwn i'n meddwl—"

"Na hidiwch be' oeddach chi'n 'i feddwl," meddai Robinson, yn llysnafaidd. "Ond, o ran hynny, fydd o byth ar gael pan fydd'i 'isio fo—

"Mae o ar gael yrŵan, beth bynnag," meddai llais chwyrn y tu ôl i Robinson, nes peri i'r cipar neidio, "a mi ofalith hefyd—

"Na hidia ddim yrŵan, Jim bach, rhaid iti fadda'i mi. Tyrd mewn munud am Gaea Tŷ'n Rhos. Mae 'na botsiars yn rhwydo'i hochr i yno.'

"Tewch â d'eud ddyn!" ebe Jim. "Wel, amdanyn' nhw ar unwaith!"

Ac ymaith â'r ddau ar hynny; a chymaint oedd awydd Jim i gael atynt fel mai ar ei orau y medrai Robinson ei ganlyn.

Fel y dynesent, cydiodd Robinson yn ei gôt, ac meddai: "Rwan, Jim, rhaid inni fod yn ofalus; wnaiff rhuthro fel hyn mo'r tro, a 'fydd o help yn y byd inni fynd i'r afael â nhw, a ninna' wedi colli'n gwynt cyn dechra'. Dos di gyda'r gwrych yr ochr acw, a gweithia i'r cyfeiriad yma. Mi wardia' inna'n y porth 'ma, ac os doi di ar 'u traws nhw heb iddy' nhw dy weld di, neidia am un ohony' nhw, a gwaedda wrth wneud hynny; ond cofia di farcio dy dderyn[178] rŵan, a dal dy afael yn hwnnw, a phaid ti â chymryd dy demtio i dreio dal dim ond yr un hwnnw, a mi ofala' inna' am un o'r lleill. A phaid ti â disgwyl iddo fo dy daro di; trawa di gynted ag y cei di gyfle, a thrawo'n iawn, cofia. Dos rŵan.

Beth bynnag oedd barn Jim am y cyfarwyddiadau, cychwynnodd ar unwaith i'r ochr arall, ac wedi cael yno dechreuodd weithio i gyfeiriad Robinson, ond ni welodd neb, ac yn y man cyrhaeddodd hyd at y pen cipar.

"Ydach chi'n siwr ma' yn y fan 'ma yr oedda' nhw?" gofynnodd Jim.

"Ydw," atebodd Robinson, yn sorllyd,[179] "mor siwr ag yr ydw' i y b'asa' ni wedi'u dal nhw 'tasa ti o gwmpas dy fusnes heno. Brenin Mawr! 'tasa' ti tua'r cartre' fel 'roeddat ti i fod, mi f'asat yn clywed 'u hogla' nhw. Mi fyddan' yn ddigon hy toc i ddwad i'r tŷ atat ti. Dyma ni rwan. 'Does gynno ni ddim syniad pwy oedden' nhw. Lle y bu.

"Toedd Dic Cae Bach yr un ohony' nhw, beth bynnag," meddai Jim ar ei draws, a gwelodd Robinson yn startio.

Ni ddywedodd Robinson ddim am foment, a phan siaradodd, yr oedd tipyn o gryndod yn ei lais. "P'am yr wyt ti mor siwr o hynny, Jim?" gofynnodd.

"O, mi ddylech chi w'bod," ebe Jim, "fod Dic wedi gorffen potsio am byth."

"Be' wyt ti'n 'i feddwl?" gofynnodd Robinson, yn gynhyrfus.

"Robinson," ebe Jim, gan edrych ym myw llygad y pen cipar, "mae arna i ofn ych bod chi wedi'i g'neud hi, heno.

"Be' wyt ti'n ddeud, Jim Willia's?" gofynnodd Robinson, gan gydio'n giaidd yn ei fraich. "B'le buost ti heno? Wyt ti wedi meddwi, dywed? Be' felltith ydi'r mater arnat ti? Y?"

"Robinson," ebe Jim, gan lacio gafael y cipar yn ei fraich, "mi wel'is i'r cwbl, fel mae gwaetha'r modd; mi gwel'is i chi'n ymguddio i ddisgwyl Dic, a mi wn yn iawn ma' chi trawodd o hefyd, er na wel'is i mo'no' chi yn g'neud hynny."

"Be oeddet ti'n 'i 'neud yn 'y ngwylio i y” dechreuodd Robinson.

"Mi adawn ni 'i hynny rŵan, Robinson," meddai Jim ar ei draws. "Dydw' i ddim wedi gorffen eto. Gwrand'wch, mae arna' i ofn y'ch bod chi wedi 'i ladd o hefyd!"

"Sut y gwyddost ti hynny, y lleban?"[180] meddai Robinson, yn wyllt. "I be' 'roeddet ti'n llusgo ar f'ôl i? A mi gei fynd oddi ar y stâd 'ma i dy gythra'l hefyd. 'I ladd, o wir! Be' nesa', tybed? Wyt ti'n meddwl mai ffŵl, ydyw i, 'run fath â chdi, dywed? Gwrando, 'ngwas i, mi 'ros'is[181] i yno'n ddigon hir i weld na ladd'is i mo'no fo, a mi wel'is Dic Cae Bach yn codi, 'machgen i, a mi—

"I weld o'n codi?" meddai Jim, "naddo Robinson, welsoch chi mo Dic yn codi. Wedi i chi redeg i ffwrdd, mi es i ato fo, a mi 'roedd o'n gorwedd yn llonydd ar lawr, a gwaed yn llifo o ochr 'i ben o."

Ar hynny sylweddolodd Robinson mai Jim a welsai efe'n codi, ac nid Dic.

"A mwy na hynny," ebe Jim, "mi ddaeth 'i dad o yno, a'i weld o, a mi ddechreuodd weiddi am help dros yr holl ardal, ac mi ddaeth gŵr Tyddyn Mawr a'r ddau fab yno, a rhai er'ill hefyd, a mi lithr'is inna' oddi yno, rhag ofn i mi gael y bai."

Erbyn hyn yr oedd Robinson yn gynhyrfus iawn, ac ni fedrai guddio hynny ychwaith. Yn wir, ni cheisiai wneud hynny.

"Wyt ti'n siwr nad oedd yno neb arall, Jim?" gofynnodd yn y man.

