Neidio i'r cynnwys

Dan Lenni'r Nos/Llofrudd

Oddi ar Wicidestun
← Dial Dan Lenni'r Nos

gan John Pierce

Stori wan →

PENNOD XX
LLOFRUDD

Gwnaethai Robinson ei waith yn drylwyr iawn. Pan oedd Dic yn ei basio, trawodd ef o'r tu ôl i'w ben â bagl ei ffon onnen drom, ne[1]s bod Dic yn disgyn yn anymwybodol i'r llawr, ac yna rhoes gic iddo yn ochr ei dalcen, a chlem ei esgid a wnaethai yr archoll ar ei arlais.

"Dyna dâl iti, llanc," meddai, a dihangodd ymaith fel cysgod, heb wneuthur y mymryn lleiaf o dwrw.

Wedi mynd i'r coed, safodd, a chymerth ddracht o'r botel drachefn, a meddyliodd ei fod yn clywed twrw o gyfeiriad y fan y gadawsai Dic, ac wrth syllu, credai ei fod yn gweled rhywun yn codi, ac meddai: "Myn cancr i! 'roeddwn i'n meddwl 'y mod i wedi'i daro fo'n galetach na hynny; mae o'n codi'n barod; rhaid bod naw byw cath yn y cena'. Wel, mi allaf fynd adre'n ddigon tawel y meddwl, y caiff o dipyn o ddyddia' go boenus, beth bynnag, a gobeithio y gwnaiff o ddeall mai fi t'rawodd o hefyd, ac os na fedra'i brofi ma' fo oedd y potsiar y noson o'r blaen, fedr ynta ddim profi ma' fi trawodd heno chwaith, mi ddyffeia' i o.

Fel y cerddai Robinson ymlaen cymerai aml ddracht o'r botel. "Wel," meddai yn y man, tan sefyll a chodi'r botel i fyny, a'i dal rhyngddo â'r awyr. "Mi 'rwyt ti'n dal ata' i'n dda."

Yr oedd ar gymryd dracht arall, pan dybiodd ei fod yn clywed cwningen yn sgrechian, ac ar amrantiad yr oedd Robinson yn gwrando fel cath, ac yn y munud clybu dwrw draw,—twrw a barodd iddo dyngu llŵ ofnadwy, a chychwyn ar ffrwst tua'r fan. "Ie," sibrydodd, "fel mai byw fi, rhwyd fawr wedi'i gosod, a chi'n hel cwningod iddi hyd y cae." Ond ar hynny disgynnodd ar ei liniau ar y cae, oblegid yn y cae arall, dros y clawdd yn y cae rwdins yn ei ymyl, clywodd leisiau isel, a gwelodd a chlywodd ddigon i'w lygad a'i glust cyfarwydd o ddweud wrtho fod dau barti allan, neu bod dwy rwyd ar waith, beth bynnag, oblegid wedi cropian at y wal a syllu drosti, gwelai siâp tri dyn yn cydsymud—y canol dipyn mwy yn ôl na'r ddau arall,—ychydig bellter oddi wrth ei gilydd, a deallodd yn y fan eu bod yn tynnu rhwyd am adar. Gyda hynny clywai adennydd yn fflapio hanner y ffordd rhwng y potsiar canol a'r un ar y dde, a'r potsiar canol yn cythru ymlaen ac yn gwyro. "Twm Teigar! goch ar fen-i!" murmurodd Robinson-"dyna'i dricia' fo!"

Er llymed oedd llygaid Robinson, nid oedd yn medru gweld popeth yn y tywyllwch, ond gwelai ddigon i'w ddychymyg lenwi'r bylchau, a deallodd fod Twm Teigr, potsiar peryclaf a ffyrnica'r ardaloedd, o'i flaen yn awr yn prysuro'n ddistaw i wasgu pennau'r ffesynt rhwng ei ddannedd, fel y delid hwy, ac yswatiodd am ei fywyd.

Ond cyn cyrraedd y wal, troes y tri photsiar i gyfeiriad arall. "Mae 'na ormod o giang i mi'u taclo nhw heb help," meddai wrtho'i hun, "a 'does arna' i ddim isio cael torri fy esgyrn gan Twm Teigar. Mi â i am Jim. Mae o'n fengach ac yn gryfach na fi, ac yn ddigon byrbwyll[2] i fynd i'r afael â'r gŵr drwg 'i hun, a lwc na' yrr'is i mo'no fo allan heno. Mae o'n 'i wely yn dawel!"

