Neidio i'r cynnwys

Derwyn neu Pob Pant a Gyfodir (Nofel) (testun cyfansawdd)

Oddi ar Wicidestun
Derwyn neu Pob Pant a Gyfodir (Nofel) (testun cyfansawdd)

gan Robert David Morris

I'w darllen pennod wrth bennod gweler Derwyn neu Pob Pant a Gyfodir (Nofel)




"DERWYN


NEU


Pob Pant a Gyfodir."


GAN


R. D. MORRIS.



DOLGELLAU:
Argraffwyd gan Hughes Bros., Swyddfa'r "Dysgedydd."
1924




I
E. T. JOHN, Ysw.,
y cyflwynir y llyfr hwn am ei sel a'i
ymdrech dros
GYMRU.



ARWEINIAD I'R CHWEDL.

SAIF Pentref neu Lan Llifon i fyny ryw dair milltir o'r gwastadedd, neu yn fwy manwl ar un o lethrau isaf y bryniau sydd yn rhedeg i lawr i Gwmwd Maelor. Y mae yn bentref tlws yn cael ei gysgodi â choed mawr praff, ac yn nghysgod yr hen Eglwys tafl hen Ywen fawr ei chysgod du i ddwfnhau y prydferthwch naturiol a'r hwn y nodweddir Pentref neu Lan Llifon, ac hynny gellir galw pob Llan yn brydferth a thlws gan fel y tebygant i'w gilydd, ond un o neilltuolion Llifon yw—ei fod yn bentref lled fawr, ac erbyn hyn yn ymestyn at fod yn rhyw fath o dref fach, gan fel y lluosoga ei drigolion, can's o fewn milltir neu lai mae y Pwll mawr, lle disgyn i'w grombil fil o lowyr, a chynwysa y Llan gryn nifer o'r glew- ddynion hyn, ac o ganlyniad ychwanegir at ei ddwndwr a'i helbulon. Felly, nid y tawelwch hwnnw o ba un y nodweddir Llannau y wlad yw yr eiddo Llifon, ond yn hytrach clywir cordd peiriannau mawr y lofa y dydd fel y nos, a'r nos fel y dydd, a diamheu fod gwrando arnynt yn llanw mynwes llawer un â phryder, canys y mae yn gorwedd yn y fynwent dawel, lawer un a anadlodd ei anadl olaf yn y Pwll du.

Y mae cryn nifer o dai gweithwyr y Pwll yn y rhan hwnnw o'r Llan a elwir yn Bant yr Afon, a gelwir y rhan fwyaf o honynt yn dai'r Wal, a siomir un yn fawr wedi iddo fyned i lawr yr heol gul i Bant yr Afon gan y fath nifer honynt sydd wedi ymwthio megis i'w gilydd, fel pe gywilydd ganddynt fodoli yn ymyl y mur uchel sydd yn rhedeg heibio iddynt fel caer gref am ystâd fawr Llifon, ac mai'r unig esgus am eu bodolaeth yno ydyw, eu bod wedi dod i gardota cysgod o dan y coed trwm-frig sydd yn taflu eu canghennau tros y mur. Yr oedd yn fangre hynod, ac yma y tarddai pob drwg, dim ond ffenestr wedi ei thori yn y Llan, un o blant y Wal fyddai bob amser yn cael y bai am hynny, neu os ceid allan fod yna helwriaeth wedi ei gyflawni ar dir godidog Llifon, rhai o blant y Wal fyddai y rhai hyn.eto.

Unrhyw drosedd, unrhyw gam,
A gyflawnid yn y Llan,
Wedi methu neb a'i ddal (y troseddwr),
Rhaid rhoi'r bai ar blant y Wal.


Dyna rigwm a genid yn lled gyffredin gan y plant.

Mangre hynod arall yn y fan hon ydoedd cornel pobty yr hen Graswr, ac yma y cynhelid y cynghorau mwyaf pwysig gan y plant, ac yr adroddid pob hanes hen a newydd, a mwy byddai plant y lofa yn cyfarfod a'u gilydd a phob un a'i stori o'r pwll, a'r fath swyn oedd ynddynt 'r bechgyn hynny nad oedd raid iddynt rodio ei nentydd tywyll.

Y GYFRAN GYNTAF


"DERWYN

NEU

Pob Pant a Gyfodir."



PENNOD I.

YR oedd Derwyn wedi gorffen ei ysgol yn y dref, ac wedi rhoddi blwyddyn o leiaf o wasanaeth yn swyddfa gyfreithiol bwysig Mr. Rasp, a bu ei yrfa addysgol mor loyw a llwyddiannus, a chanddo y fath feis trolaeth ar ei wersi, nes ennill iddo ei hun yr hamdden hwnnw a deilynga yr efrydydd diwyd ym mha ganghen bynnag y bo. Hefyd yr oedd yn fachgen meddylgar, ac fel y cyfryw yr oedd yn dod i deimlo nad yn y llyfr yr oedd cyfrinion uchaf diwylliant a dysg i'w ganfod, ac fod rhan o hono, a dweyd y lleiaf, i'w ganfod trwy dalu sylw manwl i fywyd y bobl, a chan amled yr aethai i dŷ Bob yn y Wal, mwyaf ei ymserchiad yn y rhan honno o wybodaeth, ac yn sicr yr oedd iddo ef fyw mewn tŷ gwych a phob llawnder ynddo tra Bob ei gyfaill yn byw mewn tŷ na fuasai Derwyn yn hoffi aros yno am noswaith—wedi agor ryw ddôr fach ym meddwl Derwyn na allai ei gau.

Yr oedd ar ei saib—ddyddiau cyntaf er pan yng ngwasanaeth Rasp y Twrne, a mawr lawenydd Derwyn oedd cael mwy o hamdden gyda Bob yn y Wal.

Wel, Derwyn bach," ebai mam Bob, "dwyt ti ddim. wedi anghofio 'rhen fwthyn trwy'r cwbl."

"Byth, Ann Jones," ebai Derwyn, a'i lygaid mawr glasdywyll yn perfio sirioldeb.

"Byth," ebai drachefn. "Ac ma' hogle'ch cini ochi yn gampus Ann Jones," ychwanegai.

"Dwi'n medru scratchio dipyn o facyn i Bob bach ma' i'w ginio. Just ryw olwyth bach, Derwyn."

"Bacyn cartre, Ann Jones?" ebai Derwyn.

Nage, Derwyn bach. "Paid a son am facyn cartre, os cawn ni rw siort o facyn—a ma Elis y Siop, chwarae teg iddo fo, yn cadw bits i mi, a mi rhoith nhw am rôt y pwys, a ma Bob druan yn i rhelishio nhw fel tase gyna fo'r bacyn gore ar 'i blat—y creadur, wedi iddo fo ddwad o'r pwll 'ne, yn 'dwyt ti Bob?"

'Ydi, ma' fo'n facyn cartre i mi," ebe Bob, tan sipien y ddonen olaf, ac ôl chwys ar ei wyneb du, fel mân aberoedd wedi eu sychu i fyny.

"Ges di ddiwrnod caled heddyw Bob?" gofynnai ei fam, ac yr oedd yn hen ofyniad bellach. Bob dydd o'r bron y gofynnai, wedi i Bob orffen ei bryd bwyd.

"Do," ebe Bob, gan droi at Derwyn, "Rhen Jo Catlwm ne' wedi gadel peder twbyn baw o'r rels yn y pass-by, beth cynta heddyw bore, a 'lase fo mo'i gadel nhw mewn lle gwaeth,—at dy hanner mewn dŵr a slwch." Ac ar hyn, estynnai ei goes allan i Derwyn ei gweled. Ac os cei di gychwyn fel ene yn y bore Derwyn, ma' fo fel witch yn dy ganlyn di drwy'r dydd. Lle fuos ti ar hyd yr amser?"

"Dydd Llun, mi fum yn poachio ar Barc Llifon, Ann Jones. Y tro cyntaf yn fy mywyd i mi fod yn poachio, ond peidiwch a deud wrth fy nhad, neu fydd ar ben arna. i."

"Ddaliest ti rwbeth ?" gofynnai Bob.

"Globen o wningen fawr braf Bob." atebai yntau.

"Be neis di efo hi Derwyn?" gofynnai mam Bob.

"Mi ddaru mi danfon hi i hwnnw oedd pia hi Ann Jones, fel y dyla pob dyn gonest neud."

"Be buost ti mor hurt, Derwyn ?" ebe Bob.

"Ia, fase lawer rheitiach i ti cha'l hi ar dy blat Bob, rwy'n cyfadde, ond mi danfonais hi yn ol; ond chafodd hi ddim mynd yn ol heb i mi roi ticet arni hi."

"Lle dalies di hi ?"

"Reit tu ol i'r Plas, Bob."

"Fase raid i ti ddim rhoi ticet arni hi, Derwyn bach. Ma' pawb yn gwbod cystal a tithe ma' gwningen y plas ydi hi, os hynny oedd dy amcan di yn rhoi'r ticet." Yna, trodd y fam at Bob, a gwnaeth iddo newid ei ddillad. Yr oedd wedi eu hestyn yn barod iddo, ar y gadair i'w ymyl.

"Ma' fo'n wiyb, Derwyn," ebai.

"Ma'i drowsus o yn wlyb domen, Ann Jones, hyd at i ystlys o. Fyddi di yn ca'l rhiwmatic fever Bob? Ydi o yn wlyb fel ene trwy'r dydd?"

"Ers y bore, Derwyn; ond mod i ddim yn ca'l amser i glywed o, ond ma' fo'n oer rwan."

"Lase fod ti wedi'i dynnu cyn byta Bob," ceryddai ei fam ef.

"Fyddai yn alright, mi tyna i o rwan," ebai, gan droi ei lygad gwan tywyll oedd fel yn ymsuddo yn ddyfnach o dan ei aeliau llwyd, tra'i wallt yn chwareu yn gydynau cynffonog wedi ei drwsto â chwys llaith, ar ei dalcen gwelw. "A mi fuost yn y Parc yn poachio Derwyn ?" gofynnai.

"Oedd o yn blan gen i ers tipyn Bob."

"Yn Blan?"

"Yn Blan i ddal gwningen a'u danfon hi gyda neges fach i hwnnw oedd pia hi—a mi lwyddais—er 'roeddwn i yn ofni y plan."

"Ma' llygad Derwyn ar Eurwen mi fentra," ebai ei fam. Llythyr i Eurwen oedd o Derwyn, ffor' newydd i ddal—"

"Y fi ddanfon llythyr i Eurwen. Fase mwy o son am dana i, peidiwch a sôn Ann Jones, a phan fydd Derwyn 'isio geneth, fydd raid iddo fo edrych ati i rywle heblaw Plas Llifon."

"Wel, wn i ddim Derwyn bach, 'chos ma' pethe mwy anhebig na hyd yn od hynny yn cymeryd lle, a mi wyr pawb ma' geneth dlos o forwyn oedd nain Eurwen Llifon, a phwy wyr na thry yr olwyn yn ôl, fel bydde mam yn deud."

"Dwi mynd odd ma' y munud ma' os yde chi'n mynd i siarad pethe ffol fel ene Ann Jones. Y munud ma, ond mi na i ddeud i chi sut y bu hi efo'r wningen. Dipyn o experiment smala oedd o gan Derwyn. Fe ddaeth ne wraig o'r Wal 'ma at y drws accw un bore'r wythnos dwytha tan wylo yn hidl. 'Roedd ganddi 'run tamed o fara i'w phlant bach—'run tamed."

Edrychodd Bob a'i fam ar ei gilydd.

"De chi'n nabod hi; ond na'i ddim i henwi hi; ond gorfod i mi fynd o'r golwg i grio. Bob, dene fo i ti, a penderfynais y mynnwn i neud rywbeth drosti—neu drio beth bynnag."

Pam na fase ti'n i rhoi i'r wraig," ebai Bob.

"Tase fi pia hi, mi fase yn i cha'l hi Bob; ond mi rwymais dicet reit dyn ar i chwnffon hi, a 'sgrifen arno fo, a'r peth cynta glwes i bore wedyn oedd fod Plwmp y Cipar wedi dal y wningen, a bod ne sylw yn ca'l ei roi rhag blaen i gynnwys y llythyr. Na i ddim deud be oedd ar y llythyr Ann Jones, a ryde chithe i fynd ar eich llw na newch chi ddim fy rhoi i ffwr', ne na i ddim sefyll fel representative i Bobol y Wal eto."

Edrychodd Bob a'i fam ar ei gilydd a llygad du pwl Bob yn sirioli.

"Ma' Derwyn yn meddu ar rwbeth 'blaw gole llyfre yn i ben," ebai Ann Jones.

"Hwyrach ma' dipyn o joke fydd o trwy'r cwbl, Ann Jones. "Ond os ceiff o'i chware—mi fydd——"

"Ma' fo wedi ca'l i chware yn barod i ti, Derwyn," ebai Ann Jones. "Ond wyddwn i ddim mai ti oedd yn i chware fo."

"Be'r joke'

"Ie, os joke wyt ti'n galw dwad i dŷ a dillad glan newydd i bump o blant bach amddifaid, ac at hynny fasgedaid o fwyd ar fwrdd nad oedd ne bron byth dorth i'w gweled arno, dim ond crystie fydde'r fam yn gardota. Os joke wyt ti'n galw hwne Derwyn, dene un o'r jokes gore dwi wedi glwed erioed, a da ti elli drio chware joke fel ene efo minne, os mynni di. Ydi Bob ma yn dwad ond ychydig o arian, mi welest, be 'roedd gyna fo i'w ginio heddyw a mi gei weled heddyw a fory a thrennydd o ran hynny, dipyn o datws a bits o facyn."

"O na i ddim chware joke efo chi Ann Jones, na wnaf wir. 'chos 'roedd Bob yn byta'r cinio 'ne mor awchus a tase fe yn ginio gore ar fwrdd y brenin."

"Dwi ddim ond yn jokio efo ti Derwyn bach, ac yn rhy falch fod y druanes wedi ca'l dipyn o help."

"Na, 'de chi ddim felly, mi fentra Ann Jones. Tyrd Bob, os wyt ti am ddwad?"

"I le?" gofynnai ei fam.

"Am dro, Ann Jones, geiff o ddwad?"

"Ceiff os peidith o a aros yn hir i ga'l anwyd. 'Roedd o i yn pesychu yn y fan 'ma neithiwr yn dost, a phrin ges gau fy llygad fel y pesychai drwy'r nos, ond brysia Bob, a cewch ddwad i'r tŷ am sgwrs, os nad yw Derwyn 'isio mynd adref."

"Adre wir," ebai Derwyn.

"Ia, cartre—a chartre o'r fath ore 'sgen ti, Derwyn, a biti na fase pob cartre fel yr eiddo ti, fase llawer llai o ofid yn yr hen fyd 'ma. Tad o'r fath ore i ofalu am dana ti, —a mam—"

"Ddim gwell mam na chi mi fetiaf; ond ma' hi yn eistedd ar y sedd uwchaf sydd yn fy nghalon i—er—"

Daeth ryw gwmwl tros wedd Derwyn y pryd hyn. Yr oedd yr ataliad yna yn ei sgwrs wedi'r fath deyrnged i'w fam, wedi dwyn ryw fath o syndod i wynebpryd Ann Jones, ac edrychodd arno am ennyd fel pe yn petruso pa un ai aros iddo ef ymhelaethu ynte iddi ei ragflaenu gyda ryw fath o gerydd ysgafn, canys gwelai fod ryw afonyddwch ar ei feddwl ar unwaith.

"Rwyt ti wedi ca'l ysgol dda Derwyn, ac mi fyddi ryw ddydd yn plethu torch o anrhydedd ar ben y fam a'th fagodd ac yn peri i'th dad lawenydd yn ei hen ddyddiau, neu o leiaf, dyna ddylai cwrs pob plentyn sy' wedi ca'l y fath ofal a ti, er gwn fod eithriadau brwnt i'r rheol yna, achos dyna Alun, bachgen Elin fy chwaer, fe wariodd tad a mam hwnnw rai cannoedd o bunnau ar 'i addysg o, a dene fo heddyw yn warth i gymdeithas, a'i fam yn y bedd a'i dad yn hanner dori ei galon. Madde i mi am gyfeirio ato, Derwyn; ond mae yn werth hefyd dwyn i sylw bachgen fel ti, y peryglon o amhrisio yr hyn ma' dy rieni wedi ei gyflwyno ar dy ran, ac wedi aberthu er dy fwyn."

"Dim aberth wedi bod yn tŷ ni, Ann Jones."

"Wel, wrach na fu'r aberth fel llawer tŷ, wrth gwrs, dwi ddim yn awgrymu dim o'r fath; ond gwn i fy chwaer a Tomos i gŵr, berthu nid yn unig ffrwyth eu cynildeb, ond hefyd orfod pryderu llawer, a diameu fod yna gryn bryder wedi bod yn ych tŷ chi Derwyn.

"Dim pryder chwaith Ann Jones, dim munud o bryder efo'n addysg i, ar dop y class bob tro Ann Jones, a bwnsien o honours i ganlyn o—ond—"

"Ond be, Derwyn bach—er i ti fod yn llwyddiannus fel y gwyddom oll dy fod wedi bod, eto, mae pryder wastad yn rhwym o ddilyn cwrs pob plentyn i'r tad a'r fam sydd yn edrych yn mlaen, a 'rwy'n sicr nag ydi dy dad a'th fam dithe ddim yn eithriad i ryw dad a mam arall."

"Ia—ond fe ddylai pob plentyn ga'l dewis i gwrs yn y byd 'ma, Ann Jones, a dyna'r drwg yn tŷ ni"

"Drwg—ond ma' ne rwun wrth y drws."

"Peidiwch a gadel iddi ddwad i mewn, nes eiff Bob a fine allan," ebai Derwyn.

Aeth mam Bob i'r drws, a chymerodd fwcedaid o lô yn ol. Glo oedd un o'r cymdogesau wedi ei fenthyca oddi arni —a chauodd y drws drachefn.

"Bloeddiwch ar Bob, Ann Jones—bloeddiwch arno."

"Mi ddaw i ti Derwyn, ond dwi'n synnu ata ti Derwyn bach, a mwy, carwn argraffu arna ti yn fawr y perygl wyt ti ynddo, a dene ti wedi cael dy roddi yn yr Offis fwyaf yn dre, efo Mr. Rasp."

"Fase'n well gen i farw, Ann Jones."

"Be?"

"Yn wir, yn wir, yn onest i chi, Ann Jones."

"Dyma'r waith gyntaf i Derwyn ddangos ei anfoddlonrwydd yn swyddfa Mr. Rasp i Ann Jones, a mwy, yr oedd yn beth syn i Bob."

"Wyt ti'n dwad Bob?" Yr oedd Bob wedi dod i lawr o'r llofft, ac yn barod i roi ei goler am ei wddf.

"Well i ti roi cadach cynnes heno, Bob bach."

"Wyt ti'n barod Bob,"? ebai Derwyn.

"Wel Derwyn bach, wyt ti'n fy synnu i, ond cofia di eirie un sy' cyn hoffed o hono ti bron a dy fam, ac ni charwn byth glywed dim am danat na charwn glywed am fy machgen fy hun."

"Chewch chi glywed dim byd o'i le am dana i Ann Jones, cyn wired a bod Bob yn Fob, a Derwyn yn Dderwyn, a d'w i 'eisio adrodd rw freuddwyd fechan ryfedd ges i Ann Jones."

"Os wyt ti'n dechre ca'l dy aflonyddu gan freuddwydion ma' hi ar ben arna ti Derwyn bach—am be freuddwydiaist ti ?"

Dyma hi yn fyr i chwi Ann Jones. 'Roeddwn i yn breuddwydio mod i wedi tynnu wal y Parc ma i lawr, o dŷ'r hen Jacob Tomos hyd at bilar yr entrance yn stryt fawr y llan, a mod i yn cael fy nghymeryd i fyny i'r carchar am y job—a de chi'n gwbod fu 'rioed dda gen i weld y Wal 'ma er yn blentyn, Ann Jones—dene'n mreuddwyd i, ac wrach y ca'i gweld hi ryw ddydd wedi'i thynnu, achos dwi'n credu y daw'r dydd pan y bydd yr hen adnod annwyl yn cael i lle. Pob pant—ac yn eu plith Pant yr Afon, a gyfodir, a phob mynydd a bryn a ostyngir—Nos dawch Ann Jones."

Ysgydwodd Derwyn law ag Ann Jones fel ei arfer ond ychydig dybiodd y fam gynnes ei bod yn gafaelyd yn ei law i flarwelio ag ef, ac na chai gyfle mwyach i roddi help i Derwyn ieuanc wyllt i gadw cwch ei fywyd o afael y creigiau, yn ol ei hofn naturiol hi am dano.


PENNOD II.

DAETH Bob yn ol y noson hon yr aeth allan gyda Derwyn yn gynt nag a ddisgwyliasai ei fam ef, a phesychai, pesychai hyd nes yr aethai i'w wely. Rywfodd ni soniodd ei fam air am Derwyn, yr oedd pesychu dibaid Bob yn ei blino gymaint, fel yr anghofiai bopeth o'r tu allan i'w chylch bach teuluaidd.

Aeth Bob yn lled gynnar i'w wely ac wedi ryw huno cysgu, o leiaf, yr oedd y ffisig peswch a roisai ei fam iddo, wedi rhoddi hamdden fach iddo oddiwrth y peswch, tra hithau ei fam yn prysur drefnu y bwrdd erbyn y bore, ac at hynny lanw ei lestr gwaith a'i ddodi ar y pen pellaf i'r bwrdd gyda'i botel, a thra yn taflu ei golwg i gyfeiriad y tân—yr hwn oedd yn brysur farw losgi allan,—dyna gnoc sydyn ar y drws.

"Y tad mawr," ebai gan syllu tua'r drws. Dyna gnoc dieithr," meddyliai, ac aeth gyda ryw led ofn i'w agor.

"Y fi sy' 'ma Ann Jones, mam Derwyn. Y mae Derwyn heb ddod gartref, ac mae ei dad a minnau yn anesmwyth am dano, ac yn meddwl y galle fo fod yma efo Bob. Lle ma' Bob?" gofynnai gan daflu ei golwg yn gyflym heibio Ann Jones.

"Ma' fo yn i wely, Mrs. Humphreys, a pheswch mawr arno. Mynd i huddo'r tân 'roeddwn i rwan. Derwyn heb ddod adre," ebai, ac oslef frawychus yn ei llais.

"Ia, Derwyn heb ddod gartref, a dwn i ddim lle i fynd i edrych am dano."

"Roedd o yma tua pump o'r gloch efo Bob, ac fe aeth y ddau allan, a fu Bob ddim yn hir, ma' geno fo rw beswch ofnadwy Mrs. Humphreys, a mi siarses o beidio aros allan yn hir, ac yn wir 'roedd o yn y tŷ cyn saith o'r gloch; ond soniodd o air am Derwyn. Well i mi fynd i'w ddeffro fo?"

"Biti i chi i ddeffro fo Ann Jones, os ydi o felly; ond faswn ni'n caru ca'l gwbod lle gadawodd o Derwyn, mae o—"

Edrychodd main Bob i'w hwyneb gan godi y ganhwyllbren oddi ar y bwrdd, canys yr oedd llu o feddyliau yn ymreibio i'w meddwl wrth gofio am y sgwrs ryfedd a gafodd gyda'r bachgen yn oriau cynta'r nos, ac ni wyddai am y funud beth i'w ddweyd.

"Ond, dewch i mi roi clap bychan ar y tân ma, ma' fo bron a mynd allan a dwi'n gadel iddo fo fynd yn lled isel cyn i huddo fo, er mwyn sicrhau tân yn y bore."

Rhedodd i'r cwt a cheisiodd glap bach neu ddau ar y tân. Rwan, mi redaf i fyny at Bob, cysgu neu beth, a fydd i beswch o ddim gwaeth mi wn."

Clywid sŵn ei throed yn mynd i fyny y grisiau cul, chyn o'r bron iddi gyrraedd yr oedd yn gwaeddi ar Bob.

"Bob,—Bob,—Bob," ebai wedyn wrth neshau at ei wely. Taflodd Bob y dillad ymaith.

"Be mam?" agorodd ei lygaid mewn braw.

Ma' mam Derwyn wedi dod i edrych a wyddos ti rwbeth am Derwyn. Ydi o ddim wedi cyrraedd gartref."

"Be?"

"Derwyn heb fynd gartre a ma' hi 'rwan yn hanner awr wedi deg. Well i ti roi dy ddillad am danat a dwad i lawr."

"Wel, wn i ddim byd am dano fo mam. Ddeudodd o ddim byd wrtha i, a mi gadawodd fi wrth y Siop Goch."

"Pryd oedd hynny Bob?"

"W Digon o waith bod hi'n hanner awr wedi chwech mam."

"Tyrd i lawr. Well i ti ddwad i lawr at i fam o Bob."

Aeth i dop y grisiau a gwaeddodd. "Mi ddaw i lawr yrwan Mrs. Humphreys."

"O biti," ebai hithau, gan roddi ochenaid a thaflu ei golwg tros gegin fach lom Ann Jones, ond er llymed a bychaned y tŷ, daeth i'w meddwl fod mwy o ddedwyddwch ynddo, filwaith nag yn nhŷ mawr y Bryn, cartref Derwyn, Derwyn ei hoff fachgen.

Daeth wyneb llwyd—las Bob i'r golwg, a syllodd mam Derwyn arno am ennyd.

"Biti i mi'ch codi chi machgen i," cans gwelai ar ei wedd, fel y dywedai ei fam am dano.

"Derwyn sy' heb ddod adref, a mi fydde yn sôn beunydd am Bob, Ann Jones, a ma' tada wedi gwneud i mi ddwad yma Bob, yn lle gadawsoch chi o?"

"Wrth Siop Prys Huws, Siop Goch." ebai Bob.

"Aru o ddeud rwbeth wrtha chi?"

"Yr un gair Mrs. Humphryes, ond—"

"Ia, roeddwn i yn meddwl deud hynny wrtho chi, Mrs.. Humphreys, weles i mono fo 'run fath a heno," ebai Ann Jones.

"Be, rwbeth yn wrong?"

Na, na, dim byd yn wrong ond bod ni wedi digwydd—sut y bu i ni siarad Bob? Ella i ddim cofio ar y funud. Sut Bob? Ond beth bynnag oedd o yn deud y base fo yn caru ca'l ffor'i hun i ddewis; ond bod i dad wedi'i orfodi o fynd i'r dre at Rasp y twrne, a mi rois ine dipyn bach o gerydd iddo fo, achos plant ydi plant Mrs. Humphreys,. ond dim byd i'w ddigio na'i ddigaloni; ond dangos iddo gore gallwn i y fath dad a mam sy' ganddo, oedd o wedi deud rwbeth wrtho chi Mrs. Humphreys?"




Ella i neud rywbeth Mrs. Humphreys—neu Bob?
tud. 21.


"Do, fe ddeudodd rwbeth wrth Nel tan lolian, fel y bydd Derwyn, fod o yn mynd i Lerpwl at ryw ffirm o Engineers 'lectric dwi'n meddwl. At bwy ac i le, dwn i ddim, achos chlwes i 'rioed mono fo yn sôn—a pheth arall ma' fo wedi bod mor fine efo'i addysg, dim trwbl, ac fel tase pob gwers yn chware iddo fo; ac wrth gwrs, 'roedd hi yn naturiol i'w dad wasgu arno fo fynd at Mr. Rasp—ac eto dwi ddim yn meddwl fod tada wedi bod felly chwaith efo—a lles Derwyn oedd yn y golwg yn wastad, ond wrach bod ni yn pryderu gormod." Yn codi ei golwg at y cloc,—"Ma'ch cloc chi yn fuan Ann Jones."

"Ydi Mrs. Humphreys, hanner awr dda, wastad hanner awr, ac ydi hi ddim mor hwyr a hynny."

"Wel, fu o rioed allan funud ar ol hanner awr wedi naw, 'run munud Ann Jones, yn eithriad ryw gwarfod yn y capel." Ar hyn dyma sŵn traed yn dynesu i fyny y buarth.

"Dyma rywun yn dwad," a chyn bod amser i ofyn dim dyna sŵn y tad yn gofyn oddi ar garreg y drws,

"Ydi o ddim ene Mary?"

"Nag ydi Edward."

"Na, welodd Bob mohono?"

"Efo Bob tua hanner awr wedi chwech wrth y Siop Goch." Wel, dwi am fynd i lawr at y stesion, ma' Glyn Parry yn deud fod o wedi weld o wrth y Bont, dipyn cyn saith ma' ynte yn feddwl."

Daeth Ann Jones i'r drws gyda'r lamp yn ei llaw, a'r tristwch mwyaf i'w ganfod ar ei grudd.

"Ella i neud rwbeth Mrs. Humphreys—neu Bob?" gofynnai.

"O, na, na, mi drystia i'r gore heno Ann Jones, ac hwyrach y bydd o gartre. Nos dawch."

Wedi dodi y lamp yn ol ar y bwrdd, aeth i'w dilyn at y llidiart bach. Yr oedd yn noson dawel, ac erbyn hyn. dringai yr hwyr-leuad yn araf i entrych y ffurfafen, a thafla wên ar bob cwmwl bach elai heibio, ac yng ngrym ei oleuni llachar prysurai i briodi pob dôl a bryn, a rhyw swyn na. fedd hyd yn od teyrn y dydd yr hawl iddo, ryw dangnef dawel ddistaw, a myrdd gusanau'r awel fel yn ymddeffroi pob deilen fach i roddi offrwm iddo..

"A soniodd Derwyn yr un gair wrtha ti Bob?" gofynnai ei fam, wedi iddi gyrraedd y tŷ.

"Y cwbl ddeudodd o mam oedd, nos dawch. Dene'r cwbl mam," ebai Bob.

Wel," ebai hithau, "dene'r wobr sy i ga'l am roddi addysg fawr i blentyn, er y diweddaf yn y byd i mi feddwl am dano yn cymeryd y ffor' galed ene ydi Derwyn, ac mi fydd yn noson ryfedd yn y Bryn heno, os na fydd Derwyn wedi cyrraedd gartref; ond cer i dy wely Bob, ac mi reda. i ono cyn y do i. Ella i ddim meddwl mynd i gysgu heb fynd—dos Bob."

Aeth Bob i'w wely. Huddodd Ann Jones y tân. Arosodd ennyd ar ganol y llawr i synfyfyrio, ac fel pe yn gwrando am sŵn traed Derwyn.

"Dwi'n mynd Bob," ebai, wedi taflu ei shiol am ei phen. Yr oedd y Bryn, cartref Derwyn, yn annedd-dŷ braf newydd, wedi ei adeiladu yn y pen uchaf i'r pentref, ac ar yr awr hon bron bob tŷ a'r goleu wedi ei ddiffoddi. Cerddai Ann Jones yn gyflym ar hyd yr heol lydan, a'r lloer unig fel

yn ymrwyfo heibio'r cymylau, ac yn taflu ei gysgod fel y cerddai Ann Jones yn mlaen.

Wedi cyrraedd y drws, curodd ef yn ysgafn, a gwahoddwyd hi i mewn ar ei hunion gan Gwen y forwyn. Gwelodd Ann Jones y fath alanas oedd ar eu meddyliau.

"O! peidiwch a chrio Mrs. Humphreys bach, a chithe Nel. 'Does dim o'i le ar Derwyn, rw stranc ffol ydi o yn siwr."

Aeth rhai munudau heibio cyn y gallai Nel na'i mama ddweyd gair, a safai Gwen yn ddwys-rudd yn ei hymyl yn ei gwylio.

"Y bachgen na chawsom ni ddim allan o le ynddo. Dim, ai do Nel?"

"Naddo mam," ebai Nel, a chri yn ei llais.

"Lle mae'ch tad?" gofynnai Ann Jones. Q Rwy'n ei ddisgwyl bob munud.

Mae o wedi mynd i'r Stesion. Eisteddwch Ann Jones. Geiff Gwen a Nel ddwad i'ch hebrwng chi' adre."

"Ma' hi yn ole braf. 'Does dim ofn arnaf, a d'allwn i ddim meddwl mynd i'r gwely, a 'roedd Bob 'isio dwad, ond mi ges ganddo fynd i'w wely. Ma' fo'n gweithio mewn lle gwlyb a ma'r hen Sais newydd sy' wedi dwad yn gaffer i'r Pwll 'ne yn fwy tebyg i ddyn anwar na dim arall. Rhegi, y bechgyn mae o drwy gydol y dydd. Wn i ddim sut na fase gyna fo ofn; ond rhaid dioddef. Dyma Mr. Humphreys druan yn dwad."

Heb Derwyn—heb Derwyn—wel,"

Yr oedd llygaid y merched ar y drws, a dyna'r tad siomedig i mewn ac heb allu dweyd gair, torodd i wylo fel plentyn. "Welsoch chi' Mr. Parri?" gofynnai Nel, a'i gruddiau yn llaith gan ddagrau.

"Do Nel," ebai gyda llais toredig. "Do," ebai wedyn, "a ma' fo wedi mynd efo'r train."

"Be?" ebe'r fam.

"Efo'r train, Mary."

"I le?"

"I Lerpwl."

"Lerpwl?"

"Ia, Lerpwl, mi fydde ono cyn wyth o'r gloch, medde Mr. Parri."

"Fu Mr. Parri yn siarad efo fo?"

"Do, cafodd sgwrs bach efo fo, a Derwyn yn chwerthin yn galonnog, medde fo. 'Roedd o yn mynd ar neges i dŷ 'i Fodryb Selina, medde fo wrth Parri, ac yr ydw i am fynd yno yn beth cynta' yn y bore Mary"—Yna rhoddodd ochenaid ddofn. Y fath ochenaid ag sydd weithiau yn ysgafnhau y fynwes ofidus.

"Ryw ddireidi diniwed, Mr. Humphreys," ebai Ann Jones.

"Gobeithio Ann Jones—gobeithio," ebai drachefn. "Gwna 'paned o de i Ann Jones, Gwen."

"Dim, dim, dim, Mr. Humphreys. Rhaid i mi fynd."

"Munud fydd Nel a Gwen yn 'i neud o Ann Jones," ebai mam Derwyn.

Cerddodd Ann Jones at y drws, gan wrthod yn bendant. "Meddyliwch y gore ac ewch i gysgu," ebai.

Derwyn yn fachgen rhy bur i fod dim allan o'i le ynddo."

Cyfarchodd Ann Jones hwy, ac aeth ymaith gyda Nel a Gwen i'w hebrwng i'r ffordd, ar archiad tad Derwyn.

PENNOD III.

Hello, Ffrainc."

"Hello, Mr. Humphreys," ebai Ffrainc y Postman.

"Wyddw ni ddim fod Derwyn wedi mynd i ffwr' fel ene. Echdoe pnawn oeddwn i yn sgwrsio efo fo," a daliai Ffrainc Post Card yn ei law. "Un oddi wrth Derwyn ydi o, onite?"ebai.

Dyna'r fam a Nel a Gwen y forwyn i'r drws ar unwaith.

"Be Ffrainc,?" ebai'r fam.

"Post Card oddiwrth Derwyn o Liverpool, a wyddwn i ddim bod o wedi mynd."

Yr oedd y cerdyn erbyn hyn yn llaw y tad. "Thank you, Ffrainc," ebai a phrysurodd yn ol i' tŷ, yn cael ei ddilyn gan y fam a'r genethod.

"Mae o yn alright," ebai y tad, ac estynodd y cerdyn i'w briod. Darllenodd hithau ef, a Nel ar ei hysgwydd.

"Dim gair o sôn am Modryb mam."

"Na hidia dy fodryb, Nel bach; ond mae o yn siwr o fynd yno i ti. Mae hwn wedi ei ysgrifennu yn y Post Office."

"Ia, ddarfu mi ddim meddwl mam."

"Hwde, darllen o i Gwen i glywed o." Ond, rhoddodd' Nel yn gyntaf gynnyg arno i Gwen.

"Na, darllenwch o Neli," eba Gwen, a'i llygaid wedi sirioli.

"Fy annwyl dad a mam, Nel a Gwen,—Y cyfle cyntaf yr wyf yn ysgrifennu atoch. Peidiwch am un mynudyn a thrwblo am danaf; ond dim 'chwaneg o le Mr. Rasp i Derwyn. Ydwyf gyda cusanau hoff,—Derwyn."

Eisteddodd y tad ar y gadair gan daro ei ddwylo ar ei lin, a chyda ryw olwg fudanaidd edrychai ar ei briod, hithau yr un modd a daflai yr un olwg yn ol ato yntau, ond fel arfer; y fam yw y gyntaf i agor drws anhawster.

"Edward?" gofynnai.

"Beth ddywed Rasp, "Beth all o ddweyd.

Fydde well i mi fynd i'w nol o adre?"

"Na, gwell gadael iddo am ddiwrnod neu ddau. Mi ofala ei fodryb am dano."

"A dyna Islwyn, mam, ma' fo yn siwr o fynd i weld Islwyn."

"Dyna fydd y gore," ebai y tad." "Wrth gwrs, tae o ddim yn dwad yn ol am fis i'w Office, fydde Rasp rhy falch o hono, ac erbyn y bydd 'i holidays o ar ben, bydd efalle yn rhy falch o ddod yn ol at Mr. Rasp, Mary."

"Ia, Edward, fe adawn iddo am yr wythnos ynte, Nel?" ebai y fam drachefn, gan droi at chwaer Derwyn, yr hon oedd a'i llygaid du tywyll wedi ei ddal gan fyfyrdod dwys o barthed i dynged ei brawd.

"Wel ia, mam," ebai hithau. "Does dim arall am dani, a mwy hoffwn i ddim i tada redeg ar ol Derwyn, fel tae o blentyn bychan.

Dyna'r penderfyniad ddaethpwyd iddo ynglyn ag achos Derwyn y bore hwn, a phwys gobaith y tad a'r fam ar y cerdyn bach a ddaliai Nel fyth yn ei llaw, a chanddo fodryb yn y ddinas, chwaer hoff ei fam, a chanddo wythnos eto o amser i orffen ei saib—ddyddiau, yn ddiau, ryw stranc fach ydoedd hon o eiddo Derwyn—a dyna syniad Ann Jones. ****

Yr oedd yn foreu trwm, niwlog, a chymaint trwch y nifwl fel prin y gellid gweled ond ychydig yn mlaen, a phan darawai yr hen awrlais yr awr yng nghloch-dŷ y llan, yr hwn oedd wedi ei lwyr guddio gan y llwyd-darth oer, a sŵn y clychau fel pe buasent yn dod o gryn bellter, a'r un modd gyda sŵn peiriannau mawr y lofa gyda'r gwahaniaeth hynny eu bod hwy yn parhau i ddadwrdd fel pe buasent mewn brwydr farwol a'r darth-len oer a orchuddiai y pentref, a sibrydent y mynnent hwy gorddi ymaith y nifwl yn y man.

Ni raid dweyd nad oedd Pwll mawr Llifon yn brif gynnyrch bywyd y pentref. Yn wir, ymddibynnai bron yn gyfangwbl arno, ac fel rheol byddai y pentref yn lled dawel a di—gyffro pan fyddai ei olwynion mawr yn ymdroelli ol a blaen, gan ddwyn i'r lan gynnwys llafur ei feibion glew, ac o'r ochr arall, pan safai y rhai hyn buan iawn y brithid heolydd y pentref a phresenoldeb ei phlant.

"Ma' Llifon yn chware heddyw,"—dyna'r ymadrodd a ddefnyddid yn gyffredin pan fyddai'r pwll yn sefyll.

Araf ymgiliai'r tarth ymaith, a phan darawai yr awrlais un-ar-ddeg, y ddifyr ddinas fach' fel y'i gelwid gan rai oedd o dan baladr berlau yr haul, a'i heolydd mor fywiog a phe yn nos Sadwrn tâl yn mhwll Llifon.

"Be mater heddyw, Siarlat?" gofynnai yr hen Isaac y siop.

"Glywsoch chi ddim?" ebai Siarlat Huws, oedd yn byw yn ymyl y gwaith, ac wedi dod ar ei hynt foreol i siop fawr fwyd Isaac Jones.

"Ma'r bechgyn acw adre er's y bore—strike"—ebe Siarlet Huws.

"Be?"—taflodd yr hen Isaac ei gyllell ar y cownter, ac edrychai fel pe wedi ei daro a'r gwahanglwyf.

