Derwyn neu Pob Pant a Gyfodir (Nofel)/Pennod XIII
| ← Pennod XII | Derwyn neu Pob Pant a Gyfodir (Nofel) gan Robert David Morris |
Pennod XIV → |
AIL GYFRAN.
PENNOD XIII.
CURAI y g'law yn drwm ar y ffenestr. Boreu gwlyb oedd hwn, a chryn bellter o dŷ Bob at y Pwll.
Aethai y ddau gyda'i gilydd—Bob a Jarvis,—fel rheol at eu gwaith, a chlywid trwst clocsiau eraill ers meityn yn mynd i lawr yr heol gul o'r tu cefn i dŷ Ann Jones, un o brif heolydd y Wal.
Bob," bloeddiai llais crwn a chadarn. ebai un arall ymhen ychydig funudau.
"Tyrd Bob bach," ebai ei fam. "Dene John Tŷ top, a Simon wedi mynd." Ac ar hyn, rhoddai Jarvis ei lyfr o'r neilltu, ac fel rheol, byddai i Jarvis ychydig amser gyda'r llyfr i aros i Bob fod yn barod.
"Cymer di ofal Bob bach, a chwithe Mr. Jarvis." Dyna eiriau olaf Ann Jones i'r ddau bob dydd y gadawai y ddau y cartref am y pwll.
Byddai yr olygfa wrth ben Pwll mawr Llifon ar y cyntaf fore yn un neilltuol o darawiadol. Mil o leiaf yn dod o bob cwr o'r wlad, ac yna yn ffurfio yn ddwy reng hir, pedair wir, i aros y tro i ddisgyn i'r Pwll, ac yn fuan ar ol pump o'r gloch, clywid y knocker trwm, trwstfawr, yn taro ei nôd, arwydd fod y cage ar y gwaelod, ac yn barod i godi yn ol.
Pwll a chryn ddyfnder iddo oedd pwll mawr Llifon, dros saith cant o latheni, yn agos i hanner milltir, ac i'r cage neu'r ddalfa yr oedd tri deck neu lawr, a byddai oddeutu deg a'r hugain o eneidiau yn ymddiried eu hunain i'r rhaff ddur i'w danfon i'r gwaelod, a theithiai mor aruthrol o gyflym, nes peri dychryn i rai am ddyddiau lawer—rhai a ddeuai o'r newydd i weithio i Bwll Llifon. Do, gwelwyd rhai yn agos llewygu gan effaith cyflymdra y ddisgynfa, a byddai hynny yn ddigon i beri iddynt beidio gwneud cynnyg eilwaith ar ddisgyn i'r pwll. Hefyd, clywais hanes rhai yn gwaeddi fel perchyll gan yr ofn, ond ychydig yw nifer y rhai hynny. Ond i sefyll wrth ben y Pwll; dacw reng o grytiau bach, wedi aros a taro ar ei gilydd fel y byddant yn gyffredin—tair ar ddeg i'r pymtheg oed, ac yn aros am y "ddalfa" i'r lan—un o honynt efallai am y waith gyntaf, ond ymddangosa mor ddihidio a phe buasai yn myned i'r ysgol, ac yn ei feddwl ei hun y mae yn arwr bach. Ymfalchia, ymhyfryda yn y ffaith ei fod yn cychwyn ar ei yrfa yn y pwll—ofn dim—nag arswyd, y mae ryw eofndra annirnadwy yn y rhan yma o fywyd plentyn y pwll.
Buan y llyncir y fath dorf o enau y pwll. Y mae ar fin chwech o'r gloch, ac mae rhes fawr yn cwtogi yn gyflym, yn y man daw Stork neu ryw is-swyddog gyda'i lusern a'i ffon, a chyn pen ychydig funudau bydd neb i'w weled, ond y rhai hynny sydd a gofal ynglŷn â'r rhan yma waith y lofa—a dene renc, renc, renc y twbiau glô yn disgyn oddi ar y ddalfa, yna glap trwm y llidiard yn disgyn ar enau y pwll wedi'r ddalfa ddisgyn yn ol i'r dyfnder, a dwndwr y peiriannau fel am ysu tawelwch y bore, ac i gyffroi yr holl fro.