"Ydw'," atebodd Jim, "mi fuo mi'n ych gwylio chi am ddigon o amser. Mi f'aswn yn siwr o fod wedi 'i weld o 'tasa 'na rywun.'

"Wnei di—wnei di mo 'mradychu i, Jim?" gofynnodd y pen cipar yn erfyniol.[182]

"Robinson," meddai Jim, "mi wn i fod Dic Cae Bach wedi gofyn am drwbl, ac os daw o drwyddi hi 'dd'weda' run gair,—ond os ydi o wedi marw ust! beth oedd 'na, Robinson? Dian i! Nid ci oedd hwnna, deudwch? le, ar fengoch inna'! Dyna nhw, Robinson,—wardiwch, wardiwch!"

Ond safai Robinson heb symud. "Tydach chi ddim yn 'y nghlywed i, ddyn? Wardiwch, daria chi!" a chydiodd yn y pen cipar a'i dynnu i'r clawdd.

Aethai pobman yn berffaith ddistaw, a sibrydodd Jim yng nghlus y pen cipar: "Tybed 'u bod nhw wedi'n clywed ni? Na, 'dydw' i ddim yn meddwl. Rhaid inni gropian reit at y porth.'

"Ie," ebe Robinson, fel petasai yn deffro o gwsg, "ond y felltith ydi fod rhaid inni'n dau aros yr un ochr. Fiw i'r un ohono' ni groesi rŵan, rhag ofn iddy' nhw'n clywed ni.

Buasai Robinson yn meddwl yn galed ac yn gyflym er gwaethaf ei ddychryn mawr, byth er pan sylweddolodd os byddai Dic Cae Bach farw, y dywedai Jim bopeth.

"Does dim ond un ffordd amdani," meddai wrtho'i hun, "a mi'i cymera' i hi," a thynnodd y botel wisgi o boced ei gôt. "Hwde, Jim," meddai, "a gad dipyn ar ôl i mi."

Cymerodd Jim Iwnc da ohoni, ac estynnodd hi'n ôl. "Brysiwch ch'itha', Robinson," meddai, "arhowch gorcyn arni hi mewn munud, ne' mi glywan' 'ogla."

Yr oedd y ddau erbyn hyn wedi cyrraedd cilbost[183] yr adwy-Jim yn glos ar y cilbost, a Robinson wrth ei ochr, rhyw droedfedd yn nes yn ôl, y ddau yn barod i neidio. "Paid ti â rhuthro nes bydda' nhw yn pasio, Jim," ebe Robinson, gan gydio'n ei fraich. Ymhen rhyw hanner munud, clywent rywrai yn dyfod at yr adwy, a'r foment nesaf, gwelent siâp dau ddyn. Daliai Robinson ei afael ym mraich Jim o hyd, a phan oeddynt yn y porth, meddai Robinson yn uchel, gan ollwng ei fraich, "Am dany nhw!", ac mae'n debyg mai'r peth diwethaf a aeth drwy feddwl Jim wrth neidio'i fyny, oedd: "Beth rhyfedd i Robinson weiddi fel'na," ond ar hynny disgynnodd ar ei wyneb ar lawr, a chollodd pob gwybodaeth amdano'i hun, ac am bopeth arall.

Amcan Robinson yn gweiddi, oedd rhybuddio'r potsier- iaid, a pheri iddynt ddianc, oblegid wrth ollwng braich Jim a'i annog i ruthro arnynt, gwthiodd Robinson ei goes dde o'i flaen, a rhoes hergwd iddo â'i fraich chwith yn ei gefn, nes ei fwrw i'r llawr, a chan blygu uwch ei ben, trawodd ef â charreg drom â'i holl nerth mileinig,-- waith-dwywaith-teirgwaith, cyn codi ei ben.

"Be' gebyst ydach chi'n 'neud, ddyn?" ebe llais yn ei glust, a chyn iddo fedru taro wedyn, teimlodd freichiau cryfion amdano.

"Rhedwch, damiach chi! rhed—" meddai Robinson, ond tagodd ar ganol y gair, disgynnodd ei ên, aeth yn llipa'i gyd, a phan laciodd Roberts y plisman ei afael ynddo, suddodd y cipar yn swp i'r llawr.

PENNOD XXI
STORI WAN

Ar ei ffordd i'r Dre am y doctor cyfarfuasai mab Tyddyn Mawr, Roberts y plisman, ac yr oedd wedi dweud wrtho am helynt Dic, a'i fod yn credu'n sicr ei fod wedi marw.

Ond yn y cyfamser, wedi ei roi yn ei wely a chael tipyn o frandi, er mawr syndod i bawb, dechreuodd Dic ddyfod ato'i hun, ac i gymryd tipyn o ddiddordeb mewn pethau o'i gwmpas, ac erbyn i'r doctor a'r plisman gyrraedd, yr oedd yn cofio pethau.

Amgeleddodd[184] y meddyg ef, ac ar wahan i boen arteithiol[185] yn ei ben, teimlai Dic yn rhyfeddol o dda, ar ôl triniaeth y meddyg.

"Dic," ebe'r doctor, "mae dy benglog di cyn g'leted â haearn Sbaen, ond petasai'r briw 'ma ar dy arlais di hanner modfedd yn uwch i fyny, mi f'asa' wedi canu[186] arnat ti. Lle mae Roberts?"

Ond wedi gweled Dic yn dyfod ato'i hun, yr oedd y plisman wedi nodio ar fab Tyddyn Mawr, a'r ddau wedi mynd allan cyn clywed y stori; oblegid wrth ddyfod at y tŷ, tybiasai'r plisman iddo glywed twrw yn y pellter, a chan y byddai'n cael tip gan Syr Huw am gadw'i lygaid yn agored am botsieriaid, meddyliodd yr âi i wneud ymchwiliad. "A phwy a ŵyr," meddai wrth ei gydymaith, "nad y nhw ymosododd ar Dic?" Ac er mor ochelgar y buasai Robinson a Jim, yr oeddynt wedi clywed eu twrw wrth y porth.

A phan ddisgynnodd Robinson wrth ei draed, meddai'r plisman: "Brenin Mawr! 'tydw i ddim yn deall peth fel hyn. Ydi' o wedi d'rysu? Ymosod ar 'i bartner!"

