Diliau Meirion Cyf II/Anerchiad i fab a thair merch, Mr a Mrs Edwards
| ← Meurig Ebrill dan ergydion gwefr-beiriant Mr J Rees | Diliau Meirion Cyf II gan Morris Davies (Meurig Ebrill) |
Englynion Beddargreiff → |
ANERCHIAD
I Fab a thair Merch, Mr. a Mrs. EDWARDS, Penygeulan, Llanuwchllyn.
Gwelais yn "Mhen y Geulan"—dawelaidd
Barchus deulu mwynlan;
Siriol rieni seirian,
A phlant, serchog, gleiniog glân.
Owen Edwards a nodaf,—y cynfab
Cu iawn—ferth yn flaenaf;
A mydru can os medraf
O glod i'r genethod, gwnaf.
Mair weddaidd dymer wiwdda—a'i chroenwen
Chwaer anwyl Eliza,
A Marg'red dduwiolgred dda,
Gwylaidd dair seren Gwalia.
Brawd tirion, rhadlawn a rhydd,—doeth arawd,
A thair o chwiorydd,
Rhai trefnus, destlus bob dydd,
I'w gweled efo 'u gilydd.
Hoff wir ddidwyll hyfforddiadau—addas
Ro'ir iddynt yn forau
Gan eu Mam, yn ddiamau,
A'u Tad hawddgar, clodgar, clau.
Boed heddwch a byd diddan,—dialaeth
I'w dilyn yn mhobman;
Ac hefyd uwchlaw'r cyfan
Y nef, aur haddef i'w rhan.