Pe gellid dyfeisio X Rays a digon o rym ynddi i allu gweled byd tan-ddaearol Llifon, byddai yn olygfa ryfedd. Y mae y cannoedd glowyr erbyn hyn ar eu taith i'r talcennau glô, rai o honynt bedair milltir o ffordd, neb llai na milltir, can's mae Pwll Llifon erbyn hyn wedi ei suddo ers agos i ddeugain mlynedd, ac oddeutu mil o dunelli o lô yn cael ei arllwys o hono bob dydd y gweithia'r dynion.
Rhennir y Pwll i tua deg neu ddeuddeg o raniadau, a phob rhaniad yn cael ei arolygu gan swyddog cyfrifol y taniwr, neu'r fireman, ac yn aml iawn bydd y rhaniadau hyn yn cael eu galw gan y glowr, yn ol enw yr ardal neu'r gymdogaeth y gorwedd y rhaniad odditano—District No. 10 yn Brynffynon, yn ol enw y fferm fwyaf y gorwedd arno, rhaniad arall a elwir yn Frowen, ardal ryw ddwy filltir o Llifon yw y Frowen, ardal fynyddig, a thro arall gelwir y rhaniadau wrth enw y swyddog a fydd a gofal drosto. District Dic Dafis a District Alf Cop. Y mae yr endless bellach wrthi ar hyd heolydd y dyfnder yn llusgo y tybiau. Rhaff ddur drwchus yw yr endless sydd yn gweithio prif ffyrdd y lofa, gellir tybio fod hon yn gwneud gwasanaeth i lusgo am ddeg i bymtheg milltir o wahanol gyfeiriadau, can's y mae yn myned dair milltir i'r gogledd, tair i'r de, ac o'r ddwy brif ffordd yna y mae nifer o drawsffyrdd pwysig, ar ba rai y cymhwysir yr endless i lusgo y glô. Yna oddi ar y rhai hyn y mae dosraniad llai, yn cael ei galw yn main Brakes neu os yn disgyn y slants, ac i fyny ac i lawr y rhai hyn mae nifer fawr o fulod a merlynod wrthi yn llusgo. Bydd y brakes bob ryw dri neu bedwar cant o latheni, ac oddi ar ben y rhai hyn y mae trawsffyrdd yn rhedeg, ac oddi ar y trawsffyrdd hyn y mae dosraniad llai eto, bob ryw ugain neu ddeg ar hugain o latheni. Ffyrdd yw y rhai hyn yn arwain i'r talcennau glô, ac fel y dringant y mae trawsffyrdd newydd yn cael ei 'magu' fel ei gelwir yn y pwll bob ryw gant neu ddau o latheni, ac yn tori ymaith y man ffyrdd, gan ddwyn y main Brake i fyny, ac felly ymlaen hyd nes gweithio y wythien lô allan o'r rhaniad tan sylw.
Y mae Bob a Jarvis yn dilyn ei gilydd i waelod y Brake mawr, yr hwn sydd oddeutu ryw ddwy fiiltir a hanner o waelod y pwll. Yna, try Bob i fyny, ac a Jarvis rhagddo yn ei flaen, ac yng ngoleu ei lusern fach, cerdda ym mhellach. Y inae Jarvis erbyn hyn yn lled hyddysg a rhaniadau y pwll. Yn wir, dyma fu ei brif ddifyrwch yn oriau y nos yn nhŷ Ann Jones. Bob a Gruffydd Huws yn ei gyfarwyddo a gellid gweled ar fwrdd Ann Jones lawer noson amlinelliad neu fap lled gywir o loriau Llifon. Ie, yn ystod ei astudiaeth, nosweithiau ar nosweithiau y buont wrthi yn cyfarwyddo Jarvis gyda'r hyn a wyddent hwy o reoliad dosbarthiadol y gwaith, a chyn hir, diameu y gwyddai Jarvis trwy gynorthwy yr hen Gruffydd fwy am loriau Pwll Llifon nag a wyddai Stork ei hunan, canys yr oedd Gruffydd wedi cynnyg gwystlo lawer tro y gallai arwain Stork pe cawsai gyfle, i gelloedd ar loriau Llifon, nas gallai byth ddod allan o honynt.
