Neidio i'r cynnwys

David Lloyd George (E M Humphreys (testun cyfansawdd))

Oddi ar Wicidestun
David Lloyd George (E M Humphreys (testun cyfansawdd))

gan Edward Morgan Humphreys

I'w darllen pennod wrth bennod gweler David Lloyd George (E M Humphreys)
Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
Edward Morgan Humphreys
ar Wicipedia
Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
David Lloyd George
ar Wicipedia

DAVID LLOYD GEORGE.

Dyma'r bywgraffiad cyntaf, ond nid yr olaf, yng ngyfres Llyfrau'r Dryw. Y mae'n beth digon naturiol inni ddechrau gyda hanes gyrfa'r gŵr a ddisgrifiwyd fel Cymro enwocaf ein dyddiau ni. Yn ei gynllun, yn y farn aeddfed a fynegir ynddo ac yn ei arddull ddirodres diau y bydd hwn yn batrwm o fywgraffiad byr.

Diolch i ddawn yr awdur, fe brofa'r darllenydd yr asbri a'r athrylith hwnnw a wnaeth David Lloyd George yn un o wleidyddwyr mwyaf y byd.

Cyfeirier pob Archebion,
Gohebiaeth, Llawysgrifau i
LLYFRAU'R DRYW
Llandebie
Sir Caerfyrddin


PRIS SWLLT A THAIR



LLYFRAU'R DRYW


Golygyddion Cyffredinol:

ANEIRIN AP TALFAN
ALUN T. DAVIES, M.A., LL.B.


DAVID LLOYD GEORGE



LLYFRAU CYMRAEG I'R LLUOEDD ARFOG

wedi i chwi orffen â'r llyfr hwn efallai yr hoffech ei anfon i Ysgrifennydd y Pwyllgor Cenedlaethol Cymreig er Darparu Llyfrau Cymraeg i'r Lluoedd Arfog, sef:—

W. LLEWELLYN DAVIES, Ysw.,
Llyfrgell Genedlaethol Cymru, ABERYSTWYTH


DAVID LLOYD GEORGE.

LLYFRAU'R DRYW



DAVID LLOYD GEORGE


E. MORGAN HUMPHREYS

Llandebie Sir Gaerfyrddin



Argraffiad Cyntaf—Awst, 1943
Ail Argraffiad—Medi, 1943
Trydydd Argraffiad—Tachwedd, 1943
Pedwerydd Argraffiad—Rhagfyr, 1943



Gwnaethpwyd ac Argraffwyd dros Llyfrau'r Dryw, Llandebie,
gan W. Spurrell a'i Fab, Caerfyrddin.



RHAGAIR.

DYMUNAF gydnabod caredigrwydd Mr. William George yn rhoddi caniatâd parod i mi ddyfynnu o'i gofiant i Richard Lloyd, llyfr anhebgor i'r neb a fynno ddeall amgylchiadau bore oes Mr. Lloyd George; ac hefyd eiddo golygydd y Liverpool Daily Post am ganiatau i mi ddyfynnu o'r ymgomiau a gefais â Mr. Lloyd George a Dame Margaret Lloyd George, ac a gyhoeddwyd yn y papur hwnnw. Ymhlith y llyfrau yr ymgynghorwyd â hwynt gellir enwi War Memoirs, gan D. Lloyd George; David Lloyd George, gan J. Hugh Edwards; The Life Romance of Lloyd George, gan Beriah Evans; Mr. Lloyd George, gan E. T. Raymond; Lloyd George, 1863-1914, gan W. Watkin Davies (llyfr buddiol iawn ar y blynyddoedd cynnar); Lloyd George, gan R. H. Kiernan; Life of Lord Oxford and Asquith, gan J. A. Spender a Cyril Asquith; Lord Rosebery, gan Arglwydd Crewe; Life, Journalism and Politics, gan J. A. Spender; The Reign of King George V., gan D. C. Somervell; Cofiant Thomas Gee, gan T. Gwynn Jones (anhebgor am y cefndir gwleidyddol Cymreig hyd 1898); a Dafydd Dafis, gan Beriah Evans.

Ceir cryn lawer o oleuni ar helyntion y Blaid Gymreig yn y Senedd ar un cyfnod yn The Personal Papers of Lord Rendel, a olygwyd gan F. E. Hamer.

E. M. H.

PENNOD I.

GANED David Lloyd George ym Manchester ym mis Ionawr, 1863, ond nid yw Manchester o ddim mwy o bwys yn ei hanes ef nag oedd Tremadog yn hanes Lawrence o Arabia neu Aberhonddu yn hanes Mrs. Siddons. Cyn ei fod yn flwydd oed symudodd y teulu i Sir Benfro, sir enedigol y tad, William George. O hynny ymlaen, am gryn lawer o flynyddoedd, Cymru yw'r cefndir.

Ysgolfeistr oedd William George—y mae Georgiaid yn Sir Benfro o hyd—a chyn dyfod i Ogledd Cymru i fod yn brifathro ar ysgol Troed yr Allt, Pwllheli, bu'n brifathro ysgol yn Lerpwl. Annelwig braidd ydyw William George i ni erbyn hyn, canys y mae yn ymyl pedwar ugain mlynedd ers pan fu farw, yn ddyn ieuanc, ond y mae'n rhaid fod ynddo rai nodweddion neilltuol canys ennillodd gyfeillgarwch James Martineau yn ystod yr ychydig flynyddoedd y bu yn Lerpwl, ac yr oedd Dr. Martineau yn un o wŷr galluocaf ei ddydd. Ar ôl gadael Lerpwl aeth William George yn ôl i Benfro ac oddiyno y daeth i Droed yr Allt, ac felly y cyfarfu ag Elizabeth Lloyd, merch Dafydd Llwyd y crydd o Lanystumdwy, yn Eifionydd, a chwaer i Richard Lloyd, yntau yn dilyn yr un alwedigaeth a'i dad, ac yn yr un fan. Priodwyd William George ag Elizabeth Lloyd ym mis Tachwedd, 1859, ac yn bur fuan wedyn symudasant i Fanchester, lle'r oedd y gŵr ieuanc wedi cael lle fel athro. Yno, fel y dywedwyd, y ganed David Lloyd George, eu hail blentyn. Merch oedd y cyntaf-anedig.

Byr fu'r arhosiad ym Manchester. Torrodd iechyd y tad i lawr a bu yn rhaid arno droi ei gefn ar yr ysgol a dychwelyd i Sir Benfro. Yno, am fod y rhan fwyaf o'i deulu yn ffermwyr, y mae'n debyg, cymerodd ffarm yn agos i Hwlffordd yn 1863. Byr iawn fu'r arhosiad yno drachefn; ym Mehefin, 1864, bu William George farw, gan adael ei weddw gyda dau blentyn ac un arall ar y ffordd. "Prin iawn," medd ei fab ieuengaf, Mr. William George, yn ei gofiant rhagorol i'w ewythr, Richard Lloyd, "ydoedd y gynhysgaeth a adawodd fy niweddar dad ar ôl, rhyw ychydig gannoedd o bunnau ydoedd holl werth ei ystâd . . . Ond yr oedd y llwyth llyfrau a achubwyd o ruthr y chwalfa yn Sir Benfro yn tystio'n uchel i'w nodweddion meddyliol ac ysbrydol, a phrofasant yn werthfawrocach cynhysgaeth i'r plant nag a fuasai cyffelyb swm o aur colladwy."

Trodd y weddw unig at ei brawd, Richard Lloyd y crydd yn Llanystumdwy, am nodded, ac aeth yntau yn un swydd yr holl ffordd i Sir Benfro i'w chyrchu hi a'i theulu yn ôl i Eifionydd. Am flynyddoedd wedyn Richard Lloyd ydyw un o'r personau pwysicaf yn yr hanes yma, ac y mae'n rhaid aros am ennyd i ddywedyd ychydig amdano ef. Y mae llawer ohonom yn ei gofio, hen ŵr tal, barfog, lled arw yr olwg arno, ond gyda rhyw urddas tawel a digamsyniol yn ei drem a'i osgo. Yr oedd o dras pur nodedig, nid o ran pethau'r byd ond o ran meddwl, cymeriad a gallu. Yr oedd ei dad, Dafydd Llwyd, mab Ynysgain Ganol, wedi ei eni yn 1800, ac yr oedd nid yn unig yn grydd y pentref ond hefyd yn fugail yr eglwys o Fedyddwyr a oedd yn cydgyfarfod yn hen gapel Pen y Maes, Cricieth. Heb unrhyw amharch, gellir dywedyd fod y gangen honno o'r Eglwys Gristionnogol yn cynrychioli yr hyn a alwodd Burke "the dissidence of dissent and the protestantism of the Protestant religion." Yr enw priodol arnynt ydyw Disgyblion Crist. Ni chredant mewn bugeiliaeth na gweinidogaeth daledig, a gwahaniaethant mewn rhai pynciau athrawiaethol pur bwysig oddiwrth enwadau eraill ac oddiwrth eu cyd-Fedyddwyr hefyd. Yr oeddynt yn y lleiafrif yn y wlad ac yr oeddynt mewn rhai mannau yn amhoblogaidd ar un adeg, fel y bydd lieiafrif digyfoddawd yn ddigon aml. Ond yr oeddynt yn gryfion yn eu harghoeddiadau ac wedi hen ddysgu dadlau drostynt a sefyll yn eu rhan yn ddiofn. Yr oedd cu crefydd yn golygu rhywbeth iddynt hwy ac aberthasant lawer erddi.

Yn y traddodiad hwnnw y magwyd Dafydd Llwyd a Rebecca, ei briod. Pan fu ef farw yn 1839 gadawyd Rebecca yn weddw gyda thri o blant heb orffen eu magu. Gafaelodd hi ym musnes ei phriod, cadwai ddau neu dri o weithwyr, a llywiodd y fasnach gyda phenderfyniad a deheurwydd sydd yn peri i ddyn wrth ddarllen yr hanes feddwl yn barhaus am ei hwyr, David. Pan ddaeth ei mab Richard yn ddigon o oed cymerodd ef at y busnes a bu yn brif golofn y teulu o hynny ymlaen am lawer o flynyddoedd. Yn ei dro daeth yntau yn fugail y ddeadell yng Nghricieth a dilynwyd yntau drachefn yn yr un swydd gan ei nai, Mr. William George, olyniaeth apostolaidd pur anghyffredin. Nid pobl i ofni bod yn y lleiafrif gyda dim, ac yn sicr nid pobl i fodloni byw ar elusen neb, oedd y Llwydiaid. Sonia Saeson weithiau am darddiad Mr. Lloyd George fel pe buasai yn rhyfeddod iddo godi o amgylchiadau mor gyffredin." Efallai y buasai yn rhyfeddod yn Lloegr, ond yng Nghymru buasai yn anodd iddo gael tir mwy cyfaddas a ffafriol.

Yr oedd gan y teulu draddodiad urddasol a rhuddin.

Yr oedd Rebecca Llwyd yn fyw pan ddygodd Richard Lloyd ei chwaer a'i theulu i Lanystumdwy o Sir Benfro: Cadwodd yr hen wraig y deyrnwialen yn ei dwylaw meistraidd a medrus ei hun, yn berffaith naturiol felly, hyd derfyn ei hoes," medd Mr. William George, ond daeth y diwedd yn 1868, ac o hynny ymlaen Richard Lloyd oedd y brenin. Yr oedd ei ddylanwad ef yn ei ardal eisoes yn fawr a dyfnhau a wnai'r parch iddo o hyd. Cymerodd yntau holl faich y teulu bach ar ei ysgwyddau a chariodd ef yn dawel ac yn ddewr trwy hindda a drycin nes gweled pob un ohonynt wedi sefydlu yn y byd. Ni phriododd; gofalodd am blant ei chwaer fel pe buasent yn blant iddo ef ei hun; pryderodd a chynlluniodd ar eu rhan; cyd-lafuriodd â hwynt a chafodd fyw i weled y bachgen bach dwyflwydd oed a ddaeth ato yn amddifad o dad, ac yn ddigon diolwg ei ddyfodol, yn Brif Weinidog. Nid yn aml y mae ffawd mor garedig wrth y rhai sydd yn aberthu dros eraill.

Dywedwyd cryn lawer o dro i dro am y tlodi y magwyd Mr. Lloyd George ynddo. Yng nghofiant Richard Lloyd gesyd Mr. William George y mater hwnnw yn ei le priodol. Dyma a ddywed ef: "Wrth gwrs, termau cymhariaethol ydyw 'tlodi' a 'chyfoeth.' Y mae'n wir ein bod yn byw ymhell o beryglon y bywyd moethus, ac mai'r argraff a adewid ar ein meddyliau fel plant ydoedd bod gwastraff o bob math yn bechod. Credaf, er hynny, nad oedd neb yn y pentref yn cadw gwell na mwy amrywiol bwrdd na ni. Treuliasom ein maboed heb gysgod pryder ar bwyntiau o'r fath yna. Yn ddiweddarach mewn bywyd y dysgasom na fuasai hyn yn bosibl ar adnoddau mor brin, onibai am ddarbodaeth a deheurwydd fy mam a chynhorthwy parod fy ewythr." Ychwanega fod pob lle i gredu fod Richard Lloyd yn gwneud bywoliaeth gysurus oddiwrth ei alwedigaeth. Yn ddiweddarach y daeth y wasgfa, pan orfu i Richard Lloyd, oherwydd cyflwr ei iechyd, roddi'r gorau i'w waith fel crydd a myned i fyw i Gricieth, lle bu'r fam a'r chwaer yn cadw tŷ i ymwelwyr haf, a phan oedd y ddau fachgen yn cael eu cychwyn fel cyfreithwyr.

Wrth reswm, bywyd syml plant pentref yn y wlad oedd bywyd y ddau fachgen a'u chwaer. Mynd i ysgol yr Eglwys, rhedeg ar negeseuau i hwn a'r llall, gweithio yn yr ardd ac yn y gweithdy yn eu horiau hamdden. Y mae Mr. Lloyd George yn ymfalchio yn y ffaith mai ef fyddai yn teilo'r ardd ac yn ei phlannu yn y blynyddoedd hynny, a ffrwyth profiad personol, y mae'n sicr, oedd y diweddglo enwog hwnnw i'w araith yng Nghaernarfon yn 1909, pan ddisgrifiodd blant a hen bobl yn myned i'r coed i gasglu cynnud ar ôl y storm. Ar yr un pryd, y mae'n nodweddiadol o Gymru'r cyfnod—ac o Gymru o hyd, o ran hynny—nad oes awgrym yn yr holl hanes fod Richard Lloyd na Mrs. George wedi breuddwydio am i'r un o'r bechgyn ddilyn galwedigaeth eu taid a'u hewythr. Dywedodd Sais ieuanc a fagwyd yng Nghymru wrthyf unwaith: "Pe buasai fy nhad yn Gymro, nid i'r alwedigaeth yr wyf ynddi y buasai wedi fy magu. Buasai Cymro wedi mynnu cael addysg dda i mi a rhoddi gwell cychwyn mewn bywyd." Dyna, beth bynnag, oedd syniad Richard Lloyd a'i chwaer am eu dyletswydd tuagat David Lloyd a William George. Ac i bobl o'u hargyhoeddiadau hwy nid oedd y drws arferol yng Nghymru yr adeg honno-drws y pulpud—yn agored. Ni chredent yn y weinidogaeth daledig; pe amgen, y mae'n ddigon posibl mai i'r cyfeiriad hwnnw y buasai David, beth bynnag, wedi troi.

Penderfynwyd mai cyfreithiwr a fyddai, a dechreuodd ar ei hyfforddiant yn swyddfa Breese, Jones a Casson, ym Mhorthmadog, swyddfa barchus iawn yn y cylch a llawer o fusnes ynddi. Edward Breese, gŵr amlwg fel hynafiaethydd a Rhyddfrydwr, (ef oedd golygydd The Kalendars of Gwynedd), oedd y pennaeth. Mab oedd Mr. Breese i'r Parch. John Breese, gweinidog Annibynnol lled adnabyddus yn ei ddydd. Gweithiodd David Lloyd yn galed i basio ei arholiadau a gweithiodd Richard Lloyd yr un mor galed i'w gynorthwyo. Yr oedd yn gryn wasgfa ariannol ar y teulu erbyn hyn, y fam a'r chwaer yn ceisio gwneud bywoliaeth trwy gadw lle i ymwelwyr haf yng Nghricieth, a Richard Lloyd, yn wanllyd ei iechyd, yn gweithio ychydig fel y medrai gyda'i grefft ac yn pryderu llawer ynghylch y dyfodol. Dyma, y mae'n debyg, yr adeg a wnaeth Mr. Lloyd George yn elyn anghymodlawn i dlodi a chaledi byd y werin. "Mi wn i beth ydyw gwasgfa," meddai wrthyf un tro," a phenderfynais wneud fy ngorau i ysgafnhau'r baich i bobl eraill."

Eithr, trwy'r cwbl, ni lwfrhaodd y teulu bach. Daeth dydd y praw ac aeth David Lloyd i Lundain am ei arholiad terfynol. Yr oedd hynny ym mis Ebrill, 1884, a chafodd lythyr oddiwrth ei ewythr a fuasai yn codi calon unrhyw fachgen pryderus o dan yr amgylchiadau. "A fyddai yn well inni gyd-chwibanu—We are jolly good fellows yn gyntaf, tybed?" meddai Richard Lloyd. Wel, os nad oes digon o amser y mae digon o ysbryd at hynny gennyf fi yr wyf yn sicr—I fyny ati fel llew fy machgen i !...Cool as a cucumber, though not so green, yw motto student ar ddydd yr Exam. A gelli di yn gyfreithlon. ei fabwysiadu, Dei." Aeth Mr. Lloyd George trwy'r arholiad gydag anrhydedd. Ar ôl cael ei dderbyn fel cyfreithiwr sefydlodd i gychwyn yng Nghricieth fel gofalwr am swyddfa yn perthyn i Breese, Jones a Casson, ond pan gynigiodd y ffyrm le iddo yn Sir Feirionnydd penderfynodd mai gwell fuasai iddo gychwyn ar ei liwt ei hun—un o'r penderfyniadau hynny sydd yn galw am gryn lawer o ddewrder i'w gwneud—ac agorodd swyddfa yn y cartref ym Morvin House yn Tanygrisiau Terrace. Dyna gychwyn y ffyrm gyfreithiol Lloyd George a George, canys, cyn bo hir pasiodd ei frawd William yn gyfreithiwr hefyd a daeth y ddau frawd yn bartneriaid, partneriaeth a barhaodd hyd oni ddaeth Mr. Lloyd George yn aelod o'r Cabinet yng ngweinyddiaeth Campbell-Bannerman.

PENNOD II.

AR lawer ystyr, y blynyddoedd nesaf yw y rhai pwysicaf yn hanes Mr. Lloyd George. Ynddynt hwy y dewisodd ei lwybr ac y penderfynodd ar ba ochr i'r clawdd i sefyll. Y cwrs naturiol, ym marn llawer, i ddyn ieuanc, gyda pherthynasau yn dibynnu arno i raddau pell, fuasai ceisio adeiladu busnes trwy foddion gofalus a gochelgar, boddio'r bobl yr oedd ganddynt fusnes y gallent ei roddi iddo, a cherdded ar hyd canol y ffordd yn "barchus" a diogel. Cyfnod oedd hwnnw pan oedd gan ysweiniaid a thir feddiannwyr yng Nghymru fwy o awdurdod a dylanwad nag a fu ganddynt byth ar ôl hynny a phan oedd dosbarth arall yn bur barchus ohonynt ac yn lled ymostyngar iddynt. Y mae'n wir fod S. R., Thomas Gee, ar eraill wedi beirniadu'r drefn a gwrthryfela yn ei herbyn, ond, ar y cyfan, yr oedd yn parhau yn ei grym ac ychydig o herio a ystyrid gan gefnogwyr y drefn eu hunain yn beryglus a fu arni. Erbyn heddiw, a'r oruchwyliaeth wedi myned yn ddigon pell i'r gorffennol, tueddir weithiau i fwrw cochl ramantus drosti, eithr y gwir yw mai gormes, a gormes ddigon salw, oedd hi. Ychydig o wŷr o allu nag hyd yn oed o ddiwylliant gweddol uchel a gynhyrchodd y dosbarth tiriog yng Nghymru. Dywedir weithiau eu bod yn rhadlon ac yn garedig, ond, os oeddynt felly, nid oedd caredigrwydd na rhadlonrwydd llawer ohonynt yn parhau ond cyhyd ag y caent hwy eu ffordd eu hunain. Oddiar lwyfan yr etholiad yn Harlech cyn belled yn ôl ag 1865, dywedodd Edward Morgan, y Dyffryn, am y dosbarth hwn: "Honnant mai rhyddid yw eu hegwyddor; ond, os felly, pa beth, atolwg, yw y ffrwyth? Pa ffrwyth a gafwyd tua'r Bala ar ôl yr etholiad o'r blaen? Beth oedd llais y troi o'r ffermydd? A'r codi yn y rhenti? Ai rhyddid oedd cymryd capel Soar oddiar y Methodistiaid yn Sir Drefaldwyn? Ai dyna ffrwyth eu rhyddid? Holwch eich hunain, a'ch cydwybodau, ai dyma y fath bobl a hoffech chwi i gynrychioli y sir fwyaf Rhyddfrydig yn y deyrnas? Rhyddid yn wir! Meddant ddigywilydd-dra a beiddgarwch annioddefol i ddefnyddio y gair cysegredig hwn ynglŷn â'u hymddygiadau isel a gwarthus."

Clywais fy nhad yn dweyd mai un cwestiwn a ofynnid iddo pan gymrodd ffarm ar un ystâd yn agos i drigain mlynedd yn ôl oedd a fyddai ef yn arfer cymryd rhan mewn gwleidyddiaeth. Gofynnwyd i fy nhaid, gan berchennog y ffarm yr oedd yn byw arni, gefnogi ymgeisiaeth Wynne Beniarth yn Sir Feirionydd ar y tir fod safle y gŵr hwnnw yn rhoddi hawl iddo gynrychioli'r sir yn y Senedd. Os darllenir tystiolaeth Tom Ellis gerbron y Ddirprwyaeth Dir ceir yr un olwg ar gyflwr pethau yng Nghymru yn y cyfnod hwnnw, ac y mae'n anodd bod yn amyneddgar gyda'r sôn, hanner hiraethus, am yr adeg pan oedd y meistri tir yn teyrnasu. Cawsom lawer siomedigaeth chwerw yn y drefn newydd, ond nid yw hynny reswm yn y byd dros nyddu gwawl o ramant o amgylch yr hen drefn.

Fel y dywedwyd, dewisodd Mr. Lloyd George ei lwybr, ac nid y llwybr canol oedd hwnnw. Buasai'n hawdd iddo fod wedi cyfaddawdu, eithr ni wnaeth. Gwelodd yn gynnar ar ei yrfa fel cyfreithiwr nad oedd obaith am ddim tebyg i gyfiawnder yn y llysoedd ynadol ynglŷn â rhai troseddau a bod y llysoedd hynny, mewn achos o herwhela neu bethau o'r fath, yn fynych yn peidio a bod yn llysoedd barn. Gwelodd hefyd mai yr unig ffordd i wella'r drwg oedd ei herio yn agored, ac felly y dechreuodd cyfres o frwydrau chwerwon rhwng y cyfreithiwr ieuanc a'r ynadon oedd wedi hen arfer cael eu ffordd eu hunain. Dywedodd wrth ynad ym Mhwllheli fod bod yn amhleidiol yn amhosibl iddo ef a'i fod yn eistedd ar y fainc fel Tori ac nid fel barnwr. Yng Nghaernarfon dywedodd wrth yr ynadon nad oedd fodd disgwyl am gyfiawnder ganddynt hwy mewn achos o helwriaeth. Cododd y cadeirydd ac amryw eraill a chychwynasant allan. "Yr wyf yn ddiolchgar iawn i chwi, foneddigion," meddai'r cyfreithiwr ieuanc didoriad. Yn raddol, dysgodd yr ynadon y wers a buont yn fwy gofalus, yn enwedig pan fyddai Mr. Lloyd George yn y llys.

Yr oedd y pethau hyn wedi dechrau tynnu sylw'r wlad, ond yn ddiweddarach y daeth y peth a wnaeth enw Mr. Lloyd George yn hysbys i bawb fel cyfreithiwr, sef achos y claddu yn Llanfrothen yn 1888. Yn y lle hwnnw gwrthododd y rheithor adael claddu dyn yn y man a ddymunai ym mynwent yr eglwys o dan y drefn newydd. Yr oedd y dyn, chwarelwr o'r enw Robert Roberts, wedi dweyd fod arno eisiau cael ei gladdu yn y rhan newydd o'r fynwent, yn ymyl bedd ei ferch, a mynnai'r rheithor ei gladdu mewn man anial ar y fynwent, ymhell o'r lle a ddewisodd. Clowyd llidiart y fynwent, ac ymgynghorodd y teulu â Mr. Lloyd George. Cynghorodd yntau hwy i ail agor y bedd a dorrwyd yn ymyl bedd y ferch a thorri clo'r fynwent. Hynny a wnaed, a chladdwyd Robert Roberts yn y fan a ddymunodd.

Dygodd y rheithor gyngaws yn erbyn y teulu yn y Llys Sirol ac amddiffynwyd hwy gan Mr. Lloyd George. Nid oedd ganddo ffydd yn y barnwr, gŵr anwybodus a rhagfarnllyd, a mynnodd gael rheithwyr i brofi'r achos. Ei ddadl ef oedd fod y rhan newydd o'r fynwent yn rhan o fynwent y plwy ac felly yn dyfod o dan y Ddeddf Gladdu. Rhoddodd y rheithwyr eu barn o'i blaid, ond gosododd y barnwr eu dyfarniad o'r neilltu. Apeliwyd, ac yn yr Uchel Lys, gerbron yr Arglwydd Brif Farnwr Coleridge a'r Barnwr Manisty, gosodwyd dyfarniad. barnwr y Llys Sirol o'r neilltu, nid heb gerydd iddo am ei agwedd. Yr oedd y fuddugoliaeth yn un hollol deg ar dir cyfraith, ac ar ôl hynny yr oedd enw Mr. Lloyd George yn adnabyddus trwy y rhan fwyaf o Gymru.

Y mae'n werth sylwi, gyda llaw, fod y nodweddion a ddangosodd yn y frwydr hon yn nodweddion hanfodol yn ei gymeriad ar hyd ei fywyd. Beiddgarwch y peth a dynnodd sylw'r wlad, yr herio ar yr awdurdodau a'r ysbryd ymladd a ddangoswyd gan y cyfreithiwr ieuanc. Ond y tucefn i hyn oll yr oedd gwybodaeth gyfreithiol, gofal wrth baratoi'r achos a chraffter i weled y man gwan yn achos yr ochr arall. Tuedda llawer o bobl i feddwl hyd heddiw mai menter a beiddgarwch yw nodweddion amlycaf Mr. Lloyd George, ond y tu cefn i'r cwbl y mae gwyliadwriaeth fanwl a pharatoi diflino. Ar hyd ei yrfa, peth peryglus oedd cymryd yn ganiatâol nad oedd gan Mr. Lloyd George adnoddau wrth gefn.

