Diliau Meirion Cyf II/Can ar ddyfodiad R W Vaughan, Ysw, i'w oed
| ← Priodas-Gerdd Sir Robert Williams Vaughan, Barwnig | Diliau Meirion Cyf II gan Morris Davies (Meurig Ebrill) |
Penillion ar briodas R W Vaughan, Ysw, → |
CAN
Ar ddyfodiad R. W. VAUGHAN, Ysw.
(mab i'r diweddar Farwnig) i'w oed Mehefin 25ain, 1811.
Mesur:—Priddgalch Gwyn (White Chalk.)
De'wch hyfryd-lon fawrddysg feirddion,
Camrau dewrwych Cymru dirion,
Dewisolion da eu swydd,
Peroryddion a cherddorion
Datganyddion llawn gorchestion,
Telynorion rhadlon rhwydd,
Nesewch yn awr o fawr i fân,
Adseiniwch newydd gelfydd gân,
I ROBERT WILLIAMES VYCHAN hylwydd,
Llew mawr enwog, llyw Meirionydd,
Haeddai beunydd glodydd glân.
Chwi feibion Gomer eurber iaith,
Rho'wch iddo barod fawrglod faith:
Iawn waith union doed y mawrion,
Gwerin ddynion a thylodion,
O un galon at y gwaith.
Mae mawr lawenydd yn Meirionydd,
Gweled cynydd ail Farchogydd,
Enwog lywydd yn ein gwlad;
Yr hwn a erys yn flaenorydd
I'r gwerinos, ac arweinydd
Pan y derfydd dydd ei dad.
Aer Nannau fawr mewn enw a fydd,
Yn mhlith marchogion rhadlon rhydd,
A bydded beunydd ini ' n benaeth,
Ac yn darian i'n gwladwriaeth,
Heddyw daeth i'w odiaeth ddydd.
Ei barch a'i ryfedd fawredd fo,
Wr llon ei bryd yn llenwi'n bro,
A'i eppil etto fyddo i feddu
Rhiandir helaeth yr hen deulu,
Tra bo Cymru'n dàl mewn co '.