"Ydi, ma' hi yn strike yn Llifon i chi Isaac Jones, ond 'does ddim 'isio i chi' fynd ar strike. Cydiwch yn y gyllell ne a torwch bwys o'r ham ne."

Daeth un ac arall i fewn o ferched y llan, i'r siop, chawsant chwardd am ben archiad pybyr Siarlat Huws i'r hen siopwr.

"Ydi, ma' hi yn strike Isaac Jones," ebe un o honynt, i gadarnhau Siarlat Huws," a dim heb i hangen hi chwaith, 'rhen luman gyn Stamper ne efo'r bechgyn."

"Ryw fath o brotestio ydi hi ddyliwn," ebe'r hen Isaac. tra llithrai ei gyllell drwy yr ham. "Faint aru chi ddeud oedde chi 'isio Siarlat Huws?"

Pwys, a fydd o ddim gormod pan ma'r lot accw efo'i gilydd; gas gyna'i i gweld nhw'n chware, gymra fy llw fod nhw yn byta gimin ddwywaith pan fydda nhw adre ddim yn gweithio; ond ma' 'isio rhedeg y dyn ene o'r fan 'ma, 'roedd 'slyse Sam bach acw yn gwaedu y diwrnod o'r blaen o'i achos o. Un brwnt di—deimlad ydi o, ac am regi—ma' hi yn arswydus bod yn 'i ymyl o, medde'r plant acw. Ma' ne gyfarfod ar y bone am dri heddyw pnawn, a ma'r bechgyn yn tyngu nad a nhw ddim at 'i gwaith tra fydd o ene."

Nid dyma y waith gyntaf i Lan a phentref Llifon gael ei ddal gan anffawd o'r natur yma. Yn wir, byddai yn ryfeddod iddo weithio am chwe' mis heb ddim i'w atal, a chan mwyaf o honynt yn cael ei achosi o herwydd swyddogaeth anheilwng, anghyfaddas yn ol tyb dynion mwyaf eu pwyll yn y gwaith.

"Byth e's pan ma' rhen Stork ne yma 'does dim heddwch, a ryfeddwn i ddim," ebe'r hen Siarlat, wrth iddi adael y siop "na'i ddiwedd o fydd ca'l i redeg 'run fath a gafodd yr hen Shot e's talwm.

"Rhaid i pawb ga'l i le, Siarlet Huws. Giaffer ydi giaffer, a ma' Price acw yn'i frolio fo."

"Dwi'n deud dim am Stork 'i hun, ond rw garpie sy' o dana fo, er mi ddyle fo edrych ffasiwn ddynion ma' fo'n dwad i osod wrth ben y'n plant ni. Ma' nhw'n deud ma' o achos hwn y collodd Elis Parri' i fywyd, gneud iddo fo weithio mewn lle na 'lase fo ddim, a Elis druan mor ddiniwed o. Ma' hi yn gwilydd i'r Sqwiar y fo bia'r pwll, a mi ddyle—"

"Ma' ne deputation yn mynd ata fo'r bore 'ma i chi," ebe dynes ifanc, oedd yn sefyll ac yn brysur roddi ei nwyddau yn y fasged, oddiar gownter y siop.

"Tase ne deputation o hono chi ferched yn mynd at fo, mi fase yn tycio lawer iawn gwell ddalia i," ebe'r hen siopwr.

PENNOD IV.

UN o'r pethau mwyaf yn meddwl pobl Pentref a Llan Llifon oedd y Plas Mawr, yr oedd iddo hanes rhamantus o'r gorffennol, ac fel y safai yn cael ei anwesu a'i ddarn guddio a choedwig fawr. Taflai argraff fel byddai i'r dyfodol fod yr un mor rymus iddo yn ei awdurdod a'i swyn ar feddyliau y bobl, ac mewn llawer modd yr oedd i'r Plas a'i berchenog gryn afael a hawl arnynt, can's hynodid Syr Alwyn â chryn duedd at bob agwedd Gymreig ar fywyd y trigolion, a dyna'r rheswm ond odid ar ba un y mynnai rhai o ddynion blaenllaw y Pwll fynd a'r mater hwn rhag ei flaen ato ef ei hun, er ni byddai ac ni cheisiai byth ymyrryd ag unrhyw achos afreolus a ddigwyddai yn y pwll, er iddo gymeryd y diddordeb mwyaf gyda rhai pethau oedd wedi eu sefydlu ynglyn a'r lofa. Yr Ysbyty, er enghraifft, byddai ef neu Eurwen, ei ferch, a'r llaw flaenaf ynglŷn â phopeth a berthynai i'r Ysbyty, er mai y glowyr ei hunain, oedd yn gyfrifol am bwys mwyaf ariannol yr Ysbyty. Ond ynglŷn â swyddogaeth y lofa, ni byddai ef yn ymyrryd dim, daliai na ddylai ef ynglŷn â materion cyffredin y lofa gael dim i wneud a hwy, a lled debig na wyddai ef ond ychydig am y driniaeth anhydrin a gawsai y glowyr, a'u plant, trwy offerynoliaeth swyddogaeth estronol.

Fodd bynnag, mynnai Lias Parri, yr hen Garno, John Parri a William Elis fyned rhag eu blaen gyda mater y bechgyn at Syr Alwyn ei hunan i'r Plas, can's dalient mai ei fater ef a dweyd y lleiaf oedd gofalu am swyddogaeth deg a chyfaddas, a chafwyd pleidlais ynghwr y pentref, yn eu hannog i fyned ar ran y gwaith gyda'r mater, a dod a'r genadwri yn ôl erbyn cyfarfod y prynhawn.

Aethant i fyny y drive fawr goediog, ac ar eu hunion at y drws mawr, a digwyddai fod ar y pryd, Eurwen brydferth, unig ferch a phlentyn Syr Alwyn, yn eistedd yn y ffenestr fawr yn eu gwylio hwy yn dodi fyny at y drws, ac aeth ato i'w agor.

"Bore da Miss," ebai Elis.

"Bore da Mr. Elis, Beth sy'n bod?" ebai hithau, yr oedd yn gyfarwydd iawn â Elis trwy y mynych gyfarfyddiadau a gawsai ag ef ynglŷn â symudiad yr Ysbyty.

"Eich tad yr ydym yn geisio weled," ebai Elis.

"Af i'w nol," ebai ac ymaith a hi, wedi gwahodd y pedwar i mewn a'u cyfeirio i eistedd i swyddfa Syr Alwyn, ac ar ddyfodiad Syr Alwyn atynt, rhoddodd y cyfarchiad cynnes arferol yna, trodd at Elis.

"Wel Elis, be' sy'n blino y bobol?"

"Wel Syr Alwyn," ebai yntau, yr ydym wedi dod yma ein pedwar ar ran y gwaith."

"Be sy' o'i le ar y gwaith?"

"Y mae y gwaith yn burion, Syr Alwyn; ond fod y modd yr ymddygir at ein plant yn peri cryn boen a phryder i ni, ac yr ydym wedi methu cael y bechgyn i weithio heddyw o herwydd y driniaeth anheilwng y maent yn ei dderbyn gan rai o'r is-swyddogion, a chan na wel Mr. Stork yn werth rhoddi sylw i'r achos, yr ydym wedi penderfynu dod ag ef ato chwi eich hun—Syr Alwyn."

"Y mae Mr. Stork yn un o'r swyddogion goreu a gefais erioed, os nad y goreu," ebai Syr Alwyn.

"Nid ydym chwaith yn cyhuddo Mr. Stork," ebai Elis; "ond yn unig ei fod yn goddef swyddogion anheilwng o dan ei ofal."

Edrychai y ddeuddyn i lygaid ei gilydd, a gwelai Elis ryw wg yn ymgronni o dan aeliau y Marchog, a chanfyddai hefyd ei fod yn araf wasgu ei wefl gan fel yr ymboenai ei fynwes o dan y cyhuddiad a ddygai y dynion gerbron, a lled feddyliodd Elis ei fod wedi agor yn rhwydd y ffordd i galon deg Syr Alwyn i ymyrryd ar eu rhan.

"Ac mae plant Pentre Llifon wedi stopio'r Pwll Mawr," ebai y Marchog, â llais ar unwaith yn acenu digter. "Y Pwll ag mae y llong fwyaf sydd ar yr Atlantic yn dibynnu arno am ei glo. Y Pwll ag y mae gwaith mawr Mr. Spleen lle ma dur gore y Man-o-Wars yn ca'l i ffwrneisio, un o'r gweithiau hynny lle gorwedd pwys a thynged yr ymherodraeth fawr Brydeinig, ac y mae olwynion y lle pwysig yna wedi ca'l i stopio gan rw gêr o blant Elis?" ebai, a duwch yn ei wyneb yn taflu y fath fraw i wyneb y tri dyn a safai'n gwrando nes yr oeddynt yn gwelwi gan ei ofn.

Ond, safai Elis o'i flaen yn ddigryn. Dyn bach, o osodiad cadarn ydoedd William Elis wedi cael cryn brofiad ar bwyllgorau ynglŷn a helyntion y gwaith, ac yn cael edrych arno fel dyn di-ildio i drafod pynciau dyrys ac erbyn hyn yr oedd llygad Syr Alwyn yn gyfangwbl ar Elis, canys gwelai fod y tri arall wedi eu gwneud yn ddi-rym, can belled ag y gallai farnu wrth yr olwg syrthiedig oedd ar eu hwynebau.

"Wyt ti yn deall be ydw i yn drivio ata fo Elis yn 'dwyt ti?" ebai'r Marchog, heb dynnu ei olwg oddiarno.

"Nid fod Pwll mawr Llifon mewn bodolaeth, ond fod ein plant ni i fod yno yn gweithio, dyna sydd yn ei wneud yn bwysig onide, Syr Alwyn?" ebai Elis.

"Dyna sydd yn bwysig," ebai y Marchog, yn ol fel saeth. "Fod olwynion pwll mawr Llifon yn dal i droi ac na ddylai neb eu hatal."

"Mae pob un o honom yn unfarn ar y mater yna, Syr Alwyn," ebai Elis, a trodd ei olwg at ei gyd-gynrychiolaeth —"na ddylai dim afresymol gael caniatad i atal pethau mor bwysig ag olwynion mawr Pwll Llifon."

"Tase chwithe fel pobol Llifon yn gweled ac yn teimlo y pwysigrwydd yna, yr un mor gywir ac yr ydych yn medru ei ddatgan, buasai dim sefyll arnynt, a be mae hogie o blant yn gwybod nac yn hidio. Ma' Stork, ydw i yn deud eto, yn un o'r dynion gore a fedra i ga'l —dim achos i geryddu Stork—rhoswch am funud—"

Aeth ymaith, galwodd ar Eurwen ato, a daeth Eurwen i'w gyfarfod, cyn iddo fyned ryw led llath oddi wrth ddrws yr ystafell lle yr eisteddai y dynion.

Eisteddodd Elis i lawr. Cododd ei law ar y dynion rhag iddynt aflonyddu fel y gallai glywed yr ymddiddan wrth y drws, ond nid angen hynny, yr oeddynt oll yr un mor awyddus i wrando.

Yr oedd Eurwen Llifon, unig blentyn Syr Alwyn yn neilltuol o gymeradwy gan y pentrefwyr. Bu ei mam farw pan nad oedd ond dwy flwydd oed, a mawr oedd gofal ei thad am dani, ac er nad oedd eto ond prin ddeunaw oed, byddai ei thad yn wastad yn ei galw pan fyddai ganddo ryw achos neilltuol dan ei sylw, a chan mor brydferth ydoedd hi, nes swyno yr holl wlad, a swyn prydferthwch ei chymeriad os yn bosibl yn fwy na hynny. Chwareuai'r delyn yng nghyngherddau'r Pentref, a hyfrydwch y trigolion oedd ei phresenoldeb yn eu gwyliau Eisteddfodol; hefyd yr oedd yn un o'r boneddigesau ieuanc hynny roddai y lle blaenaf yn ei siarad i iaith y wlad, a hoff bleser ei bywyd fyddai gwrando ar Alawon Cymru, a dywedid y byddai yn gwneud cais arbennig ar bob canwr neilltuol ddeuai i'r Llan, i ganu "Bwthyn bach melyn fy Nhad." Yn ddiau, yr oedd bythynod bach Cymru yn agos at galon Eurwen, a phrin y buasai yn goddef i ddim—hyd y gallai hi—wneud y bythynod a garai mor fawr yn annedwydd.

"Nhad," ebai, a gwrandawai Elis yn astud. "Be sy' ar y dynion eisiau?"

"Cer a galw ar Stork ar y teliffon," ebai ei thad. Aeth Eurwen yn ol archiad ei thad a daeth Syr Alwyn yn ol i'r ystafell at y dynion.

"Mi fynnaf wybod gan Stork be ydi'r achos o hyn," ebai, ac yna mi wrandawaf arnoch. Gymerwch chwi rywbeth i yfed neu i fwyta?"

"Diolch i chwi am eich caredigrwydd," ebai Elis. Aeth Syr Alwyn yn ol a dyna Eurwen i'w gyfarfod.

"Y mae Stork yna nhad."

"Galw am win i'r dynion, a thamaid i mi gael siarad â Stork."

Aeth Eurwen i erchi y morwynion ddod a lluniaeth, a gwisgai wynebpryd y dynion ryw wên ysgafn pan ddaeth Eurwen yn ol atynt i'r ystafell.

"Bydd croeso fel hyn," ebai Elis, a choeg yn ei lygad; "yn ein temtio i ddod yma eto yn fuan, Miss Eurwen."

"Wel, gobeithio y bydd popeth yn gydnaws a'r ychydig groeso yr ydych yn ei gael. Mae fy nhad wedi galw ar Stork. A wyddai Stork eich bod yn dod yma?" gofynnai.

"Wyr o ddim am ein neges ni yma, Miss," ebai Elis.

"Bydd hyn yn eich erbyn ganddo Elis—yn siwr, biti," ebai Eurwen.

Ar hyn, dyma un o forwynion y Castell i fewn gyda gwin a theisennau.

"Gwin y Plas ydi hwn Elis, gwin o ffrwythau coed yr ardd, ac y mae yn ddiniwed. Yfwch o hono. Byddwch gymaint a hynny barotach i'r frwydr. Y mae fy nhad yn eithaf digllawn fod y gwaith yn sefyll, ond peidiwch a'i ofni. Y mae y gair yn waeth na'r weithred ganddo yn wastad. Maddeuwch i mi am ei amddiffyn."

"Fuasai William Elis a'i gwmni ddim yma, Miss Eurwen, onibae fod y datganiad yna yn sail i'n ffydd ni wrth ddod, yn siwr i chwi, Miss Eurwen."

"Eich iechyd yfwn."

"Diolch," ebai hithau, a nwyf siriol ei llygaid yn dawnsio ar rudd can brydferthed ac yr edrychasai dyn arno erioed. Yna, aeth allan gan eu gadael i fwyta.

**** "Stork."

"Ia."

"Y mae yma ddirprwyaeth o'r gwaith, a wyddoch chi rywbeth yn ei gylch?"

"Dim—dim—"

"Beth?"

"Dim "—ebai y llais eilwaith. Tarodd Syr Alwyn ei droed yn y llawr a fflachiai tân o'i lygaid.

"Ac ni wyddech eu bod yn dod yma?" gofynnai drachefn. "Na wyddwn," ebai Stork, drwy y pellseinydd. "Yr haerllugrwydd," murmurai Syr Alwyn.

"Yr wyf yn cael y manylion gan Stamper," ebai Stork, a thystia na wnaeth ddim o'i le gyda'r plant. Y mae rhai o'r bechgyn wedi myned nas gellir gwneud dim o honynt. Yr wyf yn deall fod ganddynt ryw fath o gwynion yn erbyn Stamper, ond nis gallaf gael gafael ar ddim a sylwedd ynddo. Dywedir ei fod wedi taro un o'r bechgyn, ond tystia ef i'r gwrthwyneb. Wrth gwrs, y maent wedi bod. gyda mi yn flaenorol, ac wedi i mi wneud ymchwiliad, ni chefais ddim o'i le y pryd hynny "

Diolch," ebai Syr Alwyn, a dododd y derbynydd o'r neilltu.

Ryw blant ddi—yn mynd i lywodraethu Pwll mawr Llifon ai ie?" A safai am ennyd fel mewn petruster beth i'w wneud, a phrin na ddaeth awydd arno anwybyddu Elis a'r ddirprwyaeth, a galw ar Eurwen i'w danfon ymaith heb air mwy i gael ei ddweyd wrthynt; ond meddyliodd wedyn mai prin y byddai hyn yn degwch a Stork, ei brif swyddog yn y lofa, ac mai eu danfon ymaith gyda cherydd llym ydoedd ei ddyledswydd.

Daeth Eurwen i'r drws, a safodd i edrych ar ei thad yn ei fyfyrdod, a gallai ddarllen ar ei wynebpryd y digllonedd a gynhwysai ei fynwes. Edrychodd arno gyda gradd o ymbil, heb ddweyd dim, a phrin nad anogai ef beidio dweyd dim yn gas wrth y dynion, ond prin y meiddiai wneud hynny ac aeth ei thad allan o'r ystafell heibio heb gymaint ag edrych arni.

Aeth yn ol at y dynion. Cododd y ddirprwyaeth ar ei thraed, ar unwaith.

"Elis." ebai. "Yr wyf yn synnu atoch—cywilydd— cywilydd. Y mae Stork ar y gwaith. Stork—ac yr yde chwithe yma—cywilydd," ebai drachefn.

"Beth mae Mr. Stork yn ddweyd?" gofynnai Elis yn foesgar, ac yn hollol hunan-feddiannol.

"Does wnelo chi ddim a be ma' Stork yn ddweyd. Y mae Stork ar y gwaith, ac yr yde chwithe yma," ebai drachefn. Edrychodd y dynion ar ei gilydd ac awgrym ar wynebau y tri fel pe yn methu diruad beth amcanai Syr Alwyn wrth lefaru yn y dull yma, ond deallodd Elis ef.

"Y mae ein dyfodiad ni yma felly yn ofer, Syr Alwyn." ebai Elis.

"Yn hollol felly, Elis," ebai yntau, "a mwy na hynny —cywilydd i chwi cywilydd," ebai drachefn.

"Y mae yn wir ddrwg gennym os ydym wedi dod yma i gywilyddio ein gilydd Syr Alwyn, Maddeuwch i mi am ei osod felly ger eich bron."

"Yr wyf yn dywedyd eto fod Stork ar y gwaith Elis," a gafaelodd yn knob y drws i'w agor, yr hyn oedd arwydd pendant iddynt mai ofer fyddai siarad dim ymhellach. Gafaelodd pob un o honynt yn ei het, a rhoddasant iddo ar ddeall eu bod am fynd.

Diolchodd Elis iddo am eu derbyn, ac aethant ymaith yn dristwedd a dim i roddi gerbron y cyfarfod oedd yn aros am danynt, ond y siomedigaeth fwyaf.

PENNOD V.

YR oedd y Llan a'r Pentref unwaith eto wedi adfeddiannu ei le priodol ym mywyd y byd, can's elai cerbydres ar cerbydres o lô yn ddyddiol i gyfeiriad Lerpwl a Birmingham o siding fawr Pwll Llifon, ac ar allt fawr y Llan. byddai mulod mawr a bach Jac y ffarm a'u llwythau glô i gartrefi y wlad yn cael eu llusgo yn araf i fyny, a sŵn. pastwn Jac ar y mulod mor aml ac y gallai Jac ddefnyddio ei fraich i'w ffonio; yn ddiau, llenwid awyr y wlad â ryw hyfrydwch oedd yn ymylu ar fod yn gynghanedd pan fyddai y gwaith mawr a'i dwrw peiriannol di-aros yn ernest. o ynni a gweithgarwch y cannoedd hynny a ddisgynnai i'w goluddion poeth ond dylwn ddweyd mai nid yn y modd y meddyliodd William Elis a'i ddirprwyaeth yr aeth y plant yn ôl i'w gwaith, gan nad pa mor ddymunol fuasai llwyddiant yr ymdrech yn y ffordd honno, ond yn hytrach trwy fygythiad llym ac yn wir roddi gwys cyfraith ar fwy nag un o'r bechgyn er i'r rhai hyn gael eu galw yn ôl cyn rhoddi prawf arnynt, ond y canlyniad naturiol o hyn oedd i'r swyddogaeth yr hon oedd yn anymunol eisoes—fawrhau yn ei hymchwydd tuag at y bechgyn.

Yr oedd Bob bachgen Ann, fel ei gelwid yn nhai y Wal, yn un o'r anffodusion hynny oedd yn gorfod dal a dioddef gorthrwm anodd ei ddwyn, yr hen Stampar, a daeth yntau adref ryw ddydd yn dristwedd, a phrin y gallai siarad â'i. fam, pan gyrhaeddodd y tŷ, ac fel y dylid crybwyll yr oedd mewn grym y blwyddau hynny yn y pyllau glô drefn—ac y mae eto o ran hynny—drefn o osod y plant yn ddosbarthiadau o dan ofal un a enwid wrth yr enw Doggie neu Dogman, a byddai yr hawl y pryd hynny o osod cyflog y plant ar law y cyfryw berson neu swyddog, a byddai gostwng a chodi yn ol fel y mynnai ef. Dyna achos fwy nag un atalfa ym Mhwll Llifon o dan yr hen Stampar. can's os na fyddai y "dygiad allan" output yn foddhaol iddo, hynny yw i gynyrchu y budd, penodol iddo ef fel Doggie, byddai yr hen Stampar yn gwneud hyn trwy ostwng cyflog y plant, ceiniog oddi ar un, dwy, tair, oddi ar eraill ac felly ymlaen, a chythruddai hyn y plant yn aml.

"Be mater Bob?" ebai ei fam.

"Y Stampar aflwydd ne tair ceiniog o ddrop i mi mam, a 'drychwch ar y nillad i,"

Edrychodd ei fam arno yn syn, heb ddweyd gair am ychydig amser.

"Ydi o yn dechre arna tithe eto. Tair ceiniog y dydd o ddrop, rhag cywilydd iddo fo, ond hidia mono fo Bob bach, be' wyt ti am neud? Tyna'r dillad ne yn gynta,' ond ma' dy fwyd di yn barod; ond tyn dy ddillad Bob bach," ebai drachefn.

Eisteddodd Bob i lawr a gwnaeth fel y dymunai ei fam, tan wrandaw arni yn llefaru. "A gad y gwaith o dy feddwl Bob. Gad o," ebai drachefn yn ei ffwndwr bryderus, canys yr oedd meddwl gwynebu ar ddeunaw ceiniog o ostyngiad yng nghyflog bach Bob, y fath bwys i'w meddwl fel y carai os gallai anwybyddu y gwaith a phob peth o berthynas iddo ar unwaith. "Ia, gad o Bob bach," ebai wedyn.

"Be chi yn feddwl mam?" gofynnai y bachgen, fel tase ryw adwy wedi agor i fyd newydd heb yn wybod iddo;

ac yn wir, yr oedd yn ddi-hoeniad gwastadol i Ann Jones fod Bob, ei hunig fachgen yn gorfod disgyn i'r Pwll mawr lle lladdwyd ei dad.

"Wyddo chi be' oeddwn i yn feddwl heddyw bore mam?" ebai y bachgen.

"Na wn i Bob bach," ebai hithau.

"Meddwl mynd i Lerpwl ar ol Derwyn 'roeddwn i mam." Taw Bob bach," ebai gyda sydynrwydd y fellten.

"Oeddwn wir mam, a mi fyddwch yn gwybod yn lle bydda i mam, tae ni yn cymryd ffit i fynd ryw ddiwrnod —a fydd raid i chwi ddim 'morol am dana i."

"Mi ddaw pethe yn well Bob—a chaiff y llyman gan Stampar ne ddim byw am byth mwy na chafodd Pharo greulon. Bum yn siarad efo Mr. Humphreys, tad Derwyn heddyw bore. Ma' nhw wedi ca'l pedwar o lythyre ganddo fo un ddoe bore, ne heddyw bore dwed, dwi ddim yn siwr —ia heddyw bore"

"Be' oedd o yn ddeud?"

"Deud, ella nhw ga'l hiw na miw yn lle ma' fo ono. Ma' fo yn gyru llythyre campus, ond dim 'dress ac 'run o honyn nhw. Ofn i dad i nol o ddyliwn, a ma fo ono rwan ers tro, ond ma'i le fo efo Rasp yn 'gored iddo fo tae o am flwyddyn i ffwr' medde'i dad o."

Ag ydi o ddim yn nhŷ 'i fodryb Selina?"

Nag ydi, ydi o ddim wedi bod yn agos yn nhŷ 'i fodryb, a ma' nhw 'n dechre mynd reit gas yn 'i gylch o."

"A ma' fo yn gyrru llythyre."?

Ydi."

'Rhyfedd ynte mam, ond rhaid ma' ofn i'w dad ddwad i'w nol o mae o."

"Un garw ydi Derwyn; ond ydw ine yn dechre trwblo dipyn am dana fo Bob bach. Ma'r ddinas wedi dryllio bechgyn mor glyfar a Derwyn cyn hyn, er ond tyrd, byta, a phaid a sôn ond wyddos ti be ma' Elin Parri, ei fodryb o yn feddwl. Ma' hi yn mynnu deud ma' gneud i ffor' am y Mericia ma' fo. 'Roedd hi di ca'l hanes gan rwun fod o yn ca'l llythyre oddi wrth bachgen y ffarm—Wills ydi enw fo ynte, hwnnw ath i ffwr' ddwy flynedd yn ol. Ond, dyma Gruffydd Huws yn dwad. Dowch i mewn Gruffydd."

Safai Gruffydd Huws yn y drws gyda pwt o getyn ysmygddu yn ei safn, gan edrych ar Bob yn plannu ei fforcian i'r cinio poeth pa un oedd ei fam newydd dynnu o'r pobty.

"Dewch yn ych blaen Gruffydd," ebe Bob drachefn, a'r pryd hyn daeth yr hen Gruffydd, fel ei arfer, i'r gongl yn ymyl y tân.

"Ia, 'steddwch ene Gruffydd," ebe Ann Jones. "Sut ma' Betsan Huws heddyw?"

"Fel arfer, yn iach graenus a chariadus, Ann Jones. Fel yr oeddym yn y dechreuad yr ydym yr awrhon, ac a fyddwn hyd y terfyn mi obeithiaf. Dene ti Bob," ebai a tarawodd ei law ar lin Bob. Ie, dene ti ddarn o lyfr gweddi a mawl a bywyd yr hen Gruffydd. Sut ma' hi yn dwad yn mlaen yn y Pwll acw rwan Bob? Biti na fase 'rhen Farchog wedi gwrando ar William Elis yn y Plas—ddim gwell mi ddalia —yr hen gelfi o swyddogion sgyna fo—ond Saeson, ydw nhw Ann Jones—a be' ddisgwyliwch chi?"

Dwed wrth Gruffydd Huws be ges di heddyw—wn i ddim be' ydw i yn mynd i neud Gruffydd Huws."

"Be ma' fo wedi neud efo ti Bob bach?" gofynnai Gruffydd.

"Drop o dair ceiniog yn dydd Gruffydd," ebai Bob.

"Taw."

"Yn wir i chi."

"Pam na fase ti yn rhoi drop iddo fo, a'i luchio fo i'r hen ffynnon acw, wyt ti'n gweithio 'run fan—ar hyd traws y ffynon."

"Ydw, a fase niawn efo fo, Gruffydd," ebe Bob.

"Be yde chi'n ddeud sy' 'isio'i neud efo fo, Gruffydd Huws?" gofynnai mam Bob, gan ddal y gyllell wrth ben y dorth oedd ar y bwrdd.

"Wel, ddeuda i chi be' gafodd i neud i Sam Groundar e's talwm yn mhwll Mali, a Sais oedd hwnnw, a d'oeddwn i ddim ond hogyn. Wn i ddim oeddwn i can hyned a Bob 'ma, digon o waith Ann Jones. De chi ddim yn cofio 'rhen Sam Groundar Ann Jones?"

Nag ydw wir Gruffydd."

"Nag ydych mae'n debyg. Beth bynnag, un tebig i'r hen Stampar ma oedd hwnnw—brwnt, anghynnes, rheglyd, —glamp o ddyn yn 'i amser fel 'nifel, a 'roedd pawb 'i ofn o, ond Hari Jiams. Weles i Harri yn rhoi cweir iddo fo o flaen y 'Bull' ne nes oedd o yn mygu. Ond dynnodd y gweir ono mo'r cythrel o hono fo chwaith, fel 'roedd gwaetha'r modd. Ond beth bynnag i ti Bob, 'roedd ne sgil wedi bod ar droed gan dri ne bedwar o'r coliars dwi ddim yn cofio yn iawn pwy oedd y cwbl, ond 'roedd brawd i fam Twm Twth yn un o honyn' nhw. Jo nipar' dene un arall. Wyt ti'n nabod Twm Twth? Ma' fo'n byw wrth y Wern."

'Ydw, ydw, Gruffydd—ewch yn mlaen. Ma' mam yn 'i nabod o hefyd."

"Ydw Gruffydd Huws," ebai mam Bob.

"Beth bynnag i ti, roedd pawb yn gweithio efo tân noeth ym Mhwll Mali, a phob pwll o ran hynny 'radeg honno, cyn i'r lampie 'ma ga'l 'i difeisio, fel ma' nhw rwan ac 'roedd yr hen Groundar yn 'i gaban yn chwyrnu yn braf, a mi fydde cynted iddo fo ddwad i'r caban yn rhoi cloben o jecied ffustion am dano, a be ddaru nhw ond iwdio'i ddillad o efo oil, digon o hono fo yn y caban, a mi fydde 'rhen Groundar yn aros am nepyn ar ol i ni fynd; ond wyddwn i ddim be oedd gyna nhw ar droed—'i gweld nhw yn mwdio'i ddillad a'i adel o ono i gysgu; ond diais i ti, mi ges weled, a dyma amser cinio yn dwad, a llond y caban o hono ni, pen ddaeth yr hen Groundar i ga'l 'i ginio un o'r gloch. A 'roedd Jo Nipar yn 'iste reit yn ymyl y box lle 'roedd yr hen Groundar yn 'iste, ac yn y man dyma fo'i mewn i ti, tan fygwtha, a rhuo, a rhegi, a mi welwn Jo yn rhoi winc ar un arall, ond bychan wyddwn i be oedd i gymeryd lle, Bob."

"Ydi hi ddim yn amser i chi fynd at y'ch gwaith?" meddai fo a chloben o reg.

Does ne run pum munud e's pan yde ni di dwad i mewn" ebe Jo, "a ma' ci yn ca'l amser i fyta."

"Chwthia fo i lawr, a cer at dy waith y d—— ddiog," ebai drachefn.

"Ddigon o le iddo fo fynd i lawr heb 'i chwthied o Groundar," ebai Jo, a rhoddodd winc arall, a dyma fo yn cydied yn 'i lamp i'w snwffien hi, a phan oedd Jo yn gwneud hynny, rhaid fod un o honyn nhw wedi rhoi darn o bapur a thân arno fo reit yn ymyl yr hen Groundar, a dene fo yn dechre ffaglu i ti, mewn munud yn fflam Bob, a dene ddechreu gwaeddi fel mochyn yn ca'l 'i ladd.

"Helpwch fi, helpwch fi, helpwch fi," daliai i waeddi.

"Cewch losgi yn golsyn Groundar," ebe Jo, a mymai ddal pawb oddi wrtho—" yn golsyn Groundar, 'de chi yn rhy frwnt i fyw."

Helpwch fi, helpwch fi,"—a dene fel 'roedd 'o yn rhedeg o gwmpas yn goelcerth, a Jo yn dal arno fo. 'Roedd gyna fo ddillad fel bwr' am dano, ffustion, hen ffasiwn. Wel i ti anghofia i byth yr olwg oedd arno, a phan 'roedd hi yn y pen mi ddaru Jo a'r lleill fygu'r tân mewn munud, ond mi gafodd i giwrio Bob, 'run fath a chiwrio norob o facyn, a fu 'rhen Groundar ddim yr un ar ol y tro hwnnw. Ond, wrth gwrs, elli di ddim chware pethe fel ene yn Mhwll Llifon."

"Chlwes i 'rioed y stori ene o'r blaen," ebai Bob. "Un dda ydi hi Gruffydd."

"Oedd 'ne fwy o bethe fel ene yn ca'l i gneud e's talwm, Gruffydd Huws?" ebai ei fam drachefn.

"Dene chi dro arall Ann Jones, ond mi ath a bywyd hwnnw, ne dene be oedd yn ca'l y bai 'chos fu o byw ddim llawer o amser ar ol hynny, a Sais oedd hwnnw."

"Yn lle oedd hynny Gruffydd?" ebai Bob.

"Yn yr hen Bwll Isa. Dwi ddim yn cofio'r peth Bob, ond clwed y nhad yn deud yr hanes, fwy nag unwaith, a ma' fo yn hanes rhyfedd Bob."

Tynnodd Bob ei gadair yn nes at y tân gan ddal ei olwg ar yr hen Gruffydd, gyda'i farf frith lwyd-ddu, a thaniodd Gruffydd ei bibell drachefn, cyn dechreu adrodd y stori hon, a tynnai ei anadl ato yn drwm.

Ia," ebe Gruffydd, "dwi wedi chwerthin lond y mol lawer tro wrth feddwl am dani, er iddi fod wedi mynd a bywyd y dyn, a 'sdwi'n cofio yn iawn rwbeth Scratcher oedd 'i enw fo,—a bu i Gruffydd aros ychydig eiliadau i geisio cael allan yn gywir enw y person.

"Ia, dwi'n meddwl yn siwr weld di ma' Scratcher oedd 'i enw fo."

"Wel, hidiwch befo'i enw fo Gruffydd," ebai Bob. "Rhaid bod nhw'n perthyn i'r Scratchers 'ne sy'n byw yn y dre. Dwi'n gwybod fod 'ne Scratchers yn byw yn y dre" ychwanegai Bob, "a de chi'n 'i nabod nhw mam?" ebai gan droi at ei fam drachefn.

Roedd gyna fo drol botie, a mi fydde'n dwad i'r pentre 'ma e's talwm i werthu potie," ychwanegai ei fam drachefn. "Run rhai yde nhw yn siwr i chi Ann Jones, ond beth bynnag i chi oedd hwn yn rhw fath o Giaffar yn Mhwll Isa, a fydde wastad yn galw y dynion yn "Bl——monkeys."

Tynnodd hyn chwarddiad uchel gan fam Bob, ac aeth Bob i edrych yn ddyfaiach ar wyneb Gruffydd, gan ryfeddu rywfodd sut na fuasai wedi clywed rywbeth am y stori ryfedd hon.

"Ia Bob, os bydde rywbeth o'i le gyn yr hen Scratcher, dene'r enw y galwe fo'r dynion, ond un diwrnod mi welodd yr hen Scratcher y mwnci i ti. Do, Bob."

"I weld o?"

"Ia, mi gwelodd o, a ddeuda i ti sut y gwelodd o fo. Fel 'roedd nhad yn deud, ddyliwn i fod 'ne dalcen glô wedi bod li yn y fan 'no, a mi fydde 'rhen Scratcher yn gorfod mynd i edrych i sefyllfa'r dwr yn y talcen yn go amal i ti, a neb yn gweithio yn agos i'r lle. Beth bynnag i ti, ran ath o ono u diwrnod den: be' oedd yn 'iste o'i flaen o yn myl y talcen ond glamp o hen fwnci mawr hyll."

Be, ar lawr Pwll Isa?" gofynnai Bob yn synedig. "Mewn talcen glô ar lawr Pwll Isa, Bob,—glamp o fwnci, a mi redodd yr hen Scratcher oddno tan waeddi. Wel, mi ga'th ffasiwn fraw fel y 'ffeithiodd o ar 'i iechyd o a mi fu farw yn lled fuan."

"Wel, dene'r stori ore' eto Gruffydd, a chlwes i 'rioed am dani," ebai.

"Wel, ma' ne dros drigien mlynedd er hynny i ti, os nad chwaneg. Oes, bedwar igien dwi'n siwr."

"Ma' hi yn anodd coelio stori fel ene Gruffydd," ebai Bob drachefn.

"Ma' hi can wired a bod Pwll Llifon yn bwll i ti Bob, a 'roedd y nhad yn deud ma' rw ddyn ddoth a'r mynci 'ma o Lerpwl. a mi aethon a fo i lawr heb i neb wbod, a'ir mo fo yn y talcen glô felly. Beth bynnag, alwyd neb yn Bl—— Monkey yn Mhwll Isa ar ol hynny."

"Naddo, choeliai fawr," ebe Bob.

"Ellwn i adrodd lawer stori debig i nene i ti Bob, rwsut mi fydde'n ne fwy o bethe fel ene yn ca'l i gneud e's talwm, a mi fydden yn ateb y pwrpas Ann Jones. Do, mi setlodd y mwnci y mater yn Pwll Isa."

"Do, mi wranta," ebe Ann Jones. 'De chi yn codi Gruffydd Huws?"

"Ma' Betsan acw yn hwylio at neud 'paned, ond dwi'n fecsio am dana ti Bob—ond hidia mono fo, mi weli'i well o rywddydd. 'Rhen gerpyn.

Aeth Gruffydd ymaith, a dipyn o ŵg ar ei wyneb garw, a byddai achos y Pwll yn achos agos at galon yr hen Gruffydd Huws.

PENNOD VI.

YR oedd blwyddyn neu ragor wedi myned heibio er's pan aethai Derwyn ymaith, ac yn naturiol yn

ystod yr amser yna, yr oedd pob math o amheuon wedi cael lle yn mynwes ei rieni, ac yn ngrym yr amheuon hynny elai nifer fawr o lythyrau i'r Ddinas boblog i ymholi am dano, ond yr hyn a'u dyrysai fwyaf oedd y llythyrau achlysurol a ddanfonasai Derwyn adref o Lerpwl, i geisio calonogi ei rieni yn ei absenoldeb, hyd nes yr aethant o'r diwedd i amheu ei lawysgrif, ac yn y llythyr diweddaf a chawsant tybiai Nel, ei chwaer, fod yna le cryf i ameu hynny; ond o ba le o'r ddinas nid oeddynt fymryn agosach i wybod

"Ai fo ydi o tybed?" ebai Nel, Daliai i syllu ar y llawysgrif. "Ydi'r llinell yma ddim yn hollol fel yr ysgrifennai, mam,—na'r llythyr drwyddo o ran hynny. Gwelwch, ond aroswch am funud." Estynodd allan yr holl lythyrau, yna dygodd ei wers-lyfrau, a threuliodd gryn amser i geisio'u cysoni.

"Ydi wir, Miss Nel," ebai Gwen, yr hon a alwyd ati i'w chynorthwyo.

"Mi ddaliai i nag ydi o ddim," ebe Nel, "er fod yna debygrwydd neilltuol.

"Ewch a gofynwch ddaw Mr. Lewis yma am funud. Mae o gartre."

Aeth Gwen i gyrchu Mr. Lewis, Gweinidog Bethel,—yr eglwys ym mha un yr ymaelodai'r teulu.

"Fase' niawn ca'l barn Mr. Lewis, mam. Be chi'n ddeud?" 'Wel, rwyt ti wedi gyru am dano fo Nel, a 'does dim harm yn hynny, tase tada yma."


"Wel, ma' nhad hefyd wedi mynd rywfodd i ameu i lawysgrif o mam. Glywsoch o yn deud hynny neithiwr?"

"Dyma chi." Yna daliodd ef i wyneb ei mam, un o'i ysgrifau ysgol, ac yn y llaw arall gyferbyn y llythyr diweddaf a dderbyniwyd oddi wrtho.

"Waeth i ti heb'i ddangos o i mi Nel—fyna i ddim—"

"Wel, mi geiff Mr. Lewis farnu ynte mam. Mae o mewn gwell safle na ni i 'neud hynny."

"Ma' gen i ofn 'i weld o yn dwad i mewn Nel, a tase rwbeth yn deud wrtha 'i fod o wedi mynd dros y dŵr ne, mi dorwn y'nghalon yn y fan. Ma'r môr mawr ne wedi tori y cysylltiad olaf â miloedd o deuluoedd yn y wlad 'ma. 'Does dim sy wedi llyncu gobeithion rhieni hoff yn fwy na'r môr ne, Nel bach," ebai drachefn, a thorodd i wylo yn hidl. "Peidiwch a chrio mam, wrach ma' fi' sy'n wrong, ond be' newch chi ond dyfalu. Dyma Mr. Lewis. Dowch i mewn Mr. Lewis."

