Neidio i'r cynnwys

Derwyn neu Pob Pant a Gyfodir (Nofel)/Arweiniad i'r Chwedl

Oddi ar Wicidestun
Derwyn neu Pob Pant a Gyfodir (Nofel) Derwyn neu Pob Pant a Gyfodir (Nofel)

gan Robert David Morris

Pennod I


ARWEINIAD I'R CHWEDL.

SAIF Pentref neu Lan Llifon i fyny ryw dair milltir o'r gwastadedd, neu yn fwy manwl ar un o lethrau isaf y bryniau sydd yn rhedeg i lawr i Gwmwd Maelor. Y mae yn bentref tlws yn cael ei gysgodi â choed mawr praff, ac yn nghysgod yr hen Eglwys tafl hen Ywen fawr ei chysgod du i ddwfnhau y prydferthwch naturiol a'r hwn y nodweddir Pentref neu Lan Llifon, ac hynny gellir galw pob Llan yn brydferth a thlws gan fel y tebygant i'w gilydd, ond un o neilltuolion Llifon yw—ei fod yn bentref lled fawr, ac erbyn hyn yn ymestyn at fod yn rhyw fath o dref fach, gan fel y lluosoga ei drigolion, can's o fewn milltir neu lai mae y Pwll mawr, lle disgyn i'w grombil fil o lowyr, a chynwysa y Llan gryn nifer o'r glew- ddynion hyn, ac o ganlyniad ychwanegir at ei ddwndwr a'i helbulon. Felly, nid y tawelwch hwnnw o ba un y nodweddir Llannau y wlad yw yr eiddo Llifon, ond yn hytrach clywir cordd peiriannau mawr y lofa y dydd fel y nos, a'r nos fel y dydd, a diamheu fod gwrando arnynt yn llanw mynwes llawer un â phryder, canys y mae yn gorwedd yn y fynwent dawel, lawer un a anadlodd ei anadl olaf yn y Pwll du.

Y mae cryn nifer o dai gweithwyr y Pwll yn y rhan hwnnw o'r Llan a elwir yn Bant yr Afon, a gelwir y rhan fwyaf o honynt yn dai'r Wal, a siomir un yn fawr wedi iddo fyned i lawr yr heol gul i Bant yr Afon gan y fath nifer honynt sydd wedi ymwthio megis i'w gilydd, fel pe gywilydd ganddynt fodoli yn ymyl y mur uchel sydd yn rhedeg heibio iddynt fel caer gref am ystâd fawr Llifon, ac mai'r unig esgus am eu bodolaeth yno ydyw, eu bod wedi dod i gardota cysgod o dan y coed trwm-frig sydd yn taflu eu canghennau tros y mur. Yr oedd yn fangre hynod, ac yma y tarddai pob drwg, dim ond ffenestr wedi ei thori yn y Llan, un o blant y Wal fyddai bob amser yn cael y bai am hynny, neu os ceid allan fod yna helwriaeth wedi ei gyflawni ar dir godidog Llifon, rhai o blant y Wal fyddai y rhai hyn.eto.

Unrhyw drosedd, unrhyw gam,
A gyflawnid yn y Llan,
Wedi methu neb a'i ddal (y troseddwr),
Rhaid rhoi'r bai ar blant y Wal.


Dyna rigwm a genid yn lled gyffredin gan y plant.

Mangre hynod arall yn y fan hon ydoedd cornel pobty yr hen Graswr, ac yma y cynhelid y cynghorau mwyaf pwysig gan y plant, ac yr adroddid pob hanes hen a newydd, a mwy byddai plant y lofa yn cyfarfod a'u gilydd a phob un a'i stori o'r pwll, a'r fath swyn oedd ynddynt 'r bechgyn hynny nad oedd raid iddynt rodio ei nentydd tywyll.

Nodiadau

[golygu]