David Lloyd George (E M Humphreys)/Pennod III
| ← Pennod II | David Lloyd George (E M Humphreys) gan Edward Morgan Humphreys |
Pennod IV → |
PENNOD III.
DAETH yr etholiad yn 1890. Dewisodd y Toriaid Hugh John Ellis Nanney (Syr Hugh yn ddiweddarach), perchenog tir yn ardal Llanystumdwy, yn ymgeisydd, ac yr oedd rhywbeth dramatig yn y gwrthgyferbyniad—sgweiar yr ardal a nai y crydd yn wynebu ei gilydd. Erbyn heddiw y mae'n rhyfedd meddwl yr ystyrid Ellis Nanney yn ymgeisydd peryglus yr adeg honno; y mae'n ddiamau ei fod yn ŵr digon didramgwydd, fel yr oedd llawer o'i ddosbarth, ond ni chlywais neb erioed yn honni ei fod yn ddyn galluog na bod ganddo syniad am wleidyddiaeth heblaw ystrydebau cyffredin ei blaid a'i ddosbarth. Clywais ef yn siarad unwaith, ymhen blynyddoedd ar ôl hyn, ac yr oedd yn drychinebus o sâl a diafael. Ond yr oedd yn feistr tir, yr oedd pob Tori yn y Bwrdeisdrefi—Bangor, Caernarfon, Cricieth, Nefyn, Pwllheli, a Chonwy oedd yr etholaeth y pryd hynny —yn sicr o'i gefnogi. Ac nid oedd mor sicr y cefnogai pob Rhyddfrydwr Mr. Lloyd George. Fel y dywedwyd, yr oedd yn ormod o wrthryfelwr ac yn rhy eithafol gan rai; heblaw hynny, yr oedd yn ieuanc, yr oedd "yn un ohonom ni," ac yr oedd yn dyfod yn ei flaen, tri pheth sydd yn bechod ym marn rhai pobl.
Ond, beth bynnag am oerfelgarwch neu ddifaterwch rhai, gweithiodd eraill yn ddiymarbed o blaid yr ymgeisydd ieuanc, heb gyfrif amser na chost, a thaflodd yntau ei hun i'r frwydr a'i holl egni—yr egni hwnnw a fu yn un o'i nodweddion hynotaf ar hyd ei yrfa hir. Cael a chael fu hi, er hynny; ar ôl y cyfrif cyntaf, tybiwyd mai Ellis Nanney a orfu ac yr oedd Mr. Lloyd George yn paratoi i'w longyfarch. Ond awgrymodd rhywun y dylid cael ail-gyfrif ar y pleidleisiau, a hynny a fu. Cafwyd fod bwndel wedi ei gyfrif ymhlith y pleidleisiau Toriaidd a ddylasai fod wedi ei osod gyda rhai Mr. Lloyd George, a'r canlyniad oedd fod ganddo ef fwyafrif o ddeunaw pleidlais ar ei wrthwynebydd. Yr oedd y rhod wedi troi. Yr oedd y fuddugoliaeth i'w phriodoli i bersonoliaeth a dawn areithyddol Mr. Lloyd George ei hun, i sêl a gweithgarwch ei gefnogwyr, ac hefyd, y mae'n ddiamau, i rywbeth oedd yn yr awyr yng Nghymru yn y dyddiau hynny.