"Mae o wedi meddwi, beth bynnag," ebe Harri Tŷ Mawr, "a barnu wrth yr ogla' wisgi 'ma. Efalla'u bod nhw wedi bod yn cwffio a bod— Ond cyn i'w gydymaith ddweud ychwaneg, meddai'r plisman mewn llais rhyfedd, "Rhedwch i Gae Bach! Nage, rhedwch ar draws y cae 'na i'r lôn rhag ofn 'i fod o wedi cychwyn yn ôl i'r Dre, a dowch â fo—dowch â Doctor Huws yma mewn munud! Brysiwch! Brysiwch!! ne' mi fydd yn rhy ddiweddar."

Ond gwyddai Roberts ei bod yn rhy ddiweddar eisoes. Nid oedd Robinson wedi symud, a phlygodd Roberts uwch ei ben yntau, ond ar hynny ymysgydwodd, a chodi ar ei draed, â golwg ryfedd iawn arno.

"Gawsoch chi afael arny' nhw, Roberts bach?" gofynnodd yn grynedig, oblegid yn ystod yr amser y buasai'r plisman yn archwilio Jim, yr oedd Robinson wedi penderfynu pa gwrs a gymerai. Nid oes angen dweud iddo ddychryn i farwolaeth bron, pan welodd mai Roberts y plisman, ac nid potsiar, a ddaethai drwy'r porth. Meddyliodd yn sicr ei bod ar ben arno, oblegid gwyddai yn iawn ei fod wedi lladd Jim, a bod ei gynllun gwreiddiol o roi'r bai ar y potsieriaid wedi ei ddyrysu, ond yr oedd am roi un cynnig i'w achub ei hun.

"Gafael ar bwy?" gofynnodd y plisman.

"Ond ar y potsiars, debyg iawn," ebe yntau.

"Naddo," meddai'r plisman.

"Ddaru chi ddim gadael iddy' nhw dd'engid, debyg gin 'i? a nhw'tha'n ych gafael chi? Mi setl'is i hwnnw ddaru gythru i mi, beth bynnag, a dyna fo!"

"Na," meddai Roberts, "nid potsiar ydi o, Robinson, fel mae gwaetha'r modd."

"Be' 'dach chi'n feddwl, ddyn?" gofynnodd y cipar, gan godi a mynd at ei bartner yn sigledig. "Y Nefoedd Fawr!, Jim ydi hwn; Jim, 'y mhartner i! Pwy 'naeth hyni Roberts? Twm Teigar oedd un ohony' nhw—m, gwel'is i o, a 'ches i ddim cyfle i 'nabod hwnnw gythrodd i'ngwddw i; mi neidiodd imi mor sydyn, a Duw a ŵyr sut y medr'is i dynnu'r garreg 'ma o'r wal. 'Doeddwn i'n gweld dim; 'roedd o'n gwasgu 'ngwddw i mor ofnadwy. Mi fydd ôl i hen 'winedd o yma am byth,—'drychwch!"

A chododd Robinson ei ben, a dangos marciau mawr ar ei wddf, oblegid tra bu'n gorwedd ar lawr, yr oedd wedi crafu a rhwygo ei wddf yn enbyd.

"Frifodd o di'n arw, Jim bach?" gofynnodd Robinson, gan blygu eilwaith uwch ei ben.

"Fedr Jim mo'ch ateb chi, Robinson," ebe'r plisman. "Fedr Jim mo' f'ateb i? Be' 'dach chi'n feddwl, ddyn?" gofynnodd y cipar.

"Rŵan, Robinson," meddai Roberts, "rhaid i chi—

"I be' 'dach chi'n aros yn y fan 'ma ddyn?" gofynnodd y cipar, cyn iddo gael dweud rhagor, "rydw i'n d'eud wrthach chi mai Twm Deigar oedd un ohonyn' nhw. Mi gwel'is i o. Pam nad ewch chi i' dŷ o rŵan? Os brysiwch chi mi fyddwch yno cyn iddo gyrraedd. Mi 'rhosa i yma efo Jim druan nes daw'r doctor." A gwnaeth gamgymeriad mawr wrth ddweud hynny, oblegid yn ôl pob golwg nid oedd Robinson yn ddigon ymwybodol i ddeall llawer pan ddywedodd Roberts wrth fab Tŷ Mawr am fyned i nôl y doctor.

"Na," meddai Roberts, "mi arhoswn ni nes daw'r doctor."

"Mi arhoswn ni? Mi arhoswch chi, ydach chi'n feddwl—yr ydw i'n mynd i dŷ Twm Teigar y funud 'ma." "Hanner munud, Robinson," ebe'r plisman, mi' rhoswn ni'n dau 'ma nes

"Rydach chi'n ddigon yn y fan 'ma, a 'rwystrwch chi mo'na' i fynd i fedru profi bod Dic Deigar allan heno. Na 'newch, ar f'en— "Gwnaf, Robinson," ebe'r plisman, gan gydio yn ei fraich, "a gwell i ch'itha wrando arna' i.

"Be 'dach chi'n feddwl ydach chi'n dreio 'neud, ddyn?" gofynnodd y cipar, gan geisio cythru ei fraich o afael y plisman.

"Robinson," meddai'r plisman, heb ollwng ei afael, â nodyn penderfynol yn ei dôn. "dewch chi ddim odd' 'ma nes daw'r doctor; a chyda llaw, gorau po leiaf o drafferth rowch chi i mi'ch cadw chi yma hefyd ar ych lles chi'ch hun."

"Tydw'i ddim yn ych deall chi, wir, Roberts, ond y'ch look out chi ydi hynny, cofiwch," meddai Robinson.

Yna bu yn ddistaw am funud neu ddau, ond meddai'n y man: "Rydw i'n synnu bod nhw wedi cael yn glir, achos mae'n sicr 'y mod i wedi g'neud fy ôl ar hwnnw aeth i 'ngwddw i, beth bynnag, a mi f'aswn i wedi'i 'neud o na fedra' fo ddim symud heblaw bod rhyw wendid sydyn wedi dwad drosta' i; ond mae'n syndod 'y mod i cystal 'ran hynny."

"Ie, ie," ebe'r plisman, a dyna'r cwbl.

PENNOD XXII
RHWYDO ROBINSON

Yn y man clywent dwrw rhywrai'n dyfod yn gyflym draw, ac ymhen ychydig funudau, cyrhaeddodd Doctor Huws a Harri Tŷ Mawr.

