Deddf Deddfau Trethi Cymru etc. (Pŵer i Addasu) 2022
| ← | Deddf Deddfau Trethi Cymru etc. (Pŵer i Addasu) 2022 gan Senedd Cymru |
→ |

Deddf Deddfau Trethi Cymru etc. (Pŵer i Addasu) 2022
2022 dsc 2
Welsh Tax Acts etc. (Power to Modify) Act 2022
2022 asc 2
Lluniwyd Nodiadau Esboniadol yn gymorth i ddeall y Ddeddf hon ac maent ar gael ar wahân.
Explanatory Notes have been produced to assist in the understanding of this Act and are available separately.
£6.90

Deddf Deddfau Trethi Cymru etc. (Pŵer i Addasu) 2022
2022 dsc 2
CONTENTS
| 1 | Pŵeri addasu Deddfau Trethi Cymru etc. |
| 2 | Rheoliadau o dan adran 1: atodol |
| 3 | Datganiad polisi: rheoliadau o dan adran 1 sy'n cael effaith ôl-weithredol |
| 4 | Gweithdrefn ar gyfer rheoliadau o dan adran 1 |
| 5 | Rheoliadau'n peidio â chael effaith: atodol |
| 6 | Adolygu gweithrediad ac effaith y Ddeddf hon |
| 7 | Y pŵer o dan adran 1 yn dod i ben |
| 8 | Dehongli |
| 9 | Dod i rym |
| 10 | Enw byr |

Deddf Deddfau Trethi Cymru etc. (Pŵer i Addasu) 2022
Gan ei fod wedi ei basio gan Senedd Cymru ac wedi derbyn cydsyniad Ei Mawrhydi, deddfir fel a ganlyn:
1Pŵer i addasu Deddfau Trethi Cymru etc.
- (1) Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, addasu unrhyw un neu ragor o Ddeddfau Trethi Cymru a rheoliadau a wneir o dan unrhyw un neu ragor o'r Deddfau hynny os ydynt yn ystyried bod yr addasiadau'n angenrheidiol neu'n briodol at unrhyw un neu ragor o'r dibenion a ganlyn neu mewn cysylltiad ag unrhyw un neu ragor ohonynt—
- (a) sicrhau na osodir treth gwarediadau tirlenwi neu dreth trafodiadau tir pan fyddai gwneud hynny yn anghydnaws ag unrhyw rwymedigaethau rhyngwladol;
- (b) amddiffyn rhag osgoi trethi mewn perthynas 4 threth gwarediadau tirlenwi neu dreth trafodiadau tir
- (c) ymateb i newid i dreth ragflaenol sy'n effeithio, neu a allai effeithio, ar y symiau a delir i mewn i Gronfa Gyfunol Cymru o dan adran 118(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32);
- (d) ymateb i benderfyniad llys neu dribiwnlys sy'n effeithio, neu a allai effeithio, ar weithrediad unrhyw un neu ragor o Ddeddfau Trethi Cymru neu reoliadau a wneir o dan unrhyw un neu ragor o'r Deddfau hynny.
- (2) Ond gweler adran 2(4), (5) a (6) (cyfyngiadau ar y pŵer).
- (3) Yn y Ddeddf hon, ystyr "Deddfau Trethi Cymru" yw —
- (a) Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016 (dccc 6);
- (b) Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017 (decc 1);
- (c) Deddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017 (dccc 3).
- (4) Yn yr adran hon—
- ystyr "rhwymedigaethau rhyngwladol" ("international obligations") yw unrhyw rwymedigaethau rhyngwladol sydd gan y Deyrnas Unedig heblaw rhwymedigaethau i gadw at hawliau'r Confensiwn (o fewn yr ystyr a roddir i "the Convention rights" yn Neddf Hawliau Dynol 1998 (p. 42)) a'u gweithredu;
- ystyr "treth ragflaenol" ("predecessor tax") yw—
- (a) treth dir y dreth stamp;
- (b) y dreth dirlenwi.
2Rheoliadau o dan adran 1: atodol
- (1) Caiff rheoliadau o dan adran 1 (ymhlith pethau eraill)—
- (a) gosod treth gwarediadau tirlenwi neu dreth trafodiadau tir;
- (b) gosod neu estyn atebolrwydd i gosb.