Nid yw yn hawdd deffinio y rhywbeth hwnnw, ond y mae'n eglur fod y wlad wedi deffro yn wleidyddol ers rhai blynyddoedd. Anaml y bydd Cymru yn deffro yn wleidyddol nac yn meddwl yn wleidyddol; dilyn yn ufudd—a yw'r gair gwasaidd yn un rhy galed?--ac yn ddifeddwl ddigon y bydd hi yn rhy aml, ond ym mlynyddoedd olaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg daeth ton o frwdfrydedd ac o uchelgais wleidyddol drosti ac anfonwyd nifer o Gymry ieuanc i'r senedd oedd cyn alluoced, ac am gyfnod byr, mor ddylanwadol, ag unrhyw blaid o'i maint yn Nhŷ'r Cyffredin. Yr oedd Tom Ellis yno o flaen Mr. Lloyd George; cyn bo hir yr oedd S. T. Evans, Ellis Jones Griffith, William Jones, Lloyd Morgan, Herbert Lewis, Herbert Roberts ac eraill i ddilyn, y rhan fwyaf ohonynt yn bobl wedi eu magu â chefndir Cymreig i'w bywyd, yn gwybod beth oedd syniadau a bywyd y bobl, a'u bryd wedi ei osod yn deg ar lwyddo mewn gwleidyddiaeth. Yr oedd yno rai hyn yn y senedd o'u blaen; yr oedd Henry Richard wedi marw cyn i Mr. Lloyd George gyrraedd yno, ond dywedodd Mr. Lloyd George wrthyf unwaith mai Henry Richard, yn ei farn ef, oedd y gŵr galluocaf a anfonodd Cymru i Dŷ'r Cyffredin o gwbl. Yr oedd John Bryn Roberts yno ers rhai blynyddoedd, ond ni feddyliodd neb erioed am alw yr hen Whig galluog, cydwybodol a phenderfynol hwnnw yn genedlaetholwr nag yn radical. Yr oedd yn Gymro trwyadl ac yn gwybod yn dda am fywyd y wlad, eithr nid oedd yn perthyn i'r mudiad newydd. Dylid cofio, hefyd, fod Sir Feirionnydd, ychydig flynyddoedd yng nghynt, wedi dewis Ysgotyn cyfoethog, na fedrai air o Gymraeg ac na wyddai fawr am fywyd Cymru, i'w chynrychioli yn hytrach na Morgan Lloyd, mab ffarm o Drawsfynydd a dyn galluog iawn, ac un o'r dirgelion i mi ydyw paham y cefnogwyd y dewis hwnnw gan Tom Ellis, oedd i ddilyn Henry Robertson yn y sedd ymhellach ymlaen. Yr oedd gwaith Meirion y pryd hwnnw mor nodweddiadol o un ochr i'r meddwl gwleidyddol yng Nghymru ag oedd dewis Mr. Lloyd George ac eraill o ochr arall. Yr oedd yr hen Ryddfrydiaeth geidwadol, ofnus, yn fyw o hyd ac yr oedd i barhau i fyw ac i ddyfod yn oruchaf maes o law. Ond nid am rai blynyddoedd.
Wrth gwrs, yr oedd deffroad llenyddol a diwylliadol yn cydfyned â'r deffroad gwleidyddol. Sefydlwyd y colegau cenedlaethol—ni ddaethai y Brifysgol eto—ac er mai hwyrfrydig iawn oedd hyrwyddwyr y rhai hynny i gydnabod iaith na llenyddiaeth na hanes Cymru, eto yr oedd teimlad a gobaith cenedlaethol y tu ôl i'r mudiad a roddodd fod iddynt ac a esgorodd yn y man ar y Brifysgol. Heblaw hynny, yr oedd Owen Morgan Edwards, John Morris Jones, ac un neu ddau arall yn gweddnewid llenyddiaeth Cymru, yn dysgu'r Cymry am eu hanes eu hunain, ac yn magu ac yn meithrin ffydd yn nyfodol y genedl a'r iaith. Dyna oedd y peth mawr—y ffydd yma. yn nyfodol y genedl Gymreig fel cenedl. Yr oedd perthynas agos rhwng y deffroad gwleidyddol â'r deffroad llenyddol—golygodd Tom Ellis argraffiad Urdd y Graddedigion o waith Morgan Llwyd, ysgrifennodd Ellis Griffith a Mr. Lloyd George beth barddoniaeth—y mae gan Mr. Lloyd George heddiw fwy o englynion ar ei gof na'r rhan fwyaf ohonom—ac yr oedd amryw o'r aelodau ieuanc newydd yn hyddysg yn llenyddiaeth eu gwlad. Yn Gymraeg yr ysgrifennai Mr. Lloyd George, Tom Ellis ac S. T. Evans at ei gilydd. Y mae'n wir mai rhanol oedd y deffroad gwleidyddol cenedlaethol, ac os edrychir dros lyfr rhyfedd Syr Marchant Williams, a gyhoeddwyd yn 1894, gwelir fod cryn nifer o'r aelodau Cymreig naill ai yn Saeson neu yn wyr heb ond ychydig iawn o'r cefndir Cymreig. Anghofiwyd llawer ohonynt yn llwyr erbyn heddiw, ac nid rhyfedd hynny. Eithr nid oes dim amlycach mewn hanes na dylanwad a grym lleiafrif ymroddedig a phenderfynol—yr ychydig weddill sydd ym mhob Israel tra bo bywyd o gwbl—a'r aelodau ieuanc, Cymreig eu hysbryd a'u cefndir, a roddodd eu nôd ar y cyfnod yr ydym yn sôn amdano.
