Neidio i'r cynnwys

Dewi Idris (Cymru 1899)

Oddi ar Wicidestun
Dewi Idris (Cymru 1899)

gan Richard Griffith (Carneddog)


golygwyd gan Owen Morgan Edwards
Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
Richard Griffith (Carneddog)
ar Wicipedia
DEWI IDRIS

Dewi Idris.
GAN CARNEDDOG.

NEITHIWR, ar ei hynt wibiog, dygodd angel adgof yn fyw i'm meddwl lawer gohebiaeth ddifyr a fu rhyngof, yn afiaeth bachgendod, â bardd ieuanc a gyfenwai ei hunan yn Dewi Idris. Brodor ydoedd o Abergynolwyn, a mab i Catrin a'r diweddar Lewis Lewis, o Heol Llanegryn. Y mae brawd iddo, o'r enw Robert Lewis, yn awr yn yr Amerig, yr hwn sydd yn fardd lled wych. Dywed cydnabod mwyaf craff Dewi,-a phwy ŵyr yn well na hwy? ei fod yn ddyn ieuanc hynod hoffus, ac yn aelod gweithgar gyda'r Anibynwyr. Ni chafodd addysg, ond ychydig o'r radd elfennol, ond ymboenodd lawer gyda meistroli rheolau barddoniaeth, nes y daeth yn englynwr pert. Yr oedd to o feirdd ieuainc medrus yn cyd-nyddu cynghaneddion âg ef yn yr ardal honno ar y pryd, megis Namorydd, Idwal Mai, Dewi Gwernol, a llu ereill. Cyn hir, daeth rhyw ysbryd ymfudol i aflonyddu meddwl y beirdd-chwarelwyr diddan hyn, a symudodd Namorydd i diriogaeth Awstralia, ac aeth y ddau arall i dueddau y Gorllewinfyd. Yn fuan, cafodd Dewi Idris y clwyf, a dilynodd ei gymrodyr Idwal a Dewi "dros donnau'r eigion mawr" oddeutu 1885.

Cyn cychwyn, anfonodd i mi ei ddarlun,[1] a llythyr tyner o ffarweliad, ac, yn awr, wedi treigliad cwrs o flynyddau, rhaid deall y bu troion yr yrfa yn bur chwith yn nglŷn â rhag-fwriadau hynt Dewi, ac i'r teimladwy y maent yn orlawn o ddyddordeb swynol.

Wedi cyrraedd Amerig, sefydlodd yn chwarelau West Pawlet, Vermont, ac yno daeth i gydnabyddiaeth cyfeillgar a agos i'r bardd ieuanc galluog Dewi Glan Dulas, a llawer o ddiddanwch llenyddol a gafodd y ddau Ddewi ar bwys eu hawen rydd. Yn hen rifynnau cynhwysfawr Y Drych, nid gwaith anhawdd yw taro ar eu cynhyrchion, gan eu bod mor liosog. Llwyddais i gasglu cronfa lled helaeth o weithiau naturiol Dewi Glan Dulas, er ei holl symudiadau, a hynny yn bennaf am ei fod yn fachgen genedigol o bentref Beddgelert, ac wedi bod yn yfed ysbrydiaeth rhyddid yr Eryri i'w galon wrth chwareu hyd fryniau cribog ein plwyf.

O gyfansoddiadau Dewi Idris, ni roddaf yma ond tair engraifft syml, a ffrwyth "caru'n ol fy ffansi" yw'r detholiad,—

MARWOLAETH IOLO TREFALDWYN.

Am Iolo Trefaldwyn, trwm yw'r cwynion
A gawn heddyw, ym mysg awenyddion;
Cerub o urddas, cawr y beirddion
Oedd Iolo anwyl,-o feddwl union;
Wylo, ysywaeth, wna teulu Seion,
Ow! am wr duwiol da th mawr adwyon.
Mawrhau'i lwch wna Cymru lon-a chofiant
Ol-oen gaunant ei dlysog geinion.


YR HEN LANC.

Un di-serch at lodes yw—yr hen fod,—
Gwirionaf o'i gydryw;
Ac adyn diolwg ydyw,
Gelyn i fun, y gwaela'n fyw.

Hyll lencyn, nad all wincio ar 'run ferch,
Yw 'rhen foy, 'rwy'n coelio,
Yn ei angen yn gwingo—
Gwael ei ran y gwelir o.

Rhian addas, rinweddol,—Ha! ni fyn
Hwn, yn fwyniant bydol;
Byw ei hun, mae'n anymunol
Yn wir, a'i ran oreu ar ol.


MAE ANN YN DAL YN BUR.

Mae Ann yn dal yn bur,
Nid ydyw am fy siomi,
Mae cariad hon fel dur
Yn anhawdd iawn i'w dorri
Bu llawer lleneyn glân
Yn cynnyg cael ei chalon,
Ond wrthynt dyma'i chân,—
"I Dewi 'rwyf yn ffyddlon."