Daeth Mr. Lewis, ac ysgydwodd law a'r fam ofidus —

"Derwyn Mrs. Humphreys, yw'r achos,"—

"Ia, ia," ebai hithau, gyda llais toddedig. "Derwyn hoff, fy mhlentyn, gadel 'i fam—wel—"

"Wel, peidiwch ac ymollwng er mor anodd yw peidio. Mae pob un sydd yn adnabod Derwyn yn dal i goleddu y syniadau goreu am dano, pob un Mrs. Humphreys, yn wir onest i chwi. Dwi i ddim wedi cwrdd un person sy'n anobeithiol o Derwyn. Naddo un, ac 'rwy'n siwr mae ei fam ddylai fod y person olaf o bawb i roddi i mewn i amheuon annheg am y bachgen.

"Dwi'n meddwl dim drwg Mr. Lewis," ebai y fam. "Dim, dim, nag ydwyf ond gadael ei fam, a dyna sy'n rhyfedd Mr. Lewis, danfon llythyre o Lerpwl na fedrwn i yn ein byw ga'l allan o le ma' nhw'n dwad, ryde ni wedi danfon a danfon at 'i fodryb o, a ma' honno wedi gneud pob ymchwiliad posibl, ond 'does neb wedi'i weld o. —

Dw ine wedi danfon at Mr. Parri, gweinidog —— Rd., yn 'i gylch, ebai Mr. Harris, a rhoddais y deffiniad goreu posibl o hono pan oeddwn i yno'r Nadolig yn cynnal y cwrdd mawr, a rhedais fy llygaid ar y gynulleidfa fawr, a cheisio gweld 'i wyneb o—ac mae Mr Parri yn un o'r rhai mwyaf difrif gyda gorchwyl o'r fath, a gadewch i ni fod yn hyderus, ac fel dwi wedi deud mi ddof eto gyda Mr. Humphreys unrhyw ddydd i edrych beth allwn ni neud—yna trodd Mr. Lewis ei lygad at Nel.

"Ai dyma'r llythyr diweddaf Miss Humphreys?"

"Ia, Mr. Lewis, chi a mam a mi, fyn Nel feddwl mai nid llawysgrif Derwyn mohoni ond—"

"Gadewch chi lonydd i Mr. Lewis, mam."

Edrychodd Mr. Lewis ar y fam can's ni wyddai beth olygai i Nel atal ei mam.

"Rwan Mr. Lewis, dyma chi y llythyr diweddaf." Gafaelodd Mr. Lewis yn y llythyr. "Beth yw hwna?" gofynnai am y gwerslyfr pa un a ddaliai Nel yn ei llaw.

"Dyma ei lyfrau ysgol Mr. Lewis, a dwi'n meddwl fod ene gryn dipyn o wahaniaeth."

Ac yr ydych eisieu fy marn i arnynt?"

"Yr ydym eisio i chi gweld nhw, Mr. Lewis—a cewch roddi eich barn."

"Wyddoch chi mod i yn dipyn o expert ar y gwaith yma, Miss Humphreys? Hefyd, bum yn byw pan yn Llundain, yn yr un gymdogaeth ag un o'r experts mwyaf ar lawysgrifau, ac yn wir cefais gryn dipyn o gwmni Mr. Telar, ac yr oedd amryw achosion dyfal yn dod i'w ran i roddi tystiolaeth arnynt. A dyma lythyr diweddaf Derwyn?"

"Ie, dyma'r dyddiad,—ddoe, y pumed ar hugain, a dyma un o'i werslyfrau," ebai drachefn.

"Ia dyna ei Gompo fo Mr. Lewis."

"Ia, rwy'n gweled," ac edrychodd Mr. Lewis yn fanwl arno, am ychydig amser, a throi ei ddalennau ôl a blaen, yna, syllodd yn fanwl ar y llythyr, yn y man dywedai,—"Dim petruster o gwbl, Miss Humphreys."

Cododd mam Derwyn ei golwg tuag ato, gyda ryw ddwyswên ar ei gwynepryd, "Nag oes Mr. Lewis," ebai.

"Dim o gwbl, Mrs. Humphreys. Gwelwch yma Miss Humphreys. Y mae ei a, w, s, ac f, yn unffurf drwy y ddwy fel ei gilydd, ac yn wir, yr holl lythrennau, dim amheuaeth o gwbl. Wrth gwrs, y mae llawysgrif y llythyr fel pe wedi ei ysgrifennu o dan ryw ansawdd feddyliol wahanol i'r gwersi, ryw ffurf o osgo sigledig neu amhenderfynol yn nodweddu gosodiad y brawddegau. Dyna'r cwbl Mrs. Humphreys, ac rwy bron yn sicr y tystiai yr expert mwyaf mai'r un llaw sydd wedi ysgrifennu y naill fel y llall. Oes, ne ryw gysur i chwi yn hynny Mrs. Humphreys? Ond be ydw i yn gofyn?"

"Dyna yr ofn oedd arnom Mr. Lewis, ei fod wedi rhoddi rhyw un ar waith i ysgrifennu y llythyrau hyn drosto i'n twyllo, ac fod yntau erbyn hyn ar y cefnfor, os nad bellach wedi glanio yn yr America, neu rywle arall."

"Ie, yn ddiau, yr oedd ryw reswm dros ofni hyn, Miss,ac efallai—ond—"

Edrychodd Nel a'i mam arno gyda'r dyfalwch mwyaf.

"Beth, Mr. Lewis?" ebai Nel.

Edrychodd y gweinidog arni am ennyd. "Wel," ebai, oedd ne rywbeth a wyddoch am dano yn gymhelliad i'w dynnu i'r America?"

Pam yr ydych yn gofyn hynny Mr. Lewis?" gofynnai Nel.

"Gadewch i mi weld y llythyrau eraill. Y mae wedi danfon tua pedwar o honynt onid yw?"

Estynodd Nel iddo y llythyrau oll a ddanfonasai Derwyn gartref, a chymrodd y gweinidog bwyll i'w darllen yn ofalus.

"Y mae yna ddyddiad ar bob un o honynt, rwy'n gweld."

"Ydi mae pob un wedi ei ddyddio Mr. Lewis. Be sydd yn hynny?"

"Mae hynny yn rywbeth yn erbyn y dybiaeth oedd yn cynnyg i fy meddwl, Miss Humphreys, ac eto—gall hynny fod yn ddim. Derwyn yn fachgen craff iawn."

Ni ddywedai y fam ddim, ac edrychai Nel arno gyda ryw ofn ddisgwyliad yn crychu ei haeliau prydferth. Canys yr oedd yn amlwg ar wynepryd y gweinidog, ei fod yn ofni ryw gyfrwystra ryfedd o du Derwyn, trwy iddo ofalu fod i'r cartref gael ei dwyll-hysbysu yn rheolaidd gyda'r llythyrau.

"Efallai," ebai Mr. Lewis. "Ond cofiwch nad yw ond tybiaeth noeth yn fy meddwl, sef ei fod wedi ysgrifennu nifer o lythyrau gyda'i gilydd, ac yna wedi eu trosglwyddo i ofal un i'w danfon yn rheolaidd—dyna—"

"Ac fod yntau wedi mynd o Lerpwl, Mr. Lewis?"

"Wel, tybiaeth yw cofiwch. Tybiaeth noeth. unffurf y llythyrau yn awgrymu rywbeth felly i fy meddwl ond gobeithio fy mod yn anghywir." Yna, trodd at y fam, "Ond dyna sydd yn fendigedig Mrs. Humphreys, y mae ei gymeriad yn loyw, ac yn lân. Dim duwch o'r cyfeiriad yna, ac y mae Derwyn mi gredaf, yn gweithio allan ryw gynllun yn ei feddwl, ac ond odid na chawn ni ym mhentref Llifon ryw ddydd, achos i lawenychu o'i blegid. Cymerwch fy ngair, y mae rywbeth yn glynnu yn fy meddwl i'r cyfeiriad yna, Mrs. Humphreys, ond os oes rywbeth a allaf fi ei wneud i'ch helpu, yr wyf at eich galwad unrhyw amser."

Ysgydwodd y Gweinidog law â'r teulu ac aeth ymaith Yr oedd ei dŷ y cartref nesaf ond un i'r 'Bryn,' cartref Derwyn.

"Fase'n well gen i tase ti heb ddanfon am Mr. Lewis, base wir Nel. O! leia' ma' fo wedi gnend i mi feddwl fod Derwyn ym mhell—bell—o ydi Nel."

"Wel, mam dwi ine yn becsio," ebai Nel, "a fase well gen ine beidio 'i glywed o yn trin y mater yn y ffor' ddaru o, ond yde chi'n gwybod am Mr. Lewis, ydi o yn meddwl dim drwg—dim drwg mam, ac wrach fod o yn cyfeiliorni drwy'r cwbl. Peidiwch a sôn be ddeudodd o wrth fy nhad."

"Ddim am y byd, Nel"

PENNOD VII.

YR oedd Mam Bob wedi cerdded liaws o weithiau y dydd hwn i waelod y buarth i edrych a welai hi Bob yn dod. Wrth gwrs, byddai bob dydd o ran hynny wedi i'r cloc daro pedwar yn cymeryd tro i lawr y buarth i wylio Bob yn dod adref o'i waith. Dynes fechan, lân, bert ydoedd mam Bob—ei gwallt yn ddu fel y frân a'r wyneb can dlysed ag y bu erioed, can's nid oedd eto ond ychydig flwyddau dros ei deugain oed, a phymtheg o'r rhai hynny a dreuliodd yn weddw, gyda'i holl fryd a'i phryder ar ei hunig fachgen. Ie, a munud y tarawai y cloc bedwar byddai i lawr i'w wylio, ond heddyw yr oedd rywbeth mwy na'r cyffredin yn ei gofal am Bob, ond yn y man dacw Bob yn dod a sŵn ei glocsiau caled yn adsain yn yr awyr glir, a'r gerddoriaeth felusaf i fam Bob oedd clywed swn ei droed yn dod adref o'r hen Bwll peryglus. Arhosodd hyd nes y daeth i'w hymyl o'r bron, yna cerddai yn araf o'i flaen i'r tŷ.

"Yr wyt ti wedi dwad Bob," ebai, "hwde " dyma lythyr iti." Estynodd ef iddo oddiar fan neilltuol, ar yr hen settle.

O Lerpwl mam—Derwyn mi fetia"—ebai drachefn, ac agorodd ef ar unwaith.

"Ia, mam, Derwyn—Wel, wel.—"

"Wel, dyna'r bachgen ryfeddaf a fagodd Llifon erioed," ebai'r fam. "Oes na 'dress arno fo Bob? gofynnai wedyn. "Ydi o 'isio ti 'swennu?" ychwanegai, ond yr oedd Bob wrthi yn ddyfal yn ei ddarllen.

"Mam!" ebe Bob yn y man, a braw yn ei lais. "Be Bob bach?" ebai hithau tan welwi.

"Ma' fo mynd i'r 'Mericia, ond ma' fo'n begio arna i beidio deud wrth neb. Cofiwch chi rwan."

"Wel Bob," ebai hithau, "fase'n well gen i ti beidio deud nene witha i. Base Bob, a sut y gallai gadw peth fel ene oddiar fam y bachgen?"

"Wrth beidio'i ddeud o mam, dene'r ffor,' a pheth arall fyddwch chi ddim amgenach ar ol i ddeud o—a faddeua Derwyn byth i chi am 'i ddeud o mam."

"Ydi o yn deud rwbeth arall Bob?"

"Ddim ond yn cofio ato chi mam—O ia, ac os ceiff o lwc yn y Mericia fod o yn mynd i dynnu'r wal 'ma i lawr, ac yn mynd i alw'r tai 'ma—fildio tai newydd 'ma fo'n feddwl"

"Ia dwed" ebe'r fam.

"Ia, a mynd i alw'r tai newydd yn dai'r Parc."

"Fydd dy fam yn nhŷ'r bedd pryd hynny, Bob bach, a drws o bridd ar 'i gwyneb hi, ond tyn dy ddillad machgen i, a chadw'r llythyr yn saff."

"Cofiwch chithe," ebe Bob, "beidio deyd—"

"Wel, ma' nhw wedi bod yn gofyn i mi lawer diwrnod a oeddet ti wedi ca'l llythyr, ond ma' nhw drien yn dechreu blino gofyn rwan."

"Peidiwch a sôn am y llythyr, dene'r cwbl."

"Dwi wedi crasu dy fara di heddyw i roi yn y llaeth tria'i fyta fo Bob. 'Roedd y bara dipyn yn fresh. Soniodd James rwbeth am y dyn 'ne wrtha ti heddyw?"

"Do, a mi ddaru mi ddeud y trie chi neud lle iddo fo. Ma' fo yn ddyn neis medde fo, a fase fo'n ca'l aros ono, oni bae fod Cathrin a'i gŵr yn dwad adre i aros, ma' fo'n ca'l gwaith iddo fo acw, a ma' nhw yn 'i ddisgwyl o heddyw ne fory."

"Pwy sy ca'l gwaith?"

"Gŵr Cathrin—geneth James."

"Ydi o ddim yn dwad i Bwll Llifon i weithio?"

"Ma' ne 'i well o mam wedi gorfod dwad i Bwll Llifon, Ma' ne chap acw yn gweithio yn fy ymyl i, oedd o nesa i'r foreman yn un o siope mwya' Manchester, a chap smart ydi o hefyd mam."

"Wel own i'n meddwl mynd i gysgu i'r llofft fechan ne' Bob, ag iddo fynte ga'l cysgu efo ti yn y llofft fawr, ac OS bydd o yn fodlon cymryd i fyny felly, mi cymrwn o Bob, a mi gaiff fyw ar 'i fwyd 'i hun, Bob."

"Ar 'i fwyd 'i hun ma' pawb yn byw mam," ebe Bob. "Wyt ti'n dallt. Geiff brynu'i fwyd 'i hun run fath a ma' Samuel Jones yn neud yn tŷ Ann Ec. Ydi o yn dwad yma heno?"

"Ydi," meddai rhen James, ac mi ddeudodd wrtha i am i chi drio neud lle, fel oedde chi di addo—mi fydd yma. heno."

"Aru mi ddim addo fel ene wrth y dyn, ond bod fi di deud neuthwn i feddwl y peth. Be wyt ti'n ddeud Bob?"

"Chi sy i setlo nene, mam. Ac os bydd o rw help i chi gore oll, a ddeuda i ddim byd mam."

"Un o le ydi o Bob?"

"Ma' fo'n fachgen teidi iawn, medde James. Un o le. ddeudodd o hefyd—oho ymyl Penmachno ne' 'Stiniog ne' rwle ffor' ene."

"Nid colier ydi o felly Bob?"

"Peidiwch a moddro i mam, mi geiff 'i neud yn golier yn fuan iawn. Cheiff neb fod yn y pwll acw 'sna ellith o neud i wac, 'sna fydd gyna fo gwnffon—"

Wyt ti 'di weld o?"

"Naddo mam. Ma' fo yn gweithio yn nistrict Philffaret, ym mhen draw y gwaith."

"Wn i ddim be na'th i mi bonsio efo James am dano fo, ond y fo ofynodd i mi wyddwn i am rwun yn y wal 'ma elle gymryd lodgiwr, a mi fynodd laswn i mo'i gymryd o, a ddylies i ddim gofyn ffasiwn ddyn ydi o, a dwi'n fecsio rwan Bob."

"Wel, ydi ddim yn rhaid i chi gymryd o mam. Ellwch ddeyd mor fychan ydi'n tŷ ni, a gneud rw esgis."

"Mi gawn weld ffasiwn ddyn ydi o Bob."

Yr oedd yn amlwg fod ryw ddiddordeb neilltuol wedi meddiannu mam Bob, o barthed rhoddi llety i'r dyn dieithr, ac efallai fod atgofion y blynyddau fu yn y rhai hynny y cawsai holl gysuron priodasol pan yn ieuanc gyda thad Bob, cartref clyd a chwmni gŵr oedd megis yn gastell iddi yn erbyn holl ddrycin byd—yna'r helbulon a gawsai ar ol ei golli—neb yn gefn na mam na thad, a'r ddwy chwaer a feddai oeddynt yn nhrefydd Lloegr er's talwm a digon o rwystrau efallai iddynt eu hunain. Yn sicr, naturiol oedd i ryw swyn ddod i'w mynwes wrth feddwl pa fath fyddai y dieithryn a geisiai gartref yn ei thŷ.

"Pan welith o'r lle bychan sy' ma' wrach na fydd o ddim 'isio dwad yma mam," ebe Bob, gan symud ymaith ei lestri bwyd wedi ei ddigoni..

"Ma' ne le glan iddo fo Bob," ebai hithau, "a mi allwn 'i neud o yn gysurus." A rywfodd ni fynnai mam Bob ellwn i feddwl am ei wrthod.

'Pryd ma' fo'n dwad, Bob?"

"Mae o yn siwr o ddwad yma, cynted ag y gall o mam, ar ol dwad o'r gwaith i chi."

"Ellith ddwad pan y myno fo, ma'r tŷ yn lân. Elli dithe 'molchi Bob, dene'r ffor' ore i ti." **** Yr oedd Bob wedi ymolchi a gwisgo am dano, ac erbyn hyn yr oedd gwyll y nos yn araf ymlusgo dros y tir. Aeth Bob i'r drws i sefyll fel y byddai weithiau, wedi gwisgo am dano, a dyna ef yn ol i'r tŷ.

"Ma' ne rw ddyn wedi mynd i fyny buarth John Pont, mam."

Yr oedd John Pont yn byw yn un o'r tai cyntaf yn y Wal, a naturiol oedd i ddieithrddyn wneud ymholiad yn y ty cyntaf a gawsai.

"Raid ma' holi ma' fo," ebai yn mhellach, a chyn pen ychydig funudau dyna sŵn ei droed, yn dod i fyny y buarth. "Ia, dyma fo mam, yn siwr i chi," ebai Bob. A dyna guro ar y drws.

"Cer i'r drws Bob," ebai hithau, ac er i Bob fynd i'w agor dilynodd ef yn lled agos, ac wedi agoryd y drws dyna lais

"Yma mae Mrs. Ann Jones yn byw?"

Trodd Bob ei olwg ar ei fam.

"Ie," ebe ei fam.

"Rwyf wedi cael—

"Dowch i mewn, dowch i mewn"—ac aeth Bob i geisio cadair iddo ar unwaith.

"Dyma fo gader, mam," ebe Bob. "Steddwch," ebai wrth y dyn, ac wedi iddo eistedd ailgydiodd yn ei neges, pa un a geisiodd ei hadrodd wrth y drws.

"Ia," ebai, wedi cael fy nghyfeirio yma i ofyn a allech fy nghymryd fel lletywr."

Edrychodd Bob ar ei fam, a'i fam arno yntau.

"Gan pwy felly?" ebai hithau, "a fu mi 'rioed yn cadw lodgiwr o'r blaen, er—"

"Gan James Harris, rwyf wedi bod yno yn aros am dros wythnos, a deallaf fod y ferch a'i gŵr yn dod adre, neu ni fuasai raid i mi symud. Yr oeddwn yn eithaf hapus yn nhŷ James Harris."

Siaradai gyda llais dwfn, eglur. Pob brawddeg yn cael ei hacenu mor glir a phe buasai yn darllen y llithoedd. Yr oedd rywbeth yn hynod yn ei lais dwfn, melodaidd, a soniarus fel y peth cyntaf o'r bron a ofynodd Bob iddo ydoedd "Yde chi'n gantwr dwi'n gweld "—a daeth y geiriau hyn a gwên dros ruddiau iach gwridog.

"Buaswn yn caru bod, rwy'n hoff iawn o ganu," ebai, ond prin y gallaf ddweyd fy mod yn ganwr."

"Ma' gyna' chi lais iawn,"ebai Bob.

"Wel, mae pob Cymro yn hoffi cael y deyrnged yna, pa un bynnag a fydd ganddo lais a'i peidio," ebai y dieithryn yn ol, a thra yr oedd Bob yn siarad ag ef, yr oedd ei fam wedi cymryd golwg llawn o hono.

"James Harris yn ei roi yn ddeigien oed," meddai wrthi ei hun," nag ydi, nag ydi," siaradai wrthi ei hun, a phrin y gallai feddwl ei fod ryw lawer dros ei ddeg ar hugain oed, ac er i'w wallt du fod ac ychydig frithder ynddo, eto yr oedd ryw hoen ieuengrwydd yn ei lygaid glas tywyll, rhai a wibiai ôl a blaen dros furiau y bwthyn nes yr oedd mam Bob yn sicr yn ei meddwl na allai fod lawer dros ei ddeg-ar-hugain oed. Yr oedd iddo adael ei locsen dyfu yn lled isel, yn rhoddi ryw fath o argraff heneiddiwch cynar ar ei wedd, fel y byddai y pryd hynny ac eto hefyd, i'w weled yn awr ac eilwaith gyda phersonau yn y wlad.

"Wel, y ma' ne groeso i chi ga'l aros os yde chi'n meddwl y g'na fo'r troi chi," ebe yn y man. "Can's .roedd rywbeth yn ei olwg a barodd iddi ei hoffi ar unwaith ei lais, efallai yn rhoddi math o rym personoliaeth, hollol wahanol i lais Bob—llais bach eiddil yn tueddu at fod a chrygni ynddo yn barhaus—ond y llais cadarn—llais yn awgrymu barn, cydymdeimlad, sefydlogrwydd—llais gŵr. "Cewch," ebai ym mhellach, "ac mi wnaf fy ngoren i'ch gneud yn hapus." "Diolch i chwi yn fawr," ebai yntau, a chododd ar ei draed.

"Fyddwch chi yn dwad yma heno?" gofynnai mam Bob.

"Wel, aroswch," ebai yntau, na well i mi aros i orffen yr wythnos yn nhŷ Mrs. Harris,—ie, bydd heno yn gorffen fy wythnos yn nhŷ James Harris. Nos yfory Ann Jones." Cerddodd at y drws yn cael ei ddilyn gan Bob, ac aeth ymaith wedi rhyw led fargeinio ag Ann Jones am lety.

PENNOD VIII.

"RYW ddrws yn agor o hyd Bob bach," ebai ei fam, ar ol i'r dieithryn fynded ymaith, "ac ma' fo'n edrych yn ddyn respectable, wel di. Oedde ni ddim yn leicio holi gormod arno fo. Ydi o wedi priodi tybed?"

"Pam yde chi'n gofyn hynny ,mam,?" gofynnai Bob.

"Wel, meddwl os ydi o wedi priodi, y bydde fo 'isio tŷ i ddwad a'i deulu yma a wedyn—"

"Na, dwi'n meddwl ma' dyn single ydi o mam, ac wn i ddim am dano fo, ddim mwy na bod o yn gweithio efo Elis tarcet yn y Pen draw."

"Dwi ine'n meddwl fod James Harris wedi deud wrtha ine ma' dyn single ydi o Bob, ac os felly fydd dim peryg i mi golli o mewn munud. Mi fydd raid i mi ga'l dipyn o gurtans newydd ar ffenestr y llofft fawr ne, a tase ni medru ca'l darn o giarpet just ar y llofft Bob, wniam ddim byd arall 'sgen i 'isio ma'r llofft yn lân. Dda mod i wedi'i phapuro hi, er ddaru i mi feddwl i gadel hi, ond dwi'n falch rwan Bob, ond dwi ydi gneud yn niawn Bob?"

"Wel do, mam, mhelled a gwela i, fod dim o'i le arno fo, ond un o Fflint ydi o, ddim o 'Stiniog ffor ene. Ia, un o Fflint, medde nhw."

"Mae o yn Gymro, a mi fydd yn 'peini i ni y geua' 'ma Bob. Ma' gyna fo lais fel organ, a dwi'n siwr fod o yn gantwr hefyd, ond fod o ddim am ddeud, a dase teithe 'di dal yn mlaen efo 'monium dy dad mi faset yn medru chware iddo fo, 'chos dwi'n siwr fod o yn gantwr."

"Wrach y meder o chware a chanu mam, ond ma' hi yn igien munud." Trodd Bob ei olwg ar y cloc. Yr oedd ei fam eisoes ar ymbaratoi i fynd i'r capel.

'Well i mi fynd Bob, ac os gwelai rai o bobl y Bryn—"

"De chi ddim i ddeud mam, 'chos ma' Derwyn wedi begio, ond ma' 'ne stori yn y gwaith acw heddyw fod bachgen Plasddol wedi ca'l llythyr ganddo fo, ac fod o wedi mynd. Rhyfedd os ydi o, ac yn gyru llythyr fel yna i mi o Lerpwl."

"Ddeuda i ddim byd ynte Bob, ac o ran hynny prin y bydd yr un o honyn nhw yn y capel, oedd ne run o honyn' nhw wsnos i heno, er fase ni'n caru iddo nhw wbod fod ti di ca'l llythyr, rywfodd, ond gan 'i fod Derwyn yn dy siarsio di beidio deud fydd o fawr o help idda nhw, mi wranta, ac os ydi o wedi meddwl mynd i ffwr' 'does dim a'i rhwystra bellach—ond cadwa dân Bob, dyma fi yn rhoi dŵr yn tegell i ti. Mi ddof adre yn syth o'r capel, Bob" ebai drachefn. "Faswn ine'n dwad mam, ond dwi'n teimlo'n flin, a 'dai ddim allan o'r tŷ heno."

Wedi i'w fam fynd, eisteddodd Bob ger y tân, a chymerodd lyfr yn ei law. Yr oedd Bob yn hoff o ddarllen yn neilltuol lyfrau anturiaethus, ac fel y digwyddai fod, yr oedd ganddo un oedd Derwyn wedi ei roddi yn fenthyg iddo, yn dwyn y teitl, "O'r Bwthyn i'r Castell," ond prin yr oedd wedi darllen pennod o hono dyna gnoc ar y drws, ac aeth Bob i'w agor.

"Hello, chi sy' ne," ebe Bob.

"Dowch i mewn."

"Ydi'ch mam i mewn?" gofynnai.

"Ma' hi newydd fynd i'r capel, Miss Humphreys."

"Fu mi ddim yn y Wal ma e's talwm Bob," ebe Nel, a gwên ar ei hwyneb.

"Na, pur anaml ma' pobl fawr y Pentre yn talu ymweliad a'r Wal," ebe Bob, ac ychwanegai, "ond yde ni yn weddol hapus drwy'r cwbl—clamp o dân a'r tŷ i mi fy hun, Miss Humphreys, a llyfr difyr—a be' arall?"

"A Nel i roi look-in, ynte Bob?"

Yr oedd Bob yn dal y llyfr yn ei law, a daeth i'w feddwl ddweyd mai'r llyfr a gafodd fenthyg gan Derwyn ydoedd, ond roedd rywbeth yn atalfa arno. Daliodd ef o'r tu ol. Darllen," ebe Nel, pan welodd hi ef yn cuddio y llyfr. Dipyn bach Miss Humphreys. Rwy'n bur hoff o ddarllen, os cai'r tŷ i mi fy hunan, ond mi ga gwmni ar ol heno rwy'n disgwyl. Ma' ne ddyn yn dwad yma i lodgio ata ni."

"Dyn ifanc?"

"Na, ella'i ddim deud bod o yn ddyn ifanc," ebai Bob.

"Wrach felly bydd o yn boss yma cyn hir," ebai Nel. Ma'ch mam yn ddigon ifanc a golygus, a ma' mam wedi synnu llawer na fase'ch mam wedi priodi. Y ma' hi yn ddynes fach mor bert a glan."

"Wel, os feder hi neud boss o hono fo. ddeuda i ddim llawer Miss Humphreys," ebai Bob tan wenu.

"Yde chi wedi fy synnu'ch bod yn mynd i ga'l lodgiwr Bob, a 'beithio na chewch chi mo'ch siomi yna fo, 'chos ma' Elin Hinds hono sy'n byw yn y rhes newydd wedi ca'l 'i gneud lawer tro efo dynion yn dwad ono i lodgio a'i rhedeg hi, ond 'beithio ma' nid felly y bydd hi yma Bob."

Na, dwi'n meddwl bod hwn o siort go lew. Aros efo James Harris ma' fo, ond ma merch James a'i gŵr yn dwad adre i aros, a ma' gyna fo lais fel organ—llais rwbeth yn debyg i Derwyn, ond bod o'n gryfach. Waeth i chi 'iste, Miss Humphreys.'

Edrychodd ar y cloc. "Roedd mam yn deud y base hi adre yn syth o'r capel, a ma' hi rwan yn tynnu at wyth—igien munud —"

"O Bob, fydde mam mewn braw. Ddaru mi addo peidio bod ond ychydig funudau, a 'lase bod fi wedi rhoi y neges i chi Bob. Dene ydi hi, ma' nhad yn meddwl mynd i Lerpwl yfory. Ma' Felix Mason wedi gweled Derwyn o gwmpas y landing stage echdoe. a mi fu yn siarad efo fo, ond wydde fo ddim byd am yr hanes. Wedi dwad adre mae o am dro o Sunderland, ac 'isio galw yn Lerpwl a heddyw gwelodd y nhado, a ma' fo yn meddwl i chi fynd efo fo eto Bob—ac wedi i chi fynd ono, i chi gerdded o gwmpas, a nhad fynd i aros yn rhywle o'r golwg, ag i chi' fynd a Derwyn ata fo, os dowch chi ar i draws o, rw blan fel ene, ebe'r chwaer a'i hanadl yn cyflym.

Edrychodd Bob arni yn synedig, "Felix Mason wedi weld o?" gofynnai.

"Ia, ma' fo wedi weld o yn ddamweiniol felly, a ma nhad yn meddwl wrach y galle chithe hitio arno felly Bob, ac wedyn i'w dywys o yn anymwybodol at fy nhad. Ryw beth felly sy' 'di taro yn 'i ben o, a ma' fo yn benderfynol o fynd os ewch chi efo fo, chostith o ddim i chi Bob, a mi neiff y'ch colled gwaith chi i fyny. Be yde chi'n ddeyd Bob?"

"Wel, ma' 'ne rwbeth yn hwne," ebai Bob, a llamai i galon yn y rhagfeddwl o fyned gyda thad Derwyn ar yr ymgais o gael hyd i'r bachgen colledig, a daeth y llythyr a dderbyniodd i'w feddwl ar unwaith, gan wneud yn chwilfriw y penderfyniad a wnaethai yn gynt o gadw yn ddirgel ei gynnwys. Rywbeth alla i neud, Miss Humphreys, a dwi'n siwr y bydd mam yn falch i mi fynd efo'ch tad—a 'drychwch er 'roeddwn i wedi meddwl fel ffrynd Derwyn beidio a'i ddangos i chi."

"Be ydi o Bob bach," gofynnai Nel a'i chalon yn llamu o obaith.

"Llythyr gan Derwyn, a dwi wedi'i gadw fo yma yn saff" ac estynodd ef oddi ar risyn uwchaf y shilff dderw a addurnai y bwthyn a rhengau o blatiau gleision, ac ar y shilff uchaf pob math o lestri coffa y teulu.

"Ia, dyma fo," ebai Bob. "Maddeuwch i mi Miss Humphreys," ebai, a gwrid yn ei wyneb. "Ond cewch weld y llythyr fel mae yn begio arno i beidio a gadel i neb wbod, ac wrach y digia efo fi—a mi fydd hynny yn rywbeth go gas—"

"Na, ddigia fo ddim Bob, oherwydd mae'r achlysur yn galw am eich cynorthwy llwyraf—fy mam—y mae yn tori ei chalon am dano."

Darllenodd Nel y llythyr gyda'r syndod mwyaf, ac ebai, "Wyddoch chi be ma' Mr. Lewis, y gweinidog yn feddwl, ma' fo'n meddwl fod Derwyn wedi mynd eisoes tros y dŵr, ac mae rywun arall sy'n danfon y llythyrau—ond llawysgrif Derwyn ydi hwn, a dene Felix Mason wedi weld o. Rwy'n falch bod chi wedi dangos hwn i mi Bob. Ac mi ewch efo nhad fory?"

"Af Miss Humphreys."

"Diolch Bob, dyna lewyrch bach o obaith i dywynu arnom. Mi faswn yn hoffi aros i weld y'ch mam, ond dyma rywun yn dwad, nid y'ch mam," edrychodd ar y cloc.

"Nage," ebai Bob, sŵn troed dyn ydi o. Rhaid ma'r boss newydd 'ne ydi o Miss Humphreys."

Symudodd Bob heibio Nel at y drws, a dyna gnoc. Agorodd Bob ef.

"Dewch i mewn syr," ebai Bob, a dyna'r llais clir, dwfn, yn adsain dros y ty.

"Roeddwn i yn becsio," ebai, "ond anghof noeth ydoedd. Wnes i ddim telerau a'ch mam."

"Miss Humphreys," ebai Bob, wn i ddim beth i'ch galw chị.”

"Jarvis," ebai yntau, gan estyn ei law i Nell.

"Gwnewch eistedd Mr. Jarvis. Fe ddaw mam adref o'r capel ar hyn, ond fase raid i chi ddim. Basech yn gallu setlo'r mater eto."

"Wel, fe 'newch fy esgusodi," ebai Nel, ac ymaith a hi wedi cael addewid Bob i'w thad.

"Wedi gneud addewid reit bwysig i'r ferch ene, Mr. Jarvis" ebai Bob.

"I'w phriodi hi ai ie," chwarddodd Bob.

"Nage wir, rydw i wedi addo mynd yn rhw fath o detective."

"Love affairs."

Nage, Mr. Jarvis," ebai Bob drachefn. "Ma' 'ne lanc o'r Pentre 'ma," ychwanegai, "brawd i'r eneth ene wedi rhedeg o'i gartre ers tro bellach. Bachgen clyfar hefyd, wedi cario pob peth o'i flaen yn ysgol fawr y dre, ac yn ol pob tebig y ma' fo ar fynd i'r gwledydd pell, os nag ydi o wedi mynd yn barod. Ond ma' 'ne un o'r pentre 'ma wedi weld o ar y landing stage, dwad ar 'i draws o yn ddamweiniol a ma' 'ne long fawr yn sailio dy' Gwener, a ma'i dad o yn meddwl y bydd o yn mynd efo honno, a rhyfedd mi ges ine lythyr gyna fo heddyw bore, ond ma' Lerpwl yn fawr."

"Be ydi o wrth 'i alwedigaeth?" gofynnai Mr. Jarvis.

"Ma' fo'n sgolor tan gamp. Efo Rasp, y twrne yn y dre, a ma'i le fo'n 'gored tae o ddim yn dwad yn ol am flwyddyn."

"Di o ddim wedi gneud dim o'i le felly."

"Dim spot ar 'i garictor, Mr. Jarvis. Golled i mi ar i ol Mr. Jarvis. Dim byd yn uchel yna fo. Gas gyna fo snoberry—Derwyn, a 'roedd o mor falch o ddwad i'r tŷ bach 'ma—a mam a fine'n falch o'i weld Mr. Jarvis —ia, un o'r bechgyn mwyaf hoffus yn Llifon. Ma'i dad o yn cadw y siop fawr Gemist 'ne yn y Llan, dyn dipyn yn stern ydi'i dad—er glwes i 'rioed mono fo yn deud gair bach o'i le am 'i dad—dim gair—a ma'n rhyfedd rwsut fod o wedi mynd."

"Wel, mae pethau mwy rhyfedd na hwne yn digwydd," ebe Jarvis, "ac fe allai y deuwch chi ar 'i draws o—fydd 'i dad o ddim gyda chi mae'n debig—a dene'r detective work sy' i chi yfory. Mi gawn yr hanes pan ddeuwch yn ôl.'

"Wel, 'beithio bydd o werth 'i ddeud," ebai Bob.

Mi fydd yn siwr," ebai Jarvis. Yr oedd wedi codi ar ei draed ac yn cymeryd sylw o rai o'r darluniau ar y mur, ac ar rai ohonynt edrychai yn lled fanwl.

"Eich tad Jones," ebai, a trodd gan edrych i fyw llygad Bob—yr un lygad ag ef."

"Ia, fy nhad—a dene mam. Fe gafodd nhad 'i ladd yn y Pwll mawr Llifon."

"Llawer o ddamweiniau yn y pwll Jones."

"Prin yr â diwrnod heibio heb rw fath o accident, ebe Bob.

"Ie, gwlad yr anturiaethau ydyw Cymru fach, cynifer o ddamweiniau erchyll sydd yn cymeryd lle yn barhaus yng nghrombil ei daear. I mi Jones, y mae cymaint o'r anturiaeth yn y Pwll glô ag yn unman, ond fel arall y tybir, dros y moroedd mae'r cwbl, ryw waith aur, neu ynghanol anwariaid, ie, a chymaint o hono yn y Pwll."

"Ia, ar ol rwbeth fel ene yr a'th o i ffwr' Mr. Jarvis. Clwes o'n deud dim digon o adventure yn offis Rasp."

"Wel, rwyf yn hoffi'ch cartre' bach chwi yn fawr," ebai wrth gerdded yn ôl at y gadair. Ar hyn dyna sŵn troed mam Bob, a chauwyd llyfr eu hymddiddan.

PENNOD IX.

DAETH mam Bob i'r tŷ o'r capel a'i gruddiau yn llaith gan ôl dagrau ac yn wir, wrth iddi gau y drws, daeth ochenaid o'i mynwes, fel yn ddiarwybod iddi.

"Be mater mam?" gofynnai Bob. "Yde nhw wedi eich digio chi heno?"

Naddo, Bob."

"Ma' 'ne ôl crio ar y'ch wyneb chi, a 'de chi ddim digon hen eto i grio am y nefoedd, 'run fath a ma' 'rhen Ann Morus yn 'neud."

Yr oedd Bob wedi codi i gyfwrdd ei fam, ac ni feddyliai mam Bob, fod Mr. Jarvis yn y tŷ, can's eisteddai ef yng nghornel yr hen bentan.

"Pwy sy' efo ti?" gofynnai pan welodd hi ef.

"Mr. Jarvis mam. 'Roedde chi wedi anghofio setlo efo fo."

"Fase raid iddo fo ddim dwad yn ôl i hynny Bob, ond mi geiff aros efo ni i ga'l paned."

"Na, na wir Ann Jones," a chododd ar ei draed ar unwaith, gan edrych i'w gwyneb trist.

"Ma' 'ne fachgen o'r capel 'cw, a wir 'roedd o yn ffrynd garw efo Bob 'ma, a ma' fo 'di rhedeg o'i gartre. Rw ddyn wedi'i weld o yn Lerpwl, a mi ail gododd y greithen. 'Rhen John Llwyd gynyg bod ni yn troi y seiat yn gwarfod gweddi ar ran Derwyn Bob, a 'roedd hi 'di mynd yn ddryllie acw. Wyt ti 'di berwi'r tegell Bob? Cheiff o ddim mynd odd'ma heb 'paned."

"Na, dwi 'isio mynd. Pryd ma'r siope 'ma yn cau? Ma' ne siop Gemist yma, a dwi 'isio un ne' ddau o bethau oddiyno."

"Pryd ma' Siop Derwyn yn cau Bob?" gofynai ei fam

"Ma' hi yn cau tua hanner awr wedi wyth heno".

"Dene siop tad y bachgen ene 'de ni yn sôn am dano fo, a rhaid i chi fynd?"

"Rhaid," ebai Jarvis, "ond dwi 'isio setlo efo chi. 'Roeddwn i yn becsio."

"O, raid i chi ddim' Cewch dalu 'run fath a 'de chi'n talu i James Harris."

"Dwi heb dalu dim i hwnnw eto," ebai Jarvis, a gwên ar ei wyneb.

"Ffeindio'ch hun 'de chi am 'neud?"

"Fel leiciwch chi am hynny," ebai yntau.

"Dene fydd ore' ynte Bob, 'chos fuos i 'rioed yn cadw lodgiwr o'r blaen."

Felly y terfynwyd y cytundeb cydrhwng mam Bob a Jarvis, ac erbyn hyn yr oedd wedi cael ryw fath o siom eilwaith ynddo, a synnai yn fawr at James Harris yn ei osod fel gŵr deugain oed, ac erbyn hyn, prin y meddylia hi y gallai fod tros ei ddeg ar hugain, gan fel y fflachiai tân o'i lygaid tremiol.

