David Lloyd George (E M Humphreys)/Am yr awdur
| ← Pennod IX | David Lloyd George (E M Humphreys) gan Edward Morgan Humphreys |
→ |
EDWARD MORGAN HUMPHREYS

GANED yn y Fâeldref, Dyffryn Ardudwy, yn 1882. Yn or-wyr i'r Parch. Richard Humphreys, Dyffryn, a ysgrifenodd erthyglau i rai o rifynnau cynnar Y Traethodydd; yn wyr i'r Parch. Edward Morgan, Dyffryn, golygydd Y Methodist ac awdur ysgrifau: yn nai i'r Parch. R. H. Morgan, cyd-olygydd Cymru Fydd gydag O. M. Edwards, ac un o ysgrifennwyr Y Traethodydd. Cynrychiola felly y bedwaredd genhedlaeth o ohebwyr i'r Traethodydd. Bu'n golygu'r Genedl Gymreig, y North Wales Observer, a'r Goleuad. Ysgrifennodd ar faterion a llyfrau Cymru i'r Liverpool Daily Post yn wythnosol ers yn agos i chwarter canrif. Disgrifiodd yr Eisteddfod Genedlaethol i'r Manchester Guardian ers 1927. Awdur Dirgelwch Gallt y Ffrwd a nifer o storïau: ef, yn sicr ddigon yw awdur mwyaf poblogaidd bechgyn Cymru.