Diliau Meirion Cyf II/Anerchiad a chyngor i Miss Lora Griffith
| ← Diolchgarwch i Miss Laura Griffith, Ty'n'rardd, Llanelltyd | Diliau Meirion Cyf II gan Morris Davies (Meurig Ebrill) |
Englynion o ddiolchgarwch i Miss Anne Jones, Penycaerau → |
ANERCHIAD
A chyngor i Miss LORA GRIFFYDD, ar ei mynediad i'r America o Ddolgellau , Ebrill 10ed, 1853.
Mesur—Morwynion glan Meirionydd.
Ffarwelio rwif a chalon brudd
A Lora Griffydd dirion,
Sy'n mynd hyd chwyddawg frigawg frau
Ymwriawl donau mawrion,
Yn rhian ffraeth, er gwaeth er gwell,
I Feric bell o Feirion.
Dymunwn iti ar dy daith
Oreudeg berffaith rwydeb,
Na foed i dwrf na chynwrf chwâu
Gorwendòn , na gerwindeb
Ystormydd trymion o un rhyw
Edwino lliw dy wyneb.
A phan gyrhaeddych ben dy daith,
Dy fuddiol waith a fyddo
Ymwasgu â chyfeillion gwâr
A wnel dy gyfarwyddo,
A'th arwain i gynteddoedd cu
Diogel dŷ Duw Iago.
Bydd yn ochelgar nos a dydd,
Ti ddylit beunydd wylio
Rhag myned i gyfeillach wael,
Ac felly gael dy hudo
I adael tŷ a gwaith dy Dduw
A'i gyfraith wiw yn ango'.
Boed iti'n fynych dan y sêr
Gu addas arfer gweddi,
A disgwyl wrth dy Dduw'n ddiball,
Fel morwyn gall heb golli;
O hyn y daw i ti bob awr
Yn ddinam fawr ddaioni.
Ffarwel fy anwyl Lora fwyn
Diweniaith forwyn dyner,
Bendithion fyrdd ar dir a môr
A gaffych o'r uchelder,
A phan orphenych daith y llawr
Cael coron fawr cyfiawnder.