"Wel, dyma ni eto, Roberts," meddai'r meddyg. "Does 'ma ddim prinder helyntion heno, 'ddyliwn."

Yna plygodd uwch ben Jim i'w archwilio, a bron cyn gynted ag iddo gyffwrdd ynddo, meddai yn siarp:— "Roberts, daliwch y'ch lamp yn nes."

Yn y man sythodd, ac meddai mewn tôn ddifrifol: "Fedra' i na'r un doctor wneud dim iddo fo, druan; mae o wedi marw ers meitin. Sut y —?"

"Twm Teigar," meddai Robinson, "ne' rywun oedd efo fo lladdodd o, mi—"

"Na, nid Twm Teigar, ychwaith, meddai llais uchel o'r ochr arall i'r wal, ac ar hynny dyma ddyn mawr cyhyrog[187] yn taro'i law ar gopi'r wal, ac yn neidio drosodd atynt, a dyn bychan eiddil ar ei ôl.

"Dyma nhw ar y gair," gwaeddodd Robinson, yn gynhyrfus. "Dyma'r ddau lladdodd o."

"Na," ebe Twm Teigr, yn dawel. "Ella bod Sam a finna'n botsiars, ond 'tyda ni ddim yn llofruddion," a chan bwyntio at Robinson, meddai gyda phwyslais, â rhyw gryndod yn ei dôn: "Roberts, dyna lofrudd Jim Willia's, a—

Ond torrodd Robinson ar ei draws. "Felly wir," meddai. "Be' nesa', tybed? Pwy sy'n mynd i—?"

"A 'tydw i ddim wedi gorffen eto," meddai Twm Teigr, ar ei draws yntau. "Y fo, hefyd, ydi llofrudd Dic Cae Bach!"

Ar hynny neidiodd Robinson fel petai sarff wedi ei frathu, a gwaeddodd, "Be' wyt ti'n ddeud, y jailbird c'lwyddog?'

"Deud," ebe Twm, "mai chdi laddodd Dic Cae Bach, a phe 'tasa ti wedi sbio dros y wal, mi f'asat wedi gweld Sam a finna'n wardio yno, ond mi drefnodd y Bod Mawr iti beidio, a mi glywsom y sgwrs i gyd, a mi—

Ond cyn iddo ddweud ychwaneg, troes Robinson yn sydyn, a chyn i neb gael cyfle i'w rwystro, yr oedd dros y clawdd, ac yn ffoi fel petai holl ellyllon[188] y fall yn ei ymlid, a Thwm a Sam yn cychwyn ar ei ôl.

"Rhoswch," meddai'r plisman, "rhoswch ych dau am funud, inni gael deall pethau'n well cyn inni fynd gam ymhellach. Be' oeddet ti'n feddwl, Twm?"

"Hyn," meddai Twm yn frysiog, "mae Robinson wedi lladd Dic Cae Bach heno; mae nhw wedi mynd â fo adre'n gorff. Yr oedd Jim wedi'i weld o'n g'neud, ond 'wydda' Robinson mo hynny nes deudodd Jim wrtho fo, a phan ddalltodd[189] Robinson nad oedd neb arall wedi'i weld o, mi benderfynodd gau ceg Jim, a mae o wedi g'neud hefyd, a mi 'roedd y bwystfil am roi'r bai arna' i. Ar 'i ôl o, Roberts,—dowch!"

"Sam," ebe'r plisman, "aros di yn y fan 'ma efo'r efo Jim, a mi aiff Harri i godi rhai o'r cymdogion 'ma i ddwad i nôl o."

"Ac," meddai Dr. Huws, "mi alwa' inna' efo Mrs. Williams i' pharatoi hi. Mi fydd hyn yn sioc ofnadwy iddi hi a'i babi hi'n ddim ond dau fis oed."

"Diolch yn fawr i chi, syr," ebe'r plisman. "Rwan, 'ta, Twm, ond paid ti a'i faeddu[190] o, cofia di."

A chychwynnodd y ddau.

Am gwr cyfer coed oedd yn ymyl—y Cyfer Du—fel y'i gelwid, y gwnaethai Robinson hi, ond heb gynllun o fath yn y byd. Dim ond ffoi-ffoi i rywle o'r lle, oblegid gwelsai ar amrantiad pan ddeallodd fod Twm Teigr a Sam Bach wedi ei glywed, ei bod hi wedi diffodd arno, a daeth arno fraw annirnadwy, ac wrth iddo ffoi, saethai iasau o arswyd ofnadwy drwyddo fel y sylweddolai ei sefyllfa ddiobaith. "Duw Mawr! be' wna' i?" meddai. "Mae hi wedi darfod arna' i."

Yn ei ddychryn gorffwyllog,[191] rhedai fel ewig, ac yn fuan iawn, yr oedd yng nghwr y coed. Ac wedi cael drosodd, safodd am eiliad, a chlywai dwrw rhywun yn union o'i flaen yn rhuthro oddi wrtho, a gwelai gysgod dyn yn neidio o'r coed ac yn rhedeg gyda'u hymyl yn y cae.

"Potsiar," meddai, yn chwerw, "ond beth ydi potsiar i mi rŵan, a'r crocbren o 'mlaen i?"

Ar hynny, clywai dwrw rhedeg tua'r cyfer. "Y Nefoedd Fawr!" meddai, "ma' nhw wrth yn sodla' i'n barod," a llamodd ymlaen.

Er cyn gryfed a chadarned dyn oedd Twm Deigr, nid oedd arno ddim cnawd wâst, nac owns o fraster; ac er bod y plisman yn heini ac yn sionc, nid oedd ganddo'r siawns leiaf gyda'r Teigr,—enillai arno bob llathen, a chyrhaeddodd y coed gryn hanner can llath o'i flaen, ac wedi cael trosodd, safodd i wrando, a chlywai dwrw dail yn siffrwd, a mân frigau yn clecian dan draed rhywun yn rhedeg draw, ac ail gychwynnodd yntau.

Methai Dafydd Denau, y potsiar a neidiodd o'r coed o flaen Robinson, yn lân â deall pethau, oblegid tybiasai yn hollol naturiol, pan neidiodd Robinson i'r coed, mai dyfod ar ei ôl ef yr ydoedd, ac er bod ganddo faich da o gêm yn y cwd ar ei gefn, ni feddyliodd am foment y gallai ddianc a chario'r gêm hefyd, felly gollyngodd y bag yn y fan, a dechreuodd redeg am ei hoedl.