Erbyn hyn yr oedd y dyfodol yn gliriach. Dechreuodd y sôn am y cyfreithiwr ieuanc fyned ar led ers tro. Ni chollodd yntau gyfle i gymryd rhan yn y pethau oedd yn myned ymlaen yng Nghymru ar y pryd. Cyfnod o symud, o ddeffro ac o ymestyn oedd hwnnw, pan ddechreuwyd sylweddoli fod llawer o ddrysau y gallai Cymro ieuanc, gweithgar a phenderfynol, eu hagor. Tua'r adeg yma y bu Mr. Lloyd George yn ysgrifennu cyfres o ysgrifau i'r North Wales Observer, papur Saesneg swyddfa'r Genedl Gymreig yng Nghaernarfon, dan yr enw "'J' Pen." Siaradodd lawer ar y llwyfan dirwestol; yr oedd y mudiad hwnnw mewn bri mawr yng Nghymru yr adeg honno a rhai o siaradwyr gorau'r genedl yn ei gefnogi. Ac yn 1885 cymerwyd y cam cyntaf tua'r Senedd. Dyna a ddywed Mr. Lloyd George ei hun, ond y mae'n fwy na thebyg ei fod wedi meddwl am y peth ers blynyddoedd a braidd yn sicr fod Richard Lloyd wedi penderfynu ers tro mai tua Thy'r Cyffredin yr oedd llwybr y bachgen i gyfeirio. Damwain, serch hynny, a ddaeth a'r cyfeiriad i'r amlwg.

Yr oedd Michael D. Jones, Prifathro Coleg yr Annibynnwyr yn y Bala a rhagflaenydd y mudiad cenedlaethol Cymreig, wedi trefnu cyfarfod i Michael Davitt ym Mlaenau Ffestiniog—peth beiddgar iawn i'w wneud. Bu Davitt yn ysgrifennydd i'r Irish Republican Brotherhood; bu yng ngharchar am saith mlynedd am y trosedd a elwid yn treason-felony; cododd gynnwrf ynghylch pwnc y tir yn Iwerddon, sylfaenodd y Land League, ac anfonwyd ef i garchar drachefn. Etholwyd ef yn aelod seneddol yn 1882; anfonwyd ef i garchar y trydydd tro yn 1883 am ddadlau hawliau Iwerddon, ac y mae yn ddiamau yr edrychid arno gan Ryddfrydwyr parchus Cymru yr adeg honno—cyn i Gladstone droi o blaid ymreolaeth i Iwerddon—fel cynhyrfwr peryglus ac anystyriol iawn. Peth beiddgar, fel y dywedais, oedd gwahodd y fath ddyn i Ffestiniog, ac ni fynnai yr un o arweinwyr amlwg Rhyddfrydiaeth yn yr ardal arddel y cyfarfod. Un gweinidog yn unig oedd ymhlith y gynulleidfa, ag eithrio, wrth gwrs, Michael Jones ei hun. Chwarelwr, Dafydd Williams, Tyddyn Cwtyn, oedd y cadeirydd, a methodd yntau a chael neb i gynnig diolch i Davitt am ddyfod yno.

Dywedodd hynny wrth Dr. Evans. Dywedodd Dr. Evans fod Mr. Lloyd George yn digwydd aros gydag ef ac y gofynnai iddo ef wneud. Aeth Mr. Lloyd George i'r cyfarfod, siaradodd, ac yn ei araith cyfeiriodd at gyflwr truenus Cymru ac at waith yr offeiriaid a'r Lefiaid yn myned o'r tu arall heibio a Samariad o Iwerddon yn dyfod i'w hymgeleddu. Berwodd y lle, ac ar swper yn nhŷ Dr. Evans ar ôl y cyfarfod dywedodd Davitt, gan gyfeirio at Mr. Lloyd George: Dyma'r math o ddyn ifanc yr ydym ni yn ei anfon i'r Senedd o Iwerddon yn awr, a dyma'r math y dylech ei anfon yno o Gymru hefyd." Ychydig yn ddiweddarach dywedodd Dr. John Thomas yr un peth ar ôl bod yn siarad oddiar yr un llwyfan â Mr. Lloyd George ym Mhorthmadog, ac nid oedd amheuaeth i fod bellach. Penderfynodd y cyfreithiwr ieuanc fyned i'r Senedd. Ymhen tair blynedd ar ôl hyn y bu achos Llanfrothen, ac y mae'n debyg mai hwnnw yn bennaf a argyhoeddodd y wlad fod defnydd aelod seneddol o fath mwy ymosodol nag yr oedd Cymru wedi arfer ag ef yn Mr. Lloyd George.

Er hynny, nid yn rhwydd iawn y cafodd Mr. Lloyd George lwybr agored tua Thŷ'r Cyffredin. Bu ei enw gerbron Cymdeithas Ryddfrydol Meirion, ond ar Thomas Edward Ellis y syrthiodd ei choelbren hi. Yn Sir Gaernarfon ystyrid ef gan lawer yn rhy eithafol, yn rhy chwyrn ei air ac yn rhy ddibarch i awdurdod. "Ymdrech y gwrthryfelwr oedd fy ymdrech i o'r cychwyn," meddai wrthyf unwaith, "ac ychydig iawn o gefnogaeth a gefais gan set fawr Rhyddfrydiaeth" Yr oedd y Parch. Evan Jones, Caernarfon, yn rym ym mywyd gwleidyddol y wlad yr adeg honno, ac ni fynnai ef gefnogi Mr. Lloyd George am na ymrwymai i wrthwynebu pob mesur Rhyddfrydol os na roddai gweinyddiaeth Mr. Gladstone y flaenoriaeth i ddatgysylltiad yr Eglwys yng Nghymru. Yr oedd agwedd Evan Jones yn nodweddiadol o eiddo amryw eraill, a bu cryn lawer o ddadlau a chroes-ddadlau cyn i Ryddfrydwyr Bwrdeisdrefi Arfon ddewis Mr. Lloyd George fel ymgeisydd, yn 1889.

Yn 1889, yn ôl pob golwg, yr oedd dwy flynedd cyn y deuai etholiad cyffredinol, ac er fod Mr. Lloyd George yn siarad yma ac acw yn yr etholaeth, ar ochr arall i fywyd cyhoeddus y rhoddodd ei fryd yn bennaf yn y blynyddoedd hynny. Yn 1888 pasiwyd deddf llywodraeth leol, y ddeddf a ddygodd y cynghorau sir i fod, ac yn y cynghorau hynny gwelodd Tom Ellis, yn anad neb o arweinwyr cyhoeddus Cymru ar y pryd, gyfle i'r genedl roddi ei thŷ mewn trefn a sicrhau mesur helaeth iawn o hawl i'w llywodraethu ei hun. Cyfranogodd Mr. Lloyd George hefyd o'r un ffydd; pregethodd y dylai'r cynghorau newydd fod yn llawer mwy na byrddau lleol i ymdrin â materion sir a phlwy, a gweithiodd yn egniol i sicrhau aelodaeth ar gyngor Sir Arfon a fuasai yn ymdrechu sylweddoli'r delfryd uwch. Ni bu yn ymgeisydd ei hun ond gweithiodd gydag egni tanllyd dros ymgeiswyr eraill, a phan sicrhawyd mwyafrif Rhyddfrydol sylweddol ar y cyngor newydd dewiswyd yntau yn henadur yn y cyfarfod cyntaf. Y mae yn parhau yn henadur hyd heddiw ac y mae'n debyg o barhau yn henadur hyd y diwedd, er na bu mewn cyfarfod o'r cyngor sir ers blynyddoedd lawer.

Cyn hyn yr oedd Mr. Lloyd George wedi cymryd rhan yn rhyfel y degwm, y mudiad a gododd yng Nghymru, fel gwrthdystiad yn erbyn talu'r degwm at gynhaliaeth eglwys nad oedd mwyafrif y bobl mewn llawer ardal yn perthyn iddi, ac fel rhan o'r mudiad hwnnw sefydlodd undeb i amaethwyr Llŷn, yn Sir Gaernarfon. Gellir dweyd amdano yn y cyfnod yma ei fod i'w weled ac i'w glywed yn rhengau y rhan fwyaf o'r mudiadau blaen yn y wlad a'i fod yn credu mai trwy gael ymreolaeth i Gymru y gellid medi ffrwyth ymdrechion politicaidd y cyfnod. Y mae yn werth sylwi ei fod ef, fel Tom Ellis hefyd, yn rhoddi pwys ar yr ochr gymdeithasol mor fore a hynny. Y mae araith Tom Ellis yn y Bala yn 1890 ac eiddo Mr. Lloyd George yng Nghaerdydd yn yr un flwyddyn yn werth eu darllen heddiw fel dangosiad o'r hyn oedd ym mryd gwŷr ieuanc y mudiad gwleidyddol Cymreig yr adeg honno. Datgysylltiad, gwella deddfau'r tir, dewisiad lleol ynglŷn â gwerthu diodydd meddwol—dyna rai o'r prif bwyntiau yr oedd Rhyddfrydwyr Cymru yn brwydro drostynt yr adeg honno, ond dywedodd Mr. Lloyd George yn ei araith yng Nghaerdydd nad oedd y pethau hynny yn gwneud mwy na chyffwrdd godre y broblem gymdeithasol fawr y byddai yn rhaid ei hwynebu maes o law. Y mae hyn yn ddiddorol pan gofir am yr ymgyrch a gychwynwyd ganddo ymhen yn agos i ugain mlynedd yn ddiweddarach. Beth bynnag a ddywedir am Mr. Lloyd George fel gwleidydd, am ei gysondeb ac am ei gamgymeriadau, y mae yn sicr na anghofiodd erioed fod miloedd o bobl yn dlawd heb fod dim bai arnynt hwy.

Cyn dyfod at hanes ei flynyddoedd cyntaf yn y senedd dylid sôn am un digwyddiad pwysig iawn. Ym mis Ionawr, 1888, yng nghapel y Methodistiaid Calfinaidd ym Mhencaenewydd, yn Eifionydd, priodwyd ef â Margaret Owen, merch Richard Owen, Mynydd Ednyfed, Cricieth. Amaethwr oedd Richard Owen, ac ni thybiai pawb fod nai y crydd o Lanystumdwy yn ddigon da, o ran safle gymdeithasol, iddi. Ni phoenodd hynny ddim arni hi, ac ar hyd ei gyrfa nid wyf yn meddwl iddi erioed roddi munud i feddwl am safle gymdeithasol neb. Trodd ymhlith pob math o bobl—ffermwyr Eifionydd, aelodau seneddol, brenhinoedd ac arweinwyr y gwledydd gyda'r un urddas bonheddig, tawel, yr un synnwyr cyffredin craff, yr un caredigrwydd a'r un hiwmor. Yn ei ffordd ei hun yr oedd mor nodedig â'i gŵr a bu yn dŵr o nerth iddo am dros hanner canrif. Nid gormod yw dywedyd fod galar cyffredinol pan fu farw yn nechrau 1941. Yr oedd yn esiampl wych o gwrteisi, synnwyr ac urddas gwladwyr Cymru. Bu iddynt bump o blant. Bu'r ferch hynaf, Mair Eluned, farw yn 1907. Y lleill ydyw Major Richard Lloyd George, Lady Carey Evans, Major Gwilym Lloyd George, sydd yn aelod Seneddol dros Sir Benfro, ac ar hyn o bryd yn aelod o Weinyddiaeth Mr. Churchill, a Miss Megan Lloyd George, sydd yn aelod Seneddol dros Fôn.

Y tro diwethaf i mi weled Dame Margaret Lloyd George dywedodd wrthyf ei bod wedi disgwyl, pan ddewiswyd Mr. Lloyd George yn ymgeisydd ym Mwrdeisdrefi Arfon, y cawsent flwyddyn neu ddwy, beth bynnag, o dawelwch. Trefnasant i fyned am dro i Gaernarfon un diwrnod—ef i ddyfod oddiwrth ei waith gyda'r trên o Borthmadog a hithau i'w gyfarfod yn stesion Cricieth. Yr oedd y ddau yn edrych ymlaen am roddi diwrnod diofal i'r brenin. Ond, pan gyrhaeddodd hi stesion Cricieth, rhoddwyd teligram, wedi ei gyfeirio i Mr. Lloyd George, iddi. Agorodd hithau ef a darllenodd fod Swetenham, yr aelod Toriaidd dros y Bwrdeisdrefi, wedi marw'n sydyn. "Gwyddwn beth a olygai hynny," meddai, a phan ddaeth y trên i mewn a phan ddywedais wrth y gŵr, diflannodd y wên oedd ar ei wyneb. Mi aethom i Gaernarfon, ond diwrnod annifyr iawn gawsom ni yno. Yr oedd meddwl am yr etholiad fel hunlle arnom ein dau."

PENNOD III.

DAETH yr etholiad yn 1890. Dewisodd y Toriaid Hugh John Ellis Nanney (Syr Hugh yn ddiweddarach), perchenog tir yn ardal Llanystumdwy, yn ymgeisydd, ac yr oedd rhywbeth dramatig yn y gwrthgyferbyniad—sgweiar yr ardal a nai y crydd yn wynebu ei gilydd. Erbyn heddiw y mae'n rhyfedd meddwl yr ystyrid Ellis Nanney yn ymgeisydd peryglus yr adeg honno; y mae'n ddiamau ei fod yn ŵr digon didramgwydd, fel yr oedd llawer o'i ddosbarth, ond ni chlywais neb erioed yn honni ei fod yn ddyn galluog na bod ganddo syniad am wleidyddiaeth heblaw ystrydebau cyffredin ei blaid a'i ddosbarth. Clywais ef yn siarad unwaith, ymhen blynyddoedd ar ôl hyn, ac yr oedd yn drychinebus o sâl a diafael. Ond yr oedd yn feistr tir, yr oedd pob Tori yn y Bwrdeisdrefi—Bangor, Caernarfon, Cricieth, Nefyn, Pwllheli, a Chonwy oedd yr etholaeth y pryd hynny —yn sicr o'i gefnogi. Ac nid oedd mor sicr y cefnogai pob Rhyddfrydwr Mr. Lloyd George. Fel y dywedwyd, yr oedd yn ormod o wrthryfelwr ac yn rhy eithafol gan rai; heblaw hynny, yr oedd yn ieuanc, yr oedd "yn un ohonom ni," ac yr oedd yn dyfod yn ei flaen, tri pheth sydd yn bechod ym marn rhai pobl.

Ond, beth bynnag am oerfelgarwch neu ddifaterwch rhai, gweithiodd eraill yn ddiymarbed o blaid yr ymgeisydd ieuanc, heb gyfrif amser na chost, a thaflodd yntau ei hun i'r frwydr a'i holl egni—yr egni hwnnw a fu yn un o'i nodweddion hynotaf ar hyd ei yrfa hir. Cael a chael fu hi, er hynny; ar ôl y cyfrif cyntaf, tybiwyd mai Ellis Nanney a orfu ac yr oedd Mr. Lloyd George yn paratoi i'w longyfarch. Ond awgrymodd rhywun y dylid cael ail-gyfrif ar y pleidleisiau, a hynny a fu. Cafwyd fod bwndel wedi ei gyfrif ymhlith y pleidleisiau Toriaidd a ddylasai fod wedi ei osod gyda rhai Mr. Lloyd George, a'r canlyniad oedd fod ganddo ef fwyafrif o ddeunaw pleidlais ar ei wrthwynebydd. Yr oedd y rhod wedi troi. Yr oedd y fuddugoliaeth i'w phriodoli i bersonoliaeth a dawn areithyddol Mr. Lloyd George ei hun, i sêl a gweithgarwch ei gefnogwyr, ac hefyd, y mae'n ddiamau, i rywbeth oedd yn yr awyr yng Nghymru yn y dyddiau hynny.

Nid yw yn hawdd deffinio y rhywbeth hwnnw, ond y mae'n eglur fod y wlad wedi deffro yn wleidyddol ers rhai blynyddoedd. Anaml y bydd Cymru yn deffro yn wleidyddol nac yn meddwl yn wleidyddol; dilyn yn ufudd—a yw'r gair gwasaidd yn un rhy galed?--ac yn ddifeddwl ddigon y bydd hi yn rhy aml, ond ym mlynyddoedd olaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg daeth ton o frwdfrydedd ac o uchelgais wleidyddol drosti ac anfonwyd nifer o Gymry ieuanc i'r senedd oedd cyn alluoced, ac am gyfnod byr, mor ddylanwadol, ag unrhyw blaid o'i maint yn Nhŷ'r Cyffredin. Yr oedd Tom Ellis yno o flaen Mr. Lloyd George; cyn bo hir yr oedd S. T. Evans, Ellis Jones Griffith, William Jones, Lloyd Morgan, Herbert Lewis, Herbert Roberts ac eraill i ddilyn, y rhan fwyaf ohonynt yn bobl wedi eu magu â chefndir Cymreig i'w bywyd, yn gwybod beth oedd syniadau a bywyd y bobl, a'u bryd wedi ei osod yn deg ar lwyddo mewn gwleidyddiaeth. Yr oedd yno rai hyn yn y senedd o'u blaen; yr oedd Henry Richard wedi marw cyn i Mr. Lloyd George gyrraedd yno, ond dywedodd Mr. Lloyd George wrthyf unwaith mai Henry Richard, yn ei farn ef, oedd y gŵr galluocaf a anfonodd Cymru i Dŷ'r Cyffredin o gwbl. Yr oedd John Bryn Roberts yno ers rhai blynyddoedd, ond ni feddyliodd neb erioed am alw yr hen Whig galluog, cydwybodol a phenderfynol hwnnw yn genedlaetholwr nag yn radical. Yr oedd yn Gymro trwyadl ac yn gwybod yn dda am fywyd y wlad, eithr nid oedd yn perthyn i'r mudiad newydd. Dylid cofio, hefyd, fod Sir Feirionnydd, ychydig flynyddoedd yng nghynt, wedi dewis Ysgotyn cyfoethog, na fedrai air o Gymraeg ac na wyddai fawr am fywyd Cymru, i'w chynrychioli yn hytrach na Morgan Lloyd, mab ffarm o Drawsfynydd a dyn galluog iawn, ac un o'r dirgelion i mi ydyw paham y cefnogwyd y dewis hwnnw gan Tom Ellis, oedd i ddilyn Henry Robertson yn y sedd ymhellach ymlaen. Yr oedd gwaith Meirion y pryd hwnnw mor nodweddiadol o un ochr i'r meddwl gwleidyddol yng Nghymru ag oedd dewis Mr. Lloyd George ac eraill o ochr arall. Yr oedd yr hen Ryddfrydiaeth geidwadol, ofnus, yn fyw o hyd ac yr oedd i barhau i fyw ac i ddyfod yn oruchaf maes o law. Ond nid am rai blynyddoedd.

Wrth gwrs, yr oedd deffroad llenyddol a diwylliadol yn cydfyned â'r deffroad gwleidyddol. Sefydlwyd y colegau cenedlaethol—ni ddaethai y Brifysgol eto—ac er mai hwyrfrydig iawn oedd hyrwyddwyr y rhai hynny i gydnabod iaith na llenyddiaeth na hanes Cymru, eto yr oedd teimlad a gobaith cenedlaethol y tu ôl i'r mudiad a roddodd fod iddynt ac a esgorodd yn y man ar y Brifysgol. Heblaw hynny, yr oedd Owen Morgan Edwards, John Morris Jones, ac un neu ddau arall yn gweddnewid llenyddiaeth Cymru, yn dysgu'r Cymry am eu hanes eu hunain, ac yn magu ac yn meithrin ffydd yn nyfodol y genedl a'r iaith. Dyna oedd y peth mawr—y ffydd yma. yn nyfodol y genedl Gymreig fel cenedl. Yr oedd perthynas agos rhwng y deffroad gwleidyddol â'r deffroad llenyddol—golygodd Tom Ellis argraffiad Urdd y Graddedigion o waith Morgan Llwyd, ysgrifennodd Ellis Griffith a Mr. Lloyd George beth barddoniaeth—y mae gan Mr. Lloyd George heddiw fwy o englynion ar ei gof na'r rhan fwyaf ohonom—ac yr oedd amryw o'r aelodau ieuanc newydd yn hyddysg yn llenyddiaeth eu gwlad. Yn Gymraeg yr ysgrifennai Mr. Lloyd George, Tom Ellis ac S. T. Evans at ei gilydd. Y mae'n wir mai rhanol oedd y deffroad gwleidyddol cenedlaethol, ac os edrychir dros lyfr rhyfedd Syr Marchant Williams, a gyhoeddwyd yn 1894, gwelir fod cryn nifer o'r aelodau Cymreig naill ai yn Saeson neu yn wyr heb ond ychydig iawn o'r cefndir Cymreig. Anghofiwyd llawer ohonynt yn llwyr erbyn heddiw, ac nid rhyfedd hynny. Eithr nid oes dim amlycach mewn hanes na dylanwad a grym lleiafrif ymroddedig a phenderfynol—yr ychydig weddill sydd ym mhob Israel tra bo bywyd o gwbl—a'r aelodau ieuanc, Cymreig eu hysbryd a'u cefndir, a roddodd eu nôd ar y cyfnod yr ydym yn sôn amdano.

Nid dyma'r lle i ymhelaethu ar gyflawniadau Mr. Lloyd George yn ystod ei flynyddoedd cyntaf yn y Senedd, ac nid oes dim diflasach na hanes hen frwydrau politicaidd ynghylch pethau a gollodd bob ystyr i ni erbyn heddiw. Nid yw'r Clergy Discipline Bill na'r Agricultural Rating Bill o ddiddordeb i neb bellach, pa mor galed bynnag oedd y taro o'u plaid ac yn eu herbyn hanner canrif yn ôl. Ond manteisiodd Mr. Lloyd George ar bob cyfle i ennill ei le yn Nhŷ'r Cyffredin—ac os byddai yn ddistaw yn rhy hir deuai llythyr o Gricieth oddiwrth Richard Lloyd yn awgrymu fod yn bryd gwneud rhywbeth—a mwy na hynny, ymroddodd i feistroli rheolau'r Tŷ fel y gallai eu defnyddio at ei bwrpas pan fynnai. Mewn gair, gosododd ei holl fryd a throdd ei egni digymar ar un pwrpas a thuag un cyfeiriad. Nid chwarae â gwleidyddiaeth yr oedd ef ac nid rhywbeth eilradd i'w fywoliaeth oedd bod yn aelod seneddol. Y mae'n wir ei fod yn gyfreithiwr a bod yn rhaid iddo weithio fel cyfreithiwr er mwyn byw—ni thelid i aelodau seneddol y pryd hynny—ond gwleidyddwr yn gyfreithiwr oedd ac nid cyfreithiwr oedd yn digwydd bod yn aelod seneddol. Nid yn y gyfraith yr oedd ei uchelgais ef ac nid gris mewn gyrfa gyfreithiol y bwriadodd ef i Dŷ'r Cyffredin fod. Dyma'r gwahaniaeth—neu un gwahaniaeth—mawr rhyngddo a llawer o aelodau Seneddol eraill; ymroddodd yn llwyr i bolitics, ac nid oedd ganddo ddiddordeb llywodraethol heblaw hynny.

Y mae'n wir nad oedd Tŷ'r Cyffredin yn cyfarfod yn yr hydref yr adeg honno a'i fod yntau felly yn cael cryn lawer o amser i ofalu am y busnes ym Mhorthmadog. Y mae'n wir, hefyd, iddo sefydlu busnes yn Llundain ac iddo barhau yn bartner yn hwnnw nes dyfod yn weinidog y goron. Ond gadawyd y busnes yng Nghymru i raddau mwy a mwy yn nwylo Mr. William George, ac ail beth oedd y swyddfa yn Llundain wrth ei waith yn Nhŷ'r Cyffredin. Gyda llaw, dywedwyd eisoes i Mr. Lloyd George fod yn ffodus iawn yn ei briod; a ganiateir i mi ddywedyd yma iddo fod yn ffodus yn ei frawd hefyd? Yr oedd y ffaith fod Mr. William George yn gwarchod y busnes gartref yn hyrwyddo llawer ar yrfa wleidyddol ei frawd.

Aelod Cymreig oedd Mr. Lloyd George yn llawn ystyr y gair, ac felly yr edrychid arno yn y Senedd ac yn y wlad am rai blynyddoedd. Gwelodd yn fore fod pwysigrwydd strategig mawr yng Nghymru. Bwriodd ei hun i fudiad Cymru Fydd a cheisiodd uno'r lluoedd Rhyddfrydol yng Nghymru trwy gael y ddwy gymdeithas Ryddfrydol oedd yn bod, un yn y De a'r llall yn y Gogledd, i ddyfod at ei gilydd a ffurfio un gymdeithas gref. Yr oedd y Gogledd yn barod ond yr oedd gwrthwynebiad cryf, yn cael ei arwain gan D. A. Thomas (Arglwydd Rhondda ar ol hynny) yn y De ac ni lwyddwyd i sylweddoli'r bwriad am flynyddoedd lawer. A phan y'i sylweddolwyd yr oedd yr hen freuddwydion wedi diflannu a'r hen obeithion wedi eu siomi a'r hen egni wedi pallu.

Pwnc gwleidyddol y dydd yn y blynyddoedd hynny yng Nghymru oedd datgysylltiad yr Eglwys. Gwnaeth Mr. Lloyd George ei hun yn bennaf ymladdwr o blaid hwnnw a daeth yn fuan i wrthdrawiad a rhai gwŷr blaenllaw iawn wrth ei drafod. Ni phetrusodd feirniadu a chroesi Mr. Gladstone ei hun, ac yr oedd angen dewrder pur fawr i wneud hynny, am fwy nag un rheswm. Yn un peth, yr oedd Gladstone yn ŵr peryglus iawn i'w groesi; yr oedd yn alluog iawn, yr oedd ganddo brofiad anghymarol, ac yr oedd yn ddadleuydd a fedrai osod ei ofn ar Dŷ'r Cyffredin unrhyw ddydd. Heblaw hynny, yr oedd yn eilun y Rhyddfrydwyr yng Nghymru ac y mae Cymru yn wleidyddol bob amser wedi tueddu at eilun addoliad. Rhywbeth tebyg iawn i gabledd oedd ei feirniadu ym marn llawer o'r Rhyddfrydwyr parchusaf, a hynny er fod ei Uchel-Eglwysyddiaeth nid yn unig ymhell iawn oddiwrth syniadau y rhan fwyaf o'i gefnogwyr Cymreig ond hefyd er fod cryn lawer o amheuaeth ynghylch ei wir sêl dros ddatgysylltiad. Eithr beirniadu a gwrthwynebu a wnaeth Mr. Lloyd George a phwyso, mewn amser ac allan o amser, pan ddaeth gweinyddiaeth Ryddfrydol i awdurdod, am roddi lle blaen i'r pwnc Cymreig.

