Neidio i'r cynnwys

Derwyn neu Pob Pant a Gyfodir (Nofel)/Pennod VI

Oddi ar Wicidestun
Pennod V Derwyn neu Pob Pant a Gyfodir (Nofel)

gan Robert David Morris

Pennod VII


PENNOD VI.

YR oedd blwyddyn neu ragor wedi myned heibio er's pan aethai Derwyn ymaith, ac yn naturiol yn

ystod yr amser yna, yr oedd pob math o amheuon wedi cael lle yn mynwes ei rieni, ac yn ngrym yr amheuon hynny elai nifer fawr o lythyrau i'r Ddinas boblog i ymholi am dano, ond yr hyn a'u dyrysai fwyaf oedd y llythyrau achlysurol a ddanfonasai Derwyn adref o Lerpwl, i geisio calonogi ei rieni yn ei absenoldeb, hyd nes yr aethant o'r diwedd i amheu ei lawysgrif, ac yn y llythyr diweddaf a chawsant tybiai Nel, ei chwaer, fod yna le cryf i ameu hynny; ond o ba le o'r ddinas nid oeddynt fymryn agosach i wybod

"Ai fo ydi o tybed?" ebai Nel, Daliai i syllu ar y llawysgrif. "Ydi'r llinell yma ddim yn hollol fel yr ysgrifennai, mam,—na'r llythyr drwyddo o ran hynny. Gwelwch, ond aroswch am funud." Estynodd allan yr holl lythyrau, yna dygodd ei wers-lyfrau, a threuliodd gryn amser i geisio'u cysoni.

"Ydi wir, Miss Nel," ebai Gwen, yr hon a alwyd ati i'w chynorthwyo.

"Mi ddaliai i nag ydi o ddim," ebe Nel, "er fod yna debygrwydd neilltuol.

"Ewch a gofynwch ddaw Mr. Lewis yma am funud. Mae o gartre."

Aeth Gwen i gyrchu Mr. Lewis, Gweinidog Bethel,—yr eglwys ym mha un yr ymaelodai'r teulu.

"Fase' niawn ca'l barn Mr. Lewis, mam. Be chi'n ddeud?" 'Wel, rwyt ti wedi gyru am dano fo Nel, a 'does dim harm yn hynny, tase tada yma."


"Wel, ma' nhad hefyd wedi mynd rywfodd i ameu i lawysgrif o mam. Glywsoch o yn deud hynny neithiwr?"

"Dyma chi." Yna daliodd ef i wyneb ei mam, un o'i ysgrifau ysgol, ac yn y llaw arall gyferbyn y llythyr diweddaf a dderbyniwyd oddi wrtho.

"Waeth i ti heb'i ddangos o i mi Nel—fyna i ddim—"

"Wel, mi geiff Mr. Lewis farnu ynte mam. Mae o mewn gwell safle na ni i 'neud hynny."

"Ma' gen i ofn 'i weld o yn dwad i mewn Nel, a tase rwbeth yn deud wrtha 'i fod o wedi mynd dros y dŵr ne, mi dorwn y'nghalon yn y fan. Ma'r môr mawr ne wedi tori y cysylltiad olaf â miloedd o deuluoedd yn y wlad 'ma. 'Does dim sy wedi llyncu gobeithion rhieni hoff yn fwy na'r môr ne, Nel bach," ebai drachefn, a thorodd i wylo yn hidl. "Peidiwch a chrio mam, wrach ma' fi' sy'n wrong, ond be' newch chi ond dyfalu. Dyma Mr. Lewis. Dowch i mewn Mr. Lewis."

Daeth Mr. Lewis, ac ysgydwodd law a'r fam ofidus —

"Derwyn Mrs. Humphreys, yw'r achos,"—

"Ia, ia," ebai hithau, gyda llais toddedig. "Derwyn hoff, fy mhlentyn, gadel 'i fam—wel—"

"Wel, peidiwch ac ymollwng er mor anodd yw peidio. Mae pob un sydd yn adnabod Derwyn yn dal i goleddu y syniadau goreu am dano, pob un Mrs. Humphreys, yn wir onest i chwi. Dwi i ddim wedi cwrdd un person sy'n anobeithiol o Derwyn. Naddo un, ac 'rwy'n siwr mae ei fam ddylai fod y person olaf o bawb i roddi i mewn i amheuon annheg am y bachgen.

