Neidio i'r cynnwys

David Lloyd George (E M Humphreys)/Pennod II

Oddi ar Wicidestun
Pennod I David Lloyd George (E M Humphreys)

gan Edward Morgan Humphreys

Pennod III

PENNOD II.

AR lawer ystyr, y blynyddoedd nesaf yw y rhai pwysicaf yn hanes Mr. Lloyd George. Ynddynt hwy y dewisodd ei lwybr ac y penderfynodd ar ba ochr i'r clawdd i sefyll. Y cwrs naturiol, ym marn llawer, i ddyn ieuanc, gyda pherthynasau yn dibynnu arno i raddau pell, fuasai ceisio adeiladu busnes trwy foddion gofalus a gochelgar, boddio'r bobl yr oedd ganddynt fusnes y gallent ei roddi iddo, a cherdded ar hyd canol y ffordd yn "barchus" a diogel. Cyfnod oedd hwnnw pan oedd gan ysweiniaid a thir feddiannwyr yng Nghymru fwy o awdurdod a dylanwad nag a fu ganddynt byth ar ôl hynny a phan oedd dosbarth arall yn bur barchus ohonynt ac yn lled ymostyngar iddynt. Y mae'n wir fod S. R., Thomas Gee, ar eraill wedi beirniadu'r drefn a gwrthryfela yn ei herbyn, ond, ar y cyfan, yr oedd yn parhau yn ei grym ac ychydig o herio a ystyrid gan gefnogwyr y drefn eu hunain yn beryglus a fu arni. Erbyn heddiw, a'r oruchwyliaeth wedi myned yn ddigon pell i'r gorffennol, tueddir weithiau i fwrw cochl ramantus drosti, eithr y gwir yw mai gormes, a gormes ddigon salw, oedd hi. Ychydig o wŷr o allu nag hyd yn oed o ddiwylliant gweddol uchel a gynhyrchodd y dosbarth tiriog yng Nghymru. Dywedir weithiau eu bod yn rhadlon ac yn garedig, ond, os oeddynt felly, nid oedd caredigrwydd na rhadlonrwydd llawer ohonynt yn parhau ond cyhyd ag y caent hwy eu ffordd eu hunain. Oddiar lwyfan yr etholiad yn Harlech cyn belled yn ôl ag 1865, dywedodd Edward Morgan, y Dyffryn, am y dosbarth hwn: "Honnant mai rhyddid yw eu hegwyddor; ond, os felly, pa beth, atolwg, yw y ffrwyth? Pa ffrwyth a gafwyd tua'r Bala ar ôl yr etholiad o'r blaen? Beth oedd llais y troi o'r ffermydd? A'r codi yn y rhenti? Ai rhyddid oedd cymryd capel Soar oddiar y Methodistiaid yn Sir Drefaldwyn? Ai dyna ffrwyth eu rhyddid? Holwch eich hunain, a'ch cydwybodau, ai dyma y fath bobl a hoffech chwi i gynrychioli y sir fwyaf Rhyddfrydig yn y deyrnas? Rhyddid yn wir! Meddant ddigywilydd-dra a beiddgarwch annioddefol i ddefnyddio y gair cysegredig hwn ynglŷn â'u hymddygiadau isel a gwarthus."

Clywais fy nhad yn dweyd mai un cwestiwn a ofynnid iddo pan gymrodd ffarm ar un ystâd yn agos i drigain mlynedd yn ôl oedd a fyddai ef yn arfer cymryd rhan mewn gwleidyddiaeth. Gofynnwyd i fy nhaid, gan berchennog y ffarm yr oedd yn byw arni, gefnogi ymgeisiaeth Wynne Beniarth yn Sir Feirionydd ar y tir fod safle y gŵr hwnnw yn rhoddi hawl iddo gynrychioli'r sir yn y Senedd. Os darllenir tystiolaeth Tom Ellis gerbron y Ddirprwyaeth Dir ceir yr un olwg ar gyflwr pethau yng Nghymru yn y cyfnod hwnnw, ac y mae'n anodd bod yn amyneddgar gyda'r sôn, hanner hiraethus, am yr adeg pan oedd y meistri tir yn teyrnasu. Cawsom lawer siomedigaeth chwerw yn y drefn newydd, ond nid yw hynny reswm yn y byd dros nyddu gwawl o ramant o amgylch yr hen drefn.