Ond er ei fawr syndod, ni ddaeth neb drosodd ar ei ôl, a rhagor na hynny, draw oddi wrtho y rhedai pwy bynnag oedd yno. "Wel, 'tawn i'n marw!" meddai yn syn, a safodd mewn penbleth. "'Tydw'i ddim yn dallt hyn; mae'n rhaid bod yr hen Robis wedi 'nghlywed i, os na welodd o fi. Robis oedd o, debyg, pwy ond—? Brensiach annw'l! beth ydi hwn eto? Mae 'na un eto. O! Jim, debyg gen' i.

Neidiodd hwnnw hefyd i'r coed, ac wedi aros am foment, rhedodd ar ôl y llall, yr un ffordd yn union. "Tawn i'n marw eto," meddai Dafydd Denau wrtho'i hun, "wel os fel 'na mae'i dallt hi, mi âf i nôl y bag gêm; âf ar f'engoch i." A throsodd ag ef yn ei ôl i'r coed.

Ond cyn gynted â'i fod wedi codi'r cŵd a chychwyn o'r coed, clywai un arall wedyn yn cyrraedd. "Mae'n rhaid bod 'ma rasus heno," meddai Dafydd, gan gychwyn fel y gwynt, "rhaid, myn dian i, ond 'ollynga' i mo 'nghwd eto ar chwara' bach, na wna', myn gafr i."

Ond yr oedd Roberts y plisman wedi ei glywed, ac wedi cychwyn ar ei ôl hefyd.

"P'am gwtrin nad aiff hwn yr un ffordd â'r lleill?" meddai Dafydd wrtho'i hun, dan redeg, "na, 'choelia'i fawr. A mwy na hynny mae o'n ennill arna' i hefyd. Jest fy lwc i, wrth gwrs. Wel, ffarwel, 'y metha' bach i." A gollyngodd ei gŵd gêm ar y cae, a saethodd ymlaen wedi cael y baich oddi ar ei gefn. "Dal fi rŵan, gamp i ti?" ysgyrnygodd dros ei ysgwydd, mewn llais main, gwichlyd.

"Dam las! Nid y fo ydi o," meddai Roberts, gan godi'r bag. "Potsiar oedd hwn, a finna' 'n un ffŵl yn meddwl mai Robinson oedd o, a rŵan Twm Teigar gaiff y clod am ddal hwnnw. Wel, fel 'na mae hi; ond mi fydd Syr Huw yn falch o'r ffesynt 'ma, a mi wêl 'y mod i'n haeddu'r tips. Pwy oedd y boi, tybed? Wn i ddim be' sy' ar yr hen lamp 'ma heno;'does gynni hi ddim mwy o ola na matsen, ne' mi f'aswn wedi'i 'nabod o. Ond, cheer up mi fyddaf yn ffigro mewn cês o fwr-Brenin Mawr! Beth oedd hwnna?"

Y peth a dorasai ar ymson Roberts, oedd gwaedd arswydus o rywle ym mherfedd y coed, a rhuthrodd y plisman tuag yno.

PENNOD XXIII
DIWEDD DYCHRYNLLYD

Gwyddai Robinson am bob modfedd o'r Cyfer Du, ac er nad oedd yn hollol ddieithr i Twm Deigr, nid oedd Twm hanner mor gyfarwydd ag ef, ag ydoedd â'r cyferi eraill. Ynghanol y cyfer yr oedd hi'n dywyll fel y fagddu, ond gwaith hawdd oedd canlyn twrw'r cipar ac yntau'n cythru fel yr ydoedd. Yn ei ddychryn, ni feddyliodd Robinson am aros ac ymguddio a cheisio troi ei erlidiwr oddi ar eu drywydd[192] felly, ond daliai i redeg yn ei flaen, er mynych daro yn erbyn coeden, a baglu ar draws brigau a mieri.

Dyna, hefyd, oedd hanes Twm, ac ychwanegai hynny at ei gynddaredd, ond yr oedd yn benderfynol o ddal y cipar, deued a ddelai.

"Roedd y llymgi[193] am roi cortyn am 'y ngwddw i," meddai wrtho'i hun, "oedd, ar f'en'd i, ac ella b'asa fo wedi llwyddo hefyd, a chen' inna' record ddrwg yn barod."

(Buasai Twm yn y carchar am ddeuddeng mis, oherwydd ymosod ohono ar gipar a phlisman, a'u maeddu'n enbyd, ryw ddwy flynedd cyn hynny).

Methai'n lân â deall sut na chlywai dwrw Roberts yn dyfod ar ei ôl. "Mi ddyla'n dal ni yn y coed 'ma, a chynno fynta'<ref>Fynta': yntau.<ref> lamp a phopeth," meddai.

Os clywai Twm dwrw Robinson, clywai Robinson yntau, dwrw Twm, ac yr oedd wedi deall hefyd mai un oedd yn ei ganlyn, a meddyliai mai'r Teigr ydoedd yr un hwnnw, gan nad oedd ganddo olau. Daliai i redeg o hyd, er bod ei ddillad wedi eu rhwygo, a'i gorff yn gleisiau, a'i wyneb yn gwaedu gan amryw gripiadau; ond dal i'w ganlyn yr oedd ei erlidiwr o hyd.

Yn y man troes i lwybr a arweiniai drwy'r coed, a phlygodd i lawr unwaith neu ddwy, dan redeg.

"Mae o wedi'i g'neud hi rŵan," ebe Twm wrtho'i hun. "Fydda i fawr o dro a'i ddal o, os cadwith o ar y llwybr 'ma."

Ond gyda hynny troes y cipar o'r llwybr, ac i'r coed drachefn.

"Diawst i!" meddai Twm, "mae o wedi'i dallt hi; ond waeth iti heb, yr hen frawd," a rhuthrodd ar ei ôl.

Ond cyn ei fod wedi mynd ragor na rhyw chwellath, trawodd rhywbeth ef yn ei ysgwydd chwith â'r fath rym, nes ei hanner droi'n ôl. Griddfannodd Twm mewn poen, ond yr un foment, clywodd dwrw rhywbeth arall yn taro coeden wrth ei ochr.