"Dwi yn synnu at James Harris, Bob, yn deud fod o yn ddeugain oed. 'Di o ddim tros 'i ddeg ar higien Bob," ebai drachefn.

"Ydi, ma' fo'n chwaneg na hynny mam, achos ma'i wallt o yn britho yn drwm.

"E's pryd ma' fo yma?"

"Fawr i gid, mam."

"Wel, dwi'n licio'i olwg o Bob, a mi fydd yn gwmpeini i ni, ond 'fase werth wile i ti fod yn y capei heno Bob bach—base, 'roedd pawb yn crio am Derwyn."

"Ma' 'isio gneud rwbeth 'blaw crio mam, a dwi'n mynd i edrych am dano fo fory i chi."

"Be?" ebai ei fam. "Beth wyt ti'n ddeud Bob?"" gofynnai drachefn.

"Mynd i edrych am dano fo i Lerpwl yfory mam."

Wyt tithe yn dechre drysu 'run fath a Derwyn draun?" Os drysu 'de chi'n galw ymdrech i geisio'r colledig mam, ma'ch crefydd chi yn un wael iawn—dros ben o wael mam."

"Isio mynd 'run ffor' a fo Bob wyt ti?" ebai hithau. Aeth Bob yn ddistaw am ennyd y pryd hyn, a meddyliodd mai annoeth fyddai poeni ei fam yn hwy.

"Nage mam," ebai. "Ma' Nel, chwaer Derwyn wedi bod yma yn gofyn i mi aethwn i efo'i thad i Lepwl fory. 'Does 'eisio i mi fynd a dime efo fi, chostith o ddim i mi, a mi dalith fy stem waith i mi."

"Pwy? Wel?"

"Nel, chwaer Derwyn dwi'n ddeud eto. Mae Felix Mason, mab Shop Llan, wedi gweled Derwyn ar y landing stage yn Lerpwl, a ma' tad Derwyn yn meddwl wrach y gallwn ine ddwad ar 'i draws o, achos ma'n debig ma' o gwmpas y landing stage y bydd o tan eiff y llong allan, a 'dyw hi ddim yn mynd tan nos yforu, ne' bore dydd Gwener, ac felly ma' 'ne chance go dda o'i weld o, ac os gwelai o, dwi i'w dwyllo fo, a mynd a fo at 'i dad, a dwi 'di addo mam."

"Fydd well i mi redeg ono Bob?"

"Cewch chi 'neud fel y mynoch chi mam, ond ellwa i ddim peidio addo i Nel."

"Wel Bob bach, wrach, wrach, wrach, weld di, y ceiff gweddi 'rhen John Llwyd 'i hateb, ac yn gynt nag yde ni'n feddwl," a daeth gwyneb mam Bob i sirioli fwy fwy fel y ceisiai Bob ddangos i'w fam fel y gallai ddod ar draws Derwyn.

"Faswn i ddim yn mynd ono mam. Cewch i weld o yn y bore. Ma'r tren yn mynd am hanner awr wedi wyth a byddwn yn Lerpwl cyn deg—yna, bydd Detective Jones. yn dechre ar 'i waith."

"Detective Bob Jones, ynte mam?"

"Mi fydde'n hyfrydwch mawr i mi Bob, feddwl dy fod ti wedi bod yn gyfrwng i ddwad a Derwyn hoff yn ôl at 'i rieni. Bydde Bob."

"Wel, wyddwn i ddim be all ddigwydd, ac ryde chi'n fodlon i mi fynd mam?"

"Wel, os ydi Edward Humphreys yn dwad efo ti Bob, a phob bendith arno chi, ond fydd raid i Edward Humphreys wneud llw fod o yn dwad a thi yn ôl, Bob."

"Mam," ebai Bob. Cewch fynd i ddeud wrtho fo y munud 'ma, na dwi ddim yn dwad, os yde chi'n mynd i feddwl rwbeth fel ene."

"Wel, na, Bob, yn siwr i ti 'does gen i ddim 'isio meddwl y fath beth—ond be' wyr neb?"

Wel, y ffor' ore' i chi ydi mynd i siarad efo tad Derwyn, wedyn ella'i wbod be' i neud."

"Na Bob, 'does gen i ddim isio gneud hynny, ond faswn. i yn licio mynd i ga'l gwbod yn siwr ydi Felix Mason wedi gweled Derwyn a fydda i ddim yn hir."

PENNOD X.

SIOMEDIG fu y daith i Liverpool, ac er gwneud pob ymholiad yn y swyddfeydd morwrol, ni chafodd y tad ddim a'i cysurai o barthed i'w fachgen. Yr oedd yna lanc tebig i ddesgrifiad y tad o'i fachgen wedi morio ar y "Carafania" ddechreu'r wythnos, ond yr oedd Felix Mason wedi ei weled ar ol i'r llong honno forio ymaith, ac nis gallai dim fod o'i le yn nhystiolaeth Felix Mason, a daeth y ddau yn ol i Llifon, yn hollol anobeithiol.

Yr oedd mam Bob wedi treulio'r dydd hwn gyda'r ofnau mwyaf yn ymsiglo yn ei mynwes, er iddi gael gair pendant Edward Humphreys ynglŷn â diogelwch Bob. Eto, nis gallai lai nag ofni i glefyd Derwyn afael yn ei bachgen hithau, a phan glywodd sŵn ei droed yn dod i fyny y buarth yr oedd yn un o funudau hapusaf ei bywyd.

"Wel Bob bach, wyt ti wedi dwad?" ebai wrtho.

"Ydw mam, ac wedi methu, dim golwg ar Derwyn yn unman."

"Wel, druan, druan o'i dad o Bob bach, Be ma' fo'n ddeud?"

"Beth all ef ddeud mam, ond boddloni." ebai yntau.

"Fuo chi yn nhŷ'i fodryb o?"

"Fu mi ddim mam, ond fe aeth tad Derwyn yno dipyn cyn i ni ddwad gartref. Yr wyf yn becsio am dano fo. Mi dorodd i grio yn y tren, ac roedd o 'isio i mi fynd efo fo i'r Bryn, ond allwn i ddim mynd mam."

"Ia, fase Nel a'i mam yn licio ca'l yr hanes gyna ti Bob."

"Tase fo yn hanes difyr mam, mi faswn yn falch o fyn d, ac wrach y daw Nel yma. Roeddwn i yn meddwl y base Mr. Jarvis yma heno."

"Ma' fo wedi dwad Bob, a ma' fo 'di mynd i neges i nol rwbeth at ddolurie. Ddaru ne rw fachgen frifo yn y gwaith yn 'i ymyl o heddyw, ac roedd gyna nhw ddim byd i helpu y plentyn, a ma' fo 'di nol rwbeth o siop Tad Derwyn i fynd efo fo i'r gwaith. Ia, roedd o yn deud tase gyna nhw fandages na fase'r bachgen ddim wedi gwaedu fel y darfu o Bob. Ma' fo yn ddyn a theimlad gyna fo, a ma' hynny yn rwbeth yn yr hen bwll 'cw. Wyt ti 'isio bwyd?"

"Ddim rwan mam. Fe aroswn ni tan ddaw y dyn ene i ni ga'l swper efo'n gilydd."

"Mi ddaw yn y munud i ti, Bob," a chyn bo hir dyna swn ei droed, a chan agor y drws aeth i fewn ar ei union. "Dwi ddim am guro Ann Jones," ebai, yna, syrthiodd ei lygad ar Bob.

"Hello Detective Jones. 'De chi wedi cyrraedd, ac wedi llwyddo?"

Ysgydwodd Bob ei ben, gan wenu arno, "Naddo wir Mr. Jarvis, wedi methu yn llwyr."

"Bad report ai ie. 'Wrach y gwnewch chwi yn well y tro nesaf, Jones," ebai gyda llais dwfn serchog.

"Fuo chi yn Liverpool o'r blaen?"

"Do, ryw deirgwaith neu ragor," ebai Bob.

"Wel, 'roedd eich mam mewn ofnau am danoch, onid oeddech chi Ann Jones?"

"Ma' colli un da o Llifon yn llawn gormod Mr. Jarvis, ac am wn i nad yw hi yn hawddach i Mr. Humphreys druan golli Derwyn, nag ydi i mi golli Bob 'ma."

"Faint sy' er's pan mae y llanc yna 'de chi'n sôn am dano wedi mynd?"

"Faint Bob?"

"Mae tros flwyddyn, mam," ebai Bob.

"Bobl bach, gall fod yn California, ac wedi ei gladdu erbyn hyn."

"Ma' 'ne un o'r enw Felix Mason, un oedd yn arfer byw yn y Llan 'ma, wedi weld o ar y landing stage dydd Mawrth diweddaf," ebe Bob, un sy'n ei adwaen o cystal a ninne ynte mam?"

"Ac wedi bod yn siarad efo fo Bob," ebai' i fam i'w gadarnhau, "a meddwl oedd 'i dad o y 'llase Bob a fo daro ar ei gilydd, fel ma' pawb sy' mewn trwbl yn edrych ar rwbeth i afael ynddo fo—ond,—ma'i fam o wedi bod yn ddrwg iawn ar 'i ôl o, ond ma' ganddi un cysur, 'roedd o yn fachgen gwir dda, ac 'wrach ma' i'w brofi o bydd hyn. Gwelsoch hi fel ene lawer tro, ac fe'i gwelsoch hi fel arall o ran hynny."

"Wel do, Ann Jones," ebai Jarvis. "A deud y gwir i chi, dyna mhrofiad i, ac mae dyn yn cael profiad newydd wrth symud. 'Does dim llawer o werth aros yn yr unfan os na fydd raid. Dyna ddaeth a'r America i'r golwg, ynte Jones?" ebai gan droi at Bob. "Dyn yn anturio, a dyna o'r ochr arall a ddaeth a Columbus i'r golwg, fel mae dau beth pwysig wastad yn dilyn anturiaeth, os bydd iddi droi yn llwyddiant, sef dod a'r dyn a'i wrthrych i'r amlwg. Wrth gwrs mae i fachgen da, hoff, fel yna adael ei gartref yn siwr ofod yn peri tristwch i'w rieni, ond mae gobaith o bob man ond y bedd, Ann Jones. Gwelais y dydd o'r blaen, Ann Jones, ddyn ieuanc yn cael ei roddi yn y bedd a'i fam yn weddw. Rywbeth fel yna fydda i yn meddwl sydd yn wir galed, galed. Dyna'r dyn yna yde chi yn sôn am dano, wedi ei weled y dydd o'r blaen, ond gadawn iddo. Faint sy' er pan yde chi yn gweithio yn y pwll 'ne Jones?"

"Faint mam? Pum mlynedd? Tair ar ddeg oed oeddwn ni."

"Ia, tair ar ddeg Bob. Rhyw grwt bychan, a digon eiddil at hynny, Mr. Jarvis; ond d'oedd dim help. Yr oedd y Living Officer yn gofyn pam nad aethai fo i'r pwll i weithio, a 'roeddwn ine allan bron bob dydd yn glanhau a golchi, a dim llawer i ga'l am hynny."

"Be' oedd o yn allu 'neud yn y pwll mor fach a hynny?" ac edrychai Jarvis yn graff ar eiddilwch Bob, ag yntau erbyn hyn tros ei ddeunaw oed.

"Tendio'r drws, ynte Bob? Ma' gyna fo dipyn o gywilydd rwan Mr. Jarvis, 'chos fydde'n dipyn o sport gan blant y Wal o blant fydde'n cychwyn yn y pwll i dendio'r drws." Ac os aethai bachgen i ganlyn mul yn beth cyntaf bydde hynny yn uchel yng ngolwg y plant, ond i 'dendio drws' es di ynte Bob?,

"Ia, ond fues i ddim efo'r drws yn hir. Rhw fis mam."

"Promotion to the donkey's tail," ebai Jarvis gan chwerthin.

"Nage," ebe Bob. "Ges i fynd efo'r fireman oddi wrth y drws."

"Dene promotion led uchel Jones, rwy'n sicr," ebai Jarvis.

"Ia, 'roeddwn i yn cael gweld mwy," atebai Bob.

"Ia, mi ga'th fynd efo dyn reit glen, Mr. Jarvis; ond fu o fyw fawr i gid. Bu farw efo ffefar, a fuo Bob fawr o amser efo'r fireman ar ol i John Befan farw, a byth er hynny rw waith caled, brwnt, ac at hynny wastad yn ca'l 'i roi mewn lle g'lyb. Dene be' ma' Bob wedi ga'l byth er hynny, Mr. Jarvis."

Edrychodd y fam ar wyneb eiddil ei bachgen tra yn adrodd ychydig o'i helyntion yn y pwll i Mr. Jarvis, yr hwn a wrandawai yn astud ac yna dywedodd wrthi pan ar adael y siarad i fyned i baratoi y swper,

"I mi, Ann Jones," ebai, " y mae mwy o'r anturiaethus yn y pwll glô o lawer nag yn anialdiroedd yr America ac Awstralia bell."

PENNOD XI.

YR oedd lled agos i flwyddyn bellach er pan ddaethai Mr. Jarvis i aros yn nhŷ Ann Jones yn y Wal, ac yn ystod yr amser yna yr oedd wedi gwneud cyfaill o Bob, a Bob gyfaill ohono ef. Diameu bu hyn yn gryn help i Bob ymfoddloni ar ei waith yn y pwll, a thrwy hynny aros gyda'i fam gartref, er iddo lawer tro fygwth myned ar ol Derwyn, yn neilituol pan gafodd y llythyr ganddo o Utica ym mhen ryw dris mis wedi'r ymgais hwnnw o geisio cael hyd iddo yn Lerpwl fethu, a chyda llaw bu'r cyfeillgarwch yma cydrhwng y ddau yn effeithiol i gael Bob i gymeryd mwy o ddiddordeb yn y capel, yn y gwaith ym mhob peth a barai les meddwl a chorff iddo, ac o ganlyniad nid oedd darfod ar gân Ann Jones o barthed i rinweddau Mr. Jarvis, ac yn wir nid cymaint Ann Jones. Yr oedd Mr. Jarvis yn brysur dynnu iddo ei hun yr un edmygedd gan bawb o bobl Llifon, ac erbyn hyn yr oedd yn Llifon gryn ryfeddod fod dyn o alluoedd mor ddisglair a Mr. Jarvis wedi dod i weithio yn y pwll o gwbl, can's cafwyd allan ei fod yn ysgolor gwych, ac fel y bu iddo addef bu ei ymhyfrydiad yn ei wersi daearegol a chryn ddylanwad ar ei feddwl i'w ysgogi i ddisgyn i'r pwll, ond nid hynny chwaith oedd i gyfrif fwyaf, fel y ceir cyfle i weled eto.

Beth bynnag, yr oedd aelwyd Ann Jones yn y Wal erbyn hyn wedi dod yn fan bwysig i drin a thrafod hanes a helynt y pwll, a byddai awr yng nghwmni yr hen Gruffydd Huws a Mr. Jarvis yn ddalennau hanes gwir ddifyr i'r sawl a gaffai y cyfle i wrando arnynt, a chymerid y sgwrs ambell noson i son am yr hen byllau bach a ddelid ac a berchenogid gan bersonau cyffredin yn y Llan a'r ardal, a chaed ambell stori led gynhyrfus gan yr hen Gruffydd, ac nid oedd dim ac a roddai fwy o fwynhad i Jarvis na gwrando ar rai o ystoriau cynhyrfus yr hen Gruffydd.

"Rwy'n cofio clwed y nhad yn deud," ebai Gruffydd un noson, "fod gan fy nhaid Bwll a chwimsi ar yr hen Gomin 'ne, a mi ddaru 'i werthu o yn mhen amser i un o'r enw John Sowth. Yr oedd o yn ca'l 'i alw medde nhad, yn John Sowth, oherwydd iddo fod wedi bod yn byw yn Sowth, yn rwle yn Aberdar, ffor' ene, ond John Payne oedd enw y dyn, beth bynnag, mi brynodd Bwll y Comin,' gan fy nhaid a glwes i nhad yn deud, chware teg i nhad, fod fy nhaid ar fai yn 'i werthu o i John Sowth yn y modd y darfu o, achos 'roedd nhaid wedi'i weithio fo am igien mlynedd, ac yn gwbod o'r gore sut i weithio fo."

"Beth 'de chwi'n feddwl wrth ddeud sut i weithio fo, Gruffydd Huws?" gofynnai Jarvis iddo.

"Yn y ffor' yma, Mr. Jarvis," ebe Gruffydd. "Roedd 'ne lawer iawn o hen byllau wedi boddi o gwmpas Pwll y Comin, ac mi wydde nhaid am danyn' nhw, gwydde i'r fodfedd, ac mi wydde i'r lathen pa can belled roedde nhw wedi gweithio o Bwll y Crwyn—oedde nhw yn 'i alw fo—i gyfeiriad Pwll y Comin, ond wydde John Sowth ddim, a dim mapie, na diol, na dim o'r fath y pryd hynny Mr. Jarvis."

Roedd hi felly yn berigl i John Sowth," ebai Jarvis. Oedd, 'chos 'roedd Pwll y Crwyn yn llawn dop o ddŵr Mr. Jarvis, a 'de chi'n cofio—dwi'n cofio beth bynnag, Ann Jones, yr hen gân honno,

"Arch ag amdo sydd yn barod,
Erbyn windio John i'r lan,"

"Dwi'n meddwl mod i wedi clwed y gân ene Gruffydd Huws," ebai mam Bob.

"Beth bynnag i chi," ebai Gruffydd, "mi weithiodd John Sowth yn rhy bell, a mi dorodd dŵr Pwll y Crwyn arno fo, a fel dwi'n deud, 'roedd pawb yn meddwl fod John Sowth wedi boddi, ac fe wnaed 'i arch o, a dwad a hi i'r caban yn barod i roi corff John i mewn ynddi, druan. Do, fu'r arch yn y caban am just i 'thefnos yn aros am John; ond chware teg i nhaid, a 'roedd o erbyn hyn dros 'i bedwar igien oed, ac wedi mynd i orwedd. Beth bynnag, mi wnaeth chware teg iddo fo, iddo nhw 'i gario fo o'i we1y, pedwar o ddynion medde nhad, yn mynd a fo mewn gwrthban, a mi wnaeth iddyn' nhw fynd a fo i lawr y pwll felly, Mr. Jarvis."

"Dyna anturiaeth, Gruffydd Huws," ebai Jarvis.

"Ia, a meddwl fod y rhan fwyaf o'r pwll wedi boddi, Mr. Jarvis, ond 'roedd pob gobaith o gael hyd i gorff John Sowth druan wedi ei golli, ond fe fynnai fy nhaid iddynt 'i gymryd o i'r pwll o'i wely,—pawb arall wedi methu yn llwyr."

"Dyna fath o ramant fach gynhyrfus Gruffydd Huws, ond ewch ymlaen." A gwelid llygaid mawr glas—dywyll Jarvis yn ymloewi fel y dadlennai yr hen Gruffydd hanes anturiaeth ei daid i Bwll boddedig y Comin.

"Wedi iddynt fyned a fo i lawr Mr. Jarvis," ebai, parodd iddynt ei gario ar hyd hen lefel am oddeutu milltir o ffordd, yr oedd y rhan oedd wedi boddi i lawr hen "ddyfn y groes" oedde nhw yn 'i galw hi, ac 'roedd rwbeth yn deud wrth nhaid, na chode'r dŵr ond i rw' bwynt neilltuol —hen ben' oedd nhaid, medde nhw, Ann Jones, er chafodd o 'rioed ysgol. Beth bynnag, 'roedd o yn benderfynol o ga'l hyd i gorff John Sowth, byw ne' farw, ac fel 'roedd nhad yn deud yr hanes i mi, 'roedd gyna fo 'hen ffor' wynt ym mhen draw y traws 'ma wedi'i stankio er's rai blynydde, lle na wydde griadur byw am dani, er 'roedd o yn deud am dani yn 'i wely, ond fentre neb mo'r job—dŵr yn codi ddyliwn. Beth bynnag, wedi iddyn' nhw 'i gario fo i'r spot, chware teg i'r dynion hefyd, Mr. Jarvis. Dipyn o job 'i gario fo felly, am filltir ar hyd hen lefel isel. 'Rwan, medde nhaid, cliriwch y baw 'ne, a mi gewch y stanc, a chyn pen pum munud dene'r stanc i'r golwg yn y spot."

"Rwan," ebai wedyn, "torwch y stanc drwodd." clwes nhad yn deud fod y dynion yn crynu fel deilen ofn y dŵr, ond 'roedde' nhw a ffydd yn yr hen ddyn, a dene dori'r stanc—dim dŵr. "I lawr a chi rwan," medde nhaid. "I lawr a chi." A mi wnaeth nhw fynd i lawr yr hen ffor,' a ddyliwn i, cyn iddyn' nhw fynd i lawr rw' ganllath oddiwrth y stanc, dene sŵn araf rwbeth yn gruddfan, a phwy oedd o ond John Sowth."

"Yn fyw!"

"Yn fyw, Mr. Jarvis, a fu 'rioed ffasiwn ryfeddod, ond 'roedd hi just ar ben arno fo, am just i bythefnos felly, heb damed o ddim, ond pwys o g'nwlle gwer i fyta, dene chi drial i ddyn os leiciwch chi."

"Faswn i yn meddwl," ebe Jarvis, " fod o yn ddyn a nerve ganddo."

"Bob," bloeddiai Gruffydd, "glwes di 'rioed mo'r stori ene ai do?" ebe 'rhen Gruffydd, gan droi at Bob, oedd wedi gwrando yr un mor astud a Jarvis.

"Mi glwes gân yr "Arch a'r Amdo " Gruffydd, ond ches i 'rioed mor hanes yn fanwl fel ene," ebai Bob.

"Wel, dene ti nhaid Bob, a beth bynnag oedd 'i fai o am dwyllo John Sowth, mi gwnaeth o i fyny, a mi 'roedd 'ne hwyl dwi'n siwr pan ddaethant a fo i'r lan, a meddwl fod yr Arch a'r Amdo' yn 'i aros o. 'Roedd o yn rwbeth Bob, yn 'doedd o?"

"Wel, ma'r stori ene yn exciting," ebai Jarvis, ac mae hanes a throion rhyfedd fel yna yn sicr o fod wedi cynyrchu dipyn o'r ysbryd anturiaethus, heblaw ei fod yn rhywbeth i beri cadw rhyw fath o ymlyniad hanesyddol a'r gorffennol. Rhy brin Gruffydd Huws ydym o rywbeth fel yna. Yn sicr, fe ddylai fod ryw fath o golofn—goffa wedi ei chodi i'ch taid, am ei anturiaeth beryglus yn dod o'i wely claf yn wr pedwar ugain oed, ac i lawr hen bwll yn boddi, i geisio am ddyn colledig. Yde ni'r Cymry 'ma o stoc go dda Gruffydd Huws?"

"Wel, ddaru mi ganu llawer ar gân 'Yr Arch a'r Amdo' e's talwm," ebai Gruffydd, "ond dene'r hanes i chi air am air, fel y ces i o gan y nhad, Mr. Jarvis."

Taniodd yr hen Gruffydd ei getyn, ac aeth am ei gartref wedi mwynhau awr gyda Bob a'i fam, a Mr. Jarvis y lodgiwr.

PENNOD XII.

"YR wyf wedi penderfynu gweithio, a gweithio yn galed, Ann Jones," ebai Jarvis un noson, wrth fam Bob. Edrychai hithau i'w wyneb yn ddyfal, canys yr oedd golwg llafur blin ar ei wynebpryd eisoes, a llawer gwaith y tynnodd sylw Bob yn ei absenoldeb, at y llwydni oedd wedi dod i aros ar wyneb iach a hoyw Mr. Jarvis; ond ni ddaeth i'w meddwl ym mha ystyr y llefarai ei lletywr y noson hon.

"Yr ydych yn gweithio yn galed yn barod, mi ddaliai." ebai Ann Jones. "Ac o ran hynny, y mae pawb sy'n gweithio yn yr hen bwll 'ne, yn gorfod rhoi ei holl egni, neu dyna'r gair sydd iddo gan bawb yn y Wal 'ma."

"Does dim amheuaeth am hynny, Ann Jones," ebai yntau, canys y mae wedi bod yn agoriad llygaid i mi, mor galed y gweithia y dynion yn y Pwll mawr. Yn wir, ni fuaswn yn credu oni bae i mi weled a phrofi, ac y mae rhan o'r gwaith yn hynod boeth. Yr oeddwn yn gorfod cario dyn echdoe wedi darfod am dano yn y talcen. Ryw fath o wasgfa wedi dod drosto, a chludais ef yn fy mreichiau i le a dipyn mwy o awel, a fûm i yn meddwl, wrth sylwi arnynt, can lleied o sylw y maent yn gael gan lenorion a beirdd ein gwlad. Sôn am destun cadair genedlaethol—welais i 'rioed, ond hwyrach fy mod i yn cyfeiliorni—ond welais i 'rioed destun Cadair yn cael ei roddi i "Arwriaeth y Glowr," ond hwyrach mae ein cynefindra â hwy sydd i gyfrif am hynny—y trueiniaid gonest—ond fel y dywedais nid gwaith i'r cyfeiriad yna y meddyliais."

Syllodd Ann Jones arno drachefn, a rhedodd ei meddwl at y dygn sylw a roddai Mr. Jarvis i'w lyfr, canys llawer noson byddai yn hwyr yn myned i'w wely, ac yn cael ei adael gan Bob a'i fam wrth y bwrdd.

"Ydwyf, yr wyf wedi penderfynu mynd ati o ddifrif, Ann Jones," ebai Jarvis, a gwên ar ei wynebpryd.

"Yr ydwyf wedi cael tipyn o ysgol," ebai ymhellach, rwy'n meddwl weithiau y dylwn ei ddefnyddio i ryw bwrpas."

"Be,' meddwl trio am rwbeth yn y pwll yde' chi Mr Jarvis?" ebai hithau.

"Ia," ebai yntau, "ryw syniad felly sy'n chware ar fy meddwl e's tro bellach—er ma' nhw'n deud na fynith Stork yna yr un Cymro gael cyfle yn y pwll. Un o ble ydi o Ann Jones?"

"Wn i ddim yn siwr. Ydwi'n meddwl ma' un o Staffordshire ydi o. Rhai oddiyno ydi'r criw i gyd medde nhw. Hwnnw sy' wrth ben Bob 'ma, ma' fo'n rhegi'r Cymry pan fynoch chi, medde Bob. B1Welsh ydi popeth gyna fo ond ma' fo 'di g'neud nyth reit gynnes yn y lle 'ma, ddaliai i, Mr. Jarvis."

"Mi fydd yn job lled galed felly, Ann Jones?" ebai yntau.

"Fel ene ma' hi wedi bod rwan e's deuddeng ne' bymtheng mlynedd. Ma' Stork 'ma yma e's tros bymtheng mlynedd, 'chos dwi'n cofio 'roedd Bob ni yn 'i ddillad cwta pan fu farw yr hen Gornwal. Ydi, yma e's pymtheng mlynedd yn siwr."

"Sais oedd hwnnw hefyd?"

Ia, Sais oedd hwnnw, ond d'oedd o ddim cymaint yn erbyn y Cymry a ma' Stork 'ma, ond ddeuda i chi, ddaru 'ne rwbeth ga'l 'i wneud na lase fo ddim pan ddoth o yma —ond arno fo 'roedd y bai am hynny. Mi gafodd i fygwth yn go arw, a dim ond i fygwth Mr. Jarvis. Fase'n well tase nhw wedi'i gario fo allan na g'neud fel daru nhw, a byth er hynny ma' fo fel yn rivengio arno ni."

"O, mi welaf," ebai Jarvis.

"Ia, cheiff yr un Cymro fynd yn ddim byd, os medr o ga'l Sais yn 'i le fo, Wn i ddim oes na—oes, dene'r hen Ddic Dafis, wrth gwrs, feder yr hen Ddic droi'i wyneb fel licith o—a Johnson, dene'r unig ddau; ond oedde nhw ene o dan yr hen Gornwal; ond dydi hynny ddim yn deud bod hi i fod fel ene o hyd. Dyn ydi Stork ac nid Duw, er ma fo'n meddwl i ni 'neud duw ohono fo. Ie, dyn ydi ynte, ac wyr o ddim pa funud y daw yr alwad, ond ma' nhw'n. deud 'i bod hi yn job reit galed ennill y stificate, yn tydi hi Mr. Jarvis? Ma' 'ne fachgen yn y Llan 'ma yn trio medde Bob. Ma' gyna fo lond y tŷ o lyfre."

"Pwy yde chi'n ddeud ydi o?"

"Bachgen i Samuel Jones, saer ydi'i dad o ar y gwaith."

"O, dwi'n meddwl mod i wedi clwed am dano fo, a ma' fo wedi ca'l dipyn o ysgol?"

"Ydi, Mr. Jarvis, a phob help gan 'i dad, a ma' nhw'n deud fod merch y Plas yn cymeryd sylw o hono, 'chos ma' fo'n fachgen neis, ac un sy'n g'neud llawer efo 'Steddfod y Pentre 'ma, a dene hoff beth aeres y Plas, ydi 'Steddfod a chanu, ac ma'i thad o ran hynny yn Gymro pur, a ma' nhw'n deud fod ganddi rwbeth i ddeud wrtho fo."

"Be ydi enw'r bachgen?"

"Emrys Cydwalad—ond siarad pobol ydi'r cwbl, achos fu sôn ei bod hi i briodi Cyrnol Thorn o Benddol, a ma' ne rw stori fod o wedi deud rwbeth am y Cymry, yn rywle, a bod o 'di dwad i glust Eurwen, a 'chwedyn, fyne hi ddim sôn am dano fo. Wrth gwrs, 'de ni'n ca'l lot o bethe fel ene yn y Wal 'ma, a dichon bod nhw'n wir Mr. Jarvis, ond—" Yr oedd llygaid Jarvis yn ymloewi a ryw fath o ymhyrfydiad yn chware ar ei wedd wrth i Ann Jones gyffwrdd hanes Eurwen, a'r sylw a dalai y fenyw i bethau cyffredin y bobl, megis cyngherddau a chyfarfodydd o'r fath.

"Ac fe fyn rai ddeud," ebai Ann Jones, "ma' hi oedd achos i Derwyn Humphreys 'ne redeg o'i gartre, ond rw' siarad ffol ydi pethe fel ene, achos chlwes i 'rioed mo'r bachgen yn codi'i henw hi, ond ma' hi'n eneth hardd, a dichon i'r bachgen fynd o'i golwg hi, i geisio boddi'r meddwl fel byddwn ni'n deud."

"Wrth gwrs," ebai Jarvis," ma' i berson fel yna gymeryd sylw a g'neud dipyn o lanc, er iddo fod yn perthyn i ddosbarth is o ran 'i safle, yn aml iawn yn gwneud achos iddo un ai mynd o'r golwg, neu wneud cynnyg arni fel y byddyn dweyd."

" Wel, ma' nhw'n deud Mr. Jarvis, fod rwbeth yn cario yn y gwaed. Geneth dlawd oedd 'i nain hi, ond bod hi yn eneth hardd, a mi syrthiodd tad Syr Alwyn 'ma mewn cariad â hi, a 'does 'ne ddim byd yn uchel yn Eurwen, medde nhw, a galle rwbeth fel ene ddigwydd yn y teulu eto. Mi fydde mam wastad yn deud, nad ä mur cyfoeth byth yn rhy uchel i lygad serch allu gweled drosto."

Gafaelodd Jarvis yn ei lyfr, yr hyn oedd arwydd i fam Bob, ei fod wedi gwastraffu yr hyn a allai fforddio i siarad anniben, a gadawodd ef yng nghwmni myfyrgar ei lyfi tra hithau yn troi a throsi dillad gwaith Bob, i geisio a welai angen pwyth arnynt.



AIL GYFRAN.


PENNOD XIII.

CURAI y g'law yn drwm ar y ffenestr. Boreu gwlyb oedd hwn, a chryn bellter o dŷ Bob at y Pwll.

Aethai y ddau gyda'i gilydd—Bob a Jarvis,—fel rheol at eu gwaith, a chlywid trwst clocsiau eraill ers meityn yn mynd i lawr yr heol gul o'r tu cefn i dŷ Ann Jones, un o brif heolydd y Wal.

Bob," bloeddiai llais crwn a chadarn. ebai un arall ymhen ychydig funudau.

"Tyrd Bob bach," ebai ei fam. "Dene John Tŷ top, a Simon wedi mynd." Ac ar hyn, rhoddai Jarvis ei lyfr o'r neilltu, ac fel rheol, byddai i Jarvis ychydig amser gyda'r llyfr i aros i Bob fod yn barod.

"Cymer di ofal Bob bach, a chwithe Mr. Jarvis." Dyna eiriau olaf Ann Jones i'r ddau bob dydd y gadawai y ddau y cartref am y pwll.

Byddai yr olygfa wrth ben Pwll mawr Llifon ar y cyntaf fore yn un neilltuol o darawiadol. Mil o leiaf yn dod o bob cwr o'r wlad, ac yna yn ffurfio yn ddwy reng hir, pedair wir, i aros y tro i ddisgyn i'r Pwll, ac yn fuan ar ol pump o'r gloch, clywid y knocker trwm, trwstfawr, yn taro ei nôd, arwydd fod y cage ar y gwaelod, ac yn barod i godi yn ol.

Pwll a chryn ddyfnder iddo oedd pwll mawr Llifon, dros saith cant o latheni, yn agos i hanner milltir, ac i'r cage neu'r ddalfa yr oedd tri deck neu lawr, a byddai oddeutu deg a'r hugain o eneidiau yn ymddiried eu hunain i'r rhaff ddur i'w danfon i'r gwaelod, a theithiai mor aruthrol o gyflym, nes peri dychryn i rai am ddyddiau lawer—rhai a ddeuai o'r newydd i weithio i Bwll Llifon. Do, gwelwyd rhai yn agos llewygu gan effaith cyflymdra y ddisgynfa, a byddai hynny yn ddigon i beri iddynt beidio gwneud cynnyg eilwaith ar ddisgyn i'r pwll. Hefyd, clywais hanes rhai yn gwaeddi fel perchyll gan yr ofn, ond ychydig yw nifer y rhai hynny. Ond i sefyll wrth ben y Pwll; dacw reng o grytiau bach, wedi aros a taro ar ei gilydd fel y byddant yn gyffredin—tair ar ddeg i'r pymtheg oed, ac yn aros am y "ddalfa" i'r lan—un o honynt efallai am y waith gyntaf, ond ymddangosa mor ddihidio a phe buasai yn myned i'r ysgol, ac yn ei feddwl ei hun y mae yn arwr bach. Ymfalchia, ymhyfryda yn y ffaith ei fod yn cychwyn ar ei yrfa yn y pwll—ofn dim—nag arswyd, y mae ryw eofndra annirnadwy yn y rhan yma o fywyd plentyn y pwll.

Buan y llyncir y fath dorf o enau y pwll. Y mae ar fin chwech o'r gloch, ac mae rhes fawr yn cwtogi yn gyflym, yn y man daw Stork neu ryw is-swyddog gyda'i lusern a'i ffon, a chyn pen ychydig funudau bydd neb i'w weled, ond y rhai hynny sydd a gofal ynglŷn â'r rhan yma waith y lofa—a dene renc, renc, renc y twbiau glô yn disgyn oddi ar y ddalfa, yna glap trwm y llidiard yn disgyn ar enau y pwll wedi'r ddalfa ddisgyn yn ol i'r dyfnder, a dwndwr y peiriannau fel am ysu tawelwch y bore, ac i gyffroi yr holl fro.

Pe gellid dyfeisio X Rays a digon o rym ynddi i allu gweled byd tan-ddaearol Llifon, byddai yn olygfa ryfedd. Y mae y cannoedd glowyr erbyn hyn ar eu taith i'r talcennau glô, rai o honynt bedair milltir o ffordd, neb llai na milltir, can's mae Pwll Llifon erbyn hyn wedi ei suddo ers agos i ddeugain mlynedd, ac oddeutu mil o dunelli o lô yn cael ei arllwys o hono bob dydd y gweithia'r dynion.

Rhennir y Pwll i tua deg neu ddeuddeg o raniadau, a phob rhaniad yn cael ei arolygu gan swyddog cyfrifol y taniwr, neu'r fireman, ac yn aml iawn bydd y rhaniadau hyn yn cael eu galw gan y glowr, yn ol enw yr ardal neu'r gymdogaeth y gorwedd y rhaniad odditano—District No. 10 yn Brynffynon, yn ol enw y fferm fwyaf y gorwedd arno, rhaniad arall a elwir yn Frowen, ardal ryw ddwy filltir o Llifon yw y Frowen, ardal fynyddig, a thro arall gelwir y rhaniadau wrth enw y swyddog a fydd a gofal drosto. District Dic Dafis a District Alf Cop. Y mae yr endless bellach wrthi ar hyd heolydd y dyfnder yn llusgo y tybiau. Rhaff ddur drwchus yw yr endless sydd yn gweithio prif ffyrdd y lofa, gellir tybio fod hon yn gwneud gwasanaeth i lusgo am ddeg i bymtheg milltir o wahanol gyfeiriadau, can's y mae yn myned dair milltir i'r gogledd, tair i'r de, ac o'r ddwy brif ffordd yna y mae nifer o drawsffyrdd pwysig, ar ba rai y cymhwysir yr endless i lusgo y glô. Yna oddi ar y rhai hyn y mae dosraniad llai, yn cael ei galw yn main Brakes neu os yn disgyn y slants, ac i fyny ac i lawr y rhai hyn mae nifer fawr o fulod a merlynod wrthi yn llusgo. Bydd y brakes bob ryw dri neu bedwar cant o latheni, ac oddi ar ben y rhai hyn y mae trawsffyrdd yn rhedeg, ac oddi ar y trawsffyrdd hyn y mae dosraniad llai eto, bob ryw ugain neu ddeg ar hugain o latheni. Ffyrdd yw y rhai hyn yn arwain i'r talcennau glô, ac fel y dringant y mae trawsffyrdd newydd yn cael ei 'magu' fel ei gelwir yn y pwll bob ryw gant neu ddau o latheni, ac yn tori ymaith y man ffyrdd, gan ddwyn y main Brake i fyny, ac felly ymlaen hyd nes gweithio y wythien lô allan o'r rhaniad tan sylw.

Y mae Bob a Jarvis yn dilyn ei gilydd i waelod y Brake mawr, yr hwn sydd oddeutu ryw ddwy fiiltir a hanner o waelod y pwll. Yna, try Bob i fyny, ac a Jarvis rhagddo yn ei flaen, ac yng ngoleu ei lusern fach, cerdda ym mhellach. Y inae Jarvis erbyn hyn yn lled hyddysg a rhaniadau y pwll. Yn wir, dyma fu ei brif ddifyrwch yn oriau y nos yn nhŷ Ann Jones. Bob a Gruffydd Huws yn ei gyfarwyddo a gellid gweled ar fwrdd Ann Jones lawer noson amlinelliad neu fap lled gywir o loriau Llifon. Ie, yn ystod ei astudiaeth, nosweithiau ar nosweithiau y buont wrthi yn cyfarwyddo Jarvis gyda'r hyn a wyddent hwy o reoliad dosbarthiadol y gwaith, a chyn hir, diameu y gwyddai Jarvis trwy gynorthwy yr hen Gruffydd fwy am loriau Pwll Llifon nag a wyddai Stork ei hunan, canys yr oedd Gruffydd wedi cynnyg gwystlo lawer tro y gallai arwain Stork pe cawsai gyfle, i gelloedd ar loriau Llifon, nas gallai byth ddod allan o honynt.

Er dued, a garw a brwnt hanes lloriau Pwll Llifon, nid amddifad hollol oeddynt chwaith o ddifyrwch a llawer o hono ynglyn a'r mulod, canys yr oedd ambell ful ar lawr Pwil I.lifon wedi dechreu rhodio yn lled fanwl lwybr gwareiddiad y bedwaredd ganrif ar bymtheg; rhai ffurfiau o hono a dweyd y lleiaf, a byddai Jac y mul—un hynod oedd Jac—mor hynod o gnoi baco a'r un glowr a ddisgynnodd y pwll erioed, a llawer o ddifyrwch a gafai y plant gyda Jac, os na fyddai ef wedi cael ei ran arferol o faco cnoi gan y glowyr wrth iddynt fyned heibio iddo yn y bore, ac er cymaint gwybodaeth Jarvis, ni wyddai am driciau Jac, a'r bore hwn cafodd y mul hynod hwn ar ei ffordd, ffordd gul, dim ond eithaf lle i Jac, a byddai raid ymwthio heibio cyn y gellid ei basio. O, ie, gofalai Jac pan heb gae1 ei ran arferol o faco, sefyll yn y rhan gulaf o'r ffordd, er mwyn trin ei achos gyda'r dynion, a chyda dieithriaid fyddai yn hynod hoff o ddal ar ei gyfleustra, a mawr fyddai'r hwyl gan y plant o'i weled yn chwarae ei gamp ar ben bore.

