Diliau Meirion Cyf I/Y Cybydd

Oddi ar Wicidestun
Y "V Fawr," a "Fo Fo" Diliau Meirion Cyf I

gan Morris Davies (Meurig Ebrill)

Eglwysi Rhufain a Lloegr

Y CYBYDD

NYDDAF, os ydyw'n addas,
Awdl newydd i'r Cybydd cas,
Gwylaidd gwnaf ddwyn i'r golwg
Rai degau o'i droiau drwg.


G'ronwy, â'i ffraeth gywreiniawl—gu awen,
Wnaeth gywydd duchanawl
I'r crinwasdiras, a'r diawl,
Hen ffyrnig deyrn uffernawl.

Eu dull osodai allan—a'u dichell
Fradychus yn mhobman,
A'u dieflig nwydau aflan
Llawn twyll, yn nghanol llyn tân.

Minnau, fel gwael rimynwr,—hyn wnaethum
I ddynoethi cyflwr,
Crwba ddulwnc cribddeiliwr,
Drygionus, drawswarthus ŵr.

Prin gwnaf fi henwi hanner—y drygau
Wna'r dreigydd ysgeler;
Pa gyfrifydd sydd dan ser
Y nefoedd, ŵyr eu nifer?

Twyllwr treisgar, ysglyfaethgar,
O dyb anwar, ydyw beunydd,
Adyn siomgar, fel twrch daear,
Nwyd anwiwgar, nid enwogydd.

Hylldremia, brydia mewn brad—fel llwynog
Fo'n llawn o ddichellfrad;
Rhyw wancus, farus fwriad,
Ganddo sydd beunydd heb wad.

Lefain malais, trais aeth trwy—ei fenydd,
A'i fynwes lygradwy;
Chwyrn uda'n ddychrynadwy,
Moes! moes! moes! mae eisieu mwy!


Mal adyn gwna ymledu—am chwaneg,
Mae'n chwennych pentyru,
A'r cwbl a ball ddiwallu
'R bawaidd dwrch mwy na'r bedd du.

Dygn yw ei wanc, digon ni wel—llunia
Gynllwynion yn ddirgel,
Mae'n llew du y man lle del,
Annichon bron ei ochel.

Ah! 'r cuchiog gibog gybydd—haiarnaidd,
Pwy ddirnad ei awydd?
Rheibio, cribinio beunydd
'Run sut a'r barcut y bydd.

Taeraidd orthrymwr teryll—echrydus,
A chreadur erchyll;
Surfalch gribddeiliwr serfyll
Yw'r gwanciwr a'r rheibiwr hyll.

Rheibiwr, a lleibiwr enllibus—meusydd,
Gormeswr trachwantus;
Bywioliaeth dyn helbulus
Ddinystria'r epa'n ddi rus.

Gwae'r hwn sydd, gerwin swyddau,—'n cydio maes
Gyda mawr drachwantau,
Nes bo'r gwan heb drigfanau
O waith yr hyll gipyll gau.

Rheibia, yspeilia, nis paid—faedd annw'n,
Feddiannau trueiniaid;
Gwena pan welo'r gweiniaid
Dan dristwch mewn llwch a llaid.


Brwnt a chïaidd lechwraidd chweru,
Mal arth rhwymog, am le i orthrymu,
Un adeg fyth ni edu—y twyllwr,
Gwrthgryf wingwr, heb gerth grafangu.

Och! ddyn cas, gwrthgas o'i go'—cuwch olwg,
Gocheled pawb rhagddo;
Mae fel blaidd bustlaidd lle bo,
Am rywbeth yn ymreibio.

Ar gam y casgla famon—hyll ferwa
Holl fwriad ei galon,
Fel Suddas, ys addas son,
Am aur i'w godau mawrion.

Dyna i chwi'n gyffredinol—ryw draian
O'i droiau uffernol;
Mae'n bod etto'n benodol
Ugeiniau rai, gwn, ar ol.

Chwithau, os mynwch weithion—gewch enwi
Chwaneg o ddichellion
Y llwynog afrywiog fron,
Gwegilawg, drwg ei galon.


Nodiadau[golygu]