Neidio i'r cynnwys

Dan Lenni'r Nos/Rhwydo Robinson

Oddi ar Wicidestun
← Stori wan Dan Lenni'r Nos

gan John Pierce

Diwedd dychrynllyd →

PENNOD XXII
RHWYDO ROBINSON

Yn y man clywent dwrw rhywrai'n dyfod yn gyflym draw, ac ymhen ychydig funudau, cyrhaeddodd Doctor Huws a Harri Tŷ Mawr.

"Wel, dyma ni eto, Roberts," meddai'r meddyg. "Does 'ma ddim prinder helyntion heno, 'ddyliwn."

Yna plygodd uwch ben Jim i'w archwilio, a bron cyn gynted ag iddo gyffwrdd ynddo, meddai yn siarp:— "Roberts, daliwch y'ch lamp yn nes."

Yn y man sythodd, ac meddai mewn tôn ddifrifol: "Fedra' i na'r un doctor wneud dim iddo fo, druan; mae o wedi marw ers meitin. Sut y —?"

"Twm Teigar," meddai Robinson, "ne' rywun oedd efo fo lladdodd o, mi—"

"Na, nid Twm Teigar, ychwaith, meddai llais uchel o'r ochr arall i'r wal, ac ar hynny dyma ddyn mawr cyhyrog[1] yn taro'i law ar gopi'r wal, ac yn neidio drosodd atynt, a dyn bychan eiddil ar ei ôl.

"Dyma nhw ar y gair," gwaeddodd Robinson, yn gynhyrfus. "Dyma'r ddau lladdodd o."

"Na," ebe Twm Teigr, yn dawel. "Ella bod Sam a finna'n botsiars, ond 'tyda ni ddim yn llofruddion," a chan bwyntio at Robinson, meddai gyda phwyslais, â rhyw gryndod yn ei dôn: "Roberts, dyna lofrudd Jim Willia's, a—

Ond torrodd Robinson ar ei draws. "Felly wir," meddai. "Be' nesa', tybed? Pwy sy'n mynd i—?"

"A 'tydw i ddim wedi gorffen eto," meddai Twm Teigr, ar ei draws yntau. "Y fo, hefyd, ydi llofrudd Dic Cae Bach!"

Ar hynny neidiodd Robinson fel petai sarff wedi ei frathu, a gwaeddodd, "Be' wyt ti'n ddeud, y jailbird c'lwyddog?'

"Deud," ebe Twm, "mai chdi laddodd Dic Cae Bach, a phe 'tasa ti wedi sbio dros y wal, mi f'asat wedi gweld Sam a finna'n wardio yno, ond mi drefnodd y Bod Mawr iti beidio, a mi glywsom y sgwrs i gyd, a mi—

Ond cyn iddo ddweud ychwaneg, troes Robinson yn sydyn, a chyn i neb gael cyfle i'w rwystro, yr oedd dros y clawdd, ac yn ffoi fel petai holl ellyllon[2] y fall yn ei ymlid, a Thwm a Sam yn cychwyn ar ei ôl.

"Rhoswch," meddai'r plisman, "rhoswch ych dau am funud, inni gael deall pethau'n well cyn inni fynd gam ymhellach. Be' oeddet ti'n feddwl, Twm?"

"Hyn," meddai Twm yn frysiog, "mae Robinson wedi lladd Dic Cae Bach heno; mae nhw wedi mynd â fo adre'n gorff. Yr oedd Jim wedi'i weld o'n g'neud, ond 'wydda' Robinson mo hynny nes deudodd Jim wrtho fo, a phan ddalltodd[3] Robinson nad oedd neb arall wedi'i weld o, mi benderfynodd gau ceg Jim, a mae o wedi g'neud hefyd, a mi 'roedd y bwystfil am roi'r bai arna' i. Ar 'i ôl o, Roberts,—dowch!"

"Sam," ebe'r plisman, "aros di yn y fan 'ma efo'r efo Jim, a mi aiff Harri i godi rhai o'r cymdogion 'ma i ddwad i nôl o."

"Ac," meddai Dr. Huws, "mi alwa' inna' efo Mrs. Williams i' pharatoi hi. Mi fydd hyn yn sioc ofnadwy iddi hi a'i babi hi'n ddim ond dau fis oed."

"Diolch yn fawr i chi, syr," ebe'r plisman. "Rwan, 'ta, Twm, ond paid ti a'i faeddu[4] o, cofia di."

A chychwynnodd y ddau.

Am gwr cyfer coed oedd yn ymyl—y Cyfer Du—fel y'i gelwid, y gwnaethai Robinson hi, ond heb gynllun o fath yn y byd. Dim ond ffoi-ffoi i rywle o'r lle, oblegid gwelsai ar amrantiad pan ddeallodd fod Twm Teigr a Sam Bach wedi ei glywed, ei bod hi wedi diffodd arno, a daeth arno fraw annirnadwy, ac wrth iddo ffoi, saethai iasau o arswyd ofnadwy drwyddo fel y sylweddolai ei sefyllfa ddiobaith. "Duw Mawr! be' wna' i?" meddai. "Mae hi wedi darfod arna' i."