Nid dyma'r lle i ymhelaethu ar gyflawniadau Mr. Lloyd George yn ystod ei flynyddoedd cyntaf yn y Senedd, ac nid oes dim diflasach na hanes hen frwydrau politicaidd ynghylch pethau a gollodd bob ystyr i ni erbyn heddiw. Nid yw'r Clergy Discipline Bill na'r Agricultural Rating Bill o ddiddordeb i neb bellach, pa mor galed bynnag oedd y taro o'u plaid ac yn eu herbyn hanner canrif yn ôl. Ond manteisiodd Mr. Lloyd George ar bob cyfle i ennill ei le yn Nhŷ'r Cyffredin—ac os byddai yn ddistaw yn rhy hir deuai llythyr o Gricieth oddiwrth Richard Lloyd yn awgrymu fod yn bryd gwneud rhywbeth—a mwy na hynny, ymroddodd i feistroli rheolau'r Tŷ fel y gallai eu defnyddio at ei bwrpas pan fynnai. Mewn gair, gosododd ei holl fryd a throdd ei egni digymar ar un pwrpas a thuag un cyfeiriad. Nid chwarae â gwleidyddiaeth yr oedd ef ac nid rhywbeth eilradd i'w fywoliaeth oedd bod yn aelod seneddol. Y mae'n wir ei fod yn gyfreithiwr a bod yn rhaid iddo weithio fel cyfreithiwr er mwyn byw—ni thelid i aelodau seneddol y pryd hynny—ond gwleidyddwr yn gyfreithiwr oedd ac nid cyfreithiwr oedd yn digwydd bod yn aelod seneddol. Nid yn y gyfraith yr oedd ei uchelgais ef ac nid gris mewn gyrfa gyfreithiol y bwriadodd ef i Dŷ'r Cyffredin fod. Dyma'r gwahaniaeth—neu un gwahaniaeth—mawr rhyngddo a llawer o aelodau Seneddol eraill; ymroddodd yn llwyr i bolitics, ac nid oedd ganddo ddiddordeb llywodraethol heblaw hynny.
Y mae'n wir nad oedd Tŷ'r Cyffredin yn cyfarfod yn yr hydref yr adeg honno a'i fod yntau felly yn cael cryn lawer o amser i ofalu am y busnes ym Mhorthmadog. Y mae'n wir, hefyd, iddo sefydlu busnes yn Llundain ac iddo barhau yn bartner yn hwnnw nes dyfod yn weinidog y goron. Ond gadawyd y busnes yng Nghymru i raddau mwy a mwy yn nwylo Mr. William George, ac ail beth oedd y swyddfa yn Llundain wrth ei waith yn Nhŷ'r Cyffredin. Gyda llaw, dywedwyd eisoes i Mr. Lloyd George fod yn ffodus iawn yn ei briod; a ganiateir i mi ddywedyd yma iddo fod yn ffodus yn ei frawd hefyd? Yr oedd y ffaith fod Mr. William George yn gwarchod y busnes gartref yn hyrwyddo llawer ar yrfa wleidyddol ei frawd.
Aelod Cymreig oedd Mr. Lloyd George yn llawn ystyr y gair, ac felly yr edrychid arno yn y Senedd ac yn y wlad am rai blynyddoedd. Gwelodd yn fore fod pwysigrwydd strategig mawr yng Nghymru. Bwriodd ei hun i fudiad Cymru Fydd a cheisiodd uno'r lluoedd Rhyddfrydol yng Nghymru trwy gael y ddwy gymdeithas Ryddfrydol oedd yn bod, un yn y De a'r llall yn y Gogledd, i ddyfod at ei gilydd a ffurfio un gymdeithas gref. Yr oedd y Gogledd yn barod ond yr oedd gwrthwynebiad cryf, yn cael ei arwain gan D. A. Thomas (Arglwydd Rhondda ar ol hynny) yn y De ac ni lwyddwyd i sylweddoli'r bwriad am flynyddoedd lawer. A phan y'i sylweddolwyd yr oedd yr hen freuddwydion wedi diflannu a'r hen obeithion wedi eu siomi a'r hen egni wedi pallu.
