Diliau Meirion Cyf II/Anerchiad i deulu y Dolau Gwyn, Meirion
Gwedd
| ← Dau Englyn i enhuddo digofaint Meistri R Jones, (Robin Awst) a Gruffydd Siencyn ap Ieuan, Fferyllwyr, Towyn | Diliau Meirion Cyf II gan Morris Davies (Meurig Ebrill) |
Plas Uchaf, a'i Ffumerau → |
ANERCHIAD
I deulu y DOLAU GWYN, Meirion.
I deulu gwâr Dolaugwyn—pur odiaeth
Y prydaf dri englyn;
A chwedi cyhoeddi hyn,
Ar fyr, gwnaf un i'r forwyn.
Margret Lewis sy'n ddewisol—wraig hardd,
Rywiog, hoff brydweddol;
Nid cecrus, ffuantus ffol
Anhynaws wraig hunanol.
Ac Evan, eirian arab—ga air da
Fel gwr doeth llawn cudab ;
Gwir hefyd mai goreufab,
Gwel myrdd, yw Gwilym eu mab.
A morwyn bur dda i chymeriad—yw Sian,
Addas iawn ei rhodiad;
Benyw liwgar foddgar fad,
Ddistaw, garuaidd wastad.