Daeth y cyfle hwnnw ymhen dwy flynedd ar ôl iddo fyned i'r Senedd. Yn etholiad cyffredinol 1892 cafodd Toriaid y Bwrdeisdrefi ymgeisydd newydd i sefyll drostynt. Syr John Puleston oedd hwnnw, aelod o hen deulu Cymreig ac ewythr i'r diweddar Barchedig Ddr. John Puleston Jones. Yr oedd ef wedi bod yn y Senedd o'r blaen, fel aelod dros Devonport, a chredid y byddai ei brofiad a'i gysylltiadau Cymreig o gryn gymorth iddo yn yr ymgyrch. Yr oedd ei nai, Puleston Jones, yn weinidog ym Mangor ar y pryd, a dywed y Parch. R. W. Jones, yng nghofiant Puleston, fel y pwyswyd ar y gweinidog ieuanc, gan ei fam ac eraill, i gefnogi ei ewythr, canys yr oedd ganddo lawer o ddylanwad eisoes. "Ar un amod, mam," meddai yntau, "y fotia i dros f'ewythr, nad af i byth i bulpud," a siaradodd a gweithiodd dros Mr. Lloyd George. Bu'n ymdrech galed ac erys y cof am rai o areithiau Mr. Lloyd George yn ystod yr ymgyrch o hyd. Clywais adrodd un dywediad o'i eiddo mewn cyfarfod. "Y mae cefnogwyr Syr John Puleston," meddai, "yn rhoi llawer o'u hamser i brofi ei fod o'n Gymro, a 'does dim amheuaeth nad ydynt yn dywedyd y gwir. Ond a glywsoch chwi rywun yn gwastraffu pum munud erioed i brofi fy mod i'n Gymro?" Canlynaid yr etholiad fu buddugoliaeth i Mr. Lloyd George gyda 196 o fwyafrif. Dywedodd Syr John Puleston nad oedd yn ddim dicach wrth Mr. Lloyd George ond na faddeuai byth i Beriah Evans.

Y mae gair o eglurhad ar hynny yn angenrheidiol. Ni bu Mr. Lloyd George erioed yn ôl o sylweddoli pwysigrwydd y wasg, a bu iddo ran pur flaenllaw mewn ffurfio cwmni i brynu'r Genedl Gymreig yng Nghaernarfon yn y blynyddoedd hynny. Cymerai ddiddordeb personol yn y Genedl a bu'n ysgrifennu llythyrau o'r Senedd iddi ei hun. Yr oedd yn aelod o fwrdd y cyfarwyddwyr, a chredaf y bu iddo ran mewn cael Beriah Gwynfe Evans, oedd eisoes yn lled adnabyddus fel newyddiadurwr, i ddyfod i Gaernarfon o swyddfa'r South Wales Daily News yng Nghaerdydd i fod yn olygydd y Genedl a'r North Wales Observer ac yn rheolwr cyffredinol y swyddfa. Ymdaflodd Beriah i'r gwaith yn egniol iawn, a'r traddodiad yn y swyddfa oedd ei fod, yn ystod etholiad 1892, wedi gweithio mor galed ac ysgrifennu cymaint nes parlysu ei law dde am ysbaid. Beth bynnag am hynny, nid oes amheuaeth na bu i'r papurau a'u golygydd ran pur fawr mewn sicrhau y fuddugoliaeth.

Canlyniad yr etholiad yn y wlad yn gyffredinol oedd mwyafrif mor fychan—dim ond deugain—i'r Rhyddfrydwyr fel yr oedd yr aelodau Gwyddelig yn dal y fantol. Yn dair a phedwar ugain oed, ymgymerodd Gladstone a bod yn Brif Weinidog unwaith yn rhagor—am y pedwerydd tro—ac i roddi Rhaglen Newcastle mewn grym, hynny ydyw, i gyflwyno mesurau a roddai ymreolaeth Iwerddon, datgysylltiad i Gymru, dewisiad lleol i'r wlad ynglŷn â masnach diod, a chyngorau plwy i bob ardal, ymhlith pethau eraill. Yr oedd yn faich trwm hyd yn oed pe buasai gan yr hen ŵr fwyafrif mawr ac hollol annibynnol y tu cefn iddo; fel yr oedd hi, yr oedd angen ei ddewrder a'i benderfyniad a'i ynni di-ildio ef ei hun i wynebu ar y gwaith o gwbl. Yng ngwendid y weinyddiaeth newydd gwelodd Mr. Lloyd George gyfle Cymru. Credai, a hynny yn hollol gywir, mai mesur dylanwad cynrychiolwyr Cymru yn y Senedd oedd mesur eu parodrwydd hwy i fyned i eithafion er mwyn cael sylw i bynciau Cymreig, a phenderfynodd orfodi Gladstone a'r weinyddiaeth i roddi'r flaenoriaeth y tro hwn i ddatgysylltiad. Ond digwyddodd peth pwysig iawn, o safbwynt Cymru, yn y cyfamser. Ymunodd Tom Ellis â'r weinyddiaeth fel ail chwip. Y mae gennyf gof plentyn am y siarad yn Sir Feirionnydd am y peth pan ddigwyddodd, ac y mae'n debyg mai yr un farn oedd yn y wlad yn gyffredinol. Balchter a fynegid fod Cymro, mab ffarmwr o Benllyn, wedi "dringo mor uchel." Y mae'n wir nad oedd y swydd a roddwyd iddo yn un bwysig iawn, o un wedd o edrych arni, ond i bobl oedd wedi arfer edrych ar Tom Ellis fel un ohonynt hwy, gwladwyr cartrefol Meirion a siroedd eraill Cymru, yr oedd y digwyddiad yn un mawr, yn enwedig gan mai Gladstone a wnaeth y penodiad. Prin, mi gredaf, y buasai'r un bobl fymryn balchach pe buasai mab ffarm wedi cael cyffelyb swydd mewn gweinyddiaeth Doriaidd, ond yr oedd bod yn aelod o weinyddiaeth Ryddfrydol ac, yn enwedig, o weinyddiaeth Gladstone, yn rhywbeth.

Eithr teimlai rhai y lleiafrif, y mae'n ddiddadl—fod y rhagolwg am fesurau i Gymru wedi newid. Dywedodd y diweddar John Arthur Price ymhen blynyddoedd wedyn ei fod ef wedi rhoddi heibio bob gobaith am blaid annibynnol Gymreig am flynyddoedd lawer pan gymrodd Tom Ellis swydd, a dyna oedd barn Mr. Lloyd George hefyd ar y pryd. Yn ddiamau credai Tom Ellis yn gydwybodol y buasai mewn gwell mantais i hyrwyddo buddiannau Cymru o'r sêt fawr, megis, nag oddiar lawr y tŷ, ond nid dyna gred y rhai oedd wedi eu hargyhoeddi nad oedd obaith i Gymru am sylw na chyfiawnder ond trwy ddilyn esiampl y Gwyddelod a chadw draw oddi-wrth bob swydd a phob rhwymedigaeth i gefnogi unrhyw weinyddiaeth ond ar yr amod ei bod yn rhoddi'r lle dyladwy i'r amcanion oedd ganddynt hwy mewn golwg. Penderfynodd Mr. Lloyd George na chai'r mwyafrif bychan, ansicr, na'r ffaith fod ei gyfaill yn y weinyddiaeth fod yn esgus dros laesu dwylo yn yr ymdrech i orfodi'r weinyddiaeth a'r hen ŵr penderfynol, ffyrnig oedd yn bennaeth arni i roddi'r lle a ystyriai ef yn briodol ac yn angenrheidiol i'r mesur Cymreig.

PENNOD IV.

AETH yn helynt yn fuan. Nid oedd Mr. Lloyd George yn fodlon ar ddatganiadau Gladstone ac aelodau ei weinyddiaeth ynghylch y lle a roddid i ddatgysylltiad a phenderfynodd y dylid codi gwrthryfel. Yr oedd ambell un arall o'r aelodau Cymreig yn dal y dylid rhoddi hawliau Cymru ar yr un tir yn gymwys a hawliau Iwerddon; er enghraifft, dywedodd Alfred Thomas (Arglwydd Pontypridd ar ôl hynny) na byddai iddo ef bleidleisio dros fesur i roddi ymreolaeth i Iwerddon os na ddygid mesur i roddi datgysylltiad i Gymru i mewn yr un pryd. Yr oedd rheswm dros hyn; gyda'i mwyafrif bychan ac ansicr yr oedd yn lled anhebyg y gallai'r weinyddiaeth oroesi storm arall ar ymreolaeth, a chredai'r Cymry, neu rai ohonynt, os oeddynt i gipio rhyw fantais o gwbl oddiwrth y weinyddiaeth Ryddfrydol ar ôl blynyddoedd o lywodraeth Doriaidd, fod yn rhaid manteisio ar y cyfle cyntaf. Nid oedd gan Gladstone fwyafrif o gwbl yn Lloegr; Cymru a'r Alban a roddodd y Rhyddfrydwyr i mewn, ac yr oedd yn bur sicr, os ceid etholiad cyffredinol arall yn fuan, mai Arglwydd Salisbury a ddeuai'n ôl i awdurdod.

Eithr nid oedd pawb o'r aelodau Cymreig yn barod i fyned a phethau i, eithafion er mwyn cael y maen i'r wal. Pan wynebwyd hwy â'r cwestiwn a oeddynt yn barod i roddi eu cenedligrwydd o flaen eu ffyddlondeb i Mr. Gladstone, pedwar yn unig a ddywedodd nad oeddynt mwyach yn barod i dderbyn chwipiau swyddogol y Rhyddfrydwyr. Y pedwar hynny oedd Mr. Lloyd George, Mr. Herbert Lewis (wedi hynny Syr Herbert Lewis), yr aelod dros fwrdeisdrefi Fflint, Frank Edwards (wedi hynny Syr Frank Edwards), yr aelod dros Sir Faesyfed, a D. A. Thomas (Arglwydd Rhondda yn ddiweddarach), un o'r aelodau dros Ferthyr. Gŵr mwyn a thawel oedd. Herbert Lewis, ond o dan y mwynder hwnnw yr oedd haen o benderfyniad ac o ddewrder pur eithriadol. Clywais un oedd yn ei adnabod yn dda yn dweyd fod Herbert Lewis yn caru heddwch ac yn casau cyffro ond fod ganddo y math o ddewrder prin oedd yn barod i wynebu cyffro yn ddigryn pan argyhoeddid ef fod gwir angen am hynny. Gŵr rhadlon oedd Frank Edwards yntau, yn ymddiddori mewn barddoniaeth Gymraeg a cherddoriaeth, siaradwr da a gŵr oedd yn deall dynion.

Gŵr amlwg ym myd diwydiannol y de oedd D. A. Thomas, annibynnol iawn ei ysbryd, parod i wrthryfela. ar ychydig o gymhelliad, galluog a pheryglus mewn dadl, ond ni lwyddodd fel gwleidyddwr. Ar derfyn ei oes, pan wnaed ef yn rheolwr bwyd yng ngweinyddiaeth Mr. Lloyd George yn ystod y rhyfel diwethaf, y cafodd ei alluoedd eu cyfle ac y sylweddolwyd pa mor alluog ydoedd mewn gwirionedd.

Apeliodd y pedwar at y wlad a buont yn annerch cyfarfodydd ar hyd a lled Cymru. Gofynnwyd i Mr. Lloyd George a oedd yn barod i orchfygu'r weinyddiaeth ar bwnc datgysylltiad a cholli yr holl fesurau eraill yr oedd sôn amdanynt yn Rhaglen Newcastle, a'i ateb oedd nad oedd yn barod i gynorthwyo'r Llywodraeth i dorri ei haddewid i Gymru. "Os deil y Llywodraeth at ei bwriad i roddi'r flaenoriaeth i fesurau eraill," meddai, "bydded ei gwaed ar ei phen hi ei hun." Yr oedd Tom Ellis mewn sefyllfa anodd iawn; ar un llaw yr oedd yn rhwym o fod yn ffyddlon i'r weinyddiaeth yr oedd yn aelod o honi ac ar y llaw arall yr oedd ei ymlyniad diamheuol wrth Gymru a'i gyfeillgarwch tuagat rai o'i gyd-aelodau. Cymreig. Bu mewn gwewyr mawr. Dywedodd y diweddar Barch. Gwynoro Davies wrthyf flynyddoedd lawer yn ôl ei fod yn Nhŷ'r Cyffredin un noson yr adeg yma ac iddo ofyn i Tom Ellis sut yr oedd yn teimlo. "Wedi torri fy nghalon," oedd yr ateb. Ond nid yw calonnau yn torri yn rhwydd mewn gwleidyddiaeth, a rhywfodd neu gilydd daethpwyd dros ben yr anhawster. Erbyn heddiw nid yw yn hawdd iawn gwybod beth yn gymwys a ddigwyddodd—gellir dywedyd yr un peth am laweroedd o "wrthryfeloedd "a gwrthdystiadau Cymru, fel y mae waethaf y modd—a dychwelodd y "meibion afradlon," fel y galwyd hwynt gan Arglwydd Rosebery yn ei araith yng Nghaerdydd, i'r hen gartref.

Cafwyd addewid gan Tom Ellis ar ran y weinyddiaeth y mynnid cario mesur datgysylltiad drwy Dŷ'r Cyffredin a dywedodd Arglwydd Rosebery, oedd erbyn hynny yn Brif Weinidog, mewn araith ym Mirmingham, nad apeliai'r weinyddiaeth at y wlad hyd oni byddai'r mesur Cymreig wedi myned trwy'r Tŷ. Ond bu yn rhaid aros hyd 1895-ni chafwyd amser i'r mesur yn nhymor 1894—cyn myned at y gwaith o ddifrif. Cyflwynodd Asquith, oedd yn Ysgrifennydd Cartref yng ngweinyddiaeth Rosebery, y mesur am ei ail-ddarlleniad, a gwnaeth amryw o'r aelodau Cymreig, Tom Ellis a Mr. Lloyd George yn eu plith, lawer i hyrwyddo'r gwaith. Dywedir fod araith Mr. Lloyd George y dydd Llun wedi cyflwyno'r mesur yn un o'r rhai gorau a wnaeth hyd hynny yn Nhŷ'r Cyffredin. Ynddi gwnaeth rywbeth tebyg i'r hyn a wnaeth Charles Russell pan yn siarad dros Parnell gerbron y ddirprwyaeth ymchwil i gyhuddiadau'r Times—manteisiodd ar y cyfle i egluro ac i amddiffyn hanes a safle cenedl. Iwerddon, yn fwy na Pharnell, oedd testun araith fawr Russell gerbron y comisiwn. Cymru, yn llawn cymaint â datgysylltiad, oedd pwnc araith Mr. Lloyd George, ac agorwyd llygaid rhai, beth bynnag, i fodolaeth y teimlad cenedlaethol y gŵyr pob Cymro amdano ond na ŵyr un o bob deng mil o Saeson ei fod o gwbl. Ar gyngor Tom Ellis y dygodd y weinyddiaeth y mesur i mewn pan wnaeth, ac y mae'n werth cofio fod Gladstone, a ymddiswyddodd o fod yn Brif Weinidog flwyddyn ynghynt, wedi peidio pleidleisio o blaid y mesur am fod ganddo "feddwl agored" ar y pwnc. Yr oedd hyn yn gymaint o ergyd i'r weinyddiaeth fel yr anfonodd Harcourt (Canghellor y Trysorlys) at Rosebery ar unwaith i ofyn am gael ei weled i drafod y sefyllfa drannoeth. Ond yr oedd helynt arall yn ymyl.

Yr oedd Mr. Lloyd George a nifer o aelodau Cymreig ac eraill yn Llandrindod-ai hon oedd y gyntaf o gynhadleddau niferus y lle annifyr hwnnw?—yn trafod y mesur a'r safle pan orchfygwyd y weinyddiaeth. Ergyd damwain oedd hynny, y cordite vote y mae sôn amdani yn holl fywgraffiadau gwleidyddol y cyfnod, ac edliwid i'r aelodau Cymreig na buasai'r peth wedi digwydd pe buasent hwy yn y Tŷ, canys nid oedd y mwyafrif yn erbyn y weinyddiaeth yn ddim ond saith. Ateb Mr. Lloyd George oedd fod saith o aelodau'r weinyddiaeth ei hun yn absennol o'r Tŷ ar y pryd a phe buasent hwythau yno na buasid. wedi gorchfygu'r weinyddiaeth. Y gwir ydyw nad oedd y digwyddiad yn bwysig ynddo ei hun; damwain oedd, ynglŷn â mater cymharol ddibwys, a buasai aml weinyddiaeth wedi anwybyddu'r peth ac wedi myned ymlaen gyda'i gwaith. Ond yr oedd aelodau'r Cabinet yn anghytun ac yr oedd Rosebery yn sorllyd ac wedi blino ar ei le. Drannoeth ymddiswyddodd, daeth terfyn ar y weinyddiaeth Ryddfrydol, dechreuodd deng mlynedd o lywodraeth Doriaidd, a dyna ben ar bob gobaith am ddatgysylltiad am gyfnod maith.

Gorchfygwyd y Rhyddfrydwyr yn drychinebus yn etholiad cyffredinol 1895, ond llwyddodd Mr. Lloyd George i gadw ei sedd ym mwrdeisdrefi Arfon yn erbyn. ymdrech y Toriaid, gydag Ellis Nanney unwaith eto yn eu cynrychioli, i'w ddiswyddo. Cadwodd y sedd gyda mwyafrif o 194 wrth gefn, a hynny pan oedd cewri fel John Morley a Syr William Harcourt wedi myned i lawr. Y mae'r llanw Toriaidd sydd wedi ysgubo tros Loegr,' meddai'r buddugwr mewn brawddeg nodweddiadol, curo'n ofer ar greigiau Eryri," ac addawodd wrth ei etholwyr y byddai yn ddraen yn ystlys Balfour, arweinydd. y weinyddiaeth yn Nhŷ'r Cyffredin. "Bydd yn rhaid iddo roddi rhywbeth i Gymru pe na bai ond er mwyn llonyddwch," meddai, ond yr oedd brwydrau mwy na brwydr datgysylltiad ymlaen.

Y mae'n debyg mai'r cyfnod a ddilynodd gwymp gweinyddiaeth Rosebery oedd yr un y mae lleiaf o ddiddordeb ynddo i bobl yn gyffredinol o unrhyw gyfnod yn hanes Mr. Lloyd George. Yr oedd gan y Toriaid fwyafrif sicr, daeth adwaith ar ôl cyffro a chynnwrf anturiaethau Mr. Gladstone, a'r cwbl y gallai aelod Rhyddfrydol ieuanc ei wneud oedd ei wneud ei hun yn gymaint o ysbardyn i'r weinyddiaeth ag y gallai o fewn terfynau rheolau Tŷ'r Cyffredin—a thu allan i'r terfynau hynny weithiau. Ond yn y blynyddoedd rhwng 1895 a misoedd olaf 1899 perffeithiodd Mr. Lloyd George ei feistrolaeth ar reolau dadl a gwnaeth ei hun yn rym yn y senedd yn ogystal ag ar y llwyfan yn y wlad. Nid oedd amheuaeth am ei lwyddiant ar y llwyfan, yng Nghymru ac yn Lloegr; yr oedd eisoes ymhlith yr areithwyr blaenaf, a galw mawr am ei wasanaeth, eithr nid yw hynny bob amser yn golygu llwyddiant cyfartal yn Nhŷ'r Cyffredin. Ond llwyddodd Mr. Lloyd George, trwy lafur ac ymroddiad diflino, i'w wneud ei hun yn ddylanwad ar lawr Tŷ'r Cyffredin hefyd. Cyn belled yn ôl ag 1893 yr oedd Syr William Harcourt wedi sylwi ar ei araith ar Fesur Dewisiad Lleol i Gymru, ac yn awr, megis yn ystod ei wrthwynebiad i'r Agricultural Rating Bill, dangosodd fedr anghyffredin ar drin rheolaur. Tŷ nes ennill canmoliaeth. eithriadol gan Harcourt drachefn. Credaf mai Harcourt a ddywedodd amdano fod ei fys bach ef yn fwy o werth mewn dadl na'r holl aelodau Ysgotaidd gyda'i gilydd. Ac nid llwyddiant areithyddol yn unig oedd hyn; yr oedd ynddo graffter i weled man gwan a chyfle, dewrder i fanteisio ar gyfle, a diwydrwydd mawr i feistroli ffeithiau ac i gasglu gwybodaeth ynghylch y pynciau dan sylw. Beth bynnag arall a ddywedir am y cyfnod hwn yn hanes Mr. Lloyd George, y mae'n debyg mai yn awr y perffeithiodd ei feistrolaeth ar yr hyn y gellir ei alw yn beirianwaith gwleidyddol.

Ond cyn bo hir peryglwyd yr holl lwyddiant a chollwyd yr holl boblogrwydd. Y mae gennyf gof bachgen am weled, ar ymyl ffordd wledig ym Meirion, yn nechrau mis Hydref, 1899, blacard papur newydd ag arno yr un gair "WAR." Nid oedd bechgyn o'm hoed i yr adeg honno yn cofio rhyfel o bwys o'r blaen, dim ond ysgarmesoedd mewn gwledydd pell yn erbyn dynion duon a ninnau yn cymryd yn ganiatâol bob amser y byddai popeth yn iawn. Hyd yn oed yn awr, pan ddeallwyd fod Prydain o'r diwedd, wedi hir ymgecru, wedi myned i ryfel â dynion gwyn y Transvaal a Gwladwriaeth Rydd Orange, credai y rhan fwyaf o'r bobl ddoeth a gwybodus y byddai'r cwbl drosodd cyn y Nadolig ac nad oedd obaith o gwbl i'r ffermwyr gwledig, barfog, wneud dim mwy na pheri tipyn o anhwylustod i fyddin fuddugoliaethus ar ei thaith i Bretoria. Yr oeddym wedi byw ers rhai blynyddoedd ar Imperialaeth Chamberlain a Cecil Rhodes a Rudyard Kipling, wedi sôn am yr Ymherodraeth nad oedd yr haul byth yn machlud arni, am "faich y dyn gwyn," a phethau felly, a dylid ei wneud yn glir i'r rhai nad ydynt yn cofio'r cyfnod rhyfedd hwnnw fod cefndir felly mewn gwirionedd i feddyliau llawer iawn o bobl. Yr oedd Awstralia a Rhodesia a lleoedd eraill a liwid yn goch ar y map yn eiriau teuluaidd yn y papurau ac ar y llwyfan, a'r hyn oedd yn llawer pwysicach, ym mywyd llawer iawn o bobl ieuanc a phobl ganol oed. Yr oedd swyn yn y pellterau a rhamant yn y syniad am yr hyn a alwodd Kipling yn "dominion over palm and pine."

Felly, pan benderfynodd gweinyddiaeth Salisbury fod yn rhaid ymyrryd yn amgylchiadau mewnol y ddwy weriniaeth yn Neheudir Affrica, yr oedd digon o bobl yn barod i gytuno â hi. Asgwrn y gynnen ar yr wyneb oedd pwnc y bleidlais yn y Transvaal. Gwlad y Boeriaid—Is-Ellmyn o darddiad—oedd y Transvaal; hwy oedd yn ei llywodraethu yn ôl syniad pobl amaethyddol, hen- ffasiwn grefyddol, am lywodraethu, a hwy oedd wedi ei meddiannu oddiar y brodorion, wedi trin ei thir ac wedi adeiladu ei thai a'i threfi. Yr oedd Prydain wedi cydnabod annibyniaeth y Transvaal cyn belled yn ôl ag 1852, ac er bod helyntion a rhyfel wedi bod ar ôl hynny a'r Transvaal yn 1881 wedi cydnabod rhyw fath o uchafiaeth Brydeinig, yr oedd y ddwy weriniaeth i bob pwrpas ymarferol yn annibynnol o hyd. Yn anffodus iddynt hwy darganfuwyd aur a diamwnd yn eu daear, daeth anturiaethwyr yno yn llu, a chyn bo hir dechreuasant alw am y bleidlais ac am lais yn rheolaeth y wlad er mwyn eu mantais eu hunain. Yr oedd yr hen arlywydd, Paul Kruger, a'r rhai oedd gydag ef yn ddigon craff i wybod y golygai hynny i'r Boeriaid golli rheolaeth ar eu gwlad ac ar eu dull o fyw yn hwyr neu hwyrach, a gwrthwynebasant. Gwelodd pobl fel Cecil Rhodes eu cyfle—y mae'n bosibl nad oedd Joseph Chamberlain, a oedd yn Weinidog y Trefedigaethau ar y pryd, yn credu y gwrthwynebai'r Boeriaid hyd at waed, ond ni ellir ei ryddhau yntau o gyfran o gyfrifoldeb am y rhyfel—ac am na ildiai'r Boeriaid i roddi allwedd eu tŷ i estroniaid, aethpwyd i ryfel nad oes neb erbyn hyn yn ceisio ei amddiffyn. Nid oedd y Boeriaid yn berffaith o lawer; nid oedd eu hymddygiad at y brodorion, er enghraifft, yn deilwng o'u proffes Gristnogol, ond yr oedd ganddynt hawl i'w gwlad ac i'w dull eu hunain o fyw. Eithr nid dyna gred y mwyafrif llethol ym Mhrydain yn y dyddiau hynny—gan gynnwys Cymru.

Yr oedd y rhyfel yn boblogaidd iawn ar y cychwyn; cofiaf fod bron bob bachgen mewn ardal wledig Gymreig am fisoedd bwygilydd yn gwisgo tei khaki a choch er mwyn dangos ei deyrngarwch a'i sêl, a gwisgai llaweroedd fotymau a darlun rhyw gadfridog neu'i gilydd arnynt—heb wybod eto beth oedd i ddigwydd i rai o'r cadfridogion hynny cyn bo hir. Ond sylweddoli hyn, a chofio y teimlad a ddaw yn oruchaf ym mhob gwlad adeg rhyfel, fe ddeellir beth oedd effaith gwrthwynebiad pendant a difloesgni Mr. Lloyd George i'r rhyfel yn ei holl agweddau. Gwyddai ef ei hun yn dda beth oedd i'w ddisgwyl; gwyddai ei fod yn rhoddi ei holl yrfa, yn wleidyddol a chyfreithiol, yn y fantol, y gallai golli ei fusnes a cholli cefnogaeth ei etholwyr, ac, fel y ffyrnigai teimladau, golli ei ryddid ac efallai ei fywyd hefyd. Dywedodd wrth Mrs. Lloyd George am fyned i Gricieth gyda'r plant ac yr ai yntau i fyw mewn garet yn Llundain. "Chan' nhw mo fy llwgu i," meddai. Atebodd hithau ei bod yn ddigon bodlon i'r plant fyned i Gricieth ond nad oedd ganddi hi y bwriad lleiaf i wneud dim o'r fath, ei bod yn myned i aros gydag ef i ymladd y peth i'r pen. Ac ymladd a fu; am gyfnod, pan sylweddolwyd beth oedd ei safle, diflannodd rhan fawr o fusnes cyfreithiol Mr. Lloyd George yn Llundain, a chyn pen ychydig iawn o amser gellir dweyd heb unrhyw ormodiaith ei fod y dyn cyhoeddus mwyaf amhoblogaidd yn y wlad.