Wrth redeg hyd y llwybr, codasai Robinson ddwy garreg, a phenderfynodd atal ei erlidiwr os medrai mewn modd yn y byd.

"Os methith y rhain," meddai wrtho'i hun, "mi fydd gen' i un cynllun arall wedyn, a waeth imi'i gorffen hi ddim, 'fedr hi ddim bod yn waeth arna' i nag ydi hi'n barod. A throes o'r llwybr ac wedi mynd rhyw ddeuddeg llath, safodd, a phan oedd Twm o fewn rhyw bum-llath iddo, â'i holl nerth, taflodd garreg ato, gan obeithio ei daro yn ei ben; a phan glywodd yr ochenaid, tybiodd ei fod wedi llwyddo, a chan feddwl bod Twm yn syrthio, anelodd yr ail garreg dipyn is, gan obeithio'i daro yn ei ben eilwaith, ac ail-gychwynnodd redeg.

Am rai eiliadau wedi ei daro, meddyliai Twm fod asgwrn ei ysgwydd wedi ei dorri, ond ar ôl pangfa neu ddwy, fe'i adfeddiannodd ei hun, ac yn ei gynddaredd a'i boen, llamodd yn ei flaen, gan weiddi; "Aros di'r llofrudd!" Ond y foment honno, gorweddodd Robinson yn union o'i flaen, a baglodd Twm ar ei draws, gan gael ei gario ymlaen yn y godwm, nes bod ei ben a'i freichiau a hanner ei gorff dros ymyl dibyn.

Ond nid oedd Robinson wedi mentro'n ddigon agos at yr ymyl cyn gorwedd, ac oherwydd hynny ni syrthiodd Twm yntau'n ddigon pell ymlaen, i fyned yn glir dros ymyl Clogwyn y Diffwys, a disgyn i'r afon, gryn gan troedfedd islaw.

Er gwaethaf y godwm a'r tywyllwch, sylweddolodd Twm beth a ddigwyddasai, ac ar amrantiad yr oedd wedi plannu blaenau ei draed yn y ddaear ac â'i holl egni ceisiai ei gael ei hun o'i berygl, a chyn i Robinson gael dros ei syfrdandod o weled na ddisgynasai drosodd, yr oedd wedi medru cael gafael mewn draenen ddu a dyfai ar yr ymyl, ond cyn iddo fedru gwneud rhagor, cythrodd Robinson i'w ddwy ffer, cododd ei goesau, a hyrddiodd ef drosodd.

Meddyliodd Twm fod ei awr ddiwethaf wedi dyfod, a rhoes un waedd ofnadwy, nes bod creigiau y ceunant yn diasbedain.[194] A'r waedd honno a barodd i'r plisman adael y bag gêm a rhuthro tua'r lle, gan geisio trwsio'i lamp dan fynd, fel y gallai ymlwybro trwy'r coed yn gynt.

Er bwrw ei draed yn glir dros ei ben, ni ollyngodd Twm Deigr ei afael ym môn y ddraenen ddu, a thrwy drugaredd, er iddo dynnu'r ddraenen dros yr ymyl, ni ddiwreidd iwyd hi, ond disgynnodd Twm â'i gefn at wyneb y dibyn, â'i holl bwysau ar y ddraenen. Disgwyliai bob eiliad i'w gwraidd, roi a'i ollwng yntau i'r dyfnder du odano.

Nid craig noeth ydoedd wyneb y dibyn yn y fan arbennig honno, ond rhyw gymysgedd o siâl<ref>Sial: shale.<ref> a chlai, a drain a mieri yn tyfu ohono, ac yn ei ymdrech i leihau'r straen ar wreiddiau'r ddraenen—ac ar ei fraich ei hun hefyd ceisiodd gael ei sodlau i'r clai rywsut, a chydio yng ngwreiddiau'r mieri â'i law arall, a chlybu Robinson ei dwrw.

"O," meddai, gan symud ymlaen yn ochelgar tuag ymyl y dibyn, "'dwyt ti ddim yn uffern byth. Wel, aros di'r, pry' copyn, mi dorrwn ni dy we' di. Ac ar hynny, dechreuodd lacio gwreiddiau'r ddraenen, a phan ddeallodd Twm Deigr beth oedd yn mynd ymlaen, torrodd allan i weiddi, "Help! Help!!" nes bod ochrau'r ceunant cul yn datseinio.

Er mai golau gwan a rôi'r lamp i Roberts, yr oedd yn ddigon iddo fedru myned rhwng y coed heb daro ynddynt, na baglu llawer yn y mieri, ac felly rhedai yn weddol gyflym, ond cyn gynted ag y cafodd i'r llwybr yn y coed, diffoddodd ei lamp yn llwyr, ond clywodd Twm yn gweiddi, a rhuthrodd yn y tywyllwch tua'r fan.

Cawsai Robinson fwy o drafferth gyda gwraidd y ddraenen nag a feddyliasai, ac yr oedd wedi colli tipyn o amser, gan iddo orfod cymryd ei gyllell i naddu'r gwreiddiau ffyrfaf, a phan oedd yn torri drwy'r gwreiddyn diwethaf, clywodd dwrw rhuthro o'r llwybr, a chyn iddo gael sythu'n iawn, dyma lais uwch ei ben yn gweiddi: "Hylo! be' sy' mynd ymlaen yn y fan'ma?"

Neidiodd Robinson ymlaen gan geisio pasio'r plisman, ond cythrodd Roberts iddo.

"Gollyngwch fi, Roberts," meddai'r cipar, "gollyngwch fi os ydach chi'n gall."

"Na wna', Robinson, na wna'," meddai'r plisman, gan ymgodymu ag ef, "waeth i chi he—

Peidiasai Twm â gweiddi gynted ag y clybu lais Roberts, a cheisiai ei orau gael i fyny, heb wybod cyn lleied, erbyn hyn, oedd yn dal y ddraenen.