Yr oedd Jarvis wedi dod yn lled agos iddo y bore hwn, a Jac yn aros yn y fan gul, i aros am ei dresi gan y bechgyn. "Wel Jac," ebai Jarvis, "symud," ond ni roddai Jac gynnyg at hynny.

"Symud Jac," ebai Jarvis drachefn, ond hynny o symud a wnaethai Jac oedd symud yn fwy lled groes i'r ffordd.

"Wel, symud Jac," ebai drachefn. Ond y tro hwn, dechreuodd Jac ddangos ei ddannedd mawr melynddu iddo, a chyn pen ennyd aeth ei draed i ddechreu aflonyddu, a dechreuodd gicio yn enbyd.

Gwyddai y bechgyn o'r goreu ddolur Jac. Nid oedd wedi cael ei gyfran arferol o faco, gan y glowyr oedd eisoes wedi myned heibio i'r talcenau, a chan mai Jarvis oedd gyda'r olaf, yr oedd yn dod i fewn am ddialedd Jac.

"Wel Jac," ebai Jarvis, "mae hi yn ddrwg gen i nad oes gen i ddim baco i ti, 'run tamed. Ond ni chaffai eiriolaeth Jarvis ddim effaith arno. Yn wir, aeth ei ystyfnigrwydd yn fwy, ac erbyn hyn ni wyddai Jarvis beth i'w wneud. Gwaeddodd ar y bechgyn, ond ni chafodd ateb. A mwy, yr oeddynt wedi cuddio eu goleu i'w dwyllo, a phan welodd Jac gyflwr ofnus Jarvis, aeth yn fwy hyf arno, a dechreuodd symud tuag ato, yr hyn wnaeth i Jarvis gilio yn ol yn araf, ac wrth wneud hynny daeth i'w feddwl i'w dwyllo.

Wel, aros am funud Jac," ebai, "gei di faco," a chymrodd arno fyned i'w logell i'w estyn iddo, a chafodd ddarn o bapur a rholiodd ef megis llinyn liw yn dew ac yn dyn. Tarodd ef yn safn Jac, ac ymaith ag ef heibio ar frys.

Nid oedd Jarvis wedi myned ddeg llath oddiwrtho, na chlywai swn ei garlamiad, a phan gaffai Jac ei dwyllo byddai yn beryglus. Bu bron iddo a lladd dyn flwyddyn yn ol am ei dwyllo. Beth bynnag, dechreuodd y mul waeddi tra yn carlamu ar ol Jarvis, a gwyldai pawb, pan fyddai wedi mynd i waeddi fod rywbeth i gymeryd lle, a gwae y sawl y caffai afael ynddo, ond heddyw yr oedd Jac mewn ymryson ag un oedd mor gyflym ag yntau, pe buasai'r telerau yn deg; ond trwy fod y ffordd mor isel, fe! byddai ffyrdd y mulod yn y pwll, rhyfedd i Jarvis allu dianc mor bell o'i afael.

"Mwrdwr,! Mwrdwr!" gwaeddai Jarvis. Cafodd y mul afael ynddo a'i ddannedd, ac wrth glywed hyn, rhedodd y plant ar unwaith i'w helpu. A chyda ychydig anhawster, cawsant Jarvis o grafangiau y mul. Ni anghofiodd Jarvis y wers a gafodd o dwyllo Jac ym mhwll Llifon.

PENNOD XIV.

AETH misoedd heibio, a bu i Jarvis gael ei wneud yn swyddog ym mhwll Llifon a'i ddiddordeb yn y gwaith yn myned yn fwy—fwy, ac wedi addef with rai o brif gymeriadau y pwll mai math o anturiaeth ar linell Gristionogol oedd ei waith yn dod yno. Bu iddo glywed am fywyd y bechgyn, am ansawdd beryglus eu goruchwyliaeth, a'r driniaeth oeddynt yn rhy aml yn ei gael, ac fod awyrgylch y pwll yr un mor fawr ei alanas ar gymeriadau y bechgyn ac ydoedd natur beryglus y gwaith ar eu cyrff, ac wedi dod yn swyddog un o'r pethau cyntaf a wnaeth oedd edrych allan beth allai ei wneud tuag at helpu i buro yr awyrgylch aflan, ac mor aml y delai i wrthdarawiad a'r elfennau niweidiol hynny, dyfnaf ei gydymdeimlad, a chryfach ei awydd i geisio ei symud ymaith, ond un o'r anhawsterau mwyaf ynglyn a'r gwaith hwn ydoedd y ffaith mai fel dieithrddyn yr edrychid arno gan y mwyafrif o'r swyddogion, yn wir, gan lawer o'r gweithwyr, ond daeth y ffaith ei fod wedi ennill y dystysgrif fwnawl uwchaf gyda'r fath anrhydedd a chyflymdra, a rhyw gymaint o allu o'i du i'w ymgais foesol arwrol ynglyn a'r lofa; ond yn fwy aml na dim, ei wawdio gawsai pan roddai gynnyg ar geryddu y rhai hynny oedd ddyfnaf eu llygredd mewn iaith aflan a difoes, ond er hynny ni ddigalonai Jarvis.

Wedi cyrraedd y talcen giô, talcen oedd hwn yn y wythien seam leiaf yn y pwll, a phan fyddai'r wythien ar ei goreu, ni fesurai fwy na deunaw modfedd i ddwy droedfedd o drwch, a chan mor fach y wythien hon, byddai y talcen, neu y wyneb lô a ddaliai y set yn mesur yn aml gan llath o hyd, a'r ffordd yr arferent lusgo y glô ar hyd y talcen oedd drwy wregysu y plentyn i dynnu ôl a blaen y petch (math o dwb llysg) a gwaith a sôn mawr am dano y dyddiau hynny oedd y gwaith o dynnu'r petch. Gwaith anodd, ac ar lawer ystyr, peryglus, a chyn diwedd y dydd, yn aml, byddai ystlys dyner y plentyn yn goch gan waed, effaith y gwregus ar ei gnawd noeth.

Bu i Jarvis glywed am y driniaeth greulon hon yn nhŷ Ann Jones, gan rai o'r mamau, a'r modd yr oeddynt yn gorfod trin, hyd ddagrau ystlysau gwaedlyd eu plant.

Eisteddodd Jarvis ar lwmp o lô, ac yn digwydd bod wrtho ei hun, 'ym mhen y ffordd fel y'i gelwid yn y talcen, yn y man clywai sŵn y petch yn cael ei lusgo yn araf, a dyna ei sŵn yn aros. Yr oedd y petch wedi taro yn erbyn un o'r propiau, pa rai a osodid yn un llinell ar hyd wyneb y talcen. Gadawodd Jarvis ei lusern yn lle yr eisteddai, yna symudodd ar ei liniau ymlaen ychydig ar hyd y wyneb, ac eisteddodd yno i wrando. Yn y man dyna reg gan y plentyn, rheg drachefn, a chlywai yr hogyn yn gwaeddi ar yr un a'i llanwai yn y pellter, effaith gorlwytho y petch ydoedd yr anhawster a barai i'r plentyn regi.

"Wyt ti'n dwad Sion? Ella i mo'i symud o," gwaeddai, ond yr oedd y pellter mor fawr a'r top roof mor isel fel mai gwaith anhawdd ydoedd cael Shon i ddod ato.

"Mi floeddia i ar Shenkyn, os nad wyt ti'n dwad Shon," ebai y petchiwr bach drachefn. Ond erbyn hyn, yr oedd Jarvis wedi llusgo ei hun yn lled ddistaw i'w ymyl.

"Beth yw'r mater?" ebai Jarvis.

"Shon sy'n llwytho'r petch 'ma a ma'r—

"Ella i'ch helpu chi?" gofynnai Jarvis.

"Prin y gallai droi ato fy hunan yn y fan 'ma," ebai y bachgen gan ateb.

"Beth ydi'ch oed?" gofynnai Jarvis.

"Pymtheg," ebai y bachgen. Edrychodd Jarvis arno, ond nis gallai yn hawdd weled beth a'i rhwystrai yn y fath le cul, tywyll ac isel. Beth bynnag, cywirodd Jarvis anhawster y bachgen, yna llusgodd ei hun o'i flaen yn ol i ben y ffordd, ac yn y man cyrhaeddodd yr hogyn gyda'i lwyth glô.

Cyfodai tarth o niwl angerdd o'i gorff bach, eiddil, ac anadlai mor gyflym a phe buasai ar drengu.

Edrychodd Jarvis arno gyda dwyster dwfn. "Er's pryd 'de chi yn gwneud y gwaith yma machgen i?" gofynnai Jarvis yn y man.

"E's blwyddyn," atebai y plentyn yn ol, ac yhwanegai, "Ma' 'ne ddwy geiniog y dydd 'chwaneg yn ca'l i dalu am y gwaith tynnu."

"Rwy'n gweld," ebai Jarvis, "nid pawb sy'n ei hoffi." Ar hyn, rhoddodd ei law am ei wregys.

"Pwy sy'n g'neud hwn i chi? Ma' fo'n stwff 'ryff' iawn."

"Mam," ebai y bachgen. "Efo bradish ma' hi yn 'i neud o."

"Ia, mi welaf," ebai Jarvis (math o lian cryf ydoedd y bradish a ddefnyddir yn y lofa i drin yr awyrfa.)

""Pwy ydi'r cymerwr?"

"Lias Parri," ebai y bachgen.

"Lle mae o?" gofynai Jarvis.

"Y ma' fo'n safio yn y pen pella'r wyneb 'rochor ene," ebai y bachgen.

"Oes modd myned ato?" gofynnai wedyn.

Ma'r gob wedi'i g'neud, ond ellwch wthio o dan y glô.

"A dyna'r ffor' ma'r safiwrs yn mynd," ebai y bachgen. Rhoddodd ei betch yn ei le, a bachodd gadwer ei wregys wrtho, ac aeth yn ol.

"Barbareiddiwch noeth" ebai Jarvis wrtho ei hun, wrth wrando ar y crwt bach eiddil yn tynnu ei betch ar hyd y talcen i'w newid am betch llawn Shon; yr hwn erbyn hyn oedd yn gwaeddi gyda rhegfeydd am dano yn ol.

"Barbareiddiwch o'r fath ffieiddiaf," ebai drachefn. "Rhaid gwneud i ffwr' a'r fath beth creulon." Erbyn hyn. yr oedd sŵn y twb yn dod i fyny ffordd serth yn cael ei wthio gan lencyn lled gryf.

"Y chi ydi Mr. Jarvis? Gwenodd Jarvis arno. Yr oedd yn amlwg fod yna cryn ddiddordeb yn cael ei gymeryd yn y swyddog newydd gan y bechgyn.

"Ia, y fi ydi o," ebai Jarvis, a gwenodd y llanc arno gyda rhyw falchter o'i weled wedi dod i edrych am danynt i dalcen glô Lias Parri.

"Sut y gallai'i weled Parri?" gofynnai Jarvis.

"Does gen i ddim digon o lô ar y stage i lanw y twbyn," ebai y llanc, ac fel yn ymhyfrydu o gael ei wasanaethu rywfodd, "mi af i ben y gob i'r wast i floeddio arno," ebai, ac ymaith ag ef gan ymwthio o dan y glô oedd wedi ei safio oddi tano gan y dynion, a chlywodd ef yn gwaeddi ar Lias Parri, a dyma'r petchiwrmegis mul bach yn dod drachefn gyda'i lwyth glô i'r stage.

"Tyrd Twm bach," ebai yr un oedd gyda'r twbyn, "Ma' 'ne chance am dwbyn arall o'r siwrne, a ma' 'ne godwm ar y dyfn. Reit handy Twm bach," ebai drachefn wrth y petchiwr bach, diwyd, a gwrandawai Jarvis arno yn ei erchi heb ddweyd gair.

Pwy sy' 'ne?" ebe Parri.

"Y fi," ebai Jarvis.

Wel, ydw i ddim gwell efo nene," ebai Parri yn ol, a chwythai fe1 mochyn wrth lusgo ei hun o dan y glô isel.

"A chi sy' 'ne Mr. Jarvis," ebai, pan welodd ef, ac arosodd am ychydig ar ei hyd o dan y glô, a'i ben moel yn mygu gan agerdd chwys. Yr oedd Parri yn ddyn trwm a rhyfeddod fawr fod y fath ddyn corffol yn gallu symud yn y fath le cul, isel.

"Yde'ch chi'n dod trwodd?" gofynnai Jarvis iddo. "Well i mi ddwad.

"Gafel yn y lamp 'ma Harri." Estynnodd Harri y llusern o'i law.

"Y tro cyntaf i chi dalu ymweliad â ni, Mr. Jarvis. "Beth yw hyd y wyneb lô yma, Parri?," gofynnai Jarvis.

"Ma' ne falc yn rhedeg arno ni yr ochr yma, Mr. Jarvis, ac yn tori—rw bedwar ugien llath ydi hyd y wyneb."

"A dyma'r ffor' yde chi'n cael y glô i'r stage—'i lusgo fo." "Y petch bach 'de chi'n feddwl?" Ia, Mr. Jarvis," ebai Parri.

"Fyddai dim posib cael rels. Byddai lawer ysgafnach."

"Dyma'r ffor' erioed, Mr. Jarvis, ydi llusgo'r petch. Wrth gwrs, bum yn meddwl a soniais hynny wrth Mr. Stork ei hun—ond fynne fo ddim gwrando, gormod o gost, ac yn wir, ryde ni yn ca'l trafferth fawr i ga'l rels ar y ffor' wagen 'ma, yn tyde ni Harri?"

"Elsen gam ydi hona sy' o dan y twb 'ne rwan, Parri. Wel, does dim rheswm dryllio cyrff plant yn y modd




A chwytha: fel mochyn wrth lusgo ei hun o dan y glo isel.—tud. 98.



yma Parri. Pe cae chi dwbyn bach a rels odditano fyddai yn ennill i bawb—barbareiddiwch."

Yr oedd siarad o'r fath nodwedd ym Mhwll Llifon yn beth dieithr, ac ni wyddai Parri beth i'w ateb yn ol. Edrychodd arno am ennyd yna mentrodd siarad.

"Yn sicr, y mae yn ffordd front o weithio plentyn, Mr. Jarvis, ond ni chafodd y peth yna sylw gan swyddog erioed o'r blaen. Yn wir, ni feddyliai neb ddim ato, yn yr ystyr yna a deud y lleia. Fel y dywedais bum yn meddwl y buasem yn cael y glô i'r stage yn fwy hwylus ar hyd y wyneb pe ceid relwe.

"Caem yn sicr," ebai Jarvis, "ond y maeddu yma ar y plentyn yn ddiachos. Cywilydd i ni fel dynion! Ac rwy'n synnu atoch fel tadau yn goddef y fath driniaeth i'ch plant. Beth ydych yn dalu i'r bachgen?"

"Swllt a phump," ebai Parri.

Ysgydwodd Jarvis ei ben heb ddweyd gair. Dim mwy na gofyn a allai fynd ar hyd y wyneb i'r talcen nesaf.

"Na, dyna'r Malc, Mr. Jarvis."

"O ie, anghofiais," a gadawodd Parri a'r llanc.

"Dene ti dipyn o ddyn a dyn yna fo Harri," ebai Lias. Ia, dwi di clwed dipyn am dano fo," ebai Jarvis, " "—oedd o yn drwm efo Pit Black ddoe am yr un peth. "Wel, tae o ddim ond yn g'neud i ffwr' a tynnu'r petch i'r bechgyn 'ma, Harri, mi dalith i'r Brenin Mawr fod o wedi rhoi anadl yn 'i ffroene fo. Un o le ydi o dwad?

Ma' 'ne dipyn o sôn am dano Glwes di fel ddaru o fygwth yr hen Stampar. Mi ddaru fygwth rhoi cweir i'r hen Stampar am regi un o fechgyn y mulod. Ma' fo'n strict ofnadwy efo rhai sy'n rhegi, 'n enwedig y mân fosus ma. Bob lwc iddo fo."

"Ma' fo'n bloeddio Lias" ebai Harri.

Neidiodd Parri i'w lusern, ac i lawr y ffordd ag ef.

"Welwch chi'r fforch (prop) 'ma Parri, ma'r twb yn rhwbio ynddi, gwell ei thynu, cefais un o'r bechgyn wedi'i ddal yn y traws isa ddoe, gyda'r un peth. Tynnwch hi ymaith, Parri."

Alright," ebai Parri.

Cyn pen wythnos, yr oedd yr hen ddull brwnt ac anymunol o dynnu y petch gyda'r gwregys wedi ei ddiddymu ym Mhwll Llifon a'r cwbl trwy offerynoliaeth ddewr a rhesymol Jarvis, y swyddog newydd, a mawr yr edmygid ef am ei waith.

PENNOD XV.

AR ol dyrchafiad Jarvis i'r swydd bwysig o fod y swyddog nesaf i Stork ym mhwll mawr Llifon, aeth tŷ Ann Jones yn y Wal yn un o dai pwysicaf Pentref a Llan Llifon. Nid yn unig cyrchai plant a dynion yno i geisio gwaith ond erbyn hyn deuai ambell un i gymdogaeth y Wal na fuasai erioed yno yn flaenorol, a blinai hyn Ann Jones yn ddirfawr, a rhyfeddai sut na fuasai Mr. Jarvis yn symud oddiyno ar ei union wedi cael y fath ddyrchafiad, ond ni fynnai son, a phrin y cawsai Ann Jones awgrymu iddo ddim o'r fath beth, a'r cwbl a gawsai ganddo pan awgrymai hi fod ei thŷ yn anaddas i un mor bwysig ydoedd y mynnai dynnu'r Wal i lawr ryw ddydd, ac adeiladu tai cyfaddas i drigo ynddynt ar dir y Parc.

"Yr ydych yn siarad 'run fath a byddai Derwyn druan yn arfer siarad am y Wal Mr. Jarvis," fyddai ei hateb.

"Pwy bynnag ydi o, 'roedd o yn gweld 'run fath a fi yn hynny Ann Jones," ebai yntau. Ryw gabanod bach fel hyn i bobol ore'r wlad fyw ynddynt, ffei," ebai gyda'i lais cryf cadarn.

"Wn i ddim be' am bobol ore," ebai hithau.

Wel, os ydi pawb mor lân a phur a di-ddrwg a chi yn yn y Wal 'ma Ann Jones, mi dalia'i nhw i fyny ag unrhyw ddosbarth o bobl yn y byd mawr 'ma, a chan belled ag y gwelaf, y mae ryw urddas o'r natur yna yn nodweddu pob un o ferched y Wal 'ma. Rhai ffine dros ben ydw i yn eich gweld chi i gyd, a ma' nghalon i yn gwaedu'ch bod chi yn gorfod byw yn y fath dai bach anghyfleus, ond hidiwch mohono Ann Jones, fe gyfyd cewri ar y ddaear ryw ddydd—dynion iach eu calon, yn ddigon iach i ffieiddio peth fel hyn, ac yn ddigon gwrol i'w symud."

"Ddim yn fy nydd i mi wranta," eba Ann Jones, "ond ddaru mi 'rioed rwgnach at y lle ond mi faswn yn hoffi tase gen i le cyfaddas i ddyn fel chi—a ma' Bob 'ma o ran hynny yn reit fond o ddarllen, a tase 'ne blant bychin yma 'run fath a sy' yn rai o'r tai 'ma, fase ddim mor glen iddo fo allu iste 'i lawr, ond dwi'n teimlo yn swil ac yn gas pan ddaw rai pobol—"

"Dech chi ddim i feddwl ddim byd o'i le Ann Jones, yma mae Jarvis, a phwy bynnag sydd ag eisieu gweled Jarvis, rhaid iddo ddod yma i'w weled, ac at hynny deimlo rhyw fath o anrhydedd o gael dod i dŷ dynes fel Arn Jones. Nid am fod Jarvis yma cofiwch—a hwdiwch , dwi'n disgwyl merch Syr Alwyn yma o'r Plas heno."

"Be,—Be?" ebai hithau.

"Merch Syr Alwyn, perchenog y lofa. Ma' hi wedi gofyn am fy address i. Mae gen i rywbeth reit bwysig ar droed ynglyn â'r gwaith, a ma'r young lady yn teimlo tipyn o interest yna fo," Ann Jones.

Ddaw hi ddim yma os ydechi wedi rhoi address y Wal iddi Mr. Jarvis."

Daw Ann Jones, a bydd yn debycach o ddod. Yde'ch chi'n 'i hadwaen hi?"

"Wedi'i gweled hi droion, Mr. Jarvis, a dwi wedi clywed ei bod hi'n eneth syml, hawdd ei charu, fel byddwn i'n deud, a 'de chi ddim yn deyd bod hi yn dwad yma?"

"Wyddoch chi be Ann Jones? Dwi'n mynd i ddeud o wrthoch chi am y tro cynta, a mi wn y gwnewch chi gadw'r gyfrinach. Faswn i ddim yn ail swyddog ym mhwll Llifon oni bae am y foneddiges ieuanc hawddgar yna o'r Castell, yn siwr i chi."

"Wrth gwrs, y mae yn rhyfedd i ni gyd, Mr. Jarvis, sut y bu i chi gael mynd yn swyddog mor uchel, 'chos dene bachgen James Edmwnd, mi ddaru o ennill y second class a ma' fo 'di mynd i rwle i Yorkshire yn giaffar—er 'wrach y base fo yn cael mynd tase fo yn aros—"

"Wel, ni charwn feddwl fy mod wedi mynd i'r swydd ar draws neb o blant y lle Ann Jones, na charwn wir."

"Ma' pawb yn rhy falch o feddwl am danoch chi yn y swydd Mr. Jarvis, er fel y deudes i ma' fo'n ryfe ddod mawr i ni i gyd sut y bu i'r hen Stork adael i chi fynd mor agos ato fo."

"Dyna fi wedi egluro i chi Ann Jones, sut y bu hi, ac nis gwyr neb yn Llifon y newydd yna ond y chi, ac yr wyf yn ei disgwyl yma heno. 'Newch chi 'paned iddi?" "Y Bodolaeth mawr, Mr. Jarvis—Peidiwch—"

"Ann Jones,"—cododd Jarvis ei law arni. "O bridd y ddaear y crewyd pob dyn, ac yn ol fy mhrofiad onest, ddi-dwyll i, mae cystal gwaith o'r pridd ym mythynod Gwalia ag sydd yn ei phalasau unrhyw ddydd. Dyma chwi hanesyn bach i brofi beth wy'n ddeud: yr oeddwn yn digwydd cerdded ar daith fach cyn dod yma, ac yn digwydd galw yn nrws bwthyn ar fin ffordd i ofyn cyfeiriad. Yr oedd y drws yn agored, a'r peth cyntaf a welais gyferbyn a mi yn y tŷ oedd dynes ieuanc lân, brydferth, yn dod allan o lewyg drom. Yn wir, yr cedd yr olwg arni yn frawychus, ac euthum i mewn yn cefn—tŷ siambar ydoedd, a beth welwn yn y siamber yr hon oedd a'r drws yn agored ond hen hen wraig yn marw. 'Roedd hi yn y glyn Ann Jones, ac am ychydig ni wyddwn beth i'w wneud; ond rhedais i'r tŷ cyfagos ac yn fy nghwrdd yn dod i lawr llwybr y buarth tan hopian yn gloff 'roedd dynes arall tua thrigain oed efallai. "Ddynes fach," meddwn, "dowch i'r tŷ accw."

'Yn dwad ene 'roeddwn i Syr," ebe hithau. "Ma'n ddrwg gyna'i gadel hi, ond ma' gen i ferch ar wely cystudd. Dywedais wrthi wrth gyfeirio yn ol, am sefyllfa y ddynes ieuanc a welais.

"Ia, ebai, "dyw hi'n perthyn dim i'r hen wraig, ond ma' hi wedi mynnu aros i fyny efo'r hen wraig dair noson yn ddilynol, a 'dyw hi ddim yn gryf, ond fod ganddi galon gynnes."

"Ac yn perthyn dim iddi," ebwn.

"Dim."

"Yr oedd gloewder llygaid Jarvis wedi ei leithio wrth adrodd yr ystori fach hon i Ann Jones. Aeth ati i dynnu ei siaced. Yr oedd erbyn hyn wedi dechreu gwisgo dillad swyddogol y gwaith, o wneuthuriad glas tywyll.

Cydiodd Ann Jones yn ei siaced, gan feddwl y buasai unrhyw ur o ferched y Wal yn falch o gael gweini ar un o swyddogion uchaf Pwll Llifon. Yr oedd Bob yn gweithio shifft brynhawn, a meddyliodd mor hoff fuasai Bob o fod gartref y noson hon; ond efallai mai ryw goeg chwarae a wnaethai Jarvis a hi.

"Ydi mae merch Syr Alwyn yn dod yma heno Ann Jones," ebai drachefn wrth eistedd ar ei gadair, ac yr ydw yn siwr y gwna hi felly fwynhau yr ymweliad gymaint a hynny yn fwy. Dim seremoni o gwbl. Ryw fater bach cyfrinachol ynglŷn â rywbeth neilltuol sydd gennyf yn y gwaith ydyw, ac y mae, fel y dywedais, wedi addo fy helpu; ond rwy'n ddig wrthyf fy hun na fuaswn wed' gofyn eich caniatad iddi gael dwad, dyna'r unig beth sydd yn fy mlino."

"Mi geiff groeso fy ngwyneb i, yr un mor bur ag yde chwithe 'di ga'l o Mr. Jarvis."

Wedi gorffen ei ginio, cydiodd Jarvis yn ei bapur fel arfer gan danio ei bibell a thynnu ei gadair yn nes at y tân, a chan daflu ryw gipolwg dros y tŷ, gofynnodd

"Beth fydd gennych i ddeud wrth y foneddiges? Oes gyna chi ddim byd yn y tŷ 'ma ellwch chi ddangos a fydd o dyddordeb iddi?"

"Ddim mwy na fod y cartre wedi ei gadw i Bob bach yr un mor ffyddlon a gofalus ag ydi y Plas," iddi hithau, ac hwyrach mwy, Mr. Jarvis, ne' 'does dim byd arall gwerth edrych arno. Wrth gwrs, dene'r hen gader, fel 'de chi'n gwbod i ni ddeud wrthoch chi, y bu 'rhen Gristmas Evans yn arfer 'iste arni yn nhŷ fy nhaid—ne' dim arall. Pryd y daw hi?"

Gall fod yma rywle tua saith o'r gloch Ann Jones, canys gwn, neu credaf beth bynnag, nad yw y foneddiges ddim a'r awydd lleiaf i wneud arddangosfa o honi ei hun, felly tua saith mi dybiaf."

Yr oedd rhyw swyn rhyfedd yn y meddylddrych fod Aeres y Castell yn dod ar neges neilltuol i dalu ymweliad a bwthyn Ann Jones, ac os cafodd y cloc ei sylw unwaith, cafodd ef ganwaith y noson hon.

"Noson ryfedd ydi heno i chi Ann Jones," ebai Jarvis wrth ei gwylio.

"Y noson ryfedda' yn fy hanes ar lawer ystyr, os daw hi," atebai Ann Jones. A hawdd y gellid darllen hynny ar ei gwyneb pryderus, ac erbyn hyn yr oedd y nos yn araf daenu ei len ddu a hen fythynod y Wal yn cael eu prysur guddio o olwg y byd, tra dwndwr y pentref yn araf ddistewi, a swn yr afon droellog, yr hon oedd yn cael ei gwaedu yn wyn gan y torlannau cerrig a orweddai yn ei gwely—yn dod yn fwy hyglyw gyda'r nos, canys am y wal fach yng ngwaelod y buarth yn y ffordd y rhedai hen afonig wyllt Llifon, wedi ei chynddeiriogi gan y dolydd serth, a byddai Ann Jones yn hoffi aros wedi'r nos, am fynydau bach i wrando cwyn yr afon, ond nid felly heno, yr hen gloc a dyna'i ei sylw yn ddibaid.

"Ydi Syr Alwyn ei thad hi yn gwybod fod hi yn dwad tybed?" gofynnai yn y man.

"Y mae Syr Alwyn i fyny yn Llundain ers wythnos Ann Jones, a digon prin y buasai hi yn anturio pe buasai ei thad adref," ychwanegai.

"O dwi'n gweld, da iawn," ebai. Roeddwn ni yn ryw ofni i'w thad ddwad efo hi."

A daeth y newydd hwn a rhyw lun o sirioldeb i lygad y wraig, ac o'r funud yna, daeth awydd angerddol am ei gweled, ac erbyn hyn aeth i eistedd gyferbyn a Jarvis, a gweill ei hosanau i ddilio'r munudau ymaith.

Fflachia goleu y tân ar ei ffender loew, a chodai hithau ei golwg yn awr ac eilwaith i syllu ar wyneb Jarvis, gan ryfeddu pwy—pwy yw y fath un sydd wedi gwneud fy mwthyn yn fan hynod, y lle hynotaf yn Llifon i gyd, meddyliai. Pwy? gofynnai drachefn, ond yr oedd Jarvis. erbyn hyn wedi colli ei hun ym myd ei lyfr, ac ymddangosai ef bellach fel na byddai dyfodiad Eurwen o unrhyw bwys iddo, er caffai y cloc ryw syll sydyn ganddo yn awr ac eilwaith; ond byddai arfer gwneud hyn wrth ddarllen, canys yr oedd ganddo reoleiddiad fanwl arno ei hun pan yn darllen, gan waeth pa mor ddiddorol fyddai ei lyfr, ni chaffai ei ysbeilio o funud os na fyddai yn werslyfr.

Cododd ar ei draed yn sydyn.

"Ydi hi yn dwad?" gofynnai Ann Jones, gan arafu ei gweill.

"Pwy?" ebai yntau, yna, chwarddodd yn rhadlon. "Yr oeddwn wedi'i anghofio. Yr oeddwn yn bell gyda ryw fater yn y llyfr 'ne," ebai. Ydi, ydi, ydi, dy ma hi i chi'n siwr."

"Ewch chi i'r drws, Mr. Jarvis," ebe Ann Jones wrtho. "Af," ebai, a cherddodd at y drws. Yr oedd swn ysgafn droed cyflym yn dod i fyny y buarth, a dyna guro ysgafn a'r drws yn cael ei agor.

"Yr wyf wedi llwyddo Mr. Jarvis. Y chweched drws oddiar y Bont. Yr oedd gennyf ofn methu, a dyma lle yr ydych yn aros.

Siaradai yr Aeres deg fel pe wedi ei gollwng o afael ryw lu o ofnau, er hynny, gwibiai syll ei llygaid fel pe buasai yn nwylo ryw ysbrydion gwamal.

"Ie, tan ofal y ddynes garedig yma yr wyf yn aros, Miss," ebai Jarvis, tan estyn ei law iddi a than araf symud y naill i gyfwrdd y llall. Eurwen a holl rym serch ei bodolaeth o'r llygad oedd yn wefr o fwynhad, tra gwyneb araf, eiddgar Ann Jones, yn dwyn ryw fath o argraff mai prin y gallai sylweddoli fod Aeres y Castell yn estyn ei llaw wen iddi yn ei bwthyn bach llwm.

Gobeithio nad wyf ddim yn eich digio," ebai, "wrth gymeryd yr hyfdra i ddod i'ch tŷ heb fy ngwahodd Ann Jones?"

"Y fi sydd yn gyfrifol am hynny," ebai Jarvis.

"Does dim angen i hynny boeni yr un o honoch," eba Ann Jones. "Mae y mwynhad o gael eich gweled yn fy nhŷ yn rhywbeth nas gallaf roddi pris arno," ebai yn mhellach. Yna, aeth i estyn cadair iddi, a gafaelodd Jarvis yn ei gadair yntau, y naill am y bwrdd.

"Y mae eich tŷ yn hynod o lân a phrydferth," ebai Eurwen. "Yn dlws, yr wyf wedi synnu mor—, y mae yn anhawdd cael gair i'w egluro Ann Jones—yn dlws," ebai drachefu gan godi ei golwg ar y mur a'r hen silff dderw oedd yn gorffwys ar yr hen ddreser o'r un defnydd. "Ac y mae Mr. Jarvis yn siwr o fod yn hapus mewn lle fel hyn. Dim llawer i rodres yma rwy'n siwr," ebai, "ac nid yw'r dynion fel rheol yn hoffi ryw lawer o rodres."

"We1, y mae yn lle rhyfedd i un fel chi ddod iddo yn siwr, fy merch. Un o dai y Wal, ac yn wir nid llawer o fobol y llan 'ma sy'n hoffi dwad i dŷ yn y Wal. Ryw fobol ryfedd sy'n byw yn y Wal, medde nhw. Ond dyma ni fy merch, yn weddol hapus, ac yn neilltuol felly, yng nghwmni dyn mor glen a dirodres a Mr. Jarvis 'ma."

"Wel, yr wyf wedi meddwl llawer am gael dod i weled un o dai y Wal, ac y mae fy nhad i fyny yn Llundain, a meddyliais na fuaswn byth yn cael gwell cyfle na heno, ac wrth gwrs y mae gennym ryw fater bach i'w drafod, a dyma mewn gwirionedd roddodd y cyfle i mi ddod yma. Yr ydych yn byw yma ers talwm?"

"Yma y daethum i fyw ar ol priodi, ac yma yr wyf byth ac yma y byddaf mae'n debig."

"Nid eich hunan?"

"Na ma' un bachgen gennyf—y mae yn y Pwll y.. gweithio."

Yr oedd Ann Jones wedi gosod y bwrdd mor drefnus ac y gallai—ychydig o flodau gwyn ar ganol y bwrdd, a rhyw fath o Album y teulu.

"Am funud bach, caf weled eich Album," ebai Eurwen "Fel y mae o," ebai Ann Jones. "Fawr dim gwerth ei weled ynddo. 'Does 'ne lun neb ddylse fod ynddo. Ddim cymaint a llun 'i dad."

Agorodd Eurwen yr Album, a rhoddodd ei sylw ar un waith i rai o'r darluniau.

"Llun Ewythr Bob yw hwn, a dene lun c'nither iddo yn y Merica a'i mam, a lodes annwyl yn edrych ydi hi. Aeth i ffwrdd yn faban gyda'i mam, a dyna lun hen fodryb i mi yn Birmingham—wedi marw bellach."

Yna, trodd Eurwen ddalen arall, a phan agorodd hi y ddalen daeth gwrid i'w wyneb, ond mynnai drwy'r cwbl ddal i edrych arno.

"A dyma lun Derwyn Wmphreys. Glywsoch am dano," ebai Ann Jones. "Un o fechgyn gore' y Pentre 'ma, y wlad 'ma wir. Me' yate'n y Merica—yr ydych yn ei adnabod?"

Ydwyf," ebai Eurwen, a'i grudd heb ddarfod llosgi a'i dau llygad wedi ei hoelio megis ar y ddalen, ac ebai ymhen ychydig amser, "Y mae digon o le i fechgyn o stamp Derwyn yn ein gwlad ni Ann Jones, heb anturio i'r America. Biti ei fod wedi mynd. Ryw wanc anturiaethus am gyfoeth mae'n debig?"

"Na, dwi ddim yn meddwl felly am dano fy merch, er dya syniad pawb am dano; ond bachgen rhyfedd oedd Derwyn, ac yn y tŷ yma roedd o ddwytha cyn myned gyda Bob; ond wydde ni ddim o'i fwriad o."

Daliodd Eurwen i syllu yn hir ar y darlun byw o Derwyn yn yr Album, a'i grudd 'bellach wedi ennill yn ol ei phrydferthwch. naturiol. Yr oedd mam Bob wedi sylwi ar ei gwynebpryd a mentrodd ofyn iddi drachefn.

"Oedde chi yn ei adnabod?"

"Buaswn yn caru ei adnabod yn well; ond ni chefais y cyfle a hoffwn. Dyna'r gosb o fyw mewn palas Ann Jones, cael eich halltudio oddiwrth bethau goreu'r byd—bechgyn glan Gwalia—bechgyn y bythynod. Yr oedd Eurwen eto yn ymladd yn erbyn y gwrid a fynnai yr orsedd ar ei grudd brydferth.

Daeth Ann Jones i deimlo fod ei bwthyn yn ryw fath o nef fach i Eurwen. Yr oedd rhywbeth mwy na chywreinrwydd noeth i'w ganfod ar y modd hamddenol ac hunanfeddiannol yr eisteddai tra Jarvis yn ymwneud a rhyw bapurau oedd ganddo ar y bwrdd, ryw ryddhad oddiwrth y rhodres a'r ysfa ymddangosiadol a nodweddai y cylchoedd a arferai droi ynddo, a chyda cryn anhawster y gallai y wraig gadw yn ol yr awydd a'i temtai i gael mwy o gyfrinion bywyd un oedd yn byw mewn byd a chymaint o wahaniaeth ynddo i'w byd bach digyffro hi yn y Wal.

"Yr ydych yn gweled llawer fy merch?"

"Gweled pob gwlad o'r bron. Mae fy nhad yn hynod hoff o deithio. Y mae ar drefnu i ni'n dau fynd i Dde'r America, a chyda llaw fy nghynllun i yw hynny. Patagonia y Wladfa Gymreig, rwy'n ceisio fy ngore iddo gydsynio a mi gael golwg ar y wlad honno. Wn i ddim sut y try hi; ond y mae yn Llundain ar hyn o bryd, ac yr wyf fel aderyn wedi ei ryddhau, ac o ganlyniad dyna'r daith fwyaf a wnaethum erioed Ann Jones—dod i dalu ymweliad a chwi yn y Wal 'ma, a rhoddodd gilwen fach ar Jarvis wrth ddweyd hyn a chwarddodd yntau.

"Ie, taith go fawr yn wir Miss," ebai yntau.

"Ah, ddim mor fawr i mi," ebe hithau. "Mawr yn syniad rhai pobl efallai. Wyddoch chwi rwy'n cael mwy o fwynhad mewn cyngherdd da neu 'Steddfod yn y Pentre 'ma nag ydwyf yn gael yn unman arall. Wn i ddim be sy'n cyfrif am dano, os nad fy ngwaed Cymreig—ond 'wrach fod Mr. Jarvis ar frys. Mae gennym ryw 'Conference' bach Ann Jones, a dyna sydd i gyfrif, gafaelodd yn yr Album eilwaith, a thaflai ei ddalennau ol a blaen, fel yn anymwybodol, ac ar ddamwain megis, aeth i syllu drachefn ar lun Derwyn ynddo.

"Fase chi'n hoffi cael hwne?" gofynnai Ann Jones.

"Rhowch o iddi Ann Jones," ebai Jarvis. "Mi af fi yn gyfrifol am dano i Bob."

"Na, na, na," ebai hithau, neu bydd son mwyaf am danaf. Roeddwn i yn meddwl dim am hynny, ond iddo ddigwydd—rwan Mr. Jarvis."

"Dyma gynllun o'r badge " ebai Jarvis.

"Yr un ac oeddych yn son am dano?"

"Ie, wna fo y tro?" gofynnai.

"Y mae i'w wisgo fel arwydd yn y pwll. Yn wir, ym mhobman. Bydd yn arwydd fel aelod o'r Urdd."

Edrychodd Eurwen arno, a cheisiodd ei ddarllen—' Yr Urdd Wen, ac ar ganol y badge. 'Y neb a gablo, a ddirmyga ei hun,' a dyna'r estimate—deg punt?"

"Ie," ebai Jarvis.

"Yr ydym ar fedr sefydlu math o urdd i helpu y bechgyn yn y Pentre 'ma Ann Jones. Math o glwb. Y mae Mr. Jarvis fel un o brif swyddogion y pwll; yn wir, efe ei hun sydd wedi rhoddi genedigaeth i'r syniad."