Fel y dywedwyd, dewisodd Mr. Lloyd George ei lwybr, ac nid y llwybr canol oedd hwnnw. Buasai'n hawdd iddo fod wedi cyfaddawdu, eithr ni wnaeth. Gwelodd yn gynnar ar ei yrfa fel cyfreithiwr nad oedd obaith am ddim tebyg i gyfiawnder yn y llysoedd ynadol ynglŷn â rhai troseddau a bod y llysoedd hynny, mewn achos o herwhela neu bethau o'r fath, yn fynych yn peidio a bod yn llysoedd barn. Gwelodd hefyd mai yr unig ffordd i wella'r drwg oedd ei herio yn agored, ac felly y dechreuodd cyfres o frwydrau chwerwon rhwng y cyfreithiwr ieuanc a'r ynadon oedd wedi hen arfer cael eu ffordd eu hunain. Dywedodd wrth ynad ym Mhwllheli fod bod yn amhleidiol yn amhosibl iddo ef a'i fod yn eistedd ar y fainc fel Tori ac nid fel barnwr. Yng Nghaernarfon dywedodd wrth yr ynadon nad oedd fodd disgwyl am gyfiawnder ganddynt hwy mewn achos o helwriaeth. Cododd y cadeirydd ac amryw eraill a chychwynasant allan. "Yr wyf yn ddiolchgar iawn i chwi, foneddigion," meddai'r cyfreithiwr ieuanc didoriad. Yn raddol, dysgodd yr ynadon y wers a buont yn fwy gofalus, yn enwedig pan fyddai Mr. Lloyd George yn y llys.

Yr oedd y pethau hyn wedi dechrau tynnu sylw'r wlad, ond yn ddiweddarach y daeth y peth a wnaeth enw Mr. Lloyd George yn hysbys i bawb fel cyfreithiwr, sef achos y claddu yn Llanfrothen yn 1888. Yn y lle hwnnw gwrthododd y rheithor adael claddu dyn yn y man a ddymunai ym mynwent yr eglwys o dan y drefn newydd. Yr oedd y dyn, chwarelwr o'r enw Robert Roberts, wedi dweyd fod arno eisiau cael ei gladdu yn y rhan newydd o'r fynwent, yn ymyl bedd ei ferch, a mynnai'r rheithor ei gladdu mewn man anial ar y fynwent, ymhell o'r lle a ddewisodd. Clowyd llidiart y fynwent, ac ymgynghorodd y teulu â Mr. Lloyd George. Cynghorodd yntau hwy i ail agor y bedd a dorrwyd yn ymyl bedd y ferch a thorri clo'r fynwent. Hynny a wnaed, a chladdwyd Robert Roberts yn y fan a ddymunodd.

Dygodd y rheithor gyngaws yn erbyn y teulu yn y Llys Sirol ac amddiffynwyd hwy gan Mr. Lloyd George. Nid oedd ganddo ffydd yn y barnwr, gŵr anwybodus a rhagfarnllyd, a mynnodd gael rheithwyr i brofi'r achos. Ei ddadl ef oedd fod y rhan newydd o'r fynwent yn rhan o fynwent y plwy ac felly yn dyfod o dan y Ddeddf Gladdu. Rhoddodd y rheithwyr eu barn o'i blaid, ond gosododd y barnwr eu dyfarniad o'r neilltu. Apeliwyd, ac yn yr Uchel Lys, gerbron yr Arglwydd Brif Farnwr Coleridge a'r Barnwr Manisty, gosodwyd dyfarniad. barnwr y Llys Sirol o'r neilltu, nid heb gerydd iddo am ei agwedd. Yr oedd y fuddugoliaeth yn un hollol deg ar dir cyfraith, ac ar ôl hynny yr oedd enw Mr. Lloyd George yn adnabyddus trwy y rhan fwyaf o Gymru.

Y mae'n werth sylwi, gyda llaw, fod y nodweddion a ddangosodd yn y frwydr hon yn nodweddion hanfodol yn ei gymeriad ar hyd ei fywyd. Beiddgarwch y peth a dynnodd sylw'r wlad, yr herio ar yr awdurdodau a'r ysbryd ymladd a ddangoswyd gan y cyfreithiwr ieuanc. Ond y tucefn i hyn oll yr oedd gwybodaeth gyfreithiol, gofal wrth baratoi'r achos a chraffter i weled y man gwan yn achos yr ochr arall. Tuedda llawer o bobl i feddwl hyd heddiw mai menter a beiddgarwch yw nodweddion amlycaf Mr. Lloyd George, ond y tu cefn i'r cwbl y mae gwyliadwriaeth fanwl a pharatoi diflino. Ar hyd ei yrfa, peth peryglus oedd cymryd yn ganiatâol nad oedd gan Mr. Lloyd George adnoddau wrth gefn.