Yn ei ddychryn gorffwyllog,[5] rhedai fel ewig, ac yn fuan iawn, yr oedd yng nghwr y coed. Ac wedi cael drosodd, safodd am eiliad, a chlywai dwrw rhywun yn union o'i flaen yn rhuthro oddi wrtho, a gwelai gysgod dyn yn neidio o'r coed ac yn rhedeg gyda'u hymyl yn y cae.

"Potsiar," meddai, yn chwerw, "ond beth ydi potsiar i mi rŵan, a'r crocbren o 'mlaen i?"

Ar hynny, clywai dwrw rhedeg tua'r cyfer. "Y Nefoedd Fawr!" meddai, "ma' nhw wrth yn sodla' i'n barod," a llamodd ymlaen.

Er cyn gryfed a chadarned dyn oedd Twm Deigr, nid oedd arno ddim cnawd wâst, nac owns o fraster; ac er bod y plisman yn heini ac yn sionc, nid oedd ganddo'r siawns leiaf gyda'r Teigr,—enillai arno bob llathen, a chyrhaeddodd y coed gryn hanner can llath o'i flaen, ac wedi cael trosodd, safodd i wrando, a chlywai dwrw dail yn siffrwd, a mân frigau yn clecian dan draed rhywun yn rhedeg draw, ac ail gychwynnodd yntau.

Methai Dafydd Denau, y potsiar a neidiodd o'r coed o flaen Robinson, yn lân â deall pethau, oblegid tybiasai yn hollol naturiol, pan neidiodd Robinson i'r coed, mai dyfod ar ei ôl ef yr ydoedd, ac er bod ganddo faich da o gêm yn y cwd ar ei gefn, ni feddyliodd am foment y gallai ddianc a chario'r gêm hefyd, felly gollyngodd y bag yn y fan, a dechreuodd redeg am ei hoedl.

Ond er ei fawr syndod, ni ddaeth neb drosodd ar ei ôl, a rhagor na hynny, draw oddi wrtho y rhedai pwy bynnag oedd yno. "Wel, 'tawn i'n marw!" meddai yn syn, a safodd mewn penbleth. "'Tydw'i ddim yn dallt hyn; mae'n rhaid bod yr hen Robis wedi 'nghlywed i, os na welodd o fi. Robis oedd o, debyg, pwy ond—? Brensiach annw'l! beth ydi hwn eto? Mae 'na un eto. O! Jim, debyg gen' i.

Neidiodd hwnnw hefyd i'r coed, ac wedi aros am foment, rhedodd ar ôl y llall, yr un ffordd yn union. "Tawn i'n marw eto," meddai Dafydd Denau wrtho'i hun, "wel os fel 'na mae'i dallt hi, mi âf i nôl y bag gêm; âf ar f'engoch i." A throsodd ag ef yn ei ôl i'r coed.

Ond cyn gynted â'i fod wedi codi'r cŵd a chychwyn o'r coed, clywai un arall wedyn yn cyrraedd. "Mae'n rhaid bod 'ma rasus heno," meddai Dafydd, gan gychwyn fel y gwynt, "rhaid, myn dian i, ond 'ollynga' i mo 'nghwd eto ar chwara' bach, na wna', myn gafr i."

Ond yr oedd Roberts y plisman wedi ei glywed, ac wedi cychwyn ar ei ôl hefyd.

"P'am gwtrin nad aiff hwn yr un ffordd â'r lleill?" meddai Dafydd wrtho'i hun, dan redeg, "na, 'choelia'i fawr. A mwy na hynny mae o'n ennill arna' i hefyd. Jest fy lwc i, wrth gwrs. Wel, ffarwel, 'y metha' bach i." A gollyngodd ei gŵd gêm ar y cae, a saethodd ymlaen wedi cael y baich oddi ar ei gefn. "Dal fi rŵan, gamp i ti?" ysgyrnygodd dros ei ysgwydd, mewn llais main, gwichlyd.

"Dam las! Nid y fo ydi o," meddai Roberts, gan godi'r bag. "Potsiar oedd hwn, a finna' 'n un ffŵl yn meddwl mai Robinson oedd o, a rŵan Twm Teigar gaiff y clod am ddal hwnnw. Wel, fel 'na mae hi; ond mi fydd Syr Huw yn falch o'r ffesynt 'ma, a mi wêl 'y mod i'n haeddu'r tips. Pwy oedd y boi, tybed? Wn i ddim be' sy' ar yr hen lamp 'ma heno;'does gynni hi ddim mwy o ola na matsen, ne' mi f'aswn wedi'i 'nabod o. Ond, cheer up mi fyddaf yn ffigro mewn cês o fwr-Brenin Mawr! Beth oedd hwnna?"

Y peth a dorasai ar ymson Roberts, oedd gwaedd arswydus o rywle ym mherfedd y coed, a rhuthrodd y plisman tuag yno.

Nodiadau

[golygu]
  1. ↑ Cyhyrog: muscular
  2. ↑ Ellyll: demon.
  3. ↑ Ddalltodd: ddeallodd.
  4. ↑ Maeddu: to maul.
  5. ↑ Gorffwyllog: frenzied.