Diliau Meirion Cyf II/Beddargraff Carnhuanawc
Gwedd
| ← Y Wenynen | Diliau Meirion Cyf II gan Morris Davies (Meurig Ebrill) |
Ar Briodas Mr John Rees, a Miss Gwen Jones → |
BEDDARGRAFF CARNHUANAWC.
Daearwyd llyw awdurol—cry'n heniaith
Carnhuanawe ddoniol,
Eithr ei waith—athraw ethol
Oesau fyrdd a saif o'i ol.
Carnhuanawe! gwron hynod,—gwelwch
Gof-golofn ei feddrod—
Athraw glan—ga'i uthr wiw glod,
Urddasol, orwedd isod.
Ow! llawr gweryd yw lle'r gwron,―hynod
Carnhuanawc dirion;
Profwyd mai ef oedd prifon—perffeithiaf
A'r hynawseiddiaf o'r Hanesyddion.
Doeth ofydd hyd eithafion—gwireddau
Y gwreiddiol hanesion;
Llyw, a noddwr llenyddion
Ydoedd ef Ceuadydd Iôn.