Nid hoeden ydyw hi
A ddenir gan y llygad;—
Enillodd hon ei bri
A mawredd ei chymeriad ;
Hyd risiau dysg a moes
Y rhodia'n deg a gwastad,
Ar ol gwag chwantau'r oes
Ni senga ei cherddediad.

Yn fuan daw i ben
Yr adeg pan gawn fyned
O flaen yr allor wen
I osod sel ein tynged;
Ac wedyn dedwydd iawn
Y treuliwn, heb anghydfod,
A'n gilydd, einioes lawn
O gysur hyd y beddrod.


Ac os daw angau du
I dorri ein cynlluniau,
A rhoi fy ngeneth gu
Dan glo'n y dwfn briddellau,
Dymunaf yr un man
I orwedd, pan yr hunaf,
Wrth ochr fy anwyl Ann,
Hyd fore'r dydd diweddaf.


Nid wyf yn gwybod a oedd y mynegiadau serch yn wirioneddol ai peidio; os yn ffaith, y mae ei darawiadau erfyniol ar ddiwedd y ganig yn gload pruddaidd a siomedig iawn. Ymddanghosodd hon yn Y Drych am Fai y 5ed, 1887, ac y mae yn un o'r darnau olaf o'i waith. PAR Ymhen ychydig fisoedd, gafaelodd elfennau nychdod yn ei gyfansoddiad cadarn, a dal i waelu cymaint wnaeth fel y penderfynodd ar unwaith dorri ei gysylltiadau a'r Amerig, a edmygai mor fawr, a dychwelyd tua'i hen gartref i Abergynolwyn. Bu adref, dan ofal ei fam, mi gredaf, yn dihoeni am ychydig gyda blwyddyn, a diameu ei fod wedi sibrwd gannoedd o weithiau, yn ystod y cyfnod byr a rhyfedd yma, lin- ellau hoffus Islwyn,—

"Tra fo mam, cartref i mi."

Ar fin y Nadolig, ehedodd ymaith i ganu carolau i'w Geidwad yng Ngwynfa. Wrth ystyried ei holl daith yn anialwch y byd, y mae y pennill hwn yn gymwys fel hunan-feddargraff iddo,—

Daethum yn y bore,—gwanwyn oedd,
A gwenais.
Rhodiais allan ganolddydd tymor,—haf oedd,
Llawenhenis.
Eistedd wnaethum y prydnawn,—yr hydref oedd,
Meddyliais.
Gorwedd wnaethum yn yr hwyr,—y gauaf oedd,—
A hunais.


Ond dyma yr arysgrif a ddynoda ei argel wely ym mynwent y Fedw, Abergynolwyn,—

"Er Serchus Gôf am
DAVID LEWIS
(Dewi Idris,)
Yr hwn a fu farw Rhagfyr 29in, 1888,
Yn 26 mlwydd oed.

Er hwylus daith dros for heli,—er enw,
Er anian barddoni:
Yma'n awr er ein siom ni
Yn dawel huna Dewi."
—TALFARDD.


Pan glybu ei hen gyfaill caruaidd, Dewi Glan Dulas, yn yr Amerig, am ei farwolaeth, galarodd yn drwm, fel isod, ac ymhen saith mlynedd, daeth "dydd distewi" ar ei awen ffraeth yntau.

Pa le mae'r llanc ieuanc, Dewi?—Ow! saeth,
Clywais am ei ddodi
I'w hun-lannerch dan lenni—
Newydd mawr iawn oedd i mi.

'Dydd awen a dau Ddewi,'—ebai ef,
Ond daeth bwlch i'r cwmni;
A llawn oedd ein llinell ni
Nes deuodd dydd distewi.

Dewi Idris lawn diwydrwydd,—garodd
Ragori mewn sobrwydd;
Oedd fywiog, serchog mewn swydd,
A brodor heb waradwydd.

Er mynych chwennych, ni chaf—eilio cerdd
Fel cynt a'r bardd gwychaf;
Un cyfiawn oedd,—cofio wnaf
Ei weled y tro olaf.

O Amerig yn ddiymaros—aeth,
Gobeithiai gael agos
Wledd o hedd yng Ngwalia ddiddos,
A marw'n dlawd ym Meirion dlos.

Hir wylo am fardd trylen a—wnelo
Anwyliaid Ceridwen
Wylaf fi, yn wael f'awen,
Wyla dithau, Walia Wen."


"Wylo sydd folus, hawdd yw ei foli,"

medd Dyfed; ie, hawdd yw hynny, ar bwys colli bachgen a'i gymeriad heb graith, fel Dewi Idris.

Nodiadau

[golygu]
  1. Wele'r darlun ar gael, "wedi llawer blwyddyn."

Bu farw awdur y gwaith hwn cyn 1 Ionawr, 1925, ac mae felly yn y parth cyhoeddus ledled y byd gan fod yr awdur wedi marw ers dros 100 mlynedd.