Deuwch, bechaduriaid tlodion
Gwedd
| ← Pam, O! pam, bechadur cyndyn | Deuwch, bechaduriaid tlodion gan Joseph Hart wedi'i gyfieithu gan Dafydd Jones o Gaeo |
Wele wrth y drws yn curo → |
| Mynegai Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930 |
304[1] Gwahoddiad at Grist.
87.87. 47.
1 DEUWCH, bechaduriaid tlodion,
Clwyfus, cleifion, o bob rhyw;
Crist sy'n barod i'ch gwaredu,
Llawn tosturi yw Mab Duw:
Nac amheuwch,
Abl ac ewyllysgar yw.
2 Rai anghenus, dewch a chroeso,
I gael rhoddion Duw yn rhad;
Cewch wir ffydd ac edifeirwch,
A phob gras yn ddinacâd;
Dewch heb arian,
Prynwch gan yr Iesu'n rhad.
3 Dewch, flinderog a thrwmlwythog,
Trwy y cwymp gadd farwol friw;
Os arhoswch nes eich gwella,
Byth ni ddeuwch yn eich byw :
Pechaduriaid,
Nid rhai cyfiawn, eilw Duw.
Joseph Hart
Cyf: Dafydd Jones o Gaeo
Ffynhonnell
[golygu]- ↑ Emyn rhif 304, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930