Yr oedd y frwydr yr ymgymerodd Mr. Lloyd George a'i hymladd yn un galed. Mewn iaith yr ydym wedi cynefino â hi mewn blynyddoedd diweddar, yr oedd yn war on three fronts. Dadleuodd ei achos ar lwyfannau ar hyd a lled y wlad, yn wyneb brwdfrydedd y rhan fwyaf o bobl o blaid y rhyfel. Dadleuodd ef hefyd yn Nhŷ'r Cyffredin, yn wyneb mwyafrif Toriaidd solat ac yn wyneb ffyrnigrwydd dirmygus, oer Joseph Chamberlain. Mwy na hynny, bu yn rhaid iddo wynebu beirniadaeth, oerfelgarwch a gwrthwynebiad rhai o wyr pwysicaf ei blaid ei hun. Canys nid oedd y Rhyddfrydwyr o lawer yn gytun ar y pwnc. Ni hoffai yr un ohonynt y rhyfel, ond yr oedd llawer ohonynt yn amharod i wrthwynebu'r llywodraeth tra yr oedd y rhyfel yn myned ymlaen. Ymhlith y rhai hyn yr oedd Rosebery, Asquith, Haldane ac Edward Grey. Credai hyd yn oed Syr Henry Campbell-Bannerman, arweinydd y blaid ar y pryd, na ellid osgoi rhyfel ar ôl i'r Boeriaid ymosod ar Natal, er ei fod yn anghymeradwyo polisi y weinyddaeth cyn y rhyfel, ac yr oedd Harcourt a Morley i raddau yn cymryd yr un safle. Ond condemniodd Mr. Lloyd George y rhyfel ymhob modd, o'r gwraidd i'r brig. Cofiwyd yn hir am ei araith yng Nghaernarfon, i gynulleidfa a oedd, ar y cychwyn, yn oeraidd a beirniadol, os nad yn elyniaethus, pan soniodd am ymdrechion cenhedloedd bychain dros eu rhyddid ac am ysbrydion y tadau yn ymladd ochr yn ochr a gwyr y Tyrol yn erbyn Awstria. Pan dawodd bu ennyd o ddistawrwydd llwyr. Ac yna dywedodd rhywun draw ar yr oriel bellaf, "Oh, George annwyl! thorodd yr argae wedyn.

Brwydr cenedlaetholdeb yn erbyn imperialaeth oedd y rhyfel, ym marn Mr. Lloyd George, ac ar y tir hwnnw y sylfaenodd ei wrthwynebiad iddo. Nid yw yn hawdd, hwyrach, i'r oes hon sylweddoli y dewrder a oedd yn angenrheidiol i wynebu Joseph Chamberlain yn nydd ei nerth. Yr oedd ef yn hollol ddidostur pan yn ymosod ar wrthwynebydd a chydnabyddid fod ganddo'r tafod miniocaf yn Nhŷ'r Cyffredin.

Yr oedd yn oer, yn ddirmygus ac yn greulon, ac ofnai llawer un hŷn a mwy dylanwadol yr adeg honno na Mr. Lloyd George fyned i'r afael ag ef. Eithr ni phetrusodd Mr. Lloyd George; yr oedd wedi croesi cleddyfau â Mr. Gladstone ei hun, ac unwaith eto dewisodd yr uchaf ei ben a'r peryclaf ei arfau fel gwrthwynebydd. Ddydd ar ôl dydd aeth yr ornest honno ymlaen, a llwyddodd Mr. Lloyd George i beri i Chamberlain golli ei dymer unwaith. Gwyddai pawb wedyn ei fod yntau wedi ei wanu o'r diwedd.

Ynghanol yr holl helynt, a'r rhyfel yn llusgo yn llawer hwy nag yr oedd neb wedi breuddwydio y gwnai, penderfynodd y weinyddiaeth apelio at y wlad. Gofynnodd am hawl i ddwyn y rhyfel ymlaen i fuddugoliaeth, ac nid oedd amheuaeth beth a fyddai'r dyfarniad ynghanol berw'r ymrafael a'r teimladau rhyfelgar. Bu yn rhaid i Mr. Lloyd George ymladd am ei fywyd gwleidyddol yn y Bwrdeisdrefi—a bu bron iddo orfod ymladd am ei fywyd fel arall hefyd. Dewisodd y Toriaid Colonel Platt, tirfeddiannwr lleol, i'w cynrychioli, a theimlid yn bur hyderus y llwyddid i orchfygu Mr. Lloyd George y tro hwn. Onid oedd llu o Ryddfrydwyr yr etholaeth wedi condemnio ei agwedd at y rhyfel ac wedi troi eu cefnau arno? Credai Rhyddfrydwyr hefyd fod y rhagolygon yn ddu ddigon. Ym Mangor ymosododd tyrfa fygythiol ar y Penrhyn Hall pan oedd Mr. Lloyd George yn siarad; torwyd ffenestri a cheisiwyd torri'r drysau a tharawyd Mrs. Lloyd George yn ei phen pan ddaeth allan o'r cyfarfod. Mynnodd yntau gerdded trwy'r dyrfa fygythiol, ac ym marn y rhai oedd yno bu mewn perygl am ei fywyd. Er y cwbl, llwyddodd nid yn unig i gadw'r sedd ond hefyd i gynyddu'r mwyafrif. Y mae'n werth sylw mai'r bobl a gollodd fwyaf o gefnogaeth yn yr etholiad hwnnw oedd pobl y llwybr canol, y Liberal Imperialists.

Enghraifft o ddewrder, dibris bron, Mr. Lloyd George oedd ei waith yn myned i Birmingham i siarad yn erbyn y rhyfel. Yn ychwanegol at y teimlad rhyfelgar oedd wedi meddiannu'r holl wlad, yr oedd gan Birmingham reswm arall dros gasau Mr. Lloyd George. Yno yr oedd cartref Joseph Chamberlain; yr oedd megis duw yno, ei air yn ddeddf a dylanwad ei bersonoliaeth ar bob peth bron ym mywyd y ddinas. Penderfynodd rhyw adran o bobl Birmingham na chai Mr. Lloyd George siarad. Y mae'n bosibl fod rhyw rai o'r mob wedi penderfynu hefyd na chai fyned adref yn fyw. Ni chafodd ddywedyd mwy nag ychydig frawddegau a bu yn rhaid iddo adael y neuadd yng ngwisg plisman, ynghanol tyrfa o blismyn gwirioneddol. Gorfoleddodd ei wrthwynebwyr am iddynt lwyddo i roddi taw arno am y tro. Nid oeddynt yn rhagweled y byddai Birmingham, ymhen tipyn gydag ugain mlynedd, yn ymbil ar i Mr. Lloyd George ddyfod yno, i'r un neuadd, i gael ei anrhydeddu â rhyddfreiniad y ddinas.

Myned o ddrwg i waeth yr oedd pethau yn y blaid Ryddfrydol. Y mae rhyfel bob amser yn andwyol i Ryddfrydiaeth, ac i bob golwg yr oedd y Rhyddfrydwyr wedi ymrannu yn ddiobaith cyn diwedd y rhyfel hwn. Mynnai Asquith fod y Boeriaid wedi gwneud y rhyfel yn anorfod a bod yn rhaid rhyddhau Deheudir Affrica oddiwrth "ormes bwdr " Kruger a'i blaid. Ar y llaw arall yr oedd Rosebery yn tueddu i ddadlau o blaid terfyn buan i'r rhyfel ac ymreolaeth gyffredinol i Ddeheudir Affrica, a chondemniodd Campbell-Bannerman "ddulliau barbaraidd" Prydain yn erbyn y gelyn. Daeth y diwedd yn fwy trwy ddoethineb a rhesymoldeb Kitchener, y cadfridog ar y maes, nag o herwydd dim ddoethineb na gwelediad ar ran gwleidyddwyr megis Chamberlain a Milner, ac y mae'n werth cofio mai un o ddadleuon Kitchener pan yn trafod telerau heddwch gydag arweinwyr y Boeriaid oedd y byddai gweinyddiaeth Ryddfrydol yn sicr o fod mewn awdurdod ym Mhrydain cyn bo hir a bod yn debyg y byddai i honno ganiatau ymreolaeth i'w gwlad. Y mae'n fwy na thebyg fod y Boeriaid hwythau yn casglu y byddai gwyr fel Mr. Lloyd George yn aelodau o'r weinyddiaeth honno.

Daethai Mr. Lloyd George trwy'r praw. Yr oedd wedi heneiddio ac, mewn ystyr, wedi difrifoli. Bu trwy bair ffyrnig iawn. Yr oedd yn parhau yn amhoblogaidd, ond yr oedd parch erbyn hyn yn gymysg â'r amhoblogrwydd. Dangosodd y medrai ddewis ei ochr ac ymladd drosti i'r pen. Dangosodd ei fod yn barod i golli popeth yn y frwydr honno. Os oedd yn bosibl ar y cychwyn y collai ei fywoliaeth a'i einioes wleidyddol, yr oedd yn amlwg erbyn ei therfyn ei fod yn un o'r gwyr yr oedd yn rhaid cyfrif arnynt yng ngwladlywiaeth y dyfodol. Yr oedd ei hyawdledd a'i ynni, ei angerdd a'i ddewrder wedi sicrhau ei le, ac at y pethau hyn y mae'n rhaid ychwanegu y gwelediad pell a chraff a ddangosodd yn ystod yr ymgyrch. Y mae doethineb wleidyddol ac eangder gwelediad yn amlwg yn rhai o'i areithiau yn ystod y cyfnod cythryblus a thymhestlog hwn.

PENNOD V.

YN 1902, ar derfyn y rhyfel, yr oedd Mr. Lloyd George yn rhywbeth heblaw aelod Cymreig. Dywedwyd mai Cymru oedd cefndir ei hanes am gyfnod, ond ar ôl rhyfel Deheudir Affrica y mae'r cefndir yn newid. Nid wyf yn bwrw unrhyw amheuaeth ar gariad Mr. Lloyd George at Gymru trwy ddywedyd hyn; ni all neb fod yn ei gymdeithas hyd yn oed am ychydig oriau heb wybod pa mor ddwfn yw ei ddiddordeb yn ei wlad a pha mor eang yw ei wybodaeth amdani. Ond bellach y mae yn raddol yn peidio bod yn arweinydd Cymreig yn yr hen ystyr a throir ei egnion fwy-fwy i gyfeiriadau gwladlywiaeth Brydeinig yn gyffredinol. Nid dyma'r lle i drafod yr hen gwestiwn ai mantais ai colled i Gymru a fu hynny. Erys y ffaith.

Ni ddarfu yn llwyr am y chwiw ymherodraethol gyda gorchfygiad y Boeriaid. Ymhen ychydig fisoedd ar ôl cyhoeddi heddwch ymneilltuodd Salisbury, yr hen Brif Weinidog, a chymerwyd ei le gan Mr. Balfour, ond yr oedd Mr. Chamberlain, gyda'i ynni a'i rym, yn aros o hyd. Nid oes yma le i drafod gyrfa'r weinyddiaeth yn fanwl yn ystod y blynyddoedd ar ôl y rhyfel, ond digwyddodd dau beth a baratodd y ffordd i'w dymchweliad ac a hyrwyddodd undeb rhwng gwahanol garfannau y blaid Ryddfrydol. Yn yr un flwyddyn ag y daeth y rhyfel i ben cyflwynodd Mr. Balfour ei Fesur Addysg, ac ychydig yn ddiweddarach dechreuodd Mr. Chamberlain, ar ôl ei ymweliad â Deuheudir Affrica, ei ymgyrch o blaid diffyndollaeth. Arwr y frwydr yn erbyn Diffyndollaeth ac o blaid Masnach Rydd oedd Mr. Asquith. Cymrodd Mr. Lloyd George ei ran ynddi, ond ni wnaeth y marc ar y maes yma a wnaeth mewn meysydd eraill. Ond ef oedd arwr amlycaf y gwrthwynebiad i fesur addysg Balfour.

Amcan y mesur oedd diddymu'r hen fyrddau ysgol a throsglwyddo rheolaeth addysg i awdurdod y cynghorau sir a'r cynghorau bwrdeisiol. Cydnabyddir bellach fod y rhan yna o'r cynllun yn un da a bod y reolaeth newydd yn fwy goleuedig ac yn fwy effeithiol na hen reolaeth y byrddau bychain lleol. Ond mynnodd y weinyddiaeth gymryd cam pellach, ac ynghylch hwnnw y bu'r helynt. Hyd yn hyn nid oedd yr ysgolion gwirfoddol, hynny ydyw, yr ysgolion enwadol oedd heb fod yn ysgolion bwrdd, yn cael arian o'r trethi at eu cynnal, yn uniongyrchol, beth bynnag. Dibynnent ar gyfraniadau gwirfoddol eu cefnogwyr ac ar ambell grant gan y wladwriaeth. Yn y mesur newydd trefnid eu bod i gael cymorth o'r trethi lleol a bod cynrychiolwyr y trethdalwyr i fod ar eu byrddau llywodraethol, ond yr oedd rheolaeth yr ysgolion i fod, megis o'r blaen, yn nwylo eu perchenogion.

Yn awr, ysgolion a godwyd ac a gynhaliwyd gan yr Eglwys Sefydledig oedd y rhan fwyaf o'r ysgolion hyn, a chan mai hi oedd yn eu cynnal, ganddi hi hefyd yr oedd yr hawl i benodi'r athrawon ac i benderfynu pa fath o addysg grefyddol a gyfrennid ynddynt. Yr oedd llawer o ardaloedd, yn enwedig yn Lloegr, lle nad oedd ysgolion eraill, naill ai oherwydd na theimlai trigolion yr ardaloedd hynny fod angen am ysgol fwrdd neu am na cheid tir i godi ysgol felly arno, a chododd yr Ymneilltuwyr wrthwynebiad i'r mesur ar unwaith ar y tir ei fod yn rhoddi arian y cyhoedd lle nad oedd gan y cyhoedd wir reolaeth arnynt. Dadleuid fod y peth yn drais ar gydwybod Ymneilltuwyr, ac yn Lloegr cychwynwyd y mudiad a adnabyddir fel y Passive Resistance Movement. Hynny ydyw, gwrthododd llawer o Ymneilltuwyr, ac yn eu plith rai gwyr amlwg iawn fel Dr. Clifford, dalu treth at yr amcan o gynnal ysgolion enwadol ac atafaelwyd ar eu heiddo er mwyn cael yr arian. Yng Nghymru trawodd Mr. Lloyd George ar gynllun arall.

Ond cyn iddi ddyfod i hynny bu brwydrau seneddol poethion iawn o blaid ac yn erbyn y mesur, Arglwydd Hugh Cecil yn amlwg iawn ar y naill ochr a Mr. Lloyd George ar y llall. Talodd Mr. Balfour deyrnged i fedr Mr. Lloyd George yn yr ymgyrch yn y senedd a phrofodd yntau ei hun yn ddadleudd medrus ac effeithiol. Yr oedd yn gyflym, yn barod ac yn graff, a llwyddodd ar hyd yr amser i hoelio sylw ar fan gwan y mesur, sef y cymorth o'r trethi heb reolaeth gyhoeddus ar wario'r arian. Pan ddaeth y mesur yn ddeddf trosglwyddwyd yr ymgyrch i'r wlad ac aeth Mr. Lloyd George i Gymru i arwain y gwrthwynebiad. Ei gynllun yng Nghymru oedd atgyfodi hen ddelfryd Tom Ellis am swyddogaeth y cynghorau sir fel cynrychiolwyr syniadau a dymuniadau'r genedl. Anogodd y cynghorau i weinyddu amgylchiadau'r ysgolion eglwysig ar yr un tir ag yr oeddynt arno o'r blaen a thrwy hynny beidio gwario dim o arian y trethi lleol arnynt. Nid oedd y grantiau taladwy dan y Ddeddf yn ddigonol at gynhaliaeth yr ysgolion a bwriad y ddeddf oedd cyflenwi'r diffyg o'r trethi lleol. Dadleuai'r Cynghorau Sir Cymreig, o dan symbyliad Mr. Lloyd George ac eraill, y golygai hynny ddefnyddio arian cyhoeddus heb fod rheolaeth gyhoeddus arnynt a gwrthodasant wneud hynny. Aethpwyd gam ymhellach ym Meirion ac agorwyd ysgolion newydd gan yr awdurdod lleol mewn ardaloedd lle nad oedd ond ysgolion eglwysig o'r blaen.

Rhoddodd hynny ei chyfle i'r llywodraeth. Daeth a mesur i'r senedd i orfodi'r cynghorau Cymreig i ufuddhau trwy roddi awdurdod i'r Bwrdd Addysg wario'r arian angenrheidiol ar yr ysgolion enwadol ac atal symiau cyfartal oddiar y cynghorau. Gwthiodd Mr. Balfour y mesur trwy'r Tŷ trwy roddi terfyn buan ar y drafodaeth ar bob adran ohono a chododd dadl ffyrnicach ar hyn nag ar y mesur gwreiddiol ei hun. Unwaith gwrthododd Mr. Lloyd George a nifer o aelodau Cymreig eraill adael y Tŷ adeg ymraniad; cytunodd Mr. Asquith â'r brotest, ac ni chymrodd y Rhyddfrydwyr ran bellach mewn trafodaedd a oedd, yn eu barn hwy, yn gwbl ddiystyr. Pasiwyd y mesur gorfodi, ond mewn gwirionedd ni bu ond llythyren farw.

Cofiaf fod mewn cynhadledd yn y Bala yn 1905 pan ddaeth llu o'r aelodau Cymreig yno i wrthdystio yn erbyn y mesur ac yn erbyn gwaith y llywodraeth yn symud i roddi'r ddeddf mewn grym yn erbyn ysgol Llawr y Betws. Yr oedd Alfred Thomas yno ac Ellis Griffith, Herbert Roberts a Herbert Lewis, Frank Edwards ac Osmond Williams a William Jones, ymhlith eraill. Yn yr un sêt fawr eisteddai'r Parch. Evan Jones, Caernarfon, ac arweinwyr eraill. Nid oedd Bryn Roberts yno; condemniai ef y gwrthryfel yn bendant; mynnai na ellid gwneud dim effeithiol i orchfygu'r ddeddf ond trwy ei diddymu yn y senedd, ac ymhen blynyddoedd wedyn dywedodd wrthyf na ddylasai Rhyddfrydwyr fod wedi rhoddi esiampl ddrwg trwy wrthod ufuddhau i ddeddf seneddol. Yn ei farn ef, yr oedd yr esiampl honno mewn rhan, beth bynnag, yn gyfrifol am yr hyn a ddigwyddodd yn Ulster ymhellach ymlaen ac hefyd am y pethau a wnaeth merched milwriaethus yn ymgyrch y bleidlais. Ond y diwrnod hwnnw nid oedd ond brwdfrydedd yn y Bala, a dechreuodd Mr. Lloyd George ei araith trwy ddywedyd fod y llywodraeth, ar ôl misoedd o neilltuaeth, wedi dyfod allan ac "wedi taro ei throed ar Lawr y Betws." Aeth ymlaen i ddywedyd ei bod wedi meddwl fod Cymru wedi ymgolli gormod yn y diwygiad crefyddol oedd yn ysgubo tros y wlad y pryd hynny i gymryd sylw o'r hyn a wnai hi yng Nghymru. "Ond peth peryglus," meddai, " ydyw codi cenedl oddiar ei gliniau ar ei thraed." Dyma, y mae'n debyg, y tro olaf i Mr. Lloyd George sefyll fel arweinydd ei gyd-genedl yn unig, ac yn yr ymgyrch hwn, hyd yn oed, yr oedd mwy na Chymru yn y fantol. Rhan oedd y frwydr yng Nghymru o'r frwydr oedd yn myned ymlaen yn Lloegr hefyd. Yn raddol tynnid Mr. Lloyd George i gylch gwleidyddiaeth y tu allan i Gymru.

Cydnabyddid hynny gan arweinwyr y pleidiau yn y senedd, ac os oedd Cymru yn sylweddoli fod y peth yn digwydd nid oedd yn gwarafun iddo ddigwydd. Dyfelid, yng Nghymru ac yn Lloegr, beth a fyddai swydd Mr. Lloyd George yn y weinyddiaeth Ryddfrydol nesaf, a'r un oedd y teimlad yng Nghymru wrth feddwl am hynny â phan dderbyniodd Tom Ellis swydd dan Gladstone. Daeth y cyfle yn weddol fuan. Chwalodd Chamberlain ei blaid ei hun ar bwnc y tollau, ac wedi oedi'n nychlyd am hir amser, ymddiswyddodd Mr. Balfour a ffurfiodd Syr Henry Campbell-Bannerman weinyddiaeth Ryddfrydol y gellid ei galw yn weinyddiaeth yr holl dalentau. Nid yn aml y bu Cabinet â chynifer o ddynion enwog a galluog ynddo; nid yn aml, chwaith, y bu gweinyddiaeth â chymaint o ddynion ieuanc a chymharol ieuanc galluog yn ei chefnogi yn y Senedd ac yn y wasg. Yr oedd yn dda gan y wlad gael gwared â'r weinyddiaeth a fu mewn grym ers deng mlynedd a disgwylid am nef newydd a daear newydd gan ei holynydd. Yn etholiad cyffredinol 1906 rhoddwyd mwyafrif i'r Rhyddfrydwyr na welwyd ei debyg erioed o'r blaen. Gorchfygodd Mr. Lloyd George ei wrthwynebydd Toriaidd, Mr. Naylor, Sais o Warrington, gyda 1,224 o bleidleisiau wrth gefn-y mwyafrif mwyaf a gafodd hyd hynny.

Yn yr etholiad hwnnw y dechreuwyd canu cân etholiad ym Mwrdeisdrefi Arfon gyda'r byrdwn,

Y Gwir Anrhydeddus David Lloyd George,

canys yr oedd ef bellach yn Llywydd y Bwrdd Masnach ac, yn rhinwedd y ffaith ei fod yn Weinidog y Goron, yn aelod o'r Cyfrin Gyngor. Y mae'n debyg mai tua'r adeg yma y dechreuodd y brwdfrydedd mawr o blaid Mr. Lloyd George godi yng Nghymru. Yr oedd ganddo ei ddilynwyr brwd o'r blaen, ond yr oedd ganddo ei feirniaid hefyd ymhlith ei blaid ei hun. Agwedd braidd yn feirniadol oedd eiddo Meirion, er enghraifft, tuag ato mewn adeg y gallaf fi ei chofio, ac yr oedd llawer o'r Rhyddfrydwyr mwyaf hen ffasiwn yn parhau i edrych arno fel gŵr oedd braidd yn rhy eithafol ac yn rhy finiog ei dafod. Bellach, fel y dywedwyd, yr oedd yn peidio a bod yn arweinydd Cymreig yn ystyr lawnaf y gair, ond yn y cyfnod yma serch hynny y dechreuodd ddyfod yn eilun mwyafrif y genedl hefyd. Ni all neb a'i gwelodd anghofio brwdfrydedd chwarelwyr Arfon yng Nghaernarfon dydd yr etholiad yn 1906, ac yr oedd y brwdfrydedd tanbaid hwnnw yn arwydd o'r hyn oedd yn ymledu dros Gymru oll.

Syndod i bawb bron oedd i Mr. Lloyd George gael ei ddewis yn Llywydd Bwrdd Masnach; ychydig oedd wedi meddwl fod ganddo y cymwysterau angenrheidiol at swydd ddiramant a diantur o'r fath. Eithr yn ei achos ef, fel yn achos Joseph Chamberlain ac un neu ddau arall, y dyn oedd yn gwneud y swydd ac nid y swydd yn gwneud y dyn, a chyn bo hir dechreuodd dynion busnes sylweddoli fod y gweinidog newydd yn ddyn llawn mor ymarferol â hwythau ac yn deall llawer o'u problemau yn well na hwy. Ail-drefnodd borthladd Llundain, diogelodd fywydau llongwyr trwy fesur yn ymwneud â llongau marsiandiaeth, a llwyddodd i ddwyn y pleidiau at ei gilydd ac i gytundeb pan gododd anghydfod ar y ffyrdd haiarn a fygythiai ddrysu ac andwyo masnach y wlad. Barn pawb oedd fod Mr. Lloyd George yn llwyddiant digamsyniol yn ei waith newydd a newidiodd syniad llawer o bobl amdano. Tybient fod y "dyn gwyllt " peryglus wedi ei ddofi. Yr oeddynt i sylweddoli eu bod wedi camgymeryd.

Arwahan i'w lwyddiant personol ef yn ei swydd, tymor siomedig a thymhestlog ddigon a fu'r blynyddoedd rhwng 1906 a 1909 i'r weinyddiaeth newydd. Yr oedd ganddi gynlluniau eang; yr oedd wedi ymrwymo i roddi ymreolaeth i Iwerddon, datgysylltiad i Gymru, a phasio deddf addysg newydd a deddf ddirwest newydd, a cheisiodd ymgodymu â hyn oll, a mwy. Ond yr oedd Tŷ'r Arglwyddi ar y ffordd; mewn awr wan neu anwyliadwrus cyfaddefodd Balfour nad oedd waeth mo'r llawer beth a wnai gweinyddiaeth Ryddfrydol, fod yr Arglwyddi yno i wylio na chaent wneud gormod. Ac yn fuan iawn gwelwyd fod hynny yn wir. Y peth mwyaf y llwyddodd Campbell-Bannerman i'w wneud oedd rhoddi ymreolaeth i'r ddwy weriniaeth orchfygedig yn Neheudir Affrica, a thrwy'r weithred ddewr honno sicrhaodd gyfeillgarwch ddaeth arweinwyr blaenaf y Boeriaid tuagat Brydain pan dydd y praw yn 1914. Eithr yr oedd yn amlwg fod y gobeithion a goleddid am waith y weinyddiaeth newydd yn troi yn siomiant ac yn ddiflastod yn y wlad, a dechreuodd yr etholiadau achlysurol ddangos fod poblogrwydd y weinyddiaeth ar drai. Chwyrnodd Cymru hefyd oblegid yr oediad ynghylch datgysylltiad; tybid fod sêl Mr. Lloyd George wedi oeri, amheuid fod tinc gwahanol, tinc gochelgarwch swyddogol, wedi dyfod i'w areithiau, a phenderfynwyd galw cynhadledd genedlaethol yng Nghaerdydd i'w alw ef a'r weinyddiaeth at eu coed. Nid oedd gan Mr. Lloyd George, yn anad neb, hawl i gwyno oblegid hyn, canys ef ei hun oedd wedi dysgu Cymru sut i wrthryfela ac i wrthdystio, ond y tro hwn nid oedd ef ar flaen y gad wrthryfelgar a gwelwyd fod angen arweinydd i wrthryfel. Aeth ef ei hun i Gaerdydd i gyfarfod y cwynfannwyr, gwnaeth araith a drodd gynhulliad drwg-dybus, oeraidd, yn gynulleidfa frwdfrydig, a diweddodd gyda'r geiriau, "Duw a wyr mor annwyl yw Cymru lân i mi." Yr oedd yn bur eglur bellach, pa beth bynnag a ddigwyddai i Mr. Lloyd George a'r weinyddiaeth, y gallai ef bob amser syrthio'n ôl ar Gymru, a bu'r gefnogaeth yma yn nerth ac yn noddfa iddo lawer gwaith yn ystod ei yrfa.

Ym mis Ebrill, 1908, ymddiswyddodd Campbell-Bannerman-bu farw yr un mis—a phenodwyd Asquith, Canghellor y Trysorlys, yn Brif Weinidog. Er syndod i rai, dilynwyd ef yn y Trysorlys gan Mr. Lloyd George. Dywedodd Dame Margaret Lloyd George wrthyf unwaith fod ei phriod wedi dywedyd wrthi pan dderbyniodd y swydd newydd ei bod yn swydd segur o'i chymharu â gwaith Llywydd Bwrdd Masnach, nad oedd dim i'w wneud ond paratoi'r Gyllideb unwaith yn y flwyddyn. Atebodd hithau y ceid gweled. "Ac yr oeddwn yn fy lle,' ychwanegai." Cyn pen ychydig iawn yr oedd ynghanol yr helynt ynghylch y Gyllideb fwyaf dadleuol o fewn cof neb a'r ymdrech ffyrnig o blaid ac yn erbyn Deddf Yswiriant."

