Diliau Meirion Cyf II/Englynion i goffa am y diweddar Barch J Jones, MA
| ← Gloria Patri | Diliau Meirion Cyf II gan Morris Davies (Meurig Ebrill) |
Englynion i gymdeithas lenyddol Machynlleth → |
ENGLYNION
I Goffa am y diweddar Barchedig JOHN JONES, M.A, Borthwnog, ger Dolgellau.
Trymion drallodion llidiog—a welir
Yn nheulu'r Borthwnog,
Màn gynt y clywid mwyn gog
Yn eilio, sy'n lle niwliog.
Angau a'i saethau sythion—anelodd
Ein hanwylaf wron,
Llwyr wanwyd a brathwyd bron
Llyw naw—radd y llenorion.
Porth llon i feirddion a fu—a'u tarian
I'w teraidd gyfnerthu,
Pob gradd ar ol ei gladdu,
O'u gwirfodd amdôdd mewn du.
Colled oedd fyned i'w fedd—yr ynad
Tirionaf yn Ngwynedd;
Carai wel'd mewn cywir wedd,
Gwawr hynaws teg wirionedd.
Mae'r gweiniaid yn mawr gwyno,—ni allant
Ei ollwng yn angho';
Gwae iddynt fu ei guddio,
Yn min yr allt, mewn mân rô.
Braw i'w dyner briod anwyl—wiw—lwys
Oedd weled ei arwyl;
Ciliodd ei gwar gydmar gŵyl,—
Nawsaidd, i gadw noswyl.
Gorwedd wna'i gorph mewn gweryd—am enyd,
Yn mynwent Llanelltyd,
Hyd foreu ca'i adferyd
Yn ol i fyw mewn ail fyd.