"Mae yma falchter mawr yn y Pentre 'ma," ebai Ann Jones, "fod Mr. Jarvis wedi cael ei wneud yn swyddog yn y pwll, balchter mawr," ebai drachefn.

Mae gennym le i gredu," ebai Eurwen, a'i llygaid wedi sefyll ar Jarvis, tra yntau yn dal yn ol wen helaethach oedd yn mryd ei galon. Rhoddodd besychiad bach, tra ryw wen yn wan chwarae ar ei rudd.

"Oes, mae gennym le i gredu y cawn fwy o achos i edmygu, a bydd y symudiad yma o'i eiddo yn rywbeth na fu erioed ei fath yn Llifon i'r dynion ieuanc. Ryw fath o University fach gartrefol i feithrin pob awydd iach yn ein bechgyn i sicrhau y pethau goreu ynte Mr. Jarvis?" ebai.

"Dyna'r idea Miss," ebai yntau.

Am beth amser ym mhellach, estynodd Jarvis ychydig o nodau un ar ol y llall—llythyr gan un, llythyr gan arall ynglyn a'r symudiad. Yr oedd ychydig anhawster ynglŷn â'r cyfarfod nesaf—math o gyngorfa i drefnu. Yr oedd hwnnw i fod yn un o'r capelau neu yn hytrach yn un o ystafelloedd yr ysgol.

"Nos Lun—a allwch ddod?"

Cododd Eurwen ar ei thraed, a tharodd rodd fach yn llaw Ann Jones, cyn mynd o honi ymaith.

PENNOD XVI.

YR oedd y symudiad newydd hwn o eiddo Mr. Jarvis gyda dynion ieuanc Llifon yn tynnu cryn sylw, a'i ddylanwad yn gymaint fel o'r braidd na chywilyddiai yr Eglwy si at y fath lwyddiant, dim ond trwy offerynoliaeth dyn ieuanc dieithr penderfynol—y fath allu rhyfedd! Yn wir, yr oedd yn fath o wyrth, fel oedd wedi llwyddo i gael dynion a bechgyn y pwll mawr i arfer iaith lân. Yr oedd hefyd wedi llwyddo trwy gynorthwy neilltuol Eurwen i gael gwasanaeth nifer o athrawon priodol i roddi gwersi ar wahanol faterion ynglyn a'r sefydliad, ac edrychid ymlaen yn lled fuan at gael adeilad newydd perthynol i'r Urdd. Yn wir, yr oedd ei hanes yn myned led—led y wlad a rhoddid sylw iddo yn y newyddiaduron, ac erbyn hyn dechreua'r cylchgronau crefyddol gynhesu eu dalennau a hanes y mudiad yn gymaint felly fel y delai dynion cyhoeddus o wahanol barthau y wlad i gael gweled drostynt eu hunain ac at hynny gael eu cyfarwyddo gan Mr. Jarvis o barthed i'r drefn a weithredai.

Byddai Jarvis fel rheol yn gorfod treulio cryn amser yn ei swyddfa wedi iddo esgyn o'r pwll, ar ddiwedd y dydd, a chan amlaf erbyn hyn, dyna'r lle sicraf i gael gafael arno cyn hwyrhau o'r dydd.

"Ym mha le y gallaf weled Mr. Jarvis?" ymholai dieithrddyn yn y Llan.

"Yn office y gwaith Syr." Yr oedd hyn tua pedwar o'r gloch, a'r glowyr yn cyrchu adref o'r pwll yn lluoedd.

Yna aeth y dieithrddyn ar ei union fel ei cyfarwyddwyd ef, at swyddfa y pwll, a holodd am Mr. Jarvis, a chafodd ef yno.

"Maddeuwch i mi am fy hyfdra. Yr wyf yn wedi dod o gryn ffordd i'ch gweled Mr. Jarvis, ac mae y train yn myned yn ol am bump o'r gloch, felly, chwi a'm esgusodwch."

"Gyda'r croesaw mwyaf," ebai Mr. Jarvis, "er yr oeddwn ar gychwyn adref, ond dowch i mewn."

"Mr. Kenin Jones, y Borth, dyna fy enw, ac wedi cael achos trwy ddarllen a chlywed am eich llwyddiant gyda dynion ieuanc y cylch i benderfynu dod i gael gweled i sicrwydd yn ei gylch; ond ni feddyliais eich bod yn swyddog yn y pwll."

"Ydwyf er's peth amser bellach," ebai Jarvis, "yn ngrym y swyddogaeth, y mae yn rhaid i mi ddweyd yr wyf yn llwyddiannus—yn wir, dyna paham yn bennaf y bu i mi wneud ymdrech i gymwyso fy hun i'r swydd—y fath gyfle."

Edrychodd Kenin Jones arno gyda mudanrwydd synedig, canys gwelai yn sefyll o'i flaen ddyn lled ieuanc a gweledigaeth neilltuol ganddo.

"Welwch chi'r pwll 'ma?" ebai Jarvis.

"Y mae yn waith mawr, yn ddiau," ebai Jones. Ac edrychai drwy'r ffenestr ar yr adeiladau peiriannol enfawr a'r llu o adeiladau eraill ynglŷn a gwahanol adrannau y gwaith.

"Ydyw, ebai Jarvis, mae tros fil o eneidiau yn disgyn iddo bob dydd, a'r rhan fwyaf yn ddynion ieuanc, ac y mae plant mor ieuanc a thair ar ddeg oed—nifer fawr o honynt yn disgyn iddo, a dyna be sy'n rhyfedd, mae ychydig ofal dros gyrff y cyfryw —dim digon o lawer yn cael ei gymeryd ond dim gronyn dros y cymeriad. Yn wir, can belled ac y cefais i ef, yr oedd y pwll mawr yma megis ryw beiriant anferth yn darnio cymeriadau y plant a'r dynion ieuanc. Yr oedd yr iaith a arferid yn arswydus; a dim gronyn o ofal gan neb dros hynny.

"Rwy'n gweld," ebai Jones. "Ac yr ydych yn ei gymeryd felly fel y rhan bwysicaf o'ch swyddogaeth i helpu y bechgyn arferyd iaith lân yn y pwll?"

"Ydwyf, dyna yn hollol fy syniad. Yr oeddwn wedi clywed gymaint am anhawster y plentyn yn y pwll, a'r modd yr oedd swyddogaeth anheilwng yn ei drin, fel y penderfynais wneud yr hyn a allwn i'r cyfeiriad yma, a mwy, yr wyf yn cael allan ei fod yn troi yn llwyddiant yn ei holl ffurfiau. Mae y dygiad allan ar gynnydd; ond nid yw hynny ddim yn ymyl pethau mwy. Y dydd o'r blaen yr oeddwn yn digwydd sefyll o'r neilltu mewn lle neilltuol ar lawr y pwll, ac yn gwrando is-swyddog yn rhegi bachgen bach yn ddychrynllyd, yn gymaint felly nes ei arwain yn amhwyllog, a bu bron iddo achosi damwain enbyd o'r herwydd, ac oni bae i mi neidio i'r adwy buasai y ddamwain yn anocheladwy, a hynny trwy'r amhwylledd yn cael ei achosi fel y dywedais, ac y mae mwy ynddo nag a feddyliais cynt ynglŷn a damweiniau y lofayn sicr. Wel nid fy lle i yw dweyd am y llwyddiant. Y mae y llwyddiant yn siarad drosto ei hun ym mhob ffurf. A gyfarfuasoch chwi a'r glowyr wrth ddod at y pwll?"

"Do," ebai Jones.

"A welsoch chwi y badge?"

"Do, beth amae yn ei olygu?"

Golyga fod pob un sydd yn gwisgo badge yr Urdd wedi arwyddo ei fod hyd eithaf posibl yn ymgadw rhag defnyddio iaith aflan a di-foes yn y pwll, ac y mae y rhan fwyaf o honynt yn ei wisgo. Gallaf fynd a chwi at bersonau yn y Pentref 'ma oedd yn hynod fel cablwyr. Yn wir, yr oedd yn arswydus i wrando arnynt, ond heddyw y maent Wel—" yna daeth deigryn gloew mawr i leithio llygad mawr byw Jarvis, a syllodd Kenin Jones arno yn ddwys. "Dosbarth fine o bobl ydyw'r glowr Mr. Jones. Yr wyf yn eu caru, ac nid yw hyn ond un rhan o'r gwaith Syr. Yr ydym gynted ag y gallom yn bwriadu codi adeilad cyfaddas i ddiddori a diwyllio y plant. Y mae y plans yn cael eu tynnu, ac y mae i fod yn adeilad gweddus. Bydd o leiaf yn rhyw fath o gofadail i ddangos beth ellir ei wneud. Yr wyf yn rhyfeddu Syr leied sydd wedi ei gyflawni o hyn yn ein gwlad—gwlad ac yr addefir fod diogelwch yr ymerodraeth fawr wedi ei ennyn trwy gyfoeth ei glo a dim cywilydd. Wrth gwrs, dylwn ddweyd hefyd fy mod wedi cael cynorthwy llwyraf Miss Eurwen o'r Castell, un o'r ychydig foneddigesau ieuanc hynny sydd yn wir addurn i'n gwlad. Ydyw, y mae yn llwyddiant perffaith."

"Wel, yr ydych yn haeddu y gefnogaeth lwyraf," ac ar hyn tynnodd Kenin Jones o'i logell lythyr, a daliodd ef yn ei law am ychydig funudau.

"Nid wyf am eich cadw" meddai, "ond yr wyf yn falch nodedig o gael y cyfle hwn i'ch gweled a chlywed am y gwaith da. Y mae y llythyr hwn wedi ei roddi i mi i'w drosglwyddo i chwi gan un sydd wedi cymeryd cryn sylw o honoch, ac yn wyf wedi cael siars ganddo i'w adael i chwi ei agor, wedi i mi fyned ymaith."

Edrychodd Jarvis ar y llythyr oedd yn ei law, a gwên lydan ar ei wyneb, tra yr estynnai Kenin Jones ei law iddo i ymadael.

"Diolch i chwi," ac aeth y dieithrddyn ymaith, gan adael Jarvis yn ei swyddfa gyda'r llythyr seiliedig.

"Pwy allai y dyn yna fod tybed?" ebai, gan agor y llythyr yn frysiog. "Yr oedd ei lais yn debig i Syr Alwyn, a'i osgo yn debig, ryw frasgam gadarn, yr un mor dal, a lled ei ysgwyddau yn gyfartal iddo, a thra y darllenai, gwelodd ar unwaith y modd y dewisodd y Marchog dalu gwarogaeth am ei waith gyda bechgyn y pwll. Mil o bunnau yn rhodd at yr adeilad newydd gan Syr Alwyn ei hun. Eurwen eto, ebai, ond yr oedd gwaith anhawddach yn ei aros.


PENNOD XVII.

ERBYN hyn yr oedd amryw lythyrau wedi dod o'r America oddiwrth Derwyn i'w dad a'i fam i'r Bryn, a phob un o honynt yn dwyn argraff bendant sicr eu bod wedi eu hysgrifennu gan y bachgen at ei rieni, a rhoisai hyn foddlonrwydd i'r fam a'r tad. Rhai o honynt yn disgrifio yr hyn a welsai yng ngwlad y Gorllewin, a phob un o honynt yn rhoddi argraff lled foddhaol ei fod yn dal i ennill iddo ei hun yr hyn a ddisgwyliasai y bachgen. Y tri mis cyntaf a gawsai yno yr oedd wedi bod fel clerc yng ngwasanaeth ffirm yn Chicago, cwmni oedd hwn yn trin coed i'w hallforio; ond am resymau neilltuol gadawodd hi, a daeth ei gyfathrach a llanc o Sir Fôn yr hwn a'i perswadiodd i adael Chicago a mynd am y cloddiau aur, ac, yn yr argyfwng hwn bu yn dipyn o bryder i'w dad a'i fam; ond cyn hir daeth y llythyrau drachefn yn dwyn tystiolaeth ei fod wedi cefnu ar y cloddiau aur, ac ei fod wedi ateb ryw hysbysiad o New York, am le mewn swyddfa cyfrifwyr. Bu yn y lle hwn eto am rai misoedd a thra yr oedd yma gwnaeth Mr. Parri, gweinidog Bethel ymdrech neilltuol i'w gael i gysylltiad a ffrynd neilltuol iddo yr hwn oedd fasnachwr lled bwysig mewn rhyw ran o'r ddinas bwysig; ond er ei holl ymdrech ni bu llwyddiant. Ysgrifennodd amryw lythyrau ato yn ei gylch, gan roddi enw y swyddfa a'r holl fanylion gawsai trwy lythyrau Derwyn, ond ymddengys na wyddai ei gyfaill ddim am danynt, ac nid oedd yn hollol sicr a oedd y ffirm mewn bodolaeth ai peidio. Gallai fod ac wedi diflannu neu droi yn fethiant. Dyna lun o sylwedd a gawsai Mr. Parri yn y llythyr olaf a gawsai gan ei ffrynd. Ymhen ychydig amser, daeth llythyr eto o Chicago. Yn wir, oddiyno y digwyddai yr holl lythyrau ddod oddi wrtho. Tra yn cloddio ni chawsant gymaint ag un, a thra yn New York ni chawsant un, ac yr oedd hyn yn ddyryswch mawr i'w rieni.

"Ond bechgyn ydi bechgyn " ebai y fam, ac hwyrach na fase tithe damed gwell Nel. "Ac wedi i feddwl y fam gael ei sefydlu ar y bachgen yn yr America, y fam oedd yr unig un o honynt a daflai heibio ei holl ddiffygion—ei Derwyn hoff."

"Dyna'r haf diweddaf," ebai drachefn wrth Nel, y mis buost ym Mhwllheli gyda Janet, dau lythyr a ddanfonaist gartref, dim ond dau Nel, a be wyddom am anhawsterau Derwyn, 'wrach fod 'i bocied o ddigon gwag am ddim a wyddom." Ac ni allai ei fam oddef dim gael ei ddweyd yn anffafriol am Derwyn—dim. Yn wir, yr oedd y llythyrau a ddanfonasai i'w fam, er iddynt fod yn hir ac yn anaml, yn cynnwys y fath wefr o deimlad nes ymlid ymaith pob ryw gas feddyliau am dano, a phan fyddai gobaith ei dad ar suddo neu yn gwanhau, byddai y fam yn gwneud i Nel ddarllen un neu ddau o lythyrau Derwyn iddo, gan nad pa mor bell yn ol oeddynt.

"But it is a forced contentment Mary," torai allan i ddweyd. Rywbeth yde ni yn allu ei fanufactoro yma, yn lle fod o yn cael ei fanufactoro yn yr America 'ngeneth i." A rhedai meddwl ei dad i'r dref i swyddfa brysur enwog Mr. Rasp, ac yr oedd wedi gweled Mr. Rasp ryw bythefnos yn ol, ac yn cael ryw fath o edliwiad ganddo, fod y grisiau a ddylasai fod yn cael ei dringo i fyny yn ei swyddfa gan Derwyn, yn cael eu dringo gan arall, ac yn ei dyb ef, Mr. Rasp, un llawer llai ei allu a'i gymwyster na Derwyn yn ei dringo, ond dyna'r ffaith, ac i chwerw'r ymwybyddiaeth, mab i Cynon Edwards y ffarriar ydoedd hwnnw, un o elynion penntaf tad Derwyn yn Llifon,—ei wrth ymgeisydd pendant dro ar ol tro, am ei sedd ar y Cyngor—ryw gidlim o fachgen fel y galwai tad Derwyn ef.

Glywest ti fod Bobi Edwards wedi ei godi yn Office Rasp Nel?" gofynai y fam.

"Mae' fo'n fact i chi," ebai y tad.

"Wele, dene chi fachgen na fase fo byth wedi pasio dau standard yn Ysgol y dre, one bae am help Derwyn. Rwyf yn cofio iddo fo grio fel plentyn fod Derwyn yn gwrthod gwneud i lesson o ar Geometry—rywbeth rhwng Derwyn a fo ar y pryd, a dene fo yn sefyll yn sgidie Derwyn megis. Rwy'n fecsio tros tada, a ma' Mr. Parri yn fecsio mam. Roedd o wedi bod yn siarad efo Mr. James yr head, a Mr. James ar unwaith yn holi am Derwyn, a wydde Mr. Parri ddim yn iawn be'i ddeud wrtho fo, ond fod o yn yr America wrth gwrs."

"Roedd roedd Mr. James yn meddwl y byd o Derwyn. Nid yn unig un o'r bechgyn gore, medde fo, ond ur o'r bechgyn anwylaf fu 'rioed tan 'i ofal o, ond fyddai yn meddwl yn aml Nel, mai'r anffawd fwyaf i rai fel ni ydi meddu y rhinweddau tyner yma, a dwi' wedi sylwi ma' nhw fel rheol yn cloffi'i bobl ore, fel ryw fath o lyffethair, a mi ddeudes lawer wrth Derwyn ar gownt mynd i'r Wal, ono 'roedd o yn byw ac yn bod efo Bob Jones, pob munud gaffe fo."

"O, 'roedd hynny yn ddim i'w yrru o i'r 'Merica mam, er ddeudes ine ddigon wrtho fo ar gownt mynd i'r Wal i dŷ Ann Jones, ond tydi hynny yn ddim byd mam," ebai Nel eilwaith.

"Ydi, ma' 'ne rywbeth yno fo Nel," ebai 'i mam yn ol. "Ma' 'isio i blant sy' 'di cael addysg fel chi gadw'n glir oddiwrth—ma' ymwneud a lleoedd fel yma, a phobol o'r fath, yn siwr o gael ryw argraff arnom, ryw ffordd neu gilydd, a dene oedd siarad Derwyn fyth a hefyd, oedd am dai pobol y Wal. Be fase fo yn neud a nhw tase fo yn gallu, ac fel fase fo'n hoffi gwneud fel hyn a gneud fel arall i wahanol bobl. Dene 'i siarad o beunydd, ac 'wrach fod ryw awydd yn codi o'i natur o, natur garedig, ryw awydd i feddu cyfoeth mawr, neu gyfleustra. Ma' ne rywbeth fel ene i gyfrif am dano fo yn siwr i ti Nel; ond gawn weld be' fydd ganddo fo i ddweyd yn 'i lythyr nesaf. Mi fu Charles 'i ewythr yn hir wedi iddo fo fynd ono yn cael gafel 'i droed—a 'wrach ma' felly bydd hi efo Derwyn, a rwyt ti wedi gyru?"

Do, ma' address fy ewythr Charles gyna go mam, a tase fo yn mynd at fy ewythr, mi fase yn siwr o job iawn."

"Wel, mi gawn weld beth fydd yn y llythyr nesaf," ebe'r fam eilwaith.

Ymhen ryw dair wythnos, daeth llythyr drachefn oddiwrth Derwyn llythyr a mwy o galondid ynddo, fel y dywedai ei fam. Yr oedd erbyn hyn, fel y darllenai y llythyr, wedi derbyn lle mewn swyddfa fawr bwysig, eithr nid enwai natur y swyddfa, a mwy na'r cwbl wedi taro ar gyfaill ieuanc hoffus ganddo, un o ymyl Aberystwyth.

PENNOD XVIII.

YR oedd yn brynhawn prydferth tua diwedd Ebrill y llechweddau wedi glasu yn llawn ar ol hir lwydni y gaeaf. Chwareuai wyn ar y ddol, godre yr hon oedd wedi ei wisgo a llwyn o goed ieuanc, a'i ddail yn ymrwyfo yn yr awel gyda ryw ysgafn gysgod arianaidd yn ymlithro drostynt. Yna, wrth ei odrau rhedai aber fach loew tan sisial is-don o alaw, heb fod yn rhy leddf i ddiffodd y berori fwyn a arllwysid o'r llwyn gwyrdd. Yna, o lesni'r nef diferai'r ehedydd bach ei gân ar fyd oedd yn rhyw fath o ymfeddwi gan ysblander a nwyf y gwanwyn hardd—y fath baradwys a ymddangosai'r wlad, gyda'r brieill a'r mân—rosynnau a thorch flodau ffrwythau yn gwrido y perllannau.

Cerddai Jarvis yn araf a hamddenol i fyny'r fynedfa lydan goediog at y Plas, a swyn a hudoliaeth y gwanwyn prydferth yn ei amgylchu ar bob llaw.

Yr oedd yn myned ar wahoddiad arbennig Syr Alwyn, ac i ddangos yn benaf y plans o'r adeilad, at yr hwn yr addawsai y Marchog y mil punnau. Tynodd ei oriawr allan o'i logell. "At bump o'r gloch," ebai, ac y mae yn llawn bump yn barod. Y fath anrhydedd!" meddyliai. "Dim ond eithaf dwy flynedd er pan ddaethai i Llifon, yn ddieithr ac heb unrhyw fath o drwydded i sylw; dim ond ei egni ddi-brin yn wyneb llu o anhawsterau, na ddychmygodd erioed am danynt."

Yr oedd wedi dod i olwg y neuadd, a safodd am ennyd i edrych ar wychder yr adeilad ym mha un y trigai Syr Alwyn a'i ferch dlos Eurwen; ond pan yn edrych gwelodd hi yn y ffenestr fawr, ac fel pe buasai yn ei wylio; ond cynted ag y gwelodd hi ef symudodd ymaith ac ym mhen ychydig amser dyna sŵn y drws mawr yn cael ei agoryd.

Yr ydych wedi cyrraedd," ebai, a'i grudd yn wrid o fwynhad. "Y mae fy nhad yn eich disgwyl; ond cafodd lythyr heddyw bore fod Gamant y Glyn yn wael iawn, ac un o'i ffryndiau pennaf ydyw Syr Gamant. Er hynny disgwyliai fod yn ol i'ch derbyn; ond nid yw wedi dod, tae waeth am hynny."

"Efallai na ddaw yn ol am beth amser," ebai Jarvis, a tynnodd ei oriawr allan.

"Y mae gennyf apwyntiad am saith o'r gloch yn y pentref nesaf." Gafaelodd a'i law gref am ei aeliau, y mae enw y pentref yn anghof gennyf, er dylwn ei gofio."

"Pentref Gerlyn," ebai hithau.

"Ie, dyna fo." ebai Jarvis.

Yr oedd y wedd hyfryd a wisgai Eurwen ar dderbyniad Jarvis at y drws wedi ei golli erbyn hyn, a safai Jarvis a'i osgo fel ar fyned yn ol ar unwaith. Ond y fath siomiant a fyddai hyn iddi, ac yn wir ar anogaeth Eurwen yr aeth ei thad i edrych am ei gyfaill, Syr Gamant, a mynnai Eurwen iddo fynd yn y rhagfeddwl y cawsai y cyfle arbennig hwn o dderbyn Mr. Jarvis i'w groesawu, a chyfaddefodd wrth Olwen, yr hon a gaffai gyfran led helaeth o feddyliau cyfriniol ganddi, y fath swyn oedd cael bod ym mhresenoldeb Mr. Jarvis. Yr oedd rhywbeth ynddo er y dydd y cyfarfyddodd ef gyntaf na ellid cyfrif am dano—rywbeth nas gallai ei meddwl gael ymryddhad oddiwrtho, ryw awydd angerddol yn cael ei ennyn ynddi yr hoffai gyfranogi ohono yn helaethach ynglŷn â'i waith gyda'r dyn ieuanc. Mewn gair, yr oedd wedi bod yn offeryn i ddod a rhywbeth newydd i'w bywyd, ac yr oedd yn ddiau, ei mynych bresenoldeb yn Eisteddfodau a chyngherddau y rhanbarth, ac yn enwedig Llifon, wedi ryw fath o eiriasoli ei dymuniad o gael mwy o in touch fel y dywedai gyda phethau goreu ei gwlad ei hun, sef y bobl ieuanc. Ac fel y cyfaddefai, yr oedd wedi cael llawn digon ar yr estron, ei haml wahoddiadau i lysoedd y mawrion, a'r modd y gorfodid iddi ddilyn ryw lwybr nad oedd ar y goreu, ond math o lwybr i'w diogelu oddiwrth beryglon oedd yn barod i amgylchu rhianes oedd wedi ei thrwytho a'r serch eirias honno at brydferthion bywyd, oedd yn cael ei cynyrchu o fynwes y pur ym mha le bynnag y bodolai, bydded yn y bwthyn neu'r palas, a thrwy hynny beryglu urddas ei thad a'i gartref enwog.

"Fe ddeuwch i mewn, ac efallai y daw yn ol ar hyn, ac ni roddai groesaw i mi am adael i chwi fyned ymaith pe digwyddai ddod felly," ebai Eurwen, ac ymbil yn ei llygaid caruaidd.

"Wel, carwn weld eich tad Miss," ebai Jarvis, mae yntau fel y gwyddoch yn cymeryd cryn ddiddordeb yn y gwaith, ac y mae am i hynny fod yn fwy amlwg."

"Ydyw," ebai hithau, "ac fe'i cafodd hi yn lled drwm gen i Mr. Jarvis, am ddod i'ch swyddfa chwi ar y gwaith yn y modd y darfu iddo—ryw Kenin Jones ynte?" a chwarddodd Eurwen. "Y mae yn hoff o wneud pethau o'r fath. Y mae wedi bod yn mynd at y gwaith cyn hyn fel hen dramp i ymofyn gwaith; ond dyna ryfedd, fu o 'rioed i lawr y pwll. Byddai well ganddo o'r bron gael ei grogi. Y mae iddo edrych i lawr y pwll yn mynd a'i anadl meddai ef, a 'dallai ddim meddwl am dano fel dyn llwfr chwaith; ond dowch i mewn," ac megis heb yn wybod dilynodd hi. Yr oedd y fath swyn yn ei siarad iddo ei hun nes peri iddo anghofio popeth megis.

Aeth a dilynodd hi, a'r peth cyntaf a gafodd ei sylw oedd darlun mawr yng nghrog wrth ben y ddor a agorai i un o brif ystafelloedd y Castell.

"Dyna ddarlun o fy nhad yn ugain oed, Mr. Jarvis, wedi ei baentio gan Fossler, un oedd yn Rhydychain yr un pryd a fy nhad—a pe cawsai fyw—ond bu farw bron wedi iddo orffen y darlun, a'r cynnyg cyntaf o'i eiddo at beth mor fawr a hwn; meddai fy nhad. Y mae barn uchel am y darlun gan bawb, ac ni chymerai fy nhad lawer am dano; ond dyna oeddwn yn mynd i ddweyd. Fe achubodd fy nhad trwy ei ddewrder, fywyd Mr. Fossler yn y Jungle yn India, pan gyda'r fyddin. Yr oedd Mr. Fossler wedi tanio ei ergyd ddiweddaf, ac wedi methu, a chyda stoc ei wn y lladdodd fy nhad y teigr. Wrth gwrs, yr oedd bywyd y ddau yn y cwestiwn. Cewch weled croen y teigr yn y munud. Rhaid mai un lled ieuanc ydoedd beth bynnag."

Er i Mr. Jarvis wrandaw yn astud ar Eurwen yn adrodd yr hanes, eto, nid oedd wedi tynnu ei lygad oddiar y darlun mawr gwych.

"Y mae y llygad yn dda neilltuol Miss Eurwen," ebai. "Anaml y gwelais lygaid mor gywir. Yr oeddwn yn edrych i fyw llygad eich tad pan y daeth i'm swyddfa dan gochl y Kenin Jones yna. Y mae yn hynod debig. Maddeuwch i mi, yr wyf yn agored i edrych yn ormodol ar lygaid person. Bydd cywilydd arnaf withiau am hynny Miss."

"Peidiwch a dal ar fy rhai i ynte, er mwyn y byd," ebai hithau, tra y dawnsiai ryw wefr o'i llygaid siriol, ar rudd oedd yn ddelw o brydferthwch.

"Pe buaswn ychydig ieuengach, buaswn yn dweyd mai dyna y rhai cyntaf i fy nghoncro Miss," ebai yntau, a chwarddai y ddau.

Wel," atebai hithau, " mae pawb yn dweyd fod llygaid fy nhad genyf, a dywed rhai oedd yn adwaen fy nain, fod rhywbeth yn debyg yn fy rhai i i'w rhai hi, ond cewch chwi farnu yn y man. Y mae darlun o fy nain genym yn hongian yn yr ystafell fawr yn ugain oed."

"Wel," ebai Jarvis, "nis gwn pa un ai chwi wnaeth yr anturiaeth fwyaf wrth ddod i fwthyn Ann Jones, neu myfi i ddod i balas Syr Alwyn. Pa un?"

"Wel, dyna gwestiwn anodd ei ateb Mr. Jarvis." Yr oedd wedi mynd y pryd hyn trwy y drws i ytafell fawr ysblennydd a holl gyfoeth ei dodrefn gwych yn ymagor o'i flaen. "Efallai ei bod hi yr un mor anodd o'r ddau gyfeiriad. Dyna ryfedd ydi'r byd onite Mr. Jarvis. Y fath gagendor ryfedd sy'n bodoli rhwng dosbarth a dosbarth, ac hwyrach pe buaswn yn rhoddi gwahoddiad i Ann Jones ddod yma yn yr un modd ag a ddaethom i yno, hwyrach y buasai yn orchwyl rhy anodd ganddi—ond trwy'r cwbl yr un nodwedd sydd i serch calon Ann Jones ag sydd yn yr ychydig serch sydd yn fy nghalon i, a dyna'r peth goreu a fedd y bwthyn a'r palas."

"Dyma ddarlun o fy mam, Mr. Jarvis,—y darlun anwylaf yn y fam 'ma, efallai. Tarodd Mr. Jarvis ei ddwylo ym mhleth o'r tu ol, i sefyll i edrych ar y darlun nodedig hwn o fam yr aeres, ac wedi ychydig funudau o ddistawrwydd dwys, dywedai y ferch gyda llais tyner, toddedig, yr anffawd fwyaf i mi, Mr. Jarvis, yw na chefais y fraint o edrych arni yn fyw. Bu farw pan oeddwn yn blentyn, a dyna fwlch du fy mywyd."

"Ie, yn ddiau," ebai yntau, "ac un o bethau mwyaf brwnt y bywyd hwn ydyw y ffeithiau yna. Y fath fam a fuasai i chwi—ond—"

"Ia, ofer yw meddwl am y golled Mr. Jarvis. Cafodd dynnu y darlun yna y flwyddyn gyntaf ar ol priodi. Yr oedd fy nhad a hithau yn yr Eidal, yn Florence rwy'n meddwl, ac fe ddywedir ei fod yn ddarlun da o honi. Gwnewch faddeu i mi am ddangos y darluniau i chwi, achos rwy'n meddwl mai y darluniau sydd yn apelio fwyaf i chwi fel Cymro. Y mae yn wahanol gydag eraill sy'n dod, y dodrefn 'ma fel rheol sydd yn cael eu sylw hwy yn bennaf. Ac mae fy nhad meddir, yn meddu ar y mathau cywreiniaf a mwyaf drud o ddodrefn. Welwch chwi'r bwrdd mawr yna? Fe roddodd dair mil o bunnau am y bwrdd yna ddeng mlynedd yn ol, ond hidiwch mohono, gwastraff yn fy nhyb i yw rhoddi arian mawr am bethau fel yna." Rhoddodd Jarvis ryw olwg gyflym ar y bwrdd mawr drudfawr, ond trodd ei olwg yn un mor gyflym yn ol at y darlun

Na, y mae un munud o edrych ar ddarlun fel hwn yn fwy i mi na gweled mil o fyrddau," ebai Jarvis i'w hateb "Prin na thybiwn ei bod yn siarad a mi," ychwanegai.

"A dyna fy nhad eto, er gwell gen i o yn y darlun o Fosster ohono."

"Prin y mae y llygaid cystal yn hwn. Rhaid i mi ddweyd hynny hefyd Miss Eurwen."

"Gwnewch fy esgusodi am funud. Yr wyf am i chwi gael cwpanaid o de."

Aroswch, dim—yn bendant,—a dyna fy ngair. Gwell gennyf eich cwmni am yr ychydig amser sydd gennyf, can's rhaid i mi fynd i Bentref Gerlyn, rhaid." A tynnodd ei oriawr eto, "er rhaid i mi gyfaddef na chefais erioed y fath fwynhad."

"Wel os felly,—ond arnoch chwi mae'r bai. Yna, ychydig yn nes ymlaen ar y mur, yr oedd darlun bach lled gywir o'r dyrwarchen gyntaf yn cael ei thori ar dir Pwll mawr Llifon gan daid i Eurwen, ac yr oedd yn rhaid i Jarvis gael agoshau ato.

"Wel, efallai mai dyna'r darlun a mwyaf o swyn ynddo i chwi Mr. Jarvis," ebe Eurwen tan chwerthin.

"Ar rai ystyriaethau," chwi faddeuwch i mi Miss."

"Roeddwn yn meddwl felly, Mr. Jarvis," ebai hithau, ac efallai mai dyma'r darlun pwysicaf ar lawer ystyr. Fy nhad fuasai yn gallu trin y darlun yna oreu i chwi; 'roedd o yn cofio rhai o'r personau, ond dyna fy nhaid, gyda'r rhaw arian yn torri y dywarchen, a dyna yr erfyn odditano. Yr oedd y rhaw goffa arian wedi ei gosod mewn coffr fach dderw hir a gwydr arno odditan y darlun.

Buaswn yn gallu eich cadw yn yr ystafell yma am amser maith Mr. Jarvis. Dyma ystafell nodedig fy nhad. Welwch chwi'r gadair yna? Rhoddodd arian mawr am dani Bu y Brenin Siarl y Cyntaf yn eistedd arni i fwyta, pan ar ei ymdaith filwrol yn y rhan yma. Y mae fy nhad yn meddwl llawer o honi, ac un o'r pethau cyntaf a ddangosa i ddieithriaid. Cafodd gynnyg mil o bunnau am dani gan Syr Margam, ond ni chymerai lawer am dani." Safodd y ddau am ychydig funudau eto o flaen y gadair, yna, aethant trwy ddrws i ystafell arall.

"Ystafell fy nhaid yr ydym yn galw hon." Ac un o'r pethau cyntaf yr arweiniwyd ef ato yr ystafell hon ydoedd darlun nodedig o nain Eurwen, mam ei thad Hongiai y darlun ar ganol y pared a wynebai y ffenestr fawr lydan oedd yn edrych i'r lawnt brydferth, ac ar y munudau hyn yr oedd pelydrau yr haul yn danlli loyw pan yn araf suddo dros y gorwel.

"Ah, dyma chwi," ebai Eurwen. "Prin y gallasem gael y fath gyfle i edrych arno, ac oddigerth fy mam, prif ddarlun y tŷ yn fy nhyb i Mr. Jarvis."

Symudodd Mr. Jarvis yn araf hamddenol i sefyll o flaen y darlun nodedig hwn, yr oedd wedi clywed am dano yn flaenorol.

"Dyma i chwi Ferch y Bwthyn, Mr. Jarvis. Mae yn debig eich bod wedi clywed Ann Jones yn son am dani, oherwydd mae yn fath o ramant fach yn Llifon, fe syrthiodd fy nhaid yn aberth i'w thlysni y munud y gwelodd hi, a mynnodd ei phriodi. Yr oedd hi yn eithriadol o brydferth, medde nhw."

"Mae hon yn byw eilwaith ym mherson un arall, os goddefwch i mi ddweyd hynny Miss," ebai yntau.

Gwridodd Eurwen, ac am ychydig amser ni wyddai beth i'w ddweyd, canys gwyddai gyfeiriad yr awgrym, a daeth llygad mawr perfiol Jarvis i aros arni.

"Wel, y mae y berthynas yn ddigon agos i hynny, ond prin y gallaf hawlio y fath deyrnged gennych Mr. Jarvis; ond dywedaf wrthych beth allaf ei hawlio. Y mae, ac ni allaf gyfrif am dano mewn unrhyw fodd arall ydyw y mae wedi trosglwyddo rywbeth i fy natur na chymerwn holl balasau y byd am dano."

"Beth yw hynny Miss?" gofynnai Jarvis.

"Ryw hoffter felus at y bobl hynny sy'n byw yn Mythynod Gwalia, Mr. Jarvis. A dyna sydd i gyfrif yn bennaf am yr ymdrech a wneuthum ar eich rhan i gael lle Mr. Chirk yn y pwll, ac fel rwy'n deall ewythr, brawd fy mam, Capten Lorry sydd yn gyfrifol am gael swyddogion y pwll yn Saeson, Mae ganddo arian ar y gwaith, a fy nhad ddim yn hoffi myned yn ryw groes iddo. Dyna sydd i gyfrif fod yr estroniaid hyll yn cael mathru. Maddeuwch i mi Mr. Jarvis, buaswn yn gallu plygu y funud hon, pe buasai weddus i addoli y darlun yna. Yr wyf yn falch ei fod wedi ei osod yn y fan yna.

Gwelwch fel y mae ei gruddiau megis yn cael eu cusanu, gan belydrau olaf yr haul, cyn iddo noswylio."

"Syniad prydferth yw hwna Miss, ac y mae hefyd gwelwch fel y llithra y belydr." Ac yr oedd ar y foment belydr ysgafn yn chwarae ar y wefus yn y darlun prydferth. "Y mae yn werth cerdded llawer milltir i weled hwn," ebai Jarvis.

"Y mae rywsut yn nodedig ar yr awr yma, Mr. Jarvis," atebai Eurwen ef, "ond 'does dim neilltuol arall yn yr ystafell hon. Yr wyf am fynd a chwi i le rhyfedd rwan Mr. Jarvis, can's rhan o hen Gastell ydyw ein tŷ ni, rhan sydd wedi ei adeiladu gan fy nheulu i yw yr ystafelloedd yma o hono."

Rhan o hen Gastell ai ie, dyna newydd i mi," ebai yntau.

"Ie, ac un henafol iawn meddir, Fe awn yn ol. Aeth y ddau drwy yr un ystafelloedd yn ol hyd nes daethant i fynedfa gul oedd yn arwain i'r hen Gastell, a thystiai yr hen furiau ar un waith i Jarvis fod cyfran fawr guddiedig o hanes ei wlad yn gysylltiedig a'r muriau hyn, a deuai sawr sur i argraffu hyn yn ddyfnach ar ei feddwl.

"Caf ychydig o hen hen hanes gennych ar y fan hyn," ebai Jarvis, a gwefr o swyn cywreinrwydd yn ei lais, yn sicr," ebai drachefn.

"Fy nhad eto fuasai yn gallu rhoddi hwnnw oreu i chwi Mr. Jarvis," ebai hithau yn ol. "Y peth pwysicaf a wn i am y rhan yma yw fy mod wedi cael fy nhaflu i'r carchar yma," a chwarddodd ar hyn, "ac ni fydd i mi byth ei anghofio" ebai drachefn.

"Carchar!" ebai yntau.

'Ie, yr wyf yn mynd a chwi i'r ystafell honno yrwan, Mr. Jarvis, ac y mae hi yn union yn yr un wedd ac yr ydoedd pan garcharwyd fi ynddi, ac efallai pan garcharwyd llawer o fy nghyd—genedl gan y Norddyn brwnt—dyma hi i chwi." A safai y ddau ar riniog ystafell fawr, gul, leithiog ei sawr. Yr oedd yn lan mae'n wir ac ambell i ddernyn o hen hen ddodrefn ynddi fel pe yn ymguddio o olwg byd. "Ie, dyma hi ystafell garchar y Castell, a chefais fy ngharcharu ynddi Mr. Jarvis," ebai, a rhyw wen fach ar ei grudd.

Choeliai byth," ebai Jarvis, "eich bod chwi wedi cael eich taflu i garchar yma Miss Eurwen. "Yna taniodd ei bibell am y waith gyntaf. Gwnaethai hyn i gael gwared o'r sawr anymunol.

Ie, cymerwch smogen Mr. Jarvis. Yr wyf yn meddwl y gwna'r mwg liniaru dipyn ar y sawr; hefyd yr wyf yn hoffi gweled dyn yn smocio. Do, bum yma yn garcharores am ddyddiau lawer."

'Naddo—"

"Do, ond gyda hyn o wahaniaeth. Mewn breuddwyd y bum yma, a chafodd yr un argraff ar fy meddwl a phe buaswn yn effro, ac hwyrach fod rhywbeth mwy na feddyliai ynddo, ond ni ellir gwybod ar hyn o bryd.

Gwelodd Mr. Jarvis fod rhywbeth allan o'r cyffredin yng ngwaith yr aeres yn ei arwain i'r fath le, ac yn naturiol angerddolodd ei awydd am glywed mwy o hanes y fangre ac yn neilltuol yr hyn a berthynai iddi o barthed i'r freuddwyd.