- (2) Caiff rheoliadau o dan adran 1 hefyd (ymhlith pethau eraill) wneud darpariaeth sy'n cael effaith ôl-weithredol, cyn belled ag—
- (a) nad yw'r ddarpariaeth yn gosod neu'n estyn atebolrwydd i gosb yn ôl-weithredol;
- (b) pan fo'r ddarpariaeth yn creu unrhyw atebolrwydd i dreth trafodiadau tir neu dreth gwarediadau tirlenwi, neu i swm uwch o'r naill neu'r llall o'r trethi hynny, yn ôlweithredol—
- (i) y bo Gweinidogion Cymru wedi gwneud datganiad llafar i Senedd Cymru, neu wedi gosod datganiad ysgrifenedig ger ei bron, yn nodi eu bwriad i wneud darpariaeth o'r fath, a
- (ii) nad yw'r ddarpariaeth yn cael effaith mewn perthynas ag unrhyw gyfnod cyn i'r datganiad gael ei wneud neu ei osod;
- (c) pan fo'r ddarpariaeth yn tynnu yn ôl hawlogaeth i gredyd treth (o fewn ystyr adran 96 o Ddeddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017 (dccc 3)), neu'n lleihau hawlogaeth o'r fath, yn ôl-weithredol—
- (i) y bo Gweinidogion Cymru wedi gwneud datganiad llafar i Senedd Cymru, neu wedi gosod datganiad ysgrifenedig ger ei bron, yn nodi eu bwriad i wneud darpariaeth o'r fath, a
- (ii) nad yw'r ddarpariaeth yn cael effaith mewn perthynas ag unrhyw gyfnod cyn i'r datganiad gael ei wneud neu ei osod.
- (3) Caiff rheoliadau o dan adran 1 hefyd (ymhlith pethau eraill)—
- (a) gwneud darpariaeth wahanol at ddibenion gwahanol;
- (b) gwneud darpariaeth gysylltiedig, atodol, ganlyniadol, drosiannol neu ddarfodol neu ddarpariaeth arbed.
- (4) Ni chaiff rheoliadau o dan adran 1 addasu—
- (a) Rhan 2 o Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016 (dccc 6) neu reoliadau a wneir o dan y Rhan honno (darpariaethau ynghylch Awdurdod Cyllid Cymru);
- (b) rheoliadau a wneir o dan unrhyw un neu ragor o'r darpariaethau a ganlyn o Ddeddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017 (dccc 1) (rheoliadau sy'n pennu bandiau treth a chyfraddau treth ar gyfer treth trafodiadau tir)—
- (i) adran 24(1);
- (ii) paragraff 27(4) o Atodlen 6;
- (iii) paragraff 28(1) o'r Atodlen honno;
- (c) rheoliadau a wneir o dan unrhyw un neu ragor o'r darpariaethau a ganlyn o Ddeddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017 (dccc 3) (rheoliadau sy'n pennu cyfraddau treth ar gyfer treth gwarediadau tirlenwi)—
- (i) adran 14(3);
- (ii) adran 14(6);
- (iii) adran 46(4).
- (b) rheoliadau a wneir o dan unrhyw un neu ragor o'r darpariaethau a ganlyn o Ddeddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017 (dccc 1) (rheoliadau sy'n pennu bandiau treth a chyfraddau treth ar gyfer treth trafodiadau tir)—
- (5) Ni chaiff rheoliadau o dan adran 1 wneud unrhyw ddarpariaeth sy'n ymwneud ag ymchwilio i droseddau.
- (6) Ni chaiff rheoliadau o dan adran 1 newid unrhyw weithdrefn gan Senedd Cymru sy'n ymwneud â gwneud offeryn statudol o dan unrhyw ddarpariaeth yn y Deddfau hynny.
- (7) Nid yw'r pŵer a roddir gan adran 1 yn effeithio ar unrhyw bŵer arall sydd gan Weinidogion Cymru o dan Ddeddfau Trethi Cymru, ac nid yw unrhyw bŵer arall sydd ganddynt o dan Ddeddfau Trethi Cymru yn effeithio ar y pŵer a roddir gan yr adran honno.