Fel y dywedwyd, colli tir yr oedd y weinyddiaeth cyn ymddiswyddiad Campbell-Bannerman, a'r syniad cyffredin oedd na byddai i Asquith, gyda'i gyd-Liberal Imperialists. Fowler a Haldane a Grey, lwyddo i'w chryfhau. Dywedodd Bonar Law wrth Mr. Lloyd George tua'r adeg yma, pe ceid etholiad, na lwyddai'r Rhyddfrydwyr i gadw hanner cant o seddau yn Lloegr, ac yr oedd llawer o bobl o'r un farn. Asquith ei hun a gyflwynodd Gyllideb y flwyddyn honno, gan mai ef a'i paratodd, ac yn y Gyllideb yr oedd darpariaeth ar gyfer pensiynau'r hen, awgrym. o'r hyn oedd i ddyfod. Pan ddaeth mesur y pensiynau i Dŷ'r Arglwyddi dywedodd Arglwydd Lansdowne, arweinydd y Toriaid, fod rhesymau terfynol yn ei feddwl. ef yn ei erbyn ond yr ofnai y camddeellid gwaith yr Arglwyddi pe gwrthodent y mesur, a chredai Rosebery, cyn-Brif Weinidog Rhyddfrydol, y gallai'r fath wario afrad roddi ergyd farwol i'r Ymherodraeth. Y mae'n werth cofio am bethau fel hyn er mwyn deall yn well y cyfnewidiad oedd i ddyfod.

Ar faterion eraill yr oedd Tŷ'r Arglwyddi yn parhau yn ystyfnig ac yn rhwystr, ac ychwanegid at anawsterau'r weinyddiaeth gan y safle ryng-wladol. Yr oedd anesmwythyd mawr yn Ewrob, ac yn y wlad hon pwysid am ychwanegiad sylweddol yn y llynges. Yr oedd Mr. Lloyd George a Mr. Winston Churchill yn erbyn y gofyn mwyaf eithafol gan gredu nad oedd ond yn gwahodd cydymgais pellach ar ran yr Almaen ac na byddai pethau yn ddim gwell yn y diwedd, a bu yn ddadl boeth, yn y Cabinet ac yn y wasg. Y diwedd fu cytuno i'r ychwanegiad ond ar yr amod, os oedd arian i'w gwario ar arfogaeth eu bod i'w gwario hefyd ar welliannau cymdeithasol. Dywed Mr. Spender, yng nghofiant Asquith, mai dyma'r cyfle y manteisiodd Mr. Lloyd George arno. "It took him at a bound," medd, out of the ruck of conventional Chancellors of the Exchequer, engaged him in the kind of controversy in which he most delighted, promised new issues and adventures for a party which after three years was beginning to feel the inevitable reaction." Yr oedd eisiau codi pedwar miliwn ar ddeg trwy drethiant newydd, swm dibwys ddigon wrth wario aruthrol y blynyddoedd hyn ond swm a ymddangosai yn anferth, os nad yn amhosibl, i lawer iawn yn y blynyddoedd hynny. Wynebodd Mr. Lloyd George ar y gwaith mewn ysbryd newydd a chyda syniadau newydd.

Nid yw darpariadau Cyllideb enwog 1909 yn ymddangos yn chwyldroadol iawn erbyn hyn. Yr oedd treth yr incwm i godi yn raddol o 9c. i 1/2 yn y bunt; yr oedd treth ar ben hynny i ddechrau ar £3,000 i'r rhai yr oedd eu hincwm uwchlaw £5,000, ac yr oedd darpariaeth yn y Gyllideb i brisio tir ac i dolli'r cynnydd yng ngwerth tir a oedd i'w briodoli i rywbeth heblaw gwaith ei berchennog. Hynny ydyw, gosodid toll o un ran o bump pan werthid yr eiddo neu ar farwolaeth ei berchennog ar unrhyw gynnydd a ddigwyddai ar ôl y prisio cyntaf pan fyddai'r cynnydd hwnnw i'w briodoli i'r ffaith fod tref yn ymestyn i gyfeiriad y tir hwnnw neu rhyw reswm o'r fath. Gosodid toll o ddimai'r bunt hefyd ar dir a gedwid heb ei "ddatblygu" er mwyn cael mwy amdano ymhellach ymlaen. Dyma'r darpariadau a ffyrnigodd wrthwynebwyr y Gyllideb. Y mae'n debyg iawn fod Mr. Lloyd George yn gwybod yn eithaf da pan yn paratoi'r cynllun y byddai yn sicr o gynddeiriogi perchenogion tiroedd, ond cytunai Asquith ag ef fod y tollau yn gyfiawn. Yr oedd y cynnydd mewn gwerth, meddai'r Prif Weinidog, i'w briodoli i gynnydd, ac yn aml iawn, i draul, y gymdeithas o gwmpas y tir, ac yr oedd yn gyfiawn i'r Wladwriaeth gael ei rhan o'r gwerth a gynyrchwyd gan y bobl. Dywedir heddiw na chyfiawnhaodd y tollau eu hunain a diddymwyd hwynt pan oedd ei hawdur yn Brif Weinidog. Ond cred llawer eto fod yr egwyddor yn iawn ac y bydd yn rhaid cael rhywbeth tebyg drachefn pan ddeuir i atrefnu pethau ar ôl y rhyfel.

Yr oedd Mr. Lloyd George bellach ar fin un o frwydrau poethaf a ffyrnicaf ei yrfa, brwydr a oedd yn myned i newid sylfeini'r cyfansoddiad Prydeinig.

PENNOD VI.

Y MAE'N amheus a oedd rhywun yn rhagweled maint na ffyrnigrwydd yr ymdrech honno. Paratodd y Canghellor ei gynlluniau ac, yn ôl yr arfer aeth i weled y Prif Weinidog wedi eu cwblhau. Gwrandawodd Asquith arno yn amlinellu ei Gyllideb mewn distawrwydd, ac ar ôl iddo orffen dywedodd, "Crcdaf y gwna'r tro." Dywedodd Mr. Lloyd George wrthyf, yng nghwrs ymgom a gyhoeddwyd yn y Liverpool Daily Post ym mis Ebrill, 1940, fod Asquith wedi sefyll wrth ei gefn ar hyd yr ymgyrch, a rhoddodd enghraifft nodedig o awdurdod Prif Weinidog yn ei Gabinet. Nid oedd pawb yn y weinyddiaeth, o lawer iawn, yn hoffi darpariadau'r gyllideb yn wir, y mae'n amheus a oedd rhywun heblaw Asquith a Mr. Lloyd George yn eu cefnogi i gyd—ac un diwrnod aeth yn ddadl boeth yno ynghylch un adran. Yr oedd pawb yn erbyn yr adran, a bu yn rhaid i Mr. Lloyd George dynnu'r holl ewinedd o'r blew ac ymladd dau fywyd dros ei bwnc. O'r diwedd dywedodd Asquith: "Cawsom drafodaeth lwyr iawn ar y mater a chredaf fod y farn ar y cyfan o blaid y mesur fel y mae." "A minnau," meddai Mr. Lloyd George wrth adrodd yr hanes, a fflach ddireidus yn ei lygaid, "wedi bod hollol ar fy mhen fy hun o'i blaid! Dyna ddangos i chwi beth yw awdurdod Prif Weinidog yn ei Gabinet."

Ni bu'r fath helynt ynghylch Cyllideb yng nghof neb. Yr oedd plaid y tirfeddiannwyr a chefnogwyr yr hen drefn yn ddigon craff i wybod mai dechrau trefn newydd oedd yma a pharatoasant i ymladd i'r pen. Trefnodd Mr. Lloyd George ei luoedd hefyd, sefydlwyd y Budget League, a gwnaeth awdur y Gyllideb gyfres o areithiau yn y wlad a enynnodd frwdfrydedd tanbaid ei gefnogwyr a ffyrnigrwydd yr un mor danbaid ymhlith ei wrthwynebwyr. Y mae sôn hyd heddiw am araith Limehouse ac am araith Caernarfon. Yr oeddwn yn gwrando ar yr araith yng Nghaernarfon, yn 1909, ac yr oedd yn brofiad i'w gofio. Yr oedd y Pafiliwn, a ddeil tua chwe mil o bobl, yn orlawn o'r llawr i'r to; yr oedd rhai pobl, a oedd wedi methu cael lle yn unman arall, wedi dringo i ddistiau'r nenfwd ac yn eistedd yn yr uchelderau poeth a pheryglus hynny ar hyd y cyfarfod, ac ni thybiaf y buasai'n bosibl gwasgu cymaint ag un yn rhagor i mewn i'r adeilad. Amddiffyniad i ddarpariadau'r Gyllideb ar gyfer y tlawd a'r diamddiffyn oedd yr araith ar ei hyd, ac yn sicr ni wrandewais i erioed ar ddim hyotlach na rhai darnau ohoni. Ar adegau yr oedd yr areithiwr yn ddigrif y tuhwnt, ond coron yr araith—a choron areithyddiaeth Mr. Lloyd George, efallai—oedd y diweddglo. Daeth dwyster newydd i'r llais ariannaidd a daeth distawrwydd llethol ar y gynulleidfa fawr. Dechreuodd yr areithiwr sôn am y dymestl oedd wedi codi oherwydd y darpariadau yn y Gyllideb a dywedodd nad oedd arno ofn y storm. Nid ar gyfnod o hindda, meddai, y byddent yn myned i'r coed yn Llanystumdwy i gasglu cynnud pan oedd ef yn blentyn, ond pan fyddai'r dymestl wedi rhwygo'r goedwig ac wedi hulio'r llawr â brigau a changhennau. Felly, ar ôl y dymestl hon byddai cynnud i gynhesu aelwydydd hen bobl ac i sirioli bywyd y tlawd. Ac ar hynny torodd yr argae. Y mae llawer o lwyddiant Mr. Lloyd George i'w briodoli i'w ddewrder, i'w gyflymder meddwl, i'w ragwelediad pell, ond yn sicr ni ddylid anghofio ei ddawn areithyddol anghymarol, hen ddawn y pulpud Cymreig ar ei orau, y gallu i ysgwyd, i ddiddori, i gynhyrfu ac i argyhoeddi tyrfaoedd o bobl.

Yr oedd ei ddawn i chwerthin am ben ei wrthwynebwyr yn eu cynddeiriogi yn gymaint â dim. Main a llym oedd ei gleddyf ac yr oedd yn trywanu cyn i'r gwrthwynebydd sylweddoli ei fod mewn perygl. Tua'r adeg yma y dywedodd pendefig ar goedd y rhostiai eidion yn gyfan y dydd y gorchfygid Mr. Lloyd George. Gwell iddo gymryd gofal rhag mynd yn rhy agos i'r tân," meddai Mr. Lloyd George yn ei araith nesaf, rhag i gamgymeriad anffodus ddigwydd!" Ymyrodd Arglwydd Rothschild yn y ddadl yn erbyn cynlluniau Mr. Lloyd George; atebodd y Canghellor ef mewn araith yn fuan wedyn, ac ni ddaeth Arglwydd Rothschild i'r ornest mwy. Gofynnodd y Brenin Edward VII. i Asquith geisio llareiddio areithiau ei Ganghellor, ond nid oes amheuaeth nad oedd yr areithiau hynny wedi adfywio'r blaid Ryddfrydol ac wedi creu gobaith newydd ym mynwesau gwerin gwlad. Yr oedd dau ŵr yng ngwladlywiaeth Prydain wedi ymdrechu gwella'r drefn gymdeithasol o'r blaen; un oedd yr ail William Pitt, a lesteiriwyd ac a drowyd oddiar ei lwybr gan y rhyfel yn erbyn Napoleon, a'r llall oedd Joseph Chamberlain, a gamddeallwyd gan Gladstone ac a gollodd y ffordd ar ymreolaeth. Yn awr, yr oedd gŵr arall yn bygwth myned ymhellach na'r un o'r ddau. Yr oedd gwersyll y gwrthwerinwyr wedi ei gynhyrfu trwyddo.

Ac yn y cynnwrf hwnnw gwnaeth arweinwyr y bendefigaeth a'r cyfoethogion y peth ynfytaf yn bosibl. Ar waethaf pob ymdrech o eiddo'r Brenin a rhai o'u harweinwyr doethaf hwy eu hunain ac eiddo'r Prif Weinidog hefyd, penderfynasant wneud yr hyn na freuddwydiodd neb o'r blaen y gallent ei wneud, sef gwrthod y Gyllideb yn Nhŷ'r Arglwyddi ac felly herio'r hen athrawiaeth mai eiddo Tŷ'r Cyffredin yn unig oedd rheolaeth ar faterion ariannol. Apeliodd Asquith at y wlad, dychwelwyd y Rhyddfrydwyr drachefn, gyda llai o fwyafrif, y mae'n wir, ond gyda digon i ddangos i arweinwyr Tŷ'r Arglwyddi nad oedd yn ddiogel gwrthod y Gyllideb yr eildro. Daeth ei darpariadau yn ddeddf ymhen tua blwyddyn ar ôl i'r Canghellor ei chyflwyno y tro cyntaf, ac yr oedd yn amlwg i bawb bellach na ellid gadael pethau yn y lle yr oeddynt. Agorwyd y drws i rywbeth tebyg iawn i chwyldroad cyfansoddiadol.

Nid oes a wnelom ni yma â hanes Deddf y Senedd na llawer o'r pethau a'r dadleuon a ddilynodd ddau etholiad 1910 (bu yn rhaid i Mr. Lloyd George ymladd am ei sedd yn y ddau) ymhellach na dywedyd i Mr. Lloyd George gymryd rhan amlwg yn yr holl weithrediadau. Ond ei ran amlycaf ef ynglŷn â digwyddiadau'r blynyddoedd ar ôl 1909 oedd gyda datblygiad yr ymgyrch gymdeithasol a gychwynnwyd gyda phensiynau'r hên a'r gyllideb. Peth peryglus ydyw proffwydo, neu geisio proffwydo, am farn cenedlaethau i ddyfod, ond y mae'n eithaf posibl yr ystyrir ymhen blynyddoedd eto mai'r peth pwysicaf a wnaeth Mr. Lloyd George ar hyd ei yrfa oedd sicrhau'r ddeddfwriaeth gymdeithasol a gafodd ffurf yn yr yswiriant rhag afiechyd a rhag diffyg gwaith. Y mae'n anodd i'r rhai nad ydynt yn cofio cyfnod cyn y deddfau hyn sylweddoli'r gwahaniaeth a wnaethant; cyn eu bod nid oedd gan ddegau o filoedd ddim i syrthio'n ôl arno mewn afiechyd ond eu cynilion eu hunain, elusen cyfeillion neu elusen y plwy ac, yn aml iawn, gwasanaeth meddyg y plwy. Nid oedd dim gwrthglawdd rhag angen pan ddeuai diffyg gwaith ond hynny y gallai undeb llafur neu glwb ei roddi am gyfnod, ac yr oedd miloedd lawer nad oeddynt yn perthyn i'r naill na'r llall. Yr oedd tlodi'r werin yn noeth a chreulon a diamddiffyn ac nid oedd gan yr hen ddim i edrych ymlaen ato ond y plwy neu elusen rhai oedd yn aml cyn dloted a hwythau.

Dylid sylweddoli, hefyd, nad oedd llawer iawn o bobl, gan gynnwys lliaws o aelodau selog o'r blaid Ryddfrydol, yn gweled fod dim llawer o'i le yn y cyflwr hwn ar bethau. Tosturient wrth y tlawd, ond wrth wraidd y tosturi hwnnw yn aml yr oedd dwy gred; y naill oedd mai bai'r dyn ei hun oedd ei dlodi, a'r llall oedd 'nad oedd ymyrryd ag achosion y tlodi hwnnw yn unrhyw ran o swyddogaeth y wladwriaeth. Yr oeddwn yn adnabod rhai Rhyddfrydwyr blaenllaw oedd yn credu fel yna; breuddwyd gwyllt Sosialaeth, yn eu barn hwy, oedd tybio y gellid alltudio tlodi trwy ymyrraeth y wladwriaeth â'r drefn gymdeithasol, a bron na chredent fod y drefn honno o ddwyfol ordeiniad ag eithrio y pethau oedd ynglŷn â pherchenogaeth tir a rhyddfreinio prydlesoedd. Yr agwedd yma ar ran Rhyddfrydwyr a wnaeth gyfodiad Plaid Llafur yn anorfod, a chyndynrwydd Rhyddfrydwyr Cymru i gydnabod fod yn rhaid gwneud rhywbeth pendant i wynebu problem tlodi a barodd i gynifer o Gymry droi eu cefn ar eu hên blaid a chofleidio'r newydd. Cofiaf fel y chwyrnai dynion oedd wedi arfer eu cyfrif eu hunain a chael eu cyfrif gan eraill yn Rhyddfrydwyr da pan ddeallasant ystyr mesur yswiriant cenedlaethol cyntaf Mr. Lloyd George. Y mae angen sylweddoli peth felly i ddeall maint y cyfnewidiad a ddilynodd ei ymgyrch o blaid deddfwriaeth gymdeithasol yn y blynyddoedd hynny.

Yn 1911 cyflwynodd Mr. Lloyd George ei fesur i ddarparu gwasanaeth meddygol a rhyw gymaint o dâl yn ystod afiechyd i bersonau yswiriedig o dan y cynllun. Ar y cyntaf rhoddwyd derbyniad gweddol groesawgar i'r cynllun, ond yn y man drwgdybiwyd ei fod yn ymosodiad pellach, fel y gyllideb, ar yr hen gyfundrefn, a chododd gwrthwynebiad ffyrnig iawn o lawer cyfeiriad. Yr oedd y meddygon yn bur feirniadol, yr oedd merched cyfoethog a phendefigaidd yn gwneud areithiau hyawdl ac yn dywedyd na ymostyngent hwy byth i lyfu stampiau i'w rhoddi ar gardiau eu morynion, ac yr oedd y cymdeithasau cyfeillgar hefyd yn bur hwyrfrydig i roddi eu bendith i'r mesur. Bu'r ymgyrch yn un galed neilltuol am beth amser; galwyd ar holl adnoddau Mr. Lloyd George fel dadleuydd ac fel cymodwr, ond yn y bôn yr oedd mwyafrif y bobl yn gweled gwerth y ddarpariaeth ac ni feiddiodd Tŷ'r Arglwyddi wrthod y mesur hwn. Erys, gyda'r darpariadau eraill a'i dilynodd, yn gofgolofn barhaol i welediad a phenderfyniad eu hawdur ac i'r weinyddiaeth a'u gwnaeth yn bosibl.

Ac nid dyna'r cwbl. Yn 1912 ffurfiwyd pwyllgor ar anogaeth Canghellor y Trysorlys i wneud ymchwiliad i ddeddfau'r tir ac i baratoi cynllun i'w diwygio. Yr oedd hyn yn cyffwrdd â'r cysegr sancteiddiolaf, a phan gyhoeddwyd adroddiad y pwyllgor hwnnw ym mis Hydref, 1913, yr oedd yn amlwg ar ei drylwyredd a'i fanyldeb fod sylfeini cadarn yn cael eu gosod i adeilad newydd. Agorodd Mr. Lloyd George ei ymgyrch mewn araith yn Bedford yr un mis a datblygodd gynllun y cydnabyddir heddiw ei fod yn myned at wraidd llawer anhwylder ym mywyd y wlad. Yn yr ymgyrch hon dangosodd unwaith eto y cyfuniad hwnnw o wybodaeth drylwyr a manwl a'r gallu i wneud apel boblogaidd sydd wedi ei nodweddu bron bob amser; yr oedd sylfaen ei ffeithiau yn sicr ac yr oedd ei ddawn i osod y ffeithiau hynny gerbron ac i'w dehongli cyn sicred a hynny. Ond nid oedd ymgyrch y tir ond rhan o'r gwaith yr oedd y weinyddiaeth yr oedd yn aelod mor amlwg ohoni yn ymgodymu ag ef. Yr oedd Iwerddon yn parhau yn broblem o hyd, ac yn fwy o broblem yn awr nag erioed, canys yr oedd Ulster yn bygwth gwrthryfela mewn arfau yn erbyn ymreolaeth a'i gosodai hi ar yr un tir â gweddill Iwerddon, ac yr oedd gwŷr amlwg yn datgan cydymdeimlad ag Ulster, a'r cyfan yn ddiddadl, yn gosod argraff ar feddwl gwledydd eraill fod Prydain wedi ymrannu yn ddiobaith. Yr oedd streic ar ôl streic ddifrifol yn y wlad hon yn bygwth parlysu masnach, ac yr oedd yr ymdrech o blaid sicrhau'r bleidlais i ferched yn datblygu ar linellau eithafol a bygythiol. Yr oedd Mr. Lloyd George bob amser wedi bod o blaid rhoddi'r bleidlais seneddol i ferched, ond nid oedd hynny yn atal y merched milwriaethus rhag terfysgu yn ei gyfarfodydd. Cofir yn hir am y golygfeydd poenus mewn cyfarfod yn Llanystumdwy, pan anrhegwyd Mr. Lloyd George gan ei gyd-ardalwyr, ac mewn cyfarfod arall yng Nghaernarfon yn 1912, pan ymddygwyd yn arw gan ran o'r gynulleidfa at rai o'r merched ac eraill a dorodd ar draws araith Mr. Lloyd George.

Yn 1912, hefyd, dygwyd mesur datgysylltiad yr Eglwys yn Nghymru i'r senedd unwaith yn rhagor, ac enynnodd hwnnw deimladau brwd iawn o'r ddeutu. Taerai rhai mai mesur o gysegr-ysbeiliad oedd, ac atebodd Mr. Lloyd George mai ar gysegr-ysbeiliad yn nyddiau Harri'r Wythfed ac Elizabeth y cyfoethogwyd teuluoedd rhai o'r bobl a gyfodai'r cri hwnnw yn awr. "Y mae eu bysedd," meddai mewn araith yn Nhŷ'r Cyffredin, "yn diferu gan fraster cysegr-ysbeiliad." Fel enghraifft arall o'r hyn a ddywedid yn ystod y ddadl hon gellir crybwyll dywediad F. E. Smith (Arglwydd Birkenhead). Sicrhaodd ef ei wrandawyr fod Mesur Datgysylltiad wedi treisio cydwybod pob cymdeithas Gristionogol yn Ewrob, dywediad a roddodd destun i un o gerddi mwyaf deifio! G. K. Chesterton.

Bu cyfarfod mawr yng Nghaernarfon i wrthdystio yn erbyn y Mesur a chafwyd Archesgob Caergaint (Arglwydd Davidson ar ôl hynny) yno i annerch. Gwnaeth yntau araith mor gymhedrol ac mor amlwg o blaid rhyw fath o gyfaddawd fel y clywais rai o wrthwynebwyr y mesur yn dywedyd ar ôl y cyfarfod y buasai yn well pe buasent wedi cael rhywun arall yno yn ei le. Daeth Mr. Lloyd George i Gaernarfon yn bur fuan ar ei ôl i'w ateb. Pasiodd y mesur trwy Dŷ'r Cyffredin, gwrthodwyd ef gan Dŷ'r Arglwyddi, a daeth yn ddeddf, dan drefniadau Deddf.y Senedd, yn 1914, ar fin y rhyfel. Bu yn rhaid aros hyd 1920 cyn i'r ddeddf ddyfod i rym, ac y mae'n amheus erbyn hyn a ddymunai unrhyw Eglwyswr yng Nghymru fyned yn ôl i'r hen drefn. Yn sicr, darfu am lawer o chwerwder anffodus iawn o'r ddeutu wedi cael yr hen gynnen hon oddiar y ffordd. Newidiodd cyfeiriad gwleidyddiaeth Cymru hefyd.

Ynghanol y cwbl cododd mater personol ynglŷn â Mr. Lloyd George a dau o'i gydaelodau yn y weinyddiaeth. Yr oedd y Weinyddiaeth yn gwneud cytundeb â Chwmni Prydeinig Marconi. Yr oedd Mr. Lloyd George ac eraill wedi prynu cyfranddaliadau yng Nghwmni Americanaidd Marconi, ac ensyniwyd ei fod ef, gyda'r diweddar Arglwydd Reading (Syr Rufus Isaacs y pryd hynny), a'r diweddar Master of Elibank, Prif Chwip y Weinyddiaeth, wedi manteisio ar eu gwybodaeth o fwriadau'r llywodraeth i wneud elw iddynt eu hunain. Penodwyd pwyllgor arbennig i wneud ymchwiliad i'r mater ar unwaith. Yr oedd gelynion y Canghellor—ac yr oedd ganddo lawer—yn ymfalchio ac yn proffwydo ei gwymp, ond cafodd y pwyllgor, ar ôl ymchwiliad manwl i'r holl amgylchiadau, ef a'r ddau arall yn gwbl ddieuog o bob bai difrifol, a datganodd Tŷ'r Cyffredin y farn fod y cyhuddiadau yn ddisail. Nid oedd cytundeb y Weinyddiaeth â Chwmni Prydeinig Marconi o unrhyw fantais i'r Cwmni Americanaidd nag i'r cyfranddalwyr yn y cwmni hwnnw, a'r unig feirniadaeth deg ar y tri aelod o'r Weinyddiaeth ydyw y buasai'n well pe buasent wedi dweyd wrth Dŷ'r Cyffredin ar y cychwyn eu bod wedi prynu'r cyfranddaliadau Americanaidd, a chamgymeriad mewn barn ac nid mewn egwyddor oedd hynny. Asquith a fuasai'r olaf o bawb i geisio taflu cochl dros unrhyw beth dianrhydeddus mewn bywyd cyhoeddus, a dywedodd ef nad oedd gwmwl o gwbl ar enw Mr. Lloyd George a bod ymddiried ei gyd-aelodau yn y weinyddiaeth ynddo yn ddisyfl.

Cyn belled yn ôl a 1910 yr oedd Mr. Lloyd George wedi cymryd cam nodweddiadol ac awgrymiadol iawn. Yr oedd yn pryderu ynghylch y safle yn Ewrob a chyflwr cymharol diamddiffyn Prydain yn wyneb y safle honno, y bygwth yn Iwerddon, yr anesmwythyd diwydiannol, a ffyrnigrwydd y teimlad rhwng y pleidiau. Yr oedd helynt Iwerddon yn gwenwyno ein perthynas â'r America, yr oedd y bywyd gwledig, yn ei eiriau ef ei hun, yn dihoeni, yr oedd diod feddwol yn myned dan seiliau iechyd ac effeithiolrwydd rhan o'r boblogaeth, yr oeddym mewn ymdrech gyfansoddiadol ddifrifol, ac yr oedd cenhedloedd Ewrob yn arfogi ar gyfer rhyw gyfwng yr oedd pawb yn ei ofni ac nad oedd neb, i bob golwg, yn medru gwneud dim i'w osgoi. Yn wyneb hyn oll awgrymodd Mr. Lloyd George i Mr. Asquith y dylid ymdrechu dyfod i gyd- ddealltwriaeth rhwng y pleidiau yn y wlad hon er mwyn wynebu y perygl allanol oedd yn amlwg yn agoshau. Gobeithiai y gellid dyfod i gytundeb trwy hynny, fel y dywed ef ei hun yn ei "War Memoirs," ar "yr Ail Dŷ, Ymreolaeth, datblygiad adnoddau amaethyddol y wlad, Hyfforddiant (Milwrol) Cenedlaethol er amddiffyn y wlad, gwella drygau cymdeithasol, ac ymchwiliad teg a diduedd i gyfundrefn tollau masnachol." Ychydig o bobl o'r tuallan i'r cylch gwleidyddol agosaf i mewn a freuddwydiai'r pryd hynny fod areithiwr Limehouse ac aderyn pob drycin gwleidyddol yn ceisio dyfod i ddealltwriaeth o'r fath â'r ochr arall, ond nid oedd dim yn anghyson â hanes Mr. Lloyd George yn y gorffennol yn y peth. Ni bu erioed yn rhwym iawn wrth hualau plaid, ac yr oedd bob amser yn barod i ddyfod i gytundeb os gellid cyrraedd cytundeb heb aberthu gormod. Er enghraifft, yr oedd yn barod i drafod safle'r ysgolion Eglwysig yng Nghymru gyda Dr. Edwards, Esgob Llanelwy, ynghanol helynt boethaf y Mesur Addysg. Yn y cynllun a gynigiwyd yn 1910 yr oedd dau beth o leiaf a fuasai yn sicr o roddi bod i wrthwynebiad pendant iawn o du'r Rhyddfrydwyr. Yr adeg honno yr oeddynt hwy, a llawer o Doriaid o ran hynny, yn edrych ar unrhyw fath o wasanaeth milwrol gorfodol fel peth hollol amhosibl yn y wlad hon, ac yr oedd Rhyddfrydwyr yn ystyried Masnach Rydd fel rhan oedd bron yn gysegredig o'u cyffes ffydd wleidyddol.