"Ac mewn breuddwyd eich carcharwyd chwi yma Miss?" "Ie, gwnaf adrodd i chwi yr hanes. 'Does dim o'i le, a mwy—caf ryw fath o gyfle i egluro fy hun am rywbeth rhyfedd ddaeth trosof pan yn eistedd gyda chwi yn nhŷ Ann Jones y noson o'r blaen.

Yr oedd Eurwen erbyn hyn wedi symud i mewn i'r gell hir—gul, a daliai ganhwyllbren oleuedig yn ei llaw; tra y safai Jarvis eto yn y drws, a dechreuodd adrodd ei breuddwyd rhyfedd.

Chwi faddeuwch i mi am ei hadrodd i chwi. Yn wir, y mae gennyf ryw fath o gywilydd."

"Bydd yn fwynhad gennyf fi wrando breuddwyd wastad," ebai yntau, "ac i mi y mae pethau mwyaf bywyd yn aml yn y freuddwyd."

"Yde chi'n meddwl?"

"Yr wyf yn sicr, cyn belled ag y mae fy mhrofiad bersonol i yn y mater Miss," ebai. Siriolodd y datganiad yna o eiddo Jarvis wynebpryd Eurwen.

Dowch," ebai Jarvis, gadewch i mi wybod yn gyntaf pwy a'ch taflodd i'r carchar."

"I ddechreu," ebai Eurwen. " yr oedd treial mawr arnaf " yn un o'r ystafelloedd yma. Y mae arswyd arnaf wrth feddwl am dano, canys yr oedd fy achos yn cael ei drin gan tua deg ar hugain o ysbrydion fy hynafiaid, ac yr oedd golwg ryfedd arnynt. Y mae yn ddychryn meddwl am dano. Ryw hen hen wr hyll yn farnwr a'i lygaid fel pe buasai yn hylldremu arnaf—O! dyna olwg Mr. Jarvis. a phrin y gallai fyned rhagddi—yr oedd effaith ryfedd arni.

"Wel am beth?" ebai Jarvis. "Beth oedd y cyhuddiad?"

"Y cyhuddiad y mae yn smala meddwl am y cyhuddiad; ond yr oedd yn hawdd gweld fy mod wedi troseddu yn erbyn yr holl hil. A dyna oedd, yr oeddwn wedi gosod nifer o ddynion i dynnu Wal y Parc i lawr, y rhan honno o'r Wal lle mae'r cabanod tai yna. Beth bynnag, collfarnwyd fi i garchar am fy oes."

Dyna dreial ofnadwy Miss. Deg cenhedlaeth ar hugain o ysbrydion ofnadwy—"

"Gymaint a hynny yn sicr o fy hynafiaid, a dyna oedd yn rhyfedd, welais i mo fy nain yn eu mysg—beth bynnag taflwyd fi i'r carchar yma. Ac yma bum am ddyddiau lawer yn di-hoeni hyd nes—"

"Braidd nad ydych yn cynyrchu ofn yn fy mynwes," ebai Jarvis," wrth feddwl am danoch yn sefyll eich prawf yng nghwmni nifer o ysbrydion eich hynafiaid. Dyna'r peth rhyfeddaf a wrandewais arno erioed; ond ewch ymlaen."

"Y mae yn anodd credu y fath freuddwyd—a'r drosedd —wel," chwarddodd Eurwen y pryd hyn.

"Yn drosedd fawr yn ddiau, Miss, yn eich erbyn. Y fath drosedd fel y deffrôdd ysbrydion eich hynafiaid, rhyfedd, rhyfedd. Y mae yn freuddwyd gwir ryfedd, ond eto, y mae yr arwydd o'r ymdeimlad dwfn yna sydd yn eich natur at y bobl—ac fe'ch carcharwyd?"

"Do, ebai, a throdd ryw olwg synfyfyriol ar yr hen ystafell ddu, ac ebai, " ond dyma'r rhan ryfeddaf, ac y mae wedi glynnu ynof. Pan oeddwn yn gorwedd ar yr hen fainc oer yna i farw, dyma i fy ymyl fachgen hardd yr olwg, a chusanodd fy ngwefus oer. Yr wyf yn teimlo y cusan byth er hyny fel pe bae yn llosgi fy ngwefusau—dyna chi ryfedd."

"Ac yr oeddych yn ei adnabod?

Oeddwn. Gwelsoch fi yn agoryd yr Album hwnnw yn nhŷ Ann Jones?"

"Do," ebai Jarvis, a chofiodd am y gwrid ddaeth i'w gwyneb wrth edrych ar lun Derwyn ynddo.

"Yr oedd gennyf gywilydd, ond nis gallwn wrtho, achos dyna'r waith gyntaf i mi ei weled wedi'r freuddwyd ryfedd, er yr oeddwn wedi ei weled droion o'r blaen, ac wedi cael y fraint ddwy waith beth bynnag o'i wobrwyo ar lwyfan yr Eisteddfod yn y Pentref. Buaswn yn rhoddi llawer pe gellid fy rhyddhau o afael y freuddwyd yna,

Mr. Jarvis. "Y fath freuddwyd ryfedd!"

"Rhaid i chwi beidio meddwl am dani. Fe all eich niweidio."

Rhaid, ond y mae yn fil hawddach rhoddi'r gorchymyn nag ufuddhau iddo Mr. Jarvis. Yr wyf wedi ceisio mil o weithiau ei anghofio-ond-beth bynnag yr wyf yn falch o gael y cyfle i'w hadrodd i chwi Mr. Jarvis. Gwn na fydd i chwi ei hail-adrodd."

Cerddodd y ddau yn ol o'r ystafell ryfedd. Yr oedd yn ben amser i Jarvis fyned ymaith.




Pan oeddwn yn gorwedd ar y fainc oer yna i farw.—tud. 134.



"Ni chaf weled eich tad."

"Y mae hynny yn gorffwys arno chwi Mr. Jarvis. Y mae yn sicr o ddod adref, a dylasai fod wedi dod, ond ni charwn i chwi dori'ch cyhoeddiad."

"Dyna'r plans y mae eich tad eisiau eu gweled."

"Yr adeilad newydd."

"Yr adeilad newydd Miss." Agorodd Jarvis ef.

Pwy sydd wedi ei dynnu i chwi?"

Y Fi sydd yn gyfrifol am y cynllun; ond Garland y dref sydd wedi ei ddrafftio."

"Y mae yn fine Mr. Jarvis. "Fe gostia—

Wel, y mae yn amser i Gymru fach gael ei haddurno ag adeiladau o'r fath yma. Y mae yn resyn fod ei chyfoeth yn mynd yn bennaf i gynyrch y lefiathod hyll ne. Yr wyf am i'r rhan yma fod yn fath o Art Gallery fach. Ac hwyrach y cawn ryw dro un o blant y Pentre 'ma i baentio darlun mawr gwych teilwng o Miss Eurwen yn gorwedd i farw yng nghell dywell y carchar, ac i'r angel ddod i'w chusanu yn ol i fywyd."

Mor ffol y bum yn ei adrodd i chwi Mr. Jarvis. Wel— Ysgydwodd law a hi, ac ymaith ag ef ar frys.

PENNOD XIX.

BU i ymweliad Jarvis a'r Castell gael argraff ryfedd arno, a phrin na thybiai mam Bob nad oedd Mr. Jarvis yn hollol yr un person y misoedd diweddaf, ryw fath o arafwch, ryw ddal yn ol, ryw golli awch at ei holl waith, a ryw orfyfyrio synedig yn ei nodweddu gan mwyaf o'i amser yr eisteddai yn y tŷ, pan y dylai yn ol cwrs pethau fod yn wahanol—yn fwy felly o herwydd yr oedd yr adeilad newydd, "yr Institute " erbyn hyn yn tyfu yn gyflym, oddiar ei sylfaeni, a phobl y wlad a'r cylch yn cyrchu i weled y fath adeilad oedd i ddynodi Llifon fel lle hynod, —yn siwr ni allai dim i'r cyfeiriad yna achosi pryder iddo mil gan Syr Alwyn, mil arall ganddo os byddai achos pum cant gan un arall, a llawer o roddion llai fel dim pryder o gwbl o barthed i'r adeilad. Yr oedd llwyddiant ei waith hefyd gyda'r Urdd yn ddigon o faeth chwilfrydedd i ddigoni unrhyw un. Y fath gyfnewidiad ym mywyd y Pentref a'r fath fwynhad a ddygodd i fywyd y gweithwyr, nid cymaint o boen bellach oedd disgyn i'r pwll ond elai y bechgyn at eu gwaith heb unrhyw atgasedd yn eu mynwes can's ni oddefid gan Jarvis unrhyw gamwedd o du swyddog at y plant, a gwyddai y plant a'r bobl ei fod yntau yn disgwyl cael y rhesymol oddiar eu dwylaw hwy, ac ni fu brin o hynny; ond er y cwbl nodweddid ef a ryw fath o ddigalondid, ac ofnai Ann Jones ei fod yn meddwl gadael y cylch, ond ni roddodd awgrym unwaith o hynny. Yr oedd Bob, er ei holl ymgais wedi methu cael gwared o'r shift hwyrol ac erbyn hyn wedi newid ei waith, a mynd i lenwi fel ei gelwid, a byddai rhan fawr o'r pwll yn gweithio double sift, ond ni ellid wrth hynny, a byddai rhaid dygymod ag ef, er mor anymunol ydoedd i'r bechgyn.

Eisteddai Jarvis ger y tân, a dyna swn Gruffydd Huws yn dod, ac fel ei arfer daethai yr hen ddyn i fewn heb guro, a safai funud wrth y drws.

"Dewch ymlaen Gruffydd Huws," ebai Jarvis.

"Lle ma' Ann Jones?"

"Ar neges, ond dowch ymlaen. Hi ddaw yn y munud, 'nol baco i mi ma' hi Gruffydd Huws." A chyn iddo o'r bron gyrraedd yr aelwyd yr oedd mam Bob yn y tŷ.

"De chi 'di bod yn ddiarth Gruffydd Huws," ebai hi wrtho.

"Braidd—ond wir Ann Jones, 'roeddwn i'n deud wrth Betsan 'cw, mod i yn teimlo yn gas rywsut i ddwad yma. Dene sy'n cyfrif Ann Jones.'

"Edrychodd Ann Jones ar Jarvis."

"Fu neb yn frwnt wrtho chi, ai do Gruffydd Huws? gofynnai Jarvis.

"Brwnt —na nid hynny, —ond de ni yn y Wal ma, er fydd rai pobol yn meddwl yn wahanol am dano ni —yden, 'de ni'n gwybod be sy'n 'i le Mr. Jarvis."

"Mi ddaliai'ch bod chi," ebai Jarvis.

"Ddim yn licio wthio," —yhwanegai yr hen wr.

Chwarddodd Jarvis a balch oedd Ann Jones o weled gwên ar ei wyneb.

"Bod yn cheeky ma fo'n feddwl, Mr. Jarvis," ebe'r fam.

"Dwi'n i 'dallt o, ond dylai Gruffydd Huws, mo'n cosbi ni fel ene Ann Jones."

"Ie, ma' Mr. Jarvis yn licio'ch cwmni chi Gruffydd Huws."

Estynnodd Jarvis ei faco iddo—"Dowch Gruffydd Huws i ni ga'l stori fechan. Dwi'n teimlo dipyn yn flin, wedi bod yn gweithio dipyn heddyw Gruffydd Huws. R'oedd gyna ni godwm mawr iawn acw, ac isio'i glirio fo."

"Codwm ai ie."

"Ie, ac un mawr Gruffydd Huws. A dyw o ddim quite yn fair i chi fod yno yn gyru ar y dynion, heb roi help a gafael yn y rhaw yn awr ac eilwaith."

"Wel, dene beth na weles i 'run giaffer yn neud 'rioed Mr. Jarvis, oedd llenwi mewn codwm."

"Wel 'di o ddim yn beth allan o' le Gruffydd Huws, ond yn unig fod o wedi fy mlino i—dim yn arfer."

"Ie, mi'ch coelia chi Mr. Jarvis, yn mhle 'roedd y codwm gyna chi?"

"Ar y Main Level Gruffydd Huws, tu arall i'r Malc mawr ryw filltir o'r llygad (gwaelod y pwll) wyddoch am dano Gruffydd Huws."

"Gwn, gwn," ebai Gruffydd Huws, "ac mi ddylwn wybod ychwanegai, achos fi yrrodd y lefel ene o waelod y pwll i dop y dyfn pellaf ddwy filltir a hanner Mr. Jarvis."

"A chi yrodd hi Gruffydd Huws—y Main Level?"

"Y Main Level Syr".

"Y mae hi yn gredit i chi. Mae hi fel y watch o gywir, fel byddwn ni'n deud. Fine piece of work Gruffydd Huws; ac fe ddylech ga'l Syr o flaen y'ch enw am y fath waith penigamp. Y glo sydd yn mynd, ac wedi mynd ar hyd y level yna Gruffydd Huws."

"Wel mi ges gompliment gan ambell un am dani Mr. Jarvis. Solvan y diolwr, 'roedd o wastad yn canmol mor syth, ond mi gawsom ddarne caled arni, Mr. Jarvis. Cuttio'r ddwy ochor. Weles i drio metl ambell i un ar y lefel ene Mr. Jarvis, do."

"Do, mi wranta," ebai Jarvis.

"A wyddoch chi—'does ne 'run dyn ddaw i mewn a'r Cymro fel glowr yn unman. Weles i ambell Sais yn tori'i galon yn y cutting ar y lefel 'ne, ac yn mynd a'i dwls i'r lan a 'roedd 'ne fechgyn lled ifanc o Gymry yn y pentre 'ma fas yn 'i chwipio nhw, a 'roedd 'ne ddyn yn byw yn y Wal 'ma ma' fo 'di gladdu rwan, Ned Morus fychan, Ann Jones, oedd o ddim byd o beth, ond 'roedd hi yn dret i chi weld o yn y cutting, a fel ceiniog o syth."

"Yn byw yn y Wal yma ai ie?"

"O! mae' ne chaps da fel glowyr wedi bod yn byw yn y Wal 'ma Mr. Jarvis. Son am danyn nhw. Dwi'n cofio i wager ga'l i neud efo Ned Morus a chlamp o Sais ddigon maint i lyncu Ned druan, a fi oedd yn i gwatchio nhw i ddrifio cutting am y cynta ar y lefel 'ne, ond dyn a helpio'r Sais, fu just iddo fo a lladd 'i hun wrth drio curo Ned."

"A mi curodd Morus o?"

"O ddigon Mr. Jarvis."

"Fuo chi'n gweld yr adeilad newydd Gruffydd Huws?"

"Do Mr. Jarvis. Mi fydd yn fine mhelled a gwela i, a chi sy'n 'i fildio fo Mr. Jarvis?"

"Na'r builders sy'n i fildio fo Gruffydd Huws. Be ma'r bobol yn ddeud am dano fo Gruffydd Huws?" gofynnai drachefn.

"Wel, mae pawb yn canmol ond y tafarnwrs 'ma. Ma'r dyn 'ne sy'n cadw y Lion yn dost medde nhw, ddigon naturiol. 'Dos ne ddim hanner yr efed a fydde yn y Lion ar ol i chi ddwad yma, a mi fydd 'ne lai eto, pan fydd y building noble ene i wed'i agor.'

"Mae'n ddrwg gen i bod dyn mor bwysig a dyn y Lion yn dwrdio Gruffydd Huws, ond—"

"Hidiwch befo ddim Mr. Jarvis—y cwbl dwi'n fecsio ydi na faswn i yn ddyn ifanc i weithio o dana chi, ynte Ann Jones, —a ma' Bob yn dal i weithio'r nos?"

"Ydi Gruffydd Huws, a ma' fo'n licio taten pan ddaw o adre, run fath a tae o'n gweithio'r dydd."

Yr oedd Ann Jones wrthi yn pilio tatws ar y stol fach tra Jarvis yn ymstwrio o'i gyflwr blinedig a'r hen Gruffydd ar ei draed yn barod i fyned ymaith, ond dyna gnoc ar y drws ac aeth Mam Bob i'w ateb.

"Ydi Mr. Jarvis i mewn?"

"Ydi."

Ma' isio fo ar y gwaith."

"Be?"

Isio fo ar y gwaith Ann Jones, cynted ag y gallo fo."

"Pwy sy 'di'ch danfon chi?" gofynai Jarvis. Yr oedd wedi dod at y drws.

"Edwas y Lampman." Aeth Jarvis gyda'r llanc ychydig ffor' i lawr y buarth, gan dynu y drws ar ei ol.

"Be' sy'n bod Gruffydd Huws?" ymholai y fam.

"Rwbeth yn y gwaith mi wranta," ebai Gruffydd.

"Beithio nad oes neb wedi'i frifo Ann Jones. Ond ma' rwbeth o'i le."

"Fydda n'w byth yn gyrru am Mr. Jarvis fel hyn," ebai y fam bryderus—" byth—Bob—"

"O peidiwch a meddwl y gwaetha Ann Jones. Rwbeth yn wrong efo'r gwaith yn siwr i chi."

Ni ddywedodd y fam air mwy, ond cerddodd at y drws, agorodd ef, a dyna Jarvis i fewn a golwg wyllt, frawychus ar ei wyneb.

"Be' sy' Mr. Jarvis bach?" ebai.

"Rywbeth yn wrong yn y gwaith Ann Jones. Peidiwch ag anesmwytho, rhaid i mi fynd."

Taflodd ei gôt am dano a chadach mawr am ei wddf, ac aeth allan heb ddweyd dim.

PENNOD XX.

FEL rheol mae'r newydd o ddamwain neu anffawd yn y pwll yn cael y manylwch a'r gofal mwyaf o'i hysbysu yn y cartrefi, ond ambell dro bydd i'r rheol yna, naill ai trwy ddamwain, neu o ddiffyg ystyriaeth briodol gan ambell berson chwiban—gael ei thorri. Yn fuan wedi i Jarvis gael ei alw at y gwaith, daeth un o gymdogesau y Wal o'r enw Elin y Ffan, un o'r gwragedd hynny sydd yn cael rhyw fath o bleser wrth daenu a lledaenau newyddion fydd o nodwedd darawiadol ac anymunol.

"O Ann Jones bach," ebai, ac fel y bu, digwyddai fod neb gyda'r fam ofnus yn y tŷ ar y pryd.

"Be mater Elin?" ebai hithau a'i gwyneb yn gwynnu. Ma' Bob chi wedi brifo yn y gwaith," ebai. Rhoddodd y fam y fath waedd nes dychrynu y cymdogesau, a dyna redeg ol a blaen o dŷ y wraig, a phob un erbyn hyn yn ceisio lliniaru neu ddal y newydd yn ol goreu ellid, ond rhy hwyr, ac o lesmair i lesmair y bu y fam hyd un o'r gloch y boreu, pryd y daeth Jarvis yn ol, a chafodd hi pan gyrhaeddodd mewn llewyg drom, a bu am amser cyn ei chael o honi.

Yn y man, agorodd ei llygad, a chyda llais gwan, trist, gwaeddai "Bob," "Bob," "Bob," dair gwaith.

"Ann Jones," ebai Jarvis, gyda llais tyner, a deigryn mawr gloyw wedi aros ar ei amrant gref.

"Ann Jones," ebai drachefn. "Y mae Bob yn alright. Cymerwch ddiferyn bach o hwn. Y mae Bob yn alright," ebai eilwaith. Dododd ei law yn ysgafn o dan ei phen gan estyn y gwpan at ei gwefusau. "Gwnewch chwithe ferched caredig sefyll yn ol. Y mae'r tŷ mor fach—iddi gael ychydig awyr. Ydi mae Bob yn alright Ann Jones. Fy ngair a roddaf am hynny." Edrychodd y fam ofnus i fyw llygaid Mr. Jarvis. Yr oedd yn amlwg ei fod wedi adgysylltu y llinyn gobaith.

"Ydi Mr. Jarvis,?" gofynnai.

""Ydi Ann Jones, fel mae'r goreu, Bob druan."

"O! sut y bu?"

"Cewch wybod eto Ann Jones, ei fod yn ddiogel, dyna'r peth pwysicaf i chi ar hyn o bryd, ac fe ddaw drwyddi."

"Daw."

"Daw."

"Yn lle ma' fo?" gofynnai Betsan Huws.

"Yn yr Ysbytty, Betsan Huws."

"O! wel, wel," ebai y fam.

"Ann Jones bach, 'dyw o ddim gwaeth am hynny, a fi sydd yn gyfrifol am ei fod yno Ann Jones. Dr. Tryfan yn meddwl y galla fo ddod gartref, ond fe geiff y cyfle gore yn yr Ysbyty Ann Jones, a pheth arall, y mae hi yn noson mor oer—allase—ac wrach y base dod a fo ar y fath awr yn beryglus."

"Be ma' fo 'di frifo?" gofynnai Betsan Huws drachefn. Wedi gwaedu dipyn ma' fo Betsan Huws." Rhoddodd Jarvis nod gyflym ar Betsan Huws.

O un i un aeth y cymdogion yn ol i'w cartrefi a chymerodd Jarvis damaid bach o luniaeth, a'r fath olwg bryderus oedd arno. Bu am beth amser yn petruso pa un ai mynd i'w wely a wnaethai, ynte yn ol i'r ysbytty. Fodd bynnag addawodd wrth Doctor Tryfan y byddai yno tua phedwar yn y boreu, can's yr oedd cyflwr Bob ymhell o fod yn sicr, wedi gwaedu yn enbyd, ond dim ond ei goes wedi ei dryllio, ond y fath waedu ofnadwy fel yr ofnai y meddyg yn fawr, a phenderfynodd aros yno tan y boreu, a chai weled Jarvis fel yr addawsai.

"Yr wyf am i chwi gymeryd cwpanaid o lefrith cynnes, a mynd i'ch gwely Ann Jones, a gofyn am yr hyderffydd Ann Jones—mi ddaw Bob—daw,—ei goes sy' wedi ei chael hi."

"Pwy sydd efo fo?"

"Ma Tryfan yn mynd i weld fod o yn iawn, a ma' Nurse Jones, de chwi yn 'nabod Nurse Jones. A mi af finnau yno yn go fore—wir Ann Jones faswn yn mynd ato fo heno i'ch bodloni, ond tyde nhw ddim yn hoffi i neb gymryd gormod o hyfdra. Y mae rheol yr Ysbytty yn go strict ar y pen ene, ond tase fo yn ddrwg iawn, faswn i ddim yma rwan i chi, felly mi awn i orffwys, a rhoi'n gofal —'de chi'n gwybod ar bwy Ann Jones."

Noson heb lawer o gwsg ynddi ydoedd y noson hon yn nhŷ Mam Bob, ond cawsai er hynny fynwes heb yr ofnau dychrynllyd hynny a'i goddiweddai yn oriau cyntaf y nos —wedi cael y newydd drwg i'w thŷ. Erbyn hyn, yr oedd gair Jarvis fel ryw fath o gleddyf yn darnio ac yn dryllio pob ofn fel yr ymosodai arni—ond Jarvis,—nid felly ef. Yr oedd y pryder a welsai ar wyneb Tryfan wedi taro ryw fath o fraw yn ei galon nas gallai ei symud. Ofni bob munud clywed tap ar y drws, ond fel y bu oreu cafodd glywed y cloc yn taro pedwar o'r gloch. Erbyn pedwar yr oedd wedi addo os na byddai galw arno yn gynt.

Gwnaeth fyr ysgafn foreubryd. Yr oedd mam Bob wedi codi o'i flaen, ac ychydig fu'r siarad, dim ond ryw egluro sut y bu i Bob anafu yn ol fel y cawsai Jarvis yr adroddiad gan ei gydweithwyr Bob.

Yr oedd y wawr yn araf esgor tra cerddai Jarvis o ardal y Wal, a chyn iddo fyned nepell gwelai ryw un yn dod i'w gyfarfod yn frysiog.

"Swyddog o'r Ysbytty," meddai wrtho ei hun." Aeth Jarvis i deimlo fel pe ei waed wedi sefyll yn ei wythi ennau

"Y chi ydi Mr. Jarvis?"

"Ie."

"Y mae y llanc yn bur ddrwg—Dr. Tryfan yn ofni am dano. Parodd i mi eich ceisio Mr. Jarvis, yr ydech—"

"Ydwyf."

"Yr unig obaith," ebai y Doctor.

"Ac y mae yn bur ddrwg?"

"Dyna gefais ganddo."

Cerddodd y ddau yn ol yn gyflym i'r Ysbyty, a phan aeth Jarvis i mewn cafodd fod Bob yn ddrwg iawn.

"Prin y gallaf oddef i chi," ebai Tryfan, wrth Jarvis. "Y mae ei gyflwr yn anobeithiol—prin—"

"Y diferyn diweddaf a roddaf," ebai Jarvis, "a chan belled ag yr wyf fi yn y mater, nid ydych i betruso o gwbl—fe obeithiwn—"

Tan ysgwyd ei ben ymfoddlonodd y Meddyg i Jarvis roddi ei hun ar yr allor tros Bob.

PENNOD XXI

YN fore daeth mam Bob i'r Ysbyty, ond ni chafodd weld Bob. Bu y gwrthwynebiad bron a'i gwneud yn wallgof.

"Carwn weld Mr. Jarvis, ynte," ebai.

"Y mae yntau—arhoswch—ond dowch i'r ystafell yma am ychydig."

Aeth y swyddog ymaith gan ei gadael yn un o'r waiting rooms, yn fuan iawn daeth yn ei ol a Nurse Jones gydag ef. "Mae Dr. Tryfan gyda Bob, Ann Jones, ac ni ellwch ei weled am awr o leiaf."

"Na Mr. Jarvis," ebai Ann Jones.

"Os bydd i rywbeth achub bywyd eich plentyn, y dyn yna ydyw. Y mae yn rhoddi ei waed iddo."

Ni ddeallodd Ann Jones yn hollol beth a olygai y Nurse, ac erbyn hyn yr oedd ei llygaid wedi ei boddi gan ddagrau, a'r hyn geisiai siarad yn aros yn ei gwddf.

"Yr ydym wedi gwaedu Mr. Jarvis. Yr oedd rhaid cael gwaed i'w achub Ann Jones, ac wrach y bydd raid gwaedu Mr. Jarvis eto ymhen ychydig oriau, dyna'r unig foddion i achub eich plentyn, a fyddai yn biti trwy fod y fath ymdrech yn cael ei wneud i'w achub, i chwi ei gyffroi. Na, dwi' ddim yn meddwl y gadawa'r Doctor i chi ddod i'w olwg am rai oriau beth bynnag Ann Jones. Chwi wnewch ymfoddhau ar hynny."

"Rywbeth i helpu fy machgen," ebai y fam.

"Faswn yn dod yn ol ymhen ryw dair awr neu bedair Ann Jones, a tase rywbeth o'r gwaetha Ann Jones, fe gewch air ar unwaith; ond mae'r Doctor yn dal i obeithio ynddo, ac y mae yn cysgu ar hyn o bryd."

Cerddodd Ann Jones yn ol i'w chartref. Dynes fach bwyllog, hunanfeddiannol oedd mam Bob, er teimlai y gallai waeddi Llifon i fyny ar y bore hwn, wrth fyned yn ol o'r Ysbyty. A phan gyrhaeddodd yn ol i'r Wal, llawen oedd y cymdogion o glywed fod Bob yn fyw, oherwydd anobeithiol ydoedd y newydd a ddaeth iddynt y noson cynt "Fe geiff chware teg i fendio Ann Jones". Dyna warrant uchaf yr Ysbyty yn y Wal bob amser.

"Ceiff, a ma' Bob yn ca'l rywbeth mwy na hynny," ebai ei fam. "Ydi, ydi."

Ni ddeallodd y cymdogion ystyr ei geiriau mwy nag a ddeallodd hithau y nurse yn yr Ysbytty.

"Mr. Jarvis—ydi, a dwi'n siwr fod o'n gwybod, ond ddeudodd o air—"

"Am be Ann Jones?" gofynant iddi.

"Y mae' o'n rhoi gwaed i achub Bob. Dene be dwi' di ga'l y bore 'ma. Yr unig chance—Bob wedi colli cymaint o waed. Yr unig chance medde'r Nurse, a be tae rwbeth yn dwad i Mr. Jarvis. Wel, fu 'rioed y fath ddyn ifanc yn y Wal."

"Clwodd Joseff ni o yn deud rwbeth wrth Dwalad, bachgen Harri Prys—a mi roth note iddo fo roi i Stork. Rhaid ma' rwbeth fel ene oedd o, ond i fod o—Pwy fase'n meddwl pan ddoth o yna ato chi i aros Ann Jones—ac yn rhoi'i waed."

Tua unarddeg y bore, gwelwyd Dr. Tryfan yn dod allan o'r Ysbytty. Aeth ar ei union at y gwaith, ymholodd am Stork. Cafodd ef yn ei swyddfa, ac wedi i'r cyfarchiad arferol dywedai,

"Y mae yn ddrwg gennyf Mr. Stork—Mr. Jarvis."

"Fe gefais y nodyn, a sut ma'r bachgen?"

"Y mae y bachgen allan o berigl erbyn hyn—a hynny trwy garedigrwydd Mr. Jarvis, ond dyna oeddwn yn mynd i ddweyd, bydd raid i Mr. Jarvis aros tan fy ngofal am rai dyddiau yn yr Ysbyty. Y mae mwy nag a ddylasid o waed wedi ei gymeryd allan o hono, ac yn wir, nid oedd ei gyflwr—felly ni charaf redeg mwy o risk gydag un fel Mr. Jarvis."

Synnodd Stork yn fawr at yr hanes gan y Meddyg, ac erbyn hyn yr oedd trwy araf adnabod wedi dechreu dod i edmygu Mr Jarvis—y fath un; y fath gymeriad uchel diymhongar yn peryglu ei fywyd tros un o blant y Wal, dros un na fuasai ef yn gwneud yr ymholiad lleiaf am dano, oni bae iddo wrth daraw a'r Meddyg. Yr oedd y cyhuddiad hwn, fel llawer o bethau eraill yn cael ei wireddu am Stork, can's ychydig fyddai'r sylw a'r ymholi a wnaethai am rai fyddai wedi cyfarfod a damwain yn y Pwll a synnid ato yn ddirfawr am hyn.

"Beth bynnag, yr ydym wedi achub bywyd y bachgen ac addewais ddod i egluro absenoldeb Mr. Jarvis i chwi," ebai y Meddyg, wrth ei adael.

Nis gallai Stork lai na dangos ei edmygedd o Jarvis yng ngwydd y Meddyg, a dywedai y ceisiai amser i ddod i edrych am dano.

Prin y gellir cyfiawnhau ymgais at ddesgrifio y fath lawenydd i fam Bob pan gyrhaeddodd yr ystafell tua deuddeg o'r gloch a chael Bob yn ryw araf-wenu yng nghwmni y Nurse. Cusanodd y fam ef, "Fy machgen," ebai.

"Y mae'n alright i chi Ann Jones, ond buoch yn ffodus i gael y fath un atoch. Rwyf yn deall mae gyda chi y mae Mr. Jarvis yn aros y mae Dr. Tryfan wedi gwneud iddo fynd i'w wely ac aros yma am ychydig ddyddiau. 'Dyw ei gyflwr ddim y peth ddylai fod—y fath un, chwarae teg iddo."

"Y mae geiriau yn fy methu Nurse, ac mae nghalon i rhy lawn."

"Peidiwch a chrio Ann Jones—Bob yn eithaf gwan. Gwn beth ydych yn feddwl, ac mae pobl yn cael eu haddoli am lawer llai peth na'r hyn ma' Mr. Jarvis wedi ei wneud."

"Faswn yn hoffi ei weld."

"Cewch ddod am eiliad bach i'w ystafell yn y munud. Yr ydych yn iawn Bob. Mae 'i lygad o Ann Jones yn lled dda." Edrychodd y Nurse i lygad Bob. "Bydd Bob a mine yn ffrindie i chi."

Gwelodd y fam hynny. "Ydi ma 'i lygad o yn eithriadol siriol Nurse," yna trodd at Bob. "A gwna ditha bopeth ma'r Nurse yn ofyn i ti Bob, i ti ga'l diolch—"'

"Ie, dowch am funud. Bydd yn falch o'ch gweled. Ni cha y Doctor wybod."

Dilynodd mam Bob y Nurse i ystafell Jarvis.

"O! y mae yn cysgu Ann Jones, a rwy'n falch. Roedd y Doctor yn gobeithio yn fawr y caffai gysgu, a chymerwn i mo Llifon am ei ddeffro."

"Mi gaf edrych arno," ebai.

Gwenodd y Nurse arni, canys deallai ddyfnder teimlad y fam tuag at un oedd megis wedi achub bywyd ei hunig blentyn.

"Ma' 'ne rwun yn dwad dwi'n meddwl ma' Miss Eurwen. Cefais air ar y phone ganddi, ei bod yn dod. Ma' hi wastad. Ac erbyn hyn dyna Eurwen i'r golwg, a thorch o flodau yn ei llaw. Symudodd y ddwy i'w chyfarfod ac at ddrws ystafell Bob.

"Wel Ann Jones bach," ebai Eurwen. Estynodd ei llaw iddi. Nis gallwn lai na dod i weled sut y mae. Byddaf yn trio dod i weld bob un geiff 'i anafu, y fath loes i chi. Sut y mae o?"

"Y mae cystal a'r disgwyl," ebai y Nurse. "Dowch i mewn."

Aethant i fewn at Bob.

"Dim seremoni Nurse," ebai Eurwen, a rhag ei blaen at wely Bob.

"Yr ydych yn well. O! mae'n dda gennyf, er mwyn eich mam. Y fath le yw'r pwll 'ne." Trodd at y Nurse. "Ei goes," ebai y Nurse. A gwaedodd i ormodedd Miss Eurwen. Dyna fu'r anhawster mwyaf, ac oni bae am Mr. Jarvis.

"Pwy?"

"Mr. Jarvis. Mae Bob yn ddyledus i Mr. Jarvis am ei fywyd y tro hwn,—yn rhoddi ei waed iddo."

"Mr. Jarvis."

"Mr. Jarvis, Miss Eurwen."

Edrychodd Eurwen drachefn ar Bob, ac yna i wyneb ei fam. "Dyna rywbeth onide?"

"Ie, gan swyddog ac yn ddieithr yn Llifon Miss Eurwen."

Wel, yr wyf yn ddiolchgar iddo, a bydd fy nhad yn falch o glywed am hyn. Lle mae Mr. Jarvis?"

"Y mae yn ei wely. Gwnaeth Dr. Tryfan iddo aros i mewn am ychydig ddyddiau. Dipyn o dreth ar iechyd Mr Jarvis, ac nid oedd yn y cyflwr ddylasai fod i'r fath beth mewn gwirionedd, ond mynnai—ac yr ydym wedi cael ganddo fodloni i aros yn ei wely am ychydig ddyddiau."

"Buaswn yn hoffi ei weled."

Edrychodd y Nurse ar fam Bob. Prin y tybiai yn ddoeth wedi archiad y Meddyg iddi ddweyd ei bod wedi bod yn ei olwg gyda Ann Jones, a prin hefyd y gallai wrthod Eurwen o dalu ymweliad a'r ystafell, a meddyliodd ei fod yn cysgu.

"Os caf ond ei weled Nurse, ei nerves mae'n debig?"

"Ie, y mae ei nerves yn ddrwg. Yr oedd y braw a gafodd yn un peth, a diameu ei bryder ac yn ddyn mor llafurus."

Cafodd mam Bob funud gyda Bob cyn ymadael, ac addewid gan y ddwy ferch dyner na fyddai dim yn cael ei esgeuluso i brysuro'r bachgen yn ol i'w gartref, ac aeth ymaith yn lled siriol gan adael y ddwy ferch yn ymgomio gyda'i gilydd wrth y drws.

Gwyddoch y ffordd Ann Jones, ond dacw Rolant. Cymerwch Ann Jones i'r drws Rolant."

"Di o ddim wedi gwneud dim allan o'i le?" gofynnai Eurwen.

"Pwy?" gofynnai y Nurse.

"Mr. Jarvis."

"Wel yr oedd y Doctor ar y dechreu yn ofni, ond mae mor anodd, ac ni allai feddwl ar y pryd am neb un y gallai feddwl am dano i gael—ac mae bechgyn y pwll fel rheol o dan y safon; ond ni fynnai Mr. Jarvis iddo feddwl am neb. Mynnai osod ei hun, y mae yn ddyn ieuanc gwrol —a fine type. Mae munud o gwmni Mr. Jarvis yn eich codi chi, ac yn aros yn y Wal—"

"Dyna Nasareth Llifon Nurse," ebai Eurwen.

"Ie yn siwr, Miss Eurwen, Nasareth Llifon."

Aeth y Nurse eilwaith at ddrws ystafell Jarvis, a chafodd ef yn cysgu.

PENNOD XXII.

Fuos ti Nel?"

Do mam."

Sut ma' Ann Jones?"

Wel, ma' hi cystal a sydd posib. Wedi upsetio 'narw, a ma' hi yn edrych yn ddrwg mam—a neb—ond pobol y Wal."

Aru ti ddeud wrthi mod i yn meddwl dwad i edrych am dani."

"Do."

"A ma' Bob yn yr Hospital?

"Ydi, yn yr Hospital mam."

"Rhaid bod o wedi cha'l hi yn go arw."

"Wedi crushio 'i goes ma' fo, a'i thorri hi a mi ddaru waedu yn ofnadwy a Bob druan ddim mor gry'—fu just iddo fo a cholli'r dydd, a dwi' wedi deud yr af i edrych am dano fo y Sul."

"Ie, rhaid i ti fynd Nel. 'Roedd Derwyn yn meddwl y byd o Bob, wn i ddim be 'nath iddo fo gymryd ato fo gymaint. Wrth gwrs, 'roedd o yn 'i glass o yn Ysgol y Llan, a byth er hynny Bob, Bob oedd hi—a ma fo'n well?"

"Wel, ma' fo allan o berig, a dene chi ryfedd mam,—y lodgiwr 'ne sy' ono, Mr. Jarvis sy' wedi—y fo roth 'i waed —oni bae am hynny fase Bob yn gorff marw heddyw."

"Be—ydi hwnw yn dal yn nhŷ Ann Jones, a fynte yn ddyn mor uchel yn y gwaith?"

"Y fo sy' wedi achub Bob, Mr. Jarvis—chwarae teg iddo."

Rwyt ti wedi fy synnu—ond ma' nhw'n deud 'i fod o'n fachgen ifanc nobl a tase 'ne chwaneg o ddynion o'i fath o fase'r byd 'ma yn nes i'w le Nel. Roedd Mr. Ellis yn deud 'i hanes o yn nhŷ Mrs. Barrow, yr ymdrech ma' fo 'di neud efo'r bechgyn y gwaith—a mi roddodd 'i waed tros Bob?'

"Do mam."

"Wel ma' clywed am rywbeth fel ene yn ca'l 'i neud yn win i galon dyn—"

"A 'ddyliwn i mam, fel 'roedd Ann Jones yn deud fod Dr. Tryfan braidd yn erbyn iddo fo neud—wedi rhedeg 'i hun i lawr, medde Ann Jones, efo'r gwaith a'r building mawr hardd 'ne a mil o bethe, a 'roedd o yn edrych yn ddrwg medde Ann Jones e's dipyn, ond mynnai i'r Doctor weithredu a chymryd 'i waed o."

"Fydd raid i ti ysgrifennu'r hanes yn fanwl i Derwyn Nel, a mi fydd yn synnu clywed am Bob."

"Ma'r ddau yn yr Hospital."

"Mr. Jarvis hefyd?"

"Ydi, ma' Dr. Tryfan wedi gneud iddo fo aros, a' roedd y Nurse yn deud wrth Ann Jones heddyw fod o'n mhell o fod yn dda, a bydd raid iddo gymeryd gofal mawr—fydd yn biti i rywbeth ddwad at y fath un mam?"

"Mi fydd Derwyn wedi synnu, Nel, a 'roeddwn i yn breuddwydio efo fo neithiwr drwy'r nos, er dwi'n breuddwydio o hyd; ond ches i 'run freuddwyd mor ryfedd a hon efo fo Nel bach. 'Roedd i—"

"Rhoswch am funud mam i mi fynd a'r Tea Cosy 'ma i Mrs. Williams. Ma' hi yn cymryd gofal bwrdd yn y parti a dwi di addo benthyg hwn iddi. Bydd yn alright—wedyn mi gaf wrando ar eich breuddwyd."