Ac er i Roberts glywed llais Twm yn isel i lawr, gan na wyddai ddim am y dibyn, ni sylweddolodd y sefyllfa. Yn wir, ni chafodd amser i feddwl am ddim ond am ei wrthwynebydd, oblegid ymladdai Robinson fel gwallgofddyn. Yr oedd wedi gafael yng ngwddw'r plisman ac yn ei wasgu'n ofnadwy, er bod Roberts yntau wedi rhoi ei ddwy fraich am feingefn Robinson, gan ei wasgu ato â'i holl nerth, gan feddwl, oherwydd ei fod yn dalach na Robinson, wrth wthio â'i frest, fedru plygu cefn y cipar yn ôl nes byddai'n rhaid iddo ddisgyn, neu gael torri asgwrn ei gefn. Ond yr oedd Robinson yn gwasgu ei bibell wynt yn ddychrynllyd, a theimlai ei ysgyfaint bron â byrstio; a rhyddhaodd un fraich i wthio pen y cipar yn ôl, i geisio ganddo ollwng ei afael, ond fe'i teimlai ei hun yn gwanio bob eiliad, ac er bod cefn Robinson erbyn hyn fel bŵa, gwyddai Roberts, onid ildiai'r cipar ymhen ychydig eiliadau, y byddai ef ei hun wedi mygu.

"Gollwng fi," ysgyrnygodd Robinson, "gollwng fi gyth—

Ond crynhodd Robinson ei holl nerth mewn un ymdrech ofnadwy.

"Tyrd efo mi 'ta'r ffŵl!" ysgymmygodd y cipar, gan roi hanner tro a chodi ei draed, a chafodd Twm gip ar rywbeth du'n pasio uwch ei ben rhyngddo a'r awyr; a thra bydd byw, nid anghofia waedd ddychrynllyd y plisman wrth fynd dros ymyl y dibyn, a thwrw'r ddau yn taro'r creigiau yn y gwaelod. Saethai iasau o arswyd drwy'i galon, ac y mae'n rhaid ei fod, yn ei fraw, wedi rhoi plwc ar y ddraenen, oblegid ar hynny gollyngodd ei gwreiddyn olaf.

PENNOD XXIV
GORYMDAITH BRUDD

Nesâi at doriad gwawr, a gwelid goleuadau yn symud yma ac acw yn y coed, ac yn y caeau o'u hamgylch, oblegid buasai gryn ddwsin o drigolion y fro, er tri o'r gloch y bore, yn chwilio am Robinson a'r plisman a Thwm Teigr, ond y cwbl a welsent oedd bagiad ffesynt Dafydd Denau—dyna'i gyd.

Yr oedd Harri Tŷ Mawr a Sam Bach yn dyfod i fyny'r llwybr yn y coed, pan stopiodd Sam yn sydyn, a gafael ym mraich ei gydymaith. "Aros, Harri!" meddai'n gynhyrfus. "Gwrando! Glywi di rywbeth?"

Ac wedi clustfeinio am dipyn, clywent lais gwannaidd yn gweiddi yn rhywle i'r aswy odanynt, a throesant o'r llwybr, ac wedi iddynt fyned ychydig lathenni, yng ngolau eu lantern gwelsant lamp y plisman a chlywsant islaw weiddi poenus, gwanllyd, a dechreuodd y ddau chwibannu yn uchel, oblegid dyna orchymyn yr arolygydd a ddanfonasid i Lanystyn gan y meddyg wedi iddo gyrraedd y Dre,—fod pwy bynnag o'r deuoedd chwilio a ddeuai o hyd i rywbeth, i chwibannu a galw ar y partïon eraill.

Erbyn i'r arolygydd gyrraedd, yr oedd y wawr wedi torri, a gwelent oddi tanynt Dwm Teigr.

Pan ollyngodd gwreiddiau'r ddraenen ddu, disgynnodd Twm drwy'r drain a'r mieri, ac er i'r rheini dorri ar ei godwm, buasai ar ben ar Twm, onibai fod coeden helyg yn tyfu allan o agen yn y graig yn union odano; ac ym mrigau honno y cafodd Twm ei hun, pan ddaeth yn ymwybodol, â'i ddillad yn garpiau, a'i wyneb a'i ddwylo yn waed i gyd, a thair o'i asennau wedi torri.

Nid heb drafferth fawr y cafwyd Twm i'r lan, ac ni fedrai ddweud fawr heblaw pwyntio'n gynhyrfus tua'r creigiau islaw.

Yn y man, wedi tynnu giât cae gerllaw, cychwynnodd gorymdaith drist o waelod Nant y Diffwys drwy'r coed, ac ar draws y caeau i bentre Llaniestyn, a chotiau rhai o'r rhai a gludai y giât yn cuddio'r ddau a orweddai arni.

Yn y cwest ar Robinson a Roberts, daeth yr hanes i gyd allan, a'r ddedfryd oedd i Robinson lofruddio Jim a Roberts yn wirfoddol, ac iddynt hwy gyfarfod â'u diwedd wrth gyflawni eu dyletswydd

"Y nhad," ebe Dic Cae Bach, noson y cwest, "mae arna' i ofn na fydda' 'i byth yn hapus eto; 'rydw' i'n teimlo fel petai'r tri wedi'u lladd o'n hachos i."

"Na, Dic," meddai ei dad, "'dydi hi ddim cyn waethed â hynny, 'ngwas i, ond dyna ddiwedd ar botsio am byth."

Y DIWEDD.