A chychwynnodd Robinson yn ochelgar tua thŷ Jim, ond wedi mynd tipyn o ffordd, dechreuodd redeg, a rhedeg yn gyflym iawn, ag ystyried yr holl wisgi a lyncasai'r noson honno.

Pan gyrhaeddodd at dŷ'r is-gipar, dechreuodd y cŵn gyfarth, ond tawelodd Robinson hwy ag un gair. Yr oedd pob man yn dywyll, ond gwelai lewych egwan y tân ar ffenestr y gegin. Lluchiodd Robinson bridd i ffenestr y llofft, ond ni ddaeth neb i'r ffenestr, a thaflodd wedyn. Ni wyddai nad oedd Jim yn ei wely, ac ni wyddai chwaith fod y taflu cyntaf wedi deffro'i wraig, a'i dychryn i farwolaeth bron, a bod y greadures honno yn dal ei hanadl yn ei braw, heb feddwl pwy oedd yno. Ond nid oedd gan Robinson amser i'w golli, a thaflodd ychwaneg o bridd i'r ffenestr, a hynny yn galetach o lawer y tro hwn, a chlywodd fachgen hynaf yr is-gipar yn crïo. "Jim!" gwaeddodd Robinson. "Jim! cod mewn munud!"

"Mr. Robinson! O! Mr. Robinson bach! y chi sy na?" meddai gwraig Jim, gan agor y ffenestr. "O'r Tad! mi ddaru'ch 'y 'nychryn i, 'roeddwn i

"Lle mae Jim?" gofynnodd Robinson ar ei thraws. "Tydi o ddim efo chi, Mr. Rob—?" dechreuodd hithau'n bryderus.

"Nag ydi, ne' f'aswn i ddim yn gofyn lle mae o," meddai Robinson, yn sarrug. "Tydi o ddim gartre?"

"Na," ebe Mrs. Williams, "fuo fo ddim gartre'n cael 'i swper heno. Mi aeth allan tua chwech, ac yr oeddwn i'n meddwl—"

"Na hidiwch be' oeddach chi'n 'i feddwl," meddai Robinson, yn llysnafaidd. "Ond, o ran hynny, fydd o byth ar gael pan fydd'i 'isio fo—

"Mae o ar gael yrŵan, beth bynnag," meddai llais chwyrn y tu ôl i Robinson, nes peri i'r cipar neidio, "a mi ofalith hefyd—

"Na hidia ddim yrŵan, Jim bach, rhaid iti fadda'i mi. Tyrd mewn munud am Gaea Tŷ'n Rhos. Mae 'na botsiars yn rhwydo'i hochr i yno.'

"Tewch â d'eud ddyn!" ebe Jim. "Wel, amdanyn' nhw ar unwaith!"

Ac ymaith â'r ddau ar hynny; a chymaint oedd awydd Jim i gael atynt fel mai ar ei orau y medrai Robinson ei ganlyn.

Fel y dynesent, cydiodd Robinson yn ei gôt, ac meddai: "Rwan, Jim, rhaid inni fod yn ofalus; wnaiff rhuthro fel hyn mo'r tro, a 'fydd o help yn y byd inni fynd i'r afael â nhw, a ninna' wedi colli'n gwynt cyn dechra'. Dos di gyda'r gwrych yr ochr acw, a gweithia i'r cyfeiriad yma. Mi wardia' inna'n y porth 'ma, ac os doi di ar 'u traws nhw heb iddy' nhw dy weld di, neidia am un ohony' nhw, a gwaedda wrth wneud hynny; ond cofia di farcio dy dderyn[3] rŵan, a dal dy afael yn hwnnw, a phaid ti â chymryd dy demtio i dreio dal dim ond yr un hwnnw, a mi ofala' inna' am un o'r lleill. A phaid ti â disgwyl iddo fo dy daro di; trawa di gynted ag y cei di gyfle, a thrawo'n iawn, cofia. Dos rŵan.

Beth bynnag oedd barn Jim am y cyfarwyddiadau, cychwynnodd ar unwaith i'r ochr arall, ac wedi cael yno dechreuodd weithio i gyfeiriad Robinson, ond ni welodd neb, ac yn y man cyrhaeddodd hyd at y pen cipar.