Ar hyn, daeth Gwen i'r ystafell a chlywai Nel yn son am fyned ymaith.

"Mi 'na i redeg a fo Neli—a dwi 'isio rhedeg i dy mam —ma' Bob Jones yn well."

"Ydi, 'roeddwn i yn deud yr hanes wrth mam. ddweyd wrtha chi eto Gwen, ac os 'newch chi redeg efo hwn i Mrs. Williams. Tea Cosy ydi o, i fenthyg o—isio chi ddeud dim ond i roi o Gwen."

Aeth Gwen ymaith a chafodd Nel hamdden i wrandaw ar ei mam—rywbeth am Derwyn, a byddai'r freuddwyd am dano mor dderbyniol a dim. Yn wir, bu'r freuddwyd er yr amser yr aeth ymaith yn fath o undercurrent neu subway i ddal cysylltiad di-dor a'r bachgen oedd rywfodd o hyd yn golledig, a chymerai amryw ffurfiau ambell waith byddai y fam neu un o honynt yn y Ddinas yn mwynhau cwmni Derwyn. Dro arall gydag ef yn y tren. Dro arall ar y llong fawr yn morio i'r America, neu efallai yn dod yn ol gyda Derwyn. Ie, pethau pwysicaf y Bryn, cartref Derwyn ar lawer ystyr y misoedd diweddaf oedd y freuddwyd.

"Tair blynedd a thri mis mam," ebai Nel. "Fel mae'r amser yn mynd," ychwanegai.

"Ond gad i mi ddeud fy mreuddwyd, Nel. Cei dithe adrodd—a ma' tada 'di breuddwydio y noson o'r blaen, a weles i mono fo'n crio cymaint o'r blaen Nel. Wel—"

"Ddaru o ddim 'i deud hi wrtha i mam," ebe Nel. "Naddo. 'Roedd o yn methu dal 'i hun i ddeud hi i mi Nel. Weles i mono fo mor ofnadwy ddwys o'r blaen. Roedd o yn eistedd ar y gadair o flaen y tân 'ma, medde fo yn 'i freuddwyd—rhaid i mina—"

Llwyddodd y fam i droi'r ymosodiad yn ol. "Ie, dowch am tada, mam," ebai Nel.

"Ie, roedd o yn eistedd ar y gadair 'ma," ebai drachefn, a phwy oedd yn chwarae gyda'i fys bach cynnes ar 'i war o, ond Derwyn yn blentyn bach—yn 'i hogles o, a dene oedd yn rhyfedd medde fo, cynted wnaethai fo droi 'i ben i edrych arno fo—fedre mo mo'i weled o, a felly am amser, ond 'roedd o yn clywed 'i fysedd bach o mor fyw medde fo, a ma' fo yn 'i clywed nhw ar 'i wddf yn y siop, ym mhob man—clywed nhw felly o hyd. Ydi o yn rhyfedd dwad?"

Yr oedd y llestr eto yn orlawn a'r dagrau ar ruddiau Nel y pryd hyn ac arosodd y ddwy yn fud am ychydig funudau gan syllu i'r tân.

"Ie mam," ebai Nel yn y man. "Be ddaru chi freuddwydio?"

"O Nel, rywsut buaswn yn caru'i hanghofio hi, ei lais annwyl o—ei lais o. 'Roeddwn i mewn adeilad mawr dieithr ac yn sefyll yng ngwaelod grisiau a dyna lais Derwyn yn bloeddio "Mam" debygwn i oddiar y landing gyntaf, a dyna fi i fyny Nel tan golli fy anadl, ac erbyn cyrraedd neb i'w weled yn unman. A dyma fi wedyn yn aros i wrando ar y landing honno drachefn, ac ar hyn dyna lais Derwyn yn bloeddio "Mam" drachefn, i fyny a fi wedyn Nel bach, ac ar y landing honno, 'roedd yno lawer o ystafelloedd, chwilio y rhai hyn ol a blaen, methu ca'i hyd iddo fo, a dyna fi wedyn yn sefyll ar y landing honno drachefn, ac yn gwrando—dyna'i lais annwyl o wedyn yn bloeddio "Mam ddwywaith, a my fuaset yn tyngu bod o yn agos ata ti, ac i fyny y landing nesaf a fi wedyn Nel— ond methu eto, a felly bum i yn dringo ar ol 'i lais o Nel. Ma' hi yn fwy ofnadwy na breuddwyd tada am dana fo."

Yna torrodd y fam i wylo.

"Ie, criwch am spelen mam, mi neiff y'ch 'sgafnu chi.—.

"Ie, dringo, dringo,—"

Dyma Gwen yn ei hol. Daeth Gwen rhag ei blaen i'r aelwyd.

"Buoch yn fuan Gwen."

"Nid oedd mam yn tŷ Neli. Mi redaf yno heno. Mr. Ellis yn gofyn am dano chi. 'Roedd o yn mynd i'r Hospital rwan i edrych am Bob."

Edrychodd Gwen ar ei meistres, ond ni ddywedai air.

"The blessed dreams Mam 'di breuddwydio. Gwen bach. Geiff Gwen 'i chlywed hi eto. Mi ddaru mi 'i weld o Mami, a 'roedd Gwen efo fi."

"Y fi," ebai Gwen.

"Mynd i ddweyd fy mreuddwyd ydw i Gwen. 'Roedde ni'n dwy ar yr aelwyd 'ma yn gneud rywbeth, a dene i wyneb glân o ar y ffenest. Mi floeddies mam, a dene ni allan ein dwy drwy'r drws 'ma, a disgwyl i gofleidio fo, ond erbyn i ni fynd allan 'roedd o 'di mynd —dim golwg arno fo a dene ni i'r tŷ yn ol ac i'r aelwyd, ac yn y man dene 'i wyneb o wedyn ar y ffenest. Y tro yma yn chwerthin arna ni. Allan a ni wedyn—huntio pob twll a chornel am dano fo—yr ardd a phob man—methu a'i gael o yn unman. I'r tŷ a ni wedyn, a dene 'i wyneb o drachefn ar y ffenest —ac ar hyn, dene fi yn deffro."

Wedi sychu y dagrau a chael y goreu ar effaith y breuddwydion, ebai y fam—" Rhaid i ti fynd a hanner dwsin o wyau a phwys o fenyn iddi Nel. Wrach ma' fel ene sy'n cyfri i ni freuddwydio mor ryfedd, a Bob wedi brifo, yde ni ddim yn gwbod. 'Roedd o yn sobor o ffond o Bob. Wyt ti'n cofio fel bydde fo'n cario'r wyau rheini ar y slei. Bydde raid i ni fod am ein bywyd efo fo Gwen."

Er cymaint y breuddwydio am Derwyn, ni bu dim o honynt a chymaint eu heffaith ar deulu y Bryn, a'r rhai hyn.

PENNOD XXIII.

Yr oedd i Jarvis ewythr yn y fan a'r fan. Modryb yn y fan arall a nifer o gefnderod yma a thraw, ac yn ystod y ddeuddydd cyntaf o arosiad Jarvis yn yr Ysbytty, a chyda hynny ryw ysgwyd pen gan y Meddyg o barthed i iechyd Jarvis, teimlai mam Bob y carai yn fawr ddanfon at rai o honynt, a diameu y buasai wedi gwneud hynny pe buasai cyfeiriad priodol rhai o honynt yn ei meddiant. Beth bynnag, prin y bu cymaint pryder yn Llifon o barthed i iechyd unrhyw un ac ydoedd i Mr. Jarvis, a phan welodd Tryfan ef y trydydd dydd, prin y gallai faddeu iddo ei hun am yr hyn ganiateid iddo ynglyn a Bob; ond ni ellid wrtho, ac nid oedd dim ond gwasgu arno gymeryd y cwrs trwyadl yn ol barn Tryfan, sef ysbaid o orffwys llwyr.

"Ryw ychydig ddiwrnodau eto Mr. Jarvis," ebai y Meddyg," ag y mae Mr. Stork yn falch eich bod yn aros."

"Y gwaith a'r bechgyn," ebai yntau. Yr oedd colli un dydd oddi wrth fechgyn y pwll yn rhywbeth na allai ei lawn bwyso.

Yr oedd blodau o ardd y Plas yn cael eu danfon gan Eurwen i'r ddau, a phan ddelai 'i blodau i ystafell Jarvis, syllai yn hir arnynt —Eurwen—" a dyna nodyn bach ganddi i chwi Mr. Jarvis," ebai y Nurse. "Cefais innau un, daw yma rywbryd yn y prynhawn." Ond, ni roddai Jarvis unrhyw atebiad, a synnai y Nurse at ei oerfelgarwch, ac yn fwy felly pan welodd hi ef yn taro y llythyr ar y bwrdd heb gymaint a'i agor. Mor wahanol i'r cleifion eraill ydoedd, can's byddai ymweliad yr Aeres i'r "inmates" eraill yn achos o fwynhad neillduol.

Arosodd y Nurse gydag ef am ychydig funudau gan feddwl y buasai yn ei agor, ond ofer ei disgwyliad, a thaflai edrychiad awgrymiadol ar y nodyn.

"Addawodd ysgrifennu hwn i mi," ebai Jarvis yn y man "y mae ynglyn a'r Institute. Yr wyf yn rhy hen i ddim arall Nurse—ac yn rhy bell—"

Taflodd wen fach siriol i wyneb y Nurse ac ychwanegai, yr yde chi'r merched wastad yn meddwl fod y llythyr yn cynnwys rywbeth neilltuol, ac y maent yn aml." Yna cydiodd yn y llythyr drachefn. Agorodd ef gan ei ddarllen yn frysiog, yna taflodd ef i'r Nurse.

"Yr wyf wedi fy siomi" ebai, "dim gair am yr Institute —Syr Alwyn."

Dyna chwi fine, mae Miss Eurwen ar ran ei thad yn eich gwahodd i'r Plas am spell," ebai y Nurse.

"Dyna ydi o?" gofynai. "Ddaru mi mo'i ddarllen o yn fanwl."

"Y mae yn gobeithio y gwna y Meddyg ganiatau i chwi ddod yno am rest fach—fine Mr. Jarvis. Tase Nurse Jones yn cael dod gyda chi—"

"Buasai yn wir "fine" Nurse," ebai yntau; "ond "too much of a jump Nurse. Well gennyf fi aros yma am ddeu-ddydd. Dr. Tryfan yn deyd y caf fynd at fy ngwaith wedyn. Yde chi'n adnabod pobl Llifon 'ma?

"Ychydig iawn Mr. Jarvis, a d'oes dim ond deunaw mis er pan rwyf yma. Ma' nghartre i yn ymyl yr Wyddgrug, yn ymyl Cilcain, er o Leeds y daethum i yma."

Felly mae pobl Llifon yn ddieithr i chwi Nurse."

"Wel mae deanaw mis wedi rhoddi ychydig gyfle i mi mewn lle fel hyn, cymaint yn dod yma, Mr. Jarvis."

Rhoddodd y Nurse y llythyr yn ol iddo, 'Wn i ddim beth ddywed y Doctor. A ydych am fynd?"

"I'r Plas?"

"Ie."

"I'r Pwll Nurse, ymhen deuddydd, er gobeithio na ddigia y marchog wrthyf, can's mi charwn er dim cyfrif fynd i'r Plas."

Daeth ryw olwg rhyfedd tros ei wynebpryd wrth son am y Plas. Ryw fyfyrdod di-ildio. Aeth holl linellau ei wynebpryd yn afonydd.

"Na Miss," cydiodd yn y llythyr, a dyna sŵn un o glychau'r Ysbyty.

"Buaswn i yn mynd," ebai'r Nurse wrth ei adael. "Buaswn yn wir Mr. Jarvis."

'Does dim cymaint a hynny yn wrong arnaf Nurse, ac i be? Ond, am funud Nurse, pryd y daw Miss Eurwen yma?"

"Tri o'r gloch."

"Diolch."

Wedi i'r Nurse fynd allan, tynnodd Jarvis ei oriawr allan.

"Rwan yn un-ar-ddeg—un, dau, tri o'r gloch," ebai, ac ychwanegai, "bydd y cwbl drosodd erbyn dau o'r gloch" ebai wrtho ei hun. "Y tro nesaf y daw hi i mewn clapiai ei wefus. "Y fath ryfeddod fydd iddynt," ebai. Yna cymerodd lyfr a darllenodd ef am ychydig amser yn hamddenol.

Yr oedd wedi bod wrtho ei hun am oddeutu awr o amser a dyno sŵn cerddediad cyflym y Nurse yn cyfeirio i'w ystafell. Rhoddodd gnoc bach ar y drws. Agorodd ef. Edrychodd y Nurse yn syn. Safodd wedi ei tharo a braw ryfeddol.

"Lle mae Mr. Jarvis?" gofynnai.

"Pwy?"

"Mr. Jarvis—swyddog gwaith Llifon. Yr oedd yn aros yma. Lle mae o?" gofynnai eilwaith gyda llais brawychus.

Gwenodd y llanc arni, "yr ydych wedi ei golli."

"Do, pa fodd,—dowch lle mae o?"

Gwenodd drachefn ac ebai,

"Wel, y mae wedi dianc, ac wedi gofyn i mi aros yma tan ddaw yn ol."

"O! na deudwch be sy'n bod? Dyna ryfedd—deudwch."

"Y mae wedi dianc Nurse—rhaid ei fod."

"Nid y chi ydi Mr. Jarvis. Ni allai fynd ymaith. O! dyma ryfeddod. O! deudwch wrthyf."

"Newch chi ddim cyffroi Nurse. 'Does dim byd allan o'i le. Y fi ydi Mr. Jarvis. Cewch weled rhagor yn y man."

"Y chi Mr. Jarvis!"

"Y fi ydoedd Mr. Jarvis, ac y mae y diweddar Mr. Jarvis yn diolch i chwi am eich caredigrwydd. Yr ydych wedi bod yn fine wrtho." Gwenodd arni.

"Beth ddywed y Doctor. Wel—"

"Lle mae o?"

"Disgwyl am dano bob munud i mewn."

"Wel, aroswch tan ddaw. Peidiwch a dweyd dim wrtho, a charwn ei weled gynted ag y gallo."

"Y mae yn dod i'r rhan yma gyntaf. Rhyfedd, rhyfedd!"

"Ydyw, y mae yn rhyfedd, a bydd fwy felly i rai—ond os yw y Doctor yn dod, gwell i chwi fynd i'w gyfarfod, a dod ag ef yma. Canys yr wyf am i'r new entry gael ei wneud trwyddo fe Nurse—chwi ganiatewch hyny Nurse."

**** Cerddodd y Nurse a Tryfan y Meddyg, i gyfeiriad yr ystafell yr oedd wedi mynd i'w gwrdd.

"Rhaid i chwi ddod i'w weled yn gyntaf," ebai y Nurse. "Y mae wedi gofyn i mi."

Cafodd y Meddyg ychydig fraw er ni wyddai paham. "Dim byd yn wrong Nurse?"

"Dim yn wrong ond—"ebai hithau.

Edrychodd i'w gwyneb, cyn agor y drws.

"Nag oes, dim yn wrong," ebai y Nurse. "Ewch i mewn."

Aeth y Meddyg i mewn a chododd y llanc ar ei draed gan ddod i'w gyfarfod.

"Wel Derwyn, Derwyn, Derwyn," gwaeddai. "Wel —wel—wel Derwyn, Derwyn," ebai drachefn, a neidiodd ar ei wddf i'w gusanu a'r dagrau yn disgyn ar ei ruddiau mor gyflym a'r geiriau a gyfarchai y bachgen hoff.

"Wel, dyma ryfeddod Llifon," ebai. "Eistedd, eistedd, un o fechgyn anghof Llifon Nurse wedi ein twyllo, a'n twyllo i bwrpas. Wel—ni."

Ni ddywedai Derwyn air yn ol ond yn unig estyn ei law i'r Nurse.

"Gai fynd at Bob?" gofynnai.

"Gormod o shock i Bob, Derwyn—aros, dwi'n mynd i 'nol dy dad y munud 'ma."

"Roeddwn i wedi methu dal yn hwy Doctor—er wn i ddim a ddylaswn fod wedi aros heb—y Pwll—"

"Pam?"

"Wn i ddim beth a ddywed Stork, a Syr Alwyn, a'r bechgyn hoff."

"Bydd y bechgyn yn gorfoleddu, ac yn dawnsio Derwyn a Syr Alwyn just 'i bethe fo. A dyma be wyt ti 'di neud —a dyma'r ffor' wyt ti 'di dewis i ddwad a dipyn o'r right thing i Llifon. Well done y machgen i. Peidiwch a gadael iddo symud o'r fan hyn Nurse. Deg munud—dim ond deg munud."

Aeth Tryfan yn ei gerbyd ar ei union i siop Tad Derwyn, a'r olwg gynhyrfus, synedig eto heb adael ei wynebpryd. Yr oedd tad Derwyn ar y pryd yn gweini pan gyrhaeddodd y Meddyg.

"Ma' isio i ti ddwad ar unwaith gyda mi i'r Ysbyty Humphreys," ebai.

Edrychodd Humphreys arno gyda syndod.

"Be mater arna ti?"

"Gorffen neges y wraig a tyrd ar unwaith."

"Ysmalio 'rwyt ti dwad?"

"Mae tipyn o ysmaldod yn y peth, ond tyrd ar unwaith. Aeth Tryfan ato o'r tu ol i'r counter a chydiodd yn ei fraich."

"Does gen i fawr amser i golli, a llawer llai i siarad heb achos. Tyrd rho glo ar y drws 'ma ar unwaith. Rwyf wedi cyfarfod a damwain ryfedd y fwyaf ryfedd a gefais erioed, ac mae gennyf eisiau dy help."

Yr oedd y fath neges a hyn yn hollol ddieithr i Humphreys, ond er hynny bu ymbil y Meddyg y fath fel na allai ond ufuddhau ar unwaith, a chyn pen pum munud yr oedd y ddau yn cerdded at ddrws ystafell y bachgen." Yma ma'r ddamwain Humphreys," a safai am ennyd cyn agor y drws, ac ebai, " Y mae yn un o'r damweiniau rhyfeddaf a gyfarfyddais erioed—dim achos iddo gyffroi ai oes Nurse?" ebai.

Safai Humphreys yn fud. Ni allai ddweyd gair ond edrychai yn ddyfal i wyneb y Meddyg.

"Cofia, nid wyt i gyffroi," ebai drachefn.

"Wedi agor y drws dyna lais Derwyn yn ei gyfarch," Fy Nhad, chwi faddeuwch i mi."

Mr. Jarvis, swyddog goreu a welodd Pwll mawr Llifon wedi ei bersonoli gan dy fab Edward,—ac yn barod wedi gosod anrhydedd arnat."

"Fy mhlentyn—wel Derwyn "—a bu ei dad am ychydig funudau fel yn methu credu. Yna, cusanodd ef eilwaith ac eilwaith.

PENNOD XXIV.

REDODD Gwen i'r tŷ o'r ardd. Yr oedd gardd

Bryn cymaint uwch na ffordd y Llan, a gellid

gweled o'r ardd hyd at dro y ffordd sydd wrth y fynwent.

"O meistres, meistres. Dowch, dowch," gwaeddai. "Be sydd Gwen?" gofynnai ei meistres; ond ni chymerai Gwen i'w hateb, ond rhoddodd floedd hefyd ar Nel.

"Be sydd Mam?" ebai honno drachefn. "Be sydd Gwen?" ebai wedyn.

Yr oedd Gwen wedi rhedeg i waelod yr ardd a dawnsiai gan orfoledd, "Derwyn meistres, Derwyn."

"Be?" ebai'r fam.

"Dowch."

Ie, Mam." Yr oedd Nel yno ar darawiad. "Ie mam." Peidiwch a nhwyllo i 'nethod, "ebai 'i fam. "Derwyn mam," ebai Nel gyda'r fath bwyslais, a rhedodd heibio'i mam i'r tŷ, a'r fam erbyn hyn wedi estyn at y gwrych i'w weled. Yr oedd yn cerdded yn lled gyflym gyda'i dad.

"O'r 'Merica heb i ni wybod. O! mhlentyn i. Ie, fo ydi o Nel bach."

Dilynodd y fam Nel, ond arhosodd Gwen ychydig yn hwy wrth y gwrych. Gwen oedd yr olaf—dim petrusder gan y fam a Nel.

Cododd Derwyn ei law ar Gwen, wedi iddo ddod ychydig yn nes.

"Ie, ie, y fo ydi o," ebai Gwen, a rhedodd hithau i'r tŷ.

Ni fu erioed y fath funudau yn y Bryn a'r rhai hyn—trwy un drws, trwy un arall, i fyny ac i lawr. Yr oeddynt wedi dyrysu yn hollol, a'r tad a'r mab yn lled agos erbyn hyn at lidiart yr Ardd—y naill a'r llall yn gwenu tan siarad. Tebig yw fod mater y pwll i gael ei gadw yn ol am ychydig, ac mai tir y Gorllewin oedd i gael y sylw blaenaf. Yr oedd y ddau yn yn chwerthin yn braf.

"Clywch arno fo yn chwerthin mam. O'i lais annwyl o," Yr oeddynt ar garreg y drws, a dacw'r llidiart yn agor, a Derwyn a'i dad yn cerdded i fyny'r ardd, a chyn pen ychydig eiliadau yr oedd breiehiau Derwyn am wddf ei fam, a'r tad yn cerdded i'r tŷ fel gŵr wedi cyrraedd glàn ei fywyd.

Pwy dren ddoeth o tada?" gofynnai Nel.

"Pryd ddaru'r llong gyrraedd Derwyn?" gofynnai y tad, "a'r tren cyntaf ar ol cyrraedd elli benderfynu, ebai yn mhellach.

"Pryd daru ti gychwyn o'r America?" gofynnai y fam. Wel, pam na fase ti 'n gyrru bod ti'n dwad Derwyn? Base Nel a dy fam a fine gyda'r glasses ar y landing stage yn base ni Nel?"

"Tamed iddo fo cynted ag y gallo chi Nel," ebai y fam. "Dim tamed am ychydig mam," ebai yntau—dyma Mr. Ellis yn dwad."

"Y fi redodd i ddeud wrtho fo Nel," ebai Gwen.

Daeth y Gweinidog a'i wraig i'r tŷ i groesawu y bachgen dychweledig.

Wel Derwyn, Derwyn. Wel, Derwyn! falch o'ch gweled chi Derwyn."

Ysgydwyd dwylo cynnes, a'r dagrau yn methu cael eu dal yn ol.

"Yn falch o'ch gweled chi Mr. Ellis, a chithe Mrs. Ellis," ebai Derwyn.

Edrychai y Gweinidog arno yn ddyfal. Yr oedd yn gweld nad oedd ei wedd yr hyn ddylai fod—nid yn hollol yr un Derwyn.

"De chi'n meddwl nad ydi o ddim yn edrych cystal?" gofynnai ei fam.

"Wel, y fordaith ynte Derwyn. Daw y lliw yn ol ymhen diwrnod neu ddau Mrs. Humphreys—y fordaith. Pryd oedde chi'n gadael New York?"

Edrychodd Derwyn ar ei dad.

"Pum diwrnod y bu o yn morio Mr. Ellis. Dydd Iau felly, Derwyn," ebai y tad.

"Bydd raid ca'l 'i ffrindie fo—a tase ni'n gwybod, ond mi wnewch aros Mr. Ellis a chithe Mrs. Ellis."

"Fe gawn eto Mrs. Humphreys—a chyda'i ffrindie fo, ysgrifennu roeddwn i rwan, pan ddaeth Gwen i mewn at Goronwy. Mi fydd—na eto, a dyna'r Doctor yn dod. Wel Derwyn, fu Llifon erioed cyn falched o weled un yn ol ai do Mrs. Humphreys?"

Daeth Tryfan i mewn. Safodd ar ganol y llawr, gan edrych yn bennaf ar fam Derwyn, heb ddweyd gair, na chymaint ag edrych ar Derwyn. Yr oedd ei ymddygiad yn anesboniadwy iddynt—nis gallent ei ddeall.

"Be sy'n bod?" gofynai Nel.

"Ecsciwsiwch fi Mr. Ellis," estynodd y meddyg ei law i'r Gweinidog, "a chithe Mrs. Ellis."

'Ryde chi'n gweld Derwyn Doctor," ebai Nel yn awgrymiadol.

"Dwi wedi gweled mwy na ddaru ti feddwl Nel," ebai yntau, ac ychwanegai—" Mae Derwyn wedi gadael y cwbl arna i, ac yr wyf wedi brysio i gael dod yma. Mae yn fwynhad mawr i mi, bron na ddywedwn nad ydyw yn un o'r amgylchiadau mwyaf ei fwynhad a gefais erioed, sef cael dod i introducio Derwyn i chwi fel Mr. Jarvis—un o'r dynion hyny ag sydd yn addurn nid yn unig i Lan bach Llifon, ond i Gymru benbaladr. Y mae wedi cyflawni gwasanaeth gyda dynion ieuanc ei oes, ag sydd yn glod iddo, wedi dod a thipyn bach o what is wanted i mewn i'r bywyd. Well done Derwyn."

"Be?" ebai ei fam a'i gwyneb yn ysfa o fwynhad.

Prin y gellwch ei sylweddoli ar unwaith, Mrs. Humphreys—prin, y mae yn anodd, ond dyma fo Derwyn. Be de chi'n feddwl o hono?"

"Nid y fo sy' wedi achub bywyd Bob Jones?"

"Dyma Mr. Jarvis," ebai y meddyg drachefn. "Do, ac nid yw Derwyn yn ryw hoff i ni son am hynny. Do, 'roedd Bob yn rhyfeddol o isel."

"Mae o ddigon gwir i chi Mr. Elis," ebai y tad.

"Ac yn Llifon ar hyd yr amser," ebai Nel.

"Ie, bum wrth y drws yma lawer noson mam, yn gwrando ar Nel yn sgwrsio am danaf, a bron—bron lawer tro—"

"Felly, ni fuoch yn yr America?" ebai y Gweinidog. "Naddo Mr. Ellis, a ddaru mi ddim meddwl am fynd. Yr wyf wedi bod yn bur hapus yn eich canol—hollol—"

Yr oedd y Meddyg ar gychwyn a chododd Derwyn ar ei draed i ddiolch iddo, gan addo yr arhosai am ddiwrnod neu ddau yn ol ei gyfarwyddyd. Yr oedd i gael gweled Bob ymhen ychydig ddyddiau.

Ymadawodd y Meddyg, ac aeth y Gweinidog yn ol i'w dŷ. Yr oedd yntau wedi dod i gwrdd ag un o amgylchiadau hynotaf ei fywyd.

Yr oedd pob munud o'r prynhawn hwn yn y Bryn yng nghwmni Derwyn, yn cael ei lanw a'r hyfrydwch hwnnw na all iaith ei ddesgrifio yn gywir; ond yr oedd gwedd y bachgen ymhell o'r hyn ddymunai ei fam iddo fod, a rhyfedd iddo fod cystal yn ol ei thyb hi.

"Meddwl dy fod wedi bod am ddwy flynedd yn y Wal 'ne," ebai," a tithe Derwyn wedi condemnio cymaint ar y cabanod isel."

"Nid wyf am i chwi edliw dim am danynt," ebai yntau. "Gwn beth ydynt, ac y mae yn drosedd yn erbyn Duw a dyn fod y trueiniaid yn gorfod byw ynddynt. Y cwbl allwn ni neud mam ydyw ceisio eu helpu ar hyn o bryd. Ond, bydd Ann Jones yn rhyfeddu—er 'roedd hi yn fy ame i o hyd—ac yn son beunydd am Derwyn—Bob druan." Cyn diwedd y dydd, ysgrifennodd Nel lythyr at ei modryb i ddweyd yr holl hanes y fath hanes!

PENNOD XXV.

YN groes i feddwl Derwyn bu y cyfnewidiad o fod yn groes Mr. Jarvis i fod yn Derwyn yn hynod o gymeradwy gan bobl Llifon, a phawb am y cyntaf yn datgan eu meddwl uchel o hono. Stork, holl swyddogion y gwaith y ficer, gweinidogion, pawb, ac nid y lleiaf o honynt Syr Alwyn ei hun, a chan fod trefniant gosod y cerrig yr Institute yn ymyl, ac anrhydedd o osod y garreg yn cael ei osod arno ef, Syr Alwyn, ni thybiai ef y gallai gyflawni y fath orchwyl, heb yn gyntaf i ryw fath o ddatganiad cyhoeddus gael ei wneud i anrhydeddu Derwyn.

"Mae'r hen bry' ene yn rhoi'i droed yni, Ann Jones," ebai Derwyn. Yr oedd Bob erbyn hyn wedi dod o'r Ysbyty, a chyda'i faglau hyd y tŷ a Derwyn fel ei arfer yn cael ryw ddeg munud gyda Bob a'i fam.

"Pwy, Derwyn bach?" ebe hithau.

"Yr hen Syr. Dwi'n bound o dynnu'r Wal 'ma i lawr i chi Ann Jones."

"Synnwn i ddim o gwbl Derwyn," ebai hithau, a dylwn ddweyd yn y fan hon, fod y garwriaeth cydrhwng Derwyn ac Eurwen wedi ei chydnabod, er bu cryn ryfeddod am hyn yn y wlad—ond dyna'r ffaith. "Na synnwn i ddim," ychwanegai mam Bob. "Yr wyt wedi gwneud peth mwy na thynnu gwal i lawr, achub bywyd y machgen i."

"Paid ti a hopio gormod Bob. Wyt ti 'di blino? Na synnwn i ddim Derwyn. Pryd ma'r cyfarfod i fod?"

"Fase'n well gen i lawer hebddo Ann Jones; ond fuos i 'rioed yn stupid efo dim. Mi ga'n fy nghanmol i i'r awyr slicia nhw. Mi ga ine ambell i ddeg munud yn y Wall quite as good i mi Ann Jones, er fu mi rioed yn fwy awyddus am fynd tros y môr yna ag ydw i rwan—ond—

"Be' sy' eto Derwyn bach?"

"Yr hen Wal gas 'ne Ann Jones, a tase chithe heb roi'r Album 'ne ar y bwrdd y noson honno. Mi feddyliais ar y pryd ma'i lol i gyd oedd "ond—chwarddodd Derwyn i wyneb Ann Jones. Y chwarddiad iach, hyfryd hwnnw ag a barodd i fam Bob fwynhad wrth edrych arno.

"Byd rhyfedd ydi o Derwyn."

"Byd iawn, tase ni'n ca'l ein dysgu i edrych yn iawn arno fo Ann Jones," ebai—"finely conceived" fel bydde Mr Charn yn arfer deud yn yr ysgol," ac ebai ymhellach; ond cadwch chi bopeth yn ddistaw—dwi mynd am dro bach i fyny at y llwyn, de chi'n gwybod. Bob, paid tithe a hopien gormod fel ma' dy fam yn deud er mwyn dy goes."

Daeth Bob ar ei faglau i'r drws gyda'i fam i weled Derwyn ymaith, ac felly daethai Derwyn i dŷ Bob am ryw funud bach fel cynt, er i bwys y swyddogaeth wasgu ar bob munud o'i eiddo, a byddai ryw sylw neu gyfeiriad at y Wal yn cael ei wneud bob tro, er lleied wyddai Bob na'i fam am yr anhawster a ddaeth yr hen fur gaerog i feddwl Derwyn.

Yr oedd yn brynhawn Sadwrn, y Pwll yn gorffen am un o'r gloch a'r fath fwynhad oedd cael ychydig oriau fel hyn i fwynhau awelon iach y dolydd prydferth. Cerddai Derwyn hyd lwybr bach oedd yn dilyn yr afon o Fryn Certh. Aethai i fyny yn araf hamddenol a gwelai ambell frithyll bach yn llamu yn y llyn gloyw, rai o'r llynnoedd bach



I Eurwen yr oedd yn fyd perffaith—tud. 173.



hynny oedd yn fath o orffwys—fan i'r afon flinedig. Safai Derwyn ger bron bob un o honynt ar ei daith i fyny'r bryn, a meddyliai mor wahanol oedd cwrs y dyn, a chwrs yr afon fach, y naill fel y llall yn brwydro, ond un yn brwydro i fyny, a'r llall yn brwydro i lawr, a'r afon yn cael y mân lynnoedd i orffwys, a chai yntau aros i sefyll, nid oedd eto wedi dod i'w gynefin iechyd.

Yr oedd camfa fach yn torri i mewn i Lwyn mawr Llifon ar fryn certh, ac oddi ar y gamfa fach hon gellid gweled yn eglur. Bant yr Afon, a thai y Wal yn glwstwr. Yr oeddynt yn od o brydferth i edrych arnynt, rywbeth yn debig o'r pellter i swp o flodau gwyn.

Addawodd Derwyn y noson hon roddi tipyn o hanes y Wal i Eurwen, a bu wrthi yn casglu cymaint a allai o hen hanes y fangre dlawd.

Yr oedd Eurwen yno o'i flaen yn eistedd a llyfr yn ei llaw. Cusanodd hi, a phob cusan yn dwyn i gôf y cusan ryfedd hwnw a gafodd ganddo yn y breuddwyd. Yna eisteddodd gyda hi ar y gamfa, ac unigrwydd y fangre yn peri'r fath swyn na ellid ei gael yn unman arall—y llwyn mawr du o'r tu ol, fel ryw goffr neu lestr enfawr i ddal y cysgodion tywyll, a mwynder y feinir deg yn ennyn ym mron y llanc y fath hylif o serch nes peri iddo anghofio ei yrfa ryfedd o swyddfa Rasp yn y dref, i fod yn fab serch aeres y Castell. I Eurwen yr oedd yn fyd perffaith. Gwir i'r anhawster fod am beth amser yn gyfryw ag a barai bryder iddi, can's yr oedd ei thad wedi gosod ei fryd ar ei dyweddio i bendefig cyfoethog; ond bu iddo ymbwyllo gan weled mai'r sarhad mwyaf, nid yn unig i'w hoff ferch, ond hefyd i'w hoff Walia, fyddai sefyll i rwystro—a'r fath drychineb allai y fath ymddygiad gynyrchu!

A dacw dai'r Wal?" ebai Eurwen. fedd," ebai drachefn. "Y fath le rhyfedd

"Rhyfedd ac ofnadwy," ebai Derwyn a chusanodd hi eto.

"O dyna, ac yr ydych wedi addo tipyn mwy o hanes y lle rhyfedd ofnadwy i mi—a byddai yn drosedd difa y fath le Derwyn."

"Byddai ar lawer ystyr," ebai yntau. "Welwch chi'r tŷ bach pellaf yn yr ail res?"

Gwelaf," ebai hithau.

Deugain mlynedd yn ol, yr oedd yn byw yn y tŷ yna fam i dyaid o blant, a dyma i chwi hanesyn bach pert glywais am dani. Bu y fam yna am ysbaid o amser yn cario dau blentyn wedi eu rhwymo ar ei chefn i wasanaeth crefyddol ddwy waith bob Saboth, a'r tad yn cario plentyn chwe blwydd oed, anafus. Yr hen Gruffydd Huws sy'n gyfrifol am yr hanes yna Eurwen, ond wrth gwrs, ni fyddis wrth ddifa y tŷ yn difa yr hanes. Yn hytrach, byddai yn ryw fath o deyrnged i'r hanes.

"Mam yn cario dau blentyn!"

"Mam yn cario dau blentyn, ddwywaith bob Saboth, am ddwy filltir o ffordd, yn gwneud i fyny wyth milltir o daith, a'r tad yn cario hogyn anafus. Dyna un o'r ychydig bethau ag mae'r Wal yn meddu hawl arno, a phrin y gellir ei guro. Yna, welwch chi'r tŷ canol o'r tri tŷ bach sydd ar y ffor' ganol?"

"Gwelaf," ebai Eurwen.

Bu brwydr galed ym muarth y tŷ yna, pryd y cafodd dyn ei ladd, ac yn y tŷ yna y cynhaliwyd yr achos crefyddol cyntaf yn Llifon, a chymaint yr erlid hyd nes lladdwyd dyn a thŷ'r frwydr y bu yn cael ei alw am lawer o flynyddoedd. Yr hen Gruffydd Huws bia'r hanes yna eto.

"Dyna fine eto," ebai Eurwen.

"Ie, ac mae hanes du i'r Wal," ebai a syrthiodd gwedd Derwyn wrth feddwl adrodd yr hanes hwn. "Prin y tybiaf yn ddoeth ei adrodd i chwi," ebai, "er—nid yw ond enghraifft fach o lu o ddigwyddiadau cyffelyb yn Nghymru —nag ydyw, a chan mwyaf o honynt yn anghof. Welwch chi'r murddyn isaf acw." Cyfeiriai Derwyn y tro hwn at hen dŷ a'i dô wedi syrthio iddo. "Daeth cyrff dau hogyn glân i'r tŷ acw yn golsyn o hen Bwll y Tip. Gwallgofwyd y fam, a dywedir fod ei llais eiddil yn llefain am danynt i'w glywed am flwyddau lawer wedi iddi farw, yn gymaint felly, fel nad aethai neb i fyw i'r tŷ, a thŷ'r waedd y gelwir ef byth."

Clwyfwyd mynwes Eurwen wrth i Derwyn adrodd yr hanes trist ac edrychai yn ol i gyfeiriad y Castell.

"Buaswn yn caru gweled pob un o dai bach y Wal, a bum yn meddwl fwy nag unwaith roddi basged bach ar fy mraich, a'i llond hi o fân nwyddau. Cymryd arnaf mod i yn gwerthu" ebai Eurwen.

Chwarddodd Derwyn.

Ac ebai ymhellach—" Ac hwyrach y gwnaf hynny ryw ddydd, cyn i ni eu taflu i lawr."

Ymchwyddodd mynwes Derwyn pan glywodd y datganiad hwn o eiddo Eurwen.

"Ac yr ydych am eu cael i lawr?"

"Wedi fy nghosbi yn y gell, yr wyf wedi tyngu," ebai tan wenu, "ac yr ydych wedi dod i fy helpu."

"Ond eich tad."

"Mae fy nhad yn dad i mi, ac yn rhinwedd y berthynas yna—a mwy—y mae wedi fy nwyn i fyny ar ei ddelw, a wyddoch chi, mae serch fy nhad at Gymry a'i phobl yn angerddol. I brofi hynny, ni welais ef erioed yn y fath gyflwr o fwynhad a phan ddeallodd yn llwyr eich amcan chwi yn y pwll. Yn wir, fe ddyliais i fod diwygiad mawr wedi tori allan yn y Castell, ei glywed o yn cerdded ol a blaen yn ei ystafell tan ganu,—

"Diolch Iddo
Byth am gofio llwch y llawr."

Yn y man, euthum i mewn ato, a chefais ei ruddiau yn llaith, a gofynnais iddo, "Be mater fy nhad?"

"O Eurwen!" ebai. "Rwyf mor falch o waith y bachgen 'ne yn y pwll. Yr oedd hyn ar ol i chwi ddod yn ol i fod yn Dderwyn, a bachgen y mae yn eich galw."

"Breuddwyd ryfedd oedd honno Eurwen," ebai, a chusanodd hi.


DIWEDDGLO.

Priodwyd Derwyn ac Eurwen ac ni bu'r fath ddydd o fwynhad yn Llifon a'r dydd hwnnw, ac ymhen ychydig flwyddi—nifer fechan, gwelwyd y dywarchen gyntaf yn cael ei thori ar y Parc, gan ddechreu ar y gwaith o adeiladu y pentref bach newydd i bobl y Wal, a thrwy gynorthwy symudiad pwysig Derwyn gyda'r Urdd, daeth plant a phobl y Wal cryn bellter o'u ffordd i weled y fath le cymwys i'w serchiadau glân fyddai yr adeiladau hyn, ac na fyddai orfod arnynt o gwbl agor drws y tŷ newydd i'r balch a'r anymunol drigo ynddo.

Nodiadau

[golygu]

Bu'r awdur farw cyn 1 Ionawr, 1956, ac mae y llyfr felly yn y parth cyhoeddus mewn gwledydd sydd â thymor hawlfraint bywyd yr awdur ynghyd â 70 o flynyddoedd neu lai.