Er dued, a garw a brwnt hanes lloriau Pwll Llifon, nid amddifad hollol oeddynt chwaith o ddifyrwch a llawer o hono ynglyn a'r mulod, canys yr oedd ambell ful ar lawr Pwil I.lifon wedi dechreu rhodio yn lled fanwl lwybr gwareiddiad y bedwaredd ganrif ar bymtheg; rhai ffurfiau o hono a dweyd y lleiaf, a byddai Jac y mul—un hynod oedd Jac—mor hynod o gnoi baco a'r un glowr a ddisgynnodd y pwll erioed, a llawer o ddifyrwch a gafai y plant gyda Jac, os na fyddai ef wedi cael ei ran arferol o faco cnoi gan y glowyr wrth iddynt fyned heibio iddo yn y bore, ac er cymaint gwybodaeth Jarvis, ni wyddai am driciau Jac, a'r bore hwn cafodd y mul hynod hwn ar ei ffordd, ffordd gul, dim ond eithaf lle i Jac, a byddai raid ymwthio heibio cyn y gellid ei basio. O, ie, gofalai Jac pan heb gae1 ei ran arferol o faco, sefyll yn y rhan gulaf o'r ffordd, er mwyn trin ei achos gyda'r dynion, a chyda dieithriaid fyddai yn hynod hoff o ddal ar ei gyfleustra, a mawr fyddai'r hwyl gan y plant o'i weled yn chwarae ei gamp ar ben bore.
Yr oedd Jarvis wedi dod yn lled agos iddo y bore hwn, a Jac yn aros yn y fan gul, i aros am ei dresi gan y bechgyn. "Wel Jac," ebai Jarvis, "symud," ond ni roddai Jac gynnyg at hynny.
"Symud Jac," ebai Jarvis drachefn, ond hynny o symud a wnaethai Jac oedd symud yn fwy lled groes i'r ffordd.
"Wel, symud Jac," ebai drachefn. Ond y tro hwn, dechreuodd Jac ddangos ei ddannedd mawr melynddu iddo, a chyn pen ennyd aeth ei draed i ddechreu aflonyddu, a dechreuodd gicio yn enbyd.
Gwyddai y bechgyn o'r goreu ddolur Jac. Nid oedd wedi cael ei gyfran arferol o faco, gan y glowyr oedd eisoes wedi myned heibio i'r talcenau, a chan mai Jarvis oedd gyda'r olaf, yr oedd yn dod i fewn am ddialedd Jac.
"Wel Jac," ebai Jarvis, "mae hi yn ddrwg gen i nad oes gen i ddim baco i ti, 'run tamed. Ond ni chaffai eiriolaeth Jarvis ddim effaith arno. Yn wir, aeth ei ystyfnigrwydd yn fwy, ac erbyn hyn ni wyddai Jarvis beth i'w wneud. Gwaeddodd ar y bechgyn, ond ni chafodd ateb. A mwy, yr oeddynt wedi cuddio eu goleu i'w dwyllo, a phan welodd Jac gyflwr ofnus Jarvis, aeth yn fwy hyf arno, a dechreuodd symud tuag ato, yr hyn wnaeth i Jarvis gilio yn ol yn araf, ac wrth wneud hynny daeth i'w feddwl i'w dwyllo.
Wel, aros am funud Jac," ebai, "gei di faco," a chymrodd arno fyned i'w logell i'w estyn iddo, a chafodd ddarn o bapur a rholiodd ef megis llinyn liw yn dew ac yn dyn. Tarodd ef yn safn Jac, ac ymaith ag ef heibio ar frys.
Nid oedd Jarvis wedi myned ddeg llath oddiwrtho, na chlywai swn ei garlamiad, a phan gaffai Jac ei dwyllo byddai yn beryglus. Bu bron iddo a lladd dyn flwyddyn yn ol am ei dwyllo. Beth bynnag, dechreuodd y mul waeddi tra yn carlamu ar ol Jarvis, a gwyldai pawb, pan fyddai wedi mynd i waeddi fod rywbeth i gymeryd lle, a gwae y sawl y caffai afael ynddo, ond heddyw yr oedd Jac mewn ymryson ag un oedd mor gyflym ag yntau, pe buasai'r telerau yn deg; ond trwy fod y ffordd mor isel, fe! byddai ffyrdd y mulod yn y pwll, rhyfedd i Jarvis allu dianc mor bell o'i afael.
"Mwrdwr,! Mwrdwr!" gwaeddai Jarvis. Cafodd y mul afael ynddo a'i ddannedd, ac wrth glywed hyn, rhedodd y plant ar unwaith i'w helpu. A chyda ychydig anhawster, cawsant Jarvis o grafangiau y mul. Ni anghofiodd Jarvis y wers a gafodd o dwyllo Jac ym mhwll Llifon.
Nodiadau
[golygu]{{DEFAULTSORT:Pennod 13}