Neidio i'r cynnwys

Derwyn neu Pob Pant a Gyfodir (Nofel)/Pennod XIV

Oddi ar Wicidestun
Pennod XIII Derwyn neu Pob Pant a Gyfodir (Nofel)

gan Robert David Morris

Pennod XV


PENNOD XIV.

AETH misoedd heibio, a bu i Jarvis gael ei wneud yn swyddog ym mhwll Llifon a'i ddiddordeb yn y gwaith yn myned yn fwy—fwy, ac wedi addef with rai o brif gymeriadau y pwll mai math o anturiaeth ar linell Gristionogol oedd ei waith yn dod yno. Bu iddo glywed am fywyd y bechgyn, am ansawdd beryglus eu goruchwyliaeth, a'r driniaeth oeddynt yn rhy aml yn ei gael, ac fod awyrgylch y pwll yr un mor fawr ei alanas ar gymeriadau y bechgyn ac ydoedd natur beryglus y gwaith ar eu cyrff, ac wedi dod yn swyddog un o'r pethau cyntaf a wnaeth oedd edrych allan beth allai ei wneud tuag at helpu i buro yr awyrgylch aflan, ac mor aml y delai i wrthdarawiad a'r elfennau niweidiol hynny, dyfnaf ei gydymdeimlad, a chryfach ei awydd i geisio ei symud ymaith, ond un o'r anhawsterau mwyaf ynglyn a'r gwaith hwn ydoedd y ffaith mai fel dieithrddyn yr edrychid arno gan y mwyafrif o'r swyddogion, yn wir, gan lawer o'r gweithwyr, ond daeth y ffaith ei fod wedi ennill y dystysgrif fwnawl uwchaf gyda'r fath anrhydedd a chyflymdra, a rhyw gymaint o allu o'i du i'w ymgais foesol arwrol ynglyn a'r lofa; ond yn fwy aml na dim, ei wawdio gawsai pan roddai gynnyg ar geryddu y rhai hynny oedd ddyfnaf eu llygredd mewn iaith aflan a difoes, ond er hynny ni ddigalonai Jarvis.

Wedi cyrraedd y talcen giô, talcen oedd hwn yn y wythien seam leiaf yn y pwll, a phan fyddai'r wythien ar ei goreu, ni fesurai fwy na deunaw modfedd i ddwy droedfedd o drwch, a chan mor fach y wythien hon, byddai y talcen, neu y wyneb lô a ddaliai y set yn mesur yn aml gan llath o hyd, a'r ffordd yr arferent lusgo y glô ar hyd y talcen oedd drwy wregysu y plentyn i dynnu ôl a blaen y petch (math o dwb llysg) a gwaith a sôn mawr am dano y dyddiau hynny oedd y gwaith o dynnu'r petch. Gwaith anodd, ac ar lawer ystyr, peryglus, a chyn diwedd y dydd, yn aml, byddai ystlys dyner y plentyn yn goch gan waed, effaith y gwregus ar ei gnawd noeth.

Bu i Jarvis glywed am y driniaeth greulon hon yn nhŷ Ann Jones, gan rai o'r mamau, a'r modd yr oeddynt yn gorfod trin, hyd ddagrau ystlysau gwaedlyd eu plant.

Eisteddodd Jarvis ar lwmp o lô, ac yn digwydd bod wrtho ei hun, 'ym mhen y ffordd fel y'i gelwid yn y talcen, yn y man clywai sŵn y petch yn cael ei lusgo yn araf, a dyna ei sŵn yn aros. Yr oedd y petch wedi taro yn erbyn un o'r propiau, pa rai a osodid yn un llinell ar hyd wyneb y talcen. Gadawodd Jarvis ei lusern yn lle yr eisteddai, yna symudodd ar ei liniau ymlaen ychydig ar hyd y wyneb, ac eisteddodd yno i wrando. Yn y man dyna reg gan y plentyn, rheg drachefn, a chlywai yr hogyn yn gwaeddi ar yr un a'i llanwai yn y pellter, effaith gorlwytho y petch ydoedd yr anhawster a barai i'r plentyn regi.

"Wyt ti'n dwad Sion? Ella i mo'i symud o," gwaeddai, ond yr oedd y pellter mor fawr a'r top roof mor isel fel mai gwaith anhawdd ydoedd cael Shon i ddod ato.

"Mi floeddia i ar Shenkyn, os nad wyt ti'n dwad Shon," ebai y petchiwr bach drachefn. Ond erbyn hyn, yr oedd Jarvis wedi llusgo ei hun yn lled ddistaw i'w ymyl.

"Beth yw'r mater?" ebai Jarvis.

"Shon sy'n llwytho'r petch 'ma a ma'r—

"Ella i'ch helpu chi?" gofynnai Jarvis.