Erbyn hyn yr oedd y dyfodol yn gliriach. Dechreuodd y sôn am y cyfreithiwr ieuanc fyned ar led ers tro. Ni chollodd yntau gyfle i gymryd rhan yn y pethau oedd yn myned ymlaen yng Nghymru ar y pryd. Cyfnod o symud, o ddeffro ac o ymestyn oedd hwnnw, pan ddechreuwyd sylweddoli fod llawer o ddrysau y gallai Cymro ieuanc, gweithgar a phenderfynol, eu hagor. Tua'r adeg yma y bu Mr. Lloyd George yn ysgrifennu cyfres o ysgrifau i'r North Wales Observer, papur Saesneg swyddfa'r Genedl Gymreig yng Nghaernarfon, dan yr enw "'J' Pen." Siaradodd lawer ar y llwyfan dirwestol; yr oedd y mudiad hwnnw mewn bri mawr yng Nghymru yr adeg honno a rhai o siaradwyr gorau'r genedl yn ei gefnogi. Ac yn 1885 cymerwyd y cam cyntaf tua'r Senedd. Dyna a ddywed Mr. Lloyd George ei hun, ond y mae'n fwy na thebyg ei fod wedi meddwl am y peth ers blynyddoedd a braidd yn sicr fod Richard Lloyd wedi penderfynu ers tro mai tua Thy'r Cyffredin yr oedd llwybr y bachgen i gyfeirio. Damwain, serch hynny, a ddaeth a'r cyfeiriad i'r amlwg.

Yr oedd Michael D. Jones, Prifathro Coleg yr Annibynnwyr yn y Bala a rhagflaenydd y mudiad cenedlaethol Cymreig, wedi trefnu cyfarfod i Michael Davitt ym Mlaenau Ffestiniog—peth beiddgar iawn i'w wneud. Bu Davitt yn ysgrifennydd i'r Irish Republican Brotherhood; bu yng ngharchar am saith mlynedd am y trosedd a elwid yn treason-felony; cododd gynnwrf ynghylch pwnc y tir yn Iwerddon, sylfaenodd y Land League, ac anfonwyd ef i garchar drachefn. Etholwyd ef yn aelod seneddol yn 1882; anfonwyd ef i garchar y trydydd tro yn 1883 am ddadlau hawliau Iwerddon, ac y mae yn ddiamau yr edrychid arno gan Ryddfrydwyr parchus Cymru yr adeg honno—cyn i Gladstone droi o blaid ymreolaeth i Iwerddon—fel cynhyrfwr peryglus ac anystyriol iawn. Peth beiddgar, fel y dywedais, oedd gwahodd y fath ddyn i Ffestiniog, ac ni fynnai yr un o arweinwyr amlwg Rhyddfrydiaeth yn yr ardal arddel y cyfarfod. Un gweinidog yn unig oedd ymhlith y gynulleidfa, ag eithrio, wrth gwrs, Michael Jones ei hun. Chwarelwr, Dafydd Williams, Tyddyn Cwtyn, oedd y cadeirydd, a methodd yntau a chael neb i gynnig diolch i Davitt am ddyfod yno.

Dywedodd hynny wrth Dr. Evans. Dywedodd Dr. Evans fod Mr. Lloyd George yn digwydd aros gydag ef ac y gofynnai iddo ef wneud. Aeth Mr. Lloyd George i'r cyfarfod, siaradodd, ac yn ei araith cyfeiriodd at gyflwr truenus Cymru ac at waith yr offeiriaid a'r Lefiaid yn myned o'r tu arall heibio a Samariad o Iwerddon yn dyfod i'w hymgeleddu. Berwodd y lle, ac ar swper yn nhŷ Dr. Evans ar ôl y cyfarfod dywedodd Davitt, gan gyfeirio at Mr. Lloyd George: Dyma'r math o ddyn ifanc yr ydym ni yn ei anfon i'r Senedd o Iwerddon yn awr, a dyma'r math y dylech ei anfon yno o Gymru hefyd." Ychydig yn ddiweddarach dywedodd Dr. John Thomas yr un peth ar ôl bod yn siarad oddiar yr un llwyfan â Mr. Lloyd George ym Mhorthmadog, ac nid oedd amheuaeth i fod bellach. Penderfynodd y cyfreithiwr ieuanc fyned i'r Senedd. Ymhen tair blynedd ar ôl hyn y bu achos Llanfrothen, ac y mae'n debyg mai hwnnw yn bennaf a argyhoeddodd y wlad fod defnydd aelod seneddol o fath mwy ymosodol nag yr oedd Cymru wedi arfer ag ef yn Mr. Lloyd George.