"Ydach chi'n siwr ma' yn y fan 'ma yr oedda' nhw?" gofynnodd Jim.

"Ydw," atebodd Robinson, yn sorllyd,[4] "mor siwr ag yr ydw' i y b'asa' ni wedi'u dal nhw 'tasa ti o gwmpas dy fusnes heno. Brenin Mawr! 'tasa' ti tua'r cartre' fel 'roeddat ti i fod, mi f'asat yn clywed 'u hogla' nhw. Mi fyddan' yn ddigon hy toc i ddwad i'r tŷ atat ti. Dyma ni rwan. 'Does gynno ni ddim syniad pwy oedden' nhw. Lle y bu.

"Toedd Dic Cae Bach yr un ohony' nhw, beth bynnag," meddai Jim ar ei draws, a gwelodd Robinson yn startio.

Ni ddywedodd Robinson ddim am foment, a phan siaradodd, yr oedd tipyn o gryndod yn ei lais. "P'am yr wyt ti mor siwr o hynny, Jim?" gofynnodd.

"O, mi ddylech chi w'bod," ebe Jim, "fod Dic wedi gorffen potsio am byth."

"Be' wyt ti'n 'i feddwl?" gofynnodd Robinson, yn gynhyrfus.

"Robinson," ebe Jim, gan edrych ym myw llygad y pen cipar, "mae arna i ofn ych bod chi wedi'i g'neud hi, heno.

"Be' wyt ti'n ddeud, Jim Willia's?" gofynnodd Robinson, gan gydio'n giaidd yn ei fraich. "B'le buost ti heno? Wyt ti wedi meddwi, dywed? Be' felltith ydi'r mater arnat ti? Y?"

"Robinson," ebe Jim, gan lacio gafael y cipar yn ei fraich, "mi wel'is i'r cwbl, fel mae gwaetha'r modd; mi gwel'is i chi'n ymguddio i ddisgwyl Dic, a mi wn yn iawn ma' chi trawodd o hefyd, er na wel'is i mo'no' chi yn g'neud hynny."

"Be oeddet ti'n 'i 'neud yn 'y ngwylio i y” dechreuodd Robinson.

"Mi adawn ni 'i hynny rŵan, Robinson," meddai Jim ar ei draws. "Dydw' i ddim wedi gorffen eto. Gwrand'wch, mae arna' i ofn y'ch bod chi wedi 'i ladd o hefyd!"

"Sut y gwyddost ti hynny, y lleban?"[5] meddai Robinson, yn wyllt. "I be' 'roeddet ti'n llusgo ar f'ôl i? A mi gei fynd oddi ar y stâd 'ma i dy gythra'l hefyd. 'I ladd, o wir! Be' nesa', tybed? Wyt ti'n meddwl mai ffŵl, ydyw i, 'run fath â chdi, dywed? Gwrando, 'ngwas i, mi 'ros'is[6] i yno'n ddigon hir i weld na ladd'is i mo'no fo, a mi wel'is Dic Cae Bach yn codi, 'machgen i, a mi—

"I weld o'n codi?" meddai Jim, "naddo Robinson, welsoch chi mo Dic yn codi. Wedi i chi redeg i ffwrdd, mi es i ato fo, a mi 'roedd o'n gorwedd yn llonydd ar lawr, a gwaed yn llifo o ochr 'i ben o."

Ar hynny sylweddolodd Robinson mai Jim a welsai efe'n codi, ac nid Dic.

"A mwy na hynny," ebe Jim, "mi ddaeth 'i dad o yno, a'i weld o, a mi ddechreuodd weiddi am help dros yr holl ardal, ac mi ddaeth gŵr Tyddyn Mawr a'r ddau fab yno, a rhai er'ill hefyd, a mi lithr'is inna' oddi yno, rhag ofn i mi gael y bai."

Erbyn hyn yr oedd Robinson yn gynhyrfus iawn, ac ni fedrai guddio hynny ychwaith. Yn wir, ni cheisiai wneud hynny.

"Wyt ti'n siwr nad oedd yno neb arall, Jim?" gofynnodd yn y man.

"Ydw'," atebodd Jim, "mi fuo mi'n ych gwylio chi am ddigon o amser. Mi f'aswn yn siwr o fod wedi 'i weld o 'tasa 'na rywun.'