Nodiadau

[golygu]
  1. Mendio: to cure.
  2. Synhwyro: to smell.
  3. Swnian: to whine.
  4. Ogla: arogl, scent.
  5. Gorddrws: weather-board.
  6. Fynta: yntau.
  7. Wrthat: wrthyt.
  8. Brasgamu: to stride.
  9. Cythru: to grab.
  10. Pengaled: headstrong.
  11. Gyddfol: throaty.
  12. Gin' ti: gennyt ti.
  13. Pecyn: small pack.
  14. Dyfaru-edifarhau: to regret.
  15. Cyfr'odd, cyfrifodd: counted.
  16. Nhw: hwy
  17. Lecio: to like.
  18. Edrach: edrych.
  19. Ella: efallai.
  20. 'Tawn: petawn.
  21. Talgryf: sturdy
  22. Be' di?: what is?
  23. Siambr: bedroom on ground floor.
  24. Anesmwythid: uneasiness.
  25. Gwrach: witch.
  26. Be' 'tasa,?: Beth pe buasai?
  27. Brech: speckled.
  28. Blewiach: fluff.
  29. Ffust: flail
  30. Gwichian: to squeak.
  31. Erchwyn: edge.
  32. Penelinoedd: elbows.
  33. Siawns gen' i: I suppose.
  34. Crafangau: talons
  35. Sio: to hiss.
  36. Lliprynaidd: limp.
  37. Dieithrio: to disguise.
  38. Ymson: soliloquy.
  39. Llarpio: to tear to bits.
  40. Fiw i mi: I dare not.
  41. Cilagor: to open slightly.
  42. Ond fuom 'i?: Haven't I been?
  43. Coethi: to bark.
  44. Egr: fierce.
  45. Isio: eisiau.
  46. Byddarol: deafening.
  47. Carthu: to clean.
  48. Pyrsiau: udders.
  49. Busnesu: to interfere.
  50. Yn frenin: ever so much better.
  51. Plwyfolion: parishioners.
  52. Siwrin: insurance.
  53. Streullyd: gossipy.
  54. 'Fuo: ni bu.
  55. Ych: eich.
  56. Cael hyd: discover.
  57. Y gafod: chill.
  58. Clên: affable.
  59. Anewyllysgar: unwilling.
  60. Ergyd o'r parlys: seizure, stroke.
  61. Arlais: temple.
  62. Cynnau: to kindle.
  63. Pentan: hob.
  64. Cleisio: to bruise.
  65. Dianghenraid: unnecessary.
  66. Sgragiog: scraggy.
  67. Mileinig: savage.
  68. Ar f'end: upon my soul.
  69. Ymwingo: to writhe.
  70. Ymnyddu: to worm.
  71. Cordeddu: to twist.
  72. Bustachu: to exert oneself in vain.
  73. Gordd: sledge-hammer.
  74. Serio: to sear.
  75. Ingol: agonizing.
  76. Cetrisen: cartridge.
  77. Cynhebrwng: funeral.
  78. Coleddu: to cherish.
  79. Eithrio: to except
  80. Celcio: to embezzle.
  81. Disodli: to supplant.
  82. Preimin: Agricultural show.
  83. Hoenyn: snare.
  84. Trywydd: track.
  85. Yda ni, ydym ni.
  86. Bagl: crook.
  87. Hergwd: push.
  88. Crimog: shinbone.
  89. Gynno: ganddo.
  90. Cythru: to grab.
  91. isio: eisiau.
  92. Llabi: big fellow
  93. Heini: nimble.
  94. Ysywaeth: unfortunately.
  95. Wynepryd: countenance.
  96. 'Does arna' i: I don't owe
  97. Hercian: to limp.
  98. Ei bachu hi: to hurry off.
  99. 'Ta, ynteu: then.
  100. Torlan: river bank.
  101. Mieri: brambles.
  102. Sbarduno: to spur.
  103. Seilam: asylum.
  104. Cilolwg: side glance.
  105. Hurtio: to stun.
  106. Gwegil: nape of the neck.
  107. dyheu: to pant.
  108. Cordeddu: to entwine.
  109. Cloben: big female.
  110. Pry' mawr: hare.
  111. Dyfalu: to ponder.
  112. Annos: to urge.
  113. Casol: fat.
  114. Cydbwysedd: balance.
  115. Ysguthan: wood pigeon.
  116. Helwriaeth: game.
  117. O fewn trwch asgell gwybedyn: within a hair's breadth.
  118. Brolio: to boast.
  119. Chwilfrydedd: curiosity
  120. Syfrdanol: astounding.
  121. Gwysio: to summon.
  122. Mwytho: to pet.
  123. 'Ylwch: gwelwch.
  124. Llaped: lapel.
  125. Daffod: datod.
  126. Braf: big.
  127. Gwargrwm: stooping.
  128. Chwerthwn, chwarddwn
  129. Gwŷs: summons.
  130. Curwr: beater.
  131. Ymneilltuwr: Nonconformist.
  132. Plaen: plain (spoken).
  133. Coron: five shillings.
  134. Llysnafaidd: disdainful.
  135. Ffroenuchel: haughty.
  136. Ymliw: to remonstrate.
  137. Pwl: dull.
  138. Gwegil: nape of the neck.
  139. Cilwg: frown.
  140. Malio: to mind.
  141. Gwasaidd; servile.
  142. I gadw: to bed.
  143. Anafusion: disabled.
  144. Peilliaid: fine flour
  145. Palfalu: to grope.
  146. Diarth: dieithr
  147. Closio: to nestle.
  148. Wardio: to hide.
  149. Llechgi: skulking dog.
  150. Y sleifio: to dart.
  151. Yn yn—yn ein.
  152. Hyd y fan: about.
  153. Epian: to yap.
  154. Dyfn: dwfn.
  155. Argyhoeddi: to convince.
  156. Es: euthum.
  157. Cilddant: molar.
  158. Hwyliog: affable.
  159. Tawedog: silent.
  160. Dygn: persevering.
  161. Cwrcydu: to crouch.
  162. Bwylltid: swivel.
  163. Wnes: wneuthum.
  164. Ymegnio: to strive.
  165. Afraid: unnecessary.
  166. Sothach: trash.
  167. Yn 'toes: onid oes?
  168. Ar'i "Beth Mawr": with an oath.
  169. Dan ei sang: crammed.
  170. Rhythu: to stare.
  171. Fuo: fu.
  172. Yn lladradaidd: stealthily.
  173. Cyffuriau: chemicals.
  174. Siffrwd: rustle.
  175. Gyno: ganddo.
  176. Trylwyr: thorough.
  177. Byrbwyll: rash.
  178. Dy dderyn: dy aderyn.
  179. Sorllyd: sulky.
  180. Lleban: lubber.
  181. 'ros'is: arhosais.
  182. Yn erfyniol: entreatingly.
  183. Cilbost: gate-post.
  184. Amgeleddu: to succour.
  185. Arteithiol: excruciating.
  186. Wedi canu: all up.
  187. Cyhyrog: muscular
  188. Ellyll: demon.
  189. Ddalltodd: ddeallodd.
  190. Maeddu: to maul.
  191. Gorffwyllog: frenzied.
  192. Trywydd: scent.
  193. Llymgi: cur.
  194. Diasbedain: to ring.

Bu'r awdur farw cyn 1 Ionawr, 1956, ac mae y llyfr felly yn y parth cyhoeddus mewn gwledydd sydd â thymor hawlfraint bywyd yr awdur ynghyd â 70 o flynyddoedd neu lai.