Er hynny, nid yn rhwydd iawn y cafodd Mr. Lloyd George lwybr agored tua Thŷ'r Cyffredin. Bu ei enw gerbron Cymdeithas Ryddfrydol Meirion, ond ar Thomas Edward Ellis y syrthiodd ei choelbren hi. Yn Sir Gaernarfon ystyrid ef gan lawer yn rhy eithafol, yn rhy chwyrn ei air ac yn rhy ddibarch i awdurdod. "Ymdrech y gwrthryfelwr oedd fy ymdrech i o'r cychwyn," meddai wrthyf unwaith, "ac ychydig iawn o gefnogaeth a gefais gan set fawr Rhyddfrydiaeth" Yr oedd y Parch. Evan Jones, Caernarfon, yn rym ym mywyd gwleidyddol y wlad yr adeg honno, ac ni fynnai ef gefnogi Mr. Lloyd George am na ymrwymai i wrthwynebu pob mesur Rhyddfrydol os na roddai gweinyddiaeth Mr. Gladstone y flaenoriaeth i ddatgysylltiad yr Eglwys yng Nghymru. Yr oedd agwedd Evan Jones yn nodweddiadol o eiddo amryw eraill, a bu cryn lawer o ddadlau a chroes-ddadlau cyn i Ryddfrydwyr Bwrdeisdrefi Arfon ddewis Mr. Lloyd George fel ymgeisydd, yn 1889.

Yn 1889, yn ôl pob golwg, yr oedd dwy flynedd cyn y deuai etholiad cyffredinol, ac er fod Mr. Lloyd George yn siarad yma ac acw yn yr etholaeth, ar ochr arall i fywyd cyhoeddus y rhoddodd ei fryd yn bennaf yn y blynyddoedd hynny. Yn 1888 pasiwyd deddf llywodraeth leol, y ddeddf a ddygodd y cynghorau sir i fod, ac yn y cynghorau hynny gwelodd Tom Ellis, yn anad neb o arweinwyr cyhoeddus Cymru ar y pryd, gyfle i'r genedl roddi ei thŷ mewn trefn a sicrhau mesur helaeth iawn o hawl i'w llywodraethu ei hun. Cyfranogodd Mr. Lloyd George hefyd o'r un ffydd; pregethodd y dylai'r cynghorau newydd fod yn llawer mwy na byrddau lleol i ymdrin â materion sir a phlwy, a gweithiodd yn egniol i sicrhau aelodaeth ar gyngor Sir Arfon a fuasai yn ymdrechu sylweddoli'r delfryd uwch. Ni bu yn ymgeisydd ei hun ond gweithiodd gydag egni tanllyd dros ymgeiswyr eraill, a phan sicrhawyd mwyafrif Rhyddfrydol sylweddol ar y cyngor newydd dewiswyd yntau yn henadur yn y cyfarfod cyntaf. Y mae yn parhau yn henadur hyd heddiw ac y mae'n debyg o barhau yn henadur hyd y diwedd, er na bu mewn cyfarfod o'r cyngor sir ers blynyddoedd lawer.