Pwnc gwleidyddol y dydd yn y blynyddoedd hynny yng Nghymru oedd datgysylltiad yr Eglwys. Gwnaeth Mr. Lloyd George ei hun yn bennaf ymladdwr o blaid hwnnw a daeth yn fuan i wrthdrawiad a rhai gwŷr blaenllaw iawn wrth ei drafod. Ni phetrusodd feirniadu a chroesi Mr. Gladstone ei hun, ac yr oedd angen dewrder pur fawr i wneud hynny, am fwy nag un rheswm. Yn un peth, yr oedd Gladstone yn ŵr peryglus iawn i'w groesi; yr oedd yn alluog iawn, yr oedd ganddo brofiad anghymarol, ac yr oedd yn ddadleuydd a fedrai osod ei ofn ar Dŷ'r Cyffredin unrhyw ddydd. Heblaw hynny, yr oedd yn eilun y Rhyddfrydwyr yng Nghymru ac y mae Cymru yn wleidyddol bob amser wedi tueddu at eilun addoliad. Rhywbeth tebyg iawn i gabledd oedd ei feirniadu ym marn llawer o'r Rhyddfrydwyr parchusaf, a hynny er fod ei Uchel-Eglwysyddiaeth nid yn unig ymhell iawn oddiwrth syniadau y rhan fwyaf o'i gefnogwyr Cymreig ond hefyd er fod cryn lawer o amheuaeth ynghylch ei wir sêl dros ddatgysylltiad. Eithr beirniadu a gwrthwynebu a wnaeth Mr. Lloyd George a phwyso, mewn amser ac allan o amser, pan ddaeth gweinyddiaeth Ryddfrydol i awdurdod, am roddi lle blaen i'r pwnc Cymreig.
Daeth y cyfle hwnnw ymhen dwy flynedd ar ôl iddo fyned i'r Senedd. Yn etholiad cyffredinol 1892 cafodd Toriaid y Bwrdeisdrefi ymgeisydd newydd i sefyll drostynt. Syr John Puleston oedd hwnnw, aelod o hen deulu Cymreig ac ewythr i'r diweddar Barchedig Ddr. John Puleston Jones. Yr oedd ef wedi bod yn y Senedd o'r blaen, fel aelod dros Devonport, a chredid y byddai ei brofiad a'i gysylltiadau Cymreig o gryn gymorth iddo yn yr ymgyrch. Yr oedd ei nai, Puleston Jones, yn weinidog ym Mangor ar y pryd, a dywed y Parch. R. W. Jones, yng nghofiant Puleston, fel y pwyswyd ar y gweinidog ieuanc, gan ei fam ac eraill, i gefnogi ei ewythr, canys yr oedd ganddo lawer o ddylanwad eisoes. "Ar un amod, mam," meddai yntau, "y fotia i dros f'ewythr, nad af i byth i bulpud," a siaradodd a gweithiodd dros Mr. Lloyd George. Bu'n ymdrech galed ac erys y cof am rai o areithiau Mr. Lloyd George yn ystod yr ymgyrch o hyd. Clywais adrodd un dywediad o'i eiddo mewn cyfarfod. "Y mae cefnogwyr Syr John Puleston," meddai, "yn rhoi llawer o'u hamser i brofi ei fod o'n Gymro, a 'does dim amheuaeth nad ydynt yn dywedyd y gwir. Ond a glywsoch chwi rywun yn gwastraffu pum munud erioed i brofi fy mod i'n Gymro?" Canlynaid yr etholiad fu buddugoliaeth i Mr. Lloyd George gyda 196 o fwyafrif. Dywedodd Syr John Puleston nad oedd yn ddim dicach wrth Mr. Lloyd George ond na faddeuai byth i Beriah Evans.
Y mae gair o eglurhad ar hynny yn angenrheidiol. Ni bu Mr. Lloyd George erioed yn ôl o sylweddoli pwysigrwydd y wasg, a bu iddo ran pur flaenllaw mewn ffurfio cwmni i brynu'r Genedl Gymreig yng Nghaernarfon yn y blynyddoedd hynny. Cymerai ddiddordeb personol yn y Genedl a bu'n ysgrifennu llythyrau o'r Senedd iddi ei hun. Yr oedd yn aelod o fwrdd y cyfarwyddwyr, a chredaf y bu iddo ran mewn cael Beriah Gwynfe Evans, oedd eisoes yn lled adnabyddus fel newyddiadurwr, i ddyfod i Gaernarfon o swyddfa'r South Wales Daily News yng Nghaerdydd i fod yn olygydd y Genedl a'r North Wales Observer ac yn rheolwr cyffredinol y swyddfa. Ymdaflodd Beriah i'r gwaith yn egniol iawn, a'r traddodiad yn y swyddfa oedd ei fod, yn ystod etholiad 1892, wedi gweithio mor galed ac ysgrifennu cymaint nes parlysu ei law dde am ysbaid. Beth bynnag am hynny, nid oes amheuaeth na bu i'r papurau a'u golygydd ran pur fawr mewn sicrhau y fuddugoliaeth.