"Dwi'n meddwl dim drwg Mr. Lewis," ebai y fam. "Dim, dim, nag ydwyf ond gadael ei fam, a dyna sy'n rhyfedd Mr. Lewis, danfon llythyre o Lerpwl na fedrwn i yn ein byw ga'l allan o le ma' nhw'n dwad, ryde ni wedi danfon a danfon at 'i fodryb o, a ma' honno wedi gneud pob ymchwiliad posibl, ond 'does neb wedi'i weld o. —

Dw ine wedi danfon at Mr. Parri, gweinidog —— Rd., yn 'i gylch, ebai Mr. Harris, a rhoddais y deffiniad goreu posibl o hono pan oeddwn i yno'r Nadolig yn cynnal y cwrdd mawr, a rhedais fy llygaid ar y gynulleidfa fawr, a cheisio gweld 'i wyneb o—ac mae Mr Parri yn un o'r rhai mwyaf difrif gyda gorchwyl o'r fath, a gadewch i ni fod yn hyderus, ac fel dwi wedi deud mi ddof eto gyda Mr. Humphreys unrhyw ddydd i edrych beth allwn ni neud—yna trodd Mr. Lewis ei lygad at Nel.

"Ai dyma'r llythyr diweddaf Miss Humphreys?"

"Ia, Mr. Lewis, chi a mam a mi, fyn Nel feddwl mai nid llawysgrif Derwyn mohoni ond—"

"Gadewch chi lonydd i Mr. Lewis, mam."

Edrychodd Mr. Lewis ar y fam can's ni wyddai beth olygai i Nel atal ei mam.

"Rwan Mr. Lewis, dyma chi y llythyr diweddaf." Gafaelodd Mr. Lewis yn y llythyr. "Beth yw hwna?" gofynnai am y gwerslyfr pa un a ddaliai Nel yn ei llaw.

"Dyma ei lyfrau ysgol Mr. Lewis, a dwi'n meddwl fod ene gryn dipyn o wahaniaeth."

Ac yr ydych eisieu fy marn i arnynt?"

"Yr ydym eisio i chi gweld nhw, Mr. Lewis—a cewch roddi eich barn."

"Wyddoch chi mod i yn dipyn o expert ar y gwaith yma, Miss Humphreys? Hefyd, bum yn byw pan yn Llundain, yn yr un gymdogaeth ag un o'r experts mwyaf ar lawysgrifau, ac yn wir cefais gryn dipyn o gwmni Mr. Telar, ac yr oedd amryw achosion dyfal yn dod i'w ran i roddi tystiolaeth arnynt. A dyma lythyr diweddaf Derwyn?"

"Ie, dyma'r dyddiad,—ddoe, y pumed ar hugain, a dyma un o'i werslyfrau," ebai drachefn.

"Ia dyna ei Gompo fo Mr. Lewis."

"Ia, rwy'n gweled," ac edrychodd Mr. Lewis yn fanwl arno, am ychydig amser, a throi ei ddalennau ôl a blaen, yna, syllodd yn fanwl ar y llythyr, yn y man dywedai,—"Dim petruster o gwbl, Miss Humphreys."

Cododd mam Derwyn ei golwg tuag ato, gyda ryw ddwyswên ar ei gwynepryd, "Nag oes Mr. Lewis," ebai.

"Dim o gwbl, Mrs. Humphreys. Gwelwch yma Miss Humphreys. Y mae ei a, w, s, ac f, yn unffurf drwy y ddwy fel ei gilydd, ac yn wir, yr holl lythrennau, dim amheuaeth o gwbl. Wrth gwrs, y mae llawysgrif y llythyr fel pe wedi ei ysgrifennu o dan ryw ansawdd feddyliol wahanol i'r gwersi, ryw ffurf o osgo sigledig neu amhenderfynol yn nodweddu gosodiad y brawddegau. Dyna'r cwbl Mrs. Humphreys, ac rwy bron yn sicr y tystiai yr expert mwyaf mai'r un llaw sydd wedi ysgrifennu y naill fel y llall. Oes, ne ryw gysur i chwi yn hynny Mrs. Humphreys? Ond be ydw i yn gofyn?"