3Datganiad polisi: rheoliadau o dan adran 1 sy'n cael effaith ôl-weithredol
- (1) Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi datganiad o'u polisi mewn cysylltiad ag arfer y pŵer o dan adran 1 i wneud rheoliadau sy'n cael effaith ôl-weithredol.
- (2) Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi'r datganiad cyn diwedd y cyfnod o dri mis sy'n dechrau â'r dyddiad y caiff y Ddeddf hon y Cydsyniad Brenhinol.
- (3) Caiff Gweinidogion Cymru ddiwygio'r datganiad, ac os gwnânt hynny, rhaid iddynt gyhoeddi'r datganiad diwygiedig.
4Gweithdrefn ar gyfer rheoliadau o dan adran 1
- (1) Mae'r pŵer i wneud rheoliadau o dan adran 1 yn arferadwy drwy offeryn statudol.
- (2) Ni chaniateir gwneud offeryn statudol sy'n cynnwys rheoliadau o dan adran 1 oni bai—
- (a) bod drafft o'r offeryn wedi ei osod gerbron Senedd Cymru ac wedi ei gymeradwyo ganddi drwy benderfyniad, neu
- (b) bod Gweinidogion Cymru o'r farn, oherwydd brys, ei bod yn angenrheidiol gwneud y rheoliadau heb fod drafft o'r offeryn wedi ei osod a'i gymeradwyo yn y modd hwnnw.
- (3) Mae is-adrannau (4) i (8) yn gymwys i offeryn a wneir heb fod drafft o'r offeryn wedi ei osod gerbron Senedd Cymru ac wedi ei gymeradwyo ganddi drwy benderfyniad.
- (4) Rhaid gosod yr offeryn gerbron Senedd Cymru.
- (5) Os na chymeradwyir yr offeryn drwy benderfyniad gan Senedd Cymru yn ystod y cyfnod o 60 niwrnod sy'n dechrau â'r diwrnod y gwneir yr offeryn, mae'r rheoliadau sydd wedi eu cynnwys yn yr offeryn yn peidio â chael effaith ar ddiwedd y cyfnod hwnnw.
- (6) Ond—
- (a) os yw Senedd Cymru yn pleidleisio ar gynnig ar gyfer penderfyniad i gymeradwyo'r offeryn cyn diwrnod olaf y cyfnod hwnnw, a
- (b) os na chaiff y cynnig ei basio, mae'r rheoliadau sydd wedi eu cynnwys yn yr offeryn yn peidio â chael effaith ar ddiwedd y diwrnod y cynhelir y bleidlais.
- (7) Ni chaniateir gwneud cynnig yn Senedd Cymru ar gyfer penderfyniad i gymeradwyo'r offeryn yn ystod y cyfnod o 28 o ddiwrnodau sy'n dechrau â'r diwrnod y gwneir yr offeryn.
- (8) Wrth gyfrifo'r cyfnodau a grybwyllir yn is-adrannau (5), (6) a (7), rhaid diystyru unrhyw adeg pan fo Senedd Cymru—
- (a) wedi ei diddymu, neu
- (b) ar doriad am fwy na 4 diwrnod.
5Rheoliadau'n peidio â chael effaith: atodol
- (1) Mae'r adran hon yn gymwys pan fo rheoliadau'n peidio â chael effaith o ganlyniad i adran 4(5) neu (6).
- (2) Mae unrhyw atebolrwydd i dreth trafodiadau tir neu dreth gwarediadau tirlenwi, neu i swm uwch o'r naill neu'r llall o'r trethi hynny, na fyddai wedi codi oni bai am y rheoliadau i'w drin fel pe na bai erioed wedi codi.
- (3) Mae unrhyw dynnu yn ôl hawlogaeth i gredyd treth (o fewn ystyr adran 96 o Ddeddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017 (dccc 3)), neu leihau hawlogaeth o'r fath, na fyddai wedi digwydd oni bai am y rheoliadau i'w drin fel pe na bai erioed wedi digwydd.