"Prin y gallai droi ato fy hunan yn y fan 'ma," ebai y bachgen gan ateb.

"Beth ydi'ch oed?" gofynnai Jarvis.

"Pymtheg," ebai y bachgen. Edrychodd Jarvis arno, ond nis gallai yn hawdd weled beth a'i rhwystrai yn y fath le cul, tywyll ac isel. Beth bynnag, cywirodd Jarvis anhawster y bachgen, yna llusgodd ei hun o'i flaen yn ol i ben y ffordd, ac yn y man cyrhaeddodd yr hogyn gyda'i lwyth glô.

Cyfodai tarth o niwl angerdd o'i gorff bach, eiddil, ac anadlai mor gyflym a phe buasai ar drengu.

Edrychodd Jarvis arno gyda dwyster dwfn. "Er's pryd 'de chi yn gwneud y gwaith yma machgen i?" gofynnai Jarvis yn y man.

"E's blwyddyn," atebai y plentyn yn ol, ac yhwanegai, "Ma' 'ne ddwy geiniog y dydd 'chwaneg yn ca'l i dalu am y gwaith tynnu."

"Rwy'n gweld," ebai Jarvis, "nid pawb sy'n ei hoffi." Ar hyn, rhoddodd ei law am ei wregys.

"Pwy sy'n g'neud hwn i chi? Ma' fo'n stwff 'ryff' iawn."

"Mam," ebai y bachgen. "Efo bradish ma' hi yn 'i neud o."

"Ia, mi welaf," ebai Jarvis (math o lian cryf ydoedd y bradish a ddefnyddir yn y lofa i drin yr awyrfa.)

""Pwy ydi'r cymerwr?"

"Lias Parri," ebai y bachgen.

"Lle mae o?" gofynai Jarvis.

"Y ma' fo'n safio yn y pen pella'r wyneb 'rochor ene," ebai y bachgen.

"Oes modd myned ato?" gofynnai wedyn.

Ma'r gob wedi'i g'neud, ond ellwch wthio o dan y glô.

"A dyna'r ffor' ma'r safiwrs yn mynd," ebai y bachgen. Rhoddodd ei betch yn ei le, a bachodd gadwer ei wregys wrtho, ac aeth yn ol.

"Barbareiddiwch noeth" ebai Jarvis wrtho ei hun, wrth wrando ar y crwt bach eiddil yn tynnu ei betch ar hyd y talcen i'w newid am betch llawn Shon; yr hwn erbyn hyn oedd yn gwaeddi gyda rhegfeydd am dano yn ol.

"Barbareiddiwch o'r fath ffieiddiaf," ebai drachefn. "Rhaid gwneud i ffwr' a'r fath beth creulon." Erbyn hyn. yr oedd sŵn y twb yn dod i fyny ffordd serth yn cael ei wthio gan lencyn lled gryf.

"Y chi ydi Mr. Jarvis? Gwenodd Jarvis arno. Yr oedd yn amlwg fod yna cryn ddiddordeb yn cael ei gymeryd yn y swyddog newydd gan y bechgyn.

"Ia, y fi ydi o," ebai Jarvis, a gwenodd y llanc arno gyda rhyw falchter o'i weled wedi dod i edrych am danynt i dalcen glô Lias Parri.

"Sut y gallai'i weled Parri?" gofynnai Jarvis.

"Does gen i ddim digon o lô ar y stage i lanw y twbyn," ebai y llanc, ac fel yn ymhyfrydu o gael ei wasanaethu rywfodd, "mi af i ben y gob i'r wast i floeddio arno," ebai, ac ymaith ag ef gan ymwthio o dan y glô oedd wedi ei safio oddi tano gan y dynion, a chlywodd ef yn gwaeddi ar Lias Parri, a dyma'r petchiwrmegis mul bach yn dod drachefn gyda'i lwyth glô i'r stage.

"Tyrd Twm bach," ebai yr un oedd gyda'r twbyn, "Ma' 'ne chance am dwbyn arall o'r siwrne, a ma' 'ne godwm ar y dyfn. Reit handy Twm bach," ebai drachefn wrth y petchiwr bach, diwyd, a gwrandawai Jarvis arno yn ei erchi heb ddweyd gair.

Pwy sy' 'ne?" ebe Parri.

"Y fi," ebai Jarvis.

Wel, ydw i ddim gwell efo nene," ebai Parri yn ol, a chwythai fe1 mochyn wrth lusgo ei hun o dan y glô isel.

"A chi sy' 'ne Mr. Jarvis," ebai, pan welodd ef, ac arosodd am ychydig ar ei hyd o dan y glô, a'i ben moel yn mygu gan agerdd chwys. Yr oedd Parri yn ddyn trwm a rhyfeddod fawr fod y fath ddyn corffol yn gallu symud yn y fath le cul, isel.

