Neidio i'r cynnwys

Diliau Meirion Cyf II/Anerchiad i Meurig Ebrill ar ymddangosiad yr Ail Ran o "Ddiliau Meirion"

Oddi ar Wicidestun
Rhagdraith Diliau Meirion Cyf II

gan Morris Davies (Meurig Ebrill)

Cywydd

ANERCHIAD
I MEURIG EBRILL AR YMDDANGOSIAD YR AIL RAN O
DDILIAU MEIRION."

Meurig y diddig fardd doeth, dieithrad
Athraw mawr a hyddoeth;
Sain o urddas synwyrddoeth,
Yw ei gân a'i awen goeth.

Rhoi geiriau o ragorion—yn ei waith
A wna ef mor gyson;
A llythreniad llywiad llon,
Braidd oll i'w bur ddiwyllion.

Yn ei henaint mae'n ynill—enw mawr
Yn Meirion i'w esill;
Y beirddion bawb rhoddwn bill,
Er gwobrwy i Meurig Ebrill.


Dengys ei ben Ben Bardd—a'i hardd wyneb
Fawr ddoniau pur hydardd;
Ac yn wir mae'i dalcen hardd
Yn brawf ei fod yn brif-fardd,

Yn Meirion ddinam orawre gododd
Fel ei gadarn flaenawr;
Rhodd nef yw—cadd e'r ddawn fawr
Feddiannai Dafydd Ionawr.

Beirdd welant ei bêr "Ddiliau,"—a molant
Y mêl i'w geneuau;
Adwaenant hwy werth doniau,
Am yr hyn gwnant eu mawrhau.


Nodiadau

[golygu]