- (4) Mae unrhyw atebolrwydd i gosb o dan unrhyw un neu ragor o Ddeddfau Trethi Cymru neu reoliadau a wneir o dan unrhyw un neu ragor o'r Deddfau hynny, neu i swm uwch o gosb o'r fath—
- (a) a gododd cyn i'r rheoliadau beidio â chael effaith, ond
- (b) na fyddai wedi codi oni bai am y rheoliadau, i'w drin fel pe na bai erioed wedi codi.
- (5) Nid yw'r ffaith bod y rheoliadau wedi peidio â chael effaith yn effeithio ar ddilysrwydd unrhyw beth a wnaed yn flaenorol o dan y rheoliadau neu drwy ddibynnu arnynt.
6Adolygu gweithrediad ac effaith y Ddeddf hon
- (1) Rhaid i Weinidogion Cymru—
- (a) adolygu gweithrediad ac effaith y Ddeddf hon, a
- (b) cyhoeddi casgliadau'r adolygiad cyn diwedd y cyfnod o 4 blynedd sy'n dechrau â'r diwrnod y daw'r Ddeddf hon i rym. (2) Rhaid i adolygiad o dan yr adran hon gynnwys asesiad gan Weinidogion Cymru o fecanweithiau deddfwriaethol amgen ar gyfer gwneud newidiadau i Ddeddfau Trethi Cymru a rheoliadau a wneir o dan unrhyw un neu ragor o'r Deddfau hynny.
(3) Wrth gynnal adolygiad o dan yr adran hon, rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â Senedd Cymru ac unrhyw bersonau eraill y maent yn ystyried eu bod yn briodol.
7Y pŵer o dan adran 1 yn dod i ben
- (1) Daw'r pŵer o dan adran 1 i ben ar ddiwedd y cyfnod o 5 mlynedd sy'n dechrau â'r diwrnod y daw'r Ddeddf hon i rym, ac eithrio i'r graddau y darperir fel arall o dan yr adran hon.
- (2) Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, ddarparu—
- (a) nad yw'r pŵer o dan adran 1 i ddod i ben ar ddiwedd y cyfnod a grybwyllir yn isadran (1), ond
- (b) bod y pŵer o dan adran 1 i barhau mewn grym am gyfnod pellach, sy'n dod i ben heb fod yn hwyrach na 30 Ebrill 2031, a bennir yn y rheoliadau.
- (3) Mae'r pŵer i wneud rheoliadau o dan is-adran (2)—
- (a) yn arferadwy unwaith yn unig, a
- (b) yn arferadwy drwy offeryn statudol.
- (4) Ni chaniateir gwneud offeryn statudol sy'n cynnwys rheoliadau o dan is-adran (2) oni bai bod drafft o'r offeryn wedi ei osod gerbron Senedd Cymru ac wedi ei gymeradwyo ganddi drwy benderfyniad.
- (5) O ran drafft o'r offeryn—
- (a) ni chaniateir ei osod gerbron Senedd Cymru cyn i gasgliadau'r adolygiad o dan adran 6 gael eu cyhoeddi, a
- (b) ni chaniateir ei gymeradwyo drwy benderfyniad gan Senedd Cymru ar ôl diwedd y cyfnod a grybwyllir yn is-adran (1).
- (6) Nid yw'r ffaith bod y pŵer o dan adran 1 wedi dod i ben yn effeithio ar barhad mewn grym unrhyw reoliadau a wnaed o dan y pŵer hwnnw cyn iddo ddod i ben.
8Dehongli
- Yn y Ddeddf hon—
- mae "addasu" ("modify") yn cynnwys diwygio, diddymu a dirymu; ac mae'r cyfeiriad at "addasiadau" i'w ddehongli yn unol â hynny;
- mae i "Deddfau Trethi Cymru" ("Welsh Tax Acts") yr ystyr a roddir gan adran 1(3).
9Dod i rym
- Daw'r Ddeddf hon i rym drannoeth y diwrnod y caiff y Cydsyniad Brenhinol.
10Enw byr
- Enw byr y Ddeddf hon yw Deddf Deddfau Trethi Cymru etc. (Pŵer i Addasu) 2022.