"Yde'ch chi'n dod trwodd?" gofynnai Jarvis iddo. "Well i mi ddwad.

"Gafel yn y lamp 'ma Harri." Estynnodd Harri y llusern o'i law.

"Y tro cyntaf i chi dalu ymweliad â ni, Mr. Jarvis. "Beth yw hyd y wyneb lô yma, Parri?," gofynnai Jarvis.

"Ma' ne falc yn rhedeg arno ni yr ochr yma, Mr. Jarvis, ac yn tori—rw bedwar ugien llath ydi hyd y wyneb."

"A dyma'r ffor' yde chi'n cael y glô i'r stage—'i lusgo fo." "Y petch bach 'de chi'n feddwl?" Ia, Mr. Jarvis," ebai Parri.

"Fyddai dim posib cael rels. Byddai lawer ysgafnach."

"Dyma'r ffor' erioed, Mr. Jarvis, ydi llusgo'r petch. Wrth gwrs, bum yn meddwl a soniais hynny wrth Mr. Stork ei hun—ond fynne fo ddim gwrando, gormod o gost, ac yn wir, ryde ni yn ca'l trafferth fawr i ga'l rels ar y ffor' wagen 'ma, yn tyde ni Harri?"

"Elsen gam ydi hona sy' o dan y twb 'ne rwan, Parri. Wel, does dim rheswm dryllio cyrff plant yn y modd




A chwytha: fel mochyn wrth lusgo ei hun o dan y glo isel.—tud. 98.



yma Parri. Pe cae chi dwbyn bach a rels odditano fyddai yn ennill i bawb—barbareiddiwch."

Yr oedd siarad o'r fath nodwedd ym Mhwll Llifon yn beth dieithr, ac ni wyddai Parri beth i'w ateb yn ol. Edrychodd arno am ennyd yna mentrodd siarad.

"Yn sicr, y mae yn ffordd front o weithio plentyn, Mr. Jarvis, ond ni chafodd y peth yna sylw gan swyddog erioed o'r blaen. Yn wir, ni feddyliai neb ddim ato, yn yr ystyr yna a deud y lleia. Fel y dywedais bum yn meddwl y buasem yn cael y glô i'r stage yn fwy hwylus ar hyd y wyneb pe ceid relwe.

"Caem yn sicr," ebai Jarvis, "ond y maeddu yma ar y plentyn yn ddiachos. Cywilydd i ni fel dynion! Ac rwy'n synnu atoch fel tadau yn goddef y fath driniaeth i'ch plant. Beth ydych yn dalu i'r bachgen?"

"Swllt a phump," ebai Parri.

Ysgydwodd Jarvis ei ben heb ddweyd gair. Dim mwy na gofyn a allai fynd ar hyd y wyneb i'r talcen nesaf.

"Na, dyna'r Malc, Mr. Jarvis."

"O ie, anghofiais," a gadawodd Parri a'r llanc.

"Dene ti dipyn o ddyn a dyn yna fo Harri," ebai Lias. Ia, dwi di clwed dipyn am dano fo," ebai Jarvis, " "—oedd o yn drwm efo Pit Black ddoe am yr un peth. "Wel, tae o ddim ond yn g'neud i ffwr' a tynnu'r petch i'r bechgyn 'ma, Harri, mi dalith i'r Brenin Mawr fod o wedi rhoi anadl yn 'i ffroene fo. Un o le ydi o dwad?

Ma' 'ne dipyn o sôn am dano Glwes di fel ddaru o fygwth yr hen Stampar. Mi ddaru fygwth rhoi cweir i'r hen Stampar am regi un o fechgyn y mulod. Ma' fo'n strict ofnadwy efo rhai sy'n rhegi, 'n enwedig y mân fosus ma. Bob lwc iddo fo."

"Ma' fo'n bloeddio Lias" ebai Harri.

Neidiodd Parri i'w lusern, ac i lawr y ffordd ag ef.

"Welwch chi'r fforch (prop) 'ma Parri, ma'r twb yn rhwbio ynddi, gwell ei thynu, cefais un o'r bechgyn wedi'i ddal yn y traws isa ddoe, gyda'r un peth. Tynnwch hi ymaith, Parri."

Alright," ebai Parri.

Cyn pen wythnos, yr oedd yr hen ddull brwnt ac anymunol o dynnu y petch gyda'r gwregys wedi ei ddiddymu ym Mhwll Llifon a'r cwbl trwy offerynoliaeth ddewr a rhesymol Jarvis, y swyddog newydd, a mawr yr edmygid ef am ei waith.

Nodiadau

[golygu]