Eithr nid aeth pethau cyn belled a hynny. Ar y cychwyn edrychai'r rhagolygon yn bur ffafriol i'r cynllun newydd, cyn belled ag yr oedd yr egwyddor yn myned. Nid oedd Balfour yn wrthwynebol ac yr oedd rhai eraill o'r arweinwyr Toriaidd yn barod i ystyried y cynllun. Erbyn hynny, fodd bynnag, nid oedd awdurdod Balfour yn ei blaid ei hun yn sicr iawn, a daeth yn amlwg yn bur fuan nad oedd dderbyniad i'r cynllun gan rai o'r Toriaid. Cynigiodd Mr. Lloyd George ymneilltuo o'r weinyddiaeth os byddai hynny mewn unrhyw fodd yn hyrwyddo'r peth oedd ganddo mewn golwg, sef undeb cenedlaethol yn wyneb y perygl oedd yn bygwth o'r tu allan, eithr nid oedd hynny ychwaith. yn tycio. Gwrthodwyd y cynllun ac aeth y dadlau chwerw rhwng y pleidiau ymlaen. Dywed Mr. Lloyd George yn ei "War Memoirs " y gallasai'r Almaen fod wedi petruso myned i ryfel yn 1914 pe buasai gan y wlad hon, mewn canlyniad i gynllun 1910, nifer fawr o ddynion wedi eu hyfforddi i ddwyn arfau.

Ofer dyfalu bellach ynghylch yr hyn a allasai ddigwydd. Aeth yr ymdderu ymlaen, ac anodd i bobl heddiw ydyw sylweddoli pa mor chwerw oedd y teimladau. Clywais wraig barchus, a'i hystyriai ei hun o safle gymdeithasol pur uwchraddol, yn dywedyd gyda phob difrifwch tua'r adeg yma y byddai yn dda ganddi glywed fod Mr. Lloyd George wedi marw. Sicrhawyd fi gan glerigwr diwylliedig a phur alluog mai Asquith oedd y dyn galluocaf yn y wlad ac nad oedd ganddo na chalon na chydwybod! Dywediadau ynfyd a gwamal, wrth gwrs, ond arwyddion serch hynny o'r chwerwder oedd yn bod. Yn y cyfamser yr oedd yr Almaen yn ychwanegu at ei llynges o hyd, yr oedd gwledydd eraill Ewrob yn arfogi, yr oedd y Caiser yn gwneud ambell araith eithafol o ffol i ŵr yn ei safle ef, yr oedd y ddwy ochr yn Iwerddon yn arfogi, ac nid oedd rhyfel cartrefol ym Mhrydain yn ymddangos yn beth hollol amhosibl. Yr oedd yn amlwg, beth bynnag, mai cariad at wlad oedd yn lle cysurus iddynt hwy fyw ynddo a theyrngarwch at gyfundrefn yr oeddynt hwy yn gallu ei rheoli oedd gwladgarwch a theyrngarwch rhyw ddosbarth. Yr oedd y rhagolygon yn ddigon tywyll, ond nid oedd y bobl yn gyffredinol yn sylweddoli hynny.

PENNOD VII.

CYN belled yn ôl a 1911 yr oedd Mr. Lloyd George wedi ymyrryd ac wedi ymyrryd yn effeithiol ar y pryd, Yn ei araith yn y yn yr amgylchiadau rhyngwladol. Mansion House yn Llundain y flwyddyn honno, wedi ymgynghori ag Asquith a Grey, rhybuddiodd yr Almaen, canys hi oedd wedi gwneud y safle yn ddifrifol iawn trwy anfon llong ryfel i Agadir a thrwy hynny beri bod rhyfel rhyngddi hi a Ffrainc ar y gorwel—na allai Prydain sefyll o'r neilltu dan amgylchiadau neilltuol. Edrychid ar Mr. Lloyd George cyn hynny fel dyn a oedd a'i holl fryd ar welliannau cymdeithasol ac fel heddychwr digymrodedd, ac yr oedd mwy o bwys o gymaint a hynny yn ei eiriau difloesgni y tro hwn. Eithr nid oedd yr araith honno ond arwydd allanol o'r anesmwythyd a deimlid ganddo ef ac eraill ers tro oherwydd y gystadleuaeth rhwng llynghesoedd Prydain a'r Almaen. Bu'n trafod y safle a llysgennad yr Almaen fwy nag unwaith, gan awgrymu y dylid dyfod i ddealltwriaeth, ond pan aeth i'r Almaen yn 1908, yn bennaf i astudio cyfundrefn yswiriant cenedlaethol y wlad honno, gofalwyd na chaffai gyfarfod y Caiser rhag ofn, y mae'n debyg, iddo siarad yn rhy blaen â'r gŵr penchwiban hwnnw.

Er fod yr anesmwythyd yma yn bod ers blynyddoedd, eto ni wyddai aelodau'r Cabinet fel cyfangorff pa mor bell yr oedd Syr Edward Grey wedi mynd yn ei gytundeb â Ffrainc nac am y trafodaethau a fu rhwng penaethiaid milwrol Prydain a Ffrainc ynghylch eu cynlluniau pe deuai rhyfel. Braw i lawer o aelodau'r weinyddiaeth oedd deall, yn 1912, fod pethau wedi mynd cyn belled, a phan ddaeth y cyfwng i ben yn 1914 ni wyddent yn glir beth oedd eu hymrwymiadau. Yn gynnar yn y flwyddyn honno yr oedd Mr. Lloyd George ei hun yn gobeithio fod pethau yn gwella, ac nid yw yn hawdd dywedyd eto beth a fuasai wedi digwydd pe na buasai'r Almaen wedi ymosod ar Belgium. Y mae'n amlwg fod Ffrainc dan yr argraff fod rhwymedigaeth ar y wlad hon i ddyfod i mewn gyda hi pr'un bynnag; dywedodd Mr. Bryn Roberts wrthyf yn ystod y rhyfel nad oedd yn amau fod Grey yn dymuno heddwch ac wedi ymdrechu i gadw'r heddwch pan sylweddolodd i ba le yr oedd y polisi a ddilynodd hyd hynny wedi ei arwain ond nad oedd yn ddigon craff i weled perygl y polisi hwnnw mewn pryd.

Y gwaith cyntaf a ddaeth i ran Canghellor y Trysorlys pan ddaeth y rhyfel oedd wynebu'r problemau ariannol dyrus a oedd yn codi ar unwaith; yr oedd y rhan fwyaf o Gyfnewidfeydd y byd wedi cau yn y cyfwng ac apeliodd y Bank of England am ganiatâd i gymryd mesurau arbennig i gyfarfod â'r amgylchiadau. Treuliwyd dyddiau mewn ymgynghoriad â gwahanol awdurdodau yn y byd ariannol a masnachol ac estynwyd Gwyl y Banc ddechrau'r Awst hwnnw i bedwar diwrnod yn lle un. Dywed Mr. Lloyd George am y tri diwrnod ychwanegol hynny eu bod ymhlith y dyddiau prysuraf a mwyaf pryderus a dreuliodd erioed. Dangosodd unwaith eto ei barodrwydd i dorri tir newydd ac i fyned dros ben hên arferion pan dybiai y byddai hynny yn fantais trwy ofyn i Austen Chamberlain, Canghellor y Trysorlys yn y weinyddiaeth Doriaidd flaenorol, ymuno yn yr ymgynghoriadau hyn, a phan fyddai Mr. Lloyd George yn methu a bod yn bresennol Austen Chamberlain fyddai yn llywyddu yn y cyfarfyddiadau.

Bu yn rhaid dyfod a chyllideb ychwanegol i mewn. Gwnaed hynny ym mis Tachwedd, 1914, ac yn ei araith dywedodd y Canghellor y ceid ysbaid fer o lwyddiant masnachol ar ôl y rhyfel ond y dilynid honno gan un o'r cyfyngau ariannol a diwydiannol mwyaf difrifol a welwyd erioed. Anghofiwyd y rhybudd, ond profwyd yn y blynyddoedd oedd i ddyfod fod Mr. Lloyd George yn llygad ei le. Tueddir i anghofio y gwaith a wnaed ganddo yn wythnosau cyntaf y rhyfel yn y cyfeiriadau hyn, ond barn y bancwyr a'r masnachwyr ar y pryd oedd fod ei ynni, ei barodrwydd i ystyried cynlluniau a llwybrau newydd, a'i welediad wedi bod yn werthfawr anghyffredin mewn cyfwng pan na wyddai neb yn iawn pa ffordd i droi.

Un rheswm paham yr anghofiwyd yr ochr yma i waith Mr. Lloyd George yn y rhyfel ydyw ei fod gyda hynny wedi ymgymeryd a gwaith mawr arall yr oedd ei effeithiau yn amlycach a chyda'r hwn y bu ei lwyddiant yn eithriadol iawn. Eithr cyn dyfod at hynny y mae'n rhaid cyfeirio at fater cymharol fychan a ddaeth ag ef unwaith eto i wrthdarawiad ag adran o'r farn gyhoeddus yng Nghymru. Penderfynodd y Llywodraeth beidio rhoddi deddf Datgysylltiad yr Eglwys yng Nghymru mewn grym tan ar ôl y rhyfel ac er mwyn gwneud hynny mewn trefn pasiodd yr hyn a elwid yn Fesur Oedi trwy'r Senedd. Teimlai llawer yng Nghymru yn ddrwgdybus yn wyneb hyn, ac ni wnaed pethau yn ddim gwell gan waith un papur dylanwadol yn annog y Rhyddfrydwyr Cymreig i beidio eu dangos eu hunain yn ddynion bychain mewn cyfwng mawr." Yr oedd gobaith a oedwyd wedi chwerwi peth ar deimladau yng Nghymru'r pryd hynny, ac ofnid y byddai i'r Mesur Oedi roddi cyfle pellach nag a fwriadwyd i daflu'r ddeddf newydd oddiar ei hechel.

Gofynnodd y Parch. John Williams, Brynsiencyn, i mi ddyfod i'w weled i'w dŷ yn Llwyn Idris un diwrnod yn 1914 pan oedd y ddadl yn dechrau poethi. Aethum yno a chefais fod y Parch. Thomas Hughes, y Felinheli, un o weinidogion y Wesleyaid yng Nghymru (nid oedd yr Eglwys Fethodistaidd wedi ei ffurfio'r pryd hynny) wedi ei wahodd yno hefyd. Yr oedd Mr. Williams yn danllyd yn erbyn y Mesur Oedi a mynnai y dylid galw cynhadledd ar unwaith i wrthdystio. Penderfynwyd ei galw yn y Rhyl a threuliwyd gweddill y prynhawn hwnnw i ysgrifennu at hwn a'r llall ac i wneud y paratoadau. Cynhaliwyd y gynhadledd; daeth nifer mawr iawn o bobl iddi, ac yr oedd y teimladau yn bur frwd. Ond, yn y cyfwng rhwng y cyfarfyddiad yn Llwyn Idris a'r gynhadledd yr oedd Mr. Williams wedi bod yn Llundain ac wedi gweled Mr. Lloyd George, ac yr oedd min ei wrthwynebiad wedi pylu cryn dipyn weithian. Y mae'n bosibl fod y gwrthdystiad wedi ateb y diben trwy ddangos i'r llywodraeth fod Cymru yn gwylio'r symudiadau, ond dangoswyd hefyd fod Mr. Lloyd George o hyd yn medru llareiddio llawer ar unrhyw feirniadaeth. Pasiwyd y Mesur ac, fel y dywedwyd, ni ddaeth Deddf Datgysylltiad i rym hyd ar ôl y rhyfel, a hynny gyda rhai cyfnewidiadau lled bwysig yn yr adrannau yn ymwneud a dadwaddoli.

Gwaith mawr nesaf Mr. Lloyd George, ar ôl trefniadau ariannol dyrus dechrau'r rhyfel, oedd trefnu cyflenwad o arfau i'n byddinoedd. Nid oedd neb wedi rhagweled y byddai i Brydain anfon byddinoedd mawr i'r Cyfandir ac, mewn canlyniad, ni ymddengys fod neb wedi rhagweled yr angen am gyflenwad o gad-ddarpar ar raddfa hollol newydd. Daeth yn amlwg yn weddol fuau fod yr Almaen yn drech na Ffrainc na ninnau yn y mater hwn. Hoeliai awdurdodau milwrol y wlad hon eu cred yn y shrapnel a brofodd mor effeithiol yn rhyfel De Affrica, ond defnyddiai'r Almaen belennau ffrwydrol o rym dinistriol nad oeddis wedi defnyddio dim tebyg iddynt erioed o'r blaen. Hyd yn oed gyda shrapnel yr oedd y cyflenwad yn annigonol, ac ofnid y gorchfygid Ffrainc a Phrydain os na cheid cyfundrefn hollol newydd, ynni newydd, a chyflenwad ar raddfa nad oedd yr awdurdodau milwrol wedi breuddwydio am dano o'r blaen.

Lluniwyd swydd newydd a phenodwyd Mr. Lloyd George i'w llanw, dan yr enw Gweinidog Cad-ddarpar. Un o'r pethau mwyaf anodd yn y byd ydyw ein cael i newid ein hên ddulliau i gyfarfod ag amgylchiadau newydd; y mae rhyw wrthwynebiad cynhenid ymhawb ohonom i adael yr hen rigolau, i gyflymu ein cerddediad ac i wynebu galwadau newydd mewn ysbryd newydd. Un o'r pethau sydd wedi gwneuthur Mr. Lloyd George yn ŵr mor eithriadol ydyw ei fod yn rhyddach na'r rhan fwyaf o bobl—yn llawer iawn rhyddach—oddiwrth y diymadferthedd hwn. Gwelodd fod yn rhaid wrth ddulliau hollol newydd, fod yn rhaid torri ar hên arferion a myned ar draws hên derfynau os oedd i lwyddo yn ei waith newydd. Gwnaeth hynny i raddau pan oedd yn Ganghellor y Trysorlys, ac yn awr, wedi gadael y swydd honno am un arall—llai pwysig ym marn y wlad ar y cychwyn, fel y dylid dywedyd yr oedd ganddo faes clir o'i flaen, er fod yn rhaid iddo wynebu arafwch ac ystyfnigrwydd ar hyd y daith. Bwriodd ei hun i'r gwaith gydag ynni anhygoel; torodd ar draws hên arferion, cymrodd siswrn miniog iawn at dâp coch y Swyddfa Ryfel a phob swyddfa arall, gwariodd symiau aruthrol heb ofni, llwyddodd i berswadio meistri gwaith a gweithwyr i roddi rheolau, rheolau cwbl angenrheidiol ar adegau arferol, o'r neilltu dros dro, ymosododd ar broblem y ddiod, oedd yn llesteirio gwaith mewn llawer cyfeiriad, a throdd egni'r wlad i gynyrchu yr hyn oedd yn llwyr angenrheidiol os oedd ein byddinoedd i ddal eu tir o gwbl.

Mewn llyfr o faint hwn ni ellir manylu ymhellach ar waith Mr. Lloyd George fel Gweinidog Cad-ddarpar. Digon yw dywedyd iddo lwyddo i weddnewid y safle a gosod safon newydd i gynnyrch adeg rhyfel. Gweddnewidiodd hen weithfeydd a chreodd lu o ffatrioedd a gweithfeydd newydd. Fel y dywedwyd, cam ar i lawr, ar yr olwg gyntaf, oedd gadael y Trysorlys, y swydd nesaf i eiddo'r Prif Weinidog, i ymgymryd â threfnu cad-ddarpar. Heblaw hynny, yr oedd yr anawsterau mor enfawr fel yr oedd yn amlwg fod y neb a ymgymerai â'r gwaith, os oedd wedi gwneud enw iddo ei hun mewn cylch arall, yn peryglu ei glôd a'i ddylanwad wrth gymryd y swydd newydd. Os methai, byddai'r methiant yn drychinebus ac yn derfynol. Yr oedd Richard Lloyd yng Nghricieth yn sylweddoli hyn oll ac, am unwaith, ffaelodd dewrder yr hen ŵr. Cynghorodd ei nai i beidio gadael y Trysorlys, ac yr oedd ei gyngor ef bob amser wedi bod yn ddoeth ac yn graff. Eithr, y tro hwn, penderfynu drosto ei hun yn wyneb cyngor ei ewythr a wnaeth Mr. Lloyd George. Yr oedd ganddo, unwaith eto yn ei yrfa, bopeth i'w golli, a dewisodd y ffordd fentrus. Pan ddaeth yr adeg i adael y swydd ac i ymgymryd a swydd Gweinidog Rhyfel ar ôl marw Arglwydd Kitchener yr oedd clôd Mr. Lloyd George yn sefyll yn uwch nag eiddo unrhyw wleidydd yn y wlad ac, efallai, nac eiddo unrhyw un yn Ewrob. Unwaith eto, yr oedd dewrder wedi talu.

Yn ystod yr amser y bu'n Weinidog Cad-ddarpar daeth elfen arall yn null Mr. Lloyd George yn amlwg iawn, sef ei ddawn i weled gallu a chymhwysterau gwahanol ddynion ac i ddefnyddio'r gallu a'r cymhwyster hwnnw hyd yr eithaf. Yr hen arfer oedd cadw yn fanwl o fewn terfynau'r gwasanaeth gwladol neu filwrol. Malodd Mr. Lloyd George yr arfer honno yn chwilfriw. Chwiliodd am ei bobl ymhobman. Tynnodd hwynt o fasnach ac o ddiwydiant, o'r prifysgolion ac o'r pwll glo. Lle bynnag yr oedd dyn y gallai ddefnyddio ei brofiad neu ei ymennydd neu ei wybodaeth at y gwaith mewn llaw mynnai ei gael, beth bynnag a ddigwyddai i hên reolau ac arferion swyddogol, gyda'r canlyniad i'r wlad fanteisio ar wasanaeth llu o wyr galluog a phrofiadol nad oedd neb o'r blaen wedi meddwl am ofyn am eu cynorthwy na'u cyngor. Yr oedd hyn, wrth gwrs, yn rhwym o .arwain i siomedigaeth weithiau, ond ar y cyfan gellir dywedyd fod y llwyddiant wedi llwyr wrthbwyso'r methiannau, ac nid yw yn ormod dywedyd na allesid bod wedi gwneud yr hyn a wnaed trwy unrhyw foddion eraill.

Wedi marw Kitchener penodwyd Mr. Lloyd George yn Weinidog Rhyfel yn ei le. Ymddengys, oddiwrth yr hyn a ddywedir yng nghofiant Asquith, i'r Prif Weinidog gael ei rybuddio y byddai trwy hynny yn rhoddi ei feirniad peryclaf mewn lle y gallai beri llawer o anawsterau, ac efallai mai dyma'r cyfle gorau i drafod pwnc perthynas Mr. Lloyd George â'r Prif Weinidog, pwnc a ddaeth yn un astrus a dadleuol iawn yn y man. Erbyn 1916, pan benodwyd Mr. Lloyd George yn olynydd i Kitchener, yr oedd cwrs y rhyfel yn anfoddhaol ac yn peri pryder mawr i'r rhai a wyddai orau beth oedd yn digwydd. Yr oedd llawer o feirniadu ar arafwch a diffyg egni'r weinyddiaeth, a'r feirniadaeth honno wedi dwyn ffrwyth yn 1915 yn ffurfiad y Weinyddiaeth Goalisiwn gyntaf. Yn honno yr oedd Asquith yn parhau yn Brif Weinidog. Yr oedd Mr. Lloyd George o'r cychwyn, y mae'n debyg, wedi bod o blaid gorfodaeth filwrol ac yr oedd wedi bod yn flaenllaw yn cefnogi'r mesur cyntaf a basiwyd, yn 1915. Nid oedd yn cytuno, chwaith, â chynllun cyffredinol y Cynghreiriaid yn y rhyfel; gwastraff ar adnoddau a bywydau, yn ei farn ef, oedd yr ymdrechion gwaedlyd i orchfygu'r gelyn yn y gorllewin, a chredai yn gryf fod gwell gobaith am derfyn llwyddiannus i'r rhyfel trwy ymosodiad trwy un o'r drysau cefn, neu ddrws yr ochr, beth bynnag, megis glaniad yn Alexandretta neu ymgyrch i gyfeiriad y Balkans. Nid dyma'r lle i drafod y dadleuon o blaid nac yn erbyn y cynlluniau hyn; digon yw dywedyd fod Asquith ac adran o'r Cabinet yn ymddiried yn y farn filwrol oedd o blaid parhau i grynhoi yn y gorllewin, sef ym Melgium a Ffrainc, a Mr Lloyd George a nifer o ddilynwyr yn credu yr un mor gryf fod y polisi hwnnw yn un annioddefol o gostus ac araf ac ansicr ei ganlyniadau.

Ofer bellach yw manylu ar holl achosion yr hyn a ddigwyddodd. Yr oedd llawer o elfennau yn y safle,—agwedd rhan o'r wasg, agwedd y penaethiaid milwrol, agwedd cefnogwyr y naill arweinydd a'r llall, a'r pryder, llethol bron, a deimlid oherwydd cwrs y rhyfel a'r rhagolygon ar y pryd. Beth bynnag, y diwedd fu gwahaniad llwyr, er colled ddiamheuol i'r wlad ymhellach ymlaen. Cydnabyddir erbyn heddiw nad oedd Asquith, er ei holl adnoddau ardderchog, yn Brif Weinidog da ar adeg rhyfel; nid oedd yn ddigon egniol nac yn ddigon cyflym. Ond buasai ei bresenoldeb yn y weinyddiaeth pan ddaethpwyd i drefnu heddwch yn amhrisiadwy, ac mewn adegau cyffredin yr oedd y cyfuniad ohono ef a Mr. Lloyd George y peth mwyaf addawol i werin y wlad hon er yr adeg yr oedd Mr. Gladstone a Mr. Chamberlain yn aelodau o'r un weinyddiaeth. Digwyddodd cyffelyb drychineb yn y naill achos a'r llall.

Pum mis yn unig fu hyd tymor Mr. Lloyd George fel Gweinidog Rhyfel. Yr oedd pethau yn y Cabinet yn myned o ddrwg i waeth. Yr oedd y gŵr amryddawn hwnnw, Syr William Robertson Nicoll, golygydd y British Weekly, papur yr oedd ganddo gryn lawer o ddylanwad yng Nghymru, yn canmol Mr. Lloyd George ac yn beirniadau Asquith. Yr oedd beirniadu ar yr ochr arall hefyd; er enghraifft, bu erthygl yn y Daily News a enynnodd deimladau brwd o'r ddeutu. Aeth Mr. Lloyd George i Gonwy a gwnaeth yr araith enwog honno yn yr hon y dywedodd fod popeth a wnaed gan y cynghreiriaid yn rhy ddiweddar a bod yn rhaid wrth Gabinet bychan i lywio'r rhyfel ac i benderfynu ar y cynllun cyffredinol. Yr oedd yn amlwg fod pethau yn gweithio i bwynt, a daethant i ben yn lled fuan. Cynigiodd Mr. Lloyd George, mewn cydymgynghoriad â gweinidogion eraill, fod cyfarwyddo uniongyrchol y rhyfel i fod yn llaw pwyllgor bychan o'r Cabinet, yn cynnwys Pennaeth y Morlys, yr Ysgrifennydd Rhyfel, ac un gweinidog arall. Yn ôl y cynllun, yr oedd y Prif Weinidog i barhau i feddu'r hawl derfynol ond nid oedd i fod yn gadeirydd y pwyllgor. Gwrthododd Asquith gytuno â hyn.

Credai Asquith y buasai'r cynllun yn un aneffeithiol mewn gweithrediad, ond yr oedd y safle yn gyfryw fel y teimlai hefyd fod yn rhaid atrefnu'r weinyddiaeth. Derbyniodd ymddiswyddiad ei gydweinidogion fel y cam cyntaf tuagat hynny, ond anghytunwyd drachefn, bu gohebu rhwng Mr. Lloyd George a'r Prif Weinidog oedd yn dangos pa mor anhebyg yr oeddynt i gytuno, penderfynodd yr aelodau Rhyddfrydol yn y weinyddiaeth na allent gytuno i gynigion Mr. Lloyd George, cynigiodd Mr. Lloyd George ymddiswyddo, ac, yn ben ar y cwbl, dywedodd Arglwydd Curzon, Arglwydd Robert Cecil ac Austen Chamberlain, tri o aelodau Toriaidd mwyaf dylanwadol y weinyddiaeth, wrth y Prif Weinidog nad oeddynt yn barod i fyned ymlaen gydag ef heb Mr. Lloyd George a Bonar Law. Y penderfyniad yma ar ran yr arweinwyr Toriaidd a drodd y ddadl. Ar y pumed o Ragfyr, 1916, ymddiswyddodd Asquith.

Gofynnodd y Brenin i Mr. Bonar Law ffurfio gweinyddiaeth newydd. Gwelodd yntau na allai wneud hynny, ac, ar ôl trafodaethau pellach, anfonwyd am Mr. Lloyd George. Yr oedd yr holl aelodau Toriaidd yn y weinyddiaeth, ag eithrio un, yn barod i gymryd swydd dano ef; yr oedd yr aelodau Llafur hefyd yn fodlon, ac yr oedd yn amlwg o'r dechrau fod cefnogaeth rhan fawr o'r Rhyddfrydwyr yn sicr iddo. Yr oedd wyth o aelodau Llafur a deuddeg o Ryddfrydwyr yn y Weinyddiaeth newydd, ond arhosodd nifer o'r Rhyddfrydwyr amlycaf allan.