Cyn hyn yr oedd Mr. Lloyd George wedi cymryd rhan yn rhyfel y degwm, y mudiad a gododd yng Nghymru, fel gwrthdystiad yn erbyn talu'r degwm at gynhaliaeth eglwys nad oedd mwyafrif y bobl mewn llawer ardal yn perthyn iddi, ac fel rhan o'r mudiad hwnnw sefydlodd undeb i amaethwyr Llŷn, yn Sir Gaernarfon. Gellir dweyd amdano yn y cyfnod yma ei fod i'w weled ac i'w glywed yn rhengau y rhan fwyaf o'r mudiadau blaen yn y wlad a'i fod yn credu mai trwy gael ymreolaeth i Gymru y gellid medi ffrwyth ymdrechion politicaidd y cyfnod. Y mae yn werth sylwi ei fod ef, fel Tom Ellis hefyd, yn rhoddi pwys ar yr ochr gymdeithasol mor fore a hynny. Y mae araith Tom Ellis yn y Bala yn 1890 ac eiddo Mr. Lloyd George yng Nghaerdydd yn yr un flwyddyn yn werth eu darllen heddiw fel dangosiad o'r hyn oedd ym mryd gwŷr ieuanc y mudiad gwleidyddol Cymreig yr adeg honno. Datgysylltiad, gwella deddfau'r tir, dewisiad lleol ynglŷn â gwerthu diodydd meddwol—dyna rai o'r prif bwyntiau yr oedd Rhyddfrydwyr Cymru yn brwydro drostynt yr adeg honno, ond dywedodd Mr. Lloyd George yn ei araith yng Nghaerdydd nad oedd y pethau hynny yn gwneud mwy na chyffwrdd godre y broblem gymdeithasol fawr y byddai yn rhaid ei hwynebu maes o law. Y mae hyn yn ddiddorol pan gofir am yr ymgyrch a gychwynwyd ganddo ymhen yn agos i ugain mlynedd yn ddiweddarach. Beth bynnag a ddywedir am Mr. Lloyd George fel gwleidydd, am ei gysondeb ac am ei gamgymeriadau, y mae yn sicr na anghofiodd erioed fod miloedd o bobl yn dlawd heb fod dim bai arnynt hwy.

Cyn dyfod at hanes ei flynyddoedd cyntaf yn y senedd dylid sôn am un digwyddiad pwysig iawn. Ym mis Ionawr, 1888, yng nghapel y Methodistiaid Calfinaidd ym Mhencaenewydd, yn Eifionydd, priodwyd ef â Margaret Owen, merch Richard Owen, Mynydd Ednyfed, Cricieth. Amaethwr oedd Richard Owen, ac ni thybiai pawb fod nai y crydd o Lanystumdwy yn ddigon da, o ran safle gymdeithasol, iddi. Ni phoenodd hynny ddim arni hi, ac ar hyd ei gyrfa nid wyf yn meddwl iddi erioed roddi munud i feddwl am safle gymdeithasol neb. Trodd ymhlith pob math o bobl—ffermwyr Eifionydd, aelodau seneddol, brenhinoedd ac arweinwyr y gwledydd gyda'r un urddas bonheddig, tawel, yr un synnwyr cyffredin craff, yr un caredigrwydd a'r un hiwmor. Yn ei ffordd ei hun yr oedd mor nodedig â'i gŵr a bu yn dŵr o nerth iddo am dros hanner canrif. Nid gormod yw dywedyd fod galar cyffredinol pan fu farw yn nechrau 1941. Yr oedd yn esiampl wych o gwrteisi, synnwyr ac urddas gwladwyr Cymru. Bu iddynt bump o blant. Bu'r ferch hynaf, Mair Eluned, farw yn 1907. Y lleill ydyw Major Richard Lloyd George, Lady Carey Evans, Major Gwilym Lloyd George, sydd yn aelod Seneddol dros Sir Benfro, ac ar hyn o bryd yn aelod o Weinyddiaeth Mr. Churchill, a Miss Megan Lloyd George, sydd yn aelod Seneddol dros Fôn.

Y tro diwethaf i mi weled Dame Margaret Lloyd George dywedodd wrthyf ei bod wedi disgwyl, pan ddewiswyd Mr. Lloyd George yn ymgeisydd ym Mwrdeisdrefi Arfon, y cawsent flwyddyn neu ddwy, beth bynnag, o dawelwch. Trefnasant i fyned am dro i Gaernarfon un diwrnod—ef i ddyfod oddiwrth ei waith gyda'r trên o Borthmadog a hithau i'w gyfarfod yn stesion Cricieth. Yr oedd y ddau yn edrych ymlaen am roddi diwrnod diofal i'r brenin. Ond, pan gyrhaeddodd hi stesion Cricieth, rhoddwyd teligram, wedi ei gyfeirio i Mr. Lloyd George, iddi. Agorodd hithau ef a darllenodd fod Swetenham, yr aelod Toriaidd dros y Bwrdeisdrefi, wedi marw'n sydyn. "Gwyddwn beth a olygai hynny," meddai, a phan ddaeth y trên i mewn a phan ddywedais wrth y gŵr, diflannodd y wên oedd ar ei wyneb. Mi aethom i Gaernarfon, ond diwrnod annifyr iawn gawsom ni yno. Yr oedd meddwl am yr etholiad fel hunlle arnom ein dau."

Nodiadau

[golygu]