Neidio i'r cynnwys

Diliau Meirion Cyf II/Diolchgarwch i Miss Laura Griffith, Ty'n'rardd, Llanelltyd

Oddi ar Wicidestun
Englyn i dair merch Mr J Jones, Cottage, Llanelltyd Diliau Meirion Cyf II

gan Morris Davies (Meurig Ebrill)

Anerchiad a chyngor i Miss Lora Griffith

DIOLCHGARWCH
I Miss LAURA GRIFFITH , Ty'n'rardd, Llanelltyd, am anrhegu'r bardd â ffon

Y lwyr graffus Laura Griffith,—rasol,
A roes im' ffon newydd
O waith braf "Morgan Dafydd,"
Gwanar yr oes am gân rydd.

Ffon gu , ïesin, a phen gosod—gwympawg,
Mae'n ffon gampus hynod;
Ffon erfai, ryglyddai glod
Peraidd, gan fydrydd parod.

Ffon gywrain, firain i Feurig,—luniaidd
Ffon lanwaith, nodedig;
Ni wel bardd mewn gardd, na gwig.
Lathraidd law—ffon mòr lithrig.

Diolch it fy chwaer dawel,—ddi-anair,
A gwiw ddoniau uchel,
Am ffon gnapiog ddiogel ,
Dàn gamp, medd pob dyn a'i gwel.

Ebrill 12fed, 1853.


Nodiadau

[golygu]