Chwe blynedd ar hugain oedd er pan anfonodd Bwrdeisdrefi Arfon Mr. Lloyd George i'r Senedd i'w cynrychioli y tro cyntaf. Yr oedd yn naturiol iddo fyned i'w wlad ac i'w etholaeth ei hun i annerch ei gyfarfod cyntaf fel Prif Weinidog, ac nid oedd Pafiliwn Caernarfon yn ddigon eang y tro hwn eto i gynnwys y rhai a ddaeth i'w wrando. Siaradodd yntau yn ddifrif am y safle ac am y dyfodol, a bu golygfa i'w chofio pan ddiweddodd araith oedd, efallai, yn drymach ac yn llai hyawdl nag arfer, gyda'r geiriau," Canys yn ei iawn bryd y medwn, oni ddiffygiwn." Yr oedd un peth yn y cyfarfod hwnnw yn taro rhai oedd yn cofio'r hen frwydrau braidd yn chwith. Tori lleol oedd yn y gadair ac yr oedd yn y gynulleidfa ac ar y llwyfan lu o'r bobl a fu gynt yn uchel eu cloch yn beirniadu Mr. Lloyd George, ond yn awr llawn mor frwdfrydig â neb oedd yn y lle. Ysgydwai rhai o'r hen Ryddfrydwyr eu pennau, ond, a siarad yn gyffredinol, y teimlad goruchaf ac amlycaf oedd un o falchter yng ngyrfa ryfeddol y bachgen o Lanystumdwy a oedd, mewn ychydig gyda chwarter canrif, wedi cyrraedd y swydd uchaf sydd yn agored i ddinesydd ym Mhrydain. Os oedd Cymru wedi meddwi ar benodiad Tom Ellis i swydd israddol mewn gweinyddiaeth flynyddoedd yn ôl, pa faint mwy oedd ei brwdfrydedd yn awr wrth weled Cymro arall o iaith a chalon a thraddodiad yn Brif Weinidog? O hynny ymlaen, am rai blynyddoedd, peth amhoblogaidd. iawn yng Nghymru oedd beirniadu Mr. Lloyd George.

Dylid cydnabod bodolaeth teimlad arall hefyd. Yr oedd y safle ynglŷn â'r rhyfel yn anfoddhaol ac yn ddifrifol iawn. Yr oedd y wlad yn bryderus, ac yr oedd mwy o reswm nag a wyddai y rhan fwyaf dros bryderu. Yr oedd yr ynni a'r medr a ddangosodd Mr. Lloyd George fel Gweinidog Cad-ddarpar yn ernest y byddai iddo ddefnyddio yr un adnoddau fel Prif Weinidog. Gobeithiai'r wlad—ac y mae hyn yn wir am yr holl wlad ac nid am Gymru yn unig ynddo. Credai ei bod yn gweled ynddo obaith am ymwared. Wrth edrych yn ôl, nid yw yn ormod dweyd fod cyfangorff y bobl yn cytuno mai ef oedd y gŵr ar gyfer y cyfwng.

PENNOD VIII.

DIFRIFOL iawn oedd y sefyllfa filwrol yn 1917 ac yn hanner cyntaf 1918, ac i ychwanegu at y pryderon yr oedd cryn lawer o ddiffyg cytundeb ymhlith y Cynghreiriaid eu hunain. Cydnabyddir gan bawb y bu dewrder siriol Mr. Lloyd George, hyd yn oed yn y cyfyngau gwaethaf, o werth amhrisiadwy, nid yn unig i'r wlad hon ond hefyd i bob gwlad oedd yn gwrthsefyll yr Almaen yr adeg honno. Yr oedd ei areithiau yn donic, ac hyd yn oed pan edrychai ar yr ochr dywyllaf i bethau, megis yn yr araith enwog ym Mharis yn 1917, yn rhifo camgymeriadau'r Cyngrheiriaid, teimlid fod y tu cefn i'r cwbl rhyw benderfyniad hollol anhyblyg i ddwyn barn i fuddugoliaeth. Y mae yna gnewyllyn o galedwch yng nghymeriad Mr. Lloyd George sydd yn peri ei fod yn ymegnio fwy-fwy pan fydd pethau waethaf. Arferai hen ŵr yn Ardudwy ddywedyd," Pan fydda' i dlotaf, yr amser honno y bydda' i lartsiaf. Chewch chi ddim byd am gwyno." Pan fyddai'r rhagolygon dywyllaf y byddai Mr. Lloyd George fwyaf penderfynol a mwyaf diollwng. Y mae'n anodd mesur gwerth peth felly ar adeg rhyfel.

Ni bu Prif Weinidog yn hollol yr un fath ag ef o'i flaen nag ar ei ôl. Cymrodd gyfarwyddo'r rhyfel, cyn belled ag yr oedd gwleidyddiaeth y rhyfel yn mynd, bron yn hollol i'w law ei hun, gyda Chabinet bychan o'i ddewisiad ef ei hun. Nid oedd yn cyfyngu aelodaeth yn hwnnw i aelodau Tŷ'r Cyffredin na Thŷ'r Arglwyddi; cofir fod y Cadfridog Smuts wedi bod yn aelod, peth na chlywyd am ei gyffelyb erioed o'r blaen. Ychydig iawn. o sylw a dalodd i Dŷ'r Cyffredin, ac wrth edrych yn ôl gwelir ei fod wedi ei wneud ei hun cyn debyced i ddictator a dim a welwyd yn y wlad hon er amser Oliver Cromwell. Yr oedd popeth yn gorfod rhoddi ffordd—hen arferion, rheolau, deddfau—os tybiai Mr. Lloyd George y byddai hynny yn fantais i ennill y rhyfel, ac y mae'n rhaid dywedyd fod cyfangorff y bobl yn eithaf bodlon. Ymdrechwyd unwaith neu ddwy yn Nhŷ'r Cyffredin ei alw i gyfrif, megis y gwnaed gan Asquith yn y drafodaeth ar ddatganiadau'r Cadfridog Maurice, ond y canlyniad bob tro oedd buddugoliaeth seneddol ysgubol i Mr. Lloyd George, a diflaniad, i bob pwrpas ymarferol, yr hen blaid Ryddfrydol, dros dro, beth bynnag. Credai'r senedd a mwyafrif pobl y wlad mai yn ei ynni a'i benderfyniad ef yr oedd gobaith buddugoliaeth.

O du'r milwyr y cyfododd rhai o'i anawsterau mwyaf. Nid oedd ganddo ffydd yn Syr Douglas Haig, pennaeth y byddinoedd Prydeinig yn Ffrainc, ac nid oedd yn dda rhyngddo â Syr William Robertson, pennaeth y Staff Gyffredinol yn y wlad hon. Nid oedd ef yn fodion ar eu cynlluniau hwy ac nid oeddynt hwythau yn credu ynddo yntau fel, cynllunydd milwrol. Beth bynnag am hynny, y mae'n ddilys ddiamau fod Mr. Lloyd George wedi bod yn hollol iawn ar un pwynt milwrol; credai yn ddiysgog mewn unoliaeth cyfarwyddyd yn y rhyfel a bod yn rhaid, er mwyn cyrraedd hynny, gosod yr holl fyddinoedd, o ba genedl bynnag, o dan un pennaeth.

Ni ellir manylu yma ar y camau a gymerwyd i sicrhau hynny nac ar yr anawsterau lu o wahanol gyfeiriadau y bu yn rhaid eu gorchfygu. Y mae'n hawdd dychmygu am y teimladau a gyffyrddwyd a'r eiddigedd a gynhyrchwyd yn ystod trafodaethau o'r fath, ac nid peth diberyg! o safle Mr. Lloyd George ei hun oedd gosod byddinoedd Prydeinig dan orchymyn ac awdurdod cadfridog tramor. Bu dadlau a chroes-ddadlau ac ymgyndynnu. Methodd barn Mr. Lloyd George unwaith, beth bynnag. Ceisiwyd rhoddi praw ar y cynllun hwn a'r cynllun arall, ac nid cyn 1918, ac wedi i un o drychinebau mwyaf y rhyfel ddigwydd, y cafodd Mr. Lloyd George o'r diwedd ei ffordd a rhoddi yr holl fyddinoedd o dan awdurdod y cadfridog Ffrengig, Foch. Erbyn hynny yr oedd y safle mor ofnadwy o ddifrifol fel yr oedd y wlad yn barod i gytuno i unrhyw beth bron.

Yr oedd Rwsia wedi myned allan o'r rhyfel. Yr oedd yr Eidal wedi ei gorchfygu yn Caporetto, ac am ysbaid ofnid yr ai hithau hefyd allan. Ac ym mis Mawrth, 1918, yr oedd lluoedd yr Almaen yn ysgubo ar draws gogledd Ffrainc unwaith eto ac am yr eildro yn bygwth Paris. Yr oedd ein llongau yn cael eu suddo i raddau mwy o lawer nag a sylweddolid gan y wlad, ac yr oedd nerth Prydain a Ffrainc mewn dynion bron a chyrraedd i'r pen. Dyna'r cyfwng mwyaf y bu'r wlad hon ynddo hyd hynny, a dyna gyfwng mwyaf hanes Mr. Lloyd George fel gwladweinydd hefyd. Un o'r pethau y cofir amdanynt ynglŷn ag ef mewn hanes fydd iddo ymegnio i gyfarfod y cyfwng, iddo lwyddo i gadw calon y wlad hon a'i chyngrheiriaid i fyny yn yr awr dduaf, ac na ddaeth ias o wendid i'w ddatganiadau na'i weithredoedd yn y dyddiau trychinebus hynny.

Yr oedd yr America yn y rhyfel erbyn hyn, a phan oedd pethau ar eu gwaethaf apeliodd Mr. Lloyd George at yr Arlywydd Wilson ar iddo anfon milwyr trosodd i Ffrainc ar unwaith. Gofynnodd am 120,000 o ddynion y mis. Atebodd Wilson yr anfonid hwy os gallem ni eu cludo. Gorchmynodd y Prif Weinidog fod pob llong yr oedd yn bosibl ei defnyddio yn cael ei hanfon ar unwaith, a hynny a fu. Daeth y milwyr Americanaidd, cyfanswm o 1,900,000, ac o'r nifer aruthrol hwnnw, cludwyd. 1,100,000 mewn llongau Prydeinig. Gwyddai Mr. Lloyd George cystal a neb beth oedd peryglon hyn. Gwyddai y gallai'r wlad ddarn-lwgu oblegid prinder llongau. Gwyddai y gallem fod heb y nwyddau oedd yn gwbl angenrheidiol at gynhyrchu pethau yr oedd yn rhaid wrthynt. "Ond yr oedd yn rhaid mentro," meddai, ac yn y fenter honno y daeth rhai o'i adnoddau gwerthfawrocaf i'r golwg. Q Ni bu ei bolisi na'i weithredoedd yn ystod y rhyfel heb eu beirniaid, ac y mae'n debyg mai o du'r awdurdodau milwrol y bu'r beirniadu trymaf. Trodd feirniadaeth honno yn chwyrn iawn ar ôl y rhyfel, pan gyhoeddodd Mr. Lloyd George ei "War Memoirs," ond y mae yn rhaid cydnabod fod ei atebion yntau i'w feirniaid ar y tir hwnnw yn anatebadwy. Pwnc arall, ac un anodd, ydyw a ddylesid bod wedi ceisio gwneud heddwch yn 1917, cyn i ddymchweliad llwyr oddiweddyd yr Almaen. Dadleuid gan rai y buasai Ewrob yn fwy sefydlog ac y buasid wedi arbed llawer iawn o fywydau ac o arian pe llwyddasid i wneud hynny, eithr y mae'n amhosibl dywedyd hyd yn oed heddiw a allesid bod wedi sicrhau heddwch parhaol. Y mae'n wir na sicrhawyd heddwch parhaol yn 1918 ychwaith. Ond nid oedd neb yn rhagweled y dyfodol y pryd hynny.

Daeth terfyn ar y rhyfel ym mis Tachwedd, 1918, ac nid yw yn ormod dywedyd mai Mr. Lloyd George oedd y gŵr mwyaf ei ddylanwad a'i awdurdod yn y byd yr wythnosau hynny. Galwodd rhywun ef yn ddictator Ewrob, ac nid oedd llawer o ormodiaith yn y dywediad. Trodd yntau, gyda'i ynni diflino, tua'r dyfodol ar unwaith a phenderfynodd gael etholiad cyffredinol. Efallai nad yw yn ormod dywedyd mai o'r diwrnod y penderfynwyd ar yr etholiad hwnnw y gellir cyfrif dechreuad trai awdurdod a dylanwad y Prif Weinidog. Cynghorodd un newyddiadurwr Toriaidd galluog ef i ymneilltuo am ysbaid o binacl uchaf ei fri a dychwelyd i wleidyddiaeth ymhellach ymlaen, wedi gorffwys ac adnewyddu ei nerth, eithr nid dyna a fynnai ef. Penderfynodd apelio at y wlad fel Prif Weinidog y Coalisiwn a gofyn am fwyafrif a'i galluogai nid yn unig i lunio'r telerau heddwch ond hefyd i lunio trefn newydd gartref. Y mae'n debyg y credai yr adeg honno y gellid cadw'r Coalisiwn gyda'i gilydd ac y cydweithredai'r rhan fwyaf o aelodau'r pleidiau yn y gwaith oedd yn ei aros. Dywedodd mai Yr hyn a cydweithwyr oedd yn eisiau ac nid beirniaid. Yr hyn a gafodd oedd meistr.

Cytunodd Mr. Lloyd George a Mr. Bonar Law i roddi llythyr o gymeradwyaeth i'r ymgeiswyr hynny oedd yn ymrwymo i gefnogi'r Coalisiwn; galwodd rhywun y llythyr hwnnw yn gowpon, ac fel "Etholiad y Cowpon y cofir am yr etholiad yn hir. Gwrthwynebwyd rhai o'r dynion gorau oedd yn Nhŷ'r Cyffredin am nad oeddynt yn barod i roddi eu hymddiried yn llwyr yn y Coalisiwn, a thrwy hynny caewyd drws y Senedd yn wyneb nifer o bobl y buasai eu hannibyniaeth, eu profiad a'u medr o werth amhrisiadwy i'r wlad, ac i Mr. Lloyd George hefyd, ymhellach ymlaen. Yn eu plith yr oedd Mr. Asquith ei hun. Yng Nghymru penderfynodd y Gymdeithas Ryddfrydol Cymreig nad oedd neb ond a gefnogai'r weinyddiaeth i gael ei bendith hi; y canlyniad fu ffurfio cymdeithas Ryddfrydol annibynnol, gwanhau mwy fyth ar Ryddfrydiaeth Gymreig, a, meithrin llawer iawn o chwerwder gwleidyddol dros dro. Canlyniad yr etholiad trwy'r holl wlad oedd mwyafrif Toriaidd a diddymiad ymarferol y Rhyddfrydwyr nad oeddynt yn barod i roddi cefnogaeth ddiamod i Mr. Lloyd George. Y mae'n wir mai cefnogwyr y Coalisiwn oedd y rhan fwyaf o'r Toriaid, ond ganddynt hwy bellach yr oedd pen praffaf y ffon—ac yr oeddynt yn barod i'w defnyddio pan ddeuai'r adeg a'r cyfle.

Bellach yr oedd safle Mr. Lloyd George yn un anodd iawn, er nad oedd pawb—efallai nad oedd ef ei hun—yn sylweddoli hynny. Dywedodd Macaulay am Brougham pan oedd y gŵr amryddawn hwnnw yn anterth ei nerth a'i boblogrwydd:—"He is, next to the King, the most popular man in England. There is no other man whose entrance into any town in the kingdom would be so certain to be with huzzaing and taking off of horses. At the same time he is in a very ticklish situation, for he has no real friends. . . When those reactions in public feeling, which must come, arrive, he will have nothing to return upon, no place of refuge, no band of such tried friends as Fox and Canning had to support him." Y mae'n bosibl nad oedd neb yn gweled y tebygrwydd, yn glir iawn, beth bynnag, yn 1918, ond yr oedd yr hyn a ddywedodd Macaulay am Brougham yn 1831 yn bur agos i fod yn wir am Mr. Lloyd George yn wleidyddol ar ôl yr etholiad a oedd, ar yr wyneb, yn fuddugoliaeth ysgubol iddo ef. Ei greadigaeth ef oedd y Tŷ'r Cyffredin newydd, a'r farn gyffredinol am y Tŷ hwnnw erbyn hyn ydyw ei fod yn un o'r rhai salaf, ac, yn sicr, y mwyaf anwybodus a di-draddodiad, a welwyd yng nghof neb oedd yn fyw—y salaf, medd un hanesydd, er amser Waterloo.

Yr oedd problemau dyrus iawn, gartref ac oddi-cartref, yn aros y Prif Weinidog a'r Senedd. Yn y lle cyntaf yr oedd yn rhaid llunio telerau heddwch ac, yn anffodus, rhoddwyd argraff yn ystod etholiad 1918 fod y telerau hynny i fod yn rhai caled a didostur. Pan aeth Mr. Lloyd George i Ffrainc i gyfarfod Clemenceau, Prif Weinidog Ffrainc, Woodrow Wilson, Arlywydd yr Unol Daleithiau, a chynrychiolwyr eraill y gwledydd, yr oedd, yn ddiamau, y gŵr amlycaf yn y cyfarfyddiad hwnnw. Y mae'n eithaf posibl hefyd ei fod y gŵr yr oedd ei reddfau iachaf gyda golwg ar yr hyn y dylid ei wneud i iachau dyfnion glwyfau Ewrob ar ôl pedair blynedd o ryfel ac i sefydlu heddwch parhaol. Nid oedd gan Clemenceau syniad yn y byd am ddim felly; diogelwch Ffrainc yn unig oedd yn ei feddwl ef. Yr oedd gan Wilson ddelfryd aruchel, eithr ni chafodd gefnogaeth ei wlad ei hun ac y mae'n bosibl fod rhywbeth yn ei bersonoliaeth bell yntau yn cyfrif i raddau am hynny. Yn anffodus iawn, yr oedd Mr. Lloyd George hefyd wedi cylymu maen melin am ei wddf yn yr etholiad, a phan ddechreuodd sôn am delerau rhesymol a fuasai, y mae'n bosibl, wedi cadw Ewrob rhag mynd yn ddarnau pes mabwysiedid, anfonodd nifer fawr o'r dynion yr oedd gan y rhan fwyaf ohonynt i ddiolch iddo ef eu bod yn y senedd o gwbl, deligram bygythiol ei dôn yn ei alw yn ôl i lwybrau oedd yn fwy cydweddol â'u syniadau cibddall hwy am ffrwythau buddugoliaeth. Buasai yn dda pe buasai Mr. Lloyd George wedi ym- ddiswyddo yn adeg honno fel gwrthdystiad yn erbyn y fath agwedd.

Cytuna pawb a'i gwelodd yn y gynhadledd heddwch mai ganddo ef yr oedd y meddwl cyflymaf a mwyaf treiddgar o neb yno. Yr oedd fel cleddyf llym, yn gwibio yma ac acw nes dallu'r edrychwyr weithiau. Ac yno, fel ymhob man arall yn ystod ei yrfa, sylwyd nad oedd ynddo ddim o'r pellter swyddogol hwnnw sydd yn nodwedd gyffredin mewn dynion mewn safleoedd pwysig—ac mewn amryw heb fod mewn safleoedd felly. Medrai ymosod yn ddidostur, ond nid oedd yn rhewi pobl. Medrai fod yn awdurdodol iawn ond nid oedd yn ffroenuchel. Nid dyma'r lle i drafod canlyniadau'r gynhadledd a'r holl gynhadleddu pellach a'i dilynodd; digon yw dywedyd y bu yn rhaid llacio cryn lawer ar rai o'r telerau cyn bo hir ac y defnyddiodd Mr. Lloyd George ei ddylanwad i rwystro Ffrainc rhag myned i rai eithafion. Am yr iawn rhyfel gwyr pawb erbyn heddiw pa beth a ddaeth o hwnnw. Sefydlwyd rhyw fath o heddwch anesmwyth yn Ewrob, ond yr oedd y tanau yn parhau i fudlosgi o hyd.

Yn y cyfamser helbulus ddigon oedd pethau gartref. Yr oedd Iwerddon mewn gwrthryfel agored; yr oedd yr hen blaid genedlaethol seneddol wedi colli pob dylanwad a phlaid Sinn Fein, oedd yn anelu at annibyniaeth, wedi cael y llaw uchaf yn y wlad. Yr oedd pethau yn myned o ddrwg i waeth a'r ymosodiadau ar filwyr Prydeinig yn creuloni. Dadl y Sinn Feiniaid oedd mai ymladd dros eu hannibyniaeth fel gwlad yr oeddynt ac mai rhyfel yn ystyr gyffredin y gair oedd yr hyn a wnaent. Y ddadl o'r ochr arall oedd mai gwrthryfel oedd; cymharodd Mr. Lloyd George y sefyllfa â'r sefyllfa yn yr America pan aeth Lincoln i ryfel er mwyn atal y taleithiau deheuol rhag ymwahanu. Nid oedd yr ymresymiad hwnnw yn argyhoeddiadol. Yn un peth, nid oedd wahaniaeth cenedlaethol rhwng De a Gogledd yn yr Unol Daleithiau ac yr oedd yr undeb yr aeth y taleithiau iddo ar ôl cyhoeddi eu hannibyniaeth yn un gwirfoddol. Heblaw hynny, yr oedd gan bob talaith yn yr America ymreolaeth gyflawn cyn belled ag yr oedd ei hamgylchiadau mewnol hi ei hun yn myned.

Un o'r penodau duaf yn hanes Prydain ydyw hanes y polisi yn Iwerddon. Wrth ddweyd hyn nid wyf mewn unrhyw fodd yn cyfiawnhau y pethau creulon yr oedd rhai Gwyddelod yn euog o'u gwneud yn y cyfnod tywyll hwnnw. Ond, yn sicr, dyletswydd y Llywodraeth oedd atal a chosbi'r anghyfraith trwy foddion cyfreithiol, gofalu mai'r euog yn unig a gosbid ac nad oedd y diniwed yn dioddef. Nid dyna a ddigwyddodd. Gwrthdystiwyd yn erbyn gweithredoedd y corfflu Prydeinig a adwaenid wrth yr enw "Black and Tans " gan farnwyr a chadfridogion, gan wladweinwyr megis Asquith a chan rai o arweinwyr amlycaf crefydd a meddwl y wlad. Un o'r pethau y mae ar ddyn fwyaf o gywilydd eu cofio ynglŷn â Chymru yn y cyfnod hwnnw ydyw fod barn y wlad wedi bod mor dawedog ar y cyfan ynghylch polisi oedd yn sarnu egwyddorion yr oedd llu o grefyddwyr a gwleidyddwyr Cymru wedi arfer eu harddel dan draed. Gwrthdystiodd ychydig weddill yn ffyrnig yn enw anrhydedd gwlad, ond ychydig weddill oeddynt. Gwrthododd rhai eglwysi mewn un dref Gymreig gyhoeddi cyfarfod gwrthdystiad oedd i'w annerch gan nifer o weinidogion adnabyddus, a gwrthododd eraill anfon cynrychiolwyr iddo ar y tir mai mater gwleidyddol ydoedd. Ers pa bryd, tybed, yr oedd eglwysi Cymru wedi ofni llychwino eu dwylo â gwleidyddiaeth? Yr hyn a ofnent mewn gwirionedd oedd digio Mr. Lloyd George. Yr oedd ef a hwythau wedi crwydro ymhell iawn o'u hen lwybrau. Dadleuodd Asquith gyda'i welediad clir arferol dros ganiatau Dominion status i Iwerddon fel y ffordd orau i ddadrys y broblem, ac mewn araith yng Nghaernarfon yn fuan wedyn galwodd Mr. Lloyd George y cynllun hwnnw yn wallgofrwydd.

Ond yr oedd yn berffaith amlwg fod y polisi a fabwysiadwyd gan y Weinyddiaeth—neu y diffyg polisi, yn hytrach yn fethiant truenus. Ac yna gwnaeth y Prif Weinidog un o'r troadau sydyn hynny sydd mor nodweddiadol ohono ac yn syfrdanu cymaint ar y bobl o'i gwmpas. Wedi'r holl siarad ac ymladd a bygwth, gwahoddwyd arweinwyr y gwrthryfel Gwyddelig i gyfarfod y Prif Weinidog ac aelodau eraill o'r weinyddiaeth yn Llundain i drafod y safle. Nid oes amheuaeth na wnaeth Mr. Lloyd George yr hyn oedd yn iawn yn y gwahoddiad hwn; y trueni oedd na buasai wedi ei wneud yn gynt. Y canlyniad fu sefydlu gwladwriaeth Eire, gyda safle dominiwn, hynny ydyw, gyda mwy o ymreolaeth nag y breuddwydiodd Gladstone erioed amdano, ond heb gynnwys Ulster yn y trefniant. Yr oedd yn rhy ddiweddar erbyn hynny i sôn am y cynllun a luniodd Mr. Gladstone, ond pe na buasai'r Toriaid a'r Rhyddfrydwyr a gytunodd a hwy wedi gwneud hwnnw'n amhosibl yn 1886 ac ar ôl hynny, buasai hanes perthynas Prydain ac Iwerddon yn dra gwahanol ac, efallai, hanes Ewrob hefyd.

Arwahan i'r pryderon tramor ac yn Iwerddon yr oedd gwasgfa ariannol a diwydiannol wedi dal y wlad hon hefyd, a bu cyfres o streiciau ac o helyntion diwydiannol bygythiol. Yr oedd Mr. Lloyd George mor brysur yn myned i gynhadleddau yma ac acw yn Ewrob fel, nad oedd i'w weled yn Nhŷ'r Cyffredin ond unwaith yn y pedwar amser; yn wir, nid oes hanes am unrhyw Brif Weinidog arall wedi talu cyn lleied o sylw i'r Tŷ, a bu yn rhaid i Mr. Lloyd George dalu'r doll am hynny. Fel yr oedd pethau yn myned yn fwy cymhleth yr oedd Tŷ'r Cyffredin yn myned yn fwy anesmwyth, a thebygodd safle Mr. Lloyd George fwy-fwy i ddisgrifiad Macaulay o safle Brougham. Nid oedd cyfangorff y Toriaid yn ei hoffi nac yn ymddiried ynddo ac yr oedd y blaid Ryddfrydol wedi ei hollti, i bob golwg yn anobeithiol. Nid oedd y Toriaid cyffredin wedi maddau iddo am yr hyn a wnaeth trwy'r cytundeb ag Iwerddon, a chrewyd anesmwythyd mwy cyffredinol gan waith y Prif Weinidog yn cefnogi'r Groegiaid yn eu rhyfel â Thwrci, a chan y ffaith i ni fod o fewn y dim i fyned i ryfel â Thwrci ein hunain. Yr oedd pethau yn amlwg yn dirwyn i'r pen, a phan ymneilltuodd Mr. Bonar Law o'r weinyddiaeth oblegid safle ei iechyd collodd y Prif Weinidog y prif wrthglawdd rhyngddo ef ag anfodlonrwydd Tŷ'r Cyffredin.

Dywedid, ond ni wn a yw hynny yn wir, nad oedd Mr. Lloyd George ei hun wedi sylweddoli i ba le yr oedd pethau yn tueddu. Y mae'n bosibl ei fod mor brysur gyda chynhadleddau a phethau eraill nes colli cyffyrddiad i raddau â'r hyn oedd yn digwydd o'i gwmpas. Y mae'n rhaid cofio, hefyd, ei fod mewn swydd ers un mlynedd ar bymtheg, a'r blynyddoedd hynny, hyd yn oed cyn y rhyfel, yn flynyddoedd llawn o waith dadleuol pryderus, a'i fod, erbyn 1922, yn Brif Weinidog ers chwe blynedd ac wedi dal pwys a gwres a phryderon llethol rhyfel mawr yn ystod y cyfnod hwnnw. Os oedd wedi blino ac wedi colli peth ar fin ei sylwadaeth ni buasai hynny yn beth i ryfeddu ato, ac ni buasid yn rhyfeddu llawer ychwaith os oedd y moli a fu arno wedi ei argyhoeddi, yn ddiarwybod iddo ef ei hun, fod yn rhaid wrtho.