Canlyniad yr etholiad yn y wlad yn gyffredinol oedd mwyafrif mor fychan—dim ond deugain—i'r Rhyddfrydwyr fel yr oedd yr aelodau Gwyddelig yn dal y fantol. Yn dair a phedwar ugain oed, ymgymerodd Gladstone a bod yn Brif Weinidog unwaith yn rhagor—am y pedwerydd tro—ac i roddi Rhaglen Newcastle mewn grym, hynny ydyw, i gyflwyno mesurau a roddai ymreolaeth Iwerddon, datgysylltiad i Gymru, dewisiad lleol i'r wlad ynglŷn â masnach diod, a chyngorau plwy i bob ardal, ymhlith pethau eraill. Yr oedd yn faich trwm hyd yn oed pe buasai gan yr hen ŵr fwyafrif mawr ac hollol annibynnol y tu cefn iddo; fel yr oedd hi, yr oedd angen ei ddewrder a'i benderfyniad a'i ynni di-ildio ef ei hun i wynebu ar y gwaith o gwbl. Yng ngwendid y weinyddiaeth newydd gwelodd Mr. Lloyd George gyfle Cymru. Credai, a hynny yn hollol gywir, mai mesur dylanwad cynrychiolwyr Cymru yn y Senedd oedd mesur eu parodrwydd hwy i fyned i eithafion er mwyn cael sylw i bynciau Cymreig, a phenderfynodd orfodi Gladstone a'r weinyddiaeth i roddi'r flaenoriaeth y tro hwn i ddatgysylltiad. Ond digwyddodd peth pwysig iawn, o safbwynt Cymru, yn y cyfamser. Ymunodd Tom Ellis â'r weinyddiaeth fel ail chwip. Y mae gennyf gof plentyn am y siarad yn Sir Feirionnydd am y peth pan ddigwyddodd, ac y mae'n debyg mai yr un farn oedd yn y wlad yn gyffredinol. Balchter a fynegid fod Cymro, mab ffarmwr o Benllyn, wedi "dringo mor uchel." Y mae'n wir nad oedd y swydd a roddwyd iddo yn un bwysig iawn, o un wedd o edrych arni, ond i bobl oedd wedi arfer edrych ar Tom Ellis fel un ohonynt hwy, gwladwyr cartrefol Meirion a siroedd eraill Cymru, yr oedd y digwyddiad yn un mawr, yn enwedig gan mai Gladstone a wnaeth y penodiad. Prin, mi gredaf, y buasai'r un bobl fymryn balchach pe buasai mab ffarm wedi cael cyffelyb swydd mewn gweinyddiaeth Doriaidd, ond yr oedd bod yn aelod o weinyddiaeth Ryddfrydol ac, yn enwedig, o weinyddiaeth Gladstone, yn rhywbeth.
Eithr teimlai rhai y lleiafrif, y mae'n ddiddadl—fod y rhagolwg am fesurau i Gymru wedi newid. Dywedodd y diweddar John Arthur Price ymhen blynyddoedd wedyn ei fod ef wedi rhoddi heibio bob gobaith am blaid annibynnol Gymreig am flynyddoedd lawer pan gymrodd Tom Ellis swydd, a dyna oedd barn Mr. Lloyd George hefyd ar y pryd. Yn ddiamau credai Tom Ellis yn gydwybodol y buasai mewn gwell mantais i hyrwyddo buddiannau Cymru o'r sêt fawr, megis, nag oddiar lawr y tŷ, ond nid dyna gred y rhai oedd wedi eu hargyhoeddi nad oedd obaith i Gymru am sylw na chyfiawnder ond trwy ddilyn esiampl y Gwyddelod a chadw draw oddi-wrth bob swydd a phob rhwymedigaeth i gefnogi unrhyw weinyddiaeth ond ar yr amod ei bod yn rhoddi'r lle dyladwy i'r amcanion oedd ganddynt hwy mewn golwg. Penderfynodd Mr. Lloyd George na chai'r mwyafrif bychan, ansicr, na'r ffaith fod ei gyfaill yn y weinyddiaeth fod yn esgus dros laesu dwylo yn yr ymdrech i orfodi'r weinyddiaeth a'r hen ŵr penderfynol, ffyrnig oedd yn bennaeth arni i roddi'r lle a ystyriai ef yn briodol ac yn angenrheidiol i'r mesur Cymreig.