"Dyna yr ofn oedd arnom Mr. Lewis, ei fod wedi rhoddi rhyw un ar waith i ysgrifennu y llythyrau hyn drosto i'n twyllo, ac fod yntau erbyn hyn ar y cefnfor, os nad bellach wedi glanio yn yr America, neu rywle arall."

"Ie, yn ddiau, yr oedd ryw reswm dros ofni hyn, Miss,ac efallai—ond—"

Edrychodd Nel a'i mam arno gyda'r dyfalwch mwyaf.

"Beth, Mr. Lewis?" ebai Nel.

Edrychodd y gweinidog arni am ennyd. "Wel," ebai, oedd ne rywbeth a wyddoch am dano yn gymhelliad i'w dynnu i'r America?"

Pam yr ydych yn gofyn hynny Mr. Lewis?" gofynnai Nel.

"Gadewch i mi weld y llythyrau eraill. Y mae wedi danfon tua pedwar o honynt onid yw?"

Estynodd Nel iddo y llythyrau oll a ddanfonasai Derwyn gartref, a chymrodd y gweinidog bwyll i'w darllen yn ofalus.

"Y mae yna ddyddiad ar bob un o honynt, rwy'n gweld."

"Ydi mae pob un wedi ei ddyddio Mr. Lewis. Be sydd yn hynny?"

"Mae hynny yn rywbeth yn erbyn y dybiaeth oedd yn cynnyg i fy meddwl, Miss Humphreys, ac eto—gall hynny fod yn ddim. Derwyn yn fachgen craff iawn."

Ni ddywedai y fam ddim, ac edrychai Nel arno gyda ryw ofn ddisgwyliad yn crychu ei haeliau prydferth. Canys yr oedd yn amlwg ar wynepryd y gweinidog, ei fod yn ofni ryw gyfrwystra ryfedd o du Derwyn, trwy iddo ofalu fod i'r cartref gael ei dwyll-hysbysu yn rheolaidd gyda'r llythyrau.

"Efallai," ebai Mr. Lewis. "Ond cofiwch nad yw ond tybiaeth noeth yn fy meddwl, sef ei fod wedi ysgrifennu nifer o lythyrau gyda'i gilydd, ac yna wedi eu trosglwyddo i ofal un i'w danfon yn rheolaidd—dyna—"

"Ac fod yntau wedi mynd o Lerpwl, Mr. Lewis?"

"Wel, tybiaeth yw cofiwch. Tybiaeth noeth. unffurf y llythyrau yn awgrymu rywbeth felly i fy meddwl ond gobeithio fy mod yn anghywir." Yna, trodd at y fam, "Ond dyna sydd yn fendigedig Mrs. Humphreys, y mae ei gymeriad yn loyw, ac yn lân. Dim duwch o'r cyfeiriad yna, ac y mae Derwyn mi gredaf, yn gweithio allan ryw gynllun yn ei feddwl, ac ond odid na chawn ni ym mhentref Llifon ryw ddydd, achos i lawenychu o'i blegid. Cymerwch fy ngair, y mae rywbeth yn glynnu yn fy meddwl i'r cyfeiriad yna, Mrs. Humphreys, ond os oes rywbeth a allaf fi ei wneud i'ch helpu, yr wyf at eich galwad unrhyw amser."

Ysgydwodd y Gweinidog law â'r teulu ac aeth ymaith Yr oedd ei dŷ y cartref nesaf ond un i'r 'Bryn,' cartref Derwyn.

"Fase'n well gen i tase ti heb ddanfon am Mr. Lewis, base wir Nel. O! leia' ma' fo wedi gnend i mi feddwl fod Derwyn ym mhell—bell—o ydi Nel."

"Wel, mam dwi ine yn becsio," ebai Nel, "a fase well gen ine beidio 'i glywed o yn trin y mater yn y ffor' ddaru o, ond yde chi'n gwybod am Mr. Lewis, ydi o yn meddwl dim drwg—dim drwg mam, ac wrach fod o yn cyfeiliorni drwy'r cwbl. Peidiwch a sôn be ddeudodd o wrth fy nhad."

"Ddim am y byd, Nel"

Nodiadau

[golygu]