Ym mis Hydref, 1922, cyfarfu nifer o Doriaid yn y Carlton Club yn Llundain. Gwnaeth Llywydd Bwrdd Masnach araith ar y safle a chynigiodd fod y Toriaid, pan ddeuai'r etholiad, i ymladd fel plaid annibynnol, gyda'i rhaglen ei hun a'i harweinydd ei hun. Ystyr hynny, wrth gwrs, oedd fod diwedd i fod ar y Coalisiwn ac ar arweiniad Mr. Lloyd George. Nid oedd Llywydd Bwrdd Masnach y pryd hynny yn aelod adnabyddus iawn o'r blaid Doriaidd ac nid yw yn ormod dywedyd ei fod bron yn gwbl anadnabyddus i gyfangorff y bobl. Ei enw oedd Stanley Baldwin, a dywedir ei fod wedi mynd i'r cyfarfod gan dybio mai gwrthod ei gynigiad a wneid. Buasai hynny yn golygu ei ymddiswyddiad yntau. Ond, er fod y Round Table wedi dweyd, yn rhifyn y mis cynt, fod pawb yn cytuno mai rhyw fath o goalisiwn fyddai'r weinyddiaeth nesaf, a bod Syr George Younger, prif drefnydd medrus y blaid Doriaidd, wedi canmol y Prif Weinidog tua'r un amser, pleidleisiodd 187 o blaid cynigiad Mr. Baldwin a dim ond 87 yn erbyn. Ymddiswyddodd Mr. Lloyd George ar unwaith ac ymgymerodd ei hen gyfaill, Bonar Law, a ffurfio gweinyddiaeth newydd.

Felly, yn sydyn ac yn annisgwyliadwy i'r rhan fwyaf, daeth tymor Mr. Lloyd George fel Prif Weinidog i ben—chwe blynedd o egni rhyfeddol, o bryderon ac o anawsterau a fuasai wedi llethu llawer un, o fuddugoliaethau mawr, o awdurdod digyffelyb, o rai methiannau cofiadwy, ac, hefyd, o ymdrechion i wella cyflwr cymdeithasol y wlad. Fel y dywedwyd, cred rhai y buasai yn well i Mr. Lloyd George pe buasai wedi ymneilltuo tros dro yn 1918, ar ddiwedd y rhyfel, gan ddyfod yn ôl, wedi gorffwyso, ymhellach ymlaen, ond ofer yw athronyddu ynghylch yr hyn a allasai fod. Yr hyn a fu a fu. Ond y mae'n debyg nad oedd neb yn breuddwydio yn 1922 fod y gwladweinydd amlycaf yn Ewrob, yr unig un o wladweinwyr amlwg Ewrob yng nghyfnod y rhyfel oedd wedi aros mewn swydd, yn ymneilltuo o swydd am gyfnod mor faith. Pan ysgrifennir y geiriau hyn y mae dros ugain mlynedd er pan adawodd Mr. Lloyd George Downing Street, a, chyn belled ag y mae ei yrfa wleidyddol ef yn myned, nid oes llawer iawn o hanes i'r ugain mlynedd hynny.

PENNOD IX.

PETH anodd iawn, y mae'n sicr, ydyw i ddyn ei gyfaddasu ei hun i fywyd allan o swydd ac heb awdurdod ar ôl cyfnod maith o awdurdod digymar, ac y mae'n debyg mai y cyfnod ar ôl ei ymddiswyddiad oedd yr un mwyaf anodd yn holl yrfa Mr. Lloyd George. Yr argraff a adawodd rhai o'i areithiau'r pryd hynny oedd nad oedd yn llwyddo i'w gyfaddasu ei hun i'r amgylchiadau newydd o gwbl; tinc siomiant ac anfodlonrwydd oedd ynddynt a chollwyd rhywbeth o'r hen ynni gynt. Y mae'n rhaid dywedyd, hefyd, iddo golli, trwy bolisi cyntaf ei weinyddiaeth yn Iwerddon a'i agwedd at Ryddfrydwyr da yn etholiad 1918, ymddiried a chefnogaeth llawer y buasai yn dda iddo wrth eu help erbyn hynny. Gwnaed ymdrech o'r ddeutu i gyfanu'r rhwyg yn y blaid Ryddfrydol a llwyddwyd ar yr wyneb ac am ysbaid. Ond yn ystod y streic gyffredinol yn 1926 anghytunodd Mr. Lloyd George ag Asquith,—cred llawer bellach mai Mr. Lloyd George oedd nesaf i'w le y pryd hynny—a daeth cydweithrediad yn amhosibl. Ar yr un pryd, nid oedd amheuaeth yn meddwl neb nad Mr. Lloyd George oedd y gŵr amlycaf. a mwyaf ei ddylanwad yn y blaid. Oddiwrtho ef yr oedd ei llwyddiant yn y dyfodol i ddyfod, os oedd i ddyfod o gwbl.

Mewn ymgom a gefais â Mr. Lloyd George yn 1940, a gyhoeddwyd yn y Liverpool Daily Post, dywedodd mai yr hyn y dylasai'r blaid Ryddfrydol fod wedi ei wneud ar ôl y rhyfel oedd troi yn bendant i'r chwith, hynny ydyw, ei chysylltu ei hun yn glir â phlaid y werin a gwelliannau cymdeithasol. Ychwanegodd na allai ef ar y pryd, fel pennaeth gweinyddiaeth gyfansawdd, wneud hynny. Y mae'n amheus a oedd rhai elfennau yn y blaid yn barod i wneud hynny pr'un bynnag, a phan ddaeth Mr. Lloyd George yn ôl nid oedd pawb yn barod i ymddiried yn ei arweiniad. Cydnabyddir erbyn heddiw y buasai yn dda pe buasid wedi gwrando ar ei gyngor, pe buasid wedi talu mwy o sylw i'r tir, wedi datblygu mwy ar adnoddau'r wlad, ac wedi gafael yn eofnach ym mhroblem diffyg gwaith. Wrth edrych yn ôl heddiw gwelir fod gwelediad Mr. Lloyd George yn ystod y cyfnod o 1925 ymlaen yn gliriach nag eiddo y rhan fwyaf o wleidyddwyr eraill a'i gynlluniau yn ddewrach ac yn myned yn nes at wraidd y drwg. Gwnaeth rai areithiau da ar y cynlluniau hynny, areithiau yr oedd yr hen dinc yn amlwg ynddynt. Er enghraifft, cofiaf ef yn sôn, mewn araith yn Llandudno, yn 1928, am y bobl "nad oedd grac yn llawr eu nefoedd hwy na ellid ei drwsio gyda chwe' cheiniog o ostyngiad yn nhreth yr incwm." Yn 1935 gwnaeth araith ym Mangor oedd i roddi cychwyn i bolisi ac i fywiogrwydd newydd; sefydlwyd y "Council of Action," a chafwyd cryn lawer o gefnogaeth. Ond, rhywfodd, nid oedd pethau yn symud fel cynt; yr oedd yn amhosibl deffro'r wlad drwyddi. Yr oedd difaterwch Mr. Lloyd George ynghylch rhwymau cyffredin plaid a'i duedd ar hyd ei yrfa i'w hanwybyddu yn awr wedi troi yn ei erbyn ef ei hun. Yr oedd yn unig bellach. Nid oedd y Toriaid erioed wedi bwriadu ei ddilyn ymhellach na rhyw bwynt. Yr oedd y bobl—ac yr oedd llu mawr ohonynt—a'i dilynodd tra yr oedd yn Brif Weinidog ac am ei fod yn Brif Weinidog, wedi ei adael yn ebrwydd pan adawodd swydd, ac yr oedd y bobl oedd wedi parhau yn Rhyddfrydwyr di-gyfaddawd yn ddrwgdybus ohono. Felly hefyd yr oedd Plaid Llafur; yr oedd Mr. Lloyd George yn barod, yn ôl pob tebyg, i fyned cyn belled a hithau ac yr oedd yn alluocach na'r un o'u harweinwyr hi, ond yr oedd Plaid Llafur yn eiddigus o'i hannibyniaeth ac yn ofni ynghylch tynged yr annibyniaeth hwnnw pe dilynai Mr. Lloyd George.

Un o bethau tristaf gwladlywiaeth ddiweddar ydyw fod grym mor fawr ymhlaid y werin a'r tlawd heb ei ddefnyddio. Pan ddaeth y rhyfel presennol bu galw am wneud Mr. Lloyd George naill ai yn Brif Weinidog neu, yn niffyg hynny, yn Weinidog Amaethyddiaeth; teimlid y dylid defnyddio ei allu, ei ynni a'i brofiad anghymarol yng ngwasanaeth y wlad mewn rhyw gyfeiriad. Ni anghofiwyd yr hyn a wnaeth yn y rhyfel o'r blaen. Ar ddechrau'r rhyfel hwn daeth i Gaernarfon i draethu ei farn ar y safle, yr araith wleidyddol bwysicaf, y mae'n debyg, a wnaed ganddo yn ystod y rhyfel. Daeth ef â Dame Margaret Lloyd George i Gaernarfon drachefn, yn 1940, i gyfarfod dathlu ei jiwbili ef fel aelod seneddol. Sgwrs ar yr aelwyd gyda hen ffrindiau oedd yr araith honno, ac, er hapused oedd, credaf fod Dame Margaret wedi taflu ei phriod i'r cysgod y tro hwnnw gyda'r araith fechan, gynnes a wnaeth wrth gydnabod rhodd merched y Bwrdeisdrefi. Yr oedd hi ac yntau, fel arfer, mor gartrefol ymhlith eu hen gydnabod a phe na buasent erioed wedi bod ymhell o olwg Cricieth. Dyna ran o guddiad cryfder Mr. Lloyd George.

Hwyrach mai dyma'r lle gorau i ddywedyd gair amdano fel siaradwr. I ni yng Nghymru nid yw ei ddawn areithyddol yn beth mor newydd ag oedd i'r Saeson, canys hen ddawn y pulpud Cymreig ydyw; y mae tinc y pulpud i'w glywed yn glir yn llais ac ym mrawddegau Mr. Lloyd George weithiau, ac yn Gymraeg tynn yntau ei frawddegau o'r un mwnglawdd â'r hen bregethwyr—o gyfoeth ac ardderchowgrwydd iaith y Beibl Cymraeg. Rhoddwyd iddo un o'r lleisiau pereiddiaf a glywyd ar lwyfan erioed, llais tenor ysgafn, ystwyth, yn llawn lliw a miwsig. Gall gyffwrdd ffynhonnau dagrau cynulleidfa â'r llais hwnnw a'r munud nesaf ei throi i chwerthin neu ei chynhyrfu i ddig. Hyd yn oed pan na bo ganddo ddim neilltuol i'w ddywedyd—a bydd yntau felly weithiau, yn enwedig ar rai pynciau,—y mae sŵn y llais hwnnw yn hyfrydwch pur i'w wrando. Dywedwyd mai dawn y pulpud Cymreig yw ei ddawn; yr oedd dawn actio yr hen bregethwyr yn rhan o'u nerth, ac nid yw Mr. Lloyd George yn ôl i'r un ohonynt yn hynny ychwaith. Clywais Sais diwylliedig oedd yn casau holl bolisi Mr. Lloyd George yn ystod y blynyddoedd ar ôl y rhyfel yn dywedyd ei fod wedi mynd i wrando arno unwaith o raid.

"Nid oeddwn yn credu ynddo," meddai, " ac yr oeddwn yn sicr fod ei bolisi yn un trwyadl ddrwg. Ond cyn pen chwarter awr yr oeddwn yn chwerthin ac yn curo dwylo cyn uched a neb yn y fan. Yr oedd yn medru dweyd mwy gydag un edrychiad nag a fedrai llawer mewn araith faith."

At hynny y mae'n rhaid ychwanegu yr haen o farddoniaeth sydd yn ei areithyddiaeth bob amser—nid hyodledd rheithegol ond fflachiadau o wir farddoniaeth—a'r cyffelybiaethau a ddaw iddo megis ar antur. Enghraifft nodedig o hyn oedd y darn hwnnw yn ei araith yng Nghaernarfon yn 1939 pan soniodd am y glawogydd yn cadw'r byddinoedd rhag rhuthro ar ei gilydd, ac yr ychwanegodd, "Pwy a wyr nad o'r dilyw yma y daw colomen heddwch a deilen yn ei phig." Aeth ias trwy'r gynulleidfa, a soniais am y peth wrtho ar ôl y cyfarfod. "Ar y funud y daeth y golomen," meddai yntau. "'Doedd- wn i ddim wedi meddwl amdani hi nes yr oeddwn i wedi dechrau sôn am y glaw." Digwyddodd peth tebyg yn Eisteddfod Dinbych yr un flwyddyn. Sôn yr oedd. am yr Eisteddfod yn parhau trwy'r holl dymhestloedd. "Yr oeddwn yn croesi'r Migneint ar fy ffordd yma. heddiw," meddai, "a bum yn siarad â rhai o'r amaethwyr ar yr ucheldiroedd. Yr oeddynt yn sôn am y stormydd mawr sydd wedi bod yn ystod y misoedd diwethaf, glawogydd a gwyntoedd nad oes neb sy'n fyw yn cofio eu tebyg. Ond 'doedd dim o'u hôl nhw ar y mynydd." Ar y funud y daeth y gyffelybiaeth honno hefyd. Fel yna y mae ei feddwl yn gweithio, fel y gwyr pawb a fu yn ei gwmni. Y mae ei barodrwydd yn nodedig. Cofiaf rhywun yn gofyn, mewn cyfarfod o amaethwyr ym Mhwllheli, yn lled fuan ar ôl y rhyfel, a oedd obaith i ffermwyr gael benthyg arian am lôg o ddau a hanner y cant. "Y mae arna'i ofn nad oes dim," meddai Mr. Lloyd George. "Pump ydi hi 'rwan, ynte, mi fydd yn dipyn cyn y bydd hi'n bedwar, ac yn fwy na hynny cyn y bydd hi'n dri. Ac mi fyddwch chi a minnau, fy nghyfaill i, wedi rhoi'r gorau i ffarmio cyn y bydd hi'n taro hanner awr wedi dau."

Arwahan i'r gallu areithyddol a'i gosododd yn rheng flaenaf areithwyr ei ddydd, y mae'n debyg mai'r ddwy elfen sydd yn cyfrif yn bennaf am ei lwyddiant ydyw ei ddewrder a'i gyflymder. Gobeithiaf fod y dewrder wedi dyfod yn ddigon amlwg yn hynny o'r hanes a ysgrifennwyd yma o'r adeg, bell yn ôl erbyn hyn, yr heriodd fan-ormewsyr Sir Gaernarfon, hyd y dydd y mentrodd bopeth, dro ar ôl tro, yn ymdrech y rhyfel mawr. Pan fo Mr. Lloyd George yn ffyddlon i'w ddewrder cynhenid y mae, fel rheol, yn ddiogel. Pan ffaelo hwnnw, fel y gwnaeth ym marn llawer pan anfonodd aelodau Tŷ'r Cyffredin y teligram trychinebus hwnnw ato i Baris, y mae bob amser wedi colli'r ffordd. Am ei gyflymder meddwl bu hwnnw, mewn ystyr, yn nerth ac yn wendid iddo; yn nerth am ei fod yn ei alluogi i weled ac i weithredu ymhell o flaen y rhan fwyaf o'r bobl fydd gydag ef neu yn ei erbyn, yn wendid am ei fod wedi peri i bobl arafach fod yn ddrwgdybus ohono. Y mae wedi newid ei feddwl ac wedi gweithredu ar y newid hwnnw tra bont hwy yn ystyried y posibilrwydd o newid. Arhosant yn eu hunfan neu tuthiant ar ei ôl, gan ryfeddu at ei anghysondeb, ag yntau yn methu yn lan a deall eu harafwch poenus hwy.

Ni bu neb yn y wlad hon yn fwy poblogaidd na Mr. Lloyd George am beth amser. Ni bu neb erioed yn fwy amhoblogaidd ar rai cyfnodau, ac am gyfnodau eraill ni bu neb, heb eithrio Mr. Gladstone, yn fwy o ddyn gan ei ganlynwyr ac yn nes i gythraul ym marn ei wrthwynebwyr. Yr un peth amhosibl ynglŷn â Mr. Lloyd George ar hyd ei yrfa ydyw bod yn ddifater yn ei gylch. Y mae ganddo swyn personol rhyfedd a'r ddawn amhrisiadwy o fedru gyrru dynion heb iddynt hwy wybod eu bod yn cael eu gyrru. Y mae brwdfrydedd a sel Mr. Lloyd George yn eich tanio chwithau pan fyddoch yn ei gwmni, ac yr ydych wedi cytuno â llawer o bethau cyn sylweddoli eich bod wedi gwneud dim o'r fath. Paham, ynteu, y gadawyd ef mor unig, yn wleidyddol, yn ystod y blynyddoedd olaf hyn? Y mae amryw resymau yn cyfrif am hynny, ond un ohonynt ydyw nad oedd, yn nyddiau ei awdurdod mwyaf, yn hoffi cael dynion o feddwl annibynnol ac o ewyllys anhyblyg o'i gwmpas. Dynion medrus, oedd yn barod i gymryd eu cyfarwyddo a'u gorchymyn ganddo ef, oedd orau ganddo, ac er bod dynion felly yn ddefnyddiol dros dymor, y mae ar bob arweinydd angen y lleill pan ddaw'r storm a dydd y praw. Ac nid oedd gan Mr Lloyd George, i ddefnyddio geiriau Macaulay unwaith eto, "a band of such tried friends as Fox and Canning had to support him."

Ni bu Mr. Lloyd George erioed yn ddyn plaid da, a'r canlyniad ydyw fod pob plaid yn ei thro wedi edrych yn ddrwgdybus arno. Gellir dywedyd un peth amdano heb os nac onibai; ar hyd ei yrfa faith bu ei gydymdeimlad gyda'r tlawd a bu ei ymdrechion i wella cyflwr y werin. Fel y dywedwyd o'r blaen, anffawd a thrychineb oedd i ryfel ddyfod ar draws ei waith o blaid gwelliannau cymdeithasol. Mewn hanes cofir amdano ar gyfrif ei ymdrechion a'i ddewrder yn ystod y rhyfel, ond daw adeg pan gyfrifir yr hyn a wnaeth i newid cyfundrefn gymdeithasol y wlad ac i wneud bywyd y werin yn llai dibynnol ar ffawd a damwain fel ei waith pwysicaf a hwyaf ei barhad.

Dechreuais trwy ddywedyd mai Cymru a fu cefndir Mr. Lloyd George am gryn nifer o flynyddoedd ym more ei oes, a chyn diweddu dylid dweyd gair pellach am ei berthynas â'i wlad ei hun. Nid yw yn ormod dywedyd mai Mr. Lloyd George ydyw'r arweinydd cenedlaethol mwyaf a gododd yn Nghymru er dyddiau Owain Glyn Dwr (i gyfeiriad arall y trodd Hywel Harris yr egni a'r gallu cyffelyb oedd ynddo ef). Ni bu gennym neb arall a'r fath allu ganddo i gynhyrfu'r bobl. Ni bu gennym hyd ei ddydd ef yr un arweinydd arall y gellid meddwl amdano yn arwain Cymru mewn ymdrech am ei hannibyniaeth pe dewisasai wneud hynny. Buasai breuddwydio am neb arall yn gwneud hynny yn chwerthinllyd, ond y mae'n bosibl meddwl am Mr. Lloyd George yn gwneud ac yn cael cyfangorff y genedl i'w ddilyn. Ni bu gan Gymru neb arall oedd yn barod i fyned cyn belled er mwyn sicrhau sylw'r senedd na neb a fuasai wedi medru defnyddio pob cynllun a pheirianwaith gwleidyddol i ateb dibenion Cymru fel y medrai ef. Eithr troi oddiar lwybr yr arweinydd cenedlaethol a wnaeth a dewis y llwybr arall. Nid dyma'r lle i drafod y ddwy farn sydd ar hynny. Gwnaeth Mr. Lloyd George araith yng Nghaernarfon flynyddoedd yn ôl oedd yn dangos yn glir ei fod ef yn credu iddo wneud y dewis gorau.

Beth bynnag am hynny, ni all neb fod yn hir yng nghwmni Mr. Lloyd George heddiw heb wybod fod Cymru yn rhan bwysig o'r cefndir o hyd. Ni wn i beth yw ei farn am ei dyfodol, ymhellach na'r hyn a ddywedodd o dro i dro oddiar lwyfan yr eisteddfod genedlaethol, lle y mae wedi llywyddu bob prynhawn dydd Iau bron yn ddifwlch ers llawer o flynyddoedd, ond y mae ei feddwl am y gorffennol yn berffaith glir. Dyn y bedwaredd ganrif ar bymtheg ydyw cyn belled ag y mae Cymru yn myned, dyn Eben Fardd a Cheiriog, Herber Evans a John Hughes. Cerddwn gydag ef un hwyrnos o wanwyn ar draws ei gaeau yn Surrey, lle y mae wedi troi anialwch yn ffarm ffrwythlon. Siaradem am amgylchiadau helbulus y byd, am ei brofiadau yntau yn y Cabinet, yn y Senedd, ac mewn cynhadleddau yn Ewrob. A, rhywfodd neu'i gilydd, daeth y sgwrs i gyfeiriad mwy cartrefol a throdd yn sydyn gan ofyn, "Ydch chi'n cofio englynion Cynhaearn ar y pwnc yna?" Nid oeddwn wedi eu gweled erioed, heb sôn am eu cofio, a dyna Mr. Lloyd George, o ganol y sgwrs am frenhinoedd a gwladweinwyr, yn dechrau eu hadrodd, res ohonynt, a'u hadrodd yn dda iawn. Dro arall, wrth sôn am helyntion y byd anesmwyth, cofiodd am ddarn o bregeth John Jones, Talysarn, a adroddwyd wrtho gan ei ewythr, Richard Lloyd, ac ail-adroddodd hwnnw mewn dull sydd wedi peri iddo aros yn fy nghôf hyd heddiw. Y peth sydd yn syn ydyw fod pethau fel hyn wedi aros ar ei gof trwy'r holl fywyd prysur o bwysau cyfrifoldeb llethol ac o frwydrau lawer. Englyn neu ddarn o gywydd, stori o Eifionydd, emyn neu ddarn o bregeth—y maent yno i gyd, wedi eu trysori yn y côf rhyfeddol hwnnw.

Ond wrth ddweyd mai yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg y mae ei wreiddiau Cymreig, ni olygir nad yw yn gwybod, ac yn gwybod yn bur dda, beth sydd yn digwydd yng Nghymru'r ugeinfed ganrif. Gwyr am ei gwyr amlwg, yn wleidyddwyr, yn bregethwyr, yn llenorion ac yn feirdd, ac y mae ganddo cystal syniad â'r rhan fwyaf am duedd a chyfeiriad meddwl heddiw.

Ni bu erioed ymgomiwr diddanach, ac y mae yr hen rinwedd Cymreig o groeso yn ei dŷ yn amlwg ynddo. Fel pob dyn mawr, cymer ddiddordeb mewn llawer o bethau y buasai dynion llai yn eu hystyried islaw eu sylw; gan Mr. Lloyd George y cefais i wers ar sut i ddefnyddio megin gyda thân coed i'r pwrpas gorau. Y mae ei ynni yn llifo trosodd i bob cyfeiriad, ac yn Surrey (y mae ganddo ffarm arall yn Llanystumdwy hefyd) trodd yr egni hwnnw a ddangosodd gynt yn y senedd ac yn y rhyfel at drin a diwyllio'r tir. Y mae yn ffarmio tua naw cant neu fil o aceri yno ac yn eu ffarmio a'i holl egni; y mae ei berllannau fel breuddwyd a chutiau'r moch fel delfryd. Yr un peth sydd y tu cefn i'r perllannau a'r moch a'r trin tir gwyllt a'r arbrofion gyda'r peth yma a'r peth arall ag oedd wrth gefn yr herio ar ynadon ystyfnig, rhagfarnllyd Arfon dros hanner canrif yn ôl, y gwrthryfel yn erbyn arafwch Gladstone, yr ymdrech i wella cyflwr y werin, a'r crynhoi ar holl adnoddau'r ymherodraeth yn y rhyfel diwethaf—yr ynni dihysbydd sydd yn byrlymu fel ffynnon yn Mr. Lloyd George bob amser. Y wefr yma—y mae'n anodd cael y gair iawn am y peth, ond daw trydan yn weddol agos ato—ydyw yr elfen hynotaf yn ei bersonoliaeth. Y mae'n debyg nad oes yr un gair i'w ddisgrifio yn llawn ond athrylith; y mae yn rhywbeth prin ac yn rhywbeth hawdd iawn ei adnabod. Teimlais yr un peth mewn dau, neu efallai dri, o ddynion eraill—Dr. Douglas Hyde oedd un ohonynt—y rhywbeth byw, cyflym, disglair hwnnw sydd yn gwneud ei berchen yn ddyn ar ei ben ei hun, ond nid erioed yn fwy yn neb nag yn Mr. Lloyd George. Yn un o ystafelloedd Bron y De, ei gartref yn Surrey, y mae darlun o'r Cadfridog Foch, ac odditano yn llawysgrif Foch ei hun, y geiriau, yn Ffrangeg, "I M. Lloyd George. Gwrogaeth i ddyn mawr "—teyrnged un athrylith i athrylith arall. Y mae ei le mewn hanes fel un o wyr amlycaf gwladlywiaeth Prydain yn sicr.

EDWARD MORGAN HUMPHREYS

GANED yn y Fâeldref, Dyffryn Ardudwy, yn 1882. Yn or-wyr i'r Parch. Richard Humphreys, Dyffryn, a ysgrifenodd erthyglau i rai o rifynnau cynnar Y Traethodydd; yn wyr i'r Parch. Edward Morgan, Dyffryn, golygydd Y Methodist ac awdur ysgrifau: yn nai i'r Parch. R. H. Morgan, cyd-olygydd Cymru Fydd gydag O. M. Edwards, ac un o ysgrifennwyr Y Traethodydd. Cynrychiola felly y bedwaredd genhedlaeth o ohebwyr i'r Traethodydd. Bu'n golygu'r Genedl Gymreig, y North Wales Observer, a'r Goleuad. Ysgrifennodd ar faterion a llyfrau Cymru i'r Liverpool Daily Post yn wythnosol ers yn agos i chwarter canrif. Disgrifiodd yr Eisteddfod Genedlaethol i'r Manchester Guardian ers 1927. Awdur Dirgelwch Gallt y Ffrwd a nifer o storïau: ef, yn sicr ddigon yw awdur mwyaf poblogaidd bechgyn Cymru.

Nodiadau

[golygu]

Bu'r awdur farw cyn 1 Ionawr, 1956, ac mae y llyfr felly yn y parth cyhoeddus mewn gwledydd sydd â thymor hawlfraint bywyd yr awdur ynghyd â 70 o flynyddoedd neu lai.