"Wnei di—wnei di mo 'mradychu i, Jim?" gofynnodd y pen cipar yn erfyniol.[7]

"Robinson," meddai Jim, "mi wn i fod Dic Cae Bach wedi gofyn am drwbl, ac os daw o drwyddi hi 'dd'weda' run gair,—ond os ydi o wedi marw ust! beth oedd 'na, Robinson? Dian i! Nid ci oedd hwnna, deudwch? le, ar fengoch inna'! Dyna nhw, Robinson,—wardiwch, wardiwch!"

Ond safai Robinson heb symud. "Tydach chi ddim yn 'y nghlywed i, ddyn? Wardiwch, daria chi!" a chydiodd yn y pen cipar a'i dynnu i'r clawdd.

Aethai pobman yn berffaith ddistaw, a sibrydodd Jim yng nghlus y pen cipar: "Tybed 'u bod nhw wedi'n clywed ni? Na, 'dydw' i ddim yn meddwl. Rhaid inni gropian reit at y porth.'

"Ie," ebe Robinson, fel petasai yn deffro o gwsg, "ond y felltith ydi fod rhaid inni'n dau aros yr un ochr. Fiw i'r un ohono' ni groesi rŵan, rhag ofn iddy' nhw'n clywed ni.

Buasai Robinson yn meddwl yn galed ac yn gyflym er gwaethaf ei ddychryn mawr, byth er pan sylweddolodd os byddai Dic Cae Bach farw, y dywedai Jim bopeth.

"Does dim ond un ffordd amdani," meddai wrtho'i hun, "a mi'i cymera' i hi," a thynnodd y botel wisgi o boced ei gôt. "Hwde, Jim," meddai, "a gad dipyn ar ôl i mi."

Cymerodd Jim Iwnc da ohoni, ac estynnodd hi'n ôl. "Brysiwch ch'itha', Robinson," meddai, "arhowch gorcyn arni hi mewn munud, ne' mi glywan' 'ogla."

Yr oedd y ddau erbyn hyn wedi cyrraedd cilbost[8] yr adwy-Jim yn glos ar y cilbost, a Robinson wrth ei ochr, rhyw droedfedd yn nes yn ôl, y ddau yn barod i neidio. "Paid ti â rhuthro nes bydda' nhw yn pasio, Jim," ebe Robinson, gan gydio'n ei fraich. Ymhen rhyw hanner munud, clywent rywrai yn dyfod at yr adwy, a'r foment nesaf, gwelent siâp dau ddyn. Daliai Robinson ei afael ym mraich Jim o hyd, a phan oeddynt yn y porth, meddai Robinson yn uchel, gan ollwng ei fraich, "Am dany nhw!", ac mae'n debyg mai'r peth diwethaf a aeth drwy feddwl Jim wrth neidio'i fyny, oedd: "Beth rhyfedd i Robinson weiddi fel'na," ond ar hynny disgynnodd ar ei wyneb ar lawr, a chollodd pob gwybodaeth amdano'i hun, ac am bopeth arall.

Amcan Robinson yn gweiddi, oedd rhybuddio'r potsier- iaid, a pheri iddynt ddianc, oblegid wrth ollwng braich Jim a'i annog i ruthro arnynt, gwthiodd Robinson ei goes dde o'i flaen, a rhoes hergwd iddo â'i fraich chwith yn ei gefn, nes ei fwrw i'r llawr, a chan blygu uwch ei ben, trawodd ef â charreg drom â'i holl nerth mileinig,-- waith-dwywaith-teirgwaith, cyn codi ei ben.

"Be' gebyst ydach chi'n 'neud, ddyn?" ebe llais yn ei glust, a chyn iddo fedru taro wedyn, teimlodd freichiau cryfion amdano.

"Rhedwch, damiach chi! rhed—" meddai Robinson, ond tagodd ar ganol y gair, disgynnodd ei ên, aeth yn llipa'i gyd, a phan laciodd Roberts y plisman ei afael ynddo, suddodd y cipar yn swp i'r llawr.

Nodiadau

[golygu]
  1. ↑ Trylwyr: thorough.
  2. ↑ Byrbwyll: rash.
  3. ↑ Dy dderyn: dy aderyn.
  4. ↑ Sorllyd: sulky.
  5. ↑ Lleban: lubber.
  6. ↑ 'ros'is: arhosais.
  7. ↑ Yn erfyniol: entreatingly.
  8. ↑ Cilbost: gate-post.