Neidio i'r cynnwys

Diliau Meirion Cyf II/Englynion i Anerch "Diliau Meirion" yr Ail Ran

Oddi ar Wicidestun
Diliau Meirion Cyf II Diliau Meirion Cyf II

gan Morris Davies (Meurig Ebrill)

Ereill eto

ENGLYNION
I ANERCH "DILIAU MEIRION,"
YR AIL RAN.

Mawrwych yw Diliau Meirion—dalent,
A dilwgr feddylion;
Byrddaid yn llawn i'r beirddion,
Ac eres saig i'r oes hon.

Llyfr od, ol llafur ydyw,—urddunawl
Farddoniaeth diledryw,
O waith hardd awen bardd byw
Gwir hyddysg a geir heddyw.

Dillynawg perlawg lyfr purlan,—trysor
Gwerth triswllt yw'r cyfan;
Ar air ceir gwerth yr arian
O'r elw a rydd yr ail ran.—ERYR MEIRION.


Nodiadau

[golygu]